Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIAD. I YSGOL Y CWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880 PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. AnioDer am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro. I I
Advertising
W. Williams&Co. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Specialities 18et. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyan aur, Oriadaron ae awrleisiau. Gemau a chadwynau ciMr. Yspectol elfydd. bin.fynegdd, (iwres-fesurydd, Cwmpawd mor Geir gan Williams, Heo!yC?ste!i Trowch i mewn i wel'd ei aw.
. - - -_ -.-..-.-.-Y CYNHWYSIAD.…
Y CYNHWYSIAD. I Ar Y' Twr yn Aberdar.- Tud. 1 0 Bias Dinefwr i'r Mor. ? ?! Colofn Uafur. ? 1? Briwsion o Aber Pennar I Dwyhrau'r Sarff i Nodion Min y Ffordd. ? 2 J Eisteddfod A berpennar: Beirniad- aeth Brvnfab. 2 Eisteddfod y Caerau Beirniadaeth j Wil It'an f Dify Beirdd m a Tipvn o Bonoth o Bontardawy. 3 Beirdd y Bant i Undeh y Cymdeithasau Cymraeg. i o Wy i Dywi 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Aberafon a'r Cylch 5 Anrhegu Mr Abraham Watkins ] (T,irltiri) j Trecynon, YstaIyfera, Ti-i(lwi Y Mri. Edgar Jones ac Artemus Jones Angladd y Parch. LI. S. Williams. 6 Colofn v  PIant. ? 7 Oddiar Lech wedda u Caerfyrddin. 7 J ae Martin" yn Nhreforis. < Colofn y Beirdd > 8 Yr Adolygwyr a'r Cofiant 8 Cwmogwy 8.
Yn Aberdar.I
Yn Aberdar. I Bu'r gwyliau yn nodedig am amledd priodasau. Dywedir fod tuag ugam priodas yn y cylch. Ymha le y mae y rhai hyn .yn cael tai? Nid oes dim prinnach yma'n awr na thai. Gresyn yw gweled dau deulu mewn ty bychan, ond daw hynny yn gyffre- din yn bresennol. Petai Gwarcheid- waid Merthyr yn gwario y £ 10,000 a wastreffir i adeiladu tloty yn Nhre- cynon i godi tai rhesymol, gwnaent wasaneth fyddai yn cyfiawnhau eu bodolaeth yn Aberdar. Cwynir fod tai yn ddrutach yn Aber- dar nag mewn llawer He gweithfaol. Cvfrifir am hynny gan brinder a ^ordrethu. JDylai'r awdurdodau dalu sylw i adroddiad y Pwyllgor Tir di- weddar. Yng nghyfrol ii., tud. 607, gwneir y sylw canlynol ynglyn ag Aberdar Mae prinder tai yn gyffre- dinol drwy yr ardal. Hysbyswyd Mr. Leonard yn adeg ymchwiliad Bwrdd Llywodraeth Leol nad oedd ty o un- rhyw fath yn wag yn ardal Abernant." Mae'r Cyngor yn dechreu symud i'r cyfeiriad hwn. Awgrymwyd i'r Cyngor yr wythnos ddiweddaf i symud i adeiladu tai gweithwyr yn Abernant. Gellid gwneud yn gyffelyb mewn cvfeiriadau ereill. Arweinydd Cymanfa Ganu'r NVes- leyaid ddydd Mawrth y Pasg oedd Mr. Hugh Hughes, L.R.A.M., Treher- bert. Llywyddwyd yn ystod yr od- faon gan y Parchn. Fisher Griffiths, Hirwaun; D. Morgan, Aberpennar; a H. O. Hughes, Aberdar. Yr un dydd cynhaliwyd Cymanfa -Ganu'r Annibynwyr yn Nhrecynon a'r cylch. Arweiniwyd y plant yn y bore ,gan Mfs. W. P. Davies, Horeb; a'r oedolion yn y prynhawn a'r nos gan Mr. W. T. Williams, Salem. Llywydd- wyd gan Mr. B. James, Horeb, a'r Parchn. J. Grawys Jones, a J. D. Rees, Salem. Ym Methania, Aberdir, yr un adeg, cynhaliwyd Cymanfa Ganu Metho- distiaid rhan uchaf Dosbarth Aber- dar. Mr. D. Owen, Cwmaman, oedd yr arweinydd, ac Ogwen yr Holydd. Llywydd y prynhawn oedd Mr. Daniel Jones, Bethania; a'r hwyr y Parch. W. Davies, M.A. Cynhygiwyd yng nghyfarfod di- weddaf y Cyngor ychwanegi aelodau o'r tuallan ar y Pwyllgor Addysg, ond collwyd y cynnyg. Bydd yn rhaid gwneud rhywbeth er mwyn addysg yn wahanol i'r hyn sydd. Y mae llywodraeth y cynghorau ym methu'n druenus, am na ddewisir dynion iddynt ar gyfrif eu cymwysterau yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd cynllun y Byrddau Ysgolion yn well na'r un presennol. Y gweinidogion a wasanaethai yng N gwyl y Groglith ym Mcthania oedd- ynt y Parchn. J. Roberts, M.A., Caer- dydd; H. Harris Hughes, B.A., Ban- gor, a D. H. Lloyd, Cwmystwyth. Ym Methania, Cwmbach, gwasan- aethai y Parchn. W. Morris, D.D., Treorchy; J. Myddfai Jones; Peter Jones, Colwyn Bay, ac R. H. Davies, B.A. Agorid y capel yno ar ol ei adnewyddu yn y cyfarfodydd hyn. Cynhaliwyd gwyl bregethu Bethel, Abernant, Sul a Llun y Pasg. Y pre- gethwyr yno oeddynt y Parchn. B. V. Davies, Abergwynfi, a W. C. Thomas, Dowlais. Nos Wener y Groglith anrhegwyd organydd Ynyslwyd, Mr. Abraham Watkins, G. & L., ag oriawr aur am ei wasanaeth wrth yr offeryn. Der- byniodd Mrs. Spencer Williams, j L.R.C.M., organyddes Noddfa, Tre- cynon, yr un noson gloc marmor hardd, tray, ac addurniadau, yn an- rheg ar ei phriodas gan y cor. Etholwyd Mr. E. J. Hughes, cyfreithiwr, yn olynydd i Mr. J. D. Thomas yn ysgrifennydd Ysgolion Nos, Aberdar. Y mae Mr. Hughes yn fab i'r diweddar Henadur D. Hughes. G I Pregethai yr Archddiacon Green, < D.D., Ficer Aberdar, yn Eglwys I Gadeiriol Bangor Gwener y Groglith. Rhoes Aberdar fenthyg y Dr. Green i Fangor am y dydd, a Bangor y Parch. H. Harris Hughes, B.A., i Aberdar. Pan ddelo'r Datgysylltiad ni ry- feddem weled y Dr. Green a'i frodyr mewn pulpudau Ymneillduol ag Ym- neillduwyr ym mhulpudau'r Eglwys. Pwy wyr? Pob lwc i Sarnicol ar ei briodas a Miss K. L. Thomas, A.R.A.M., Aber- fan, sef unig ferch Mr. Edwin Thomas, ysgolfeistr, Aberfan. Priodwyd hwy yn Eglwys Bresbyteraidd, Frederick Street, Caerdydd, a gweinyddwyd gan y Parchn. J. M. Elias, Ynysybwl, a T. J. Jones, Tongwynlais.
0 Bias Dinefwr i'r Mor.I
0 Bias Dinefwr i'r Mor. I Ar ol deuddeg mlynedd o weinidog- aeth lafurfawr a Ilwyddianus mae'r Parch. J. J. Jones. B.A., yn gadael tref Llanelli am Fryn Seion a Charfan, Swydd Bemfro. Ca,fvyd noson ddiddorol yn Nghlwb Hhyddfrydal tref Llanelli y nos o'r blaen. Traethodd ein haelod Seneddol diwylliedig ac ymroddgar ar Yr Ar- gyfwng Presennol." Dywedodd wrth- ym am beidio a phryderi dim, yn en- wedig gyda'r Mesur Cymreig; fe fydd hwnnw ar Lyfrau'r Wlad mewn ych- ydig wythnosau. Diolch. Mae Syr a Lady Howard nid unig yn Rhyddfrydwyr mawrion, ond yn i ddirwestwyr o'r iawn ryw. Oddiar eu hymsfydliad yn y dref mae un dafarn a'r ddeg yn llai yma. Meddai'r Syr y mae rhagor i fynd. Rhwydd hynt iddynt. Yn ystod eisteddiad y Brewster Session yr oedd. bron pob gweinidog yn bresennol yn y llys. Nid oedd yr un Ficer na Chiwrad. Ble 'roeddynt hwy tybed ? Gyda'i Deiseb Ymneillduol mae'n debyg! Fe fydd penodiad Gwili i gadair olygyddol y "Seren" nid yn unig yn gaffaeliad i'r Enwad ond i Gymru. Dyna fodd bynnag ddywed y bobl sydd yn byw rhwng y Plas a'r Mor. Nos Sadwrn diweddaf traddododd y doctor enwog, Syr A. Pearce Gould, araeth ddirwestol ger bron pobl Llan- elli. Rhodd hi'n gref ac yn argy- hoeddiadol. Brawd yw'r gwr mawr uchod i'r Prifathro Gould. o Goleg Regents Pare, Llundain. Da bod y ddau. Mae Confensiwn y Christian En- deavour yn Llanelli yr wythnos hon. Credir y gwnant les mawr i'r eglwys er symud ymlaen i gychwyn cymdeithasau i'r bobl ieuainc ynddynt. Elfed sydd i draddodi y Convention Sermon. Daeth tair cadair farddol i'r cylch hwn yn ystod y Pasc. Enillodd Myfyr Hefin ddwy, sef yng Ngoginan a Drefach. Mae Myfyr Hefin yn gwein- idogaethu yn Horeb, Pump HeoL Y gwr llwyddianus arall oedd Pelydrog, un o fechgyn Dafen, ger Llanelii. yw hwn. Mae'n prydyddu er's blynyddau bellach, ac wedi- ennill llawer o wobrwyon mewn eisteddfodau lleol. Creair yr ennill lawer o gadeiriau, etc., yn y dyfodol agos. Yn y Tumble yr enillodd efe y gadair hon. Llwydd- iant eto i'r ddau frawd. Gwr sydd a'i enw'n ami ym mhlith buddugwyr yn Eisteddfodau yw Mr G. E. Williams, Glesering Street, Llan- elli. Nid yw eto ond ieuanc, ond y mae safle bwysig ym mhlith Eisteddfodwyr y dref Alcan, a hynny ar gyfrif ei Iwyddiant fel traethodwr a bardd. Mae'n fab i'r adroddwr enwog Mr Ed- win Williams, ac efe hefyd yw ysgrifen- ydd Eisteddfod Gadeiriol Ebenezer (A.), Llanelli. I GERALLT DE ELLI.
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR.. I Dyddiau Gwyl. Pa beth bynnag fydd tynged crefydd yn natblygiad gwareiddiad y ddynol- iaeth, bydd gweithwyr y byd am byth yn ddyledus iddi, am sefydliad a bodol- aeth y dyddiau gwyl. Y mae y gwyliau sefydlwyd gan yr hen genedl Iddewig wedi parhau ar hyd yr oesoedd. Ac yn y dyddaiu hyn, dyddiau o ormes ac o ymdrech o blaid llafur na welodd y byd erioed o'r blaen mo'i bath, daw y gwyl- iau hyn yn fwy bendithiol nag erioed. Dydd Cyn yr Wyl. Diddorol iawn yw sylwi ar ymddygiad y llinynnau o fodau byw ymffurfiant yng ngwaelod y pyllau glo ar brynhawn Sadyrnau, a dyddiau cyn gwyl eraill, yn sefyll yn barod i gael eu dirwyn i fyny o'r tywyllwch a'r caethiwed. Y mae rhyw ysprydiaeth rydd, Ion, a chwareus yn meddiannu pawb, o'r crotyn sydd newydd ddechreu gweithio i'r hen wr sydd ar roddi ei gam ddiweddaf allan o'r pwll. Gwelir math o symudiad a chyffro nwyfus ac awyddus yn osgo a llefariad pofo un. yr hyn sydd yn wahan- ol iawn i'w hymddygiad ar ddiwrnodau eraill. Ac mor gynted ag y daw yr arwydd fod amser y codi glo ar ben, y mae y llinynnau byw hyn yn ymun- iawnu, a symud yn mlaen, ac yn cael eu tynnu i fyny yn ddegau ac ugeiniau, fel y bo maint y cawellau. IJnwaith eto, ar ben y pwil, ac 0 y fath deimlad o bleser a mwynhad wrth adael y lludd- ed a'r peryglon ar ol am ychydig. Ni fu teimladau yr Israeliaid wrth adael yr Aifft yn fwy pleserus a diolchgar. Oiaelodi o'r Blaid Lafur. 1 0 herwydd ei wrthodiad i gydym- ffurfio a gofynion cyfansoddiad y Blaid Lafur Seneddol, penderfynwyd gwrthod Mr. William Johnson, A.S. dros Nuneaton, fel aelod pellach o'r blaid. Beth ddywed y rhai hynny yn awr a daerant fod cyfathrach cyd- weithredol yn hodoli rhwng Llafur a Rhyddfrydiaeth ? Mr. Ramsay Macdonald a'r Bwrdd I Llywodraethol Leol. Gwnawd cyhuddiadau difrifol iawn yn erbyn y Local Government Board gan Mr. Ramsay Macdonald yn y Ty yr wythnos ddiweddaf. Dywedodd fod y Bwrdd hwn wedi esgeuluso ei waith yn ofnadwy mewn cysylltiad a'r "Unemployed Workmen's Act." Yr oedd miloedd o arian wedi eu gwario i ddim ond gwella tir a daliadau perch- nogion. Yr oedd y Ddeddf wedi ei ddefnyddio, nid yn gymaint i lesoli a chynnorthwyo y gweithwyr hynny oeddynt allan o waith, ond y mawrion oeddent berchnogion tai a thiroedd. I brofi ei gyhuddiadau dyfynodd ffigyrr- au, ac enwodd amgylchiadau liaws. Yr oedd y cwbl yn dangos nad oedd y Bwrdd mewn cydymdeimlad a'r Ddeddf, oc o herwydd hynny yn ddi- ofal ac esgeulus yn ei gweinyddiad. Cymanfa yr hL.P. I Cymerodd pethau diddorol iawn le yng nghyfarfodydd blynyddol yr I.L.P. a gynhaliwyd yn Bradford yr wythnos ddiweddaf. I agor y gymanfa canwyd ton, yr hon a gyfansoddwyd gan Dr. Granville Bantock a'i wraig. Siaradwyd gan amryw gynrychiolwyr o'r Cyfandir, y rhai ddaethent drosodd ar ran eu cydweithwyr i ddymuno llwyddiant Plaid Llafur ym Mhrydain. Yr oedd M. Camelinat, y cynrychiol- ydd o Ffrainc, yn bwrlymu gan deim- ladau cynnes. Yr oedd ei ymddangos- iad yn batriarchaidd iawn gyda'i wallt gwyn, a gosododd ei law ar ei galon gan ddweyd fod teimlad gweithwyr Ffrainc mor gynnes tuag at weithwyr Prydain, fel nas gallai gael geiriau i'w fynegi. Dywedodd Mr. Keir Hardie fod yr hen frawd wedi ei gusannu ef ddwywaith yn barod, ac yr oedd yn edrych fel yn barod i gusannu pawb gan angerddoldeb ei deimlad. I Llwyddiant yn yr Etholiadau Lleol. Oddiwrth gyfrifiad sydd wedi ei wneyd gan y "Labour Leader, ceir fod ymgeiswyr llafurol am seddau ar y byrddau dinesig Ileol wedi llwyddo mewn 132 o achosion, a'r ennill clir yn 70 o seddau, tra na chollwyd ond 7. Yn yr holl adroddtadau ddaethant i law drwy y deyrnas, y mae Llafur wedi gwneyd cynnydd clir o 110 o seddau. Allan o'r nifer hwn y mae .81 yn aelodau o'{" I.L.P. Dywed y ffigyrrau hyn yn amlwg fod tueddiad y gweithwyr drwy y wlad yn gryf iawn tuag at gynrychiolaeth lafurol. Yr Ymgyrch Olchfaol yn Aberdar. Da. oedd gweled cynifer o weithwyr yn cymeryd digon o ddiddordeb i ddyfod i wrando ar Mr. Edgar Chappel, Caer- dydd, yn egluro cyfundrefn a chynllun golchfeydd pen y pyllau nos Wener diweddaf yn Neuadd Trecynon. Drwy air a darlun dangoswyd yr oruchwyl- iaeth fel y'i harferir ar y Cyfandir. j Cymaint oedd boddhad a chymeradwy- aeth y gweithwyr fel na synnem glyw- r:d fod balot yn cael ei gymeryd heb i fod yn hir yng ngweithfeydd y Bwllfa gyda golwg ar fabwysiadu y cynllun. Siomedig oedd gweled fod y rhyw fenywaidd yn absennol o'r cyfarfod. ¡ Dywedwn o hyd na lwydda Undeb y Glowyr i'r graddau y dylai hyd nes y mabwysiadir cynllun i gysylltu di- ddordeb y merched a'r gwragedd ag ,f. Credwn,yn sicr, pe ceid y rhai j hyn i gymeryd diddordeb ym mhwnc v golchi yma, cawsai dderbyniad I tyffredinol yn ddioedi. Dywedodd Mr. Chappell fod amryw o berch- j nogion glofeydd Deheudir Cymru yn barod i fabwysiadu y cynllun golch- yddol petae'r gweithwyr ddim ond gofyn. 0 Gymru grefyddol, paid a gadael i wledydd anghrefyddol y Cyfandir dy flaenori mewn glan- weithdra corfforol a moesol fel hyn.
Briwsion o Aberpennar (Mountain…
Briwsion o Aberpennar (Mountain Ash). Cynhaliwyd Cymanfaoedd i'r plant dydd Gwener y Groglith, un yn Soar gan yr Annibynwyr, yn cynnwys plant o eglwysi Penrhiwceibr, Miskin, a Mountain Ash. Cadeirydd cyfarfod y prynhawn oedd Mr. Thomas Douglas, Carmel cyfarfod yr hwyr, Mr. Morgan AjA. '"ies- TKitbania. Arwemydd, Mr. T. J. Lewis, Penrhiwceibr; organydd, Mr. John Grffiths. Aeth pob un trwy eu gwaith yn gamoladwy. Canodd y plant yn ardderchog, ac fel y dywedwyd gan Mr. Rees, A.C., Abercwmboi, "lion oedd y Gymanfa oreu eto." Cymhell- odd Mr. D. Evans, G. & L., Tresalem y Cymry i aros yn ffyddlon gyda'r syl- weddol a pheidio rhoi clust i'r "rag- time tunes sydd yn mynd heibio mor sydyn ag y deuant. Yr oedd y tri gweinidog yno yn siriol iawn, ac yn fynych yn uno gyda'r plant i ganu. lawn o beth fuasai i weinidog Beth- ania i roi i ni unawd. Y Gymanfa arall oedd ym Methle- hern, M.C., ac yn cynnwys yr eglwysi I Abercynon, Penrhiwceibr, Miskin, a Mountain Ash. Llywydd cyfarfod prynhawn oedd Mr. Pugh, Penrhiw- ceiber; yr hwyr, Mr. William Davies, ysgrifennydd ffyddlon y Gymanfav Ar- weinyddion: prynhawn, Mr. Evan Elias. Tabernacl; yr hwyr, Mr Shad- rach Jones, oddfa. Holwyddorydd, Parch. Gwmryn Jones, Morah, Miskin. Cyfeilwyr, Miss A. J. Webber, Noddfa; Miss E. J. Edwards, Jerusalem; Meistri W. T. Humphreys, Taber- nacl, a Daniel Jones, Hermon. Lleisiau y plant oedd i glywed fwyaf yma; ni ddaeth y bobl ieuainc allan mor dda i gynorthwyo ag a wnaethent yn yr eglwysi Annibynol. Gresyn hyn, oblegid mae y Corph wedi arfer cael enw rhagorol am ei ymdrech gyda'r plant. A ydyw yn syrthio oddiwrth y gras hwn 1 Gobeithio nad ydyw. Melus oedd gwrando a'r Parch. Gwmryn Jones yn holi, a'r plant yn ateb mor groew a chlir ar sefydlu y Pasc a phynciau eraill. Credaf pe byddai Mr. Jones yn dod a llyfryn bach allan yn y ffordd syml hon, ac i'r pedwar en wad fynd i mewn am dano a'i ddysgu yn eu gobeithluoedd y gaeaf nesaf, y byddai yn rhyw baratoad i'r Undeb mawr sydd i ddod yn y man. Gwelais weinidog Hermon yn eistedd ynghanol y capel. Dylai fod yn ymyl ei frodyr yn y pwlpud. Terfynwyd Cymdeithas Bryn Selon y Bobl Ieuainc am y tymhor nos Fawrth diweddaf gyda chwpaned o de "a seigiau eraill." Cafwyd adroddiadau yn ystod yr wyl gan Mr W. IleDry Atkins a Mrs Samuel Owen. Canwyd gan Miss Jones, Dan-y-Deri; Miss Davies, Miskin. Chwareuwyd gan Mr. I Raymond Howells. Llywyddwyd gan y bardd-bregethwr, Ab Hefin. Mae clod yn ddyledus i'r holl swyddogion am eu dyfalbarhad yn ystod y tymor, a'11 I hymdrechion i geisio cael y gwyr ieu- i ainc at wasanaeth teilwng. MAB Y WAWR.
[No title]
Am bob math o Argraffwaith I ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" &'r "Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
Nodion Min y Ffordd. I
Nodion Min y Ffordd. I GAN EOS HAFOD. Mae adfyd wedi fy nal er pan bleth- ais y Nodion diweddaf. Am yn agos i fis mae cystudd wedi fy nghaethiwo i'm trigfa. Felly methais fwynhau gwyliau fel arfer. Anfonwyd i mi linellau o gydymdeim- lad a blodau. Llonnodd hyn fi am fed ynddynt ddefnyddiau cysur. Mae y gwanwyn a'i heulwen wedi cyfrannu eu serchawgrwydd hefyd nes y teimlais rhyngddynt oil adfywiad corph a meddwl. Clywaf fod llu o iechyd geiswyr wedi ymweled yn ystod y Pasg a Mynydd I Penrhys. Heblaw y golygfeydd dy- munol geir oddi arno ceir hefyd awelon grea hoender. Rhwng bod dail y coed yn dechreu prydferthu a gwresogi'r canghenau mae teulu y llwyni wrth eu bodd. Clywaf yn foreu, a hynny yn fynych, nodau peraidd yr aderyn du. Mae wedi dewis pyncio oddiar goeden sydd ger fy nhyddyn. Diolch am ei seiniau, am nad oes ynddynt arwydd croes na gwae. Cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu blynyddol eglwys Fethodistaidd Siloam, Gyfeillon, y Groglith a'r Sul canlynol. Traddodwyd y Gair ar yr achlysur yn eglur a dylanwadol gan y Parchn. W. Jones, Aberdulais, a W. Adams, Llanelli. Gweinidog yr eglwys hon yw y Parch. Walter Daniel. Cyfeillion sydd wedi bod yn ffyddlon ynglyn a'r achos da yn yr addoldy enwyd am hir flynyddau yw'r Mri. Lewis Parry a Tom Jenkins (Llew Hafod). Blin deall fod y ddau yn ngafael cystudd er's rhai misoedd. Mae i'w obeithio yr estynir iddynt ad- feriad llwyr a buan. Mae atyniad ym mharciau ein tref- ydd a mannau ereill i bobl fynychu iddynt. Trefnir hwynt yn chwaethus. Ceir ynddynt seddau gorffwys, ac o'u hamgylch mae prydferchwch anian i'w ganfod ar bob llaw. Clywir offerynnau cerdd hefyd yn chwareu darnau clasur- ol. Felly mae cyfuniad y Pare yn hudolus i bobl o chwaeth dda. Cafodd plant perthynol i addoldy Bodringallt wledd o de a theisen Gwener y Groglith. Cyfarfuwyd yn y Festri, a mwynhawyd y danteithion blasus. Cydnabyddiaeth brydlon a serchog oedd hon i'r plant gymerodd ran mor llwyddianus yn rhaglen y Gy- manfa Gerddorol fu ym mis Mawrth, ac yn mherfformiad y gan gymysg (operetta), Ian of Windmill Land." Gwelais a chlywais y wenynen yr wythnos hon. Arwydd arall fod yr hin yn tyneru. Mae yr heulog oriau yn brysur liwio y blodau, a rhwng hyn a'u mel nid rhwydd y dychwel hi i'w chwch hejo dro dros ami flodyn. Cefais lawer o foddhad wrth weled ei rhyw yn gwneud hyn yn y Wig, ac yno mae amrywiaeth o honynt. Gwelir yn fynych rai yn cerdded dros y droedffordd sy'n arwain at hen dy- ddyn dadfeiliedig Nantwyddon. Yr hyn dyna sylw ar ymyl y ffordd yw derwen gadarn a thalfrig. Lleda ei changhenau deiliog nes llonni pawb a sylwant ar ei dadblygiad. Mae yn fwy mawreddog na dim arall welir o'i chwmpas. Neilltuodd llawer eu horiau seibiant i drin eu gerddi. Deallaf fod yr hen offerynnau adnabyddus yn cael eu defnyddio gyda bias, sef caib, pal, rhaw, etc. Golyga hyn ddarbodaeth werthfawr. Troi'r llechweddau i bwr- pas cynhaliaeth. Mae diwydrwydd y garddwr yn beth i'w fawrhau. Creadur bychan sydd yn gadael ei loches aeafol y mis hwn yw y draenog. Hoffa yntau belydrau yr haul fel gog sydd ar ddyfod i'n lloni a'i deunod ad- fywiol.
Advertising
9 LIST. na ??o?g ?LTS md ?PKESS 9 bifurcated j»iv^s. m I need to Punch bales. Simply t.I"¡ i ,,e Ri?ets. and bend baci, I PRICE local Irc,ii- FOR I)rong, Neat and ttrc-?t. LI!3T. or sen,i ];- I box (assorted) to-  and Tubular I Co.. Ltd., CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID COFALO, AM Y MM? HYN. Esgeulusdod o unrhyw itiwed I rikei hyn drwy ddamwam new glafyd off achoai Blood Poisoning a Marwolaeth. Maddveiniaeth EfftithiOl. Er mwyn ysgol Parligi rhal &I ymarter miwn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANIfi A 8ICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn -wr yn   filoodd fal  tneddyg,"f" mwyst sicr a diogal I dd.rg.nfyddw? erioed at igghad Clwyfau, Archolllon, Tardd- lantau y Cnawd, Craoh a Nldd Mhenau Plant, Llosglad. au, Yllal. danau, Sou r v y, L I u I ad P I & n t Benywod a j B Babanod, Tarwden, Coul, Cymalau Poenus, ? (y ??,. «hs! U ?oin ■ otad pen £ krr. Z Cefn, Piles.  sclarygias. Hynod D (^eHhacdd GomFr's bX ??{L?y.burfu. at CtWYFAU ar COESAU. Miloedd yn tystto I'w Effelthiau RhyfetMoL RHODDWCH BRAWF ARNO Gwellhad sydd stor Ar werth gan bob Chemi.t a Stores ivi 1/1 i. Gofyner am Balm. lit, weh weled enw jacob Hughes ar bob hlwch. Heb hyn nidyw gywir. Nos danfoner ei gwerth (P.O. neu Stampt) at Jacob Hughes, Manufacturing Chow. 1st, M. P .8., L.O.S., Ponarth, CtrdO?. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in ? MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tien prynwyr yui» ac y' 01 on iddynt .n?i TA?AN y Gw? ?THiW_R. VN AWR VN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages I/. not; Post Free 1/3. Address deli?r?d at »« United Schoo ot Social Service for ?s." A book every Patriot should read. Send unthout delay to the Publishers— MORGAN & HIGGS, Publishers, Printers, Ac., 18 Heathffeld Street, Swansea.