Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN AMAETHYDDOLI

O Dir y Gogledd.I ù Dlr y…

O'r Wy i'r Dywi.

Cynllun Gweinidogaethol y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynllun Gweinidogaethol y Bedyddwyr. w ———— Adran y Rhondda a Phontypridd. Cynhadledd yn Salem, Porth. Braint neillduol ydoedd cael bod mewn Cynhadledd ynglyn a'r mudiad nos Iau, Mawrth 12fed. 'Roedd yn un o'r rhai mwyaf gvvefreiddiol y buom vn- dcli erioed. I ddechreu 'roedd y gyn- rychiolaeth yn lluosog, yn frodyr a ehwiorydd, a phawb yn teimlo yn wres- og o blaid y cynllun. Llywydd y eyf- arfod ydoedd y gwron o Dreorchy, sef Dr. Morris, yr hwn sydd wedi bod yma 40 mlynedd yn llafurio gyda'r fath egni o blaid gwirionedd a. sobrwydd. Yr ydym wedi ei glywed droion, ond dyrna y tro goreu i mi ei glywed erioed. Dis- gynnai ei eiriau fel gwreichion byw yng nghalon pob un. Dechreuwyd trwy ganu emyn, a gweddo gan y Parch. R. D. Phillips. Cilfynydd. Yna cawsoin araeth gan y Parch. W. A. Williams. Pontypridd—gwr sydd a'i holl egni o blaid sicrhau gweinidogaeth effeithiol i eglwysi gweiniaid. 'Roedd ei ddisgrif- iad o'r tadau yn deehreu achosion i'r Bedyddwyr. ac yn gorfod dioddef dros eu hegwyddorion, yn cael effaith neill- duol ar y gynhadledd, a sicr. Mr. Gol., y dylai'r enwad drwy Gymru ei glywed. ac wedi glywed, nid t25,000 ond zCeo,000 a gesglid. Pwysleisiai yr angen am ddynion cryfion i wrthsefyll dylifiad materoliaeth yr oes. Araith bwysig arall oedd eiddo Dr. Edwards, Caer- dydd. Dywedai ef y gwyddai fwy na neb am achosion gweiniaid, a chawsom ganddo amryw engreifftiau o rai sydd wedi dioddef ac yn dioddef. Gadawai'r darluniau a dynnai argraff ar feddwl a chalon pob un. Ond y path goreu a gawsom oedd araith Mrs. Dr. Edwards Ti a ragoraist arnynt oil. Ein perygl, nieddai, oedd defnyddio gormod o'r ager i chwythu hwters heb gofio am y peiriant, ac yn sicr y mae gormod o wir yn hyn. Hawdd ydoedd canfod wrthi ei bod yn selog dros y mudiad, ac os daliai ei hiechyd 'roedd am i'r gwrag- edd gydweithio a hi er cael tua deng mil o bunnau oddiwrthynt hwy eu hunain. Duw yn rhwydd iddi. Cawsom araith bwrpasol eto gan Mrs. Hopkin Morgan, Pontypridd, ynghyda rhodd hael tuag at y mudiad. Terfynodd Dr. Harris, Treherbert, trwy weddi. Teimlem fod y wawr yn torri ar yr achos yn y gyn- hadledd hon. Wattstown. J. R j J.R. I

.i Dim Cobaith, meddid, i'r…

Cwmgwrach. I

[No title]

Advertising