Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Nodion Min y Ffordd. I

Nodion o Gylch Aberafon. I

I-IPenelawdd.

Gohebiaeth. I

Yn Fan ac yn Amal.-I

INodion o Frynaman. I

I_Bwrdd y Golygydd.I

Cymry Cymreig Abertridwr.…

Dewi Sant a'i Wyl. 2 Mb I

Colofn y Beirdd. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu cynyrchion i'r Hendre, Pontypridd. CARNELIAN. I Un o dyrau awdurol-ei genedl, Carn, a'i geinion barddol; Medi'n orlawn wnawn o'i ol Olud ei gnwd meddyliol. Trealaw. WM. BASSETT. Y LLOER. I 0! loerwen urddasol, Arglwyddes y nos, Dy wedd sy'n odidog A hynod o dlos; Pwy na wnai dy hoffi Gan gymaint dy werth Yn nhymor y gauaf, A stormydd blin, certh? Bendigaid olygfa, Ond distaw dy lef Pan wyt yn tramwyo Dros lwybrau y nef; Ar brydiau gwnaf syllu, Gan dderbyn mwynhad, Tra'th lewyrch ymsaetha Yn der dros y wlad. Drwy'r cymyl ar brydiau, Gwnei dremio yn rhydd, Nes gwneuthur v ddaear Yn oleu fel dydd; A'r ser yno welir Fel heuliau di-ri, Mewn dwyfol brydferthweh Yn gwmni i ti. Mi glywais, do, ganwaith, Gan nhad a fy na in, Am ddyn yn v lleuad Yn cario baich drain; A minau yn hogyn Difeddwl pryd hyn, A hraidd na chredaswn Mai du ydoedd gwyn. Mi dyfais drwy hyny, A daethum yn ddyn, j A cheisio 'vyf, bellach, T,wvi- IV litili; Beth bynag aU) hyny, T'n cilos Nldyw hi, Pan siriol lewyreha, Rhydd nefoedd i ni. Sciwen. rOAN DULAIS. (J. G. Rosser.) GUUG Y MYNYDD. Grug y mynydd mewn tawelwch, Molus rh(xlio yn eii su-vn Teimla'm calon ryw hyfrydwch j Pan yn esgyn rhwng y brwyn; Addurn tlws y gwvllt fvnvddau j A chyfaredll-dyn eu gwedd, Er i wyntoedd oer auafau Dori ar eu tawel hedd. Tyfu wna y grug; mewn symledd Ar geulanau'r mawnog dir, Hen wroniaid mewn dillodedd Fyth yn ieualne, fvtl- N-ii btir; Daw awelon cynta'r bore Trwy eu gwallt gan suo c&n Gyda'r gwlith yn adJewyrchu Ar eu gwisg yn berlau m&n. Etifeddion hynaf natur Gyda'u blodau'n glychau cain, Ac yn gwisgo tyner llagur Heb adnabod chwyn, na drain; leir y mynydd hoffa lechu A chartrefu yn eu hedd, A chant esmwvth fan i nythu Mewn dirgelwch wrth eu sedd. Grug y mynydd, ni fu garddwr Yn eu planu hwynt ar daen, Ond canfyddaf law Creawdwr, A'i brydferthweh yn eu graen; Yr un llaw sydd yn eu cadw Ar ramantus lethrau'r tir, Ag sy'n gwisgo'r lili loew Fyth yn ieuanc, fyth yn ir. W. T. LLOYD. Resolvea, MARW EVAN CADWGAN, 86 OED, BRAWD CADWGAN FARDD. Hen Gymro gwladgarol, A thad amaethyddol, 0 blith y llwvth barddol Ddisgynodd i'r bedd; Yr olaf o'r teulu Sy'n awr wedi croesi 'R Iorddonen dan ganu, I fwyniant a hedd. Yr aradr a'r cryman Oedd prif arfau Evan, Wrth deithio'r hyd llydan Hyd derfyn ei daith; Er uchder y gweiriau, A swn v pladuriau, A brwd gyneuafau, Gorphwysa'n ddigraith. Ei hoff ymwo'.iadau Oedd penaii'i- inynyddau, A rhodio yn llwvbrau j Y defaid a'r wyn; Ei wynion balasau [ Oedd llawnion 'sguboriau, A phawb ar eu gwenau Mewn natur a swyn. Bu felus ein horiau Wrth adrodd hen gampau, Ac adgof am chwedlau Y dyddiau a fu; Noswyiio wnaeth Evan Yn Hydref hen oedran Am gadael i wynfan Yn nwndwr y llu. Trealaw. WM. BASSETT. J DEWI SANT. Fe weithiodd rhai yn foreu Ar feusydd Cymru fad, A buont ddiwyd hyd yr hwyr Yn hen gartrefi'r wlad; Yn mhlith v rhai lafuriodd Er meithryn bryn o phant, 'Does neb a haedda uchel glod Yn fwy na Dewi Sant. Bu Cymru yn y dyfnder, Yn methu dod i'r lan, Ac mewn tywyllwch yn ymdroi Heb oleu o un man; Ond cododd haul tanbeidiol Yn mherson Dewi Sant, A throdd wylofain Cymry fu Yn gan, yn ngenau'r plant. Bu yn gwrteithio'r meusydd Yn ddiwyd trwy ei oes, Ac agor dorau ar bob llaw, I ryddid, dysg a moos; Arweiniwyd o dywyllwch Drigolion bryn a phant, I wir fwynhau o oleu'r nef Trwy gyfrwng Dewi Sant. Bydd cofio enw Dewi I Gymry yn fwynhad, Ac uwch yr & ei glod o hyd Tra Cymro yn y wlad; Ymaflwn yn y delyn I roddi peraidd dant, Er ysbrydoli'r Cymry sydd I gofio Dewi Sant. Tredegar. W.LL. YSTORM CILFYNYDD. (Ail yn Eisteddfod Rehoboth, Cilfynydd, Nadolig, 1913, pan ond 18 oed). Ystorom fawr Cilfynydd, Mi gofiaf byth am hon, Aneirif saethau dychryn Suddasant i fy mron. Eneidiau lawer daflwvd r ddyfnder erch o fraw, Y pentref oil a ddygwyd Hyd ymyl byd a ddaw. Y fellten oleu lachar A fflachiodd ddwy y nen, Nes gwelwyd y goleuni Yn taenu'r nef fel Hen; Pob teulu syfrdanwyd Wrth wrando'r daran gref, Byddarwyd clustiau'r pentref Yn swn "magnelau'r" nef. Y rorwynt nerthol, enbyd Ymruthrodd ar ei hvnt. Gan siglo seiliauh1 pentref, Cynddeiriog, wallgof wynt; Er rhuo ond am ennyd, Y difrod wnaeth oedd fawr, Yr adeiladau cedyrn Fe'u rhwygwyd oil i lawr. Ond er i'r eiddo fynpd, Arbedwyd enaid dyn, Gofalodd Duw ei wared, Mae Ef o hyd yr Un; Trugaredd Dwyfol Gariad A welodd ddyn mewn braw, A llamodd drwy'r ystorom I afael yn ei law. GRIFFITH D. WILLIAMS. 61 Ann St., Cilfynydd. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan.

Advertising