Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Beirdd y Bont.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Beirdd y Bont. GAN "BRYNFAB." I Fel y gwyr pawb sydd yn gwybod irhywbeth am y byd barddol, mae y Bont wedi bod yn enwog fel cyfan- ,eddle mwy o'r breuddwydwyr hyn na nemawr le y gwn am dano. Yr wyf yn gyfarwydd a'r Bont er's hanner canrif, ac o'r cof cyntaf sydd gennyf .am y lie, yr oedd yma doraeth o gnwd awenyddol. Ac o hynny hyd yn awr mae yr awen wedi cael ei meithrin yn ofalus yma. Nid wyf yn teimlo yn ddiogel iawn i fynd yn ol ym mhellach na'r adeg y gallaf fod yn sicr o'm Ilwybrau; mae yn digwydd yn ami i ddyn goch- elgar roi ambell dro gwyrgam pan yn ymddibynnu ar eraill am y cwrs a gymer. Ond anawdd gennyf beidio rhoi tro am ddau neu dri o feirdd fu yn byw yma cyn i mi osod troed yn y lie. Un o'r cyfryw oedd Gwilym Mor- gannwg. Mae efe wedi mynd i .orffwys er's dros driugain a deg o flynyddoedd. Cyfaneddai yn y New Inn, y gwesty bychan gwledig hwnnw, a safai ar un neu ddwy o ystafelloedd y casteil presennol. Dichon fod rhai yn barod i feddwl nad oedd gwesty yn lie cydweddol liawn a bonedd yr awen. Ond rhaid ;i ni gofio fod Gwilym Morgannwg yn cadw gwesty yn y dyddiau hynny, pan nad oedd Seneddwr wedi meddwl am ddeddfu i reoli safnau dynion sychedig nag ychwaith angen am hynny—yn y dyddiau gogoneddus pan nad oedd un heddgeidwad yn y lie nag angen am dano, na neb wedi dychmygu nas gallasai dynion ym- ddwyn yn weddaidd heb ddal pastwn deddf uwch eu pennau. Dyna y cyfnod yr oedd Gwilym Morgannwg yn byw yn y Bont. Yr oedd ef yn wahanol i'r beirdd oedd yn cydoesi ag ef yn y cylchoedd hyn. Yn ei ddyddiau ef beirdd y Tribanau oedd yn enwog ym Mhontypridd; ond am Gwilym yr oedd ef yn feistr ar fesur- au Cerdd Dafod. Tyrrai disgyblion tua'r New Inn o bob cyfeiriad ar ddiwrnod marchnad, a dychwelent i'w cartrefi wedi cael Uawer o wersi yn y grefft farddol. Yr oedd Gwilym yng gwesty y New Inn yn adeg Eisteddfod fawr Caerdydd yn y flwyddyn 1836. Yr oedd y diweddar Archdderwydd Clwydfardd wedi cerdded bob cam o Ddinbych i'r Eisteddfod, gan alw .am noswaith o lety gyda Gwilym. Ceir rhai yn edrych yn gilwgus ar westy yn ein dyddiau ni. Ond yn nydcjiau Gwilym Morgannwg- bu Gwesty y New Inn yn foddion i gadw canwyll yr awen i losgi yn oleu yn y Bont. Ychydig sydd yma heddyw yn cofio .am John Thomas (Ieuan Ddu), a'r sawl sydd yn cofio, cofio am dano fel cerddor y maent, ac nid fel bardd. Dichon mai yn gerddor y ganwyd ef, ac iddo ymddadblygu yn fardd er mwyn gosod y byd cerddorol mewn trefn. Ysgolfeistr o dan yr hen or- uchwyliaeth ydoedd. Bu yn cadw ysgol mewn dau neu dri o fannau o'r Bont i Drefforest. Dywedais ei fod yn cadw ysgol. Yn ein dyddiau ni yr ysgol sydd yn cadw yr ysgolfeistr. Mae yn y Bont a'r eyleh amryw o ddisgyblion Ieuan Ddu-rhai wedi dechreu cerdded llwybrau addysg o ,dan ei gyfarwyddyd. Dichon y gellir ei restru ef, Miss Williams, Aber- pergwm, a Phencerdd Gwalia fel y cymwynaswyr pennaf a welodd cer- < ddoriaeth Gy.nreig yn ystod y ganrif • o'r blaen. Llafurient hwy ar y maes cerddorol, pan oedd y gweithwyr yn brin, a'r cyfleusderau i wneud hynny yn brinach, Saif enw Ieuan Ddu wrtho ei hun ar y maes hwn hyd heddyw. Casglai yr hen alawon Cym- reig o ymlon angof, a phan na allai gael geiriau iddynt cyfansoddai rai ei hunan, a hynny gyda medr di- gamsyniol. Yn y Cambrian Minstrel fe geir nifer fawr o'r alawon Cymreig wedi .eu priodi a geiriau y bardd-gerddor ,ei hun, a gellir dweyd yn ddibetrus nad oes ond nifer fechan o feirdd ein dyddiau ni-yn hen nac yn newvdd, a fedrant gyfansoddi pethau mor gyfaddas i gerddoriaeth. Anwybyddir llawer o'r alawon a gasglwyd ganddo gan gantorion clasurol Cymru, a phriodir llawer 6 honynt gyda geiriau mwy heglog a diymadferth nag eiddo yr ysgol- feistr gwledig. Gwrandewch mor ystwyth y medrai blethu ei benhillion-- YN IACH I TI, DYWI. Yn iach i ti, Dywi, yn iach i I r I cvsgodau Y sefais i danynt i weled dy donn Yn iach i'r holl nentvdd arianber eu ffrydiau, Barablent hyfrydwch yr hafddydd i'm bron. Yn iach i ti, Dywi, yn iach i'r blyn- yddau Roedd troion fy mywvd fel troion dy ddwr; Pan medrwn bob hafddydd dy ddilyn trwy'r dolydd, Ac eistedd lie safet ar lennydd di- stwr. Gwrandewch eto fel y medrai ei awen fod dipyn vn gellweirus ar y don, "Distyll y Domen :— Y GLECWRAIG. Mae gwraig gan Rhys y Crythwr Wyr hanes pawb a'u cyflwr, Hi âi o'r Gogledd pell i'r Dê, Gwnai heb ei the a'i siwgwr, I ddilyn y glee. At orchwyl ty y borau Ni chodir hi a chlychau; Ond pe bae'n ffrae ar dorriad dydd, Twt, yno bydd heb 'scidiau Am gyfran o'r glee. Un iaith mae Sian yn wybod, Er hyn, ond yw'n beth hynod? 'Does un iaith na ddealla hi Os byddir ynddi'n trafod Materion y glee. Claddwyd leuan Ddu ym Mynwent Eglwys Glyntaf. Codwyd cofadail ar ei lwch gan ei gyfeillion, ag arni yn gerfiedig y toddaid canlynol o waith Watcyn Wyn- "Pwy un a gollwyd? Pa enwog allu Heddyw a flaenodd? Pwy wnaeth ddiflannu? Athraw'n Haddysg, a thwr awen- yddu, Hen delyn cenedl, Handel ein canu; Yn niwedd oes, Ieuan Ddu-aeth i'w fedd, A'i lawn ogonedd o'i 61 yn gwynnu." Yn y fan hon dymunwn grybwyll fod ei gofgolofn erbyn hyn wedi ei hanurddo yn fawr gan "draed y gwlaw a'r gwlith." Y mae hefyd yn gogwyddo tua'r ddaear, ac os na theimla cyfeillion cerdd a chan awydd am ei hunioni, bydd, ar fyrr o dro, yn gorwedd ar lwch Ieuan Ddu, yn lie sefyll yn syth i'w goffau ac i ennyn yng nghalonnau beirdd a cher- ddorion yn oes hon awydd am i ddeu- parth o'i yspryd ddisgyn arnynt. Pwy gychwyna y mudiad i drwsio ychydig ar ei gofgolofn? Ychydig bunnoedd fyddai eisiau i'w rhoi yn drwsiadus am flynyddoedd lawer eto. Pan fum wrthi ddiweddaf yr oedd y danadl a'r mieri o'i hamgylch yn drweh. Gresyn fod bedd un a wnaeth gymaint dros ei ardal a'i wlad yn cael ei esgeuluso. (I barhau.)

"Cenhinen Gwyl Ddewi."

0 Wy i Dywi. ,- ;

Advertising