Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND C" -AI. H A.L. T d PIANOS AND ORGANS. Cheaped House in the Tmde. ORGANS. UTEYdORGAN AGENCY, 24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- SWANSEA 33, Castle-street. PONTYPRIDD 6, TafiF-street. NEWPORT .is, Commeroial-atreet. GLOUCESTER 42, Eaatgate-street. LLANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road. MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-street. Terms 1 Hire System, from 10/- Monthly. IS* Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN/ OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. A GRAND Eisteddfod will be held (in aid of the Cottage Hospital) at the Aberaman Park, Aberaman (Kindly lent by E. M. Hann, Esq.,) on Whit-Tuesday, June 2,1914 when upwards of R250 will be offered in prizes. CHIEF I'lEMS:- Chief Choral: 0 Great is the Depth (St. Paul). 1st prize £ 40; 2nd prize 410. Male Voice: Pilgrims (Dr. Parry), lgt prize .£80; 2ad prize .£10. Second Choral: Ar lan Iorddonen ddofn (T. Gabriel). 1st prize 910; 2nd prize .£5. Juvenile Choirs: "Song of Holiday" (E. T. D-Avies). 1st prize JG7 2nd prize .62; 3rd prize 41. Brass Bands (Class B.) 8t Paul." Prizes X18. Pryddest: Gwobr R8 8s., a Chadair gwerth R3 3s. Ambulance, Essays, Recitations, Solos, etc. For full particulars see Programme, to be obtained from the Secretaries-Hpndel Harris, 62B Brook Street, Aberaman; W. O. Lloyd, Isfryn, Cwmaman. FFORESTFACH (Nllc SWANSEA). THIRD ANNUAL Crand CHAIR EISTEDDFOD Whit-Tuesday, June 2, 1914. CHIEF ITEMS. Male Voice Competition," The Assyrian Came Down (Cyril Jenkins), 920 and a Gold Medal. 10/6 to eaoh unsuccessful Conductor. Mixed Choral, My love's like a red, red rose (Emlyu Kvans), jElO & a framed Enlargement. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Children's Choral, Sweet and Low (Barnby) 1st Prize, 95 and a 8ilvor Cap 2nd Prize, £2 and value 7/6. Mining Essay, "Explosions in Mines; their causes, and bast means for their prevention. Prize £1 11/6. Drawing of King & Humble Improved Detaching Hook, £ 1 1/ Drawingoof Stoke's Safety Lamp gi 1/- Rope Splicing (short splice), 1st 91 1/ 2nd 10/6. Ambulance, 1st R2 2/ 2nd £11/ Individual Competition, 1st 7/6 2nd 2/6. Solos (Vocal and Instrumental), Literary, Instru- mental Qasrtette, 22. Arts and Crafts Competitions. For farther particulars see offloial Programme, pjst free Hd., from the General Secretary— DAVID JENKINS, Gendros, Fforestfaoh, near Swansea FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwrn, GorpheAaf 11, 1914. CORAU MEIBION, Castella (Dr. Protheroe) Gwobr X20 CORAU CYMY8G, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) „ AIL-GORA.U MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) ,,£6 PBIF FEIRNIAD Dr. DAN PBOTHEROE, Chicago. Rhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddiwrth D. CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Treorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDAY & WEDNESDAY, 1914 ADJUDICATORS: Dr. McKnight, Dr. Coward, Emlyn Davies, Esq., A R.C.M., Brynfab, &c. COMPETITIONS Chief Choral, £100; Second Choral, RI5; Chief Male Voice, £ 30—40; Second Male Voice, XTO,; u,e- ilc Choir, .£10; Poem, 3 Guineas and Chair. Brass Bands, Ambulance, Home NursiDg, Needlework, Drawing, Shorthand, Poetry Recitations, &c Programmes, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy, GOWERTON was EISTEDDFOD, MAY 23rd, 1914. Male Voice Choirs, £ 25 ;*Mixed Choirs, P.12 Children's Choirs, £ 10; Solos (each) £ 2 2s. & £ 1 Is. Solos (Children) 10/6 and 5/- Programpies now obtainable (2i. Pnsl freei from the General Dooretsry, Mr. W. T. MORGAN, Ivy Cottage, Gowerton Eisteddfod Flynyddol Caerphili SKFYDLWYD 1887. Llungwyn, Mehefin 1, 1914. BEIRNIAID Canu-Dr. Vaughan Thomas, Abertawe Mr. W. J. Tbomas, F.R.C.O., Dowlais; Mr. J. Morgan Lloyd, BarrI. Barddoniaeth, Traetbodau a'r Adroddiadau—Y Parch. W. Evans, B.A., Penybontarogwy y-Parch. E. Pryce Jones, B.A., a Mr. Abraham Jenkins, B.A., Caerphili. Prif-ddarn Corawl, 11 Theme Sublime" (Jephtha) £ 30 0 0 Corau Meibion, I Down among the Dead Men" (Bantook) £ 20 0 0 Corau Plant, "Cadwen 0 AIawon Cymreig" (Tom Prioe) tl5 0 0 Englyn, "YrHydd" 10 6 Pryddest, Murmar y Mor £8 3 0 2 0 Unawdau Offerynol, 91 1/- yr uu; Una mdan Lleisiol, t2 2/- yr un Unawdau l Blant, 10/6 yr un. Gyrer am y Rhaglen, i'w ohael oddiwrth yr Yogrifenydd- J. D. HUGHE8, Rhosynfa, Caerphili. Lianharan Eisteddfod Whit-Tueada, June 2nd, 1914. CHIEF EVENTS CHIEF'CHORAL, Insulted, ChainM." T Prize £20. MALE VOICE, The Assyrian came ^down.^ Prize £15. SECOND CHORAL, Dyddiau Dyn sydd fel Glaswelltyn." Prize 97. Solos (Vocal & Instrumental), Recitations, etc. For full particu ars see Programmes, Hd. post free, from the Secretary, J. f HOMAS. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), A40. Second Male Voice: Little Church" (Becker), £8. Pro- grammes (lid. post free) from—General Sec., Wm. Griffiths, Elkihgton Rd., Burry Port. CWMMAWR GRAND CHAIR EISTEDDFOD SATURDAY, MAY 2nd, 1914 (Labour Day). Male Voice, "The Assyrian Came Down" 20 0 0 Mixed Choir, Ar lan'r Ior- ddonen Ddofn" 10 0 0 Brass Band Contests. 28 0 0 And Specials. Hon. Sec., Mr. E. W. Davies, Solicitor, Tumble, Llanelly. Programme, ljd. post free. BARGOED ANNUAL EISTEDDFOD Will be held On WHIT-TUESDAY, JUNE 2, 1914. Mixed Choirs, 0 Father, whose Almighty Power" 20 0 0 Male Voices, "Valiant Warriors" 15 0 0 Juvenile Choirs, Action Song 4 0 0 Brass Bands 15 0 0 Solos, Penillion, Recitations, Harp and Ambulance for Male and Female. Awdl, Essays, etc., etc. Programmes, I id, post free. Hon. Secretary, Workmen's Institute, Bargoed. "BOB MORGAN" GAN MRS. BASSETT (M. H. CHARLES), GADLYS. NEUADD CYHOEDDUS ABERDAR. PERFFORMIAD O'R DDRAMA GYMRAEG UCHOD, Sef Un o Ddramodau Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerfyddin, Can Cwmni Dramodol y Cadlys, NOS FERCHER, EBRILL laf, 1914. Mynediad i fewn, 2s., Is. 6c., a Is. Drysau'n agored am 7, i ddechreu am 7.30. DRAMA CYMRAEC NEWYDD, "GRUFFYDD LLWYD," Allan o'r Ffug-Chwedl Bobtogaidd gan ROGER THOMAS, Ystalyfera. Telerau neillduol am ei pherfformio. Ymofyner a'r Cyheddwr—D. DAVIES, Ferndale. EI8TE0DFOOAU OYFODOL. Dydd Sadwrn, Mai 2, 1914.-Eistedd- fod Gadeiriol Cwnlmawr. Sadwrn, Mai 23, 1914. Eisteddfod Gowerton. Llungwyn, Mehefin 1, 1914.—Eisteddfod Flynyddol Caerphili. Llun Gwyn, 1914.-Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrth-Gwyn, 1914.-Eisteddfod Aber- aman, Aberdar. Mawrth-Gwyn, 1914. — Eisteddfod Gadeiriol Fforestfach, Abertawe. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Bargoed. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.—Eis- teddfod Llanharan. t Mawrth a Mercher-Gwyn, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Treorci. Dydd Sadwrn, Gorph. 11, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Forge Fach, Clyd- ach, ger Abertawe. ..1 r T iT~ TURKEY EGGS, Lord Rothschild JL Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex. ETHOLIAD CYNCOR DOSBARTH- OL MOUNTAIN ASH, 1914. ADRAN ABERCYNON. At yr Etholwyr. Foneddigesau a Bonecfdigion,- Ar ddymuniad taer lluaws o Dreth- dalwyr cyfrifol yr Adran hon, yr wyf, ar ol ystyriaeth ddwys, wedi cydsynio i fy enw ymddangos fel Ymgeisydd am sedd ar y Cyngor uchod. Yr wyf wedi byw am dros ddeuddeg mlynedd yn yr Adran, ac yn hollol wy- buddus o'i holl angenion, ac os dych- welir fi yn aelod o'r Cyngor, ymdrecliaf bob amser ddwyn oddiamgyleh y cyfryw welliantau ag y mae'r lie yn sefyll mewn angen am danynt. Heb unrhyw fyfiaeth ar fy rhan, gallaf ddweud fy mod y Trethdalwr Unigol trymaf yn yr Adran, ae, fel y cyfryw, y dioddefydd mwyaf oddiwrth effeithiau codiad yn y dreth. Credaf fod y ffaith hon yn unig yn ddigon o brawf i bob Trethdalwr meddylgar y bydd i mi bob amser osod fy holl ym- drechion i wrthwynebu unrhyw was- traff diangenrhaid ar arian y Treth- dalwyr. Gallaf ychwanegu fy mod yn un o feib y lofa," ac, fel y cyfryw, y mae fy nghydymdeimlad Ilwyraf gyda'r dos- barth gweithol, a bydd i mi wneud yr oil o fewn fy ngallu i hyrwyddo eu lles- iant. Os caf yr anrhydedd genych o gael fy ethol fel eich Cynrychiolydd ar v Cyngor, gwnaf fy ngoreu, hyd eithaf fy ngallu i'ch gwasanaethu yn onest a di- dderbynwyneb. Ydwyf, Eich Ufudd Was, THOMAS JONES. Junction Hotel, Abercynon. Can, Lien a Cwerin Owalth y dlweddar Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLOH. DARNAU BARDDONOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Poet 1/2. Ilw gael o Swyddfalr DARIAN, neu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Oyf., 12 HEOL CAER, ABERTAWE. Lle mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn ceir Esiamplau o Adroddiadau Eglwysig, lestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, Ac. Pellseinydd Central 151. Cofiwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hol ein hawydd ni yw gyrru'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn oyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraff a. ANFONWOH AM SAMPLAU. Prepaid Small Advertieementi Inserted at the following specially low rates: One week 4 wke. 18 wks. a. d. a. d. a. d. 20 words 0 0 1 6 I ft 28 0 9 i 8 ft t 36 1 0 3 0 7 These charges apply only to the follow ing classes of advertisements :-Apart- ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Posted Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b. I charged. Advertising and Publishing OflSte«». Cardiff Street, Aberdarp. Hysbysiad o Bwys I I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr Teimlwn mai angenrhaid yw gwncy* yn hysbys y cyhoeddir y Darian ° hod dydd Mawrth, ac y danfonir hi t'l holl ddosbarthwyr brydnawn yr an dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonan hysbysiadau neu newyddion urgent ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddfi4 heb fod yn ddiweddarach na bore -.Mawrth. Carem gael bob gohebiatto arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob tra. fodaeth yn dal perthynas a'r N Dariu" < i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG :— j SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lie. yr wythnos, 6ch. am fis, li7i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. Nid Amddiffyu Goren TABIAN ond TARIAN. Cyfiawnder. Tarian y Gweithiwr. DYDD IAU, EBRILL 2, 1914. -r- 8YLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
IPynciau'r Dydd. I
I Pynciau'r Dydd. I Ni fu beiddgarwch a haerllugrwydd y Toriaid erioed yn amlycach nag ydynt y dyddiau hyn ynglyn a'r fyddin. Ac nid dim ond eu beiddgar- wch a'u haerllugrwydd sydd yn am- hvg, ond eu rhagrith annioddefol yn ogystal. Gellid yn haws faddeu iddynt bopcth na hwn. Nid ydynt wedi petruso ceisio darostwng byddin y wlad i ddiogelu eu safle boliticaidd eu Hunain, ac ar yr un pryd i orchfygu dyheadau a llais eglur y wlad a gafwyd mewn etholiad ar ol etholiad. Pe caniateid eu honiadau ni fyddai gan neb hawl wirioneddol i'w llais yn llywodraeth y wlad heblaw y Toriaid eu hunain ac eiddynt hwy, a'r eiddynt hwy yn unig fyddai y fyddin, a gallent eu defnyddio i wneuthur yr hyn a ewyllysient. Mynnent hwy ddeddfu i bawb eraill a chadw pawb mewn ymostyngiad i ddeddfau y bu gan- ddynt hwy fwy o ran na neb yn eu gwneuthuriad, ond eu honiad heddyw yw eu bod hwy eu hunain uwchlaw deddf. Ac yn sicr nid ydynt yn ddosbarth ag y mae pobl a feddent ar ryw gymaint o hunan-barch yn caru bod dan eu traed. Yr ydym wedi arfer camol ein rhydd- id a'n breintiau yn y wlad hon. Gwelwn bellach ein bod wedi byw i raddau pell ym mharadwys ffyliaid, 'ac nad oedd i ni ryddid na breintiau ond yn ol y mesur y gwelai y Toriaid yn eu graslonrwydd yn dda eu hestyn i ni. Ffafrau i'n cadw'n foddlon mewn caethiwed oedd yr oil a gawsom hyd yn hyn. Yr oedd allweddau para- dwys dinasyddiaeth lawn wrth wregis uchelwyr cyfoethog, ac y mae'r werin hyd heddyw o'r tu allan i'r pyrth, a'i hawliau a'i diogelwch mor ansicr ag erioed. Hyn yn ddiau yw y sefyllfa yn bresennol os Hwy dda ystrywiau'r Toriaid i rwystro i ddod yn ddeddfau fesurau gawsant gefnogaeth y wlad a'r Sennedd. Na alwer mwy mo'n gwlad yn wlad rydd, na'i thrigolion yn ddinasyddion. Caethion ydym at drugaredd dosbarth bychan sydd a'r gallu ar awdurdod yn ei law. Cofier, er hynny, er yn gaethion, fod gweled- igaethau rhyddid wedi bod yn ys- brydoli ein gobeithion; yr ydym wedi bod yn ymysgwyd o'r llwch, yn ceisio ymddatod oddiwrth rwymau ein gwddf, ac wedi dod, ni a dybiem, at y ddolen olaf yng nghadwyn ein caeth- iwed. Yn awr y mae'r cyfwng mawr sydd i benderfynu ein dyfodol. A ydyw'r ddolen olaf yn gadwyn i'n cadw rhag cael cyfle i fynd drwy'r pyrth? A ydyw ffrwyth llafur cened- laethau i fynd yn ofer, a ninnau i fynd yn ol i gaethiwed am genedlaethau? Yn ddiau yr ydym yn byw yn yr am- ser pwysicaf a mwyaf poenus ddi- ddorol a fu yn hanes ein gwlad. Hyd yn hyn nid oedd y diwygiadau a'r gwelliantau gwleidyddol a chym- deithasol a gaed ond yn ymwneud a'r amgylchiadau. Heddyw yr ydym wedi dod wyneb yn wyneb a'r egwydd- orion hynny yn llywodraeth y wlad y tarddai braidd holl ddrygau ac adfyd cymdeithas o honynt, sef canoliad y gallu llywodraethol mewn un dos- barth a hwnnw'n dosbarth mwyaf anhymwys i gael y gair terfynol iddo'i hun o bob dosbarth y gellid meddwl am dano. Y ddeddf ynglyn a'r Fyddin yw fod i hawb sydd yn perthyn iddi yn swyddog- ion a milwyr ufuddhau i'w huchafiaid a gwneud yr hyn a orchymynnir iddynt heb ofyn dim er mwyn cydwyhod. Ni pherthyn iddynt hwy farnu a yw yr hyn a orchymynnir iddynt yn iawn ai nad yw. 0 leiaf ni chaniateir iddynt weith- redu yn ol eu barn gan nad beth a fyddo. Gweision ydynt i'r awdurdod weinyddol fyddo yn llywodraethu ar y pryd. Fel milwyr a swyddogion nid oes ganddynt hawl i fod yn Doriaid nac yn Rhydd- fiydwyr. Gan nad beth ddywedir am amodau gwasanaeth milwrol. dvna'r ddeddf gydnabyddedig yn awr, neu o leiaf hyd yn ddiweddar iawn. Ac o dan yr ymgylchiadau presennol dyma'r unig ddeddf gyson a theg. Byddai yn ddifrifol arnom pe gallai un blaid wleidyddol ddefnyddio'r fyddin i orchfygu plaid arall ymhellach nag y byddai angen i ddiogelu eiddo a bywyd. Sefyllfa waeth fyddai i blaid nad yw mewn awdurdod fedru defnyddio peir- ianwaith fel y fyddin i orchfygu Awdur- dod Weinyddol y Wlad. At hyn y mae'r Toriaid wedi bod yn amcanu y dyddiau diweddaf. Nid ydynt wedi petruso ceisio llygru'r fyddin i'w hamcanion eu hunain ynglyn ag Ulster. Pe lwyddent, arweiniai hynny i rywbeth gwaeth dra- chefn, sef i gydnabyddiaeth o hawl mil- wyr fel y cyfryw i wneud yn ol eu barn a'u mympwy eu hunain yn, unig, Gair swyddogion y fyddin fyddai'r gair ter- fynol ar bob mater. Mae rhyw arwydd- ion fod y rhai mwyaf ystyriol o'r Toriaid eu hunain wedi dychrynu wrth weled yr hyn yr oedd yr ymgais i ymyrraeth a'r fyddin yn arwain iddo. Cododd y cyfwng presennol trwy i nifer o swydd- ogion y fyddin yn yr Iwerddon fygwth ymddiswyddo yn hytrach na gweithredu ar orchymyn yr Awdurdodau oni chaent sicrwydd ymlaen llaw na ofynnid iddynt ddefnyddio arfau yn erbyn Ulster. Trwy ryw amryfusedd cadarn o eiddo rhai o Weinidogion y Goron cawsant mewn llythyr y sicrwydd a geisient, llythyr y tybid fod awdurdod y cyfrin gyngor wrth ei gefn. Cododd hyn ofn a chynnwrf yn y wlad, ac yn y pleidiau gwerinol yn y Sennedd. Ofnid fod swyddogion y fyddin wedi cael eu rhyddid i wneud yn Ulster yr hyn a wel- ent hwy yn dda yn unig, ac y byddai yr holl amser a llafur a dreuliasid ynglyn ag Ymreolaeth i'r Iwerddon yn ofer. Yr oedd y dybiaeth nas gellid ymddir- ied yn y fyddin nellach yn p.nnioddefol, a bu raid cael eglurhad yn y Sennedd. Cafwyd ar ddeall nad oedd awdurdod y cyfringyngor fel y tybid wrth gefn y llythyr a roddasarr Ysgrifenydd Rhyfel, y Milwriad Seiely. i'r Cadfridog Gough. Cymerai'r Milwriad y bai arno ei hun o fod wedi ychwanegu at lythyr a roddasid iddo rywheth a dybiai ef oedd yn angen- rheidiol heb wybod fod y llythyr fel yr oedd wedi bod dan ystyriaeth y Cyfrin- gyngor yn ei absenoldeb. Yr oedd cam- gymeriad felly yn ddifrifol. Ymffrostiai rhai o'r swyddogion eu bod eisioes wedi gorchfygu'r Llywodraeth. Bu'r Cyfrin- gyngor mewn helbul o herwydd y cam- gymeriad, ac ofnid y byddai raid i'r Llywodraeth ymddiswyddo. Beth bynnag daethant allan o'r trybini trwy i'r Milwriad Seely gymei-N-d y bai yn hollol arno ei hun, a chynnyg ei ymddi- swyddiad. Ond gan mai yn anfwriadol hollol y gwnaethai y drwg gwrthododd y Prif Weinidog dderbyn ei ymddi- swyddiad. Wedi hyn hysbysodd Mr. Asquith fod gorchymynion wedi eu rhoddi i'r swyddogion yn y fyddin sydd yn dadwneud y drwg a wnaethid, ac nas caniateir iddynt osod amodau i lawr pan orchymynnir iddynt roddi eu gwasan- aeth. Camolir Mr. Asquith am ei benderfyn- iad a'r cryfder a ddangosodd yn yr helynt. Ond eto y mae rhyw dybiaeth yn ffynnu nad ydyw mor gryf ag y tybir, ac fod arwyddion o ryw gynllwyn ar droed er's tro, a hynny trwy gydsyniad rhai mewn lleoedd uchel, i gael gweled pa cyn belled y gellid myned yn ddi- berygl. A beth yw yr achos o holl lidiawg- rwydd y Toriaid? Ai ofni Ymreolaeth y maent? Na. Dichon fod gan Syr Ed- ward Carson a rhai o fawrion Ulster wrthwynebiad i Ymreolaeth, ond y gwir achos o gytiddeiirogtvnrdd y Tewiaia--w-w y Ddeddf Seneddol. Nid yw Ulster ond ceffyl pren i orchfygu'r ddeddf hon- deddf a sicrha fynediad trwodd i Fesur- au Rhyddfrydol gan nad pa un a ewyll- ysia'r Arglwyddi iddynt fyned ai peidio. Ffordd ddigon cwmpasog. a llawer o rwystrau arni sydd i Fesurau gynhwys- ant ddyheadau'r Werin eto i ddod yn ddeddfau. Ond y mae ffordd bellach, a hyn sydd yn blino'r Toriaid. Ymreol- aeth fydd y Mesur cyntaf. oni ddigwydd damwain, i ddod yn ddeddf yn ddi- ddiolch i'r Arglwyddi; dilynir ef gan Fesur Dad-gysylltiad a Dadwaddoliad, ac yna, os pery'r Llywodraeth bresen- nol mewn grym, gan y Mesur i ddileu lluosogrwydd pleidleisiau. Ofn sydd ar y Toriaid weled mesurau yn mynd yn ddiogel ar hyd y ffordd new- ydd. Gwyddant yn dda mai po fwyaf o- dramwy fyddo ar y ffordd lletaf i gyd y daw. Gwelant eu gobaith am y gair olaf yn llywolraeth y wlad yn diflannu. Gwnaeth arweinwyr Llafur enw iddynt eu hunain yn yr helbul y buwyd ynddi ynglyn a'r fyddin. Yn ddiau cant fwy o ymddiriedaeth y wlad o hyn allan, Gwelir fod buddiannau gwlad yn gyffredinol yn gysegredicach iddynt hwy nag ydyn ti'r Arglwyddi a mawrion eraill. Hysbysir fod Mr Ramsay Mac- donald wedi bod yn brecwasta fwy nag- unwaith gyda Mr. Lloyd George. Diau fod hynny hefyd yn arwydd er daioni, ac y gwelir Radicaliaeth a Llafur ysgwydd yn ysgwydd yn ymladd brwydrau'r werin. Yn un y dylasai y galluoedd pwysig hyn fod.
Cwmbach, Aberdar.
Cwmbach, Aberdar. Hhoddodd Cymdeithas Gorawl Unedig Cwmbach a'r C-vlch ddau berfformiad o'r draithgan Messiah" (Handel). Cafwyd gwasanaeth cerddorfa gref, a'r oll dan ar- weiniad metlrus Mr T. J. Morgan, F.T.S.C., Cwmbach. yr hwn wnaeth ei waith \n rhagorol iawn. Teg yw dweud hefyd i'r cor fyned drwy y gwaith pwysig ac arucliol hwn "with honours." Mae yn anrhydedd mawr i'r arweinydd ieuanc, ac i'r Clr un- edig, eu bod wedi llwyddo i gario allay; y cyfan i foddlonrwvdd pawb, yn arbennig pan y cofiwn mai llafur gwirfoddol a rhad oedd y cwhl o du yr arweinydd a'r cor, a hynny er mwyn i'r elw i gyd fyned at Neuadd Gyhoeddus y .Gweithwyr, r. Allill- bach. Yr unawdwyr oeddynt: Soprano, Madam Sylvia Hosgood: contralto. Madam C. Hambly Spry, Caerdydd; tenor, Mr. Llcw Jones, Aberdar; bass. Mr. Gwilym Joa>,k', Ystradgynlais. A chyflawnodd pob uti ei ran gyda gradd uchel o gymeradwyaeto Gwasanaethwvd wrth yr organ gan Mr D. W. Davies, F.T.S.C.. A.H.C.O.. Alt r- thyr, a'r piano gan Mr F. Rees, A.L.C.M., Cwmbach. Gwnaethant hwythau eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Yr oedd datganiadau y cor yn uchel eu safon, yn arbennig felly ar "JJift up your head- "Hallelujah," "Worthy is the Lamb, r "Amen." Dymimwn hob llwyddiant arweinydd ieuanc a gobeithiol hwn, ac h\- derwn y caiff fywyd ac iechyd i rOi! llawer o'i wasanaeth i gymdeithas yn y dyfodol. Da gennym ddeall fod galw arno fel beirniad canu mewn eisteddfodau, etc. GOH.