Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Y Cymdeithasau Dyngarol.
Y Cymdeithasau Dyngarol. Perthyn i ni fel cenedl lawer o ddi- ffygion y genedl fach. Rhaid hefyd y perthyn i ni ragoriaethau y genedl fach, ond yn bresenol nid ein da, yn gymaint a'n drwg, sydd yn eglur yn y cysylltiad hwn. Braidd y credwn ein bod fel Cymry, wedi bod yn deilwng o anian, yng nghylch y Cymdeithasau dyngarol. Dywedir am y diodon, Pysgodyn bach tebyg i god, a'i groen yn llaes fel pe byddai god heb haner ei llanw, ei fod yn elyn marwol i shark. Ceir ef yn dianc yn ddianaf o grombil y shark. Bwyty fur cylla y gelyn gan borthi ei hun nes enill ei ryddid, ac i'r hen ysglyfaethwr farw, oherwydd na fedd ddrws ar ei gylla. Dyna ydyw anian, mae rhyw iawndal parhaus am bob diffyg neu wendid yrnddangosiadol. Fel y dywed y Gair, perffeithia nerth mewn gwendid. Ni wna y Cymro hyn. Parchodd y Cymro erioed arch y Galilead borthai y miloedd a'i canlynai. Dywedai "Cesglwch y briwfwyd gweddill." Paham? Fel "na choller dim." Dir- mygwn fel cenedl hefyd y syniad o undeb. Nid ydym wedi profi gwerth bod fel y sarph yn gynllwynga r a chall. Gwelwn rai dynion ddangosant an- Wybodaeth yn annog y Cymry i geisio cael prisiad ar wahan a Lloegr er mwyn dibenion y Ddeddf Yswiriant WladoJ. Dealla llawer o aelodau y Cymdeithasau Dyngarol fod y Llywodraeth wedi gosod dynion yn ben fel gweinyddwyr dan y Ddeddf o ran eu defnyddioldeb a'u gwerth y byddai penaethiaid duon Basuta cystal a'r mwyafrif o honynt. Coron crcfft vw ei medr. Ni fu y Cymdeithasau Dyngarol erioed yng Nghymru, yn neillduol yn yr ardaloedd gweithfaol, yn dim ond cyfrinfaoedd "tubercular." oherwydd pla mawr y genedl, sef ei glyniad wrth yr achos bach. Mynwent fawr i gyfrinfaoedd dyngarol ydyw Cymru. Mae elfen fasnachol amlwg yn rhedeg trwy y gyfrinfa. Dilynwyr oeddym ac nid blaenoriaid yn y linell hon. Dywedwn yn ami taw yr hen a wyr a'r ieuanc a dyb. Rhyfedd er hynny fel y gwawdiem y gwirionedd yn y Cymdeithasau Dyngarol. Y can- lyniad ydyw nad oes yng Nghymru Urdd Gymreig yn werth ugain swllt y bunt. Profiad y Ddeddf yn niwedd y tair blynedd fydd taw un drud neill- i duol i Gymdeithas Ddyngarol ydyw y Cymro. Eto mynnai rhywrai iddo gael ei ddadrys o blith y Saesop ac eraill a'i brisio ar ei ben ei hun. Mantais fawr i Gymru fu ei chysyllti- ad a Lloegr yn y Cymdeithasau Dyn- garol. Pe byddai yr Odyddion wedi bod galled ag ufuddhau i reolau yr prdd, byddai llawer mwy o Odydd- ion yng Nghymru. Heblaw hynny byddent yn gadarnach a gwell eu sefyllfa. Nid drwg oedd cynllun yr Hen Hebreaid yn ymadael a'r Aipht ym myned a thoraeth o bethau yr Aiphtiaid ganddynt. Ffolach lawer y cawn y Cymry yn barotach i roddi i'r Hebrcaid ddaw i'n plith grogbris am sothach, a bod yn garedicach i bawb na Chymro anturia fasnachu. Na, ni thai i ni ddirmygu y Cymdeithasau tuhwnt i Glawdd Offa. Mae helbul y Cymdeithasau wedi dal Cymru. Rhaid ni lie y mae y materol yn y cyfrif ddysgu gan y graddedigion mawr, tebyg i John D. Rockfeller, Andreas Carnegie, a'r frawdoliaeth bwysleis- lant y gwirionedd orwedd dan y rheswm dros gasglu "y briwfwyd gweddill." Peth cynnil drafod fel y gwyr y rhai hyn ydyw cyfalaf. Gan mai dilynwyr ydyw Cymry, rhaid iddynt gofio mai dysgu ac efelychu raid iddynt. Nid oes gennym le i feio ar y Saeson am hyn, gan i ni adael cynifer o feusydd i'r Sais. Sylwer heddyw heblaw ein bod fel Cymry yn dueddol i gyfrif Sais yn rhywbeth, ni ofalwn yn ddyladwy fod y plant yn cael cyfleusderau i fynd i gylch un- weddiaeth flin ac anniddorol. Gallem enwi nifer ltiosog o foddau i ennill bywioliaeth nad oes nemawr Gymro yn ennill ei fyvvoliaeth yn y modd hwnnw. Gadawsom y Cymdeithasau yn bennai i Saeson, a da hynny gred- wn, gan mai eithriad ydyw bodolaeth Cymdeithas gref a sylfaenwyd ac. a lywiwyd bob amser gan Gymry. Nid ein diffyg profiad o drin cyfalaf yn unig sydd wedi bod yn golled i gyfrinfaoedd y wlad, ond ein tuedd famol i ymrannu yn achosion bach, ac hefyd y diffyg o barchu y rheolau. Bei-ir y dafarn ac yn gyfiawn, ond cofier mae dyled fawr ar Gvmru i'r dafarn. Rhoddodd lety i grefydd, dyn- garwch, a'r eisteddfod. Heblaw hyn, a allwn anghofio gwerth y Gymdeith- as. Mae y dafarn yn gyfrifol am lawer o ddiwylliant. Ymrafaeliem yn grefyddol am le i godi temlau alcan, priddfeini, a cherig, fel y gallai dynion gael lie ar y Sul, am, dyweder, dair awr. Gadawem iddynt fyned i'r Illyoydd ncu y lie mynnent yn yr wythnos. Chwareu teg i'r dafarn, cadwai ei ddrws yn agored, a dywedai ei dan siriol mewn iaith ddiamwys ar nos oer, tyred i fewn. Ni cheisiwyd gwella y dafarn ond ei difodi. Paham na allem o Fanasseh o dy gael rhyw ddaioni? Onibae y dafarn pa le y cawsai y Cyfrinfaoedd le i gynnal eu cyfarfodydd? Gwyddom am ochr arall Y dafarn hefyd. Na, fu gwyr y teml- au yng Nghymru ddim yn deilwng o u crefydd i'r Cymdeithasau. Ni fuo n" fel Cymry yn effro fel aelodau, ac os ydyw y Ddeddf i gael ei gwein- du yn Hawn a digoll, nid cyfeillion ymry anogant hwy i fynnu y cyfrif ar Wahan i Gymru. Gan fod y Sais yn foddion ein cynnwys paham y byddwn ^°led a gwarafun hyn iddo. Manteis- )wn er ein Iles, ond gofalwn na chaiff j yr un fantais i fyned o'n blaen, os gallwn fod ar y blaen ein hunain. Yma credwch i mae yn fendith i ni nad ydyw yn gofyn am ein gwahanu. Pennod ddu ofnadwy ydyw hanes Cymru fel y mae a fynno a'r Cym- I deithasau Dyngarol. Na wrandawn ar y dynion etholvvyd dan y Ddeddf ym mhob peth, gan y tystiwn mai nid j eu haddasrwydd i'w gwaith a'u i cymeradwyodd i'r swyddi hyn. Pe j delai rhai o honynt o Fawrth, byddai yn wyrth pe gallent fod yn fwy anwy- bodus o Gymdeithasau Dyngarol. Ym- dafled yr aelodau o ddifrif i fyfyrio y sefyllfa a gwneuthur eu goreu i ofalu fod y dyfodol yn llai gwallus a diofal. Dylai hanes y cyfrinfaoedd fod yn gynhorthwy mawr i bob aelod wybod pa fodd i lywio yn y blaen yn y dyfod- pl. Braidd y credwn y caniateir i'r wladwriaeth fod yn gaeth ac i'r llyth- yren wedi cael y cyfrif tair mlyneddol, a gwae Cymru os mai ar ei thraed ei hun, wrthi ei hun y saif. Gall llawer benderfynu na thai godro yn ol yr hen I drefn. Dyna fu yn bla ofnadwy yng Nghymru oedd y godro digydwybod, ac y mae Cymru yn enwog am hyn. Bydd y wyliadwraeth ar y godro yn i llawer mwy llwyr wedi cael y prisiad I cyntaf dan y Ddeddf, ond yn bresenol gwylied y Cymry na thwyller hwy i geisio bod ar wahan yn y cyfrif. Mae cysgod yn werthfawr pan fyddo poeth- der haf yn taro yn syth ar ddyn, a bydd bod yn yr adwy hon yn gyfrif i Gymru yn y prawf, yng ngwyneb haul a llygaid goleuni. Cyfunwn a gofal- wn o hyn allan na'n ceir ar wasgar, I dyna wedda i genedl fach. Cynhilwn hefyd gan y rhaid talu am ryddid. I I.G. I
) | Godre Ceredigion.I i
) | Godre Ceredigion. I i I Y Delyn yn Llechryd. I Dau gyngerdd a graen arnynt gafwyd nosau Gwener a Sadwrn ym mhentref Llechryd, a saif ar lan y Deifi lonydd rhyw dair milltir o dref Aberteifi; a hynny yn bennaf am fod y "Delyn" yno. Afdderchog, yn wir, Bwyllgor y Llyfr- gell Leol! Clod iti fod cymaint o waed Cymreig yn dy wythiennau. Gymaint o gyngherddau ac eisteddfodau gynhelir yn y parthau gwledig yma, ond 0, cyn lleied o bwyllgorau sydd inor Gymreig a thi. Telyn Mr John Lewis, Trebanos, Cwmtawe, oedd hi, a Miss Gwen Wil- liams, nith fechan y Telynor, oedd y datgeinydd a digon yw dweud fod y "Telynor crychddu fel arfer, nid yn unig yn tynnu'r tannau ond yn ilanw pob nodyn a rhyw swyn rhyfedd, a Gwen angylaidd ei Ilais yn dotio'r llu deg. Yn canu yno hefyd yr oedd Miss Frances Phillips, Aberteifi, a Mr B. T. Jones, Cilgeran, ac yn y siroedd hyn mae enw'r ddau annwyl bob amser yn gwarantu He da a hwyliog. Bu bron yn ymryson rhwng gwyr y capeli am gael cwmni'r Delyn drwy'r Saboth, ond gan mai ffyddlomaij y Tabernacl roddodd fynegiant i'w hawydd gyntaf yno y bu hi fore a hwyr. A dyna ffein oedd y cyfeiriadau byw at ei phresenoldeb wnaed gan yr henur- iaid, ac yn ai-bennig svlwadau cawr- feddyliwr pulpud y Tabernacl. Mynnai ef mai y cysegr a bywyd puraf y genedl sydd a hawl i'r delyn.* Brysied y dydd pan fyddo'r eglwysi a chylch uchaf bywyd y Cymro yn ei chroesawi mor galonnog ag y gwnaeth y Tabernacl, Llechryd, y Saboth hwn. Caradoc yn Llandyssul, I sef Dr. Caradoc Roberts yn rhoi "organ recital" yng nghapel Seion nos Lun, Ebrill 6fed. Daeth yma tan nawdd ?C,ymdeithas Gorawl y lie. 'Roedd y Doctor ar ei oreu yn wir, a mawr ed- mygwyd gwasanaeth y ddwy fones Jennie Jones a Marie Close, a'r ddau fonwr L. J. Thomas a Win. Evans- talentau lleol, a'r cor tan arweiniad Mr Evan Richards. Gymaint purach yw awyrgylch cyfarfodydd fel hyn nag eiddo'r cyngherddau gynhelir tu fewn i Lannau di-gyffro'r cylch yma y dydd- iau rhain. sef cyngherddau'r "Pierrots" a'r "Comedians" Y Gwr o Babiion a Phwnc y Tir. I Amheuthyn fu clywed y Parch. Eynon Davies a ysgrifenna'r Hyn a'r Llall o Babilon Fawr" i'r Tyst yn wyth- nosol yn siarad ar Bwnc y Tir yng Nglynarthen nos Fawrth, Ebrill 7fed, a'r Parch. D. C. Jones, y Boro, Llundain, yn y gadair. Tan nawdd Cangen Plwyf Penbryn o'r Rhyddfrydwyr Ieuainc y daeth. A cham dlos o eiddo'r gangen oedd hon, eithr nid oes mwy o angen eglurhad ar symudiad mawr pwysig nesaf y Llywodraeth yn unman nag yn y parthau gwledig yma. Swnia hynny yn rhyfedd ar glust hefyd. Efallai mai hwyrfrydigrwydd yr amaethwyr cryfion a'r tirfeddianwyr eilradd i gredu yn amcan da a llesol y symudiad sydd yn cyfrif am hynny. 'Roedd Eynon fel arfer a'i barabl fel nant y mynydd. Caf- odd gynrychialaeth gref o feibion y^tir i'w wrando, ac 'roedd ei ergydion byw yn faeth ynddynt eu hunain. Yr A.B.C. megis, roddodd yn y Glyn, sef safle resynus rhaniad a pherchnogaeth y tir heddyw. Yna yn Hawen y noson gan- ynol, lie cafodd dorf gref o feibion ar- daloedd Rhydlewis, Penrhiwpal a Ffos- trasol i wrando'n astud, aeth rhagddo i son am y feddyginiaeth gynhygia Mesur Tir Llwyd o Eifion. Dywedodd bethau gafaelgar yn wir, pethau ddylas- em fod wedi eu pregethu ar bennau y tai yn y cylchoedd hyn er's fcynyddau lawer. Gobeithio y caiff bob congl o'r hen sir annwyl glywed ei phlentyn hwn ar Bwnc y Tir. HEN FASGEDWR.
0 Deifi i'r Mor.
0 Deifi i'r Mor. Hwnt ac Yma yng Ngheredigion. Ar ol sylwi ar Eglwys y Drws Cau- edig, bortreadwyd ac a ddarluniwyd gan law a thafod a dychymyg caniar- weiniol rhyw Sais, naturiol troi at Y Gwrthdystiad Ymneillduol (?). Etc, anawdd cefnu ar Eglwys y Drws Cauedig heb holi—Paham y cauwyd hi ? Nid am fod "y tan o'r nef" wedi llosgi allan ar allor y Cymro addolgar; onid y ffaith gynt ac eto ydyw mai yr Ym- neillduwyr yng Nghymru sydd wedi derbyn Pentecost yr Ysbryd Glan, ac yn parhau i'w dderbyn f ] Dyna hanes Diwygiadau Cymru o Llanfaches i lawr, ac ar ol i'r Eglwy.- Sefydledig—fydol, sobri ar ol berw y Degwm 9,'r Protestio, byddai yn lechyd i'w hysbryd i holi-Pa fodd y bu hyn ? Ond gan mai degwm a chyfoeth Y 111- neillduwyr a ddygir oddi arnynt ctrwy drais, sydd yn cadw drws yr Eglwys hon yn agored, naturiol ei weled y ea ] drwy Ddadwaddoliad! Ond "aty pwnc," "pwnc y dydd" t.^n yr Eglwys ar hyn o bryd- Y Ddeiseb Ymneillduol? Ar ol y cerdded, y baldorddi, a'r chwysu, naturiol gofyn,—Pwy sydd yn gwrthdystio? Ai Ymneillduwyr Sir Aberteifi sydd wedi rhoddi bodolaeth i'r fath ddrychfeddwl barddonol o chwerthinllyd ? Os yr Ymneillduwyr sydd wrth wraidd y mudiad, paham na byddent wedi pasio penderfyniad yn yr addoldai Ymneillduol o blaid y ddeiseb, ac wedi gosod y papyr ar y bwrdd yn y set fawr er rhoddi cyfle i'r aelodau a'r gwran- dawyr i arwyddo y cyfryw 1 Os am gau y drafodaeth allan o'r gor- lan Ymneillduol, paham na buasai yr Ymneillduwyr wedi galw Cyfarfod Cy- hoeddus, mewn adeilad cyfleus, ac Ym- neillduwyr yn unig yn bresenol, er tref- nu i ddwyn y ddeiseb oddi amgylch ? Os yn ddeiseb oddi wrth yr Ymneill- i duwyr, pa fodd y gall "John Tyddewi" (dyna fel yr arwydda yr Esgob ei enw, onide 1) esbonio y ffaith mai Eglwyswyr —bron yn ddieithriad- yng Ngheredig- ion sydd yn cymeryd y ddeiseb o dy i dy? Gwir fod yr anwyl gariadus frodyr" defodol yn gwasgu yn nes atom-neu yn hytrach at rywfath o ryw- rai o honom, fel yr aeth Esgob cyfrwys- gall Llanelwy gydag "Ymneillduwyr syml y Gogledd" at y Prif-Weinidog y dydd o'r blaen! Paham, yn enw egwyddor a gwirion- edd a chysondeb na byddai yr offeiriaid a'u cynffonwyr yn gadael y drafodaeth yn nwylaw Ymneillduwyr os mai eiddo Ymneillduwyr ydyw y bwgan didalent a dienaid! Ie. paham nad aent at yr Ymneilldu- wyr hyny ydynt yn Arweinwyr y Bobl, ac nid pasio yn llechwraidd y tu cefn iddynt er ceisio hud-d d enu y 'rhai gwan- j iddynt er ceisio af ? Gan ein bod wedi dechreu holi, holwn am esboniad ar un peth arall,—Paham na eglurant yn onest amcan y fath ddeiseb, ac nid cuddio y gwirionedd— mewn rhai aiiigylchiadati-neu ei ddarn- guddio mewn amgylchiadau eraill—er j mwyn llwyddo rywfodd i gael enw ar bapyr 7 Buont yn ddigon cyfrwysgall i drefnu fod rhywrai o ddylanwad yn myned o gwmpas, a sylwed y darllenydd fod yr apel, fel rheol, yn cynwys cymwynas a'r dyn neu'r ddynes fyddai yn apelio, ac os yn gwrthod, onid oedd hynny yn angharedigrwydd a rhywrai gwir hwysig ? Cof gennym am ddeiseb arall yn cael sylw mawr yn Llanbedr-Pont-Stephan, ac nid yw dylanwad yr helbul hwnnw wedi diflannu yn hollol erbyn gwanwyn 1914. Beth pe byddai Canon y Te Gamil yn rhoddi datganiad ar drafodaeth y deis- ebau ? Diddorol fyddai cael casgliad o hanes Deiseb 1914-yng Ngheredigion, ie, a thrwy Dde a Gogledd; dyna lie byddai cydgrynhoad o berlau athrylith olynwyr yr Apostolion' Awgrymiadol, onide, y ffaith fod rhywun o ddylanwad yn myned at bob Ymneillduwr. Wrth gwrs, nid yr un math o abwyd wna y tro at bob math o bysgod. Os bydd perchen y ty, perchen y fferm, neu feistr y crefftwr. etc., etc., yn gofyn, onid yw y cysgod a'r dorth mewn perygl ? Fel yr eglurodd un: "Y mae doli bert gyda Mari fach ni, a dim ond i chwi wasgu ei bol fe wna y ddoli roi bloedd. A dyna wna y clerigod hyn a'u canlynwyr, gwasgu amgylchiadau—neu fola-dyn, ac wrth gwrs rhydd ryw fath o floedd." A ydyw yn ddeddfol onest i'r gwr sydd yn cadw llythyrdy i apelio at un o'i lythyrgludwyr am arwyddo y ddeiseb, er fod hynny yn archoll i galon y sawl—drwy ddiffyg asgwrn cefn—a "dorrodd ei enw?" Clywsom am glerigwr yn myned at foneddiges, gan daflu y papyr o'i blafen. a dywedyd yn foddhaus,—" Wei, caw- som eich enw o'r blaen, wrth gwrs fe gawn eich enw y tro hwn." Atebwyd ef: Na, ni chewch fy enw i y tro hwn; yr oeddwn mewn bysnes y tro o'r blaen, ond nid wyf mewn bysnes nawr. Anghofiodd y gwr defodol ddweyd Dydd da i chwi," gan ei frys i ym- adael. Ymgeisydd aflwyddiannus arall a wel- wyd ar aelwyd hen wraig ryfeddol o sownd yn y earn," a chyda llais todd- edig dywedodd Y maent am fyn'd a'r arian oddi wrth yr Eglwys a'u rhoddi i gynal Chwareudai a phethau tebyg." Amheuwyd ef, yna ychwanegodd: Cofiwch chi os aiff y mynwentydd oddi wrth yr Eglwys, y Council fydd a'r hawl ynddynt wedyn, a bydd yn rhaid i chi dalu am gael claddu." Methodd amynedd yr hen wraig a dal eiliad yn hwy—atebodd, Talu, yn wir! Yr wyf yn gorfod talu nawr i'r ffirad, ac ar ol talu am fedd rhaid talu ar ol hyny am gael rhoi carreg ar y bedd—fel rheol. Mynwent yr Eglwys, yn wir! Wyt ti ddim yn gwybod mai Mynwent y Plwyf ydyw hi 1 Cymer di hi gan bwyll. Yr w i wedi fy ngeni o dy flaen di." Chaf fi ddim o'ch enw chi ta; dirti ond scrap bach sydd eisiau." Dim scrap, was bach. Nid wyf mor ffol a thorri fy enw i fradychu fy egwyddorion fel hen wraig ag sydd yn perthyn i Ymneillduaeth cyn bod son am danat ti na dy dad a dy fam Tra yn symud ei sodlau dros y trothwy dywedodd Jar i, y mae tipyn o stamp yn yr hen wraig hefyd." Aeth Yswain uchelgeisiol at foneddwr rhwng yr afon a'r mor. Eglurodd yn- tau ei neges. gan daflu ei bapyr gwyn yn agored ar y bwrdd. Sefwch chi dipyn bach," oedd yr ateb parod, fe garwn gael eich barn chi, syr, ar y cwestiwn. Meddyliwch chi nawr fod ein capel bach ni wedi eich gorfodi chi fel Eglwyswyr i dalu degwm i ni, ac yn eich gorfodi o hyd, a neb o honoch chi yn dod yn agos i'n capel bach, nac yn credu dim ynom ni. A dyma chi'n dweyd, nad yw hi ddim yn deg i'n gorfodi ni i dalu aur melyn bob blwvddyn i'ch capel chi, a nine ddim yn dod yn agos i'ch drws chi? Ond cs byddach yn gwrthod talu, dyma y bwm- beili a'r heiddgeidwad ar eich gwar, ac yn gwerthu eich gwartheg a'ch defaid a'ch ceffylau a'ch moch. A rhyw fore dyma ni yn dod a Deiseb i'ch ty chwi, ac yn dweyd. 'Y maent am fyn'd a'r degwm etc., oddi arnom ni, a'i droi at amcan- ion cenedlaethol.' Nawr, syr, rhyngom ni a'n gilydd a'r pentan, fyddech chi yn barod i seino y ddeiseb?" Y fi," atebodd yr Yswain, "no fear i fi neid shwd beth. Chele chi ddim o enw fi." Ac allan ag ef heb gwmwl yn ei wyneb na rheg yn ei lais, ond yn foarod i gydnabod hawliau cymydog crefyddol onest. Dyma un ergyd arall o Geredigion. Daeth impyn beiddgar, "yn credu y byd ynddo ei hunain," at hen bererin tawel, ond yn siwr o'i draed. Ar ol y cyfarchiadau arferiol—awd at y cwes- tiwn-" Rwy'n gwybod y caf eich enw chi yn erbyn y lladrad presenol." "Pa ladrad machgen i?" Ond Mesur Dadgysylltiad a Dad- waddoliad" ydoedd eglurhad yr Eg- lwyswr main. I "Pa ladrad, machgen i, sydd mewn Dadgysylltiad a Dadwaddoliad?" Wei, dyma nhw yn dwyn y degwm oddi arnom, a ni fel Eglwys bia'r degwm Ho wir, pa ran o'r Testament New- ydd sydd yn awdurdodi rhoddi degwm Ymneillduwyr Cymru i Eglwys Loegr yng Nghymru 1 A ellwch osod bys ar esiampl lesu Grist neu un o'r Apostol- ion 1 Neu ynte, a ellwch gyfeirio at ryw adnod sydd yn rhoddi hawl Ysgrythyrol i chwi i gymeryd y degwm i chwi eich hunain?" "0, gallaf," meddai'r Eglwyswr, odw i ddim yn son am esiampl lesu Grist a Saint Petr a'r Apostolion, ond dyma adnod bendant ar y cwestiwn, all wch chi ddim gwadu hon 'N a chau safn yr ych sydd yn dyrnu!' Machgen bach i, ti cwplest hi o'r diwedd! Pwy yw'r ych sydd genych mewn golwg ?" gofynodd yr hen bererin. Ond ein ffirad ni" ydoedd yr ateb parod. Xawr, gad i 1i ofyn un peth i chwi eto," ac wele'r hen frawd mor syth a mihn., a gwen chwareus ar ei wyneb, a phwyslais gragwrus yn ei lais-" Os ych yw'ch ffirad chi, ac yn ych sydd yn dvrnu. nawr, machgen i. i bwy y mae eich ych chi yn dyrnu?" I bwy ma'n ych ni'n dyrnu? Ond y mae e n pregethu yn ein Heglwys ni bob Sul?" atebwyd mewn syndod. Gall fod yn dyrnu tipyn i chi fel Eglwyswyr, ond, machgen bach i, nid yw yn onest fod yr ych hwn yn dyrnu i chi. a ninau fel Ymneillduwyr yn gorfod ei borthi! Rhoddwch chi yd eich hunain o'i flaen, yr ydym ni fel Ymneillduwyr wedi cael ein gorfodi i ffido mwy na digon ar ychain Eglwys Loegr yng Nghymru 1" Beth feddylia Canon y Te Gamil am yr enw "ych" ar offeiriad? Rhaid sychu y pin ysgrifenu cyn mynegu yr hanner. Ond ceisiwn fyned i'r fynwent y tro nesaf. LLENORYN. I
Capel-y-Cwm, Llansamlet. I
Capel-y-Cwm, Llansamlet. I Cynhaliwyil Cymanfa ganu lwydd- iannus yma Gwener y Groglith. Cyfar- fod y plant yn y bore am 10.30. Yn Bethlehem, Capel-y-cwm, prydnawn a'r hwyr, lie y cafwyd canu rhagorol a chynulleidfaoedd lluosog. Arweinydd y dydd, Mr Tom Price, Merthyr. Llyw- yddion, Mri. W. Beddow, D. W. Mor- gan, a W. W. Rosser, a chafwyd sylwadau pwrpasol ganddynt. Cymer- wyd rhan yn y cyfarfodydd gan y Parchn. O. C. Morgan, W. Samlet Williams a S. J. Lewis, Plasmarl, ac eraill. Ynglyn a datganiad y Cyfamod Disigl cafwyd amlinelliad o fywyd gweithgar cyfansoddwr y gerddoriaeth, W. Ivander Griffiths, gan y Parch. W. Samlet Williams. Cyfeiliwyd ar yr harmonium gan Mr Ben Hughes, G. & L., yn cael ei gynorthwyo gan y cryth- wyr. Yr oeddynt yn gynorthwy mawr i'r canu.
ITreforis.I
I Treforis. Y Ddrama. — Y mae dydd y Ddrama wedi dod i Gymru a digon da hynny. Cawsom ddau beriformiad o "Beddau'r Proff wydi (W. j. Gruffydd, M.A.) gan Gwmni "Cylch y Disgybl," Siloam, Pentre, dan ar- weiniad Penar. Nid perigl Penar yw bod ar ol ei oes. Gwr ag amsang mawr ymlaen o hyd yw Penar. Yn nhafodiaith Gogledd Cymru y mae y Ddrama, hynny fyddem yn ddisgwyl wrth gwrs pan gofiwn pwy yw ei hawdwr. Nid yw hynny yn tynnu oddiwrth ei gwerth i nemawr os i neb yn y De. Deallwn ei bod yn dod yn fwy poblogaidd o hyd. Ni synnem glywed gwahodd Penar a'i gwmni i ambell gylch yng Ngogledd Cymru i dreulio wythnos gyda'u Drama. Call o beth fyddai i lawer cylch drefnu taith i'r cwmni hwn. Cyfarfodydd Pregethu yn Soar.— Y Parch. J. Roberts, Cwmafon, fu yn rhoi gweinidogaeth gref i eglwys Soar yn ei gwyl flynyddol eleni. Un o'r eglwysi hynny sydd wedi lwyddo llawer mewn ychydig amser yw Soar. Y mae y Parch. Fred Morgan yma yn ddiwvd a llwydiannus. Horeb.—Mawrth ?g a 30 y cynhai- iodd yr egi wys uchod ei gwyl nynydd- ol. Y Parchn. Lloyd Williams, Beau. fort, a W. Morgan, Brynteg, oedd yn dweyd Ffengyl hyfryd yma eL..oi. Y mae Horeb yn dal yn ei chryfder, a'i gweinidog gweithgar, y Parch W. Salmon, yn llwyddiannus yn eu mysg. Carmel. Y Parch. Rhys J. Huws, y bardd-bregethwr o Glanamman, oedd yng ngwyl bregethu Carmel Ebrill 5 a'r 6. Un o'r eglwysi sydd yn cynhyddu yn gyflym yw hon hefyd. Yr oedd y gweinidog yn derbyn 18 i Gymundeb y pen mis diweddaf. Caf- wyd gweinidogaeth yn llawn maeth a grym gan Mr Hughes. Y Sabath. Ymdrech galed sydd geftnym yn ein bwrdeisdref yn y dyddiau diweddaf hyn i ddiogelu cysegredigrwydd y Sabath. Y nos o'r blaen cynhaliwyd cyfarfod unedig o holi Eglwysi Rhyddion ein tref i wrthdystio yn erbyn masnachu ar y Sabath. Cafwyd cynhulliad braf, a siaradwyd gan weinidogion ein tref ar y mater yn ei wahanol agweddau. Dywedwyd wrthym bethau 'plaen a chryf. Yn wir, yn wir, y mae eisiau i'r eglwys ymysgwyd o'r llwch ynglyn a dewis dynion cymwvs i'n cynrych- ioli ar y cynghorau cyhoeddus. Gwnaeth enwad a phlaid lawer o ojw- ed yn y cyfeiriad hwn yn yr amserau a fu, ond credwn ein bod wedi tyfu i yspryd rhagorach ac i gyd-ddealidwr- iaeth mwy addfed erbyn hyn, fel y gallwn yn hawdd uno a'n gilydd i ddewis y dynion goreu-goreu eu moes—yn ogystal a bod yn oreu i drafod materion ac arian y cyhoedd. Llac a diegni yw y Cyngor Trefol gyda'r ddeddf i atal masnachu ar y Sabbath heb son am eu difrawder i geisio cael deddf well. Cynhaliodd Cyngor Eglwysi Rhydd- ion Abertawe a'r cylch gyfarfod ar- bennig i wrthdystio yn erbyn agor ein Hamgueddfa a'n Orielau Celf (Museum and Art Galleries) ar y dydd Sabath. Siaradwyd gan amryw o weinidogion a diaconiaid cylch y Cyngor yn y modd mwyaf pendant. Dywedwyd ei bod yn amhosibl i'r eglwysi gydsynio a hyn, ac fod yn rhaid ei atal. Teimlid fod v Sabath yn rhy gysegredig gan y. Cymry i adael ychydig Saeson, a rhai Cymry sydd o dan eu dylanwad, i'w halogi. Pasiwyd y penderfyniad canlynol yn holi eglwysi rhydd a gwladol y Fwr- deisdref: — We regret to see the decision of the Swansea Arts and Crafts Com- mittee to recomend the Council to open the Glyn Vivian Art Gallery and the Picture Galleries at the Library on Sundays, and desire to enter our strong protest against this attempt to encroach on the Sunday and alienate it from its sacred uses; and more so as it entails further Sunday labour. We feel that no sufficient desire has been shown to justify this retrograde step, and we strongly urge the Council to refuse to adopt the recommendation and thus assist the efforts now being made to prevent the contention of Sunday labour. Y Parch. W. Emlvn Jones.— Hyfrydwch calon i ni yw gallu hys- bysu fod Mr Emlyn Jones ychydig yn well. Nid yw eto ond gwan iawn, ond dywed ei feddyg wrtho y gall fynd allan ychydig wedi i'r tywydd gyn- hesu os parha i wella fel y mae ar hyn o bryd. O.N.—Da gennym weled hysbysiad fod y Cyngor Trefol wedi penderfynu peidio agor yr adeiladau cyhoeddus y cyfeiriwyd attynt ar y Dydd Sabath. n
Aberdar. I
Aberdar. I Galwad.-Deallaf fod y Parch. E. J. Gruffydd, Bethel, Aberdar, wedi derbyn galwad daer ac unfrydol oddi- wrth Eglwys Llangennech. Lluosog yr ymdrechion wneir i'w symud o Aberdar, ond credaf mai nid hawdd y symudir ef. Hyderwn yn fawr y cawn ei gadw yn hir yn ein mysg, oblegid y mae yn gymydog a phregethwr rhagorol.
Advertising
CYMERWCH HYN yN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain < un a ddylai Parotf .d, gan ba un ymaeEnwdaynei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- • ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfarsoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? y pWNC IECHYU V mae hyn yn fater sydd yn sicr o tod a fynoch chwi ag ef ryw am- ..er neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyff re- i-lin, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw vmosodiad o'i anhwylder mwyaf gwanhaol Hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn leillduol ar ol ymosodiad, oblegid > pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau Mae QUININE gITTERS (j-WILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yo Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teirnlad cyffredin o wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH OED I. YSTYRIWCH YN A. Wl( Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- I t:ddol. GWEKTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. 9c. a 4s. 6ch. yr un Unig Berchenogion:- QUININE Bl ITERS MANUFACTURIHC COMPANY, UMITfD, LLANELL Y, Stoth Wales,