Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

Nodladau'r Golygydd. I -I

BWRDD Y GOLYGYDD.I

Nodion o'r Gogledd.

INodion o Frynaman.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Frynaman. GAN "WALCH HYDREF." Boreu Sul, Ebrill 19, i Gymdeithas Pobl Ieuainc, Gibea, darllenwyd papur ar "Enedigaeth Crist" gan Mr. William Rees, B.A., Coleg Iesu, Rhydychen, a mab Mr. a Mrs. Wil- liam Rees, Brynpedol, o'r lie hwn, Cadeiriwyd gan ei gyfaill, Mr. D. Llwyd Thomas, B.A., a siaradodd y brodyr canlynol:—Mri. Willie Wal- ters (C.M.), Gomer Lloyd, William Jones, ac ereill, a dygent dystiolaeth uchel i'r brawd am ei bapur rhagorol. Dyddiau Sul a Llun, Ebrill 19 a 20, cynhaliodd yr eglwys Siloam ei gwyl flynyddol, pan wasanaethwyd gan y Parch. H. R. Jones, Llangyndeirne, a'r Parch. D. C. Griffiths, Llan- dysul. Cawd cynhulliadau da a phre- gethau rhagorol. Llongyfarchwn blant yr ardal ar eu llwyddiant ym myd yr Eisteddfod. Yn Rhydaman enillodd Mr. Garfield Roberts, Llandeilo Road, hanner y wobr am yr unawd tenor, ond yn yr her unawd fe gurodd amryw o gystad- leuwvr uchel. Mae'r ddwy chwaer, Miss Mary Ann Davies ac Esther Ann Davies, yn dal i guro ymhob Eistedd- fod. Yn Llangadock a Thycroes y cawsant eu buddugoliaethau diweddaf. Nosweithiau Iau a Sadwrn, Ebrill 23 a 25, rhoddwyd perfformiad o "St. Paul" gan y Brynaman Choral So- ciety, dan arweiniad Mr. Edward Evans (Alawydd Aman). Cynnorthwy- id gan gerddorfa linynol dan ar- weiniad Mr. Evan Williams, Glyn Road. Cymerwyd rhan yn y per- fformiad gan y rhai canlynol — Soprano, Miss Mary Ann Davies, Brynaman; alto, Madam Kate M. Wil- liams, Amanfryn House; tenor, Mr. Llew Jones, Aberdar; bass, Mr. David Bodycombe, Pontardawe. Cad- eiriwyd y nosweithiau uchod gan yr Henadur W. J. Williams, Y.H., Amanfryn, a Chynghorydd Sirol Gwilym Vaughan, Argoed. Cawd perfformiad ardderchog.