Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Glyn Nedd.

0 Wy i Dywi.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Wy i Dywi. I Y CYFNOD RHUFEIMG. Er mai Rhufain oedd mcitrcs y byd tua'r amser y cerddai t-in Ilia,h- awdr lennyrch Canaan, ni fcddai hi gymaint a lied troed o dir ym Mhryd- ain y pryd hwnnw ar ei henw. Mae'n wir i Julius Caesar, hanner canrif cyn hynny, arwain ei lengoedd ddwy- waith i'n glannau, ond nid oedd ei ymgyrchoedd namyn vmweliadau mil- wrol a thalaeth de-ddwyreiniol ein hynys. Ac er iddo drechu Caswallon mewn brwydyr neu ddwy, a mynnu teyrnged oddiwrtho fel canlyniad, eto, ni fentrodd aros yma o gwbl, ac, felly, nid oedd nemawr o bwys gwlad- ol yn ei goncwest byr-barhaol. Yn y flwyddyn 43 O. C. y daeth y Rhufein- iaid yma o ddifrif, ac o hynny hyd y flwyddyn 410 O.C. dros dair canrif 'a banner hwy oedd berchnogion y tir, hynny yw, mor belled ag y gallai gallu milwrol roi iddynt y teitl. Dwrfonwyd i Br;daim ,Iywydd ar ol Uywydd a lleng yn dilyn lleng hyd nes y daeth canolbarth a deheubarth v tir adwaenir heddyw tian yr enw Lioegr mor Rhufeinaidd ei ddull o fvw a'r wlad o amgylch Rhufain ei hun. Ond pan ddaethpwyd i Hafren ar dueddau Cymru a'r mynydd-dir ar gvffiniau yr Alban, ni ellid dal y rheiny ond trwy wyliadwriaeth ddifl/no a grym arfau teg. Yn y tir, elwid yn ddiweddarach Gwent a Morgannwg, y prcswyliai ein hynafiaid ni-y Siluriaid, yn nhir Powys cyfaneddai y Gordofigion, ac yng Ngogledd Lloegr y Brigantiaid— tri llwyth roddasant fyd o drafferth i'r gorchfygwyr, fel y prawf y ffaith iddynt osod yr ail leng yng Nghaerllion-ar- Wysc, a'i chadw yno am ddwy ganrif gyfan i'r unig amcan o wylio y Silur- iaid, a'r un modd yr 20fed leng yng Nghaerllion Gawr, a'r 6ed yng Nghaer Efrog i wylied y Gordofigion a'r Brigantiaid hwythau. Gan na ddaw hanes y ddau lwyth enwyd olaf i fewn i'n pennod ni, cyfyngwn ein gwaith, fel y. gorfu i lawer cadlywydd Rhufeinig hefyd wneyd—i wylio y Siluriaid. YR YMOSODIAD CYNTAF. Aulus Plautius oedd y cyntaf ddan- fonwyd gan yr Ymherawdwr Claudius i wneud y goresgyniad. Gydag ef yr oedd hanner can mil o wyr, ac ymhlith ei liaws swyddogion oedd Vespasan, ddaeth wedi hynny yn Ym- herawdwr ei hun, ac nid llai ei fri o fod yn dad i Titus Vespasian, dinis- trydd Jerusalem a' i theml. Y prif Gymry yn ne-ddwyrain yr ynys yn y flwyddyn 43 O.C. oedd Caradog a Thogodumnus, dau frawd o dy tywysogol Cunobelinus. Safodd y ddau hyn fel y dur yn erbyn yr ym- osodwyr ar eu treftadaeth, ond buan y gwelwyd nad allai dewrder llwm- arfog dycio dim yn erbyn cyfartal ddewrder o dan arfau gwell. Ar ol ni- fer o frwydrau o boethder digyffelyb, ac yn enwedig ar ol cwympo o'i frawd Togodumnus, ffodd Caradog dros Hafren at lwyth y Siluriaid, oedd- ent, fel yntau, yn chwannog am waed a dial. Brython oedd Caradog, ac Iberiaid yn bennaf oedd y Siluriaid y dyddiau hynny. 0 herwydd y ffaith hon dywed rhai haneswyr nad allai y tywysog a'i ddeiliaid newydd ddeall iaith eu gilydd, am, meddant hwy, nad oedd iaith y Brython, hynny yw, y Gymraeg, wedi ei mabwysiadu yn y cyfnod bore hwn gan y llwyth hwnt i'r afon. Boed hynny fel y bo rhodd y Siluriaid groesaw calon i Garadog, a deallent yn eithaf da, un fel y llall, iaith perygl a iaith y cledd. Ac o ran hynny pan oedd cadlywyddion o ynni a medr Plautius a Vespasian ar eu gwarthaf, nid oedd amser i dorri ne- mawr geiriau. Parhawyd i vmladd mewn amryw fannau a chydag am- I rvw raddau o ffawd. Er i'r Rhufein- iaid orchfygu y mwyafrif o'r Hwyth- au ereill, v diwedd fu i Plautius yma- dael yn y flwyddyn 47 O.C. gan adael Caradog, o'i ran ef, yn feistr ar Sil- uria. Nid Cymrv, cofier, ddywedant hyn. Nid oes llinell Gymraeg o lenyddiaeth o'r cyfnod hwnnw yn e in meddiant. Rhufeinwr, ym mherson Dion Cass- ius, edrydd yr hanes wrthym. Yn olynnydd i Plautius daeth yma yn y flwyddyn So O.C. Rufeinwr glew arall oedd deilwng i fesur cledd hyd yn nod a Charadog ei hun. Ostorius Scupula oedd ei enw a buan y danghosodd ei fedr fel llywydd cad. Yng nghyntaf dim dygodd drefn i gatrodau y Rhu- feiniaid ym Mhyrdain (oeddent wedi llacio llawer oddiar ymadawiad Plau- tius), ac yna ymosododd ar y Silur- iaid drachefn. Wedi nifer o fan frwydrau cyfarfvddodd y ddwy fyddin rywle ym Mhowys "ar fryncyn wrth droed yr hwn rhedai afon anodd ei rhydio." Ceisir lleoli y llecyn hwn mewn amryw fannau ar dueddau Maesyfed a'r Amwythig, ond gan nad beth am "le'r gad," gwyddom yn dda am y modd y darfu yno. Unwaith eto y danghoswyd nad allai dewrder ann- isgybledig gystadlu a dewrder o dan reolaeth dda. Gorchfygwyd Caradog, carcharwyd ei wraig a'i ferch, a gorfu iddo yntau ffoi am ci einioes. Gwyr pob plentyn am yr hyn ddi- gwyddodd iddo yn ol ll aw, am y modd y bradychodd Cartismandua ef i ddwy- law y Rhufeiniaid, y modd anhyblig yr ymagweddodd yn ystrydoedd Rhu- fain pan na ddisgwyliai ddim ond angeu disyfyd i'w ran, ei araith deil- wng o flaen Claudius, a'r rhydd-had deilynged a hynny gafodd o'r her- > wvdd. Cofnoda Tacitus, yr hanesydd Rhu- feinig y manylion oil i ni hyd yn nod sylwedd geiriau Caradog ei hun. Dyma nhw, a dylai pob Cymro, ieuanc a hen, eu cofio am byth. I ARAITH CARADOG. "Pe buasai mesur fy llwyddiant yn i gyfartal i'm huchel fonedd a'm gradd enedigol, gallaswn ddyfod i'r ddinas hon yn gyfaill ac nid carcharor, ac ni buasai cyngrair heddychol un sydd wedi hanu o hynafiaid clodfawr, ac yn rheoli amryw lwythau, yn un di- anrhydedd i tithau. Anffawd yw fy nhynged i'n bresennol, canys y mac'r hyn sydd i ti'n ogoniant i mi'n ddarostyngiad. Fe fu gennyf feirch, rhyfelwyr, arfau, a chyflawnder o gvfoeth, a pha ryfeddod oedd fy mod yn anfoddlon i'w colli? Os mynnwch chwi lywodracthu pawb, a raid i bawb oblegid hynny fod yn foddlawn i estyn eu gyddfau dan yr iau? Pe buaswn i yn ymostwng yn wasaidd a diwrthwynebiad, pa Ie yn awr y bu- ai dy ogoniant di a'm hanrhydedd milwrol innau? Ebargofiant bythol a deilwngaswn, ond os arbedi fy mywyd yn anrhydcddus byddaf yn esampl dragywvddol o'th diriondeb." Nis gwn am well pregeth ar anni- byniaeth mewn unrhyw le, ac nid rhyfedd fod y geiriau llosg hyn wedi hen ennill lie iddyift eu hunain ym mysg clasuron lien. Cofier, unwaith eto, mai Rhufeinwr coeth ac nid Cymro brwdfrydig a'i hysgrifennodd. Pe yr olaf, buan y buasid wedi edliw inni mai gwag vmffrost oedd yr oil. Ond gan fod y cvsylltiadau yr hvn oeddent, saif yr araith yn gofgolofn bythol i'r Brython di-ildio. Y mae i Gymru fel pob gwlad arall lewion a roddant amlwg fri ar ei henw, ond ni wisgir tecach llawryf gan neb pwy bynnag nag a wnaed gan y gwron syml gerddodd allan o wyddfod Claudius y dydd hwnnw ag anfarwoldeb yn ei drem.

Advertising

I Aberteifi a'r Cylch.

Efail Fach, Pontrhydyfen.I

Pontycymer.I

I -Cellan, Ceredigion.

11 I ?'—" ' '?"' ? ?'-''?'????;…

Advertising