Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Cymrodorion Tonyrefall.

Ebenezer, Rhydri, Caerffili.I

Oddiar Lechweddau --Caerfyrddin.

IFerndale.I

Nodion o Glyn Nedd. I

Poen Cefn a Drwg yn yrI Arennau.

I ,0 Dir y Gogledd.

Nodion o Gylch Aberafon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Gylch Aberafon. Cymysglyd a thywvll yw y ffurfafen weithfaol yn y dvifryn yma. Dywedwyd I fod yr anghydwelediad yn y Cynon wedi ei derfynu trwy gyflafareddiad, gan fod y Cwmni a'r goruchwyliwr wedi derbyn y cytundeb. Ond dydd Llun diweddaf. pan fwriadai rhan o'r gweithwyr ddechreu, cododd pethau eraill, ac ataliwyd y cyfan. Tebygol yw fod rhai o'r hen swyddog- ion wedi bod yn gweithio yn adeg yr anghytundeb, ac wedi agor rhan helaeth o'r gwaith, ac yn hawlio y Ileoedd hyn iddynt eu hunain, a thrwy hynny yn rhwystro yr hen wpithwyr i ael lleoedd. Y Mae Mr Hartshorn a rhai. arweinwyr eraill wedi gwneyd eu goreu i gael terfyn- iad ar yr anghydwelediad newydd hwn, ond hyd yma wedi methu. Bu gweithwyr Glofeydd Pontrhydyfen allan yr wythnos ddiweddaf, am fod y swyddogion yn gwrthod talu y minimum wage. Bwriadant ddechreu boreu Llun, er heb ddod i delerau boddhaol. Y mae y leflau hyn o dan yr un oruchwyliaeth a'r Cynon. Pa cyhyd y goddefir trais a gor- mes yn y tir? Pa cyhyd y goddefir i'n swyddogion trahaus-falch wasgu y gweith- iwr tlawd sydd yn Dwyn ei geiniog dan gwynaw "? Bu Dr. Poutsma a Mr W. H. Morgan, dau alltud o Affrica yn annerch cyfarfod ?-ng nghapel y Bedyd i n anne' re h cyfarfod yng nghapel y Bedyddwyr Seisnig, Water Street, Aberafon, nos lau diweddaf. Condemnient ymddygiad General Botha a Smuts am eu halltudio o'r wlad heb brawf, a hynny yn unig am eu bod yn ymdreohu eu goreu i arw ain y gweithwyr ar hyd Uin- ellau rheswm a chyfiawnder. Cadeiriwyd gan y Cynghorwr Henry Davies, Cwm- afon, arwr Ilawer brwydr, a chongcrwr Ilawer gelyn. Cawsant dderbyniad tywysogaidd gan yr Afoniaid, a diau y bydd hyn yn adgyfnerthiad iddynt l wrth- wynebu y Cadfridogion Both a Smuts, a dwyn allan farn i fuddugoliaeth. Bu Miss K. Foxey, M.A., Caerdydd, yn annerch cyfarfod yn y Central Schools, Port Talbot, nos Wener diweddaf, o blaid estyn yr Etholfraint. Cadeiriwyd gan yr Henadur David Rees, Maer Aberafon, ac un o feibion glewion Llafur. Cafwyd gofyniadau ac atebion boddhaol, a ther- fynwyd y cyfarfod yn heddychol. Cynhaliwyd cyfarfod yn y Public Hall, Aberafon, dydd Sabbath diweddaf, o dan nawdd Undeb Llafur, pryd y disgwyliwyd i anerch y cyfarfod. Mri. Fenner Brockway a Clem Bundock, Golygydd ac Is-olygydd y "Labour Leader." Cadfleiriwyd gan y CynghArwr J. Price. MAB Y MYNYDD.

Abertawe.

-'-'-'- -..- - -.:-_-_.-..._-....._-…

¡Nodion o Rymni.

I Penderyn.¡ __i

I-Colofn y Gohebiaethaa.

Birchgrove. I

Colofn y Beirdd. I