Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

.Y CYNHWYSIAD.-I

Gwlad a Senedd.j

INodion o Aberafon a'rI Cylch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Aberafon a'r Cylch. Llongyfarchwn y cyfeillion, Mri. Rees Llewelyn a Richard Evans, ar eu dyrchafiad yng Nghyngor Dosbarth Margam, un yn gadeirydd, a'r llall yn is-gadeirydd. Cynrychiolwyr Llafur yw y brodyr hyn, ac y mae yn llawn bryd i Lafur i gael ei gydnabod gan urddasolion cvmdeithas. Cafodd y brawd parchus John Nicholas, Port Talbot, ei anrhegu gan ei ddosbarth yn Ngharmel (M.C.), Aberafon, ag oriawr a chad wen aur am ei ymdrech gyda'r dosbarth am 33 o flynyddoedd. Prawf hyn ei ddiddor- deb yn yr Ysgol Sul. Adroddwyd y ddrama, "Adfywiad Crefyddol (Mynyddfab) gan Ddos- barth o'r Ysgol Sul yn Ebenezer, Aberafon, nos Sabboth, Ebrill IgCg. Cyfarfod rhagorol. Perfformiwyd y ddrama, Rhys Lewis," gan Gymdeithas Ddramodol y Rock, Cwmafon, yn y Neuadd Gyhoeddus yn Aberafon nos Fawrth, Ebrill 2 iain. Yr oedd Cymrodorion y cylch wedi myned yn gyfrifol am dreuliau y neuadd. Cafwyd cyn- hulliad lluosog, a boddlonwyd y lliaws. Bwriada y gymdeithas hon berfformio Die Shon Dafydd yn fuan. Pob llwydd iddynt. Cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yn Nghapel y Dyffryn, Taibach, nos Iau diweddaf, pan yr aethpwyd trwy un o weithiau ardderchog Handel o dan arweiniad y cerddor profiadol, Mr. J. Singleton, T.T.S.C. Llongyfarchwn y ddau Fedyddiwr o'r Bryn ar eu llwyddiant yn y byd cerddorol, sef y Mri. Tom Davies, A. Mus., L.C.M., a T. Jones, G. & L.T.S.C. Y maent yn gyfan- soddwyr rhagorol. Llwyddiant iddynt. j I I MAB Y MYNYDD.

COLOFN LLAFUR. I

[No title]

" James Jarvis " yn AberdarII

Llwydcoed.I

Advertising