Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Ynyslwyd, Aberdar. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ynyslwyd, Aberdar. I Dydd Gwener y Groglith cyflwyn- wyd anrhegion gan eglwys Ynyslwyd i Mr. Abraham Watkins, L.T.S.C., yr organnydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y brawd William Davies, y diacon hynaf, ac efe 'gyftwynodd i Mr Watkins oriawr aur hardd a'r ysgrif ganlvnol arni Cyflwynedig gan Eglwys Bedyddwyr Ynyslwyd i Mr. A. Watkins, L. T. S. C., fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanacth fel organnydd. Ebrill iofed, 1914." Gobeithiau William Davies y cai'r eglwys ei wasanaeth am flynyddoedd lawer. Cydnabu Mr. Watkins y rhodd mewn geiriau pwrpasol. Anrhegwyd hefyd y brodyr, James Lewis a W. J. Harries am chwythu'r organ gan y brodyr William Evans a John Wil- liams. Cloc marmor a "bronzes" gvflwynwyd iddynt hwy. Cawd anerchiadau gan lu o feirdd. Ys- grifenasai'r Parch. E. Wern Wil- liams i ddatgan ei ofid nas gallai fod yno, a thalai deyrnged uchel i allu cerddorol a llenorol Mr Watkins. Siaradodd y Parch. E. Cefni Jones, a dygodd yntau dystiolaeth uchel i Mr. Watkins. Cafwyd caneuon gan Mr. Daniel Edwards, Gadlys; Miss Cein- wen Evans; Mr R. Williams, a deu- awd gan yr olaf a'i frawd, Mr Emlyn Williams.

Nodion o Aberafon a'r Cylch.…

Ystalyfera.I

Y Tridwr. I

Cymanfa Ganu. II

Nodion o Abertawe. I

Noddfa (A.), Senghenydd.I

Ar Lannau Tawe.I

Nodion o Frynaman. -1

BWRDD Y COLYCYDD.

Advertising