Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y PLANT. I
COLOFN Y PLANT. I (DAN OLYOIAETH MOELONA.) I Hen Ddull Cymreig o Rifo'r Misoedd. I 1fis Ionawr a mis Chwefror I roddi gwellt l'i- ych, A misoedd Mawrth ac Ebrill I ddall y brithyll brych Mai, Mehefin hefyd, Gorffena' gyd ac Awst, A Medi, Hydref, Tachwedd, A Rhagfyr cig ar drawst. PWYI Gwobr Ned Puw. I (Lled-gyifeithiad.) Un o blant bach Canada oedd Ned Puw, yn byw mewn ffermdy ynghanol y wlad. Liane bach siriol ac iach oedd, ac yr oedd pawb yn ei hoffi. Nid oedd iddo froclyr a chwiorydd, ond yr oedd ganddo berthynasau ereill—cefnderwyr a chyfnitherwyr, ac ewythr a iiiodryb- yn byw ar fferm arall yn yr un rhan o'r wlad. Ai Ned a hwythau i weled eu gilydd yn fynvch. 1-n bore, yr oedd Ned yn fwy llawen nag arfer yn mynd tua thy ei berthynasau, oherwydd marchogai ferlyn bycban hardd. Nid ei iddo ef oedd y merlyn, ond un logasai dad iddo am y dydd. Diwrnod oer o aeaf oedd, ac yr oedd yr eira yn drwch ar y ddaear, ond ni hidiai Ned am hynny. Yr oedd arno frys i gyrraedd ty ei ewythr, lie yr oedd cwmni mawr o bobl i fod, a chwareuon o bob math, a gobeithiai yntau ennill y wobr am redeg. Buasai am ddyddiau yn parotoi ar gyfer y rhedegfa hon, ac yr oedd yn medru rhedeg yn dda. Brysia, Sambo," meddai wrth y merlyn, fel pe bai hwnnw yn deall. Mae'r rhedegfa yn dechreu am un-ar- ddeg. Nid allai Sambo fyned yn gyflym iawn, gan gymaint o eira oedd ar y ddaear. Ofnai Ned na chyrhaeddai mewn pryd i gymeryd rhan yn y rhedeg- fa. Trueni fyddai hynny, gan y rhoid medal arian yn wobr, ac yr oedd yntau wedi meddwl cymaint am ei gael. Yr oedd wedi teithio tua hanner y ffordd, pan y daeth at fwthyn unig. Yno trigai hen wr a hen wraig o'r enwau Bob a Ffani Morgan. Gwelsai Ned yr hen wr lawer gwaith yn gweithio yn yr ardd, ond ni fu yn siarad ag ef na'i wraig erioed. Yr oedd y ffordd yn gwella fel y deuid i gyfeiriad y bwthyn, a phan y carlamai'r merlyn bach yn ys- gafn heibio, clywodd Ned lais gwraig yn galw arno. Arhosodd a throdd i edrych. Ffani Morgan oedd yn galw, ac ymddanghosai mewn gofid mawr. "0, machgen annwyl i," ebai, a ewch chwi ar gefn eich merlyn i'r dref i gyrchu'r meddyg ? Mae fy mhriod wedi ei gymeryd yn wael. Mae mewn poen- au enbyd, ac nid oes gennyf fi neb allaf anfon." Fr dref 1" ebe Ned. Mae honno bum milltir oddiyma," a meddyliai gydag ochenaid am y rhedegfa a'r medal arian. Ni wiw i mi adael fy mhriod," ebe'r wraig, ac ofnaf ei fod yn wael iawn. -0. gwelwch yn dda i fynd." Ni wyddai Ned beth i wneud. Yr .oedd yn hwyr. yn barod, ac os teithiai ddeng milltir arall, byddai'r rhedegfa drosodd. Heblaw hynny, nid un o'i gyfeillion ef oedd Bob Morgan. O'r braidd yr adwaenai ef Bob na'i wraig Ffani. Pa raid iddo golli ei bleser er mwyn rhywun dieithr felly? Dyna feddwl cyntaf Ned, yna gwrid- ..odd gan gywilydd. Rhaid i mi helpu'r hen bobl, beth bynnag gyst hynny i mi," ebai wrtho ei hun. "Blin genyf golli'r rhedegfa,, ond does dim i'w wneud." Disgleiriai ei ei lygaid, ac ebai wrth y wraig, Ewch chwi yn ol at eich priod, bydd popeth yn iawn. Gwn ym mha le y mae y doctor yn byw, a chyrchaf ef yn union." Trodd y merlyn i gyfeiriad arall. Sambo bach," meddai, mae gennyt daith bell o'th lfaen." Chwythai'r gwynt yn arw, a deuai'r eira i lawr yn dew, nes gwneud y dydd yn dywyll fel nos. YmddanghoBai'r daith i Ned yn ddiderfyn, ac erbyn hyn I yr oedd pob gobaith am ennill y medal ( wedi diflannu. O'r diwedd cyrhaedd- odd dy'r meddyg a chanodd y gloch. Daeth y forwyn i agor y drws. I Os gwelwch yn dda," ebe Ned, dywedwch wrth y meddyg fod yr hen I Bob Morgan yn wael iawn, a gofynnwch a fydd mor garedig a mynd yno ar ei I union." "Mae'r meddyg ar fynd allan," ebe'r ( forwyn, "dyma'i gerbyd. "Rhoddaf eich neges iddo. Pe baech bum munud yn ddiweddarach buasech wedi ei golli." Araf y teithiwyd yn ol, gan fod y merlyn wedi blino, ac y roedd yn un o'r gloch pan gyrhaeddodd Ned dy ei ■ewythr. Da iawn oedd ganddo roi y merlyn i ofal y gwas a rhedeg i'r ty cynnes He chwareuai'r plant. Dyma Ned! Dyma fe wedi dod o'r diwedd," gwaeddai?r plant, tra cerddai Ned a'll wyneb bochgoch iach i fewn i'r ystafell'l (I'w barhau.) )
Advertising
..0. ..n I ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, A Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit" Trusses, I etc.; lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, I .etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Pearce, 26 ,Charles Street, Cardiff.
Cyfarfod Anrhegu MarchogI…
Cyfarfod Anrhegu Marchog I Ynyshir. Nos Lun ddiweddaf, yn Fe-stri Saron, Ynyshir, cefais y fraint o fod yn un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf yn fy hanes. Gwahoddasai Syr William weddwon yr ardal i gyfranogu o d6 a ddarparesid ganddo, ac ar y diwedd cyflwynasant hwythau iddo yntau inkstand ac ysgrif- bin arian. Cymerwyd y gadair gan y Cynghorwr John Thomas, Agent Glofa'r Standard, ewythr i Syr William. Dywedodd y Cadeirydd mewn geiriau toddedig iawn y talai Syr William yn ol ar y ddegfed ac ar y canfed i'r gweddwon am eu han- rheg sylweddol. Wedi cael alaw ar y berdoneg gan Mr Howell o Ainon, cafwyd ychydig benhill- ion gan yr hen frawd digri a phwyllog Lewis Williams. Y mae efe yn un o'r rhai hynaf yn yr Ynyshir. Wedi hynny cawd unawdau gan Miss May John, R.A.M. Dywedwyd gan y Cadeirydd na chanasai Miss John yn well, os cytal, erioed a'r noson hon. Ar ol hynny galwyd ar y chwiorydd ymlaen i gy- flwyno yr anrheg i Syr William, ac os y bu teimlad yn orchfygol erioed, dyma engraifft. Darllenwyd yr hyn oedd yn ysgrifenedig ar yr album, a'r hyn oedd wedi ei argraffu ar yr inkstand gan Mrs Powell yn effeithiol iawn. Yna cyflwyn- wyd yr anrheg gan un o'r gweddwon hynaf oedd yn bresenol. Gallaf eich perswadio i gredu yn awr fod dagrau y gweddwon yn ami, a dagrau Syr William a'r cadeirydd hefyd gan mor rhyfeddol ddylanwadol oedd y cyfan. Fodd bynnag, pan y cododd Syr William i gynabod yr anrheg, cod- odd uwchlaw disgwyliadau pawb, trwy ddweud y rhoddai wyl fel hon ddwy waith y flwyddyn; yna, yn sydyn iawn, cyhoeddodd ei fod yn rhoi sofren y noson honno i bob gweddw a oedd yn y Festri-ac yr oedd yno dros gant o honynt. Campus, onide! Dyma i chwi ddyn yn cydymdeimlo a dynion yn eu hargyfyngau, nid ar air ac ar dafod yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd. Gwyn fyd na welem ragor o'n cyfoethogion yn dilyn ei esiampl. A dyma fel y canodd un o'r beirdd oedd yn bresennol:— Mae Ilawer math o roddion hael, I'w cael yn myd anrhydedd Cyfranna rhai o logell lawn, Heb deimlo fawr o duedd; Ond dyma rodd o galon rydd, Sydd fel y dydd yn oleu, A gwyddom hyn trwy brofiad oil Mai dyma'r rhoddion goreu. Nid maint y rhodd yw'r rhinwedd mawr, Ond faint o deimlad tyner Gynhesa'r Haw gynhwysa'r rhodd, Heb deimlo unrhyw bryder; Yn rhodd y gweddwon gwiwlon hyn, Curiadau calon gynnes, A gura'n gyson dan yr oil I anfarwolu'u hanes. Yn serch Syr William bydd y rhodd Yn un o'i brisfawr bethau; Fe'i perchir yn ei balas clyd Fel offrwm gwir galonnau A phan yr eistedd wrth y bwrdd, I gwrdd galwadau'i fywyd, Defnyddia yr ysgrifbin hwn I'w hateb oil mewn munyd. Cymeraf arnaf ryddid, Syr, I ddatgan dros y gweddwon, Eu teimlad gwir o barch i chwi Am helpu mewn treialon; Nid yw eu rhodd ond milfed ran 0 deimlad cudd eu calon; Bydd gweddi gweddwon Ynyshir Yn bur o'ch plaid yn gyson. Ynyshir. T. H. EMANUEL.
Hirwaun. I
Hirwaun. I Canwyd y gantata dlos, Dan y I Palmwydd," nos Iau, yng nghapel Ramoth, gan Gor Plant yr Eglwys, yn cael ei arwain gan Mr. T. Young. Llywyddid gan T. Jones, Ysw., Y.H. Hon oedd yr ail waith i'r gantata gael ei chanu ynghorff y mis diweddaf, a chaed elw da y tro hwn er cynorthwyo teulu y diweddar Mr William Rowlands, Brecon Road. Symuda dwy o eglwysi'r cylch ymlaen i alw bugeiliaid. Y mae Mount Pleasant ar ol bod yn weddw am tua dwy flynedd yn galw'r Parch. M. P. Moses, Libanus, Brycheiniog. Denwyd Eglwys Bethel gan bregethwr gwych o Gwm Tawe, ond nid oes sicrwydd eto a fydd iddo gydsynio a chais yr eglwys. Dod ar ol y brenin y bydd y sawl a ddaw'n weinidog Bethel, ac nid hawdd cael gwr i wisgo mantell y diweddar Barch. W. J. Williams. Y pregethwyr a ddisgwylir i gynnal gwyl flynyddol y Tabernacl eleni yw'r Parchn. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin, a J. Lewis Williams, M.A., B.Sc., Aber- ystwytk. Sicrha'r doniau hyn y ceir amser da, er mai hynod o ddifywyd yw'r achos goreu gyda phob enwad yn y cylch hwn ar hyn o bryd. Bu ymdrech arbennig gan y gweith- wyr yma y dyddiau diweddaf hyn i gael nifer rhy luosog sydd heb ymuno ag un- deb y glowyr yn Hirwaun, i wneud hynny ar fyrder. Trwy ymweliadau personol llwyddwyd i berswadio amryw, a cheir argoelion y bydd dyfodiad dau atal-bwyswr yma'n ddiweddar yn help i lowyr y cylch fagu tipyn o asgwrn cefn. Syn yw meddwl fod gweithwyr goleuedig yr ardal hon wedi bod gymaint ar ol eu hoes gyda threfnu i wylio eu hawliau.
Oddiar Lechwedd Penrhys.
Oddiar Lechwedd Penrhys. Dydd Sadwrn diweddaf hebryngvvyd gweddillion Richard Williams, 64 oed, yr hwn a gyfarfu a'i ddiwedd yng Nglofa Ynyshir, i orffwys ym myn- went Trealaw. Cafodd angladd luosog iawn. Yr oedd wedi gorffen ei ddiwr- nod gwaith, ac ar ei ffordd at waelod y pwll pan ddigwyddodd y ddamwain. Adwaenid ef gan y mwyafrif wrth yr enw Richard Rhysyn. Bu y trancedig yn rhedegwr campus yn moreu ei ddyddiau. Tebyg fod llawer o ddarllenwyr y "Darian" heb ddigwydd erioed fod ar ymweliad a Llanwonno, y man lie gorffwys prif redegwr yr oesau, sef Gruffvdd Morgan, Guto Nyth Bran, y dyn cyflymaf tnewn hanes. Ceir hanes ei gyflymdra yn gerfiedig ar ei garreg fedd, a phery y traddodiadau sydd am dano dros oesau meithion eto. Rhaid i bob ymwelydd droi at fedd Guto; ymwel miloedd a Llan- wonno i weled y beddfaen. Ymhen hir gyfnod wedi ei gladdu y cerfiwyd' y llinellau canlynol ar y garreg. Fe wyr Brynfab am danynt "Y garreg hon ar geiriad,-a rodd- wyd I arwyddo cariad, Ar ei lwch gan wyr ei wlad I gyfiawn ddal ei gofiad." —Meudwy Glan Elai. Yn mhen amser wedyn y cefiwyd eiddo Glanffrwd- "Rhedegwr hyf a gwrawl,—cawr Yn curo'n wastadawl; Oedd Gruff ydd 'e fydd ei fawl, Wr iesin yn arosawl." -Glanff rwd. Nos Lun, Ebrill bed, cafwyd areithiau grymus gan y Suffra- gettes" yn y Judge's Hall, Trealaw. Cawsant beth o'i blino gan blant; eto, cafwyd gwrandawiad astud. Cymerwvd y gadair gan y Proffeswr Jevons, M.A., a siaradodd y boneddi- ,gesau yn hyf a beiddgar dros eu hiawnderau. Gresyn fod yr asen a dynwyd o ystlys Adda yn methu cael yr un fraint a'r un hawl i farnu ag Adda ei hun. WILLIAM BASSETT. CJ 1If'
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. Nos Sadwrn cynhaliwyd Eisteddfod lewyrchus ym Moriah, Coelbren. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan y Parch. W. Edwards. Beirniad y canu, Mr D. T. Morgan, A.C., Seven Sisters; yr amrywiaeth, Mr T. Watkins, Abercraf y gwobrgydau, Mrs. Edwards, Coel- bren. Aeth y gwobrau fel y canlyn :— Unawd i fechgyn, Tros y Garreg," George Bedgwood, Coelbren ail oreu, Ivor Jones, Coelbren. Adrodd i blant, Fy nhad sy'n feddwyn," Ben T. Jones, Camnant; ail oreu, Jenny Jones, Abercraf. Unawd soprano, Neges y Blodeuyn, rhannwyd rhwng Miss M. J. Pugh a Mrs. M. A. Evans, Duffryn. Fn- awd tenor, Gwlad y delyn," Mr John Richards. Onllwyn. Unawd bass, Cwm Llewelyn," Mr Jenkin Lloyd, Maesymarchog. Adroddiad i rai mewn oed, Gorchfygwr Pen Peniel," Mr Hy. Williams, Duffryn. Traethawd, "Budd- ioldeb addysg i blant gweithwyr," Hy. Williams, Duffryn. Darllen ar y pryd, Mrs. Davies, Duffryn. Gwobrgydau, Valma, yr hon ni atebodd i'w henw. Prif ddarn, Addoliad." dau gor, Coel- bren a Duffryn United; goreu o ryw ychydig, Duffryn. Terfynwyd trwy ganu Hen wlad fy nhadau gan Willie Lewis, Penycae. Cafwyd cyfarfod rhagorol; eisiau nlwy o gyfarfodydd o'r natur hyn sydd yn y lie. Gobeithiaf y bydd yr eglwysi cylchynol yn efelychu Eglwys Moriah. Dydd Sul cynhaliodd Eglwys y Bed- yddwyr ym Maesymarchog, gyfarfod chwarter yr Ysgol Sul. Cafwyd tri chyfarfod da. Llywyddwyd gan y Parch. Mr Hughes, Cwmtwrch, a rhoddodd anerchiad rhagorol yn y pryn- hawn, ar Ddyledswydd Crefyddwyr tuag at yr Ysgol Sul." Aeth y plant drwy eu gwaith yn ardderchog. Y mae clod yn ddyledus i Mr D. W. Walters, Goruchwyliwr Glofa Maesymarchog, a'i briod, am eu llafur egniol gyda'r plant. Nid oes ond blwyddyn er pan agorwvd achos y Bedyddwyr yn y lie, ond mae golwg arall ar y plant oddiar hynny. Y mae Mr Walters a'i briod yn amcanu i'r Banwen Fydd fod yn well na'r Ban- wen Sydd. Hir oes iddynt i wasanaethu eu Duw a'u cenedl. Dydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, claddwyd yr hyn oedd farwol o'r brawd ieuanc Evan Jones, Werngynlais, Pen- rhos, cyfarfu a damwain ar reilffordd y X eath and Brecon. Brodor oedd o Gwm £ >ach, Aberdar. Daeth tyrfa luos- og ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd hanes y Llo yn ddiddorol iawn i lawer yn y lie hwn, ond y mae Die Blaen-Nant-Cellwen, yn dweyd yn bendant mai Blaen Buarth Fach yw enw iawn Blaenhertach. Clywais hefyd rai o hen wags y lie yma yn awgrymu mai chwi, Mr. Golygydd, oedd awdwr hanes y Ilo. Cofiant yn dda eich bod y pryd hwnnw'n was ym Mlaenhertach. GLAN PYRDDIN. [Wel ie, hen wags ydynt mae'n debyg, ond y maent yn methu y tro hwn. Carwn gael rhesymau fy hen gyfaill o Flaen N ant C'ellwen dros gredu mai Blaen Buarth Fach yw'r ffurf iawn ar yr enw.-Gol.]
I Colofn y Gohebiaethau. ;…
I Colofn y Gohebiaethau. i I GAIB O'R GARW. Mr. Gol.,—Gyda'ch caniatad yr wyf am ddangos beth yw'r diffyg yn Undeb y Glowyr. Profodd Balot y Chwech Cheiniog fod rhywbeth o le. Mae y glowr fel y morwr yn hael ar ei 'danners' os bydd popeth yn sewar, ond y mae yn dechreu gweld cynlluniau y swydd- helwyr sydd yn gwneud eu hunain yn annioddefol i'r lofa, er mwyn cael eu victimiso, fel y dywedir-ewyn ddaw'n bur ami i'r undeb. Mae'r victims yn fuan yn llwyddo i gael swyddi, a buan yn creu awyrgylch i'r swyddi, ac yn ei hawlio hyd angau. Mae eu sel dros ei cydweithwyr wedi oeri. a'u hunangar- wch yn dod i'r golwg. Cyn cael swydd, nid oedd dim yn iawn. Ymgais fawr y chaps hyn yw cael A.S. wrth eu hen- wau, ac er mwyn hynny gwtniant eu hunain i sylw trwy amryw ffyrdd-trwy dynnu'r gwifrau, areithio, a fflamychu yn erbyn pawb a phopeth, ac addo pethau anhygoel. Ceisiant waghau'r capelau, a gwuant bob Rhyddfrydwr yn Dori, ac felly llwyddant i hudo llawer dyn ieuanc diniwed i'w rhwyd. Cof gennyf arosei- Etholiad Mid- Glamorgan y tro cyntaf i ddau o weision y gwr penboeth alw yn fy nhy am bleidlais, ac i minnau ddweud "Na!" yn onest wrthynt. Yn yr ail etholiad daeth yr un dau ataf, a chawsant yr un atebiad ond ebe un o honynt, There is no hope of getting progress while the old fogeys are alive. When they are gone we may gain our objects." Bu y gwr hwn yn flaenllaw yn y mudiad-yn delegate, yn gadeirydd demonstrations, ac yn vmgeisydd am swyddi, ond meth- odd bob tro. Am y rheswm hwnnw dig- iodd yn aruthr. Heddyw y mae yn dal swydd yn y lofa, ac yn galetach na'r hen swyddogion at y gweithwyr. Dyna'r stoc. Y mae y werin yn dechreu gweld fod yr Undeb yn cynnal gormod o segur- wyr. Pe bai'r arweinwyr yn gweithio gar- tref yn nes at y werin, ac yn cydymdeim- lo fel brodyr, ni fyddai galw arnynt am wthio'u hunain. Byddai y glowyr yn gweld eu teilyngdod ac yn eu danfon i'r Senedd i'w cynrychioli. Cyn daw hynny, mae yn rhaid i'r "Hen Ddyn" sydd yn yr agent gael ei fwrw allan. Dywed yr Etholiadau Dinesig fod y werin yn deffro. HEN LOWR. YMLADDFA DYRNAU YN MOR- GANNWG. Mr. Gol.Yn enw pob rheswm, gadewich i mi am dro ddweyd gair wrth y bechgyn yma. Beth sydd wedi dod trostynt? Dwrn a gewyn a throed welaf ydyw eu popeth. Yr oeddwn yn credu ein bod wedi gadael cyfnod "Dan Bach Pontypridd" a "Wil Samwel" yn hen babelli ymladd y ffeiriau, ac wedi cwnnu tipyn, trwy well oriau llafur a mwy o hamdden ac addysg rad y werin. Ond wfft aut beth dyma ni yn prysur fynd yn ol i sefyllfa anwaraidd tywyll- leoedd y ddaear. Ac yn lie bod yn genedl o grefyddwyr ac o Eisteddfod- wyr, dyma ni wedi myned yn ynfydion ar ol delwau ac i ymborthi ar wynt.. Bu adeg mai y cynulliadau yng Nghymru fyddai yr Eisteddfod a'r Gymanfa, ond erbyn heddyw mae arddanghosfa ym- ladd dyrnau a chwareu'r bel droed wedi myned a'r miloedd penchwiban yn wysg eu trwynau i wlad y moch a'r cibau, ac os codir lief gan rywun cydwybodol tybiant ar unwaith eich bod am gyfyngu ar eu rhvddid. Anghofiant fod Cymdeithas yn arfer cyfyngu ar ben- rhyddid pob un y bu ei ben-rhyddid yn dangos na wyr ef ei hunan ddim lie mae'r terfynau. A gwaeth fyth yw fod dynion mawr y wlad yn ffafrio oferedd a phenrhyddid. Y mae yn Ilawn bryd gofyn y cwestiwn, "A oes hawl i ddefn- yddio arian y wlad ac amser dynion cyflogedig gan y wlad er hyrwyddo yn- I fydbeth fel hyn?" Yn y cymoedd, os ceir dau grwt cryf i gael pwt o ffrae ac i ddefnyddio eu dyrnau, ceir llu o ddyn- I' ion mewn oed yn sefyll ar ganol yr heol i fwynhau gweled y crots yn waed ac yn gleisiau gan ddyrnodiau eu gilydd, ac os daw rhywun a mwy o ddynoliaeth ynddo heibio i'w hatal, diflanant ymaith j yn siomedig gan fwmian, Trueni na 1chawsein y fatl trwodd." Os fel yna y j mae gyda'r werin, ofnaf mai yr un telpyn clai yw'r Plismon, ac mai felly y bydd yntau hefyd os a'r clefyd i'w waed. Yn wir, aethum i holi fy hunan fel hyn—Ai tybed fod Watch Committee j y sir fawr hon o'r farn ac yn credu mai dyma'r ffordd oreu er cadw heddweh, j a'i wneyd yn beth rhwydd i ni yng nghanol tryblith o genedloedd fel sydd j yma. Mor fynych y bu raid cael help milwyr o siroedd eraill i gadw trefn. X eu ai tybed mai gyda dyrnau o hyn allan y mae troseddwyr i gael eu trin. | Nage yn sicr, etto beth sydd wrth wraidd y peth ? Efallai mai hyn, fod hedyn (geriii)-chwa yr ymladd-o'r! diwedd wedi gafael yn ein dynion cryfaf -y dynion o bawb ddylasent fod yn weddol glir oddiwrth fads ynfyd y cyfnod. Ceisir ein perswadio nad oes berygl yn y bvd oddiwrth yr arddang- hosiadau, ac yn wir eu bod yn dra budd- iol i arfer dyn i ddangos pwyntiau o fedrusrwydd i daro ac i wylio rhag cael ei daro gan ei wrthwynebydd. I Un dydd yn ddiweddar ymddangosai hanes ymladdfa fawr yn Llundain, yr hon oedd mor greulon a gwaedlyd fel y darfu i'r ymLtddwr enwog o Ffrainc oedd yno yn edrychwr droi Ilian sychu oedd yn ei law am ei wyneb er cuddio yr erchyllderau, er ei fod yn hen gyfar- wydd a'r peth. Yr ydym hefyd o'r farn fod y newyddiaduron Cymreig yn lan- ach o lawer oddiwrth y gwrthuni gor- ffwyllog o roi cyhoeddasnvydd i bethau mor wael tra yn sefyll dros bopeth a fo ddyrchafol ac o les i gymdeithas fel cyfangorff, ac nid i rannau bychain o honi. A'm teimlad yw. Mr. Gol., y dylem godi ein lief ar bob llwyfan a dadleu yn deg yn mhob newyddiadur trwy y wlad yn erbyn parhad creulon- derau fel hyn. neu roddi i fyny gwaeddi Cymru am Byfh;" —Ydwvf, j UN HYNOD AM EI HANES. j ADOLYGU'R ADOLYGIAD. Mr Gol.,—A yw y gohebydd ad- olygodd gofiant y Parch. Robert Thomas wedi gorffen hollti ei flew orgraffyddol a'i ensyniadau an- gharedig? Os yw tebyg y rhowch gyfle i arall adolygu'r adolygiad, nid yn ei ramadeg na'i orgraff, ond yn ei ys- bryd. Cenfigen a ladd ei pherchenn- og," nid ei "gwrthrych." Gwel hi y gwallau, eithr ni fyn edmygu y rhagoriaethau. Gwel y bychan ei faint o hyd a dim mwy. Ni ddaeth neb erioed yn fawr heb iddo edmygu. Ac amlwg yw fod edmygedd eich gohebydd o arall wedi gwywo yn nghysgod ei edmygedd o hono'i hun. Dyweder ar unwaith nad gohebydd llenorol adolygodd y cofiant, ond un a eilw yr Ysgrythyr yn "gyhuddwr y brodyr." Ataliaf ddefnyddio gair mwy adnabyddus er iddo fod yn daraw- iadol. Hyd y deallaf ni fwriadwyd y cofiant i fod yn gampwaith llenyddol. Yn hytrach blodeughvm cyfeillion i un oedd bennaf oil yn ddyn mawr ac i raddau is yn lienor ydyw. A gwyr pawb o'i ddarllenwyr fod dynoliaeth hynaws, garedig, cang, a mawrfrydig yn anadlu drwyddo, er i'r blodau am- rywio mewn lliw a maint a sawr. A pheth teilyngach i wr mawr yn ddyn drwyddo na chofiant yn llawn dynoliaeth ddofn, eang, a charedig. Ymddengys i'r gohebydd naill ai tra- fferthu cymaint gyda'r mintys ar anis, a'r cwmin orgraffyddol, a chfeisio adgyfodi y gwybcd meirw nes anghofio a diystyrru y peth mwyaf yn j y cofiant, neu iddo fod vn amddifad o ddynoliaeth eang a mawrfrydig fedr werthfawogi dynoliaeth telly. Yr olaf gredaf sydd wir. Metha ambell gotiantydd cr iddo fod yn llenor ddwyn allan gotiant teilwng i o'i wrthrych, o hervvydd gorofalwch yn y pcthau hyn a bod yn amddifad ] o'r ddynoliaeth all fyned i fewn i gyfrinach y gwrthrych. I ba beth, syr, y bu y golled hon mewn inc a gofod, ac hefyd amser cich cysodydd gofal- us? [Y cysodydd a'r saw! ddarllenai. y proftenni rhyngddynt oedd yn gyfrifol am }• ddau wall v torrir y cyfeiriad atynt allan yn y fan hon. Gol.] Beth ar wyneb y cread yw ystyr yr hyn sydd ar ffurf brawddeg o flaen y gair dash"? Ni honnaf allu i ym- gyrraedd at y fath uchelderau digyn- ywair mewn orgraff a gramadeg. Felly gadawaf hwynt i eryrod ysglyfaethus ehedant yn y glas ond a dremiant am abwydyn. Gresyn na fuasai cylch cyfeillgar- wch Mr Thomas yn ddigon cul i groesawu llenor o fath hwn i fewn iddo er mwyn cael rhywun i ofalu yn fwy am orgraff y cofiant a llai am ei ysbryd. Yn sicr, anheilwng ac isel yn eich gohebydd yw disgyn i sylwi ar "bibell" a jackett." Paham na fuasai Mr Parry wedi son am 'cigars" a "spats"? Tebyg y cyfrifid hynny yn deilwng, uchel, a boneddigaidd. Mae yn ddyledus ar y wlad i ddiolch i'ch gohebydd am ddweud gair mor garedig am y Parch. Robert Thomas. Bydd ei lwch yn fwy heddychol yn y bedd, ac fe gin rywbeth uwch na soprano yn y gogoniant wedi deall hyn. Ohebydd or-graff Ble'r enynnodd dy edmygedd? Pryd cadd dy serchiadau dan? Gwn am ambell un yn dweud geiriau caredicach ar lan bedd ei gymydog na ddywedodd erioed am dano tra fu by-w. Clywsom rai yn gwneud gwawd o'r nodiad fod Mr Thomas yn "soprano" da. Pan ymddengys hyn mewn adolygiad di-enw tueddir dyn- ion i osod dau a dau at eu gilydd a hunaniaethu y gohebydd. Dirmygedig ac atgas yw coeg-falchder llenyddol. Ymddengys y paun yn wych, eithr dywed y rhai a'i hadnabuant oreu mai ef o'r holl greadigaeth bluog yw y mwyaf afiach ddaeth dan lywod- raeth dyn erioed. I do not call that by the name of religion which fills men with bile," ebe R. L. Stevenson. Ac yr oedd ef yn lienor. Nid ystyriaf innau adolygiad llyfr o un gwerth os bydd yr adolygiad yn rhy lwfr a chowardaidd i ysgrifennu uwch ei enw priodol, er i mi arwyddo fy hun yn OHEBYDD ARALL.
Advertising
CADWCH EtCH ARENAU YN DDA, A HWY A'CH CADWANT CHWI YN DDA. t. Pob 111 ) MEDDYO: AI yna mae'r boen ? Ah! Annhrefn yn yr Arenau yw. Defnyddlwch BELENI ARENAU CEPNBOEN DOAN (Dona's Backache Kidney Pills) at Boen yn y Cefn, Annhrefnau Troethol (Urinary Disorders), (Irafel, Cryd Cymmalau, Dyfrglwyf (Dropsy). Pan y orwaela yr arenaa (kidneyt), gwaela yr boll gorpn. Ymboena y cefn, cwyna yr aelodau, trymhA y Uygaid, melyna y gwedd. Ni a g-ftllwch aros wrth eich gwaith fel QDwalth y gallasoch, na cherdded mor bell, na chysgu mor dda. Ilwyrach y Bylwch ar flinderau troethol (i.krinary tratibles), tirafel, a lliw Ilweh pridd- faen y dwfr, a natur chwyddedig y fferau. Mynych y ceir cftr yn y pen, prydiau pensyfr- danol, poenau cryd cymmalau yn y llywethau a'r cvHsylltau. 3I-ie eich archwaeth at fwyd yn newidiol, y gaiou yn gweithredu yn ddieithr; ewch yn gkfychlyd, bruddglwvtus, yn ofnoa, ac yn eL,i.ffl,i(iua. Y rhai hyn a llaweroedd annhrefn- au ereill ydynt arwyddion diffael o anhwyldod Jl1 yr arenau. Achosir hwynt gan wenwvn arenol yr hwn y metha yr arenau a'i hidlo allan; ac nis gallwch fod yn iach nes y cr_vfii<;ir hwynt i'w gwaith natoriol. Aitf Pki.kni Arkxaij Ckkxbokn Doas yn l2D1ou. -biol i'r arenau, a gwnant hwynt yn iach. ,'?, eu hadfywio ac adeiladu eu nherth. tyrant ailan o honynt surni dyfrol, glanhant yr arpnau, a lliniaranty fflarneg (inflammation). I Yn y modd yma, rhydd PEJ.KYI DOAN (Doan't J'uU) i'r ajermu ?wanUyd ?ychwyQiadnewydd iyV n "ii gwaith mawr ) hidio allan wenwynau arenol. Mae yr arenau yn organau mor dyner ac yn cael eu gweithio mor led nes y mae anwyd, neu ryndod, neu ysigiad, yn rhwystr iddynt, ac yn eu taflu yn ol gjda'u gwaith. Doeth, felly, fyddai cadw blvchiad o BELENI Arkmau Ckfnbokn DOAN (Box of Doan'< Backache Kidney Pill,) yn v ty, a chymeryd dogn pryd bynnag nas teimlir i fyny i'r marc. Dylid vmarfer yn rheolaidd Bkleni Doan gan bawb sydd yn cvmeryd cwrw, gwirodau (spirits), nen de, gan fod y cyfryw ddiodvdd yn cyffroi ac yn ennynu arwynebau tyner yr arenau, a gellir dibynu ar BKLRXI httAN i gadw draw bob effaith drw. fne y phvsig- wriaeth arenol hwn yn hollol lvsieuol, it gall yr hen a'r ieuaingc ei arfer gyda dioicelv.- cli perffaith. id oes ganddo uurhyw weithrerlilld ar v coluddion. Mae Peleni Arknoi. I 'kfn- boen Doan vu fudd i bob un sydd rui ) iddo ymgrymu wrth ei waith ac i'r doslxtrtlii/i'lim sydd yn agored i gyfnewidiadau syd.% 11 yr hinsawdd. A cliynghorir y rbai hynv a wyddnrit i'w rhieni neu i'w hynafiaid ddioddcf oddiwrth TinhwyJderau arenol i amddiffyii eu barenau drwy vmad'eriad achlysurol o Dki.kni A i:knait Ceknboen Doan (Doan's Ba(-kaclio, Ku'hiey Pills) canys nid oes un atiechyd yn cuol ei gyflwyno mor fynych o riant i blt'iityu n.-i'r hwn sy'n tarddu o anesmwythderau yr aiennu. 1^1 4!ii.5;I!} Doan?sr  ?c??e gH 'I)¡¡<¡;l  ML? i? L" ¡i P" I ?\?'?? '?''??????????1H-T??? ? I  ??\?\\jM?A??\C&jM?? YR UNIG • FLWCH -^] DIDWYLL. Gan holl ffervlhwr no vt v Stores am ii/'J y hlv.cit i". Much i yn syth oddiwrth > 1- ¡ Oxford Street, J.ondini. 1, y TURKEY EGGS, Lord Rothschild I Strain, 7'fi setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex. ARGR AFFWAITH. m hob math o Argraffwaitb ymofyner yn Swyddfa'r Leader" n'r ParÚm," 19 Cardiff Street, Aberdar.