Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

IPynciau'r Dydd. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Pynciau'r Dydd. I Ni fu beiddgarwch a haerllugrwydd y Toriaid erioed yn amlycach nag ydynt y dyddiau hyn ynglyn a'r fyddin. Ac nid dim ond eu beiddgar- wch a'u haerllugrwydd sydd yn am- hvg, ond eu rhagrith annioddefol yn ogystal. Gellid yn haws faddeu iddynt bopcth na hwn. Nid ydynt wedi petruso ceisio darostwng byddin y wlad i ddiogelu eu safle boliticaidd eu Hunain, ac ar yr un pryd i orchfygu dyheadau a llais eglur y wlad a gafwyd mewn etholiad ar ol etholiad. Pe caniateid eu honiadau ni fyddai gan neb hawl wirioneddol i'w llais yn llywodraeth y wlad heblaw y Toriaid eu hunain ac eiddynt hwy, a'r eiddynt hwy yn unig fyddai y fyddin, a gallent eu defnyddio i wneuthur yr hyn a ewyllysient. Mynnent hwy ddeddfu i bawb eraill a chadw pawb mewn ymostyngiad i ddeddfau y bu gan- ddynt hwy fwy o ran na neb yn eu gwneuthuriad, ond eu honiad heddyw yw eu bod hwy eu hunain uwchlaw deddf. Ac yn sicr nid ydynt yn ddosbarth ag y mae pobl a feddent ar ryw gymaint o hunan-barch yn caru bod dan eu traed. Yr ydym wedi arfer camol ein rhydd- id a'n breintiau yn y wlad hon. Gwelwn bellach ein bod wedi byw i raddau pell ym mharadwys ffyliaid, 'ac nad oedd i ni ryddid na breintiau ond yn ol y mesur y gwelai y Toriaid yn eu graslonrwydd yn dda eu hestyn i ni. Ffafrau i'n cadw'n foddlon mewn caethiwed oedd yr oil a gawsom hyd yn hyn. Yr oedd allweddau para- dwys dinasyddiaeth lawn wrth wregis uchelwyr cyfoethog, ac y mae'r werin hyd heddyw o'r tu allan i'r pyrth, a'i hawliau a'i diogelwch mor ansicr ag erioed. Hyn yn ddiau yw y sefyllfa yn bresennol os Hwy dda ystrywiau'r Toriaid i rwystro i ddod yn ddeddfau fesurau gawsant gefnogaeth y wlad a'r Sennedd. Na alwer mwy mo'n gwlad yn wlad rydd, na'i thrigolion yn ddinasyddion. Caethion ydym at drugaredd dosbarth bychan sydd a'r gallu ar awdurdod yn ei law. Cofier, er hynny, er yn gaethion, fod gweled- igaethau rhyddid wedi bod yn ys- brydoli ein gobeithion; yr ydym wedi bod yn ymysgwyd o'r llwch, yn ceisio ymddatod oddiwrth rwymau ein gwddf, ac wedi dod, ni a dybiem, at y ddolen olaf yng nghadwyn ein caeth- iwed. Yn awr y mae'r cyfwng mawr sydd i benderfynu ein dyfodol. A ydyw'r ddolen olaf yn gadwyn i'n cadw rhag cael cyfle i fynd drwy'r pyrth? A ydyw ffrwyth llafur cened- laethau i fynd yn ofer, a ninnau i fynd yn ol i gaethiwed am genedlaethau? Yn ddiau yr ydym yn byw yn yr am- ser pwysicaf a mwyaf poenus ddi- ddorol a fu yn hanes ein gwlad. Hyd yn hyn nid oedd y diwygiadau a'r gwelliantau gwleidyddol a chym- deithasol a gaed ond yn ymwneud a'r amgylchiadau. Heddyw yr ydym wedi dod wyneb yn wyneb a'r egwydd- orion hynny yn llywodraeth y wlad y tarddai braidd holl ddrygau ac adfyd cymdeithas o honynt, sef canoliad y gallu llywodraethol mewn un dos- barth a hwnnw'n dosbarth mwyaf anhymwys i gael y gair terfynol iddo'i hun o bob dosbarth y gellid meddwl am dano. Y ddeddf ynglyn a'r Fyddin yw fod i hawb sydd yn perthyn iddi yn swyddog- ion a milwyr ufuddhau i'w huchafiaid a gwneud yr hyn a orchymynnir iddynt heb ofyn dim er mwyn cydwyhod. Ni pherthyn iddynt hwy farnu a yw yr hyn a orchymynnir iddynt yn iawn ai nad yw. 0 leiaf ni chaniateir iddynt weith- redu yn ol eu barn gan nad beth a fyddo. Gweision ydynt i'r awdurdod weinyddol fyddo yn llywodraethu ar y pryd. Fel milwyr a swyddogion nid oes ganddynt hawl i fod yn Doriaid nac yn Rhydd- fiydwyr. Gan nad beth ddywedir am amodau gwasanaeth milwrol. dvna'r ddeddf gydnabyddedig yn awr, neu o leiaf hyd yn ddiweddar iawn. Ac o dan yr ymgylchiadau presennol dyma'r unig ddeddf gyson a theg. Byddai yn ddifrifol arnom pe gallai un blaid wleidyddol ddefnyddio'r fyddin i orchfygu plaid arall ymhellach nag y byddai angen i ddiogelu eiddo a bywyd. Sefyllfa waeth fyddai i blaid nad yw mewn awdurdod fedru defnyddio peir- ianwaith fel y fyddin i orchfygu Awdur- dod Weinyddol y Wlad. At hyn y mae'r Toriaid wedi bod yn amcanu y dyddiau diweddaf. Nid ydynt wedi petruso ceisio llygru'r fyddin i'w hamcanion eu hunain ynglyn ag Ulster. Pe lwyddent, arweiniai hynny i rywbeth gwaeth dra- chefn, sef i gydnabyddiaeth o hawl mil- wyr fel y cyfryw i wneud yn ol eu barn a'u mympwy eu hunain yn, unig, Gair swyddogion y fyddin fyddai'r gair ter- fynol ar bob mater. Mae rhyw arwydd- ion fod y rhai mwyaf ystyriol o'r Toriaid eu hunain wedi dychrynu wrth weled yr hyn yr oedd yr ymgais i ymyrraeth a'r fyddin yn arwain iddo. Cododd y cyfwng presennol trwy i nifer o swydd- ogion y fyddin yn yr Iwerddon fygwth ymddiswyddo yn hytrach na gweithredu ar orchymyn yr Awdurdodau oni chaent sicrwydd ymlaen llaw na ofynnid iddynt ddefnyddio arfau yn erbyn Ulster. Trwy ryw amryfusedd cadarn o eiddo rhai o Weinidogion y Goron cawsant mewn llythyr y sicrwydd a geisient, llythyr y tybid fod awdurdod y cyfrin gyngor wrth ei gefn. Cododd hyn ofn a chynnwrf yn y wlad, ac yn y pleidiau gwerinol yn y Sennedd. Ofnid fod swyddogion y fyddin wedi cael eu rhyddid i wneud yn Ulster yr hyn a wel- ent hwy yn dda yn unig, ac y byddai yr holl amser a llafur a dreuliasid ynglyn ag Ymreolaeth i'r Iwerddon yn ofer. Yr oedd y dybiaeth nas gellid ymddir- ied yn y fyddin nellach yn p.nnioddefol, a bu raid cael eglurhad yn y Sennedd. Cafwyd ar ddeall nad oedd awdurdod y cyfringyngor fel y tybid wrth gefn y llythyr a roddasarr Ysgrifenydd Rhyfel, y Milwriad Seiely. i'r Cadfridog Gough. Cymerai'r Milwriad y bai arno ei hun o fod wedi ychwanegu at lythyr a roddasid iddo rywheth a dybiai ef oedd yn angen- rheidiol heb wybod fod y llythyr fel yr oedd wedi bod dan ystyriaeth y Cyfrin- gyngor yn ei absenoldeb. Yr oedd cam- gymeriad felly yn ddifrifol. Ymffrostiai rhai o'r swyddogion eu bod eisioes wedi gorchfygu'r Llywodraeth. Bu'r Cyfrin- gyngor mewn helbul o herwydd y cam- gymeriad, ac ofnid y byddai raid i'r Llywodraeth ymddiswyddo. Beth bynnag daethant allan o'r trybini trwy i'r Milwriad Seely gymei-N-d y bai yn hollol arno ei hun, a chynnyg ei ymddi- swyddiad. Ond gan mai yn anfwriadol hollol y gwnaethai y drwg gwrthododd y Prif Weinidog dderbyn ei ymddi- swyddiad. Wedi hyn hysbysodd Mr. Asquith fod gorchymynion wedi eu rhoddi i'r swyddogion yn y fyddin sydd yn dadwneud y drwg a wnaethid, ac nas caniateir iddynt osod amodau i lawr pan orchymynnir iddynt roddi eu gwasan- aeth. Camolir Mr. Asquith am ei benderfyn- iad a'r cryfder a ddangosodd yn yr helynt. Ond eto y mae rhyw dybiaeth yn ffynnu nad ydyw mor gryf ag y tybir, ac fod arwyddion o ryw gynllwyn ar droed er's tro, a hynny trwy gydsyniad rhai mewn lleoedd uchel, i gael gweled pa cyn belled y gellid myned yn ddi- berygl. A beth yw yr achos o holl lidiawg- rwydd y Toriaid? Ai ofni Ymreolaeth y maent? Na. Dichon fod gan Syr Ed- ward Carson a rhai o fawrion Ulster wrthwynebiad i Ymreolaeth, ond y gwir achos o gytiddeiirogtvnrdd y Tewiaia--w-w y Ddeddf Seneddol. Nid yw Ulster ond ceffyl pren i orchfygu'r ddeddf hon- deddf a sicrha fynediad trwodd i Fesur- au Rhyddfrydol gan nad pa un a ewyll- ysia'r Arglwyddi iddynt fyned ai peidio. Ffordd ddigon cwmpasog. a llawer o rwystrau arni sydd i Fesurau gynhwys- ant ddyheadau'r Werin eto i ddod yn ddeddfau. Ond y mae ffordd bellach, a hyn sydd yn blino'r Toriaid. Ymreol- aeth fydd y Mesur cyntaf. oni ddigwydd damwain, i ddod yn ddeddf yn ddi- ddiolch i'r Arglwyddi; dilynir ef gan Fesur Dad-gysylltiad a Dadwaddoliad, ac yna, os pery'r Llywodraeth bresen- nol mewn grym, gan y Mesur i ddileu lluosogrwydd pleidleisiau. Ofn sydd ar y Toriaid weled mesurau yn mynd yn ddiogel ar hyd y ffordd new- ydd. Gwyddant yn dda mai po fwyaf o- dramwy fyddo ar y ffordd lletaf i gyd y daw. Gwelant eu gobaith am y gair olaf yn llywolraeth y wlad yn diflannu. Gwnaeth arweinwyr Llafur enw iddynt eu hunain yn yr helbul y buwyd ynddi ynglyn a'r fyddin. Yn ddiau cant fwy o ymddiriedaeth y wlad o hyn allan, Gwelir fod buddiannau gwlad yn gyffredinol yn gysegredicach iddynt hwy nag ydyn ti'r Arglwyddi a mawrion eraill. Hysbysir fod Mr Ramsay Mac- donald wedi bod yn brecwasta fwy nag- unwaith gyda Mr. Lloyd George. Diau fod hynny hefyd yn arwydd er daioni, ac y gwelir Radicaliaeth a Llafur ysgwydd yn ysgwydd yn ymladd brwydrau'r werin. Yn un y dylasai y galluoedd pwysig hyn fod.

Cwmbach, Aberdar.