Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Beirdd y Bont. I -;
Beirdd y Bont. I (Parhad.) I GAN BRYNFAB. Pan ddaethum i fyw yn ymyl dinas y Maen Chwyf, yr oedd yma lwyth cryf o hiliogaeth awengar. Feallai y byddai I cyatal i mi eu henwi yn y fan hon. Dyma nhw:-Myfyr Morgannwg, Ap I Myfyr, Ieuan ap Iago, Mathonwy, Ieuan Wyn, Dewi Harran, Glanffrwd, Dewi Wyn o Esyllt, Cenydd, Ieuan Glyn Cothi, Merfyn, Carnelian, Dewi Alaw, Gwyngyll, a Mabonwyson ar ami bererindod o ardal Llanfabon. Erbyn heddyw, nid oes dim ond Dewi Alaw, Merfyn, Gwyngyll, a minnau yn aros ni ein pedwar yw patriarchiaid barddol y Bont. Myfyr Morgannwg. Yr oedd Myfyr wedi rhoi heibio barddoni cyn i mi ei adnabod, ac wedi ymddyrysu yn anialwch Derwyddiaeth. Bu yn fardd o gryn fri, ac yn gawr medrus yn y gwahanol fesurua-caeth a rhydd. Canodd awdlau a chywyddau gwychion. Sychodd awen Myfyr wrth ymdroi yng nghyfrinion yr ieithoedd Dwyreiniol, a cheisio esbonio popeth o ddechreuad y byd oddiar safle Derwydd- iaeth. Awrleisydd ac oriadurydd oedd ef wrth ei grefft. Efe oedd meddyg awr- leisiau y Bont, a'r ardaloedd cylchynol, am lawer o flynyddoedd--hyd nes i'r Allmaenwyr a'r luddewon ddod i gyd- ymgais ag ef. Llawer gwaith y bum yn ei dy a rhyw figwrn o awrlais i'w osod yn ei Ie ac nid yw Rocyn Jones yn fwy medrus i osod migwrn bardd yn ei le, nag oedd Myfyr i ad-drefnu migwrn awrlais, a rhoi cryfder ac anadl yn ei gyfansoddiad. Rhywfodd, yr oedd ef, yn niwedd ei oes, wedi suro tuag at y byd barddol. Nid oedd neb yn barddoni wrth ei fodd, ac yr oedd Gorsedd y Beirdd" wedi mynd yn "orsedd bengoll" ganddo, oddiar y cyfnod y dechreuwyd anwy- byddu Gorsedd y Maen Chwyf. Bu adeg, pan oedd Myfyr yn anterth ei fri, ac yn cael ei gydnabod fel Arch- dderwydd Cymru. Efe oedd meistr y seremoniau yn "Eisteddfod fawr Llan- gollen" yn 1858, pan oedd Eben Fardd, Glasynys, Ab Ithel, Ceiriog, ac eraill, yn ddeiliaid ffyddlon i frenin yr orsedd. Ond wedi i feirdd Cymru fynd yn aflyw- odraethus, ac i beidio talu gwarogaeth i'w awdurdod, aeth fel draenog i'w gwd, ac ni chafwyd ef ohono hyd ei fedd. Bu cyfarfodydd y Maen Chwyf-ar yr Albannau, mewn bri am nifer o flynydd- oedd. Deuai beirdd o bellder mawr i'w hurddo gan yr Archdderwydd. Un- waith y bum i yn ddigon defosiynol i fyned i gyfarfod y Derwyddon, ac ni theimlais yn ddigon hyf, y pryd hwnnw, i fynd i fewn i'r cylch cysegredig. Yr oedd cylch Gorsedd y M-aen Chwyf yn llawer mwy cysegredig na chylch Gor- sedd Beirdd Ynys Prydain, o dan ddeddf fanylaf Eifionydd. Rhaid oedd diosg yr esgidiau cyn esgyn i fcwlpud Myfyr, fel pe buasai hosanau yn daclau mwy dihalog na lledr a phwyntrhedyn. Ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r ddeddf, a gofalai pob bardd a fwriadai siarad oddiar y Maen, nad oedd tyllau yn ei hosanau. Cyrhaeddodd Myfyr Morgannwg oed- ran mawr, a thawel huna yng Nghladdfa Gyhoeddus Glyntaf-heb fod ym mhell o'r lIe y bu yn cyhoeddi Y gwir yn erbyn y byd," "Yng hgwyneb haul, llygad goleuni." Ab Myfyr. Yr oedd Ab Myfyr yn llawer gwell bardd na'i dad, er nad oedd cylch ei wybodaeth mor eang. Ni ddyryswyd y mab gan ysbryd Derwyddol y tad. Cymdeithaswr o'r iawn ryw oedd Ab Myfyr, ac ni fyddai neb yn ei gwmni yn hir heb fod ar ei ennill. Canai ef yn y mesurau caeth a rhydd yn hwylus a medrus. Cryn orchwyl oedd ei guro ar englyn neu ddau, ond nid oedd ei anadl ond byrr. Enillodd lawer o wobrwyon yn Eisteddfodau Morgannwg, a chystadleuodd ac enill- I odd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaeth- ,01. Dyma ei englyn i'r Eira," a'r nod Cenedlaethol -trno:- Blawdog wy, Jblodau gauaf,oer a glan, Lliw'r goleuni puraf Yw eira, 'n ysgafn, araf, Ddyry Ion ar fedd yr haf. Athronydd gwych oedd efe, a byddai ■ arliw athronyddol ar ei gyfansoddiadau. Yn wahanol i'w dad, yr oedd yr elfen ddigrifol yn fyw ynddo. Hoffai gym- deithas y frawdoliaeth farddol, ac nid oes neb yn fwy ei barch nag ef ym mhlith Beirdd y Bont. Awrleisydd oedd yntau, fel ei dad; a bu yr holl bethau defnyddiol sydd yn cadw yr amser, oddiyma i lan y mor, yn canu ei glod yn soniarus cyhyd ag y bu byw. Hunodd Ab Myfyr cyn gweled hen ddyddiau, a gorffwys rhwng yr un muriau a'i dad. Ar ei gofgolofn ceir yr englyn diweddaf a gyfansoddodd—a i gafwyd yn ei logell, wedi iddo farw. Dyma fe Y pennaf, olaf elyn—yw manv, Y tymhorol derfyn; Ennyd yw i newid dyn, Y byd ad, mae'n bod wedyn. (I barhau.)
Advertising
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraff waitb ymo- ifyner yn Swyddfa'r Leader a'r ^Darian, 19, Cardiff Street, Aberdat.
Materoliaeth yn Goresgyn Cymru!
Materoliaeth yn Goresgyn Cymru! ———— ) Buom yn gobeithio mai'r Cymro a gawsai briod-ddawn yr Hebrewr wedi i hwnnw werthu ei enedigaeth fraint. Y dawn hwnnw oedd, gallu i ddat- guddio'r tragwyddol ac i ddehongli'r ysbrydol; ond y mae swn dynesiad y dyli materol yn peri ini ofni: ac yn lie bod a'i chalon yn iraidd gan wlith y nef, gall Cymro eto osod ei serch ar y pethau sydd isod, a bwyta'r pridd yn He bara'r bywyd. Dylem gyfeirio at un achos arall. Bu o dan sylw'r cyfundebau crefyddol amryw weithiau. Cyfeiriwn at yr arfer o orfeichio'r plant a, gwersi i'w gwneuthur gartre. Trwy hyn, ni chant ond ychydig o gymdeithas eu rhieni; ac nis gall neb fod i'r plentyn in loco parentis." Ac wrth gwrs, ceidw hyn y plant rhag mynychu'r cysegr, ac yn raddol diffydd yr awydd am ymweled a. "rhodfeydd y Brenin" a "phyrth Seion." Pe ceid crefydd ac addysg ein gwlad i gydweithredu'n galonnog a chynnes, gwelid Cymru'n fuan yn "degwch bro yr holl ddaear," ac yn baradwys "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Yna y gwisgai ddysg yn orchudd am ei phen a chre- fydd yn darian i'w chalon. Troid ei hysgolion a'i cholegau yn demlau dysg a mireinder a'i chysegrleoedd yn "breswylfeydd y Goruchaf." Mudo o Fynydd Seion y gwelwn awenau'r byd y dyddiau hyn. Ychydig sy'n dal i aros wrth y Groes i wrando ar ganu'r Cymod yn disgyn oddiwrth Dduw. Y mae rhai. Rhodio ar hyd I y llecynnau sanctaidd a gysegrwyd gan y Crist a fyn Elgar o hyd; a chlybu John Masefield nodau oddiar dannau telynau Duw yn "Y Drugar- edd Dragwyddol." Ond eithriadau yw'r rhai hyn. Melysach i'r oes hon yw "canu" adar y dryslwyn na cherddi adar paradwys. Dehongli bywyd fel y mae'n ymladd ir byd, pc yn trin y ddaear, a wna awen a chan y cyfnod hwn. Dyna a wneir gan Galsworthy a Noyes a Yeats, beirdd newydd Lloegr ac Iwerddon; a hyn a wneir hefyd gan yr ysgol newydd yng Nghymru; ond nis gall barddoniaeth o'r math hwn fod yn 1 wir genedlaethol yng Ngwalia Wen, am mai crefydd Iesu Grist fu'r nerth cryfaf yn lluniad y cymeriad Cymreig, fel y mae heddyw. Un yn arfer mynd i'r Ysgol Sul a'r "Beibl yn ei Haw" a fu'r Gymraes, ac un yn rhoi rhan o'i dda at achos Gwr y Groes a fu'r Cym- ro er's blynyddau meithion; ac nid cywir unrhyw ddarlun o hono, a an- wybyddo arweddau crefyddol ei gym- eriad. Gwawdier ef, os mynner, am ganu gormod o salmau, a son gormod am dragwyddoldeb; gofynwn ninnau— "Pa wlad wedi'r siarad sydd Mor lan a Chymru lonydd?" Gwell i athrylith pob oes a gwlad yw I gallu hedeg fel aderyn, ac ymgolli yng nglas y nef, nag ymdreiddio fel ymlusgiad i bridd y ddaear, ac ymgladdu yng ngwyllnos y gweryd. Materoliaeth a bydolrwydd yw gelyn- ion ffyrnicaf ein cenedl ar hyn o bryd; ac wrth gaethiwo meddwl cenedl ym myd y ffiniau cyfyng, ac atal ei hathrylith rhag esgyn i'r eangderau di-sect a di-derfyn, He nad oes bridd i ddifwyno dwylaw, yr ydym yn gwneuthur cyn ffoled peth a phe cyfyngem ehedydd i gell dywell o olwg y goleuni a'r glesni. A ganai ef wed'yn? Dadleua hanes y byd yn hyawdl o blaid ffydd. Pa rai ydyw oesoedd mawrion a gloywon y canrif- j oedd? Ai nid oesoedd ffydd? Dyna'r cyfnod apostolaidd yn hanes yr eglwys pan nad oedd amheuaeth yn ei lles- teirio na bydolrwydd yn pylu tegwch ei gwaith. Prin yr oedd swn drylliad y bedd wedi distewi pan bregethai'r apostolion yr Adgyfodiad; ac yr oedd mivvsig geiriau'r Meistr yn canu yn eu cof pan sonient am Ei ddysgeid- iaeth a'i wyrthiau. Dyna oes y santiol- aeth lan a'r gred ddiymod. Ac hyd yn hyn y mae'r awenau wedi bod yn canu ac yn lliwio bywyd gogoneddus yr oes honno. Ffydd sy'n ysbrydoli pob saer ymhob cylch. Cynnyrch ei hoesau hi yw adeiladau penna'r ddaear. Ni ellir saer o bryfyn; ond gall y dryw bach lluniaidd ei gorff a j del ei aden lunio'i nyth fel campwr. j Felly, ni all oes faterol adeiladu. Dinystrio yw ei greddf, a thrwsio yw j ei gorchest bennaf mewn saerniaeth. Ni ellir disgwyl dim yn amgen oddi- j wrth gyfnod sy'n mawrhau y ddaear, I ac yn cael ei ysbrydiaeth mewn "llestri priddion." (Y Parch. Rhys J. j Huws yn y "Geninen.")
Advertising
I ESTYN EICH DES Bwytcwch ac yfwch yn gymhedrol,' ond os digwydd annoethineb, gellwch ym ddibynnu bob amser y bydd i ) PELEN1 LLYSIEUOL j KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd. j a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw j feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1/11 a 2/9 gan yr holl FferylJ- wyr.
Taith i Lydaw.
Taith i Lydaw. GAN "GLANLLYW." PENNOD VI. DOL HEN A RENNES DDI- WEDDAR. Daeth y dydd y disgwyliwyd yn hir am dano i gychwyn i'm taith o gwm- pas y wlad o ben bwygilydd o'r di- wedd i ben. Nid oeddwn hyd yn hyn ond wedi talu ymweliad a'r ardaloedd yng nghyffiniau Sant Malo. Awch- lymodd yr ymweliadau hynny fy awydd i weld mwy o'r wlad, a rhaid J cyfaddef mai dyna effaith yr holl daith arnaf. Nid oeddwn wedi'm digoni ar y wlad ac ar y bobl. Cododd yr hyn welais ac a glywais chwant mwy i weld a chlywed ychwaneg er deall y bobl hyn yn well, a throaf fy awydd yn ffaith ryw ddiwrnod. Cychwynwyd gyda'r tren ganol dydd o orsaf S. Malo. Saif honno tu allan i'r dref. Meddyliwn ar y cyntaf mai er mantais i S. Servan hefyd ydoedd hynny, ond sylwais ar ol hyn fod bron yr oil o'r gorsafoedd ychydig allan o'r trefydd neu naill ochr iddynt. Dichon mai cynhildeb gyfrif am hynny. Adeiladant eu ffyrdd haearn lawer yn rhatach nag y gwnawn ni, a sicr yr arbedant lawer yng ngwerth y tir wrth osod y gorsafoedd felly. Rhaid cydnabod er hynny nad ydyw eu ffyrdd mor gadarn ac hwylus a'r eiddom ni. Nis gofalant cystal am danynt chwaith. Ca'r glaswelt ffordd rydd i dyfu a ffynu rhwng y cledrau. Llwyfanau isel sydd i'r mwyafrif o'r gorsafoedd, fel y rhaid bod yn ofalus wrth ddisgyn i'r cerbydau a disgyn o honynt. Nid gorchwyl hawdd ydyw hynny i ambell berson fyddo wedi ei freintio yn helaeth a phwysau o gnawd. Nid mor anodd ydoedd y gorchwyl i mi gan na'm bendithiwyd ond yn gymhedrol a'r newydd hwnnw. Euthum i'r orsaf er arwyddo'm tocyn a ffwrdd yr awd trwy wlad goediog dda yn dwyn arwyddion o wrteithio gofalus. Nid oes dim mor onest a'r ddaear. Yr hyn a roddir iddi a rydd hithau, a'r hyn a arllwysir iddi a ddychwela drachefn yn ei hoi. Os achlcsir hi yn dda, buan y dengys hynny mewn gwyrddlesni dwfn, cnydiau braf, a thoreth o fendithion i'w hachleswr. Os esgeulusir hi llwyd yw ei gwedd a digynyrch ei had-aliad. Gwyn fyd na fai dyn yr un mor onest a'r un mor barod i dalu'r pwyth yn ol. Dygai'r wlad yr aem drwyddi'r prynhawn hwn olion digamsyniol o weryd da a gwrtaith. Gwlad wastad lefn heb fryn na mynydd, ond ambell dwmpath hwnt ac yma, ond braidd na chyfrifai'r preswylwyr bob twmpath yn fryn a phob bryncyn yn fynydd yn 01 arfer gwastadeddwyr, a gyrhaedd- asom yn gynar yn y prynhawn. Saif Dol ar un o'r bryncynod hyn. Swnia'r enw mor Gymreig a dim Cymraeg. Nid rhyfedd, oblegid deil berthynas ddeubyg a Chymru. Daw'r Brythoni- aid a'r Cymry o'r un gwehelyth, a dywedir mai Cymro o Lanilltyd Fawr, Bro Morgannwg, ydoedd Samson a ymsefydlodd yma fel cenhadwr yn y chweched ganrif, er y dywed eraill mai Gwyddel ydoedd. Ceir cystadleu- aeth frwd am ddynion mawr ac en- wog, tra nad oes neb am berchenogi rhai dinod. Ai Cymro ynte Gwyddel ydoedd Sant Samson? Efe, meddir, ydoedd Esgob cyntaf Dol, a phery Dol yn esgobaeth hyd yr awr hon, a gelwir yr Eglwys Gadeiriol hynafol ond syml ar ei enw hyd y dydd hwn. Lie cymharol fychan ydyw Dol, ac anodd penderfynu ai pentref ynte tref ydyw. Disgwyliem weled lie o fainti- oli gweddol ond siomwyd ni yn hynny. Ychydig o dai sydd yma, ond edrych- ant yn hen ac urddasol, a gwneir i fyny am faintioli mewn hynafiaeth a phertrwydd. Tyf coed talfrig a chwm- pasog ar ochrau'r heolydd, ac hyfryd ydoedd y gwer o danynt ar brynhawn poeth. Hyfryted a hynny ydoedd sylwi ar yr adeiladau hen, a gadael i'w meini a'u coed a dreuliwyd ac a feddalhawyd gan wyntoedd y can- rifoedd lonyddu ac esmwythau ein llygaid. Cyrhaeddais yno ar ddydd march- nad. Cynhelid hi ar ganol y ffordd o fewn i'r pentref-na tref, os gwelwch yn dda. Yr oedd tipyn o bopeth yno. Nid anhebig i ddydd marchnad yng Nghymru ag eithrio capiau gwynion y gwragedd a'r merched. Newidiant hwy lawer o bethau. Mawr ydoedd y miri a'r dwndwr a chan na ddeallwn fawr o honynt, a'm hamser yn brin ffwrdd a mi i'r orsaf am Rennes. Awn drwy wlad fras, ffrwythlawn, gweddol goediog, ond unrhywiog iawn, a dechreuwn ddymuno am am- rywiaeth Cymru. Gwellhai ychydig cyn cyrraedd Rennes. Caed golwg ardderchog ar y gamlas yn vmvi y ddinas. Wedi ei chyrraedd y gorch- wyl cyntaf ydoedd chwilio am lety am y nos. Cawd hynny gerllaw'r orsaf am bris rhesymol. Cerddwyd drwy'r ddinas wedi hyn i weled ei gogon- iannu. Clywais lawer o son am y ddinas hon. Yma y bu Dreyfus ar ei brawf. Prawf gynhyrfodd Ffrainc i'w gwaelodion. Gwyddom am ei phrif-ysgol hen ac enwog. Gwyddom fod ei llywydd yn Gymro gwych ac yn ysgolhaig Celtig o'r rheng flaenaf. Dvchwelai llawer hanesyn i'm cof am yr amser gynt. Llawer drama gyffrous chwareuwyd mewn bywyd yn y ddinas hon. Dyma brif ddinas Llydaw, ac eto rhaid cydnabod er ei gwyched a'i rhagoroled siomedig iawn oeddwn ynddi. Disgwyliaswn weled dinas a'i hys- trydoedd yn gul a'i hadeiladau yn hynafol eu diwyg ac yn llwyd gan fwswg canrifoedd, ond dinas o nod- wedd arall ganfyddwn. Heolydd llydain a choed braf ar eu hochrau, gerddi a pharciau hyfryd, a'r tai o ddiwyg a golwg gymharol newydd. Rhedai'r cerbyd trydan drwyddi o'r naill gwrr i'r llall. Gwisgai'r bobl yn fwy tebig i'r Pariswyr gwych nag 1 Lydawyr syml. Dygai fwy o ddelw dinas wedi codi i fri yn ddiweddar nag un fu'n enwog ar hyd yr oesau. Yr oedd y tai a'r heolydd yn newydd. Yr oedd y parciau a'r gerddi a'r wedd ddiweddaraf arnynt. Yr oedd y coleg- dai a'r ysgoldai yn newydd er fod y colegau a'r ysgolion yn hen. Mae'r brif-ysgol yn bod er's canrifoedd a bu'r ddinas yn noddydd cyson i ddysg a dawn ar hyd y cenhedlaethau. Gwelwn felly fod allanolion y ddinas yn newydd bron i gyd. Tan difaol 1720 gyfrifa am hynny. Llosgwyd y, ddinas bron i'r llawr gan hwnnw. Gwnaed ei phreswylwyr yn ddigar-! tref, oblegid difawyd dros bedair mil o dai. Cododd y Rennes newydd o iwch a rewin (ruins) yr hen i'w bri a'i gwychder presennol—harddach mewn rhai ystyron na'r hen, mae'n wir, ond nid cyn berted a chyn lawned o swyn. Erys y mewnol bron yr un fath yn iawn am newydd-deb yr allanol. Ceir traddodiadau gwerthfawr o'r hen oes- oedd sy'n dlysau heirdd yn ein bywyd diweddar. Sylwais hefyd nos Sadwrn wrth fynd o gwmpas fod yno lawer o yfed a rhialtwch. Dywedais mai arfer digon hen ydoedd honno. Digon hen i ddymuno iddi ddarfod o'r tir, ond ni dderfydd nes yr ymlidio i ffwrdd yr arfer hen arall y cefais y fraint o'i gweld bore'r Sabbath. Euthum i'r Eglwys Gadeiriol tua wyth bore'r Sabbath, ac yr oedd yn orlawn o bobl yn addoli, mi obeithiaf. Dichon nad yn y ffurf a gerir gennym ni, ond yno yr oeddent gydag hen orchwyl ac hen fraint, ond pery byth yn newydd tra byddo dyn yn bechadur a'r dyhead am Dduw yn ei galon. Rhaid fod y cymhellion yn iawn i'w tynnu yno mor fore. Nid ydoedd yr awrlais yd- oedd yno yn nodi'r amser. Onid yd- oedd hynny yn awgrym nad ydynt yn cyfrif amser lie byddo addoli. Yr ar- graff adawodd Rennes arnaf mai dinas newydd a diweddar ydoedd, ond gorbwyswyd ei newydd-deb yn fy meddwl gan hynafiaeth a swyn Dol hen.
Hermon, Sciwen. I
Hermon, Sciwen. I Oynhaliwyd cyfarfod llenyddol a chys- tadleuol yn y lie uchod nos Fercher, Ehrill 8fed. Llywyddwyd yn ddeheuig a doniol gan y brawd Mr David Phillips. Beirniadwyd gan Mrs. William Richards a Mr Rhys Walters. Chwareuwyd y berdoneg gan Miss Bronwen Bevan. Dechreuwyd y rhaglen gyda chwareu ar y berdoneg gan Miss Hettie Owen. Yna cafwyd araith yn llawn brwdfrydedd a than gan y llywydd. Can gan Mr S. P. Owen. Anerchiad barddonol gan loan Dulais. Adroddiad gan Joseph Islwyn Walters. Can gan Miss Annie Tristen. Adroddiad gan Miss Mabel Thomas. Can gan Miss Gwladys Davies. Cystad- leuaeth am y crotchet lace insertion; daeth amryw i fewn, goreu Miss Gwladys Evans. Can gan Joseph Ale wyn Thomas. Adroddiad gan Miss Annie Stirrup. Cystadleuaeth i'r sawl a gano'n oreu Fe goronir pen y daith," deg yn cynyg, goreu, Mary Griffin. Can gan Mr William Richards. Adroddiad gan Mrs. D. A. Owen. Can gan Joseph Islwyn Walters. Adrodd- iad gan Mr Morgan Rees. Can gan Mr William Richards. Adroddiad gan Miss Ada Howell. Terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," Mr W. D. Evans, A.C., yn canu yr unawd. Caf- wyd cyfarfod ardderchog, a phawb wedi mwynhau eu hunain o'r dechreu i'r diwedd. Cafwyd y llinellau hyn gan loan Dulais i'n parchus gadeirydd :— Llongyfarchwn ein Cadeirydd, Gwr a gwyneb hardd ysblennydd, Teilwng yw o'r gadair heno, Iechyd yw cael edrych arno; Gwyn ei farf a moel ei gernau. Lion ei wedd fel haul y borau, Gwna ei waith yn fendigedig, Ac fe geidw bawb yn ddiddig Gwresog fydd, yn ddoniol, difyr, Xid dweyd rhywbeth wna ar antur. Ei arabedd fydd yn berwi, Ninnau yma i gyd yn synnu; Gadewch imi ofyn drosto, Byddwch ddoeth tra yma heno, Gwn cewch wledd na wyr y Saeson Ddim beth yw brwdfrydedd calon; Llwyddiant fo i'n Cadben bellach, Fyn'd a'r Hong a'r llwyth yn holliach, Ninnau ar ei bwrdd yn hapus Yn hwylio'n mlaen yn dangnefeddus. Sciwen. 10AN DULAIS.
Advertising
"SARZ!N £ BLOOD MIXTURE CROEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/11 a 2/6 y boteL neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog. HUGH DAVIES, Chemist, MA CHYN LLETH. GWAED! GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CIIYf, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blooi Pills" yn hyned effelthlol at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar holl Organau y Corn, drwy hyny yn Iachau Dolur Pen, Oiffyg Traul, BWousness, A fu DdrwI, Tat-ddiantau II fj II a." y Cnawd, Cornwydon, Scurvy, Plies A jf If f Fits, Nlrv. ousnesi, m l u Cwynt, Cwynlson (neu Gymal- wst), Cefn, Lum- bago, Corti. rwymedd, j Neuralgia, au yr Aren. au. I seldlr 8 u r n I 8 cyHa! BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oed-rar mae Hughes's Blood Pills yn nodedig o eflFeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDU PWYSiS. Wrth brynu y Pilla hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn— IMS ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/11, tIt, C't. Neu danfonwoh el Gwerth mewn otampa neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Penarth, Cardiff. GarfiLlenaCwerin Gwaithy diweddar Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM BIRHOWI A'R CYLCH. DAKNAU BARDDONOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/ Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, roeu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraiv-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadan Prifysgol Cymru. Cynhjgir amryw o ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfvngedig i Gymry) y flwyddyE hon. Am fanylion pellach, yruofyner a— J. B. DAVIES, M.A., Cofreatrydd. A PAGE Book abont Herbs and how to use I Ope them. Pose free. 8ecd for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you get "Eatab liehel 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine -Trimnell, The Herbalist, H4 Rich- mond-road, Cardiff. TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS have cured thousands. Why not you ? See that you get "Established 1879 on every Idbel.-Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond Road, Cardiff. Agents wauted. DRAMA CYMRAEC NEWYDD, "GRUFFYDD LLWYD Allan o'r Ffug-Chwedl Boblogaidd gan I ROCER THOMAS, Ystalyfera. i Telerau neillduol am ei pherfformio. Ymafyne-r a'r Cyhoeddwr-D. DAVIES, Ferndale. X Y FORD. Yn cynnw arlwy 0sol &m?wyddwyn i b=b oed, sef:- 13 o Bregethau A 13 o Oelynegion. I Me,elr gyfrol wedi 'i badolyga yn y modd mwyaf ffafriol gan y Wasg Gymreig, megia Y Beirniad, Y Bryihon, Y Tyst, Cymru, Cymru'r Plant, Scren Cymru, Seren Gomer, Y Drysorfa, I &c., a.o y mae'r Awdwr wedi derbyn llu 0 lythyrau canmol oddiwrth bregetbwyr, llenorion, plant, &c. Y gyfrol i'w ohael ar dderbyniad Postal Order Swllt gan yr Awdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, I Nr. Swansea. Dywedwch wrth bawb "Y tnctO DA VIES'S COUGH MIXTURE yn rhyddctu Peswoh." ANWYD, PESWCH, INFLUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, PaB, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaeth Davies's Cough Mixture" etto ar y folaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/li a 2/9 (postage, 3c.)— HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & fountain Ash Biilposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent stations in Aberaman, Cwmaman, Cvv mbach, Abercwmbol, Aberdare and District. ADVERTISE BY 13ILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should b* addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. LALP; FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al irregularities, &c.. they speedily afford relief and neve rfall to alleviate all suffering. They supersede PenjiyroYILI, PitCOchia. Bitter Apple, &a. ttianchard's are the Best of all Pills for Womsa. Sold in boxes, 1/11. by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free. same price, from _BSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp AM BOB MATH 0 ARGRAFFWAITH VMOFYNBR YN Swyddfa'r Leader," A Swyddfa'r "Daplan," 19 CAUDIFF ST., ABERDAB. EVERY WOMAN Should send two stamps fcy. rQ3p-geIllustmted Book, containing Valuable Information how aU Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means, Recom- tnended by eminent Physicians, as ?_°Iy Safe, Sure and Genuine Remedy. ^eveT ,oco Thousands of Testimonials, Estabhshed 1862, MR. PAUL BLANqHARD, ITDuse, Dals1.OD .ane. T :ndo. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. CABINET WORKS :— C Q "K| 01 A O 21 High St. ? Morris Lane, nWdUbtJcl. The Largest and Cheapest Steaii) Cabinet Manufactory iq South Wales. Illustrated Catalogues free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above .11, or Delivered Free in our own Veas.