Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD. !

Ar y Twr yn Aberdar.I

Nodlon o'r Gogledd.I

Cwmbacb.I

|Gadlys.

COLOFN LLAFUR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN LLAFUR GAN PEREDUR." I Balot y Chwech Cheiniog. Gwelir oddiwrth yr holl adroddiadau Ueol sydd wedi dyfod i law fod mwyafrif mawr o'r glowyr wedi pleidleisio eto yn flrbyn ychwanegu chwech cheiniog at eu çyfraniad misol. Wrth grybwyll am hyn, dywed Mr. George Barker, un o fcrweinwyr y glowyr, fod y gweithwyr pi Unobeithiol, a thuhwnt i weddio drostynt. Y mae effeithiolrwydd yr Undeb yn cael ei luddias yn fawr yn ddiameu gan brinder arian, ac y mae yn syndod fod y gweithwyr yn gosod cyn Ileied o werth ar yr offeryn a'r cyfrwng flrwy yr hwn yn unig y gallant obeithio diogelu ac amddiffyn eu hawlfreintiau. Cymhariaeth. Y mae yn Bin gennym am y dibrisdod hwn ar ran y glowyr, oblegyd y mae yn dangos yspryd isel a chul ac yn profi .fod y mwyafrif yn methu ymryddhau o'r syniadau rhagfarnllyd a hunangar sydd mor niweidiol i ddatblygiad yr ys- pryd cymdeithasol ac undebol. Wrth gymar amgylchiadau y glowyr a'r crefftwyr allanol, fel y seiri maen a'r Beiri coed, ac ereill, y mae ymddygiad y cyntaf yn ymddangos yn anffafriol iawn. Y mae y erefftwyr undebol hyn, dros yr holl wlad heddyw, yn cyfrannu 3wllt yr wythnos o levy tuag at y crefft- wyr sydd ar streic yn Llundain, ac y mae eu tal aelodaeth yn gynwysedig o swm tebyg. Gwelir oddiwrth y gym- ,hariaeth yma fod y glowyr ymhell iawn ar ol yn eu syniadau am anrhydedd a dyledswydd tuag at eu hundeb. Ple Mae'r Bai? Nid ydym yn credu fod y bai am hyn i gyd ar y gweithwyr. Gwyddom fod oiddygiad ffol ac hunanol rhai agents j yn rhoddi achos i'r gweithwyr i fod yn anfoddog a gwrthnysig. Nid yw eu hymddygiad bob amser uwchlaw amheu- aeth. Angen mawr Agents Deheudir Cymru yw iddynt edrych i dre, a "gwarchod gartref" yn dda. Yrnddi- bynant yn ormodol ar eu gallu i siarad, tra yr esgeulusant organeiso y cyfan- soddiad. Elfen hanfodol arall i lwydd- iant yr un deb yw cyfaddasu amgylch- iadau a chysylltiadau cymdeithasol bywyd a hi, megis chwareuaethau i'r dynion ieuainc. dosbarthiadau dadleu a darllen i'r canol-oed a'r hen. Ni cheir llwyddiant i'r undeb hyd nes y trefnir cyfryngau i gael gwasanaeth a diddor- deb y gwragedd a'r merched o'i mewn. Dadleuaeth. A gawn ni ofyn i'r darllenwyr hynny sydd yn eymeryd diddordeb yn y mater- ion hyn i roddi eu barn ar yr awgrym- iadau uchod yn erbyn neu yn eu ffafr. Ymchwiliad Senghenydd. Achwyna Swyddogion y Ffederashwn fod yr Ysgrifennydd Cartrefol yn hwyr- frydig iawn yn danfon allan adroddiad o'r Ymchwiliad Swyddogol fu yn eis- tedd ar achos Tanchwa Senghenydd. Mewn atebiad i Mr. John Williams, A. S.. yr hwn dalodd ymweliad a Mr. Mac Kenna, dywedodd hwnnw fod vr adroddiad yn cael ei baratoi, ac y byddai yn barod mewn pryd fel ag i alluogi erlyniad ar y Cwmni, os y ceid eu bod yn euog o esgeulusdod a dueddai i achosi y galanaadra. Gweinidog Llafur. Ail gynhygiodd Mr Keir Hardie. A. S., ei Fesur yn Nhy y Cyffredin yr wythnos ddiweddaf i wneyd i ffwrdd ag anghyflogiad. Darperir yn y Mesur fod Gweinidog Llafur i'w benodi i eistedd yn y Senedd, a'i dalu yr un peth a'r Y sgrilellnydd Cartrefol. Disgwylid i hwn atal anghyflogiad (unemployment) drwy gysoni, mor belled ag y byddai yn bosibl, y galwad am lafur. Byddai am- ryw eraill o weithrediadau a chyfryngau llafurol o dan ei adolygiaeth. Gofynnir hefyd, fod Awdurdodau y Llywodraeth- au Lleol yn darparu cymaint o waith ag sydd bosibl i'r dynion hynny sydd o fewn eu terfynau, allan o waith. Strei Lcfaol yn Yorkshire. Y mae streic fawr lofaol wedi torri allan yn Swydd York, Lloegr, a thua 180,000 o lowyr wedi atal gweithio. Achosa hyn hefyd i tua 20,000 o weith- wYI" eraill yn gweithio mewn gweith- feydd ymddibynol ar y fasnaeh lo, fod yn segur. Annealldwriaeth yng nghylch v minimum wage, a dyfarniad Syr Ed- ward Clark ar y cyfryw, yw yr achos o'r streic. Trefnir i'r Meistri a chynrych- iolwyr y gweithwyr i gyfarfod yn Lllln- dain dydd Mercher er ceisio dod i ddealldwria4eth ar yr anghydfbd.

IAbertelf1 a'r Cylch.I

\ ,CLYN NEDD.\

Advertising