Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
GOOD NEWS FOR ABERDARE AND MERTHYR DISTRICTS! I In preparation for the Annual Stocktaking at the close ot their financial year ending March 31st, Bevan & COrl. Ltd., Cardiff, Pontypridd, Swansea, k are offering the whole of their vast stocks of everything required for Furnishing throughout regardless of cost! The Special attention of Easter Wedding Couples is directed to this Immense Sale, which affords them the opportunity of obtairmig the Reliable Goods of this weh-known Firm greatly under regular Prices. Delivery Free up to 200 Miles.
Y Stori.
Y Stori. LLWYBRAUR SARFF. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. (Parhad.) IV. Wedi hir ddisgwyl, daeth noson y Cwrdd Dirwestol, a daeth y dirwest- wr enwog yno, yn ol ei addewid. Aeth cerbyd Pantybrenin i'w gyfarfod i'r orsaf, gan mai yno yr oedd i letya. Yr oedd y Parch. William John hefyd yn ei gyfarfod, a daeth yntau yn ol ei addewid i gwrdd dirwestol cyntaf Troedyrarth. Yr oedd y capel yn orlawn pan esgynodd yr areithiwr i'r pulpud. Dechreuwyd yr oedfa gan Wm. John—y bennod a'r weddi a'r emynau yn neilltuol bwrpasol i'r amgylchiad. Yr oedd ef wedi meddwl a threfnu llawer ynglyn a'r Cwrdd. Dyheai ei enaid am ei weld yn llwydd- iant eithriadol; ond y "Dirwestwr mawr oedd y prif atyniad, a rhyfedd y pwyso a'r mesur fu arno cyn iddo siarad gair. Nid oedd un dirwestwr yn Nhroed- yrarth, a dymunodd y frawdoliaeth ar Wm. John i gymeryd awenau'r cwrdd. Yr oedd Evan Powell a'i gyd-ddiaconiaid yno bob un, ac fel arfer ymhob cwrdd, yr oedd Mrs. Harries, yr "Angel," a chynrychiol- aeth lied dda o'r teulu yn bresennol hefyd. Credai hi na feiddiai neb ddweyd yn gryf iawn.yn erbyn y fas- nach os byddai hi'n bresennol. Ond :Did oedd ofn dyn na dynes ar yr areithiwr. Gwr Duw oedd efe, a'i enaid yn llosgi gan eiddigedd sanc- taidd dros burdeb a gwirionedd. Gwr o daldra cvffredin ydoedd-chwim ei symudiadau, bywiog ei ysbryd, rhy fywiog i lawer o gnawd dyfu ar ei esgyrn. Syllai ym myw llygaid ei wrandawyr, a theimlai pob un ei fod yn siarad a' hwy yn bersonol. Felly y teimlodd Mrs Harries yr "Angel," a chvfaddefodd i rywun iddi orfoo troi ei hwyneb oddiwrtho. Yr oedd disgleirdeb ei wynebpryd a than- beidrwydd ei genadwri yn ormod iddi .'hi eu dal, a byw yn ei phechod. Felly trodd i gyfeiriad arall. Allan yr elai hi a llawer gyda hi oni bae cywilydd; ond yn sicr, ni theimlodd gymaint o uffern yn ei mynwes erioed a'r awr honno, o dan. fflangell y gwr a an- fonodd yr Arglwydd i'w dysgu. Y peth cyntaf y mae'r areithiwr yn ei wneud yw ceisio' cael sylw'r plant. Rwan, y mhlant i," meddai, "ma gen i eisio cael eich sylw chwi bob un. Yr ydw i wedi dod yma heno i siarad a chi, a dydw i ddim yn symud cam ymlaen heb eich cwmni, ac yrwan rydw i am i chi roi atebiad clir i mi i rai cwestiynau. Fedrwch chi ddeyd wrtho i yrwan, Pa un ai dynion sobr ai dynion meddw y carech chi fod wedi i chi dyfu fyny?" "Dynion sobr." "Ie, y mhlant i, dynion sobr, dyna'r dynion gore." Pa un ai tad sobr ynte tad meddw sydd ore?" "Tad sobr." Ie, y mhlant anwyl i, tad sobr sydd ore." "Fedrwch chi ddeyd wrtho i eto, Pa un ai mam sobr ynte mam feddw sydd ore ?, "Mam sobr." "Ie, mhlant anwyl i, gobeithio nad oes gen yr un o honoch dad a mam feddw. Wei, gyfeillion, mae'r plant yma i gyd yn iach yn y ffydd. Dywed- ant yn groyw, heb i neb eu hyfforddi yn flaenorol, y carent fod yn ddyn- ion sobr wedi y tyfont i fyny. Credant hefyd fod tad a mam sobr yn well na thad a mam feddw, ac yn awr y mae cyfrifoldeb ofnadwy arnoch chwi, bennau teuluoedd, flaenoriaid, ac aelodau eglwys Dduw. Gwyddoch chi, ffryndiau, gai roi un engraifft i chi. Mu fuo i yn "apprentice" i feddyg unwaith, ac fe ddaeth dyn i fewn yno, wedi briwio ei aelodau, a dyma'r meddyg yn golchi ei ddwylaw vn lan, ac yn gorchymyn i minnau olchi fy nwylaw yn berffaith lan. Pam? 0, yr oedd eisio cael dwylaw glan i drin clwyfau. Ffryndiau, mae rhvwrai yn cael eu clwyfo yn feun- yddiol gan y gelyn, ac mae eisio dwy- law glan i drin y clwyfau. "V dy eich dwvlaw chi yn lan oddi wrth y fas- nach feddwol? Ddiaconiaid eglwys Iesu Grist, ydy'ch dwylaw chi'n lan oddiwrth v ddiod? Dewch, atebwch yr un fath a'r plant. Ydy'ch dwylaw chi'n lan. Frodyr yn aelodau, ydy'ch dwvlaw chwi yn Ian? Tybcd nas gall rhywun ddal i fyny ddwylaw glan ? Wei, chwiorydd anwyl, sy'n aelodau yn eglwys lesu Grist, a oes dwylaw glan geno chi?" Yn union, a braidd yn anymwybod- ol iddi ei hun, cododd Elen Powell ar ei thraed, a dywedodd yn groew, Mae fy nwylaw i yn berffaith lan, syr, oddiwrth y ddiod feddwol, ac yr oedd dwylaw fy nhad a fy mam yn lan hefyd." Aeth geiriau Mrs Powell fel gwefr byw drwy'r gynulleidfa, ac ni theim- lwyd erioed o'r blaen yn Nhroed-yr- arth gymaint o angerddoldeb enaid. "Diolch yn fawr i chi, Mrs Powell, am eich tystiolaeth ardderchog—' Y mae fy nhwylaw i yn lan, ac yr oedd dwylaw fy mam a fy nhad yn lan hefyd. Glywsoch chi'r dystiolaeth i hona, y mhlant i? Dyna 'beautiful,' onide? 'Y mae fy nwylaw i'n lan, a dwylaw fy nhad a fy mam hefyd.' Ffryndiau, 'roedd o'n werth i chi gael cwrdd dirwestol pe ond yn unig er cael y dystiolaeth hona, ac os na fedrwch chi, y mwyafrif o honoch, dystio fel yna, er mwyn achos y Gwaredwr, achubwch y plant, cyn- orthwywch hwynt i gadw eu dwylaw'n lan. Maent wedi tystio yn eich gwydd chwi heno, y carent fod yn sobr, ac y carent gael rhieni sobr hefyd. Os nad yw eich dwylaw'n lan yn awr, fy I ffryndiau, penderfynwch olchi eich dwylaw heno. Taflwch y cwpan heibio am byth, ac arwyddwch ddir- west yng nghwrdd dirwestol cyntaf Troed-yr-arth. Cwrdd i'w hir gofio ydoedd hwn. Cafwyd enghreifftiau byw o ddylan- wad dinystriol y ddiod, ac yr oedd hyawdledd yr areithiwr, ynghyda'i argyhoeddiad dwfn, yn llethu'r gyn- ulleidfa. Ar y diwedd, rhoddwyd cym- helliad taer i arwyddo dirwest. Gal- wodd yr areithiwr ar Mrs Powell, Pantybrenin, i arwyddo'n gyntaf. Aeth hithau ymlaen, ac amneidiodd ar Ann. Dilynodd hithau ei mam. Yr eiliad honno, aeth Evan Powell i chwilio am ei het, ac fel un wedi cael dyrnod cyfeiriodd am y drws. Yn anisgwyliadwv cododd Thomas Ed- wards y Fronfawr a Llewelyn Griffiths y Bryngwyn—dau ddiacon hena Troed-yr-arth, ar eu traed, a chyda dwylaw crynedig, rhoddasant hwythau eu henwau i lawr. Helped Duw ni, wyr," meddent, a'r dagrau'n bwrlymu dros ei gruddiau, "i olchi ein dwylaw yn lan, a'u cadw byth yn lan ar ol heno." Dilynwyd hwy gan frodyr a chwiorydd ieuainc, nes caf- wyd pymtheg y noson honno'n ben- derfynol o lvnu wrth egwyddorion dirwest. Yr oedd hwn yn ddechreu cyfnod newydd yn Nhroed-yr-arth, a theim- lodd yr eglwys yn gyffredinol fod byw- yw newvd yn y gwersyll, a bod y bywyd hwnnw'n hawlio lie i dyfu a datblygu. Yn fuan wedi hyn daeth bachgan ieuanc o'r coleg i bregethu i Droed-yr-arth, a syrthiodd yr eglwys i gyd mewn cariad ag ef pan draddod- odd y bregeth gyntaf. Yr oedd wedi ei freintio a chorff neilltuol hardd gyda wyneb agored, diddichell. Medd- ai lais fel arian-gloch, yn swyno ac yn synnu pawb. Yr oedd ei frawdd- egau'n bert, a'i don yn denu'r mwyaf digyffro. Tystiai'r lliaws fod ynddo gydgyfarfyddiad hapus o gymhwys- te-rau a'i gwnai'n bregethwr mawr, ac heb ymdroi, nac ymgynghori rhyw lawer, rhoddwyd galwad iddo i ddod yn weinidog ar eglwys Troed-yr-arth. Derbyniodd yr alwad a symudodd yn fuan i'r 11c. Tyrrai'r cvnulleidfaoedd yno i'w wrando, a daeth yn bregethwr mwyaf poblogaidd y cylch. Ceisiai'r dirwest- wyr ganddo arwyddo dirwest, ond go- hirio hyd ryw adeg arall a wnai o hyd. Treuliai lawer iawn o'i amser ym Mhant-y-brenin, ac yr oedd Evan Powell yn bopeth ganddo. Yr oedd Mrs Harries yr "Angel" hefyd yn un o'i gyfeillion mynwesol, ac yr oedd yntau yn hoff iawn o de Mrs Harries a'r Special Blend." Cyfarfyddai ef ac Evan Powell yn fynych ym mharlwr bach yr "Angel," a chaent ddogn lied helaeth o'r Blend." Cyn hir, dechreuwyd sisial fod gweinidog new- ydd Troed-yr-arth yn colli ei draed. Ofnai pawb ddweyd yn uchel, a go- beithiai llu nad oedd y storl'n wir. Gofidiai Elen Powell ddydd a nos, a gweddiai lawer ar ei ran, ac un pryn- hawn cafodd gyfle i ddweyd gair wrtho. "Mr Hughes bach," meddai, "go- beithio nad yw'r hyn a glywais yn wir. Arwyddwch ddirwest, y machgen i. Byddwch ar dir diogel wedyn, a da chwi, peidiwch mynychu'r Angel," er mwyn yr Achos, ac er mwyn eich hunan. Cofiwch mai llwybrau dinystr yw'r llwybrau yna." "Anaml iawn, Mrs Powell, y byddaf fi yn yr "Angel" heb gwmni Mr 1 Powell, a gallaf ei ddilyn ef, goelia i." N a ellwch, y machgen i. Mae ef yn credu'n y dablen, er fod y rhan fwyaf o'i dylwyth wedi mynd yn ebyrth i'w blysiau. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i gael gair gennych, ac os na chaf gyfle i ddweyd gair wrthych byth mwy, cofiwch y geiriau hyn—"Gochelwch y Sarff!" Teimlai'r dirwestwyr yn fawr oher- wyd y si oedd ar led parthed eu gweinidog. Disgwylient y buasai ef yn eu harwain, ac yn eu cynorthwyo i ddiwreiddio hen arferion oedd yn parlysu cymeriadau, ac yn rhwystr i'r Achos. Ond siomwyd hwy yn fawr, a gwelent yn eglur fod ei holl ddylanwad ef o blaid y fasnach, ac nid dros Grist a dirwest. Gwawdiai Evan Powell a Mrs Harries y dirwestwyr, a dywedai Mrs Harries, Synnais beth hefyd pan welais Miss Powell yn mynd ymlaen. "Twt, twt, Mrs Harries, maent yn eithaf tawel nawr. I'r wal y mae'r dirwestwyr i gyd yn mynd, ond pe buasent yn cael arweinydd da, fe allai y gallasent wneud rhywbeth hefyd. Ond mae Mr Hughes yn rhy gyfrwys iddi nhw ei blygu. Doedd Ann ni yn meddwl dim byd ond dilyn ei mam. Fe fu hi yn y dre gen i ddoe yn prvnu'r present." Telais ddeg punt ar hugain am got iddi, a chawsom gwpanaid o de yn y "Black Horse," a chystal "Blend" ag sy gennych chwithau. Roedd Ann yn mwynhau yn fawr hefyd. Elen sydd wedi berwi rhyw hen bethau i ben Ann, neu fe fuasai hi'n eithaf jolly." (I barhau.)
Nodion o Abertawe.
Nodion o Abertawe. UNDEB Y CYMDEITHASAU CYMRAEG. MABINOGION, ABERTAWE. Araeth Mr. D. Morlais Samuel. Teimlaf yn dra diolchgar i Mr Meredith am ei eiriau caredig ac am y modd deheuig y cynhygiodd y llwnc- destyn "Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg," ac i chwithau, fy ngyfeillion, am ei yfed mor galonnog. Ceisiwyd llawer gcnnyf o bryd i'w gilydd am i mi ymuno ag undebau, ond gwrthod wnawn bob tro, am fy mod yn ofni na chawn ar ol ymuno farnu drosof fy hun. Meddyliwn mai fi fy hunan oedd y mwyaf cymwys i farnu beth fyddai oreu i mi ei wneud, ac y collwn fy ann- ibyniaeth wrth ymuno ag Undeb, ac y byddai raid i mi weithredu fel y tybiai eraill y dylwn. Pan ddaeth y cwestiwn pwysig o ddiogelu iaith a defion fy ngwlad i ystyriaeth, pen- derfynais ar unwaith mai "mewn undeb mae nerth," a da oedd genvf weled ffurfio Cymdeithasau Cymraeg ar hyd a lied ein gwlad, ac yr wyf wedi cael llawer o bleser a mwynhad wrth wneuthur fy rhan i godi'r hen wlad yn ei hoi." Credaf mai y ffordd fwyaf effeithiol, er hynny, oedd cael yr oil o'r Cymdeithasau hyn wedi eu huno a'u gilydd. Credaf fod "U n- deb y Cymdeithasau Cymraeg" yn mynd i wneud gwaith mawr er dyrch- afu ein gwlad, ac y myn weld ein hiaith a'n llenyddiaeth gyfoethog yn cael eu lie priodol yn ein plith, ac y myn hefyd ddysgu ein hiaith ar ein haelwydydd, yn ein hysgolion elfennol a Sabothol, ac y caiff ei siarad yn fwy nag eriod yn ein hymddiddanion cvff- redin. Dylasai hefyd ofalu arfer ei ddylanwad i gael lie mwy amlwg iddi yn ein pwlpudau, ein cynhadleddau, ac hefyd hyd yn oed ar lwyfan ein Heis- teddfod. Myn yr Undeb weld hefyd ein bod fel Cymry yn cael chwareu teg ynglyn ag etholiadau i swyddau cy- hoeddus, ac nas goddefir i'r awdur- dodau gwladol a lleol wthio Saeson, Ysgotiaid, a thramoriaid i swyddi y gall y Cymro eu llanw yn llawn cystal, os nad gwell. Gofclir hefyd geisio argyhoeddi ein pobl icuainc fod llenyddiath a barddoniaeth ein cenedl yn drysorau gwerth eu medd- iannu, ac y daliant i'w cymharu a llenyddiaeth a barddoniaeth yr Ellmvn lieulr Sais. Y mae gennym ddynion glew yn ein harwain, a gallwn fod yn dra sir y gofala Lleufer a Chrymlyn fod "Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg yn gwneud ei ran yn hyn, a phan wyddom fod ein Hysgrifennydd Cyffredinol yn neb llai na'r ysgol- feistr a'r lienor enwog o'r Barri y mac ein hyder yn fawr. Xis gallem gael rhagorach Arthen yn ysgrif- ennydd. Mae yn llawn mor alluog ag yw o wladgar, a chan fod Adran Gorllewin Morgannwg wedi fy newis i j yn ysgrifennydd yr adran, gallaf eich sicrhau v gwnaf fy ngoreu er llwydd- iant yr Undeb. Gwnewch chwithau yr oil a fedrwch i'm cynhorthwyo, a chredaf y cawn ein gwobr yn y man.
iByr Hanes.I | Byr Hanes.
i Byr Hanes. I | Byr Hanes. AM MRS. MARY RICHARDS, | EBENEZER, ABERDAR. (Parhad.) (Parhad.) Y CYFARFOD GWEDDI A'R GYFEILLACH GREFYDDOL. Diau fod yr aberth wnaed gan ei mam yn y Gnol i ddilyn y cyrddau yn Ebenezer, Twyn-carno, wedi dysgu yr unrhyw sel ac aberth iddi hithau. Nis arbedai ei hegnion i symud rhwystrau pan fygythient ei hamddifadu o fodd- ion gras. Ni chawsai'r gwynt na'r gwlaw na'r gwynrew na storm na thymestl ei hatal i gael ei chwrdd. Deuai dan orchudd o eira, a chwys ei chystudd yn mygu ar ei gwyneb. Nid ag arian ag aur y gellid prynu ei chyrddau oddiwrthi hi. Pan weddiai, mor dryloew ac aruchel y gwnai. Pan ddywedai ei phrofiad mor hunan- feddiannol doeth a phwrpasol .y myn- egai ei gynnwys. Dywedai Silyn y meddai ar bersonoliaeth gref ac ar gymeriad cryf a dylanwad ei hysbryd ni feddrodir "Canys byw fydd." Grawys a dystiolaethodd mai crefydd ac aberth ynddi oedd ei heiddo o'i chryd i'w bedd. Dyma fel ysgrifennai dynes o safle profiad a dysg am dani wedi dydd ei hangladd, yr hon sydd dros 80 oed j "Bum yn lletya yng nghartref yr anwyl chwaer hon, a da gennyf roddi ychydig o hanes y gofal a'r caredig- wvdd dderbyniais ganddi ar y pryd. Yr oedd Mrs Richards yn naturiol garedig a gofalus o anghenion ei theulu. Yr oedd hefyd yn eithriadol awyddus am wneud yr oil a fedrai dros hvyddiant yr Efengyl yn ei chartref yn ogystal ag yng nghartref pawb arall. Deallais hefyd ei bod yn gwneud ei goreu dros lwyddiant yr eglwys y perthynai iddi trwy gymeryd rhan yn ei chynulliadau cyhoeddus a phob peth arall allasai wneud. Yr oedd bywyd Mrs, Richards yn oleuni yn ei theulu ac yn y byd, a phob rheswm yn ein tueddu i gredu ei bod yn awr mewn cartref gwell, a fy ngobaith yw cael ei chwmni eto mewn gwlad sydd well i fyw.—Ydwvf, ei hanwyl gyfeilles, (Mrs.) M. E. ROBERTS. Scranton, America. Ond yn awr yn Gwalia House, Hir- waun. Ped ysgrifennem ar ei nodweddion personol rhaid fuasai dweud ei bod o dymer gyffrous (impulsive) wrth natur. Yr oedd tymhestloedd yr hen iynydd-dir wedi cerdded i fewn i'w bywyd, a phan chwythai'r croeswynt cryf ar brydiau heibio ei hysbryd, ond odid na welsid ei gwedd yn newid, a'i lief yn croewi, a'i pharabl yn fwy llithrig, ond pan godai storm meddai ar reolaeth lawn ar y gwynt, fel na lithrai gair o'i le dros ei min. Pan mewn tymestl gwyddai y ffordd i godi'r hwyliau, ac mewn drycin gwyddai am y fan i fwrw'r angor. Ni welsom lestr ei ffydd yn taro ar draws y creigiau erioed. Gwelsom hi yn rhwyfo ei chwch ar donnau'r aig a gwyntoedd gwrthwynebus wedi codi yn ei herbyn ar for a bywyd, ond yr oedd ei ffydd a'i gobaith yn ei rvvvfo i'r lan bob tro. Pan welsai'r storm yn parotoi ei mcllt o draw gwyddai am loches yn holltau'r graig. Ni rannai ei beichiau a neb. Treiglai y meini oddiar feddau ei gofid a'i llaw ei hun. Meddai ar allu cyfrin i dawelu'r gwynt ac i ostegu'r storm ym mynwes y gofidus. Gallai ei llaw ysgrifennu rhamant ar helynt ei phrofiad helbulus. Chwalai adfyd ar archiad ei gair weithiau, ond ymoedai ambell flinfyd uwchben ei phabell am ddvddiau lawer. Ond yn v cwbl oil, a | thrwy orthrymderau fil bu'r arwrcs yn ei chystudd mawr, a dangosodd ras Duw i arnlygrwydd gogoneddus hyd ei bedd. Teimlir hiraeth mawr ar ei hoi yn Seion. Gwnaeth ei hymadawiad agen lydan ym muriau Jerusalem-Eben- ezer genfydd y gwagder fwyaf—ac am ei doniau cyhoeddus nid oes neb hyd yn oed o hirbell yn ei dilyn. Byddai yn gysur i'r eglwys i weld rhywun yn y pellter yn gogwyddo i'w hefelychu. Duw a godo i'r eglwysi a'r ardaloedd rai o gyffelyb ysbryd a gras yn Nghvmru eto. Claddwyd Mrs Mary Richards yn Mynwent Gyhoeddus Aberdar Rhag- fyr y iofed, 1913- Y nos Sul canlynol traddodwyd pregeth angladdol rymus gan ei hanwyl weinidog, sef y Parcib J. Grawys Jones, Ebenezer, Tre- cynon, oddiar y geiriau a welir yn Titus, pen. ili. 7. (Diwedd.)
Advertising
Cadewch imi siarad a chwi am 1 Ddiffyg Gwaed I A Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd M eoeh a gwyn-y eoch i eorff, y gwyn i ymladd ag afiechyd. Mewn Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cocbion yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni Bp y all y gwaed gynnal y corflf yn briodol WHr a'i faethu. Mae'r llygaid yn farwaidd, Pfy. y y wyneb yn wyn, a daw teimlad o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- soddiad. Nid oes dim mor effeithiol W t mewn achos o Ddiffyg Gwaed a ? ? ? ??=? ?? 'Wmcarms'Oherwyddllemw'Win- L U -=. J ? carnis' y corff a gwaed cock, <MM?'<?, cyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y ??N Ilyg??t ddwg rosynnau i'r gruddiau, j U ac a rydd ynni ?a??, bywiogrwydd j??????tv ? ?   X ?«y?, a bywyd newydd i'r holl gori. tBttttt ? Dechreuwch weft tb ajJBBjM. RHAD Anfenwch am brawf-costrel rhad o Winearnin —old rhyw Has ond digon i wneud lies. Amftif tri stamp ceiniog (i dalu'r cludiad). COLBMAN CO., LTD., fe^ ■ W. 138, Wiacaroia Warks, Norwich. "Swill y Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddyfon. M /OT0RGE I  I MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Piils, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri fIurf. No. 1. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3. Oeor^e'* Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd gtodua hyn yn mhob man, mewn Blychau 11., a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyr !—Gofynwch yn eglur am ".George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, NI.R.0.S., HIR WAIN, ABERDARE. 1