Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Tipyn o Bopeth o Bontardawy.
Tipyn o Bopeth o Bontardawy. Mae'n dywydd poeth," yw can y tew a'r teneu y dyddiau hyn, y naill yn toddi fel saim, a'r llall a'i esgyrn yn crecian wrth sychu. Gwelais mfer o lanciau yn ymdrochi yn Afon Tawy yr wythnos hon, ac amlwg oedd eu bod yn mwynhau eu hunain ym myd yr hwyaid. Un tro yn unig y bum yn yr afon dros fy mhen, a hynny pan oeddwn yn yr ysgol. Aethum yno gyda lliaws ereill o lanciau. Wedi dadwisgo, ychydig oedd yr awydd ynof am fyned i'r dwr, ond daeth un cryfach na mi y tu ol, ac fe'm hyrddiodd i fewn a'm pen i lawr yn gyntaf, a bu'n agos a bod fy niwrnod olaf. Haf neu ddau yn ol aeth dau weinidog i'r afon i ymdrochi, y naill yn Fedydd- iwr a'r llall yn Annibynnwr. Tra'n di- fyrru eu hunain yno, neidiodd y Bed- yddiwr at yr Annibynnwr, a gwasgodd ei ben islaw y don, gan ofyn iddo beth oedd ei tarn am Fedydd, a phan allodd, atebodd mai Ty-Ty-Ty-Taenelliad." Wedi yr atebiad yna gwasgwyd ei ben yn is. Beth yw dy farn yn awr, ynte ? ac atebodd yr Annibynnwr yn sionc taw B-b-boddi Diau nad oes cannoedd yn byw yn yr ardal hon ar hyn o bryd na wyddant ddim am yr hen Batriarch Philip Griffiths o'r Alltwen. Gwr doniol iawn yn ei ddull. Clywais hen wr yn adrodd pan oeddwn yn hogyn, ei fod mewn Cymanfa yn yr Alltwen, ac ar ddiwedd un oedfa, i Mr. Griffiths geisio gan y dieithriaid oedd yno beidio mynd gar- tref, fod yno ddigon o fwyd, sef bara a chaws a hen hen ddiod. Pan glywodd yr hen wr am y ddiod, dechreuodd ei galon lawenhau, oblegid yr oedd yn dra hoff o honi. Erbyn ei fod wrth y bwrdd, yr hyn oedd yn ei aros oedd bara chaws a dwr, ac yntau yn disgwyl diod frâg. a thrwy y siom ni chafodd fawr bias ar ei fwyd. Mae llawer o gyfnewidiadau yn arfer- ion yr ardalwyr heddyw a'r hyn oeddynt yn adeg Mr Griffiths. Pechod mawr yn nyddiau Mr Griffiths oedd croesi ffin yr enwad, ac ychydig a feddyliai o'r gwr fuasai yn cario ei bac yn ol a blaen o un eglwys i'r Ilall. Dywedir fod gwr yn yr ardal yn adeg ei weinidogaeth ef oedd yn dra hoff o newid ei wers-yll. Un nos Sadwrn digwyddodd yr aelod yma ddyfod ar ei dro yn ol i'r Alltwen am y trydydd neu'r pedwerydd tro. Yr oedd y gweinidog ar ei draed yn siarad ar Dipyn o bob peth," ond "Shoni"; dyna ga enw y gwr fod am y tro. Ceis- iai un o'r diaconiaid alw ei sylw yn awr ac eilwaith er dangos iddo fod Shoni wedi dod yn ol, ond nid oedd ganddo glustiau i wrando, na Ilygaid i weled ar y pryd- Aeth amynedd y diacon i'r terfyn, a gwaeddodd allan: "Mr. Griffiths, os dim o honoch chi'n gwel'd 1 Mae Shoni wedi dod yn ol." A gyda'r waedd mae Mr. Griffiths yn edrych at Shoni, ac yn defnyddio ei gleddyf bach dau finiog. H Shoni wr, ble wyt ti'n mynd yn awr ?" Am gael fy lie yma w i," meddai Shoni. Wyddost ti beth," ebe Mr Griffithsib mae dy grefydd di yn ddigon ysgafn i fynd a hi y lie mynnot ti. Gofala gwni ticket bob cam i'r nef- oedd yn wr, yn lie dy fod yn newid tren mor ami." Nid oedd Shoni yr un farn a'i weinidog. Credai Shoni mewn dilyn y goleu, a bod yr Ysbryd yn ei arwain o un eglwys i'r llaIl. ac nid oedd wahaniaeth ganddo beth ddywedai neb am dano, cyhyd ag y byddai yr Ysbryd yn arwain. Y Parch. Samuel Bowen, Ramah, Treorci, a bregethai yn nghapel yr Alltwen y Sul diweddaf, a thraddododd bregethau grymus. Mae arwyddion am Eisteddfod dda ym Mhontardawy eleni eto, a swn tyrfa- oedd yn dylifo i fewn. Mae Parti Meibion y Bont wedi penderfynu peidio cystadlu eleni. Felly nid oes angen i unrhyw barti ofni y danghosir "ochr"  i'r parti Ileol. Sul, Ebrill y 19fed, cynhaliodd Eg- lwys Danygraig ei chyfarfodydd chwar- terol. Cymerwyd rhan gan liaws mewn canu ac adrodd. Cafwyd cyfar- fodydd rhagorol. Llywyddwyd y pryn- hawn gan Mr Thomas Wm. Lewis, a'r hwyr gan Mr Owen Matthias. Diolch am awgrymiadua y Golygydd ynglyn a'r orgraff. Pa gwnai Ysgol Ramadegol o'r "Darian" gwnai lawer o ddaioni. Mae yr orgraff, yr un fath a'r ysgrifenwyr, yn newid yn ei thro. Araf yw y fasnach lo ymhen uchaf y cwm hwn, a cheir cymaint ac wythnos gyfan o segurdod. Gallasai fod ar waeth adeg, ac ar oerach tywydd, ond etyl ffordd y bara i gell y gweithiwr er hynny. Mae achwyn mawr yma fel mewn cylchoedd ereill, ar dreuliau claddu ar hyn o bryd. Mae'n gystadleuaeth mewn dillad ac eirch, nes y gesgir y tlawd i ddyled na ddaw byth o honi. Pa bryd y deuir i arfer rheswm a Jbodd- lorii ar fwy o symlrwydd yn yr amgylch- iadau hyn? A yw Pwyllgor Eisteddfod y Bont yn gofyn gormod o ganu oddiwrth y Parti Meibion eleni am eu deg punt. ar "Ugain 1 Hwn yw y mater sy'n cael sylw allanolion, ac o bosibl y ca sylw y Pwyllgor hefyd, yn ol yr awgrymiadau geir oddiwrth rai partion. Mae amryw o'r Melinau yn segur yn ngweithiau alcan Mr. Gilbertson ar hyn o bryd. Gweithiant bedair a chwech awr er mwyn rhanu "angen un rhwng y naw." 0 ba ran o'r byd y daeth preswylwyr Heol y Dyffryn, Alltwen 7 Digwyddais fynd drosti ar fy meik ryw noson, a da fuasai gennyf fod yn fyddar am y tro, o herwydd aflendid yr iaith-rhyw gymysgfa eithafol o iaith Penclawdd a thir annwn. Onid yw'n bryd symud i symud i hawlio glanach iaith ar ein heolydd 1 Ychydig amser yn ol clywais ddau hogyn yn siarad a'u gilydd ar lan y Gamlas. Methai un o honynt a deall paham na fuasai Cyngor Dosbarth Pontardwy yn mynnu y Tide i fewn i'r lie tra'r llall a'i atebai eu bod yn ofni yr elai Cwmni Docs Rhydyfro a'r dwr i I gyd- Honna pentrefwyr Rhydyfro fod y lie hwnnw'n hynach na Phontardawy, ac mai hwynt-hwy sydd a'r hawl gyntaf i'r dwr. Gwyddom er's blynyddau bellach mai yr hyn fetha boys Rhydyfro lyncu. mae gwyr Pontardawy yn gael. Pwy oedd yr hen wag hwnnw a elwid yn ami o flaen y seiat am feddwi, gan hen flaenoriaid Saron? Pan o flaen y bar un tro, gofynnwyd iddo, os oedd ganddo rywbeth i'w ddweyd, ac ateJb- odd yntau, Oes. 'Rwy'n methu'n lan a deall pam i chi'n boddrach a fi byth a hefyd am feddwi. 'Does dim un o honoch chi byth yn son gair am y'n syched i." Mae pob ceiliog yn awdurdod ar ei domen ei hun felly hefyd mae Cwmni y Docs. Cewch gyfle, Mr Golygydd, i ddyfod gyda mi ryw ddiwrnod yr haf yma i weled y Docs. Mae relwe new- ydd ar waith gan y G.W.R. i fynd atynt, a bydd yn durn-out crand i chwi.—Yr eiddoch hyd hynny, _n- BRUTUS. I
Nodion o Glynnedd. I
Nodion o Glynnedd. I GAN TOM CYNON. I Bydd yn dda gan lawer o ffrindiau glywed i Mr E. J. Hopkins, D.C., mas- nachydd parchus yn yr ardal hon, gael ei ethol yn is-gadeirydd Bwrdd Gwar- cheidiol Dyffryn Nedd yr wythnos o'r blaen. Haedda'r gwr hwn glod am fod mor weithgar ymhlith y gweithwyr, ac yntau'n fasnachwr. Mae yn ddir- westwr selog, ac yn hynod o garedig. Dymunwn iddo bob llwydd i gyrraedd y gadair uchaf. Jac Martin. Prynffawn dydd Iau a'r hwyr, Ebrill 23, perfformiwyd y ddrama enwog ifchod o eiddo'r Parch. J. Tywi Jones, Gol. y "Darian," gan Barti Dramyddol Bethel, Capel y Bedyddwyr. Cymer- wyd rhan gan aelodau perthynol i'r eglwys, o dan arweiniad Mr Roland Hughes, a theg yw dweyd i'r cymeriad- au wneud yn deilwng o honynt ei hun- ain. Chwareuodd Miss Olwen M. Morris amryw ddarnau swynol ar y ber- doneg, a chafwyd cyfarfod wrth fodd pawb. Cyrddau Pregethu. I Ddydd Sul a Llun, Ebrill y 26fed a'r 27fed, cynhaliwyd cyrddau hanner blyn- yddol Capel y Glyn. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caerfyrddin, a'r Parch. Peter Price, M.A., D.D., Rhos; a chafwyd cyfarfodydd rhagorol, a'r gweision ar ei gore yn traethu i gynulleidfaoedd lltf- osod. Cymanfa Ganu. I Ddydd Mawrth, Ebrill 14, cynhaliwyd Cymanfa Methodistiaid Dosbarth Hir- waun. Yr arweinydd oedd yr Athro David Evans, Mus. Bac, Caerdydd. Cynhaliwyd cyfarfod y bore yn Eben- ezer, Pontneddfechan, a chyfarfodydd y prynhawn a'r hwyr ym Methania. Y llywyddion oeddynt Mr J. Jenkins, Pontneddfechan; Dl. Davies, Hirwain, a W. Rowlands, Bethania. Holwyd y plant gan y Parch. D. Glannedd Wil- liams, ac areithiwyd yn ystod y eyfar- fodydd gan y Parchn. Derfel Roberts Ficer Aberpergwm Glannedd Wil- liams, a Mri. D. Jones, Hirwaun, Roger Rogers. Llwydcoed, ac ereill. Llongyfarchwn Jennie Howells, Afon Ter race May Davies, Maggie Jones, Olive Phillips, a W. J. Phillips, On- Ilwyn, ar eu lLwyddiant cerddorol. Y mae clod yn ddyledus iddynt hwy ac i'w hathro Mr W. R. Thorburn, A.L.C.M., ar en gwaith da. I fyny y bo'r nod. I'r ddau frawd, Mri. J. H. James a H. H. James, o Narberth, Sir Benfro, y mae'r anrhydedd o wneud yr "aeroplane" cyntaf yng Nghymru. Y mae'r ddau wedi ehedeg ynddo, a mor falch yw'r tr.igolion yno fel y maent yn tanysgrifio i roddi anrheg iddynt. Arianglawdd oedd y buddugol ar yr englyn i Blaid Llafur yn Eisteddfod y Cacrau. "Llais y Werin, Llais. Duw" oedd testyn traethawd y rhanwyd y wobr am dano rhwng Mri. Edgar James, Caerau, a G. Evans, Maesteg. Mr. Hugh Jones, Caerau, aeth ij' gadair, ac i Ab Hefin y dyfarnwyd y goron. Cafodd Noddfa'r Caerau wobr dda heb guro neb ar y prif ddarn.
I 0 Wy i Dywi.I
I 0 Wy i Dywi. I Gwersi Mewn Hanes Lleol gan Lewis I Davies, Cymmer. I Y SARNAU RHUFEINIG. I Nid oes dim a ddengys fawredd y genedl Rufeinig yn fwy na'r moddion a gymerai i sicrhau parhad ei choncwest ar ol iddi unwaith ei hennill. Gwelir hynny efallai yn amlycach yn Siluria nag yn un o dalaethau Prydain am y rheswm digonol mai yma y bu raid iddi ymladd galetaf i orchfygu. Wedi i Julius Frontinus gael y trech- af ar ein hynafiaid gwelodd nad oedd modd eu dal o dan yr iau heb iddo ffurfio rhwydwaith o heolydd yn dramwyfa hwylus i'w filwyr i fyned o orsaf i orsaf. Hynny a wnaed, ond nid heb drafferth enfawr, canys gelyn oedd pob fcrodor a disathr pob clogwyn a phant. Unwyd Caerllion yn y Dwyrain a Chaerfyrddin yn y Gorllewin gan ddwy o wahanol heolydd sydd heddyw ymhen deunaw canrif a hanner ar ol eu gwneuthuriad, yn amlwg mewn llawer o fannau. Enwyd hwynt, fel y dylid gwneud, ar ol eu cynllunydd, ac adna- byddir yr isaf o honynt, a red drwy Gasnewydd, Caerdydd, Penybont, Mar- gam, Castellnedd, a Chasllwchwr, wrth yr enw Via Julia Maritima, h.y., Heol Julius ger y Mor, tra y gelwir y llall a lwybra i fyny hwnt i Fannau Brychein- iog, Llywel a Dynefwr, yn Via Julia Montana, neu Heol Julius drwy y mynyddau. -Cyferfydd y ddwy brif-ffordd hyn .r lecyn oddeutu chwarter milltir o bont Caerfyrddin a elwir Pensarn. Hen air Cymraeg ydyw 'sarn,' a arwydda "yr hyn sydd dan draed," ac felly 'heol' neu 'dramwyfa.' Ceir ef mewn llawer o enwau lleol yng Nghymru, a phan weloch ef gellwch fod braidd yn sicr fod yno olion heol Rufeinig yn ymyl, oblegid fel mae'n hynod dweud, ni fu gwneu- thurwyr heolydd gwerth son am danynt yng Nghymru, nac yn Lloegr hefyd tae fater am hynny, o amser y Rhufeiniaid 43-410 o.c. hyd amser Telford yn niwedd y 18fed ganrif. Er fod y Nor- maniaid, fel enghraifft, yn ben crefft- wyr ar adeiladu cestyll ac eglwysi (fel y tystia cant o gymoedd y Deheubarth) eto nid oes yn aros yr un heol ellir ei thadogi iddynt. Ond i ddychwelyd at y Sarnau Rhufeinig. Y Prif Groesffyrdd. I Heblaw y ddwy heol fawr o'r dwyrain i'r gorllewin croesid Siluria gan o leiaf ddwy o groesffyrdd pwysig a redent o'r De i'r Gogledd drwy y gyfres gymoedd sydd a'u pennau yn gorwedd ar y Ban- nau ym Mrycheiniog a'u traed yn ym- estyn at For Hafren yng ngwaelodion Morgannwg. Gelwir y gyntaf yn Sarn Hir, neu Heol Adam, a rhed o Tibia Amnis yn ardal Caerdydd, heibio i Gaerffili, Gelligaer a Chwm Taf Fechan i Gaer y Bannau ger Aberhonddu, a'r ail yn Sarn Helen a gymer ei phwynt o Gastellnedd heibio i Gwm Dulais, Col- bren, ac Ystradfellte i'r unrhyw Gaer y Bannau yng ngwlad Brychan. Edrycher am foment ar sefyllfa ddaearyddol y ddwy brif-ffordd a'r ddwy groes-ffordd a enwyd. Amgylch- ent a chroesent Siluria yn y fath fodd fel y gellid cyrraedd unrhyw rhan o'r tir oichfygwyd mewn amser byr ar hyd- ddynt. Yn adeg cythrwfl brysid y mil- wyr hyd y sarnau i'r man agosaf i le'r gynnen, a-buan y buasid yn gosod ter- fyn offeithiol arno. Mewn gair, yr oedd y pedair sarn fel cynifer o lyfeth- eiriau yn dal yr Hen Frytaniaid yn dyn o dan yr awenau Rhufeinig, a braidd y gallent symud llaw na throed heb gael llengoedd y Caesariaid ar eu gwarthaf. Heblaw y prif groeskyrdd--Sarn Hir a Sarn Helen-yr oedd yn ddiameu rai ereill llai eu pwys a atebent bwrpas lleol. Gwyddys fod cangau o'r ddwy Via Julia yn bwrw allan i gyfeiriad Caerwent, Aqua Solis (Bath), Ponty- pwl, Ystumllwynarth (y Mumbles) a Dolaucothi, olion y rhai sydd eto ar gael, a sicr hefyd fod un arall dipyn yn fwy ei hyd yn ymadael o'r Via Julia Maritima ger Cynffig gan ddirwyn i fyny dros Fynydd Margam i dueddau uchaf Dyffryn Afan, He y gellir ei hol- rhain yn eglur am oddeutu deng milltir o ffordd. Heol y Moch y gelwir hon, ac y mae iddi hi a'i chysylltiadau lawer o hanes a thraddodiad ynglyn. Dau wrthrych ellir ddisgwyl yn was- tad ar gwrs unrhyw heol ydyw 'pont' a 'charreg filltir' ac nid oedd y sarna' II Rhufeinig yn eithriaid mewn hyn o beth. Gwn am ddwy o leiaf o bynt Rhufeinig o fewn taith fer i ra i o hon- och. Saif un oddeutu hanner y ffordd rhwng Abertawe a'r Mumbles, He y gellir ei gweled gan bawb, a'r ail o fewn Pare Dynefwr ger Llandeilo Fawr, a ellir ei gweled hefyd am ddim a wn i i'r gwrthwyneb. Ac am y cerrig-mill-! tir, y mae amryw o honynt wedi eu dar- ganfod o fcryd i'w gilydd, yn enwedig ar y Via Julia Maritima rhwng Peny- bont a Chastellnedd. Aeth rhai o hon- ynt yn eiddo personol i'r sawl a'u cloddiodd, ond gellir gweled un neu ddwy o honynt mewn lleoedd cyhoeddus nid amgen na'r "Maen Maximinus" yn Eglwys Margam, a "Maen Victorinus" yn Amgueddfa Abertawe. Ac i gor- I oni'r cwbl, saif un eto yn ei lie, ac os am ei gweled ewch o Fargam i Fawd- lam, ac yn ymyl yr heol fawr ger Amaethdy Eglwys Nynyd, chwi gan- fyddwch Faen "Pumpeius Carantor- ius," sydd o hyd yn troi ei wyneb Lladin i bawb a deithiant y ffordd honno.
Nodion o Abertawe.I
Nodion o Abertawe. I Cadeirydd newydd Gwarcheidwaid Abertawe ydyw y Parch. John Devon- aid Harris, gweinidog Eglwys Fed- yddiol Adulam, Llansamlet. Bonedd- wr ydyw sydd yn wir deilwng o'r an- rhydedd am ei ffyddlondeb a'i ddyn- garwch. Mae wedi bod yn aelod o'r bwrdd am ugain mlynead, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol y cylch y try ynddo. Brodor ydyw o ardal Maenclochog, Sir Benfro, a ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Lodor Fawr. Bed- yddiwyd ef yn llanc 14 oed yn yr afon- Gwaun yn y flwyddyn 1870. Pedair blynedd wedi hynny dechreu- odd bregethu, ac yn 1875 aeth i Goleg ei enwad yn Hwlffordd. Wedi bod yno am dair blynedd derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Adulum, Llansamlet, ac yno y mae yn gweinidogaethu hyd yn hyn. Sieryd y ffaith hon yn uchel am dano fel dyn a gweinidog da i Iesu Grist. Caffed hir ddyddiau i was- anaethu Duw a dyn pan y mae cym- aint o eisiau cymeriadau pur a dyrch- afol eu dylanwad. Prinder moch sydd yn blino bwyd- werthwyr Abertawe a masnachwyr ar hyd y wlad, a chafodd y mater gryn sylw ganddynt ddechreu'r wythnos mewn cyfarfod o'u cymdeithas. Trin- iodd y "South Wales Daily News yr un. mater dydd Iau diweddaf mewn erthygl golofn o hyd. Nid oedd y fath achwyniad yn bod 20 a 30 mlynedd yn ol, pan yr oedd bwthynwyr yn y wlad bron yn ddieithriad yn pesgu mochyn. Erbyn hyn mae deddfau'r wlad wedi gwthio yr arferiad bron o fodolaeth. Dau ddydd pwysig yn ein teulu ni oedd dydd prynu a dydd lladd moch- yn. Dydd prynu a geffid y mochyn adref heb lawer o darfferth? a mynych byddai dau neu dri neu ragor yn prynu yr un dydd am y byddai yn haws gyrru nifer o foch adref dair milldir o ffordd na gyrru un. Yna pryderid a droai y mochyn allan yn fwytawr glew ai ni wnai. Adroddid stori yn fynych yn ein teulu gyda hwyl am un o'm brodyr. Yr oedd ein tad wedi bod yng Nghastellnedd yn prynu mochyn, ac wedi cyrraedd yn ol yn llwyddiannus ac wrthi yn tywys y mochyn i fyny'r ardd tua'r twlc, a Tom ein brawd lleiaf yn stwmpyn bach pump neu chwech oed yn cerdded tu ol, gan gydio yn nghwt ei got, ac yn sydyn meddai, "Dats, f'alla' taw hams i gyd fydd y mochyn hwn!" Ond dydd lladd y mochyn oedd y dydd pwysig. Mawr y siarad fyddai am dano ddyddiau yn mlaenllaw, pryd gallai William Hargras ddod, faint fyddai pwysai'r mochyn, a fyddai'n drymach na'r un llynedd? ae. Nid oedd amser i chwareu ar y ffordd adref o'r ysgol y diwrnod hwnnw. Ac yr oedd yn fynych gryn ansicrwydd a gaffai'r mochyn ei ladd, gan mai creadur gwlyb oedd y lladdwr moch, ac nid unwaith y bu raid ei erlid o dafarn i dafarn, a j Ilawer hwyl gafwyd liw nos pan bu rhaid i'n mam, o herwydd hwyr- frydigrwydd William Hargras, lan- hau perfedd y mochyn wrth oleu can- wyIl a lantern dan y pistyll min ffordd. Ond rhaid ffrwyno'r atgofion a chloi gyda rhoddi pennill o gan gwalch o brydydd Ileol i fochyn Pegi'r Ffactri: "Mae mochyn coch gan Pegi Yn trotian'r hyd y lie, Ar ol iddo fe'i flino Mae'n mynd tua thre'i gael te, Mae'n gorwedd ar yr aelwyd A'i fola at y tan, "0, Isaac," meddai Pegi, Dyma fochyn glan." Dydd Sadwrn, Ebrill 25am, yng Nghapel Trinity, Abertawe, unwyd mewn glan briodas y Fonesig Hannah 1 Llewelyn, merch y diweddar William Llewelyn, blaenor yn Eglwys Seion, I Peniel Green, a'r Bonwr Edward Luther Thomas, o'r un He, a mab i'r diweddar Gwilym Samlet. Gweinydd- wyd gan y Parch. T. C. Lewis, Llwynbrwydrau. Rhoddwyd y briod- ferch i ffwrdd gan ei braxvd, y Bonwr William Llewelyn, I Priorton Terrace, Abertawe, a chyfaill y priod- fab ydoedd y Bonwr John Thomas, ysgolfeistr, Seven Sisters. Darpar- wyd y wledd-briodasol yn nhy brawd y briodferch, Priorton Terrace, lle'r cisteddodd nifer luosog o wahodd- edigion i fwynhau o honi ac i ddymuno pob llwyth i'r ddeuddyn ifanc. Derbyniodd Mr. a Mrs. Thomas lawer o roddion gwerthfawr ar yr achlysur oddiwrth gyfeillion o'r ddeutu. Treulir y mis mel yn Weston- super-mare. Mae Undeb Cerddorol Deheudir Cymru yn cychwyn ei raglen am y tymor hwn yn Neuadd Albert, Aber- tawe, nos Lun, Ebrill 27ain, dan ar- weiniad Syr Henry Wood, Llundain, ac y mae y pwyllgor wedi sicrhau un o brif gerddorfeydd Iwrob i gynorth- wyo Cor Meibion Abertawe a'r Cylch, dan arweiniad y Cerddor adnabyddus, y Bonwr Llewelyn R. Bowen, yn eu datganiad o'r gweithiau canlynol:- "Alto Rhapsody" (Brahms); "Songs of the Spirits (Schubert), a "Water Lily" (Goetz), ynghyda rhan helaeth o gynhyrchion cerddorfaol fydd yn cynnwys Symphony anfarwol Beeth- oven, y seithfed yn A fwyaf. Hon yw y gyngerdd gyntaf o restr sydd i fod yn ystod yr wythnos yn y drefn a gan- lyn :—Nos Fawrth, Castellnedd, pryd y cymerir rhan gan Gor Undebol y lie, dan arweiniad y Bonwr T. Hopkyn Evans, yr hwn sydd eisioes wedi gwneud gwaith tra rhagorol ynglyn a
[No title]
cherddoriaeth. Nos Fercher bydd y cyfuniad wedi cyrraedd Aberpennar (Mountain Ash), pryd y byddant yn cynorthwyo Cor Undebol y Ileo dan arweiniad y cerddor medrus, y Bonwr T. W. Miller, pan ddatgenir "The Banner of St. George" (Elgar); 114th Psalm (Mendelssohn); ymysg pethau eraill yn yr adran gorawl. Bydd y Bon- wr Miller yn arwain y gerddorfa yn "The Meister-Singer's overture; "Introduction to the third act of Lohengrin (Wagner), yn nghyda gwaith cerddorfaol newydd, "Tone Poem," gan y cyfansoddwr ieuanc Cymreig, y Bonwr Cyril Jenkins, Treorci. Disgwylir yma gynhulliad aruthrol am fod yr elw yn myned i gynorthwyo yr Ysbyty Lleol. Go. beithia Pwyllgor yr Undeb Corawl yma y gwna preswylwyr y cylch gryn aberth i wneud yr anturiaeth yn llwyddiannus, am eu bod wedi myned i gryn draul er mwyn rhoddi i'r cyhoedd rai o brif weithiau cerdd y meistri, hen a diweddar. Teilynga y pwyllgor bob cefnogaeth, a thrueni fyddai i'r anturiaeth droi yn fethiant arianol. Mae y pwyllgor gweithiol dan lywvrddiaeth fedrus y Bonwr T. Martyn Thomas, Abertawe, a chyn- orthwy y Bonwr Arthur James, cyfreithiwr, o'r un dref, fel ysgrifenn- ydd lleol, a'r ysgrifenyddion eraill ynghyd ag arweinyddion y gwahanol gylchoedd wedi gwneud yr oil a fedrant i sicrhau llwyddiant celfyddol yr anturiaeth, a chynhelir y cyfarfod olaf yn Nghasnewydd ar Wysg nos Iau, y 3oain. Bydd y cor lleol yn dat- gan "The Spectre's Bride" (Dvorak) o dan arweiniad yr athrylithgar A. E: Sims, L.R.A.M. Rhoddir lie helaeth i'r Gerddorfa yn y gyngerdd hon hefyd.
Cyngor Eglwysi Rhyddion Abertawe…
Cyngor Eglwysi Rhyddion Abertawe a'r CyIch. Cyfarfod Gweddi Undebol. I Nos Lun, Ebrill 20, unodd Eglwysi Rhyddion ein tref mewn Cyfarfod Gweddi. Arferiad biynyddol yw hwn, ac yn un o drefniadau Cyngor Eglwysi Rhyddion Abertawe a'r cyleh. Daeth cynhuHiad da yn ngyd a chafwyd oed- fa wrth fodd ein calon. Cymerwyd rhan gan frodyr annwyl o'r gwahanol eglwysi, a'r Parchn. J. Lewis a W. Salmon. Cafwyd gair byr gan y Parchn. M. G. Dawkins, D. E. Thomas, D. Pictor Evans, a a D. James. Pawb o'r brodyr yno'n.un,. Heb un yn tynu'n groes; ac Enwau dynion wedi'u colli Yn y dwyfol enw mawr. Cyfarfod Blynyddol. I Dydd Iau diweddaf y cynhaliodd y Cyngor uchod ei gyfarfodydd blynydd- ol. Llywyddwyd y gynhadledd yn y prynhawn gan "Penar.'T Methodd y cadeirydd am y flwyddyn a bod yn ,bresennol o herwydd afiechyd, sef y Parch. W. Gibbon, Abertawe. Wedi i'r llywydd wneud cyfeiriad caredig a thyner at afiechyd eu cadeirydd am y flwyddyn galwodd sylw'r gynhadledd at y pwnc oedd i fod o dan sylw, sef Cadwraeth y Sabbath." Aberthasai ein tadau i gadw'r Sabath fel sefydliad o osodiad dwyfol, a'n dyledswydd nin- nau, eu plant, oedd mynnu gweld ei fod yn cael ei gadw yn gysegredig. Magwyrydd yn diogelu bywyd goreu y genedl yw y Sabath. Y Parch. D. E. Thomas, Treforis, mewn araeth gref a ddywedai fod yn rhaid i rin a moes yn ein gwlad wrth y Sabath. Dydd i addoli ydyw,—dydd i waith cysegredig yn ofn Duw. Gorchwyl i'r Eglwys Gristnogol oedd ei ddiogelu i'w amcan cynllenid. Gresyn fod rhai yng Nghymru heddyw yn fodd- lon, fel Judas, i werthu y cysegredig a'r glan am arian. Gwyddom y gwneir hyn hyd yn oed yn ein tref a'r cylch. Gosodid y demtasiwn i'r gweithwyr ac yr oeddent yn mynd yn aberth iddo. Yr Aelwyd a Chadwraeth y Sabath. Y Parch. W. E. Prydderch a ddy- wedai fod llawer yn ymddibynu ar yr aelwyd a'r cartref yn nglyn a chadwraeth y Sabath. Ofnai rhai eu galw yn gul ac hen fasiwn am eu bod yn sefyll dros gysegredigrwydd y dydd hwn. Elai rhai rhieni yn Abertawe i'r gwasanaeth eu hunain a gadawent i'w plant fynd a phal fach a bwced i'r Sands ar y Sul. Bydd raid ymladd brwydr y Sabath ar yr aelwyd. Mr D. Lloyd hefyd a gredai fod llawer gan y cartref a'r aelwyd i'w wneud ynglyn a chadw'r Sabath. Byw y bregeth a'i chael i fyw yn eraill dan ein gofal oedd y pwynt heddyw. Siar- adodd y Parch. Williams (Tabor), Mr. Charles Davies, ac eraill. Pasiwyd pleidlais gynnes o gydymdeimlad a'r Parph. W. Gibbon yn ei gystudd. Cafwyd dwy bregeth goeth a chref yn yr hwyr gan y Parchn. J. J. Williams (Pentre) a R. R. Davies (Penffordd).
[No title]
Y mae dosbarth i rai ag atal dweyd arnynt wedi ei gychwyn yn Llanelli. Gwyddom am un a orfu ar y diffyg hwn yn llwyr trwy ei ymdrech ei hun. Ei gynllun oedd meddwl naill am ail air neu am ffurf wahanol i'r un gair, a phan fethai un deuai'r llall yn hwyl- us. Er engraifft, wrth geisio dweyd pytaten, pan fethai gyda'r "p" dis- gynai ar "taten." Os methai hewl deuai ffordd allan yn ddidaro. Ymhen amser cafodd waredigaeth Iwyr oddi- wrth ar atalfa ar ei leferydd.
Advertising
CYMERWCH HYN yN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parot< .d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau lachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y pWNC 0 IECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef 0 dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, obl,egid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yn Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addaS i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd 'difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a lludded ar y corff. I pEIDWCH OFD1. YSTYRIWCH YN A WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. gc. a 4s. 6ch. yr UD. Unig Berchenogion:- QUININE BITTERS MANUr4CTU41NC COMPANY, LIMITED, LLANELLY, South Wales.