Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND C.. ".oJ. H T. d PIANOS AND PIAN08 AND ACL heapest LU House In t.h. e T Trad. e. AMD ORGANS. Cheapok House in the Trade. ORGANS. ESTEY80RGAN AGENCY, 24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- BWAN8EA 38, Castle-Btreet. PONTYPRIDD 6, Taff-street. NEWPORT .is, Commeroial-street. GLOUCESTER.42, Eaatgate-etreet. LLANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL. 142, Newtoundland-road. MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND 1, Wy*ndbam -street. Terms i Hire System, from 1 0/- Monthl. rs- Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN,' OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 43a,hCommeroiai Street, Aberdare. PtUOKS MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. A GRAND Eisteddfod will be held (in aid of the Cottage Hospital) at the Aberaman Park, Aberaman (Kindly lent by E. M. Hann, Esq.,) on Whit-Tuesday, June 2, 1914 when upwards of JE350 will be offered in prizes. CHIEF I'lEMS:- Chief Choral: "0 Great is the Depth" (St. Paul). 1st prize .£40; 2nd prize 910. Male Voice: Pilgrims (Dr. Parry). 1st prize JE30; 2nd prize JE10. Second Choral: Ar tan Iorddonen ddofn (T. Gabriel). 1st prize 410; 2nd prize ie5. Juvenile Choirs: "Song of Hoiiday" (E. T. Davies). 1st prize t7 2nd prize t2; 3rd prize .£1. Brass Bands: (Class B.) "St Paui." Prizes iClS. Pryddest: Gwobr JE3 8s., a Chadair gwerth 23 3s. Ambulance, Essays, Recitations, Solos, etc. For full particulars see Programme, to be obtained from the Secretaries—Hande Harris, 628 Brook Street, Aberaman; W. 0. Lloyd, Isfryn, Cwmaman. FFORESTFACH (NPr SWANSEA). -.L- THIRD ANNUAL Grand CHAIR EISTEDDFOD Whit-Tuesday, June 2, 1914. CHIEF ITEMP. Male Voice Competition, "The Assyrian Came Down (Cyril Jenkins), je20 and a Gold Medal. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Mixed Choral, My love's like a red, red rose (Emlyn Evans), gio iz a framed Enlargement. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Children's Choral. Sweet and Low (Barnby) 1st Prize,.t5 and a Silver Cap; 2nd Prize, £2 and value 7/6. Mining Essay, Explosions in Mines, their causes, and bsat means for their prevention. Prize 21 1116 Drawing of King <& Humble Improved Detaching Hook, £1 1/ Drawing of Stoke's Safety Lamp, £ 1 1/- Rope Splicing (short splice), let £ 1 1/ 2nd 10/6. Ambulanoe, 1st X2 2/ 2nd £ 1 1/ Individual Competition, 1st 7/6; 2nd 2/6. Solos (Vcoal and Instrumental), Literary, Instru- mental Quartette, L2. Arts and Crafts Competitions. For further partioulars see official Programme, post free Hd., from the General Secretary- DAVID JENKINS, Gendros, Fforestfach, near Swansea. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwrn, Gorphenaf 11, 1914. CORAU MEIBION, Castella (Dr. Protheroe) GwobrJE20 CORAU CYMY8G, "My Love is like the red, red Rase (D. Emlyn Evans) ieio AIL-GORAU MEIBION, "In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) ".£6 PRIF FEIBNIAD Dr. DAN PliOTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddlwrth D CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Treorchy Annual Eisteddfod IVHIT TUESDAY & WEDNESDAY, 1914 ADJUDICATORS Dr. McKnight, Dr. Coward, Emlyn Davies, Esq.. A.R.C.M., Brynfab, &c. COMPETITIONS Chief Choral, .£100: Second Cbcral, X15 Chief Male Voice, £ 30—40 Second Male Voice, JB10 Juvenile Choir,.210; Poem, 3 Guineas and Chair. Brass Bands, Ambulance, Home Nursing, Needlework, Drawing, Shorthand, Poetry Recitations, &c, Program Des, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. GOWERTON So EISTEDDFOD, MAY 23rd, 1914. Male Voice Choirs, £ 25 ;*Mixed Choirs, .£12; children's Choirs, £10; Solos (each) f2 2a. & 91 Is. Soles (Children) 10/6 and 5/- Programmee now obtainable (211. rnat frcei from the General Secretary, Mr. W. T. MORGAN Ivy Cottage, Gowerton. Eisteddfod Flynyddol Caerphili. SBPYDLWYD 1887. Llungwyn, Mehefin 1, 1914. I ( —f BEIBMIAID Canu-Dr. Vaughan Thomas, Abertawe Mr. W. J. Thomas, F.R C.O., Dowlais; Mr. J. Morgan Lloyd, Barri. Barddoniaeth, Traethodau a'r Adroddiadau-Y Paroh. W. Evans, B.A., Penybontarogwy; y Paroh. E. Pryce Jones, B.A., a Mr. Abraham Jenkins, B.A., Caerphili. Prif-ddarn Corawl, Theme Sublime" (Jephtha) 930 0 0: Corau Meibion, 1, Down among the Dead Men (Bantocki C20 0 0 Corau Plant, 11 Cadwen 0 Alawon Cymreig 11 (Tom Price) £15 0 0 Englyn, Yr Hydd» •• 10 6 Pryddest, -1 Murmur y MRr 93 3 0 Traethawd, Hen Gymeriadau Plwyf Eglwysilan" £ 2 2 0 Unawdau Offerynol, 91 1/- yr un; Unawdau Lleisiol, £ 2 2/- yr un Unawdau i Blant, 10/6 yr un. Gyrer am y Rhaglen, i'w ohael oddiwrth yr YsgrifeDydd- J. D. HUGHES, Rhosynfa, Caerphili. OS YDYCH, YN WIR, AM CHWERTHIN, DOWCH AM DRO I WELD "JAC MAR TIN." Chwareuir y Ddrama boblogaidd hon (GWAITH TYWI JONES) yn y FORWARD MOVEMENT HALL, TREFORIS, Can Barti Treforis a'r Cylch, NOS SADWRN, EBRILL 118g. Drysau yn agor am 7; dechreu am 7.30. Tocynau—2s., is., a 6c. DOWCH YN LLUOEDD. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), £ 40. Second Male Voice: Little Church" (Becker), P.S. Pro- §rammes (lid. post free) from-General ec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. Llanharan Eisteddfod Whtt-Tuesday, Jqne 2nd, 1914. CHIEF EVENTS: CHIEF CHORAL, Insulted, Chain'd." Prize £20. MALE VOICE, The Assyrian came down." Prize 915. SECOND CHORAL, Dyddiau Dyn sydd fel Glaswelltyn." Prize 97. Solos (Vocal <& Instrumental), Recitations, etc. for full particaars see Programmes, lid. post free, from the Secretary, J. THOMAS. BARGOED ANNUAL EISTEDDFOD Will be held On WHIT-TUESDAY, JUNE 2, 1914. Mixed Choirs, 0 Father, whose Almighty Power" 20 0 0 Male Voices, "Valiant Warriors" 15 0 0 Juvenile Choirs, Action Song 4 0 0 Brass Bands 15 0 0 Solos, Penillion, Recitations, Harp and Ambulance for Male and Female. Awdl, Essays, etc., etc. Programmes, 1-,Id. post free. Hon. Secretary, Workmen's Institute, Bargoed. -u_- -< ARGRAFFWAITH DA, BlAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn oeir Esiamplau o Adroddiadau Eglwysig, lestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, Ac. Pellseinyda Centra) 161. Cofiwoh yr enw- THOMAS a PARkY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hoi; ein hawydd ni yw gyrru'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y geifyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM 8A.MPL4.U. Prepaid 8mall Advertisements Inserted at the following specially 10- rates: One week 4 wks. 13 wk. a. d. a. d. w. d 20 words 0 6 10 > t 28 0 9 a 3 » » 3H 1 0 3 0 7 These charges apply only to the folio- ing classes of advertisements :-Apart ment.s, Situations (Vacant or Wanted} To be Let or Sold, Lost or Found, aarl Miscellaneous Wants, ftemittancea may be made by font* Orders or half-penny stamps if Dot prepaid double rate will b" charged. Advertising and Publishing Cardiff Street. Aberdaro- CISTEOOFODAU OYFODOL. Sadwrn, Mai 23, 1914. Eisteddfod Gowerton. Llungwyn, Mehefin 1, 1914.-Eisteddfod Flynyddol Caerphili. Llun Gwyn, 1914.—Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrth-Gwyn, 1914.-Eisteddfod Aber- aman, Aberdar. Mawrth-Gwyn, 1914. Eisteddfod Gadeiriol Fforestfach, Abertawe. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Bargoed. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Llanharan. Mawrth a Mercher-Gwyn, 1914.—Eis- teddfod Flynyddol Treorci. Dydd Sadwrn, Gorph. 11, 1914.—Eis- teddfod Flynyddol Forge Fach, Clyd- ach, ger Abertawe. Hysbysiat., I o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Doebarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwaty4k yo hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i't holl ddosbarthwyr brydnawn yr an dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonant hysbysiadau neu newyddion "urgent* ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddU heb fod yn ddiweddarach na bore Mawrth. Carem gael bob gohebiaci^ arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob tra fodaeth yn dal perthynas a'r If Dariaa" i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG :— ] SWYDDFA'R DARIANJ" I ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lie. yr wythnos, 6ch. am fis, l/7j y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn. a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. Nid Amddiffyn Goreu TARtAN ond TARIAN. Cyfiawnder. Tarian y Cweithiwr. DYDD IAU, EBRILL 9, 1914. SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
I -.-Enwadaeth. II
I Enwadaeth. I I Dyma bwnc y dydd yn y byd cre- fyddol. Nid oes gylchgrawn na newyddiadur nad yw yn gwyntyllu'r cwestiwn. Beth amser yn ol ymddan- gosodd ysgrif ragorol o eiddo y Parch. T. J. Prichard, Gorseinon, ar y pwnc yn y "Darian"; addawsai eraill ysgrifau tebyg, ond ni chyflawnwyd mo'r addewidion. Yr I oeddem ninnau ar y pryd heb fod mewn hwyl i gymeryd y mater i fyny. Beth bynnag, y mae ysgrif yr Athro Joseph Jones o Aberhonddu vn rhifyn y Gwanwyn o'r "Beirniad" wedi ein temtio "i wncud ychydig sylwadau ar y pwnc. "Dydd yr Enwad ydyw, nid dydd y Deyrnas. Pwysleisio'r droedfedd frau y saif yr enwad arni yr ydys yn y Sasiwn, a'r Gymanfa a'r Undeb, yn lie atgofio'r byd bod Craig yr Oesoedd o dan draed pawb a ym- ddiriedant y,nddi.Felly y dywed yr Athro yn y "Beirniad," a dywed profiad pob dyn ystyriol ei fod yn dweyd calon y gwir. I Drygau Enwadaeth. I NToda'r Athro y cyfeiriadau y mae Enwadaeth yn gweithio er drwg yn- dchnt fel y canlyn ( I) Ymraniadau gresynus ac an- heilwng, oherwydd fod enwadau cre- fyddol sydd yn dwyn arnynt yr enw sanctaidd yn fynych yn ymddwyn at eu gilydd fel cynifer cystadleuwyr mewn rhedegfa. (2) Y mae Enwadaeth yn was- traffus ac aneffeithiol trwy fod cglwysi gwciniaid yn ymyl eu gilydd yn cystadlu mewn codi capelau nas gallant dalu yn anrhydeddus am danvnt. A'r gwastraff cyffelyb a geir ynglyn a llenyddiaeth enwadol. (3) 0 safbwynt cynnydd a dat- blygiad, diystyr a diangenrhaid yw Enwadaeth. (4) Dylanwada Enwadaeth yn afiach ar fywyd cyhoeddus y genedl. Paham, gofynna'r Athro, y mae'n rhaid i hawliau enwad flaenori ar y cwrnhwyster a'r profi ad hanfodol i lanw swvdd arbennig. Ategir y gosodiadau hyn gan res- ymau a ffeithiau nas gellir eu gwrth- ddywedyd. I Beth Ellid Wneud? I Clywais ddywedyd o Mr Spurgeon mewn atebiad i rywun mai'r ffordd oreu i uno'r Enwadau oedd peidio treio. Po fwya'r ymdrech, meddai, i'w cael at ei gilydd, pellaf oil yr aent oddiwrth eu gilydd. Yr oedd hynny yn wir flynyddoedd yn ol, ond nid yw yn gymaint gwir erbyn hyn. Credwn fod cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lie yn nheimlad yr Enwad- au tuag at eu gilydd yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Ni ddaeth yr amser i gael undeb mae'n wir, ond y mae cenhedlaeth newydd yn codi nad yw yr hyn fu yn achlysur i'r ymraniadau yn apelio ati, ac nad yw buddiant personol mewn enwad yn eu swyno. Ac er nas gellir gobeithio am uniad hollol yr enwadau yn fuan, ceir pobl gyfrifol o bob enwad yn awgrymu cyfeiriadau y gellid canoli lawer o nerth yr holl enwadau yn- ddynt. Awgrymir cael llyfr emynau rhyng-enwadol, cael un athrofa ddiw- inyddol i Gymru, un maes llafur i'r Ysgolion Sul, yr enwadau i wahodd pregcthwyr o enwadau eraill i'w huchelwyliau, cymanfaoedd canu undebol, etc. Ac yn sicr nid oes neb a lywodraethir gan ysbryd Crist nad yw'n barod i symud yn y cyfeiriadau hyn, a'r enwad na symudo fydd ar ei golled. Teg yw nodi hefyd fod cryn lawer o undeb rhwng enwadau a'u gilydd eisioes yn rhai o'r pethau, hyn mewn llawer cylch. Y mae cvfnewid pwlpudau yn beth cyffredin vmhlith gweinidogion. Ceir mewn llawer lie gymanfaoedd canu undebol. Y mae'r dosbarthiadau yn Athrofeydd yr Anni- bynwyr a'r Bedyddwvr ym Mangor wedi eu huno. Yn hytrach na bod dau athro da yn gwastraffu amser a nerth i ddysgu yr un pethau, a'r myf- yrwyr at eu gilydd. Y mae'r addysg a gant o ganlyniad yn fwy llwyr ac effeithiol, trwy fod gan yr athrawon lai o bynciau i'w dysgu, a'r myfyrwyr yn cael gwa'sanaeth chwech yn hytrach na thri o athrawon. Gwelir felly nad oes angen ond myned ymlaen ar lwybrau yr ydys eisioes wedi dechreu eu rhodio. Beth am y Bedyddwyt? Ni roddwn i fyny i neb yn ein teyrngarwch i'n henwad. Credwn yn ddiysgog yn ysgrythyroldeb ei ddaliadau ar ddull a deiliaid bedydd, ac y mae'n dda gennym fod y cyfeir- iadau a wneir ato gan y rhai sydd eisioes wedi ysgrifennu ar enwadaeth yn barchus. Cvdnabvddir yr an- hawsdra a deimla Bedyddwvr cyd- wybodol i ymuno mewn Cymundeb ag enwadau craill. Credwn, er hynny, nad yw enwad y Bedyddwvr mor amharod ag y bu i ystyried cwestiwn y Cymundeb. Y mae rhai o'n gweini- dogion parchusaf yn credu mewn Cymundeb Rhydd ac yn ei arfer. Credwn fod camrau y gallai'r Bed- yddwvr fel enwad eu cymeryd yn y mater hwn heb beryglu dim ar yr hyn a gredir yn ddiameu yn ein plith, ac heb fod achos ofni i ni wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd. Mwy na hyn, credwn fod Cymundeb mor gaeth ag y'i harfcrir gan y Bedyddwvr yn anghyson a dysgeidiaeth yr enwad ei hun gydag golwg ystyr a deiliaid bedydd. Fel arwvddlun o ymgvseg- riad enaid i Dduw yr edrychir gennym ar yr ordinhad hon. Yn yr ym- gysegriad y c&'r bedydd ei ystyr. Nid oes dim a ddysgir yn fwy pen- dant gennym na'r angenrheidrwydd am gyfnewidiad mewnol i flaenori yr hyn a fwriadwyd 1 fod yn arwydd gweledig. Ni fedyddiwn neb ond ar ddatganiad o'i argyhoeddiad. Ac yn sicr yr ydym yn barod ar y tir hwn i gydnabod y gall ddigwydd i rai gael argyhoeddiad mewn amgylchiadau y byddai gweinyddu'r ordinhad allanol yn amhosibl, o herwydd llesgedd corff neu ryw anghyfleustra arall. A chaniatau, ac o safbwynt y Bed- yddwyr yr ydym yn siarad, cofier, fod yr enwadau eraill yn cyfeiliorni gyda golwg ar fedydd, rhaid cvdna- bod y gall y cyfnewidiad mawr fod wedi cymeryd lie ynddynt hwy fel ynom ninnau. Ac os ydynt yn dod i fyny yn ysbrydol ag amodau y Devrnas, y mae yr enwad a'n cauo allan o Gymundeb yn gwneud cam 1ag ef ei hun. Y mae dau beth pwysig y gallai'r Bedyddwvr eu gwneud ynglyn a'r Cymundeb heb yn y mesur lleiaf aberthu eu hargyhoedd- iadau eu hunain, sef (I) gwahodd i gyd-gymuno a hwynt ymwelwyr o enwadau eraill fyddont yn bresennol; (2) derbyn i aelodaeth rai o enwadau ereill ddigwyddont ddod i ardal lie na fo cyfleustra iddynt ymuno a'u hen- wad eu hunain. Credwn fod cyson- deb yn gofyn am i'r Bedyddwyr symud can belled a hyn. Pethau i'w Hosoi. Os am symud ymlacn i gyfeiriad undeb a chydwcithrediad, y mae rhai pethau y dylasai pob eglwys o bob enwad osod eu hwyneb yn eu herbyn. Y pennaf o'r pethau hyn yw cystadleu- acth am y bobol. Dylasai 'r gystadleu- aeth fod nid am v bobol ond am ragoriaeth mewn rhinwedd a daioni. Y gystadleuaeth anystvriol am y bobol sydd yn cyfrif am fod yr eglwysi heddyw yn' colli'r bobol. Y mae gormod wedi bod o'r hyn alwai'r proffwyd yn "iaehau briw merch fy mhobl yn ysgafn," a hynny i ddi- benion enwadol. Y mae miloedd wedi eu tynnu i fewn i eglwysi heb fod pwysigrwydd y cam a gymerent wedi ei wasgu arnynt, er mwyn chwyddo'i" nifer ac i'r eglwys gael enw o fod yn fawr, neu o bosibl i'r gweinidog gael enw o fod yn llwyddiannus. I'r un amcan cedwir i fewn rai y byddai yn well i'r eglwys ac iddynt eu hunain fod allan. Yr enwad, neu'r eglwys, fel yr dywed yr Athro Joseph Jones, ac nid y Deyrnas sydd mewn golwg. Dioddefa pob enwad heddyw oddi- wrth y dllldd hon. Os nad ydym yn camgymeryd fe ,ddioddefa Eglwys 1 Loegr yn y dyfodol fwy oddiwrth yr hudoliaethau a ddefnvddir y blynydd- oedd hyn i gael pobl i'r eglwys nag. a ddioddefai oddiwrth Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad. Nid oes dim mor sicr a ddirywio bywyd gwlad a chwar- eu a chellwair ag aelodaeth eglwysig. Peth arall y dylid ei osgoi yw cym- eryd mantais anheg ar weiniaid o en- wadau eraill. Y mae cyflogwyr mewn llawer ardal yn feius iawn yn y peth hwn. Gorfodant eu gweision a'u morwvnion i fynd i'w capel hwy yn hytrach nag at yr enwad y dygwyd hwy i fyny ynddo. Tua'r adeg y dochrcuais fy ngweinidogaeth mewn eglwys fechan, dywedodd un hen wraig wrthyf ei bod wedi cyflogi mor- wvn, a'i bod wedi llwyddo i'w chyflogi i ddod i'r capel hefyd. Na, meddwn wrthi, gadewch hi'n rhydd o'r rhan olaf o'r cytundeb, beth bynnag; byddai yn well gennyf gapel a dim ond dau neu dri ynddo na chapel llawn o rai gyllogwyd i ddod vno. Ei hateb oedd fod yr cnwadau eraill yn gwneud hynnv ac fod yn deg i ninnau fachu hynny fedrem. Ond nid oeddwn o'r un farn a hi. Yr oedd y capel yr arferasai'r eneth fynd iddo yn ymyl y ty, a chafodd harhau i fynd yno. Poen i mi tra fum yn yr eglwys honno oedd gweled eisiau yn bur ami fechgyn a merched arferasent ddod yna, a phan holwn yn cael allan eu bod wedi eu cyflogi i fynd i ryw gapel arall. Wrth ddysgu plant i ddiystyrru eu henwad eu hunain, nid! rhyfedd eu bod yn y man yn mynd i ddiystyrru pob enwad ac o bo'sibl i ddiystyrru crefydd. Yno yr oedd y cryf o'i fodd yn bwyta blodau'r gwan. A pha enw a roddid ar ymddygiad felly mewn cylchoedd bydol? Ni waeth pa fesurau a gymerir i geisio undeb yng Nghymru hyd nes y rhodd- er hcibio'r gystadleuaeth am y bobol ac y dysgo'r eglwysi a'r enwadau ymddwyn yn anrhydeddus tuag at eu gilydd.
i i Ar Lannau Tawe.
Ar Lannau Tawe. Golwg ddymunol oedd ar fynwent- ydd Clydach a'r cylch y Sabath di- weddaf-Sul y Blodau. Yr oedd addurr¥ad y beddau yn amlygiad o adgofion tyner am y meirw. Cynhaliwyd cyfarfodydd blvnyddol yng Nghapcl Methodistiaid, Salem, Clydach, y Sul diweddaf, a daeth cynulleidfaoedd lluosog ynghyd. Gwasanaethodd y Parch. H. Barrow Williams, a thraddododd bregethau hyawdl a meddylgar. Cynhaliwyd cyngerdd amrywiaethol' o dan nawdd y Clydach R.F.C. yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos, Sadwrn diweddaf, pan y cymerodd y Fonesig Annie Burchell, Treherbert, a'r Bonwyr Richard Jones, Clydach; John W. Jones, Clydach; Joe Mor- gan, Pontardawe; David Williams, Clydach, a Seindorf Bres Calfaria, dan arweiniad y Bonwr John T. Jones, ran yn y rhaglen. Cafwyd noson ddiddorol yn Neuadd- Mond, Clydach, nos Iau yr wythnos. ddiweddaf, pan ddarlithiodd Mr F. J. Bloomer, goruchwyliwr, yn Saesneg ar y testyn, "Weymouth and Dis- trict," i luaws o wrandawyr. Danghosodd yr hud lusern nifer o ddarluniau prydferth, a chymerodd y Bonesau Ethel Thomas a May Harris, a'r Bonwyr T. D. Jones, Poole, ac Abner Roberts ran arnryw- iaeth. Pleserus ydyw clywed fod Cym-. deithas Clydach a'r Cylch wedi anfon cyfran o ^41 i drysorfa y Gymdeithas Feiblaidd am v flwyddyn bresennol. f)vnia'r gyfran fwyaf hyd yn hyn o, Glydach. Cynhaliwyd cyfarfod a gwledd dan. nawdd Cvmdeithas Ddirwestol y Merched vng Nghapel Bethel, Clyd- ach, prynhawn Mercher yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd y chwaer Mrs Grey-Jones, Heol Penywern. Siaradodd y Parchedigion D. Christopher Davies, cenhadwr a lannau Congo, a D. Eiddig Jones, Hebron. Canodd v Bonesau Mrs Reuben Hill a Miss Miriam Stephens yn swynol yn ystod y cyfarfod. Terfynodd Cvmdeithas Pobl leuainc Calfaria, Clydach, ei thymor nos- Fawrth yr wythnos ddiweddaf, pan ddarllenodd v chwiorydd Mrs D. Hill, Heol Martin, a Miss Sarah John, Heol Twynybedw, ddau bapur rhagorol. Llywyddodd y Parch. T. Valentine Evans, gweinidog, a chym- erodd Mrs Grey-Jones, Mrs T. V. Evans, D. Roderick, a Mri. D. Christopher Davies, Samuel Jones, D. Roderick, Geo. Davies, W. Wal- tërs, C. J. Jones, a Miss Annie Jones, ran mewn siarad a chanu. Gwasan- aethodd Mr Sam Boundy fel cvfeil- ydd. Rhoddodd y Parch. John Lloyd, Esgob Abertawe, fedydd esgob i nifer o ferched a meibion yn Eglwys Sant Mair, Clydach, nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf. Nos Sul wythnos i'r diweddaf or- deiniwyd y brodyr Daniel Jones, W. Aaron, D. J. Williams, David Beynon, a R. Rees yn ddiaconiaid yn Eglwys Moriah, Ynystawe. Gwasan-. aethodd y Parch. T. Thomas, gweini- dog. X LLEW.