Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DO YOU SUFFER FRONl EYESTRAIN ? CAN YOU BEAD WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN,' OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRIOES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Pontardawe Y DRYDEDD EISTEDDFOD Cadeiriol Flynyddol SADWRN, MEHEFIN 20, 1914. BEIRNIAID: Y GAN-D. Vaughan Thomas, Yaw., M.A., Mas. Doo., Abertawe E. T. Daviea, Yaw.. F.R.O 0.. Merthyr. LLEN-T. J. Thomas, Yew., B.Sc., Satnicol." Merthyr. AX>RODD—John Elias Hughes, Yew., Llanelli. Coraii Meibion: (a) "The Assyrians came down (Cyril Jenkins); (b) "Y Oariad Gollwyd (Dr. Vaugban Thomas), RW. Os bydd tri neu chwaneg o gorau'n cystadlu cynhygir ZILO yn ail wobr. Corau Cymyag: The Summer Night" (Dr. Vaughan Thomas), £ 15. Goran Plant: 11 Autumn Days (E. T. Davies), gii. Unawdau i Sopranos, Contraltos, Tenors a Bass, i Ddechreuwyr, ac i Fechgyn a Merched, Unawd?u i,3ot ,? a'r Piano, Cyfaneoddi rhanganeuon. Canu rC r w Pryddest: Bach dy lwyth wrth y sor." Heb fod dros 300 llinell. £ 3 3s. a Chadair Hardd. Cyfansoddi Drama, Cywydd, Telynegion, Englynion, Cyfansoddiadau, ao Adroddiadau. Trefnir oyfleusderau teithio ar gyfer y dydd a Chwmaioedd y Rheilllordd am brisiau isel. Bydd Modur yn rhedeg ar hyd y dydd o Gastellnedd ao Ynysforgan. Ceir rhestr gyflawn o Destynnau yn rhad trwy y post am lie., oddiwrth yr Yogrifenyddion- MORGAN JONES a W. THOMPSON DAVIES. Eisteddfod Flynyddol Caerphili SEFYDLWYD 1887. Llungwyn, Mehefin 1, 1914. BEIENIAID Canu-Dr. Vaughan Thomas, Abertawe; Mr. W. J. Wafckinu, F.R.C.O., Dowlais; Mr. J. Morgan Lloyd, Barri. Barddoniaeth, Traethodau a'r Adroddiadma-Y Parch. W. Evans, B.A., Penybontarogwy; y Paroh. E. Pryce Jones, B.A., a Mr. Abraham Jenkins, B.A., Onerphili. Frif-ddamCorawI, "Theme Sublime "(Jophtha) go 0 0 Comu Meibion,' Down among the Dead Men" (BELntook) R20 0 0 Oorau Plant, "Cadwen 0 Alawon Oymreig" (Tom Price) ?loO 0 Pryddest, -1 Murmur y Mor 11 98 8 0 Traethawd, "Hen Gymeriadau Plwyf Eglwysilan" £2 2 0 Unawdau Offerynol, 21 1/- yr un Unawdau Lleisiol, £2 2/- yr un Unawdau i Blant, 10/6 yr un. Gyrer am y Rhaglen, i'w chael oddiwrth yr Ysgrifenydd- J. D. HUGHES, Rhosynfa, Caerphili. FFORESTFAQH (Nr. SWANSEA). THIRD ANNUAL Grand CHAIR EISTEDDFOD Whit-Tuesday, June 2, 1914. CHIEF ITEME. Male Voioe Competition, The Assyrian Came Down" (Cyril Jenkins), £20 and a Gold Medal. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Mixed Cboral, •« My love's like a red, red rose (Emlyn vans), flO & a framed Enlargement. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Children's Choral, Sweet and Low (Barnby) 1st Prize, f5 and a Silver Cup 2nd Prize, £2 and value 7/6. Mining Essay, "Explosions in Mines, their causes, and best means for their prevention. Prize 11/6 Drawing of King & Humble Improved Detaohing Hook, 21 1/ Drawing of Stoke's Safety Lamp, £ 11/- Rope Splicing (short splice), 1st £ 11/ 2nd 10/6. Ambulanoe, lat R2 2/ 2nd fl 1/ Individual Competition, 1st 7/6; 2nd 2/6. Solos (Vooal and Instrumental), Literary, Instru- mental Quartette, 22. Arts and Crafts Competitions. For farther particulars see official Programme, piat free lid., from the General Secretary— DAVID JENKINS, Gendros, Fforestfach, near Swansea. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwrn, Gorphenaf 11, 1914. OORAU MEIBION, "Castella." (Dr. Protheroe) Gwobr,920 CORAU CYMY8G, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) „ icio AIL-GORAU MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) ".£6 PBIF FEIRNIAD Dr. DAN PBOTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddiwrth D. CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Treorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDA Y <& WEDNESDAY, 1914 ADJUDICATORS Dr. McKnight, Dr. Coward, Emlyn Davies, Esq., A.R.C.M., Brynfab, Ac. COMPETITIONS Ohief Choral, -flOO; Second Choral, JE15 Chief Male Voice, £ 30—40; Second Male Voice RIO; Juvenile Choir, .£10; Poem, 3 Guineas and Chair. Brass Bands, Ambulance, Home Nursing, Needlework, Drawing, Shorthand, Poetry Recitations, &c, Programmes, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. Llanharan Eisteddfod Whit-Tuesday, June 2nd, 1914. CHIEF EVENTS: CHIEF CHORAL, "Insulted, Chain'd." Prize £20. MALE VOICE, The Assyrian came down.^ Prize .S15. SECOND CHORAL, Dyddiau Dyn sydd fel Glaswelltyn." Prize £ 7. Solos (Vocal & I Instrumental), RecitationF4, etc. For full particulars see Programmes, lid. post free, from the Secretary, ARTHUR MILES. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), £ 40. Second Male Voice Little Church" (Becker), £ 8. Pro- grammes (lid. post free) from-General Sec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. BARGOED ANNUAL EISTEDDFOD Will be held On WHIT-TUESDAY, JUNE 2. 1914. Mixed Choirs, 0 Father, whose Almighty Power 20 0 0 Male Voices, "Valiant Warriors" 15 0 0 Juvenile Choirs, Action Song 4 0 0 Brass Bands 15 0 0 Solos, Penillion, Recitations, Harp and Ambulance for Male and Female. Awdl, Essays, etc., etc. Programmes, lid. post free. Hon. Secretary, Workmen's Institute, Bargoed. ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Oyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llvtbyr-gerdyn ceir Esiamplau o Adroddiadau Eglwysig, iestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &c. Pellseinydd Central 151. Cofiwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn eihol; ein hawydd ni yw gyrrnlr Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn cyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y geifyddyd o Argraff a. ANFONWCH AM 8AMPLAU. EISTEDDFOD AU DYFODOL. Llungwyn, Mehefin 1, 1914.-Eisteddfod Flynyddol Caerphili. Llun Gwyn, 1914.—Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrth-Gwyn, 1914. Eisteddfod Gatleiriol Fforestfach, Abertawe. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Bargoed. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.—Eis- teddfod Llanharan. Mawrth a Mercher-Gwyn, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Treorci. Dydd Sadwrn, Mehefin 20, 1914.— Eisteddfod Gadeiriol Flynyddol Pont- ardawe. I Dydd Sadwrn, Gorph. 11, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Forge Fach, Clyd- ach, ger Abertawe. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wks. IS wkt a. d. I. d. w 4: 20 words 0 6 1 • I • i8 „ 0 9 t < t < 36 1 0 3 0 7 < These charges apply only to the follow ing classes of advertisements:—Apart ments, Situations (Vacant or Wanted) To be Let or Sold, Lost or Found, .t Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Post* Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b* charged. Advertising and Publishing OIStes, Cardiff Street, Aberdare. Hysbysiad o Swys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwnc/4 yn hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i's holl ddosbarthwyr brydnawn yri.1 dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonau* hysbysiadau neu newyddion urgent ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddt* heb fod yn ddiweddarach na bore Mawrth. Carem gael bob gohebiacts, arall mor gynar ag sydd bosibl. Antoner pob gohebiaeth a phob tia fodaeth yn dal perthynas a'r "Dariaa' i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lic. yr wythnos, 6eh. am fis, 1/7i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i I roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir j adolygiadau o hyn allan, oni ddaw ¡ copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
[No title]
Dalier Sylw.Dechreuir N ofel Gym- raeg newydd o eiddo'r Golygydd yn y Darian" nesaf. Ei henw yw Nanno," ac yr oedd yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Mon rai blynyddoedd yn oi, pan roddid gwobr am y desgrifiad gore o fywyd pentrefol gwledig.
Nodladau'r Golygydd. I -I
Nodladau'r Golygydd. I I Cydwybod Cyfoeth. I Bu trafodaeth frwd yn Llys Rheolwyr Prifysgol Gogledd Cymru dydd Mercher diweddaf ar y cwestiwn o neilltuo peth o waddoliadau yr Eglwys at wasanaeth yr Athrofa pan ddaw Datgysylltiad, ac Arglwydd Kenyon yn y gadair. Gal- wodd Mr William Edwards, o Fon, sylw at gylch-lythyr a anfonasid gan Arglwydd Kenyon ac Arglwydd Pen- I rhyn at aelodau'r llys gyda'r amcan o hudo'r rheolwyr i lofnodi protest, yn ?u cymeriad fel rheolwyr yr Athrofa, yn erbyn i ddim o'r gwaddoliadau ddod at eu gwasanaeth. Rheswm yr Arglwyddi a nodwyd dros anfon y cylch-lythyr oedd y byddai derbyn y gwaddoliadau yn peri colli i'r Athrofa gefnogaeth a chyfraniadau cyfoethogion oedd mewn cydymdeimlad a'r eglwys. Ni thyciodd mo'r bygythion beth bynnag. Barnai y mwyafrif nad oedd yn perthyn iddynt fel rheolwyr yr Athrofa1 ddadleu pa un a oedd Datgysylltiad yn iawn ai peidio a phan ddadwaddolid yr Eglwys, eu bod o'r fain nas gellid gwneud gwell defn- ydd o'r arian a adferid i'r genedl na chynorthwyo Athrofeydd a Phrif Ysgol Cymru. Pa ddefnydd gwell ellid wneud, tybed, o arian y genedl na'u defnyddio i gynorthwyo addysg y gen- edl Y mae hynny'n sicr o fod can deilynged defnydd a dim wnaed o hon- ynt yn y gorffennol. A beth bynnag a ddyweder am Ddadwaddoliad, y mae bygythion gwyr ariannog y wlad i ddial ar bawb a phopeth oni chant eu ffordd eu hunain yn ddigon a pheri i'r wlad eu gorchymyn hwy a'u harian i ddis- tryw. Gellid tybied wrth glywed rhai nad oes gydwybod y dyddiau hyn ond lie mae arian. Rhyfedd na fai gan y gydwybod fawr dyner a honnir sydd o'r tu ol i'r aur ychydig mwy o barch i farn a chydwybod pobl eraill. I Llyfetheirio'r Prawf-Bwyswr. I Nid ydym yn hoffi'r gair atal-bwyswr i ddynodi gwaith y swyddog hwn o eiddo'r gweithwyr; nid atal pwyso a wna, ond profi, neu o leiaf gwylio'r pwyso a gofalu fod y glowr yn cael ei eiddo. Beth fyddai'r enw goreu arno ? Swyddog gwerthfawr iawn i'r glowyr ydyw prawf-bwyswr da. Ni fyddem ymhell o'n lie pe dywedem ei fod yn werth eu bwysau mewn aur iddynt. Gwerth y prawf-bwyswr sydd yn cyfrif am ymdrech rhai cwmnioedd i roddi llyfetheiriau am eu draed fel y gwneir yng Nghwmaman y dyddiau hyn. Gwrthyd swyddogaeth y lofa yno gania- tau i'r prawf-bwyswr i fynd i lawr i'r lofa i'w harchwilio ar ran y gweithwyr, am fod hynny, meddent hwy, yn dros- edd ar ddarpariadau Deddf Rheoleidd- iad y Mwngloddiau gyda golwg ar %fawf-bv»yswyr. Tybed nad oes llawer o ragrith yn honiad swyddogaeth Cwm- amn o barch i reolau a deddfau 1 Tybed nad y gwir yw mai ofn sydd arnynt y dywedai'r prawf-bwyswr or- mod o'r gwir? Pan archwilia'r gweith- wyr eu hunain y gwaith rhaid iddynt fod yn ddistaw a pheidio son am lawer o'r hyn a welant neu fod yn barod i ddioddet tra y gall eu prawf-Jbwyswr ddweyd y gwir heb ofni neb. Dyma sydd yn cyfrif, goeliwn ni, am fod y Swyddogaeth mor awyddus i lyfeth- eirio'r prawf-bwyswr a'i gadw yn y ty pwyso. Da gennym fod Mr. Keir Hardie wedi llwyddo i gael dcldewid gan Mr McKenna y cymerir os yn bosibl gwrs cyfreithiol gyda'r amcan o brofi hawl prawf-bwyswr, os bydd yn gymwys yn ol Adran 16 o'r ddeddf, i wneud yr archwiliad a awdurdodir gan yr adran honno. Yn sicr os yw'r prawf-bwyswr ym meddu ar y cymhwysder gofynnol dylasai'r gweithwyr feddu hawl i'w ddewis i wneud y gwaith hwn ar eu rhan, ac nid yw esgusawd y swyddogion dros ei rwystro ond rhagrith noeth. Y mae eu gwrthwynebiad i'r prawf-bwys- wyr yn engraifft o'r modd y poenydir y glowyr ac y cynhyrchir ynddynt ysbryd ymladd ac anfoddlonrwydd parhaus. Pan geir ychydig mwy o ddynoliaeth mewn swyddogion a chwmnioedd ceir mwy o foddlonrwydd ymhlith y gweith- wyr. Y fath esboniad i'r cyhoedd ar sefyllfa pethau mewn glofa ydyw'r ffaith fod ar y swyddogion gymaint o ofn y prawf-bwyswr-dyn nad oes raid iddo ofni dweyd y gwir. Adroddiad Senghenydd. I Mae yr adroddiad o'r ymchwiliad i'r achos o'r danchwa dinystriol fu yn y lie uchod wedi ei gyhoeddi. Barn Mr IL A. S. Redmayne, Prif Arolygydd Mwn- gloddiau, yw mai'r pethau mwyaf tebyg o fod yn achosion o'r danchwa oedd gwreichion naill ai oddiwrth yr electric signalling apparatus, neu oddiwrth ger- rig a ddaethent i lawr gyda chwymp. Dywed mai achosion ereill posibl oedd lampau neu matches, ond nad oedd yn debygol fod y pethau hyn yn achos o'r danchwa hon. Gofidia nad oedd y cyn- llun diogelach o osgoi gwreichion trydan yn hollol wedi ei fajbwysiadu, yn enwedig gan fod tanchwa wedi ei hachosi ganddynt o'r blaen yng glofa Bedwas. Cred y Prif Arolygydd hefyd y gallesid achub ychwaneg o fywydau pe cadwesid y rescue apparatus at law wrth y lofa. Ymddengys hefyd nad oedd y cyflenwad o ddwfr yn ddigonol i frwydro a'r tan a barodd gymaint gofid ar ol y danchwa. Nodir amryw bethau yr oedd Rheolau Mwngloddiau wedi eu hesgeuluso ynddynt, ymhlith y rhai hyn yr oedd esgeuluso darpar ffordd i wrthdroi yr awyr, ac esgeuluso symud can belled ag yr oedd yn bosibl y llwch glo oddiar y nenfwd a'r ochrau Ev fod rhai o'r diffygion a nodir a'i cymryd wrthynt eu hunain yn ym- ddangos yn ddibwys, medd Mr Red- mayne. eto, a'u cymryd gyda'u gilydd, danghosant lacrwydd anesmwythol yn llywodraethiad y lofa. Nid yw Mr Robert Smillie, Llywydd Cyngrair y Glowyr, yn cydsynio a'r cwbl a ddywed Mr Redmayne, ac y mae ganddo syl- wad annibynnol pur gryfion ar rai materion. Cred Mr Smillie y gallasai'r holl fywydau yn Nosbarth West York fod wedi eu hachub pe troisid yr awyr. Bydd raid i oruchwyliwr y lofa sefyll ei brawf yn y llYj. ond methwn yn ein byw a gweled na ddylasai Arolygwyr y Llywodraeth fod ar eu prawf hefyd. Y maent hwy mor gyfrifol am y digwydd- iad a'r swyddogaeth. Paham na welant hwy esgeulustod o reolau pwysig cyn y I danchwa, ac nid bob amser ar ol y danchwa ? A ydynt yn sicr nad oes es- geulustod tenyg mewn ugeiniau o 10- feydd heddyw? Ai nid oes digon o fywydau wedi eu colli oherwydd esgeu- lustod 1 Ni raid i ni aros yn hir na fydd y danchwa fawr nesaf yn gyrru gwlad i ddychryn a galar! Ar ol i honno ddigwydd clywir eto am esgeu- lustod o'r Rheolau. Ai nid yw bywyd- au'r gweithwyr yn ddigon gwerthfawr i hawlio na fyddo unrhyw beth y gellir ei osgoi yn cael bod yn achos o berygl iddynt. Yr Unol Dalaethau a Mexico. I Ymddengys wedi'r cwbl mai rhoi (I fys yn y tan wnaeth y Llywydd Wilson wrth ymyrraeth ym materion Mexico. Y mae'r wlad honno yn nhrybini rhyfel cartrefol yn barhaus. Ceisia Huerta Lywyddiaeth y wlad, a gwrthwynebir ef gan y Cadfridog Carranza, arweinydd y galluoedd cyfansoddiadol. Gwrthod- odd Huerta yn ddiweddar gyfarch (salute) Llynges yr Unol Dalaethau yn ol disgwyliad ac arfer galluoedd. Ffromodd Llywodraeth Washington yn aruthr. Y mae gwrthod ateb eu 'saliwt' yn gyrru gwledydd mawr yn hanner gwallgof, ac yn deffro eu syched am waed. Ymosododd llongau'r Unol Dalaethau ar le o'r enw Vera Cruz, a chymerasant feddiant o rannau o'r dref. Tybient y gallent orfodi Huerta i ymostwng a chael cydymdeimlad gallu- oedd cyfansoddiadol y wlad a'r bobl gyda hwynt. Ond nid oeddent wedi cyfrif yn gywir. Y mae'r Cadfridog Carranza wedi cystal a dweyd wrth yr Americaniaid am ofalu am eu materion eu hunain, a'u bod wrth ymosod ar Vera Cruz yn troseddu ar hawliau ac anni- byniaeth Mexico. Ymhonnwr, medd Carranza, yw Huerta, wedi cymryd arno fod yn Llywydd, a'i fod yn gyfrifol i Lywodraeth gyfansoddiadol Mexico am ei ymddygiadau. Y perygl, yn ol yr arwyddion pan yn ysgrifennu, yw y bydd i'r ymyrriad uno'r galluoedd gwerylant a'u gilydd ym Mexico yn erbyn yr Unol Dalaethau, ac y bydd yno le gwaedlyd. Cyfoethogion Digywilydd. Bu Arglwydd Cross farw'n ddiweddar gan adael ar ei ol dros 80,000 o IJun- noedd. Derbyniasai ddwy fil y flwyddyn o bensiwn am ugain mlynedd am ei fod wedi gwasanaethu fel gwein idog y goron am dymor. Rhoddir y pensiwn hwn i gyn-weinidogion y goron os ceisiant ef a gwneud datganiad eu bod yn rhy dlawd i gynnal urddas y swydd y buont ynddi. Rhaid iddyri- hefyd ymrwymo i beidio ei dderbyn os daw cyfnewidiad er gwell yn eu ham- gylchiadau. Teimlir fod trachwant Arglwydd Cross wedi bod yn warad- wyddus a haedda ei goffa y cwbl a ddy- wed John Jones o Bantycoblyn am dano mewn colofn arall. Wedi ei farw ef a dadleniad ei warth adgofir y wlad fod eraill yn derbyn pensiwn cyffelyb Un yw Arglwydd George Hamilton, derbynia ef ei ddwy fil; un arall yw'r Arglwydd Balfour o Burleigh, yn cael ei ddeuddeg cant. Daw cyfoeth enfawr i fewn i'r rhai hyn ar gyfrif safleoedd pwysig a lanwant fel cyfarwyddwyr banciau a chwmnioedd ereill, eto ho;i- nant eu bod yn dlawd er mwyn medrii bachu swm mawr o arian y wlad y gwyr pawb fod eu hangen mewn cyfeiriadau eraill. Na, nid tlodion yn eu hamgylch- iadau yw'r bojbl hyn, ond cyfoethogion heb ronyn o ras ac heb allu, ni a dyb-  iem, i gywilyddio o herwydd yr hyn sydd yn warth iddynt. I
BWRDD Y GOLYGYDD.I
BWRDD Y GOLYGYDD. I Goh.—Yr ydych wedi anfon i ni ar 21ain o Ebrill hanes cyngherddau a gyn- hailwyd yn y Porth ar y lofed o Ebrill. Anfonwch yn gynt y flwyddyn nesaf. E. Jones.—Gwelwch fod rhan o'r feirniadaeth allan cyn i hanes yr Eis- teddfod ddod i law. Ychydig iawn allwn roddi i fewn o'r hyn ddaw i law boreu dydd Mawrth. Cymro.-Daet,h yr eiddoch parthed Coleg y Tonic Solffa i law yn rhy ddi- weddar i'r "Darian" yr wythnos ddi- weddaf, ac y mae'n rhy ddiweddar i fod o fudd yr wythnos hon. Afan.—Rhy ddiweddar yn awr. Yr oedd hanes y Gymanfa yn y "Darian" ddiweddaf. Cymanfa Ganu Caerffili.-Bu nodiad am y Gymanfa hon mewn "Tarian" flaenorol. Dylech ddanfon i Swyddfa'r "Darian," ac nid i'r Glais, a gadewch i ni glywed oddiwrthych yn gynt y tro nesaf. Adolygiadau Mewn Liaw.-Cainbrian Gleanings, Geiriadur Spurrell, Beirdd Gwerin. Dewi Cynon.—Diolch am yr eiddoch ceidw'n ddilwgr am wythnos. Bath.—Yn y nesaf. Dewi Samtet.- Yn y nesaf. Cywiriad Gwall.—R. S. Rogers ddy- lasai yr enw fod wrth feirniadaeth mewn colofn arall. I
Nodion o'r Gogledd.
Nodion o'r Gogledd. CAN GLYNDWR. Bwriada Mrs. Henderson Jones a'i chwaer hwylio am America yn fuan. Diau y bydd iddi swyno Cymry Ameri- ca a'i llais soprano godidog. Mae Mr. Evan Lloyd Williams, o Swyddfa y "Chonicle," Bangor, wedi ei benodi yn forjman mewn argraffdy ym Mhontypridd yn eich gwlad chwi. Bydd colled ar ei ol yma mewn llawer cyfeiriad. Mewn Eisteddfod yng Nghapel Helyg, Gwener y Groglith, enillodd Mr J. Wynne Parry £2 2s. am gyfan- soddi drama fer. Bydd dramodau Cymreig fel mushrooms yn fuan. Enill- odd y cantorion canlynol hefyd yn ystod y gwyliau: Miss Blodwen Williams, contralto addawol; Mri. R. Radford Jones, loan Caernarfon, Henry Lloyd, Will Roberts, Bangor, am ganu, a Miss Lizzie Jones, Nantlle, am adrodd. Mae yr adroddes ieuanc hon yn dyfod i fri mawr yn y dyddiau hyn. Pleserus oedd gwaith Cor Carmel, ger Caernar- fon, yn curo Cor o Lerpwl yn Eistedd- fod y Pasg. Caernarfon, a Chor Caer- narfon yn ennill yn yr ail gystadleuaeth gorawl. Hefyd enillodd Cor Meibion Llan- rwst, a churodd Cor Plant Llanllyfni Gor Plant Caernarfon. Enillwyd am gyfansoddi ton gan Gutyn Mawrth, Bethesda. Nos Iau diweddaf bu Cor Mawr Caer- narfon yn perfformio Stabat Mater (Rossini) yn y Pavilion enfawr. Yr unawdwyr oedd: Miss Doris Carter, soprano Miss Martin, contralto Mr Norman Alin, bass, a Mr G. Hughes- Macklin, brodor o Gaernarfon, tenor. Cafwyd cyngerdd dan gamp. Da yw gweled corau fel hyn yn perfformio gweithiau clasurol yn lie rhedeg ar cl pob rhyw gystadleuaeth. Yr arwein- ydd ydoedd Mr John Williams, a'r cyf- eilydd Mr Willie Morris. Ni fu erioed well cyngerdd yng Nghaernarfon. Parotoi mawr glywir ar gyfer Eis- teddfod gynhelir y flwyddyn hon yn Llangefni dydd Llun a Mawrth yn wythnos y Sulwyn. Bydd cwmniau o Langefni a Landegfa yn ymdrechu am y wobr am Jberfformio drama. Y cyntaf gydag Endaf y Gwladgarwr," a'r llall gyda Beddau'r Proffwydi." Bu Cwmni Caernarfon yn perfformio Beddau'r Proffwydi ym MhwUheli nos Iau diweddaf, a chawsant dy llawn a gwrandawiad astud. Bydd yn per- fformio yng Nghaernarfon nos Iau nesaf. Dywedodd y Parch. Edwin Jones, Ficer Caergybi, Mon., fod llawer gwaeth peth na chware golf ar y Sul, megis gwag-rodiana, cysgu yn hwyr. Digon gwir, ond nid yw ddau ddyn du yn gwneyd un gwyn, Mr. Jones. Ceisiwyd ceryddu Arglwyddi Kenyon a Penrhyn gan Llys Prifysgol Gogledd Cymru am iddynt anfon cylch-lythyr allan yn gofyn am help i beidio cyfranu at y coleg os y pesid Mesur Dadgysyllt- iad i Gymru. Bu llawer o siarad, ond mygwyd y peth yn y diwedd.
INodion o Frynaman.
Nodion o Frynaman. GAN "WALCH HYDREF." Boreu Sul, Ebrill 19, i Gymdeithas Pobl Ieuainc, Gibea, darllenwyd papur ar "Enedigaeth Crist" gan Mr. William Rees, B.A., Coleg Iesu, Rhydychen, a mab Mr. a Mrs. Wil- liam Rees, Brynpedol, o'r lie hwn, Cadeiriwyd gan ei gyfaill, Mr. D. Llwyd Thomas, B.A., a siaradodd y brodyr canlynol:—Mri. Willie Wal- ters (C.M.), Gomer Lloyd, William Jones, ac ereill, a dygent dystiolaeth uchel i'r brawd am ei bapur rhagorol. Dyddiau Sul a Llun, Ebrill 19 a 20, cynhaliodd yr eglwys Siloam ei gwyl flynyddol, pan wasanaethwyd gan y Parch. H. R. Jones, Llangyndeirne, a'r Parch. D. C. Griffiths, Llan- dysul. Cawd cynhulliadau da a phre- gethau rhagorol. Llongyfarchwn blant yr ardal ar eu llwyddiant ym myd yr Eisteddfod. Yn Rhydaman enillodd Mr. Garfield Roberts, Llandeilo Road, hanner y wobr am yr unawd tenor, ond yn yr her unawd fe gurodd amryw o gystad- leuwvr uchel. Mae'r ddwy chwaer, Miss Mary Ann Davies ac Esther Ann Davies, yn dal i guro ymhob Eistedd- fod. Yn Llangadock a Thycroes y cawsant eu buddugoliaethau diweddaf. Nosweithiau Iau a Sadwrn, Ebrill 23 a 25, rhoddwyd perfformiad o "St. Paul" gan y Brynaman Choral So- ciety, dan arweiniad Mr. Edward Evans (Alawydd Aman). Cynnorthwy- id gan gerddorfa linynol dan ar- weiniad Mr. Evan Williams, Glyn Road. Cymerwyd rhan yn y per- fformiad gan y rhai canlynol — Soprano, Miss Mary Ann Davies, Brynaman; alto, Madam Kate M. Wil- liams, Amanfryn House; tenor, Mr. Llew Jones, Aberdar; bass, Mr. David Bodycombe, Pontardawe. Cad- eiriwyd y nosweithiau uchod gan yr Henadur W. J. Williams, Y.H., Amanfryn, a Chynghorydd Sirol Gwilym Vaughan, Argoed. Cawd perfformiad ardderchog.