Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELOXA.) Dyma Ebrill wedi dod. Er ei fynych gawodydd ac weithiau ei awel oer, hwn yw un o fisoedd hyfrytaf y flwydd- yn. Mae popeth ynddo mor ieuanc a llawn o nwyf. Mor newydd ac iraidd yw pob deilen fcchan a phob glaswelltyn, ac mor ogoneddus yw 'r blodau. A gwrandewch ar swn yr awel! Mae fel pe yn sibrwd geiriau mwyn-felus wrth yr hen goed tal- gryf, ac y mae'r coed yn sicr o fod yn deall, oblegid llonnant drvvyddynt. Mis llawn o obaith vw. Onid yw Mai a Mehefin a'u gwychder dihafal i ganlyn ? Dyma un o delvnegion Eifion Wyn i Ebrill. Mae yn nodedig o dlws ac yn hawdd ei chofio. Os darllenwch bob pennill ddwywaith yn ofalus, tybiaf y gellwch ei adrodd o'ch cof. Treiwch- Glas yw wybyr Ebrill, Glas fel llygad Men,— Mae enfys arfy cwmwl A blagur ar y pren; Croesaw fis diferion A phelydr bob yn ail; Tyred gyda'th flagur A thyred gyda'th' ddail. Gwyn yw wyneb Ettrill, Gwyn gan lygaid dydd, A pha sawl llwyn briallu Ym min y ffordd ymgudd? Croesaw fis y meillion, A mis yr oen a'r mynn, Tyred yn dy felyn, A thyred yn dy wyn. Gwin yw awel Ebrill, Pob aderyn wyr, O'r hedydd gan y bore, I'r mwyalch gan yr hwyr; Gwyn dy fyd, aderyn, A thithau bren a dardd, Gwyn fyd pawb a phopeth Ond calon brudd y bardd. CYSTADLEUAETH EBRILL. I A. I rai dan 12. Rhestr, heb fod dan chwech mewn nifer, o Ddiarhebion Cymraeg, megis, "Y Ddraig Goch Ddvrv Gychwyn" neu "Heb Dduw 'heb ddim," etc. (Gadawer y ddwy uchod allan o'r rhestr. Gweler isod am y vfobr.) B. I rai dan 16. Disgrifiad manwl o'r dref neu'r ardal lle'r ydych yn byw. Rhennwch eich gwaith ryw- beth yn debvg i hyn (a) Safle ddaearyddol y lie; pa le y mae; ym mha sir; wrth droed neu ar ben pa fryn; ar lan pa afon, etc. Ystyr yr enw, os gellwch. (b) Y preswylwyr, a'u gwaith, a'u dull o fyw.- (c) Unrhyw fannau diddorol, adeil- adau o bwys, neu unrhyw neilltuol- rwydd o ryw fath. i(d) Unrhyw hanes neu draddodiad cysylltiedig a'r lie, etc. Amodau. (1) Ysgrifennwch ar un tu i'r ddalen. (2) Rhodded pob cystadleuydd ei enw, ei gyfeiriad, a'i oed. (3) Rhoddwch enw'r llyfr hoffech gael o blith y llyfrau enwir isod. (4) Gyrrwch eich gwaith i Golofn y Plant, Swyddfa'r "Darian," Aberdar, erbyn Ebrill i5fed. (5) Yn bennaf oil gwnewch y gwaith eich hun. Cewch holi ereill am wybodaeth, ond eich brawddegau chwi wyf am ddarllen, ac nid eiddo eich tad neu eich mam neu rywun arall. Gwell gennyf waith gonest a llawer o wallau ynddo na gwaith perffaith wedi ei wneud gan rywun ymhell dros un- ar-bymtheg oed. Cofiwch fod mwy o werth mewn bod yn onest nag mewn derbyn gwobr. Gwobrau. Y tro hwn, ca'r cystadleuwyr yn y ddwv adran ddewis eu gwobrau o blith v llyfrau enwir isod. Heblaw hyn ca'r goreu yn A. a B. ymddangos, gydag enw a chyfeiriad y buddugol, ac efallai lun o hono neu o honi, os bydd un yn gyfleus. Hefyd, os caf kyfansoddiadau gweddol dda, ca'r ail, a'r trydvdd, a'r pedwerydd yn adran B. ymddangos. Felly, os na fydd eich gwaith yn deilwng o'r wobr, hwyrach y bydd yn ddigon da i'w gyhoeddi. Dvma restr o'r Ilyfrau:- i. "Yn Oes yr Arth a'r Blaidd (T. Gwynn Jones). 2. "Llyfr Nest" (0. M. Edwards). 3. "Ystoriwr y Plant" (H. Brython Hughes). 4. "Teulu Bach Nantoer" (Moelona). 5. "Hanes Harri Puw (W. M. Roberts). 6. "Cartrefi Cymru" (0. M. Ed- wards). 7. Straeon y Cyfnos" (\Y. M. Ro- berts)

Advertising

Hanesginio Blynyddol Cyntaf…

bi SARZINE " BLOOD MIXTURE.I

Nodion o Abertawe. I

Advertising