Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Caerdydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Caerdydd. Neuadd Cory.—Nos Fercher di- weddaf daeth cynhulliad mawr ynghyd i Eisteddfod Undeb Cymdeithasau Cymraeg Caerdydd. Cafwyd cystad- leuaethau da mewn nifer a thalent. Llywydd, Mr T. E. Evans. Arwein- ydd ion Yr Archdderwydd a'r Parch. H. M. Hughes, B.A., Ebenezer. Beirniad y gerddoriaeth, Mr \\7. J. Evans, Aberdar; y farddoniaeth, Parch. J. Jenkins, M.A. (Gwili); rhyddiaith, Parch. R. G. Berry, Gwaelodygarth; yr adroddiadau a'r araith fyrfvfyr, Mr John Phillips, Gwaelodygarth; celfau, Miss Wil- liams (athrawes Celfau Cyngor Sir Morgannwg), Mrs Davies, Tydraw Road, a Mrs Griffiths, Ninian Road; cyfeilwyr, Miss Rebecca Rees, A.L.C.M., a Mr L. Powell Eyans; ysgrifcnyddion, Mri. T. Lloyd Ro- berts a Mr J. Isaac; trysorydd, Mr John Thomas, Woodville Road. Awd yn mlaen a'r rhaglen yn y drefn ganlynol Adroddiad i rai dan 15 oed, "Dych- welwch y Delyn" (Dyfed), goreu, Olwen Gromvy; ail, Blodwen Jones, Crwys Road. Can yr Eisteddfod gan Mrs John (Eira Gwvn). Cystad- leuaeth, unawd i rai dan 15 oed, "Codiad vr Ehedvdd," goreu, Eos Williams, Crwys Road. Beirniadaeth ar y French Pen Painting a'r gwaith nodwydd, goreu, Mrs Morgan, Crwvs Road, a Miss Mona Williams, Pembroke Terrace. Cystadleuaeth, canu penhillion, dull y Gogledd, gor- eu, Master T. Isaac Evans, Eben- ezer; ail, Edi Jones, Crwys Road; 3ydd, Sam Griffiths, Crwys Road. Cystadleuaeth, unawd i fechgyn dan 15 oed, "Ymadawiad y Brenin," goreu, Tom Lewis, Crwys Road; Sam Griffiths a W. Griffiths. Beirniadaeth Gwili ar yr englyn i'r "Ymfudwr," yr hon a ddarllenwyd gan Dyfed. Daethai deg i law, a'r goreu oedd y Parch. William Davies, B.A., Crwys Road. Beirniadaeth eto ar chwech o benhillion telyn cyrnwys i'w canu yn Eisteddfod yr Undeb, goreu, Mr Teifi Rees, Ebenezer. Cystadleuaeth, un- awd contralto, "Adlais y dyddiau gynt, goreu, Miss Cassie Jones, Pembroke Terrace. Beirniadaeth ar v stori fer, goreu, Miss M. L. Owen. Cystadleuaeth, corau plant, Har- lech," Salem, Canton, dan arwein- yddiaeth, Miss Katie Hughes; plant Ysgol Moorland Road, Mr Abel Thomas, B.A. (arweinydd y gan yn Ebenezer), goreu, y cor diweddaf. Araith ddifyfyr ar y testyn, "Dyled Cymru i'r Eisteddfod," goreu, Mr H. T. Roberts, arweinydd y gan yng Nghapel Plasnewydd. Unawd tenor, "Ynys y Plant," rhannwyd y wobr rhwng Mr Roger Davies, Ebenezer, a Mr H. T. Roberts, Crwys Road. Traethawd i rai dan 18 oed, dis- grifiad goreu 0 ddiwrnixi a dreuliwyd yn y wlad, goreu, R. Lloyd Griffiths, Crwys Road. Cyfieithiad i'r Gym- raeg, goreu, Miss Cordel:a Ellis, Canton. Unawd soprano, "Hwian Mam," goreu, Miss Lottie Thomas, Pembroke Terrace. Adroddiad, "Trech Gwlad nag Arglwydd" (Crwys Williams), goreu, Mr Griff Michael, Crwys Road. Beirniadaeth ar y cyw- ydd, "Bro Morgannwg," goreu, Mr Teifi Rees, Ebenezer. Unawd, 44 Gwlad yr hen Genhinen Werdd," goreu, Mr T. E. Powell, Pembroke Terrace (un o fechgyn y "Darian"). Pryddest goffa, "Y diweddar Henadur Edward Thomas (Cochfarf). Cystad- leuodd tri. Y goreu oedd un a bres- wyliai yn bresenol yn Newcastle, New South Wales, Awstralia, ac felly tu- allan i'r byd yn ol yr amodau meddai Dyfed; felly dyfarnwyd fod yr ail, sef Teifi, i gael yr anrhydedd o'i gadeirio, a derbyn y wobr. Awd trwy y seremoni o gadeirio gyda rhwysg gan yr Archdderwydd a'r Parch. H. M. Hughes,. B.A., yn cael eu cyn- orthwyo gan Dewi Fychan, Parch. W. Davies, B.A., Crwys Road; T. Lloyd Roberts, J. Thomas, J. Isaac, a Miss Gwili Jenkins. Canwyd can y cadeirio gan Eira Gwyn. Deuawd tenor a bass, "LIe treigla'r Caveri," goreu, Mr H. T. Roberts a Mr J. Evans. Cystadleuaeth, y cor cymysg, "Y Bedd Unigol. Cystadleuodd cor o Crwys Road, arweinydd, Mr Griffith Michael; Ebenezer (Mr. Wil- liam Thomas); Pare (Mr Hughes), a Pembroke Terrace (Mr Davies). Dy- farnwyd y cor cyntaf yn oreu, a dderbyniodd fanllefau o gymeradwy- aeth. Diolchwyd yn gynnes i Mr W. J. Evans, Aberdar, ac eraill am feirniadu. Terfynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." Y mae di- olch goreu Cymru Caerdydd i'r pwyllgor ar roddi y fath wledd, ac i'r ysgrifennydd, Mr T. Lloyd Roberts, Meirionfa, 23 Roath Court Place, am yr hwylusdod a roddodd i ddwyn y gwaith yn mlaen yn ystod y cyfarfod. Lleinw y Parch. H. M. Hughes, B.A., amryw gylchoedd cvhoeddus, ond credwn yn bendifaddeu ei fod yn rhagori fel arweinydd Eisteddfod.

Advertising

Cwmni y Pearl yn Aber- ! pennar…

Yr hyn y mae Aberdar eisieuI…

[No title]

Cyfarfod Mawr yn Aberdar.

ILlansamlet.I

Emrys ap Iwan.

Ynysboetb, Abercynon.

I Llwynbrwydrau.

[No title]

Advertising