Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Nodion o Abertawe.
Nodion o Abertawe. Mae yn hyfrydwch gennyl gyd- synio ag awgrym y Golygydd cragwr- us yn y Darian yr wythnos o'r blaen a "gwella gwall" o'm heiddo parth nifer siaradwyr y Gymraeg. Dylaswn fod wedi ysgrifennu dros ddwy filiwn, ac nid "dros ddwy fil," ond rhoddai mwy o hyfrydwch i mi pe gallwn ysgrifennu dros ddwy fyrddiwn," ond rhaid ymfoddloni y tro yma ar y "ddwy filiwn." Ar gefn hyn carwn ofyn i'r Golygydd mwyn ai y fi oedd yn gyfrifol am ddweud am y darlithydd y "Synnai fod cyn lIcied o god cof-golofnau i'n harwyr a'n henwogion mewn mannau cyhoedd- us." Os y mae, nid oes cof gennyf yn awr beth fu'm yn yfed y diwrnod hwnnw. Tybed a ellir cymhwyso yr englyn- ion canlynol o waith "Trefinfab," Ynysybwl, yn y "Darian" tua lach-j wedd, 1893, at y pechadur- D-L Y WASG. D--l y Wasg sy'n dal o hyd—yn ben Hen boenwr y llenfyd; Yn ei ben mae'n dwyn y bvd I feio ar ei fywyd. Wag esyd olwg isel,-anaddas Ar lenyddol Uriel; Lien a'i swyh, cyll hon ei sel, A'i gwir achos goruchel. Erchyllig yr archolla,—ein meddwl A'n moddau wyrdroa; O'r frawddcg gall, ddiwall, dda, Y lef wreiddol lofruddia. Grym ni ad mewn grinia(leg,-a darnia Gadernid rhesymeg; Hithau dal gydmariaeth deg Hiraetha am ei rheitheg. Pwy oedd Trefinfab? A yw yn fyw yn awr? Diolch iddo am fenthyg arf a min arno. Y mater gafodd. sylw arbennig Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymraeg, Abertawe, nos Wener, Ebrill 3ydd, ydoedd y mudiad sydd ar droed gan Is-bwyllgor Gwyddor a Chelf i agor Orielau Celf Glyn Vivian a Deffett Francis ar y Sabath. Dywedodd yr ysgrifennydd ei fod am i'r Cyngor Trefol a'r dineswyr yn gylfredinoi sylweddoli fod y cyfarfod wedi ei alw yn arbennig i ystyried y mater hwn, a'i fod yr un mwyaf lluosog ei nifer a gynhaliwyd yn ystod y tair blynedd diweddaf, a thrwy hynny yn profi eu bod fel Cristionogion yn fyw i fater- ion pwysicaf y dydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. William Gibbon (A.), Henrietta Street, a dar- llenodd yr ysgrifennydd, y Parch. T. E. Davies (T.C.), Crug-glas, bender- fvniad crvf a chroew yn condemnio gwaith yr is-bwyllgor yn cymeradwyo i'r Cyngor 'rrefol agor yr Orielau a nodwyd ar y Sabath. Dywedodd y Parch. Penar Griffiths y dylcnt hwy fel eglwysi fanteisio ar yr amgylch- iad i siarad a'u haelodau ar y mater. Ni fu erioed, meddai, adeg pan yr oedd mwy o eisiau gwasgu ar feddyliau y bobl yr angen o dalu mwy o barch i'r Sabath. Datganodd y Parch. W. Prydderch (T.C.) ei hyfrydwch fod yr ysgrifennydd, yn ngeiriad y penderfyniad, wedi dangos yn eglur eu bod yn gwrth\vynebu y mudiad oddiar safon crefydd a Christionogaeth. Edrychai rhai ar y Sabath fel dydd i orffwys, ond dylent hwy fel eglwysi edrych arno fel dydd wedi ei neillduo i addoli Duw, a dyna'r agwedd ddylent fabwysiadu yn eu hymwncud a'r Cyngor Trefol. Dywedodd ei bod yn flin ganddo gyfaddef nad oedd y Sabath hedd- yw yr hyn a fu. Yr oedd y tadau wedi bod yn ddiysgog yn eu parch i'r Dydd, ac wedi ei drosglwyddo i ni yn ei burdeb a'i nerth, ond yr oeddem wedi ei golli. Os gadawent fel Cyngor Eglwysi Ryddion i bethau o'r fath gymeryd ITe, byddai i'r Cyngor Trefol eu hystyried yn ddim a neb. Gofynn- odd sawl eglwys oedd yn cael eu cyn- rychioli gan y pwllgor, ac atebodd yr ysgrifennydd mai tair-ar-hugain. Dywedodd y siaradwr ym mhellach mai 'diddorol fyddai cael llawn nifer yr aelodau gynrychiolid ganddynt. Yr oeddyiit yn ddigon cryf fel corff crefyddol i alw ar Gyngor y Dref i wrthod cydsynio a chais yr Is- bwyllgor ar y mater dan sylw. Siarad- wyd hefyd yn gryf ac i bwrpas gan y Parchn. D. Pictop Evans, D. E. Thomas, a M. G. Dawkins; hefyd gan Y Bonwyr John Price, Thomas Lewis, a Ben Davies, a mabwysiadwyd y penderfyniad yn unfrydol. • Nos Sadwrn, Mawrth 28am, yn Neuadd Llyfrgell Gyhoeddus, Aber- tawe, traddodwyd darlith hyawdl ar Modern Music" gan Dr. D. Vaughan Thomas, M.A., y cerddor adnabyddus. Sylwodd y Dr yr ystyrrid cyfansoddiadau Elgar yn hen yn awr mewn syniad cerddorol, ac i gerddoriaeth ddiweddar, fel yr adwaenwn ni hi, ddod i fodolaeth gyda Wagner. Yr oedd yn wir i Mozarth gyfansoddi cerddoriaeth yn ymylu ar y dull presennol, ond yr oedd WTagner gymaint o flaen ei oes fel ag i ddrysu y beirniaid, a'i gyfan- soddladau yn achosi llawer o ymrafael yo y cylchoedd cerddorol drwy Ewrop, yn enwedig ei "Tristram and Isolde." Rhoddodd y darlithiwr enghreifftiau ar y berdoneg o'r gwa- banol weddau ar gerddoriaeth y -U- 1,1II,1. io'I.7- cyffyrddai a hwy i foddhad digam- syniol y gynulleidfa. Cadeiriwyd gan Mr William James, Arwerthwr, a chyferiodd at athrylith y darlithydd a'i safle fel cerddor, a'i fod yn barod i wneud yr hyn allai gyda Dr Thomas dros gerddoriaeth aruchel yn y dref.
I Ferndale.,
I Ferndale. I GAN IOAN. Mawrth 28ain, yn Festri Penuel (M.C.) cynhaliwyd ymgomwest gan aelodau Cymdeithas Ddiwylliadol Penuel. Cafwyd arlwy i'r corph, a mwynhaodd pawb y ddarpariaeth. Gweinyddwyd wrth y byrddau yn siriol a charedig gan chwiorydd y Gymdeithas a'r eglwys. Ar ol y wledd cafwyd cwrdd amrywiaeth. Llywyddwyd gan Mr John Edwards, Ty Capel. Llywydd y Gymdeithas. Diolchodd ef i'r chwi- orydd am y wledd ac am weini. Caf- I wyd unawd ar y piano gan Mr Gwyn draeth Davies; deuawd gan Misses Esther Benjamin a Rachel Jones dadl gan Misses Esther Jones a Enid Newell; canu penhillion, Miss Mathews, Blaen- Ilechati unawd. Miss Ethel Rees parti. Miss Gwenny George drama Gymraeg, dwy ran, "frech Gwlad nac Arglwydd' unawd, Miss May Davies unawd ar y piano, Mr Idwal Jenkins unawd. Miss Benjamin; golygfa o "Enoe Huws" unawd, Miss Lizzie M. Davies; pedwar- awd, Jolly Pedlar." Canwyd penhill- ion Mr James Evans i'r wledd gan Mr Jonah Howells, a phenhiUion ar yr un testyn gan Mr John Lodwick Evans. Cyfeiriodd y llywydd at ymadawiad un o aelodau y Gymdeithas i Lundain, sef Mr William Lewis, mab Mr J. R. Lewis (Alaw Rhondda). Y mae wedi ei apwyntio'n athraw llawfer yn un o ys- golion Mr Pittman. Diolchwyd yn gyn- nes i swyddogion y Gymdeithas am eu llafur ynglyn a rhaglen y tymor a'r wledd odidog i'r corff a'r meddwl gaf- wyd ar y diwedd. Bu etholiad ynglyn a'r swydd o Ys- grifennydd Arianol i Ddosbarth No. 1 y Rhondda ynglyn a'r Ffederasiwn. Saif y pleidleisiau fel y canlyn :—Mr David Lewis, atalbwyswr. Tylorstown, 8,314; Mr John Hammond Llwynypia, 6,445; Mr. John Thomas, Cambrian, 5.292; Mr. John Morgans, atalbwyswr, Mardy, 5,155;, Mr. T. R. Thomas, Fern- dale, 4,273. Bydd etholiad terfynol ar y ddau uchaf dydd Tau,-F,brill 9. Nid rhyfedd gennym fod Mr D. Lewis yn uchaf y tro hwn eto, am fod ei wasan- aeth mawr i'r gweithwyr ar hyd y blynyddoedd mor gymeradwy gan- ddynt. Y mae ei gymeriad moesol hefyd uwchlaw amheuaeth, a'i nod bob amser yw cynhildeb a phwyll ynglyn a materion y gweithwyr. Mawrth 29ain gwasanaethwyd yn Eglwys y Tabernacl (A.) gan Mr D. Ed- wards, B.A., Merthyr Tydfil, efrydydd yng Ngholeg Aberhonddu. Yn y pryn- hawn traddododd anerchiad i ddos- barth o fechgyn ieuainc ar Drothwv Bywyd." Gwerthfawrogid yr anerch- iad yn fawr. Blin fydd gan liaws cyfeillion y Parch. Isaac Jones, gweinidog parchus I Salem Newydd, ddeall ei fod eto wedi ei analluogi i bregethu er vs rhai Jyth. nosau, ac wedi ei gaethiwo yw wely. Mr Jones yw y gweinidog hynaf yn y lie, er fod yr hynaf o'r gweinidogion yn y lie yma erys dros 26ain o flynyddoedd, sef y Parch. B. Watkins, Penuel (M.C.). Dymumvn i Mr Jones adferiad buan. Mawrth 27ain, yn Nazareth (B.), Blaenllechau, cafwyd cyfarfod politic- aidd o dan lywyddiaeth y Parch. T. Humphreys. Cafwyd anerchiad grymus gan Aelod Dwyrain Morgannwg, Mr. Clem Edwards, A.S. Cafodd Ymreol- aeth i'r Iwerddon, Dadgysvlltiad, a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru sylw helaeth ganddo.
1 ! L;wynbrwYdraU. i
L;wynbrwYdraU. Cystadleuol. — Nos Fercher, Ebrill iaf, cynhaliwyd cyfarfod cys- tadleuol gan Gymdeithas Ddiwylliadol y lie. Y cadeirydd ydoedd y Parch. T. C. Lewis. Clorianwyd y canu gan Mr W. J. Williams, L.T.S.C., Sciw- en; yr amrywiaeth gan Alarch Ogwy, a'r prize bags gan Mrs Clement, Bryn y Mor. WTele'r buddugwyr:- Unawd i blant, Caroline Rosser. Ad- roddiad i blant, i, Olive Roberts; 2, Lilian Davies. Prize bag, Miss Sarah Williams. Araith ar y pryd, Mr D. M. Phillips. Sain Glust, Miss Sarah Williams. Unawd Bass, Mr T. James Jones, Belle Vue. Parti o ddeuddeg, Parti Ehedydd Samlet. Y cyfeilydd ydoedd Mr Willie Roberts, a'r ys- grifennydd Mr W. J. Lewis. Llwyddiant. — Rhydd bleser di- gymysg i ni longyfarch Mr Garnet E. Jenkins, Belle Vue, ar ei waith yn pasio yn llwyddianus un o arholiadau Bwrdd Masnach. Nid yw ond ieuanc eto, ond y mae wedi bod am amryw flynyddoedd yn beiriannwr ar un o'r agerlongau fu'n masnachu mewn parthau Dwyreiniol o'r byd. Yn ddi- weddar gadawodd y mor, ac eistedd- odd arholiad am "surveyorship" o dan Fwrdd Masnach, a bu'n llwydd- ianus. Cafodd le yn Glasgow, ac y mae wedi dechreu ar ei waith. Un o blant Ysgol Sul Llwynbrwydrau ydyw, a theimlir yn falch o hynny. 1 GOLWG Y MOR.
I HWNT AC YMA.
I HWNT AC YMA. I GAN LYWELYN. Llongyfarchwn Gwili ar ei ddewis- iad yn Olygydd "Seren Cymru." Disgwyliwn weled y Seren" yn siriolach nag erioed. Ni fedd enwad y Bedyddwyr lenor mwy coeth, na phregethwr mwy meddylgar na Gwili. Credwn fod ei ddewisiad hefyd yn un o arwyddion yr amserau yn yr enwad. Mantais fawr fydd cael gwr fel efe i arwain barn a meddwl yn yr amseroedd presennol. Amheuthyn yw darllen ysgrif y I'arch. T. Shankland ar Oronwy Owcn yn y "Beirniad." Hyd yn hyn dilynasai cofianwyr Goronwy yr hen chwedl Forisaidd am gymeriad Goronwy a chymeriad ei dad, a cheisid ategu hon trwy ddehongliad oedd yn anghywir o rai pethau a ys- fenasai Goronwy ei hun. Y mae Mr Shankland eisioes wedi chwalu,r hen dybiaeth mai sotyn meddvv oedd Owen Goronwy, y tad, ac addawa roddi i ni mewn ysgrifau sydd i ddod well syniad am gymeriad Goronwy ei hun. Y mae wedi darganfod ffeithiau newyddion sydd yn ategu pob gair a ddywed, ac yr ydym yn teimlo fod ein traed ar dir cadarn pan yn ei ddilyn. Gwna hafog ar holl gofiantwyr blaenorol y bardd. Ysgrifau Mr Shankland fydd cofiant safonol Gor- onwy Owen o hyn allan. Y peth sydd yn ddiddorol i mi yn yr ysgrifau hyn yw eu bod yn cadarn- hau argyhoeddiad hen frodorion meddylgar Llanfair Mathafarn fod Goronwy yn cael cam mawr ar law'r Morisiaid. Nid wyf yn cofio i mi siarad a chymaint ag un a gymerai rywfaint o ddiddordeb yng Ngoronwy nad oedd yn wfftio y desgrifiad o'r bardd a roddasai Lewis Morris yn un o'i lythyrrau, a phriodolent yr hen, chwedl a gychwynwyd gan frodyr Pentre Eiriannell i ryw ysbryd an- heilwng a'u llywodraethai. Cefais y pleser o wrando hefyd ar y Parch. John Williams, Bryn- siencyn, yn darlithio yn y Tabernacl, Llanfair ,(C.M.), ar Oronwy. Pro- testiai yntau yn erbyn y driniaeth anheg a gawsai coffa'r bardd ar law ei gofianwyr, a phrofai nas gallai llawer o'r hyn a ddywedasid am dano fod yn wir. Dal i gredu yng Ngoron- wy fynnai llawer, a melus i'r rhai hynny yn awr yw deall y ceir y gwir yn ysgrifau manylgraff Mr Shank- land. Nid yw ymchwiliad Mr Shankland yn gyflawn gyda golwg ar le gen- edigaeth Goronwy, ond sicrha nad yn y Dafarn Goch, Eely tybasai Uawer, y bu hynny. Gyda golwg ar hyn eto, y mae hen draddodiad yn yr ardal o hyd mai mewn tyddyn bychan ger- llaw, o'r enw Tandinas v ganed ef. Synnwn i ddim na chadarnheir hyn eto gan yr hanesydd o Fangor.
Uddiar Lechweddau Caerfyrddin.
Uddiar Lechweddau Caerfyrddin. Llechweddau Eisteddfodol iawn yw'r llechweddau hyn. Heno wele Eisteddfod yr Ysgoldy Pontyates. Gwener y Groglith wele Eisteddfod yn Bethel, Tumble, ac wyth o feirdd yn vmdrechfa'r gadair am bryddest ar Gethsemane a'r cawr Morleisfab yn cloriannu, a'i fab-yng-nghyfraith, Mr Griff Williams, ysgolfeistr, Pont Henry, yn cloriannu y cerddorion. Yr un dydd yn y Meinciau wele un arall. Eisteddfod bwysig yw un y Meinciau. Nid oes neb yn y wlad yn gallu gwneud Eisteddfod i dalu fel Moriah, Meinciau. Dr. Christmas Williams, Merthyr, glorianna y cerddorion, ac un o feirdd y llechweddau y beirdd, ac y mae cynifer a 13eg yn cynnyg jam y gadair am bryddest i'r Maes I Gwenith. Bydd Eisteddfod arall yn Nazareth, Pontyates; Llun y Pasc, gwyr "y Cwm Mawr eto yn ymroi ati, heblaw man Eisteddfodau ereill. Parhaed yr ysbryd Eisteddfodol ar y Llechweddau. Angladd a phriodas welwyd ym Mhont Henry yn dilyn ei gilydd ychydig ddyddiau yn ol. Angladd plentyn Mr a Mrs Jones, Farmers, Pump Heol, a phriodas Mr Thomas, Caepompren Fach, Pontyates, a Miss Thomas, Pendderw. Yr oedd y briod- as yn un boblogaidd ia-,A,-n-v ddeu- ddyn ieuanc yn rhai cymeradwy yn y fro. Mae y Babell Rechabaidd yn y parthau hyn ar gynnydd rhyfeddol, a llawer yn teimlo mai un o'n hangen- ion pennaf yw Diwygiad Dirwestol. Nos Fercher diweddaf areithiwyd yn wresog yng nghwrdd plant Horeb gan frawd o Gwaun-cae-gurwen ac un arall o Lanelli. Deallaf i amryw o'r ffordd hon fod i fyny yn y cwrdd Rhyddfrydol yn Ammanford y Sadwrn diweddaf, a chlywais fod Towyn, ein Haelod Sen- eddol, yn ffyddiog na fydd etholiad hyd nes y del y Mesurau sydd o flaen y Scnedd yn ddeddfau y wlad. Gresyn meddwl fod amryw y ffordd hon wedi llaw-nodi y ddeiseb. Yn wir, rhaid holi mewn llawer man, mewn llawer lie, PIe mae'r ysbryd hunan-aberthol fu'n nerthu ein tadau a'r mamau yn eu sel dros ryddid a thegwch. Disgyned ysbryd y tadau a'r blant meddal yr oes hon. I MYRDDIN MIN Y MOR.
; Arwyddion yr Amserau.
Arwyddion yr Amserau. Ardderchog yr Hen Gorff am ddeffro o ddifrif er diogelu yr hen Gymraeg. Golyga ymdrech aruthrol, ac mae anobaith yn sibrwd fod y gorchwyl yn amhosibl. Beth os ydym fel cenedl wedi cysgu rhy hwyr ac yn awr yn deffro drannoeth ein cyfle. Y gwir yw mae iaith Hengist wedi cael llifo yn ddirwystr drwy'r gwlad er's degau lawer o flvnyddau. Mae Sais-addoliaeth, ei iaith, a'i arferion wedi lledu fel haint. Gwyddom am ardaloedd lie ceir Cymry pur wedi gildio'r Gymraeg heb daro ergyd o'i phlaid. Mae gwaseidd-dra ein cenedl yn ein gyrru'n wallgof ar adegau. Mor ddifraw, mor ddifater mae lluoedd o Gvmrv tra mae arferion aflan yr estron vn difrodu Cymru o'i nod- weddion hardd. Cadwer y Gymraeg yn fyw, oblegid os gadawn i'n hiaith i drcngu, nid hir y byddis cyn gweld ein nodweddion gwerthfawr eraill yn cael bedd. Mae yn hen hen bryd rhoi terfyn ar v Sais-addoliaeth afiach neu gyflawnu hunan-laddiad cenedlaethol yn fuan. Beth am gyflwr moesol a meddyliol yr ardaloedd hynny lie mae iaith ac arferion y Sais wedi cael eu rhyddid a'u rhwysg ? Gwyr pob syl- wedydd craff mae dim ond un ateb 1 sydd yn bosibl-Dirywiad j Nid dadleu ydym dros wrthod dysgu Saesneg; na, rhaid gwybod iaith Hengist. Afresymol fuasai codi cri fel hyn. Ond y difrod yw fod pobl yn credu mai wrth beidio dysgu Cym- raeg mae dysgu Saesneg. Y fath ffiloreg ynfvd Pa le ceir y Saesneg berffeithiaf yn arholiadau ein hysgol- ion ? Onid yn yr ardaloedd, lie ceir y Gymraeg buraf. Mae adroddiad Bwrdd Addysg wedi setlo y mater hwn er's tro, mai yn yr' ardaloedd mwyaf Cymreig ceir prawfion pendant o ddeall uwchraddol. Gwell dwy iaith nag urf, ac o arfer y Gymraeg a'r Saesneg, miniogir y meddwl a goleuir y deall. Beth yn fwy pert a swynol na chlywed plentyn yn gallu parablu mewn dwy iaith. Mae y rhieni hynny wrthodant siarad Cymraeg a'u plant gan feddwl mai dyna'r ffordd i ber- ffeithio eu Saesneg yn byw mewn ogof ac yn ysbeilio eu plant o gyfandir o wybodaeth ac yn pylu eu deall. Dadl rhieni sydd yn Gymry yw hyn— fod y gorlifiad Seisnig mor gryf fel mae yn amhosibl cael eu plant i siarad Cymraeg. Atebwn mai gwendid an- faddeuol yw siarad fel hyn. Gwn am aelwydydd lie ymdrechir siarad Cym- raeg-y fam yn Saesnes unicithog;t-y tad yn Gymro pybyr. Ni sieryd y fam ddim ond Saesneg. Ni sieryd y tad ddim ond Cymraeg. Beth yw'r can- lyniad? Hyn—mae y plant yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhwydd a rhigl. Gwn y bydd llawer yn barod i anghredu hyn, ond erys yn wirionedd byw, a gellir clywed y plant yn siarad y ddwy iaith bob dydd. Os gellir gwneud hyn lie ceir ond y fam neu y tad yn gallu Cymraeg, pa faint rhwyddach yw'r gorchwyl He ceir y tad a'r fam yn medru'r iaith? Daw t y mater yn syml i hyn-Penderfyned rhieni yn ddiysgog i siarad dim ond Cymraeg ar yr aelwyd, a buan ceid clywed y plant yn parabl eu Cymraeg yn llithrig. Nid oes eisieu i rieni bryderu am eiliad na ddysg y plant Saesneg. Mae'r Saesneg yn cwrdd a j phlentyn mewn mil a mwy o fannau, ac mae'n amhosibl iddo osgoi ei gwy- | bod. Cladder y syniad ofergoelus ac ynfyd ei bod yn amhosibl cael y plant i siarad Cymraeg. Llwyddir i'w cael dan anhawsderau mawr. Creded y rhieni y gellir, a buan iawn gwelid gvveddnewidiad gogoneddus er gwell i'n genedl a'i chrefvdd. ) I CENEDLGARWR. I
I \Treherbert.,I
I Treherbert. I Dyniimaf hysbysu' ddarllenwyr y I !);\ri;m fod tymor yr Ysgol Nos Gym- raeg w edi gorffen oddiar nos Fercher diweddaf, ac y mae hon eleni wedi esgor a" rywbeth gwerth e nodi, sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Pen- odwyd swyddogion fel y canlyn :-Mri. D. James (Defynnog), Llywydd; T. E. Richards, ysgrifennydd S. Jones, try- sorydd a minnau'n ohebydd. A ffurf- iwyd y dosbarth oil yn bwyllgor. I J. DUNCAN. I
I Soar, Aberdar. !
I Soar, Aberdar. Yn y capel uc-hod nos Iau diweddaf rhoddwyd perfformiad o'r gantawd ddir- westol, Prymvch eich cherries eioh hun," westo !o, beithJu yr eglwys. Cvmerwyd y gan gadair gan Mrs. R. R. Davies. Yr oedd y plant yn canu yn neillduol o dda. Can- wyd yr unawd, "The child's pleadings," gan Miss Gwennie Abraham yn effeithiol I dros ben. Rhoddodd Mr Joseph 0. lines dadganiad da o Good-bye to Drink." Deuawd, "Do right and fear not" (so- p'. liio I. euntralto) gan Misses Maggie j Abraham a Marian T. (iray. Knillnci'l y ddwy gymeradwyaeth y dorf. I nawd, "Right over Wrong, .?i.ss M:t.')-)!! T. II Gray. yn hynod o dda. Unaivdau, "Glor- ioiis News" a "God bless our home," gan Miss Maggie Abraham, yn neillduol o dws. Darllenwyd yr vstori gan Mr R. W. Gray. Yr oedd yr liud-lusern o dan ofal Mr D. i Kvans, Tresalem. Miss Dorothy Evans, A.V.C.M., oedd y gyfeilyddes, a'r ar- weinvdd oedd Mr W. M. Lewis, A.V.C.M. Ar ol y perfformiad danghosodd Mr Evans amryw ddarluniau, sef "Jane the Conquest" a'r "Volunteer Organist," a chanwyd y solo yn effeithiol dros ben gan Mrs. Abel. Yn ei anerchiad dywedodd y gadeiryddes fod v plant we<li gwneud eu gwaith yn ar- dderchog. Llongyfarchodd yr aiwoinvdd ieuanc hefyd ar ei waith. Cvnhygiodd y Parch. T. Eli Evans, ac eiliodd Mr Daniel Jones, bleidlais o ddio]ch i Mrs Davies am lvwyddu, ac i Mr Evans am ei ofal o'r hud-Iusern. Yr ysgrifenydd oedd Mr D. Lewis, a'r drvsoryddes Miss Edwards.
! Cadwraeth y Sabath yn :Nhreforis.…
Cadwraeth y Sabath yn Nhreforis. i Nos Lun, Mawrth 23ain, cynhaliodd Eg- lwysi Treforis Gvfarfod rlldebol ym Meth- ania. Pasiwyd yn unfrydol gan y dyrfa fawr Fod y cyfarfod hwn yn anghymer- adwyo masnachu ar y Sabbath, a'n bod un, ac oil, yn ymrwymo i wrthwynebu'r cyfryw ym mhob ffurf." Llywydd y cwrdd oedd y Parch. D. P. Evans, M.A. Yr oedd vn llawen ganddo weled eglwysi'r Ile yn hollol unol yn erbyn y drwg uchod, a bod yr undeb rhwng yr eglwysi yn nodwedd arbennig 3 M mywyd crefyddol y lie. Siaradodd y Parch. M. G. Dawkins ar y pwnc—" Dysgeidiaeth y Gair ar Gadw raeth y Sabbath." Dywedodd: Yr hyn oedd rii bwysig ynglyn a'r Sabbath oedd ei rod yn ddydd wedi ei neillduo gan Dduw. T-iiJ mwy o barch i'r gorchymynion oraill na'r un i .gadw y Sabbath yn santaidd. Nid oedd y pulpud wedi colli ei ddylawad, a chyda dylanwad unol yr eglwysi gellid ad- fer y dydd i fod yn gysegredig yn ".Il golwg, ac i j od eto yn nertb dyrchaio) vm mywyd ein cenedl. Y Parch. F. Morgan Ei destyn ef oedd — "Masnachu ar y Sabbath." Dywedodd tod pob enwad yn cael ei gynrychioli yn y I cwrdd ond Eglwys Loogr, ei bod hi feallai yn rhy bysur yn casglu pleidleisiau yn er- byn Cydraddoldeb Crefyddol. Gellid medd- t wl, wrth weled dynion yn hyw heddyw mai corff yw'r ewbI. Dywedir fod Salibath y Cyfandir ar ei ffordd i'r wlad hon, ac i Die- i foris. Priodolir hynny i'r ffaith fod Tramorvvyr yn cael dyfod yma i fasnachu ar y Sul. Mae yn Nhreforis lawer o'r cyfryw. Dylasid eu cadw allan neu siorhau na chaffont lyrutr wlad. Pwnc y Parch. D. E. Thomas oedd "el- odaeth Eglwjsig a'r Sabbath." Dyw jdai Nad oedd aelodau eglwysi yn ddigon eifro a byw i egwyddor sylfaenol aelodaeth c?- lwysig ynglyn a ehadwraeth y Sabbath. Ot I oeddent am barchu y Sul dylasent ddechtc prynhawn Sadwrn trwy sicrhau pethau gofynol o'r siopau cyn y funud olaf. ac weithiau bore Sul. Nos Sul yn unig yw Sabbath llawer aelod. Ym mha le yr oedd- ynt bore SuI r Os oedd pobl yn gwerthu ar y Sul, dylid gwrthcxl prynu yn eu siopau yn yr wythnos. t'wtic y Parcli. W. Salmon oedd: Dy- ledswvdd riiieni ynglyn a'r Sabbath." Dy- wedodd fod gan y ftul ei hawliau arbennig. Metha rhieni ynglyn a'r dydd hwn o her- wydd nad ydynt yn ystyried hawliau'r dydd arnynt fel dydd neillduol a chysegredig. Tehd mwy o sylw i fwyd nag i ddim arall. Dydd i wledda ydyw i lawer o bobl-yr holl dy yn brysur yngiyn a bwyta. Siaradodd y Parch. D. James ar Ddeddtwriacth a'r Sabbath." Dywedodd fod i Ddeddfwriaeth le mawr a phwysig yn y bywyd cymdeithasol. Deddfir ynglyn a diwydiant a masnach; ni cha meistr na gweithiwr wneud a fynnant. Deddfir yn fwy, fwy yn y bywyd cymdeithasol; ni cheir adeiladu, na chadw creadur fel y mynnir. Daw'r Ddeddf i mewn i fywyd y teulu; rhaid ysgolia'r plant a'u cadw yn weddus, a chyn hir bydd y Wladwriaeth yn deddfu ynglyn ag epiliaeth-ni cha dynion briodi fel y mynnont. Rhaid deddfu, a phwysig i'r werin yw ufuddhau i'w deddfau eu hun. Meddvlier am funud beth fu effaith gosod deddf CharIes n. mewn gweithrediad yn Abertawe—y ddeddf gospa am fasnachu ar y Sul—dirwy o 5s. Yn lonawr, 1900, yr oedd 282 siop yn agored. Apeliodd yr awdurdodan atynt i gau. Y Sul dilynol 77 oedd yn agored. Yn Mai gostyngwyd y rhif i 35. Dirwywyd rheini. Aethant lawr i 24, ac yna 10; ond tua 1909 cafodd y sopw yr ryddid i wneud a fynnent; ac ym Mai agorodd 185; Gorph., 202; Hyd., 249; lonawr, 1910, 255; Hyd., 301; Hyd., 1912, 342; ac erbyn hyn mae 444 siop yn agored ar y Sul yn Abertawe yn unig. Yn bresen- nol cymeradwyir agor y Museum a'r Art Galleries. Pan weinyddid y ddeddf vnte, aeth rhif y siopau agored o 282 yn 10, a than hynny; ond pan gafodd y siopwyr lon- ydd- aethant i fyny 444. Oni ddylai'r Cyngor felly wneud eu gore i weinvddu'r ddeddf fel y mae nes cael ei gweJ1:- Os iewn torri'r gorchymyn i gadw'r Sabath, onid iawn torri "Na ladd ac na latratta" P Drwg mawr y werin yw eu bod trwy was- eiddiweh yn gosod dynion hollol anaddas i'w cynrycholi ar fyrddau cyhoeddus— dynion nad ydynt yn gofalu am ddim IJIld am hunan-les ac enw. A ddylai Cristion- ogion osod dynion ar y Cyngor Trefol neu Sirol sydd yn anwybyddu Sul a diystyrru'r eglwys? Gwaedded y gweinidogion a'r eglwysi drostynt pan mae angen vote, a dyna'r oil. Mater arall yw fod Deddvvr- iaeth yn dibynnu ar deimlad a sJmdcI cy- hoeddus. Buasai rhyddhad y caethi;>a yn amhosibl un adeg, ond wedi i Carey a gyfeillion agor meddyliau a chalonau ;;01,1. ac aeddfedu syniadau cyhoeddus, daeth rhyddhad y caethion yn ffaith. Buasai yn amhosibl i'r Senedd bresennol ddeddfu ynglyn ag Yswiriant a Thai i'r Hen, ac ym mlaen, ar wahan i waith y rhai fu yn ar- loesi'r tir—y diwygwyr cymdeithasol fu'n new id cwrs y teimladau cvffredinoI. Yr unig ffordd i gael deddfau i atal masnachu ar y Sul a dileu y fasnach feddwol yw creu cydwybod gymdeithasol well, syniad ey- hoeddus aeddfetach. Gan, ynte, fod deddfu yn bwysig, a chan mai allan o gyd- wyhod a syniad cyhoeddus y daw y deddfau, amlwg yw fod gan Eglwys Crist ran bwysig yng nghreadigaeth teimladau a syniadau cyhoeddus; hi ddylai newid syniadau dynion; hi ddylai ladd hen arferion gwael a chreu rhai newydd. Goleuni y byd, halen y ddaear, a dinas ar fryn ddylai fod. Ein gwaith yw hodu a llefaru.
|Pontardulais.
Pontardulais. Nos Wener diweddaf bu y Parch. T. V. Evans, Clydach, yn traethu i'r Cymrodor- ion ar y testyn, Awr yng Nghwmni Cynddelw." Ac "awr" felus, fuddiol, tros ben ydoedd. Hon oedd noson olaf y tymor; cafwyd cyfres o gyfarfodydd rhagorol, ond barnai rhai fod y "gwin goreu" wedi ei gael ar y diwedd. Llywydd- wyd gan Dr. D. Lloyd Morgan. Gwasanaethwyd yng nghyrddau blyn- yddol y Babell y Sul a'r LIun gan y Parch. H. Ivor James, Llandyfri. Oedfaon hyfryd. Llaw enheir fod un o blant yr ardal wedi ei apwyntio yn Olygydd "Sèren Cymru." Cyfeiriwn wrth gwrs at Gwili, a dymunir bob Uwvdd iddo. Prophwydwn bellach i'r "Seren" gyfnod disgleiriach nac erioed. =
IGlais. :
Glais. I Yng nghapel Sei on. nos Iau, Ebrill 2il, traddodwyd darlith gan y Parch. T. E. Nicholas, Llangybi (gynt o'r Glais) ar y Gwrthryfelwr Cymreig," sef R. J. Der- fel. Daeth torf o bobl ynghyd, a'u barn ar ol clywed v ddarlitb oedd mai hon oedd un o'r darlitliiau goreu at ddeffro meddwl a glywsent erioed. Yr oedd hyawdledd Mr. Nicholas am y chwarter awr olaf yn ysgubol, a phan eisteddodd i lawr curodd y dorf ei dwylaw yn hir mewn cymeradwy- aeth. Llywydd y cyfarfod oedd Mr T. J. Richards, Dosbarth Gynghorwr, Birch- grove, yr hwn a fawr berchir gan fonedd a gwreng y plwyf. GOH.
Advertising
CYMERWCH HYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parotc d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yo mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddo) a'i Adnoddau lachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgeJwch i'ch harwain? Y pWNC Q IECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o < dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau- Mae QUININE JITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawbp sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yn Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a. Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderaii sydd, yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o. wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YN ^WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynweh weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirioo- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2S. ge. a 4s. 6ch. yr ua. Unig Berchenogion:- QUINCE BITTERS HAMOFACTUIJINB COMPANY, LIMITED, I.LANELLY. Stuth WtUa.