Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Bethania (B.), Cwmbach, Aberdar.
Bethania (B.), Cwmbach, Aberdar. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y capel uchod dydd Gwener y Groglith nos Sadwrn a Sul y Pasg, 1914. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. W. Morris, D.D., Tre- orchy; R. H. Davies, B.A., Bryn Seion (A.), Cwmhach; J. Myddfai Jones, ezer (M.C.), Cwmbach; a Peter Jones, Cohvyn Bay. Cafwyd cyfarfodydd llwydd- iannus, tywydd dymunol, ac yr oedd y brodyr oil ar eu huchel-fannau. Cymer- wyd rhannau arweiniol y cyfarfodydil gan y Parchn. J. Griffiths, Calfaria, Aberdar; B. Williams, Abernant; W. R. Lewis, Cwmaman, ynghyda'r gweinidog. Yr oedd llawenvdd maur yn meddiannu pawb o bobl Bethania wrth ddod yn ol i'w -cartref ar ol misoedd o bererindod. Edrych y capel yn hardd ar ol y drmiaeth y bu dani. Gosodwyd hefyd "heating apparatus" i fewn drwy y capel a'r festri, yr hyn fydd yn sicr o ychwanegu at gysur yr addolwyr.
Aberteifi a'r Cylch.I
Aberteifi a'r Cylch. I Cyngerud. Dydd Gwener y Groglith cafwyd un o'r cyngherddau gore yma, a throdd alian yn llwyddiant mawr mewn ystyr ariazinol. Deibyniwyd yn agos i gan' punt, a bydd yr elw dros hanner can' punt wedi talu yr holl dreuliau. Parti Mountain Ash a ddarparodd y wledd, yn cael eu cyn- orthwyo gan y telynor ieuanc Roger Thomas, a Nellie Jones, Cwmaman, Aber- dar, yn canu penillion. Yr oedd yr ar- weinydd penigamp, Mr Glyndwr Richards, yn ahsennol, a chymerwyd ei le gan Gwilym Taf, ac nid oedd eisiau gwell. Cymerwyd rhan gan y persollau canlynol mewn nnawdsu, deuawdau, a phedwar- awdau, Mri. W. E. Llewelyn, S. Jenkins, Harry Lewis, Bowen Williams, a T. Llew- elyn. Yr oedd canu y parti enwog yn gwefreiddio y gynulleidfa. Os nad ydym yn camsvnied, ca ddod yma y Groglith nesaf am y 3vdd dro. Yr oedd y Pavilion yn orlawn o vrandawyr, a gorfuwyd atal gwerthu cardiau am nad oedd lie yn yr adeilad eang. Rhwvdd hynt i'r parti eto pan ar daith i wlad y orllewin i swyno cenhedloedd ereill a'u canu. Cadeiriwyd I gan y Parch. T. Eynon Davies, Llundain. Cyfarfod Ysgolion Sul. Cynhaliwyd hwn y tro yma yn Felindre, Nevern. Cynrychiolid tair ar ddeg-o. Ys- golion Sul y cylch. Mae y cyfarfod a nod- wyd yn terfynu tri ugain a deg o flynydd- oedd er pan y cychwynwyd ef. Ym- ddengys yn ieuanc er ei fod yn ddigon hen i gael coron. Testyn y bore ydoedd, Gwasanaeth y Cyfarfod Ysgolion i'r Eglwysi," ac agorwyd yr ymddiddan gan yr hen frawd Mr John Rowland, sydd yn 91 mlwydd oed. Yr oedd yn y cyfarfod cyntaf gynhaliwyd yn Felindre 70 o flyn- yddau yn ol. Yn ystod y blynyddoedd yma cafwyd 241 o gvfarfodydd yn eglwysi y cylch. Cymerwyd rhan yn yr ymddi- ddan gan dri ar ddeg o gynrychiolwyr, felly gwelir fod y testyn wedi ei ddihys- byddu. Penderfynwyd fod cyfrol yn cael ei darparu yn rhoddi cipdrem ar wasan- aeth y cyfarfodydd—y IJeoedd y cynhal- iwyd hwynt, a'r cynrvchiolwyr fu yn gwas- anaethu. Ymddiriedwyd y gwaith i'r Parch. E. J. Lloyd, Llandudocli, a gellir penderfynu y bydd v gyfrol yn ddarllen- adwy a thlws. Pasiwyd pleidlais o gyd- ymdemilad a theulu Mrs. Morris, Aber- teifi, ac a pherthynasau Mrs. J. S. Morris, Trefdraeth. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Brynsalem, Cippyn. Marwolaeth. I Bydd yn flin gan liaws sydd ar wasgar o Aberteifi i ddeall fod y meddyg galluog Dr. E. O. Bowen, wedi ffarwelio a'r fuch- edd hon nos Fercher diweddaf. Yr oedd Dr. Bowen yn enedigol o Aberteifi. Pasiodd yn anrhydeddus fel meddyg yn Edinburgh. Ymsefydlodd yn nhref ei enedigaeth rhyw bedair blynedd yn ol, a dangosodd allu arhennig yn ei alwedig- aeth. Cyflawnodd operations pwysig ar bersonau, a bu yn llwyddiannus yn yr oil. Tyrrai pob! y wlad i'w weled, ac i geisio meddyginiaeth, ond methodd wella ei hun. Nid oedd ond 29ain mlwydd oed. Yr oedd yn un o'r dynion ieuainc mwyaf gwylaidd, ac yr oedd yn barod dydd a nos i wneud yr hyn a allai i ddioddefwyr. Ymbriododd a merch E. Ceredig Evans, U.H., Aber- teifi, a gadawodd weddw a phlentyn ar ei ol. Cydvmdeimlir vn fawr a'r tad a'r fam, a wnaeth gvmaint er rhoddi addysg feddygol iddo. Cafodd y fam y framt o'i wyled air ei wely cystudd, a'i ddilyn i rydiau'r afon. Dyma delyn dorrwyd yn gynnar-yn rhy gynnar i'n golwg ni. Dyddaned y Dyddanydd Mawr y rhieni anwyl a'i briod yn eu galar dwys. Cleddir ef dydd Mawrth nesaf, a gwn y manteisia llawer ar y cyfle i dalu y gymwynas olaf i weddillion marwol Dr. E. O. Bowen anwyl a thyner. Aberteifi. D. JONES.
Treorchy.!
Treorchy. Etholiad.-Llawenydd inni yw llon- gyfarch Mr W. T. Jones, Y.H., ar ei ffawd yn sicrhau'r lie uchaf yn etholiad yr Adran hon o Gyngor Dosbarth y Rhondda. Bu Mr. Jones bellach yn aelod o'r Cyngor am ugain mlynedd. Y flwyddyn hon y cafodd wrthwynebydd gyntaf er's deunaw mlynedd. Arferid meddwl mai gwastraff ar arian ac am- ser fyddai ei wrthwynebu, gan gymaint ei ddylanwad yn y lie, ond y tro hwn fe fentrodd dau allan, un o dan nawdd uniongyrchol y gweithwyr ym mherson Mr John Minton, a'r llall Mr T. P. Davies, o dan nawdd Cymdeithas y Trethdalwyr. Nid am fod ganddynt wrthwynebiad i Mr Jones y daeth y gweithwyr allan, eithr er mwyn cael un o honynt eu hunain ar y Cyngor. Pro- fodd y ffugyrau fod yr ad ran bron yr un feddwl a hwy. Mwyafrif Mr Jones ar yr ymgeisydd llafur mewn etholiad o yn agos i ddwy fil a hanner o Jbleidleisiau oedd 86. Felly, er yn Ilongyfarch Mr. Jones ar ei lwyddiant y tro hwn, yr ydym yr un mor barod i longyfarch 'bechgyn llafur' ar en hymdrech ragor- oi hwythau. W.P. a Rhagfyr.—Dau enw a dau ber- son o dylanwad yw y ddau hyn. Buont er's amser bellach i raddau mwy neu lai "tan fachau tyn afiechyd." Dau frawd anodd i Gymdeithas fforddio colli eu gwasanaeth ydynt. Nid gormod fyddai dweyd nad oes gwell dinesydd na'r Cynghorwr W. P. Thomas, Y.H., trwy Gymru benbaladr. Ni ddigwydd dim pwysig yn y cylch, na cheir ef a'r llaw flaenaf ynddo. Nid oes neb ond y cyf- arwydd yn gwybod am ei aberth mewn amser ac arian ar hyd y blynyddoedd o blaid pob mudiad daionus. Mae'n ddiarhebol yn y lie fel cymwynaswr. Y flwyddyn ddiweddaf llanwodd y swydd o Gadeirydd y Cyngor Dosbarth yn an- rhydeddus. Yr oeddem yn hyderu y buasai y list o Ynadon newydd allan erbyn hyn, a'i enw i fewn ynddi, gan y byddai yn anrhydedd i'r Fainc i gael cymeriad mor gyflawn i eistedd arni. Boed felly pan y daw. Deallwn ei fod yn gwella'n raddcl o'i afiechyd.-Y mae y Parch. D. Rhagfyr Jones, gweinidog Bethania, bron a chael blwyddyn gyfan o'i wasgu gan afiechyd. Nid yw wedi pregethu er mis Mai diweddaf, ac i bregethwr a'i nwyd gryfed yn y gwaith y mae ei fethiant yn gosp drom arno. Gwelir ei eisiau ym Methania, ond mae'r eglwys a gweinidogion y cylch mewn llawn cydymdeimlad ag ef, a phawb yn dymuno iddo wellhad buan. Drama.—Y mae y Ddrama mewn bri yma'n awr. Ymeifl yr eglwysi o ddifrif ynddi. Bu dwy ohonynt wrth y gwaith yn barod, ac y mae pobl ieuainc Bethania yn bwriadu perfformio "Joseph a'i frodyr," o waith J.R., yr wythnos nesaf. Pob hwyl! Anundebiaeth.—Da oedd gan bawb yma ddeall i gwmwl streic o achos yr anundebwyr fyned heibio, ac i'r meistri gynorthwyo yr Undebwyr. Gresyn na fai gweithwy yn ddoeth ac yn ffyddlon i'w hu4deb.
Methiant y LIain Gefn. I
Methiant y LIain Gefn. I Y Nerth Wedi Mynd yn Hollol o'r Cefn. Yn ddiymadferth ac wedi treulio I ymaith, ond a iachawyd yn Uwyr gan DABLEDI DR. CASSELL. I Fe ga y rhai a ddiodefant oddiwrth wendid gieuol i unrhyw radd,—o'r teimlad anesmwyth, aflonydd, giau gynhyrfiol i barlysiad llwyr y giau- yma brawf digonol fod Tabledi Dr. Cassell y sicraf o'r holl feddyginiaeth- au. Dywed Mrs. Green, 243 Pretoria Road, Bordesley Green, Birmingham: Tua blwyddyn yn ol cefais double pneumonia, yr hwn a'm gadawodd mor wan fel mai o'r braidd y gallwn gerdded. Ac wrth geisio cerdded ym- ollyngai fy nghefn rywfodd nes yr oeddwn yn ddiym- adferth. Nis gallwn hyd yn oed eistedd, Mrs. Green Birmingham. ac wrth orwedd yr oeddwn mewn poen ofnadwy. Rhoddasant fi mewn 'plaster of Paris,' a dygid fi allan mewn 'spinal carriage.' O'r cyflwr methiantus hwn, ac wedi treulio nes nad oeddwn ond rhyw 70 o bwysi, adferodd Tabledi PI. Cassell fi i gyflwr o iechyd a bywv. rwydd." Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y feddyginiaeth sicraf a ddyfeisiwyd at Fethant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwen- did, Diffyg Cwsg, Poen Giau, Curiad y Galon, Afreoleiddiwch y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlysiad y Cefn a'r Giau, Dihysbyddiad Cyffredin- ol o Nerth y Corff, Lludded yr Ymen- ydd, a phob math ar .fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd.. 418 Chester Road, Manchester, am sampl rhad. Gwerthir y Tabledi gan yr holl Fferyllwyr am lOild., Is. 1c., a 2s. 9c. —y maint olaf yw y rhataf yn y diwedd.
Colofn y Gohebiaethau.
Colofn y Gohebiaethau. Y "COFIAXT" A "GOHEBYDD ARALL." Mr Golygydd,— Byddaf yn hoff iawn o adolygiadau ar lyfrau. Mae llawer iawn i'w ddysgu drwy adolygiad da a phan yn darllen yr adolygiad gwir alluog a manwl ar y Cofiant, teimlwn yn barhaus fy mod ym mhresenoldeb lienor o fri, a meddwn wrthyf fy hun, Dyma nodyn uchel, dyma ysgrifennu da, dyma ryddiaith Gymraeg o'r iawn ryw, a dyma gyfle i minnau i ddysgu rhyw- beth." Wrth reswm, cofiwn ein gwen- did fel cenedl—methu dal dan feirniad- aeth, ac yna gwingo a chnoi. Ar- dderchog," meddwn wrthyf fy hun pan orffennais ddarllen yr adolygiad; dyma rywbeth teilwng o'r beirniadu wneir yn y beirniad dan olygiaeth yr Athro J. Morris Jones. Yr wythnos hon, pan ddisgynnodd fy llygad ar Adolygu yr Adolygiad," rneddwn wrthyf fy hun drachefn, "Dyma gyfle am ddadl len- yddol dda, a bydd darllenwyr y 'Dar- ian' ar eu hennill." Tybiaswn nad anturiai neb ond cawr Henyddol i ornest a'r hwn ysgrifenasai'r Adolygiad ar y Cofiant, pwy bynnag oedd. Ond druan oeddwn; dyma ddis- gyn i'r gwaelodion-ysgrifennu gwael, ac ymosodiad personol-priodoli yr Adolygiad i Genfigen," ac ymostwng yn ei ffordd ei hun i ymddiheuro am waeledd y Cofiant trwy ddweyd-" ni fwriadwyd y Cofiant i fod yn gamp- waith llenyddol." Nid beio am na fu- asai y Cofiant yn gampwaith llenyddol mae'r Adolygydd, ond beio am fod ei lenyddiaeth yn anheilwng a gwael, fel y profa i ni. A oes eisiau i lyfr fod yn wael ei orgraff a'i ddiwig tuag at "fod dynoliaeth hynaws, garedig, eang, a mawrfrydig yn anadlu drwyddo." Fel rheol, mae petljau yn myned gyda'u gilydd, ac yr oedd gennym, allem fedd- wl, hawl i ddisgwyl cywirdeb a chwaeth yn ysgrifau dynion gymerant arnynf i eu hunain i arwain pobl. Pechod o'r fath hyn wrth siarad yn gyhoeddus a faddeuir i ddynion, ond y mae eistedd i Iawr mewn hamdden a gwneud y fath gamsyniadau yn anfaddeuol, yn enwed- ig mewn dynion y tybiem eu bod yn gwybod gwell. Nid fy musnes i yw gwybod na phenderfynu beth all teim- lad personol yr Adolygydd fod, ond mae yn amlwg nad oes eisiau llygaid cenfigen i weled y gwallau gwarthus geir yn y Cofiant hwn fel y cyfeiriwyd atynt ac yr enwyd hwynt gan yr Adol- ygydd. I gawr o lenor fel hwn, pa beth all fod yn y llyfr i ennyn eiddigedd a chenfigen 1 Pentwr o wallau mi dyb- iaf. Beth sydd i genfigennu wrtho 1 I mi, fel un y tu allan, a barnu wrth yr hyn sydd wedi ymddangos yn y 'Dar- ian,' y mae defnyddio'r gair 'cenfigen, etc., yn anfoesol. Y mae yr Adolygiad yn wi r, onid yw? Os felly, pili na wnaethai'r "Gohebydd Arall" am- ddiffyniad ac ysgrifennu mewn gwell yspryd. Yn wir, yn wi r, yr wyf yn cael fy nhueddu i ofyn. tybed nad "Goheb- ydd Arall" yw y cenfigennwr? A barnu y ddau wrth yr hyn sydd wedi ymddangos yn y Darian," efe ydyw. Dywed y "Gohebydd Arall" nad yw yr Adolygydd yn yr ysbryd iawn. Wel y mae yn amlwg fod yr Adolygydd yn dweyd y gwir, a theimlai pawb, mi dybiaf, sydd a thipyn o barch i'w iaith a'i wlad ei fod wedi gwasanaethu y naill a'r llall, a dynion yn lied agos i'w He o ran eu hyspryd allwn i feddwl yw y dynion sydd yn dweyd y gwir ac I yn wasanaethgar i'w hoes. Camsyn- iad mawr yw meddwl fod dyn, heb fod yn yr yspryd goreu am ei fod yn sefyll dros gywirdeb llenyddol. Caffed pob gwr teilwng fel y Parch. R. Thomas, Glandwr, y naill a'r Hall neu ddim. Os yw yr oil ddywedir gan yr Adolygydd yn wir, ac y mae yn ymddangos ei fod, nid blodeu-glwm mo'r Cofiant, s ond clwm-rhaff-wair lledchwith a garw. GOFIANT Y PARCH. ROBERT THOMAS, GLAN DWR. I. Syr,—Ymddanghosodd yng ngholofn- au'r "Darian" yn ddiweddar adolyg- iad gan un Goh. ar Gofiant y Parch. Robert Thomas, Glan Dwr. Diwedd- odd gyda dywedyd-" daeth yn bryd i ddweyd y gwir am yr hyn ysgrifennir dan yr enw 'Rhyddiaith Gymraeg,' yn gystal ag am y rhai gymerant arnynt ysgrifennu yn y Gymraeg. Yr wyf yn unfryd unfarn ag ef yn hyn o beth, a chredaf ymhellach y dylai'r neb a fynno symud brycheuyn o lygad brawd dynnu'r trawst a ddigwyddo fod yn ei lygad ei hun. Nid felly y gwnaeth y Goh. hwn. Ymglywaf a galw sylw darllenwyr y "Darian" at rai brychau pur ddifrifol yn iaith ac ar- ddull beirniad mor Ilym ag yntau, rhag na pharo'r adolygiad iddynt gyfeiliorni megis y Goh. wrth osgoi gydag ef y canisyniadau a nodir ganddo yn ei adolygiad manwl. Yr oedd yn dda gennyf ei weied yn nodi beiau yn orgraff y Cofiant, a chredaf iddo vneuthuv gwasanaeth mawr drwy eu cywiro. Ond yn enw pob cydwybod paham na roddasai lon- ydd i'r hen f'furf gywir "gennyf"? Pa faint o wahaniaeth sy rhwng yr 'e' yn y gair "gennyf" ag yn y gair "ysgrif- ennu"? Nid yr un "e" sydd yn "gen nyf" ag yn y gair "geni." Dylai wy¡bod bellach mai o "nt" y daeth y ddwy "n" yn "gennyf," a Gramadeg Morris Jones wrth law. Fe wei yno mai hen ffurf gan ydoedd "cant," ac ni eill "nt" droi'n "n" pan ddel ar ol yr acen. Megis y mae. dant, dannedd yn gywir, felly hefyd "cant," "gennyf. Cawn y Goh. yntau'n sgrifennu "bachgenyn." Troed i'r nawfed bennod o Efengyl Lug, ac fe wel pan ddarlleno'r wythfed adnod a deugain mai "bachgennyn" a osododd yr Iesu yn ei ymyl. Gwel hefyd yn y drydedd adnod o'r drydedd bennod yn Llyfr y Proffwyd Joel mai "bachgennes" a werthwyd er gwin. Y mae'r gair bachgennes yn fyw o hyd, a'r ffurf a'r dafod leferydd ydyw "sgennes." Nid yr un sain sydd yn "sgennes" ag yn y gair "geneth," er enghraifft. Y ddwy "n" a bair y gwa- haniaeth. Felly hefyd "bachgennyn" a ddisgwyliem i'r Goh. ysgrifennu. Y mae'n hen bryd bellach alltudio'r ffurf ddiflas. "neillduol." Rhyfedd oedd weled gwr mor daer am Vt cywir a'r Goh. yn sgrifennu "en>rreifftiau." Pa beth a wnaeth "enghreifftiau" iddo? Sonnir yn yr adolygiad am gam- ddefnyddio y manyn "a," a rhoddir dwy enghraifft o'r trosedd hwn gan YI Golygydd. Dylai'r Goh. wybod mai rhagenw perthnasol ydyw'r "a," ac na ddylid ei adael allan o gwbl yn Gym- raeg. Yr unig eithriadau a ganiateir ydyw gwahanol ffurfiau "bod." Dar- llened y Goh. ei Feibl yn ofalus ac fe wel fod y rhagenw "a" bob amser yn ei le. Dylanwad Saesneg ar ysgrifenwyr Cymraeg a barodd iddynt ei adael allan, ac un o brif feiau'r adolygiad o ran iaith ydyw na ddigwydd y rhag- enw ynddo o gwhl. Cymraeg truenus iawn yw "ddylid ysgrifennu," "ellid ddwyn," er enghraifft. "A ddylid ei ysgrifennu." "a ellid ei ddwyn," sy gywir, yn ol prif awdurdodau'r iaith o leiaf. Siarad pen fforffd" yn hytrach nag ysgrifennu ydyw "ellid ddwyn," etc. Gwelir y dylanwad Saesneg eto yn yr ymadrodd "cymeryd lie." Nid yw hynny eithr cyfieithiad llythrennol o'r Saesneg "take place," ac y mae perthynas agos rhyngddo a "mewn trefn i wneud ei ymddanghosiad" a Iltwer o bethau cyffelyb. "Digwydd" yw'r gair Cymraeg, a phaham na ddefnyddiwyd hwnnw? Hyd yn oed petai "cymerid lle" yn burion Cym- raeg am "take place," rhyw erthyl gwael ydyw "cymeryd." "Cymryd" ydyw'r gair Cymraeg. Eto pa beth a olyga "dwy waith drosodd"? Onid cysgod y Saesneg "twice over" sydd yma 7 Boddlonai'r Cymro syml diled- iaith ar "ddwy waith." 01 benthyg oddi ar yr iaith fain sydd ar yr ym- adrodd "pe dim ond"—"if only." Ystyr llythrennol "pe dim ond" yw "were it something but" er hynny. Fe ddeallai'r Cymro dilediaith "pe na bai ond" heb drafferth. Dylid claddu "awdwyr" bellach hefyd, oblegid j)oenodd ddigon ar bawb a garo iaith bur. Y mae "awdur- on" yn llawer tlysach. Yn ol pa reol y meddelir yr "11" yn yr ymadrodd "nis gellid lai." Ac oni wyr y Goh. nad Cymraeg mo "yr oil" troed i Ramadeg Morris Jones, tudalen 309. "Y cwbl" fyddai gywir. Gellid hep- gor y gair "brawddegiaeth" yntau; byddai "brawddegu" yn llawer gwell a chryfach. Gwael iawn hefyd ydyw'r ymadrodd, Brawddegau gwael yw dweyd—etc." Ai'r gair "dweyd" ydyw'r "brawddegau." A phaham "dweyd"? Pur wan ydyw "yn eu cyf- arfyddiad" condemniwyd digon erjbyn hyn ar v geiriau dansodol hyn. Y mae'r frawddeg "ysgrifenna y gwa- hanol awdwyr ei orgraff ddewisol ei hun" yn ddybryd o anghywir. Con- demnia'r Goh. awduron y Cofiant am roddi ei yn lie eu, ac eto "eu horgraff ddewisol eu hunain" a ddylasai efe'i hun ei ysgrifennu. A chofio bod y Goh. yn pleidio achos cywirdeb, bum agos a llewygu pan ddarllenais "nid ymadrodd heb ferf." "'Goh. On!" A raid i ni ddysgu i'r j plant beidio a, dywedyd yr adnod brydferth, Gwyn fyd y rhai pur o galon," am nad oes ynddi ferf 1 Y mae llawer o bethau go lew yn yr adolygiad er hynny. Hwyrach y teifl yr adolygydd olwg dros y brychau sydd yn y rhannau hynny o'r Cofiant y mae'r ysgrifenwyr eraill yn gyfrifol am dan- ynt, ac y bydd mor garedig a gyrru ffrwyth ei ymchwil i'r "Darian" er mwyn cynnorthwyo golygydd y Cofiant os digwydd iddo gyhoeddi ail argraff- iad. Carwn ei gynghori cyn gwneu- thur hynny o orchwyl i ymroi i ddysgu'r iaith a meithrin coethach ar- ddull ei hun, oherwydd dengys yr adol- ygiad hwn ei fod yn ysgrifennwr addawol iawn.—Yr eiddoch yn rhwym- au'r iaith, HENRY LEWIS.
Y GrogUth a'r Pasg yngI Nghwm…
Y GrogUth a'r Pasg yng I Nghwm Ogwy. Hen arferiad eglwys Bethel, Nanty- moel, yw cynnal gvvyl de ac Eistedd- fod ar y Groglith; eithr eleni torrwyd tir newydd trwy feistroli Hymn of Praise (Mendelssohn), cantawd symphonaidd ysgrifennwyd ar gyfer dathliad pen 400 mlynedd y ddyfais o argraffu ac a berfformiwyd yn Leipsiz, Mehetin 25, 1^40, am y waith gyntaf pan oedd yr awdwr yn 31 mlwydd oed. Kfurfiwyd cor lluosog j a gwir rymus dan olal Mr H. D. Roberts, mab i ddiweddar an \yl weinidog yr eglwys, sef y Parch. J. i Aelfrvn Roberts; hunodd wedi 31 mlynedd o wasanaeth diwyd i Anni- byniaeth y cylch yn Tachwcdd, 19x0. Can fod y symphon yn y gwaith hwn yn rhan arbennig, cyflogwyd cerddor- | fa dan arweiniad Mr (iomer Jones, Penybont, gyda Mr. joiin Edwards, Xantymoel, wrth y piano. Yn y rhan amrywiaethol o'r gyngerdd canodd Madame Langdon, ly heart is weary," gyda thon dda ac ynghaniad eglur, gan arddangos cryn allu dramayddpl yn lliniad ei sain a:i I mynegiant byw. Mac Mr. David Ellis, Llundain, yn ffafryn mawr yma, ac yn ei ddatganiad o Dear, love, remember me," gyda'i gyflawn- iad yn y gantawd amlygodd feistrol- aeth gyfrin ar ei beiriannau lleisiol disgybledig yn ei darawiad cywir— hanfod puredd ton, a'i gydnawsedd mynegiadol, amgyffrediad eang am deithi y gelf gain a bod ei cnaid yn eirias gan gyfaredd cerdd. Wrth roddi ei deongliad o "Gwlad y Bryniau," buan y deffrodd Madame John Thomas, Llanelli, hir edmygedd sydd iddi ar lwyfan can ers blwyddi lu. Enwog yw hi dros for thir ar gyfrif ei sain loew ac ystwyth gyda'i chwm- pas eang ac angherddoldeb ei myneg- iant. Cynhwysai y cor ddefnyddiau rhagorol yng ngwir ystyr y gair, ac ni amlygwyd tuedd i orwneyd, er hynny teimlwyd grymusder a gloew- der gydag unrhywiaeth prydferth iawn yn y cyfuniad a'r oil dan feistrol- aeth fedrus. Disgwylid gwell cyd- symudiad gan y gerddorfa. Tynnai y diffyg hwn oddiwrth ogoniant y cor i fesur. Llongyfarchwn yr arweinydd I yn galonnog, adios fod llawryfau disglaer yn ei aros ar faes cerdd. Liun Pasc cynhaliodd Methodistiaid Calfinaidd y cylch eu Cymanfa Ganu yng nghapel eang Dinam, Nantymoel, dan arweiniad Mr John Thomas, Fern- deal, yr hwn ddacth ar fyr rybudd i lanw lie Proffeswr D. Jenkins, sydd I yn wael ei iechyd ers cryn amser. Gyda thonau o lyfr y cyfundeb ac awduron lleol datganwyd Drylliwyd y Delyn," a'r corawd, "Teilwng yw'r Oen." Cafwyd canu hwylus a grymus. ¡ Gresyn oedd canfod teneurwydd y cynnulliadau. Yr un dydd cynhaliodd Annibynwyr y Cwm eu Cymanfa ym Methania, Cwm Ogwy, dan arweiniad Mr John Thomas, Llanelli, pan ddatganwyd "Efe a ddaw (Tom Price), ac an- them. y Pasc Dr. Protheroe, gyda thonau .'r ddau Ganiedydd ac o waith awduron eraill. Cwynid yma eto ar y cynnulliadau a'r diffyg ffyddlon- deb mewn presenoldeb a meistrolaeth.
Birchgrove.1
Birchgrove. 1 Chw areu-gerddi sy'n mynd a hi y dydd- iau diweddaf hyn. Gwelir hysbysiadau mynych yn y Wasg Gymraeg a Saesneg y perfforinir dramodau Cymraeg yng Ngliwmtawe mown nifer o fannau. Y mae meibion a merched ifepc, a phlant Saron. Birchgrove, wedi perfformio nifer o ddramodau Seisnig, ond hyd eto heb berfformio drama Gymreig. obeithiwn mai 1111 folly f yd(i y nesaf berfformir gan- ddynt. Nos lau a nos Woner, a nos Sadwrn di- weddaf, perfformiodd Cor Plant Saron, yn cael ei gynorthwyo gan rai mewn oed, 'yr I operetta ddifyrrus, "Jan, of Windmill Land," o dan arweiniad Mr Isaac Rich- ards, A.T.S.C. Cyfeiliwyd gan Mr Arthur Lewis. Y prif gymeriadau oedd- ynt:—" Fran Martendvk," Madam Mary Richards; "Jan," Mr Thos. J. Rees; "Max," Air Luther Lewis; "Piet," Mr W. Thomas; "Mathis," Mr David Rees; "Mynn," Miss Blodwen Jones; "Ger- trum," Miss A. M. Rees; "Mynheer Van Oost." Mr Tlios. Lewis; "St. Nicholas, Mr John Howells; "K. Ruprecht," Mr Wm. Hughes; "Mrs. John Bull," Mrs. R. G. Hughes; "Alice," Miss Gwladys John; "Beatrice," Miss M. J. Richards; "Fairy Queen," Miss Jennie Davies; "Retainer," Mr D. J. Powell. Gwnaeth yr oil eu rhannau yn ganmoladwv. Haedda Mr. Richards a'i hriod glod am ei lafur gyda'r cor. Dymunaf longyfarch Mr David Rees, Heol Las, Birchgrove, ar ei waith yn ennill v teitl o L.T .S.C. yn arlioliad Coleg v Tonic Solfa yn ddiweddar. Nid yw yr ardal hon yn hrin o gerddorion, cantor- esau, pianwyr, beirdd, ac adroddwyr. Y mae enw Madam Mary Richards yn eithaf adnabyddus fel cantores mewn cyngherddau o nod, ac fel un sydd yn dra llwyddiannus mewn eisteddfodau. Geneth fechan sydd yn mynych ennill gwobrau mewn Kisteddfod.-iu yw Miss Edija Howells. Clvwais iddi ennill ar unawd i rai o (hin ddeuddog oed yn Eis- teddfod Wa una rl wydd. Merch ifanc sydd yn dra llwyddiannus fel pianist yw Miss Annie Beatrice Williams. Bardd sydd wedi ennill nifer dda o gadeiriau a dwy goron yw Gwilym Bedw. Clywais mai Eilir Mai ennillodd y cwpan nrian am hryddest ar Y Sahhath," yn Eisteddfod Waunarlwvdd yn ddiweddar. Adrmldwr meistrolgar yw Mr John Howells. Y mae yntau wedi ennill nifer o wobrau am adrodd. Ennillodd gadair, a'i ddarlun, mewn eisteddfodau oddiar rai gyfrifir yn "champion reciters." Arweinydd Cor Plant gwir lwyddiannus yw Mr Richard Leyshon, A.T.S.C. Allan o naw o weithiau y bu a'i gor yn cystadlu mewn eisteddfodau ennillodd chwe' gwaith gyda chanmoliaeth uchel heirniaid o fri. Ennillodd y cor gwpan arian a dwy gini yn Eisteddfod Canaan, ger Aberfawe, yn ddiweddar. Y mae Mri. PhHip M. Jones, L.T.S.C., a D. W. Morris, yn gerddorion sydd wedi ennill gwobrau am am gyfansoddi tonau.
- - - - - - - -;::;::= Ferndale.
-= Ferndale. GAN rOAN. Llun y Pa ig eynhaliodd Wesleyaid y Rhondda Fach eu Cymanfa Ganu yng Nghapel Wesley, Ferndale, dan arweiniad Mr T. Armon Jones, Liverpool. Yr oedd y canu o safon uchei, a'r eneiniad i'w deimlo drwy y gwasanaeth, a'r arweinydd (lc.lmlo (it-NI-3- ?- gi%-asinaeth, a'r arweinv d d Saif eanlyniad etholiad terfynol ys- grifennydd ariannol Dosbarth No. 1 Rhon- dda perthynol i'r Federasiwn fel v canlyn: Mr David Lewis, Tylorstown, 16^691; Mr. John Hammond, Lhvynypia, 14,947; mwy- afrif o biaid Mr. D. Lewis, 1,744. Llon- gyiarchwn Mr D. Lewis ar ei etholiad i'r swydd bwysig hon. Y mae yn awr yn atalbwyswr PwIl No. G, Tylorstown; yn ysgrifennydd yr tTndeb; yn Aelod o'r Bwrdd Cymwlol; ac yn Aelod LIafur ar y Cyngor Sirol. Cyfritir ef yn rhifyddwr niedrus, ac y mae ei gymeriad moesol yn ddilychwin. Ebrill Hieg, yn Neuadd y Gweithwyr, cynhaliwyd cyfarfod cvhoeddus gan Un- debwyr y lie, pan gafwvd ancrchiadau gan y Mri. Mark Harcombe, C.D., Tonypandy; T. J. Mardy Jones, Treforest; W. John, is-oruchwvliwr, Tonypandy, a Watson a Mason o Ode Affrica—dau o'r naw a all- tud. Llvwyddwyd gan Mr D. Watts Morgan, goifichwyliwr. Cafwyd areith- iau brwd ar yr argyfwng llafurol yn Ne Affrica. Rhoddwyd i'r ddau alltvul dder- byniad tywysogaidd. Ymddengys fod gormes a thrais ar I'ndebwyr yn eithafol yn Affrica. Pasiwyd penderfyniad o anghymeradwvaeth ar y Llywodraeth yno am ei hymddygiad anheg a gormesol tuag a: yr arweinwyr Llafur hyn, a'n bod yn gwneud ein goreu i drefnu mesurau i'w danfon yn ol yn unol ag egwyddorion rhyddid. Casglwyd yn y cyfarfod £ 5 5s. tuag at y gronfa amddiffynol a ddarperir iddynt. Ebrill 19eg, yn Ysgol Sul Penuel, tra- ddodwyd anerchiad cynhwysfar gan y Parch. D. Alorgans, Aberteifi, ar Genhad- aeth y Morwyr, yr hon sydd yn dathlu ei clian mlwydd oed. Da iawn oedd gennvm weled y Parch. fsaae Jones, Salem Newvdd (B.) wedi gallu dod allan y Sul. Blin oedd gennym ddeall ei fod mor eiddil, ond Uawenychwn ei fod wedi ei ryddhau o'i gystudd fel ag i'w alluogi i fwynhau hin hyfryd y dvddiau hyn.
Colofn y Beirdd.
Colofn y Beirdd. DYCHWELIAD Y PYSGOTWR. Mae y wawr yn torri'n dvner Dros ehangder tonnog for; Deffry cerddi yn y pell(lei.- Cerddi moliant Dwyfol lor. Brysia'r tonnau'n ddi-otidiau I ymdorri ar y tra?th. () dan wenau'r aur belydrau Sy'n cusanu'r tywod Haith. Dacw'r eweh dan wenau rhyddid Yn dynesu yn ddi fraw, Lhvythog ydyw, fel addewid, At y tonnau gwynion draw. Nesu mae'r pysgotw r prysur I gael croeso ar y Inn; Ac fe welir rhwyfan Wrth ei ystlys yn y man. Ar y draethell mae cyfeillion I roi croeso iddo ef, Jfeln, fydd yr holl helyntion Glywir wrth fvnd tua thref. Barri. J. EVANS (TYWI).
Llanelli oddiar y Bigyn.
Llanelli oddiar y Bigyn. LlUli y Pasg cynhaliodd y Bedyddwyr e i Cymanfa Ganu flynvddol. Yr arwein- ydd am y dydd ydoedd v cerddor a'r beirniad adnabyddus Dr. D. Vaughan Thomas, M.A., Abertawe. Gwnaeth ei waith gyda'i fedrusrwydd arferol. Gwerth- fawrogid ei nodiadau beirniadol. Gwnaeth y plant eu rhan yn rhagorol, a gwnelai v cantorion eraill eu rhan yn well pe bvdd- ai'r paratoad wedi derbyn mwy o sylw. Dechreua v Parch. W. T Francis ei weinidogaeth yng Nghalfaria, Sul, Ebrill 19eg. Daw i faes a digon o le i weithio ynddo. Rhoddir derbyniad tywysogaidd iddo i'r cylch, a dymunir ei'lw:yddnant yn fawr. Cynhaliodd Cvmdeithasau yr Ymdrech Gristionogol, Cymru, eu gwylflvnYddol yn Llanelli yr wythnos ddiweddaf. Cawd cyrddau hyvylus a bendithlawn. Un o fechgyn Shir Gar ydoedd y llywydd, y Pai-ch. Taines Jones, B.Sc., Llandrindod. Trueni i'w .gweithrediadau gael eu cario allan bron yn llwyr yn yr iaith fain. Nos Wener, Ebrill 17eg, bu'r Gwir Anrh. C. S. G. Masterman yma yn Neu- add y Farchnad yn traddodi anerchiad grymus ar faterion y dydd. Rhedai cyd- ymdeimlad dwfn a'r werin drwy ei anerch- iad, a chariodd y dorf fawr gydag ef pan y sonniodd fod rhaid rhaid etel Ymreol- aeth i'r Iwerddon a Dadgysylltiad i Gym- ru oddiar y ffordd er mwyn rhoi sylw i gyflwr y werin. Yn yr un ewrdd traddododd Mr Llewelyn Williams araith benigamp, un o'r goreuon a draddmlodd erioed. Si- brydir yma ei fed ar ei godi i'r Fainc, ac mai Mr. Masterman fydd ei olynydd yn y Senedd. Beth wneir o'r gwron Syr Stafford Howard? Ni ddywedwyd mwy o wir erioed na yr hvn ddywedodd Mr Llewelyn Williams am Syr Stafford Howard yn y ewrdd cry bwy lied ig pan yn cynnyg diolchgarwch iddo am lywyddn, ei fod nid yn unig yn ddvn mawr, on dvn ddyn da. Dvwed Llanelli gyfan "Amen." Tlla diwedd Ebrill y dechreua y Parch. J. E. Davies, Sand Hill, ei weinidogaeth yn Emmanuel. Brodor o Benclawdd ydyw Mr. Da viks, a bydd yn awr gyferbyn a'i 1" genedigol yr ochr arall i'r Llwchwr. Bendith foed ar ei weinidogaeth. Llongyfarchwn Mvfvr Tiefin ar ennill o hono ddwy gadair farddol yr wythnos ddiweddaf. Mae ganddo lond ty erbyn hyn. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Jfowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of GlamorgaD