Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.-' CÔLOFN Y,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. CÔLOFN Y, T. I (DAN OLYGIAETH MOELONA). AT Y PLANT.—Yr ydym wedi cael darlun o un o honoch, a chyhoeddir ef yn y "Darian." A fydd y lleill sydd wedi ennill gwobrau er dechreu'r flwyddyn cystal ag anfon eu lluniau i'r Swyddfa mor fuan ag y bo modd. Rhoddwch eich enw, eich oed, a'ch cyfeiriad, a nodwch pa wobr a enillasoch.Gol. HCLDAH CHARLES BASSETT. flhingyM Gyntaf Oyddin Cymru." Er nad yw Huldah etto ond 12 oed, y mae wedi ennill llawer iawn o wobrwy- on am adrodd, a chanu, a chwareu'r berdoneg. Cymraes rach deyrngarol iawn yw Iluldah. Medr siarad ac ys- grifennu Cymraeg yn gywir. Casglodd rai canoedd o enwau yn Sir A-bertefi ac Aberdar i ymuno a Byddin Cymru," a deil i gasglu o hyd. Byw iawn ydyw i gyfarfod y plant yng nglyn a'r mudiad rhagorol hwn. Yn y Darian" ddiweddaf cawsoch un o delynegion Eifion Wyn, heddyw wele un o ganeuon Daniel Ddu. Rwy,n gobeithio eich bod yn hoff o ddarllen barddoniaeth. Os nad ydych hyd yn hyn, ymarferwch, ac yr ydych yn sicr o ddod i'w hoffi, a gwna les i'ch pen a'ch calon. Os dysgwch fel hyn yn ieuanc i ddarllen pethau da ac aruchel, yn fuan ni fydd ynoch unrhyw awydd i ddarllen y papurach isel a dichwaeth welir yn awr mor ami yn nwylaw plant. Nid yw'r rhai sy'n golygu dod yn bobl o bwys ac o werth yn y byd byth yn treulio amser gwerthfawr ac arian ar sothach. Mae eisieu ymarfer y meddwl i werth- fawrogi'r pur a'r da. Yng nghwmni'r pur a'r da mewn llenyddiaeth fel ym mhopeth arall mae'r mwynhad goreu- i'w gael. Hwyrach fod rhyw Eifion Wyn neu Ddaniel Ddu ymysg dar- llenwyr y golofn hon. Gwyddoch i gyd yn ddiau am Eifion Wyn, mai efe yw un o feirdd goreu Cymru y dyddiau hyn. Nid un o feirdd y dyddiau hyn yw Daniel Ddu. Bu ef fyw o 1792 i 1846. Un o Sir Aberteifi oedd. Daniel Ddu o Geredigion yw ei enw barddol yn 11awn. Nid yw ef ymhlith rhestr flaenaf beirdd Cymru, ond ceir llawer canig dlos yn ei gyfrol, "Gwin- llan y Bardd." Mae'r gan fechan a ganlyn, sef "Annerch i Lygad y Dydd yn syml ac yn bwrpasol i'r amser hwn o'r flwyddyn. Wele hi: "Llysieuyn glwys a dengar, .,Sy,n harddu wyneb daear, Rhyw ddwys hyfrydwch mawr a'm medd Wrth weld dy agwedd hygar. Ti yw y cynta' leni A welais er ymholi,— Cei am dy eon yspryd mad Roesawus ganiad genni. A deimlaist ddim amheuon Ac ofnau wawr fwyn wirion, Wrth godi'th ben o'r ddaear glyd 0 flaen dy gyd-gyfeillion? Anturiaist yn galonnog Fel capten dewr galluog, Yn deg a hardd wynebu'r hin, Pa un ai blin ai tesog? O'th ol mae mil yn llechu Mewn braw, yn dwys ymgelu, Rhag fod y gaeaf oer ei naws Yn para'n trawsdeyrnasu. Mynega'n dirion iddynt Fod disgwyl mawr am danynt, A gwed nad oes trwy'r dyffryn glan Nac eira man nac oerwynt. O'u canfod mawr fydd balchedd Yr anifeiliaid glanwedd, A'r oen na phrofodd hwynt o'r bla'n A deimla lan orfoledd. 'E fydd yn mawr ryfeddu Wrth weld pob man oddeutu 0 flodau gwynion oU yn llawn Yn hyfryd iawn/olygu. Prysurwch, lysiau glwysaf, 'E ddarfu rhew a gaeaf, 0 eisieu'ch dod i doi ein tir Rhyw hiraeth gwir a deimlaf. Mil glanach ,pan boch ddibrin, Eich gwawr a'ch gwen oriesin, Na'r genau sydd yn rhesi lion Yn harddu coron brenin. Prysurwch, lysiau mwyngu, Daw'r awel i'ch cusanu Yn desog ber, a gwyn eich byd, Mae hyn o bryd yn nesu. Mor hyfryd fydd y boreu j Cyd-rodio hyd y caeau, A gwrando cerddi Hi y llwyn I'r awen fwyn a finnau."

Darlith a Darlithydd ! Newydd.…

-iNodion Heolycyw.I

[No title]

"Llwydlo Fach." I

Godre'r Graig.

Advertising

Carreg Enfawr

i I Gwlad Myrddin oddiar|…

IFelin Foel.,

Advertising