Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Arholiad RhagbaratoawLI

J.,I" Treorchy.

I0 Dir y Gogledd.

Ar Lannau Tawe.

Nodion o Frynaman. -1

Nodion o'r Mardy.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o'r Mardy. I Dwy gyngerdd ardderchog gafwyd gan Gor Seion, Eglwys y Bedyddwvr Cymraeg, ) dan arweiniad galluog Mr William Duggan, arweinydd y gan yn y lie. Yr unawdwyr ( eleni oeddynt:—Madame Clayton Jones, J Mardy, soprano; Madame E. A. Evans, j Mardy, contralto; Mr Tudor Davies, < tenor (Eisteddfod Genedlaethol 1913); Mr David Rees, Mardy, bass (Eisteddfod Gen- edlaethol 1912); alto, Master Trevor Dug- gan, mab yr arweinydd, a chanodd nos SWYDO pawb yn y lie. Y gantawd gysegr- edig "Abraham" oeddynt yn berfformio. Cyfeiliwyd gan Miss M. J. Owen (Bronze Medallist), L.C.M., hithau hefyd o'r Mar- dy, ag yn ferch i Mr. R. Owen, mechanic, ac yn wyres i'r hen Griffith Thomas y Boss, fel ei gelwir yma, a theulu yr hwn sydd yn gefn i'r achos yn Seion. Cynorthwyid hwy gan gerddorfa. Cadeiriwyd nos lau gan y Cynghorwr Horatio Phillips, Ferndale, a ¡' nos Sadwrn gan Mr. Rhys Davies, Maesy- ffrwd. Da gennym weld y Parch. Joseph Evans, y gweinidog, yn dal yn ieuanc ei yspryd ag yn llawn gwaith dros ei Feistr. ¡ Bu y Parch. E. C. Davies, M.C., Aber- tawe, yma yn pregethu ar ran y Feibl Gym- deithas yn Ebenezer, M.C. Rhoddodd hefyd adroddiad o'r gwaith wneir gan y Gymdeithas er Iledaenu yr achos goreu dros y byd. Gresyn oedd trefnu ar noswaith y gyngerdd yn Neuadd y Gweithwyr; bu hyny yn anfantais i'r pregethwr. Nos Sadwrn, Mawrth yr 28ain, cawsom II wledd yng nghyngerd gystadleuol St. J Luc, sef Eglwys Gymraeg y Mardy. Y j beirniad cerddorol ydoedd Mr John Price, Rhymni; yr adroddiadau, y Parch. Isaac Williams, M.A., Cwmaman. Cyfeilydd, i Mr. Gwilym Jones, Treorchy. Cynhal- iwyd y gyngefdd yng nghapel yr Annibyn- wyr, Siloa. Y cadeirvdd oedd y Cynghor- wr H. E. Maltby, M.E., a'r Parch. Isaac i Williams yn arwain. Arweinydd medrus yw efe, a chadwodd y dorf mewn hwyl am dair awr a haner o amser. Enillwyd y gwobrau fel y canlyn :-Soprano solo, Dy j gofio wnaf (Dr. Williams), Miss Alice I Morton, Abercwmboi. Tenor solo, "Arafa Don" (R. S. Hughes), Mr Tudor Davies, Porth. Contralto solo, 0, Divine Re- deemer" (Gounod), Madame Lizzie Davies, Tonypandy. Baritone solo, The trumpet shaH sound" (Handel). Mr Glvridwr ) Thomas, Ynyshir. Adroddiad i rai <!<) 16 j oed, goreu, Master Glyndwr Hughes, Mar- } dy; ail, Tom Goronwy, Tieorchv. A(li-odd- iad (agored), rhannwyd y wobr rhwng Sam Jones, Mardy, a Madame Smith Ford, Pen- arth. Rhoddid gwobr o £3 3s. a Cnwpan Arian am her-unawd; daeth tri i'r Ilwyfan. I Dyfarnwyd y wobr i Mr Tom Bonnell, Pen- tre. Gyda'r diolchiadau arferol terfyn- wyd un o'r cyngherddau goreu a fu yn y i Mardy erioed. Wrth weled dau offeiriad o Eglwys Loegr yn llanw pwlpud Anibynol Siloa, ymholem a ydoedd hyn yn arwydd o'r f amserau, ac y bydd enwadaeth yn nhir angof yn fuan. Llongyfarchwn y Cynghorwr H. E. Malt- by, M.E., ar ei ail etholiad ar y Cyngor, a hynny yn ddiwrthwynebiad. Y mae wedi gwasanaethu eisioes am chwe mlynedd, ac y mae yn ddiddadl yn anwylddyn y bob!. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion Mr Dd. Evans, overman, ddeall ei fod yn gwella, a j gobaith y gwelir ef eto ymysg ei gyfeillion, ac yn yr eglwys y perthynai iddi. MEIRIONA.

Nodion o Glyn Nedd. I

Cwmni Cyfyngedig y Refuge…

Advertising