Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Yr Ethollad Nesaf. j
Yr Ethollad Nesaf. j Y Mri. Edgar Jones, A.S., ac Artemus I Jones yn y Cadlys, Aberdar. t Cawsom y pleser o wrando y ddau foneddwr hyn yn annerch cyfarfod o î etholwyr yng Ngharmel, y Gadlys, j nos Wener, Ebrill ijeg. Cynrychiola I: Mr. Edgar Jones Ferthyr ac Aberdar fel Rhyddfrydwr yn bresennol, a daw Mr. Artemus Jones i'r maes gyda'r j bwriad o gydredeg ag ef yn yr Ethol- iad nesaf. Daethai Mr. Edgar Jones j i'r Gadlys i roddi cyfrif o'i oruchwyl- iaeth yn y Sennedd, a Mr. Artemus Jones i ddweyd wrth yr etholwyr beth a fwriadai wneud, neu geisio ei 1 wneud, os ca ymddiriedaeth yr ethol- wyr. Ac fel y gellid disgwyl yr oedd I y ddau yn dweyd ar eu goreu, a siaradwyr da ydynt hefyd. Llywydd- wyd y cyfarfod gan Mr. D. Evans, Tresalcm. Eglurodd ef mai cyfarfod i ymdrin a mater pwysig mewn lie arall gyfrifai am fychander y cynhulliad yng Ngharmel. Nid oedd y cynhulliad mor fychan ychwaith ag ystyried fod cyfarfodydd politicaidd yn bethau mor ) gvffredin. Ymfalchiai'r Cadeirydd ei fod vn Gvmro ac yn Rhyddfrydwr, | pan feddyliai am waith bechgyn Cymru yn y Senedd, ac yn arbennig gyflawniadau ein cyd ivladwr, Mr. Lloyd George. Mr. Edgar Jones alwyd i annerch y cyfarfod gyntaf. Dywedai ef fod storm wedi torn dros v Sennedd yn ddiweddar, ac o ran hynny mai mewn stormydd yr oeddent bron yn barhaus er cyflwyniad Cyllideb gyntaf Mr. Lloyd George i Dy'r Cyffredin. Yn I ystod yr wythnosau diweddaf cawsent eu hunain mewn rhuthrwynt ofnadwy ynglyn a helyntion y fyddin. Er hynny, o'r tu ol i'r cynnwrf i gyd gwnaed llawer o waith oedd o fudd mawr i'r wlad. Ni cheid, fel rheol, yn y papurau syniad cywir am lafur a dvfalwch Senneddwyr. Yr oeddent wedi bod wrthi yn llunio Mesurau gwerthfawr, rhai o honynt wedi dod yn cideddfau ac eraill i ddod. Cyfeir- 'iodd at y Mesur i ddelio a phlant o synhwyrau gweiniaid; y Mesur a gyflwynwvd yn ddiweddar gyda'r am- can o achub dynion ieuainc rhag carchar, ynghyd a'r Mesur sydd yn delio a chvflogiad plant ieuainc i fas- I nachu ar yr heolydd. Credai Mr. Jones y dylai'r Llywodraeth wneud yn hvsbys i'r cyhoedd yr amser dreuliai j aelodau ar bwyUgorau i wneud gwaith mor werthfawr. NIfei fechan fynych- ent y pwllgorau hyn yn ffyddlon. Ceid crvn drafferth weithiau i ffurfio « quorum" am fod llawer o'r rhai ) ddylasai fod ynddynt wrthi'n gwneud j arian. Nid oedd ef yno i wneud arian. Pethau yn perthyn i fuddiant ei ethol- aeth gai ei sylw blaenaf ef bob amser. Er garwed y dymestl deuai'r Hong i'r porthladd yn y man, a'r llwyth goreu a ddygasid i borthladd erioed Tiyd yn hyn. Llawenychai yntau am mai Cymro wnaethai'n bosibl y diwygiadau a gawsant eisioes ynghyd a'r diwygiadau mwy oedd wrth y drws. Er y flwyddyn 1906 ychwaneg- asid deng miliwn ar hugain at dreul- iau'r wladwriaeth, ac yr oedd yr ych- wanegiad hwn yn fwy na'r draul i gyd yn nyddiau Gladstone. I ba le'r oedd yr arian yn myned. Gwerid ar y Llynges ^14,000,000 yn fwy nag a wariesid erioed o'r blaen. Elai'r gweddill o'r ychwanegiad at bethau oeddent o fudd mawr i'r cyhoedd, megis Tal Henoed, Yswiriant, Cyf- newidfeydd Llafur, Addysg, ac i ddibenion Mesur Dad-blygiad. Y dos- barthiadau mwyaf anghennus o'r gweithwyr gaent yr holl fudd oddi- wrth y trethi newydd a godasid. Gorfodasai Mr. Lloyd George y wlad i dalu i'r gwan yn unig bron cymaint ag a gostiai i Mr. Gladstone i gadw'r ty i gyd. Y flwyddyn ddiweddaf cawsai 171,000 dal henoed. Ysgafn- liasai hyn lawer ar dreth y tlawd, ond nid y rhai a gynorthwyasid gan dreth honno a gawsent y budd mwyaf oddi- wrth d&l henoed, ond y tlodion hynny oeddent oddiar deimlad o hunanbarch heb fanteisio ar ddeddf y byddai ei cynhorthwy yn eu hamddifadu o'i hawliau fel dineswyr. Cawsai 1,500,000 o ddynion waith drwy gyfrwng y Cyfnewidfeydd Llafur. Talesid tren llawer o'r rhai hyn fel y gallent fynd at y gwaith, ac yr oedd yn dda ganddo allu dweyd fod y gweithwyr hyn gydag ychydig eithriadau wedi bod yn ddigon gonest i ddychwelyd eu treuliau teithio. Rhoddodd Mr Jones enghreifftiau I o'r budd a ddeilliasai i lawer o'r Ddeddf Yswiriol. Gwyddai mai anawdd oedd gwneud peiriant fel hwn yn berffaith ar y cychwyn. Rhoddi cychwyniad iddo oedd yn bwysig, ac yr oedd hynny wedi ei wneud. 0 ba le y cawsid yr arian at hyn oil? Codasid yr holl drethi newvddion ar gyfoeth a meddiannau heb ofyn ceiniog ar angenrheidiau byw'r gweithiwr. Hefyd yr oedd cyllidaeth Mr. Lloyd George yn iach ac ar lin- ellau diogel. Nid oedd fel y proffwyd- .asai Mr. Chamberlain yn 1912 wedi rhwystro cynnydd masnach y wlad. Profasid egwyddorion Masnach Rydd yn rhai diogel. Proffwydai y byddem yn ystod y pythefnos nesaf yn debyg o gael gan Ganghellor y Trysorlys gyllideb mor rhyfedd a'i gyllideb gyn- taf. Arwyddocaol iawn oedd fod treuliau ychwanegol enfawr wedi eu cael heb ychwanegu dim at ddyled y wlad, eithr yn hytrach ei lleihau. Tal- esid mwy o ddyled yn ystod y goruch- wyliaeth Mr. Lloyd George nag erieed o'r blaen. Ac nid yn unig ni chodasid ceiniog yn ychwanegol ar ymborth y gweithiwr, eithr yn hytrach ysgafnhasid y dreth ar fwyd o tua 41 o filiynnau. Y cwestiwn mawr i'w benderfynu yn fuan oedd Pwy sydd i lywodraethu—y bobl ai'r Arglwyddi? Y Ddeddf Seneddol benderfynai'r mater. Ofnai'r mawrion y Ddeddf hon yn fwy na dim, ac yr oedd yn bwysig iddi weithredu un waith. Yr oedd hyn yn bwysig i bawb o bob plaid a gredai mewn diwygiadau. Gyda golwg ar Ddatgysylltiad yr oedd y llyfr wedi ei gau a dim cyfaddodi yn bosibl. Byddai raid i'r Toriaid lyncu'r llyfr i gyd bellach. Gwawdiai Mr. Jones gais y Toriaid am referen- dum ar wahanol gwestiynau. Nid oedd ond cais i orchfygu y Ddeddf Seneddol. O'r ystormydd i gyd deuai'r llong i'r hafan yn y man, ac yn rhan o'i llwyth byddai rhyddid crefyddol i Gymru, rhyddid gwladol i'r Iwerddon, byddin yn ddarostyngedig i gynrych- iolwyr y bobl yn Nhy'r Cyffredin yn hytrach nag i'r Pendefigion, a gallu newydd trwy'r Ddeddf Seneddol i ryddhau tir y wlad, ac i wneud i ffwrdd a'r crocbris gwaradwyddus a godid am diroedd i adeiladu arnynt yn y lleoedd poblog. Cododd Mr. Artemus Jones, a dyw- edodd mai un o feibion gwerin Cymru oedd yntau. Adroddodd hanesyn don- iol am gyfarfod y bu ynddo yn Rhuthin a Lloyd George yn siarad. Gwnai rhyw giwrad dipyn o dwrw yno. Teflwch ef allan, gwaeddai rhai; na, meddai Lloyd George, clowch y drws. Credai Mr Jones ei fod mor gymwys a neb i gynrychioli gweithwyr Cymru, ac yn gymhwysach na rhai a honnent siarad vn eu henw. Gweithiwr oedd ei dad—saer maen wrth ei alwedig- aeth a gweithiwr oedd ei dadcu. Pwvsleisiai nad oedd ei gais am eu iddynt ei ddewis yn Aelod Seneddol dros yr etholaeth hon yn ymosodiad ar Lafur. Atebiad y Rhyddfrydwyr oedd ei ymgeisiaeth ef i ymffrost Mr. Keir Hardie ar ol etholiadau fod ei fuddugoliaeth yn fuddugoliaeth i Sosialaeth. Cymysgai Mr. Keir Hardie Sosialaeth a Llafur, ond gofalai ef na chai arfer ystrywiau felly yn yr eth- oliad nesaf. Gobeithiai y cyflawnid bygythion Mr. Keir Hardie ac y dygid Sosialydd arall i'r maes. Yr oedd y frwydr rhwng Radicalaeth bwyllog, synhwyrol a diogel ar un llaw, a Sos- j ialaeth wyllt anghyfrifol ar y llaw arall. Yr oedd yn llawn bryd dadlennu a dinoethi yr ysbryd a droisai allan o blaid, a honnai gynrychioli Llafur ddynion fel Mr. William Johnson, A.S. (Nuneaton) am nas gallai gyd- synio yn ddiamodol a chyfansoddiad plaid Llafur. Yr argraff adewsid arno fel mab i weithiwr a fynychai Dy'r Cyffredin fel cynrychiolydd y wasg oedd fod y Ty yn wahanol iawn yn awr i'r hyn oedd flynyddoedd yn ol. Nid oedd yno ddirywiad fel yr honnai rhai, eithr yn hytrach welliant mewn llawer ystyr. Bu adeg pan elai dau i'r Ty ac un yn gofyn i'r Hall—a weli di'r Llefarydd ? Gweld y Llefarydd ebai hwnnw, rydw i'n gweld dau Lefarydd, pan mewn gwirionedd gweld un Llef- arydd yn ddau yr oedd. Credai Mr. Artemus Jones y dylasai llais y werin lywodraethu mewn materion tramor, yn ogystal ag mewn materion car- trefol. Un o'r peryglon mwyaf i hedd- wch y byd oedd fod materion pwysig rhwng gwlad a gwlad wedi eu gadael i'r pendefigion yn unig, a heddweh cyfandiroedd mewn perygl yn ami o j herwydd cwerylon rhyw nifer fechan, o bosibl, o'r dosbarth hwn. Yr oedd y gwasanaeth llysgenhadol a swyddi o awdurdod yn y gwasanaeth milwrol yn gaeedig i'r werin. Byddai ei  ddylanwad ef bob amser o blaid cael y ffordd yn rhydd i blant y werin i'r safle- oedd uchaf yn y cylchoedd hyn. Credai y gwnai hynny lawer at ddi- 1 ogelu heddwch rhwng y gwledydd. Yn ei gyfeiriadau at Dy'r Arglwyddi dywed ei fod yn credu mewn ail Dy, ond iddo yn anuniongyrchol gynrych- ioli'r bobl. Ei reswm dros hyn oedd fod dylanwad y wasg Jingoaidd yn ami yn beryglus, a pherygl i'r cleddyf wneud y tugel yn aneffeithiol yn llywodraeth y wlad ar adegau. Gyda 1 golwg ar drethiant, nid oedd dosbarth yn y wlad a drethid yn drymach na'r gweithwyr. Credai nad oedd Radical j yn y wlad yn fwy awyddus i wneud brecwast y gweithiwr yn rhydd oddi- j wrth dreth na Mr Lloyd George. Nid oedd eto wedi llwyddo i allu symud yr holl drethi a'r fwyd, ond gwnai hynny yn y man. Ni chredai Mr. i Artemus Jones mewn rhyddhau'r [ gweithwyr yn hollol o drethi tuag at gynhaliaeth y wlad, ond protestiai yn I erbyn eu trethu yn anheg fel y gwneid Ij yn bresennol. Dyn wedi arfer gwneud j pethau oedd Mr. Lloyd George. Nid oedd arno ef ofn y swyddogion arosol oedd yn swyddfeydd y Llywodraeth ) fel oedd ar rai. Yr oedd y swyddogion hyn yn erbyn cyfnewidiadau ac yn rhwystr pan fyddai dynion gweiniaid wrth y llyw, ond nid oedd ei hwyr- j frydigrwydd hwy yn cael sefyll ar I ffordd Mr. Lloyd George. Cawsom fwynhad mawr yn y cyf- I arfod hwn, a chan nad beth fydd y canlyniadau, y mae'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn ddigon dewr i dderbyn her Mr. Keir Hardie 6 leiaf.
Pontneddfecban. :
Pontneddfecban. Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfar- fodydd pregethu blynyddol dyddiau Sul a Llun, 12ed a'r 13eg o'r mis hwn. Pregethwyd gan y Parchn. T. E. Davies, A.bertawe, a W. Llywel Mor- j gan, Bridgend. Yr oedd y cynulliadau yn dra lluosog gan fod y gwahanol en- wadau yn rhoddi i fyny eu cyfarfodydd am ddeg a dau o'r gloch y SuJ er mwyn uno. Arferiad rhagorol yw hwn sydd yn dangos undeb a brawdgarwch enwadol.
[No title]
i,I;¡," i,¡¡ p('r!h,'ml[:(! c:ltaf () "iêid(,' j' .lorgalJ," D.UIH:\ () ',vaith :\ir¡. Bas>tl hv. n Yniwf!?] a Chwmbach, Trecynon a Darti nnm.rf.1 y c„ adj, lys—*ej y gwel, juiu hwn ,? Nesiadd Cyhc.)<.?. ,n .?:<? yn jrvdf-n Eisteddfod Cuor- Chwmaman vn fuan. %yd ocidiwrth yi- ?idi-o(i(tla,,l vn 1),t, fit, V T),A!'tliiiltl"All vii fiia?n.
Angladd y Parch Ll. S. Davies,…
Angladd y Parch Ll. S. Davies, Trew illiam, Rhondda Bu angladd y gweinidog ffyddlon a'r brawd anwyl, y Parch. Li. S. Davies. dydd Llun y Pasg, 1914. Claddwyd ei weddillion yng Nghladdfa Gyhoeddus Llethrddu, yng nghanol arwyddion o alar mawr. Yn y ty cyn cychwyn dar- | Ilenwyd gan y Parch. D. G. Evans. Penygraig, a gweddiwyd gan y Parch. f W. E. Evans, Tresinjwn, Bro Morgan- nwg. Gwasanaethodd swyddogion Eglwys Saron fel elor-gludwyr o'r ty i'r capel, lie y cynhaliwyd gwasanaeth syml a nodweddid gan ddwysder a theimlad. Ý mddiriedasid yr lioll drefniadau i'r Parch. D. G. Evans, cymydog agosaf Mr. Davies yn y wein- idogaeth. Yng ngwasanaeth y capel darllenwyd Salm fer gan y Parch. Jenkins (W.), Trewilliam; a gweddi- wyd gan y Parch. Williams, Hafod. Siaradwyd gan y brodyr canlynol: Parchn. H. P. Jenkins, Aberanian; Richards, Ebenezer, Tonypandy; Evans, Gilfachgoch gynt; a Mr D. J. Evans, un o ddiaconiaid parchus Eglwys Saron. Wedi darlIen rhegtr o enwau y gwein- idogion a'r brodyr a ddanfonasent lythyrau yn gofidio o herwydd eu h&n- allu i fod yn bresenol, gorffennwyd trwy weddi gan y Parch. D. C. Jones (B.), Soar, Penygraig. Wedi'r gwasanaeth ffurfiwyd yn or- yandaith fawr, ac aeth y miloedd i gyf- eiriad y gladdfa. Blaenorwyd gan y gweinidogion—y dorf yn dilyn, yna plant yr Ysgol Sul, a chor yr eglwys, yr hwn a gynorthwyid gan gor meibion y cylch ac ar ol hyny yr elor-gerbyd, ac yna gerbydau y prif alarwyr. Ymddir- iedwyd y gwasanaeth ar lan y bedd i'r Parch. J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail. Wedi canu yr emyn terfynol ymadawyd a bedd ein hen gyfaill dirodres y Parch Llewelyn Samuel Davies. Gadawodd Mr Davies weddw i alaru ei cholled ar ei ol. Y mae Mrs. Davies yn un o'r gwragedd mwyaf anwyl, doeth, a gostyngedig, ac y mae miloedd o galonnau yn cydymdeimlo a hi yn yr amgylchiad blin. Cafodd Mr Davies un o'r angladdau mwyaf a we l- wyd yn y cylch. Yr cedd yn ddydd j gwyl, a manteisiwyd gan y bobl ar y cyfle i ddangos eu parch i wr Duw, yr hwn a wasanaethasai y cylch gyda'r fath ddyfalwch am 25ain o flynyddoedd. Dechreuodd Mr Davies ei weinidog- aeth yn yr America, a daeth yn ol i'r wlad hon ryw 25ain o flynyddoedd yn ol, pan yr ymsefydlodd yn Nhrewilliam. | Gwnaeth yr ymadawedig waith mawr yn y lie uchod. Fel pregethwr yr oedd ei ddawn a'i yspryd tanllyd yn ei wneud yn ffefryn, ac yr oedd llawer o alw am dano fel pregethwr ar (tch- lysuron neillduol. Fel gweinidog ni chafwyd erioed was a fu yn ffyddlonach i'w bobl a'i gylch. Yr oedd Saron, Trewilliam, yn ei galon. Do, pryder- odd lawer iawn, ac ymofidiai wrth weled cymaint o ddifrawder crefyddol yn y wlad. y Tystiolaeth y meddyg oedd fod ei galon wedi ei hysigo drwyddi, a'i meth- iant i wneud ei gwaith a fu yn angeu iddo. Byddai ein hanwyl frawd yn cwynfan yn fynych yn yspryd Jeremiah, ond erbyn hyft y mae wedi dianc o'r cwmwl i'r goleuni sydd yn llewyrchu o'i wyneb Ef mewn gogoniant. Tro- wyd ei alar yn llawenydd. Danghoswyd parch mawr gan yr eglwys iddo. Dar- paresid lluniaeth ar gyfer yr ymwel- wyr yn Festri y Capel. Y galarwyr:—Mrs Davies, y weddw Mr B. Davies, r.H., Llandysil (cefn- der Mr Davies), Mr a Mrs Evans, Ynys- hir; Mr a Mrs B. Davies, Mardy; Mr B Lewis, Rhydlewis; Mr E. Jones, Bargoed; Mrs Miles a Mrs Crompton, Mardy; Mr a Mrs Jones, Maesteg Mr a Mrs T. R. Thomas, Tonypandy; Mr D. Thomas a Miss Thomas, Tony- pandy Mr a Mrs H. J. Thomas, Peny- graig; Mr a Mrs S. Evans, Tonyrefail, a'r plant; Mr a Mrs E. Reed a Miss Reed, Tonyrefail; Mr A. Reed, Peny graig, a Mrs Miles Morgan, Efailfach. Gwelwyd yn bresennol heblaw y rhai a ennwyd y gweinidogion a'r lleygwyr canlynolParchn. Jenkins, Llwyny- pia Lewis, Bryncerthin gynt; Phillips (B.), Penrhiwfer; Davies, Cwmparc j Williams, Aberllechau Evans, Mardy j Tawelfryn Thomas, Groeswen Mac- donald a Lloyd, Gilfachgoch Ffrwd- j < vven Lewis. Trelewis; Jones, EfaiSisat i Williams, Cilfynydd. Hughes, Catlnys (rouo»v, Ponfypridd; E\'a:is, j P«>ntypHdd Jones, Glantaf ies. | Ton X st:\id Walters, Gosen Turner (W.), Penygraig Ellis (M.), Trealaw Morgan (M.), Tonypandy; 11. (B.), Llanelly; D. J. Evans (M.). Pen- ygfaig W. J. Rees, Porth J. PoweJl. Porth; J. Uriffith, Tonypandy T. Thomas, Bodringallt, a'r Parch. Jones, Bodringallt. Derbyniodd y weddw a'r eglwys lythyr;w o gydymdeimlad oddiwrth y personau 'canlvnol :-Ilarchn. Gregory, Nantymoel; Geler Jones, Llangeler James Evans, B.A., Caerdydd; E. Davies, Abercynffig; Williams, I-te- solfen; Wil'ia'ns. Barry: Williams Cwmogwy Evans, Mount Stuart, Caerdydd; Thomas, Llantrisant; Tafwys Jones, Caerflili T. T. Jones, Maendy; Rhedynog Evans, Rhydri Williams, Pentre Henry Caxton; Davies. Bronllwyn Lloyd Owen, Pontypridd Ben Evans, Barry,; Jones, Caerdydd Rogers, Penybont Mrs. Davies. Cwmparc; Davies, Llantri- sant Williams, Llwynypia, a Mill- ward, Pentre. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r eglwys yng Nghymanfa j Ganu Pontypridd a'r Cylch LIlln y Pasg, ac yn Nghymanfa Ganu Tre- william a'r cylch dydd Mawrth y Pa.sg a chan eglwys a chvnulleidfa Ebenezer, j Tonypandy, nos Sul y Pasg. GOH.
Treherbert. I
Treherbert. Cynhaliodd eglwysi Annibynol Tabernacl, Blaenrhondda; Ebenezer, Tynewydd, a Charmel, Treherbert, eu Cymanfa Ganu flynyddol y Grog- lith o dan arweiniad Mr W. J. P-yans, Aberdar. Cynhaliwyd cyfarfod y plant yn y bore yn Ebenezer. Llywydd- wyd gan Miss Rosina Phillips, Blaen- rhondda. Agorwyd y cytarfod trwy weddi. Yna canwyd amryw donau gan y plant ynghyd ag anthem, "Tel- ynau'r Plant (Gwilym James, Fern- dale), yn swynol dros ben. Cyfarfod y prynhawn yng Ngharmel. Llywydd, y Parch. J. C. Jones, Ebenezer. Can- wyd amryw donau, Salmdonau, ac anthemau, "Deffro, deffro," etc. (J. Ambrose Lloyd); "O'r Dyfnder i i, y r Llefais," etc. (W. T. Samuel); "0 Dduw, rho i'm dy hedd (Gwilym James, Ferndale). Cyfarfod yr hwyr eto yng Ngharmel. Llywydd, y Parch. J. Caerau Rees, Ph.D., F.R.H.S., Carmel. Ailganwyd amryw o'r tonau, a Salmdonau, a'r anthem- au. Yr oedd y capel eang yn orlawn o bobl. Cyfeiliwyd gan organyddes Carmel, Mrs. H. M. Henry, Treher- bert, a Mr. William Jones, organydd Ebenezer, Tynewydd. Canmolodd yr arweinvdd y canu ymhob cyfarfod. Dydd Llun y Pasc cynhaliodd Undeb Bedyddwyr rhanbarth uchaf y Rhon- dda ei Gymanfa Gerddorol dan nawdd Eglwysi Calfaria, Blaenrhondda; Soar, Blaenycwrn, a Libanus, Tre- herbert. Cynnorthwyid gan Gcrddorfa Blaenycwm. Arwcinydd y dydd oedd Mr. W. T. Samuel, I. S. M., Caerdydd. Cafwyd cyfarfod y plant yn y boreu am 50.30 yng Nghapel Blaenycwm, a Mr. David Jones, Blaenycwm, yn llywvddu. Canodd Master David Griffiths, Blaenycwm, unawd yn dra swynol, ac i goroni'r cyfarfod canodd y plant anthem, "Ymdeithgan y Per- erinion (J. L. Rees) yn fendigedig. Yng nghyfarfod y prynhawn am ddau o'r gloch yn Libanus llywyddodd Mr. B. Gabe, Libanus. Canwyd unawd gan Miss Jennie Jones, Libanus; tri- awd gan Mrs. E. Jones, Calfaria; Mri. H. R. Hughes, Blaenycwm, a Mr Llew Jones, A.L.C.M., Libanus. Yng nghyfarfod yr hwyr am chwech o'r gloch yn Libanus, llywyddodd y Parch. T. Bassett, Calfaria. Canwyd ynghyd a'r tonau Salmdon, a chaf- wyd unawdau gan Mr. John Rees, Cal- faria, a Mr Isaac Lewis, Soar. Yna unwyd yn gor mawr, a chanwyd yr anthem, "Mawr yw'r lor" (Mozart) yn fendigedig. Canwyd yn swynol iawn, yn neillduol felly, ddwy o donau y rhaglen a gyfansoddwyd gan dad a mab; y tad oedd Moroni Samuel, cyn- arvveinydd y gan yn Libanus, ond yn awr wedi uno a'r dyrfa nas gall neb eu rhifo, a'r mab, Mr Thomas J. Samuel, yw arweinydd y gan yn Li- banus yn awr. Y cyfeilwyr yn y gwa- hanol gyfarfodydd oedd Miss Lil Cule, Libanus; Mri. Thomas Griffiths, Blacnycwm; Iorgan Rccs, Calfaria. Arweinydd y gerddorfa oedd Mr \Y. Davies ,A.T.S.C., Blaenycwm. Caf- wyd gwyl o'r fath oreu. Dyma ncwydd i chwi, Mr. Gol., y mae Mr \V. T. Samuel wedi arwain cymanfaoedd canu saith cant o weithiau. Pwy arall all ddweud hyn? GOH.
Godre Ceredigion.
Godre Ceredigion. Byd y Gan.-I)(lydd Gwener y Grog- lith, fel arfer, cynhaliodd Methodisti- aid Dosparth r nedig Twrgwyn a Phen morfa eu Cymanfa Ganu flynyddol. Tro Penmorfa oedd hi i'w derbyn eleni. Y Proffeswr D. Jenkins, Aberystwyth, oedd yr arweinydd penodedig, ond lluddiwyd ef gan anhwylder corff. Llanwyd ei le gan Mr McLean, o Aber- ystwyth, a hynny gyda deheurwydd. A'r cynulliadau yn gryf ac yspryd mawl wedi medd £ ?.nnu nob un, bu yn uchel-wyl wirioneddol, a ehanwyd yr anthem, Drylliwyd y Delyn," gydag ynni a gwres a theim!ad nodedig. i Emlyn a'r las Gystadlu. — Tits frwd oedd hi hefyd yn yr hen dreflan dlos hon nawn a hwyr y Groglith. Eistedd- fod lawen oedd hivdrwyddi i gyd. Nid rhyfedd hynny tra'r Brynach gwreidd- iol yn arweinydd. Efe hefyd nedd bei-i-niad yr anii-ywiaeth, ac a roddodd y gadair am bryddest ar "Faddeu- garwch" i un Mr. Evans, o Beny- darren, Merthyr. Rhoddodd wobr y j prif adroddiad i Mr. Ben Jones, LJan- geler, ac am yr adroddiad i blant i ferch yr un gwr. Mr. Mathew All". Davies, Mus.Bac., Castellnedd. oedd beirniad y gerdd, a rhoddodd ef y gwobrau fel hyn Cor Cymysg, Cor Saron (yr ung un yn canu). Parti Mebion, Drefach, dan arweiniad Mr. Robert Cole. Cor Plant, Capel Iwan. Canu'r Piano (i rai dan 16 oed), Tom James, Henllan. Canu'r Piano (i rai clan 12 oed). Megan James. Do, cafwyd I Eisteddfod dda. Bias ar y Dweyd."—Y Parchn. Moelwyn Hughes a Robert Beynon, A bercraf. feddiannai'r teimlad hyfryd hwnnw ddyddiau Iau a Gwener yng Xghapel Closygraig, ger Drefach, Hen- llan. Melys meddwl er cymaint yw bias jy myn'd y dyddiau hyn fod bias gwrando'r Hen Hanes yn fwy yn ein ?w?d. Gwywo'n Dlws.-A'r gwanwyn yn Iwdo'r blodau allan ar berth a dol ac yn denu'r telynorion i gangau'r wig, ie. gwywo'n dlws yng ngwanwyn gwyn ei oes—dim ond 25ain oed— wnaeth ein cyfaill ieuanc hoff, Ben- jamin J. Davies, mab Thomas ac Hannah Davies, Penpontbren, Glyn- i arthen. Bu yn dihoeni am naw ml.vnedd gyfan, ac er yn ei weld yn araf wywo. mynnai "Gobaith" gael sisial ei gyfrinach wrthym o hyd. Un o fechgyn harddaf bro'r Glyn oedd efe erined. Un o blant yr encilion oedd; tawel bob amser, ond dwfn ei fyfyrdod- au a glán ei rodiad. Mewn gair 'roedd ei gymeriad yn destyn ymddi- ddan y fro. Ond cefnu wnaeth, » dydd Iau. Ebrill yr ail. rhoddwyd ei weddill- on ym mynwent hoff y Glyn. Nid oedd i'w ddisgwyl ond cynhebrwng parchus. Pregethodd y Parch. J. Davies yn y capel. a chymerwyd rhan ar Ian y bedd gan un o'i gyfoedion, sef Mr. J. J. Davies. Ysgol yr Hen Goleg. Caer fyrddin. Melys fo'th hun, gyfaill anwvL
Advertising
BE UA! OAR! P aSi KLUABLE BOOKS gp GIVEN FREE. M | Mr. JOHN DAVIES, I = Picture Framer. = | 11, CARDIFF STREET, | ABERDARE. = has been appointed an agent for the "World's Best" Prize £ = Scheme. You should call as soon as possible and see for = yourself the valuable Pictures and Books which are give 5 § free under this Scheme. 5 = ASK FOR ILLUSTRATED LIST GIVING FULL PARTICULARS. S == All the household articles with which the World's Best Guarantee Seals are === == packed are of the highest quality and are the productions of well-known firms. A = = full list is given below. If any of the undermentioned articles are unobtainable it! FEE = your district please notify us of this by post card. giving the name of the article, a! = the address of the grocer or oilman concerned. = = Lightning Soap. 4 sizes. tmo?r?) Naptha Soap. = SS Bull ?<S.?tp. Rob.n'. S?p Powder. = =S Topsail Carbolic Soap. Rob.n'? Finest Soft Soap. I Ib.. 2 PI ~S == Throne primrose Soap. 4 lb. and 7 tins. Cook's Primrose Soap, 2 sizes. Robin's tis n Toilet Soap. assorte = jjjj Sweet Laundry. E. C. Waskier perfumes. —- C ook's Washing Powder. Robin'a Snowdown Aerated Candles (i. = SS: Home Pale Soap. 2 sizes. cartons). 2 sizes. [2 size. S Home Carbolic Soap. 2 <:zet. Blakantan Hoot Polish (black & brown' ?? ? Queen s Honey Soap, 2 sizes. Spector (Ctean?er and Polisher). 2 «yt- = Queen:: C.rbol Soap. 2 ize.. Cracker (Soap F?he*). = SS Panshine (Cleanser & Polisher) 3 sizes Naphthoiite Soap. = ? Bull's Eye Aerated Candles (in cartons) C,,eck-.te Dii?fe-tant S"p. = Dippo (Self Washer). C2Mzet %I ars Night l.ights. in boxes co.t == Winner Shaving Stick. 12-6 hour. I R hour. or S = == Invincible Transparent Toilet Sf?op hour lidhn. = Sweet May Toilet Soap. [2 sizes. 'jraffin Soap. Turpene Soao S SS Red Maid A erated Candies (in eirton.) .turo Metal Polish. (liquid). 3 sn. = = Acme Complexion Soap. [2 t;ze? Saturn Metal Poli"" (paste), 2 aix? SSSBS SS Acme Shavm? Stick. æ C.h.e??- r"'le. Soap. 2 .ize.. SS C.:hmere Visit on Toilel Soap. == == Cashmere Shavinll Stick. = == Rapid deallsell' = = Rapid Carbolic = = Woodland Toilet Soap. == = Tartao Soap. 3 sizes. = Kilty Carbolated Soap. I = BIrnori Civanger Soap. 3 sizes. = B :,fnor Carbolic Sop, 3 i. == en. t.8 Special Pure Soap. 2 iz-, = = Oúslon'" Cold Water Soap. = = Balmoral I>araffin Soap. = = Hal-N ..phths Soap. = Balmoral Soap Powder. = Ø,¡lmoral S.,11 Soap. 1 2 lb.. = 4 lb. and 7 tills. æ White-l,ight Aerated (in art.na). 2 i..S. [2  == Jiffy Boot Polish (black and bro n). = Fasto (Cleanser and Polisher). 2 sixes = (Soap Flkes). == Bounty Soap. 3 siaes. = Bounty Carbolated Soap, 3 sizes. = Snowdown Soap, izes. Snowdown S'iao. 4 jgp ï- sr IF you are unable to call at be 'Depot we wiii tend, Oil receipt of a 'Post —— = Card giving your name and address, a Copy of our Illustrated$ooJ(iet » containing full particulars. ,/?ddress:— = si THE "W 'K!t D'S ItEST" PUBLISHING CO.. S S3 W H KOYAI. BUILDING. LIVERPOOL. =