Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Aberpennar, Linn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Aberpennar, Linn y Pasg. Pwyso a Mesur. I GAN BRYNFAB. I (Parhad.) I CYFIEITHIAD-"PAENTIO'R I BYD YN COCH." Daeth deg o gyfieithiadau i law, ac nid oes un gwael iawn yn eu plith. Gormod o dasg fyddai eu lleoli o ran eu teilyngdod. Felly, nid wyf am fynd i hynny o drafferth. Cyfieithodd "Mynyddog" yn lied dda, a hynny mewn mydr ystwyth. Cymryd ar y mwyaf o ryddid yw ei fai. Nid yw "murmured" yn ddigon da am "cwynai yn y llinell flaenaf, ac nid yw Deeper in the dale the rill yn ddigon cywir am "Chwyddai'r gornant yn y glyn." Ychydig ormod o swn ansoddeiriau sydd yn y llinell olaf o'r pennill- "To a hearth warm, bright, and plain." "Picture" sydd gan y cyfieithydd am "ddarlun y bardd. Mae yn wir ei fod yn eithaf llythyrennol. Ond tybfcif mai "map" oedd yn meddwl awdwr y gwreiddiol. Chwareu teg, er hynny, i'r cyfieithydd hwn; nid efe yw yr unig un sydd wedi llithro i'r bai. Rhyw gadw yn rhy bell oddiwrth y gwreiddiol a wna "Mynyddog," ac weithiau gesyd y cert o flaen y ceffyl. Dyma bennill yn enghraifft o'r gweddill:— "Darlun oedd o'r ddaear gyfan Coch a du oedd lliwiau hwn, 'Doedd y coch ond smotyn bychan, Du oedd lliw'r cyfanfyd crwn Mae y du yn eiddo'r pagan, Ebai'r fam a chalon drist, Tra mai'r smotyn coch yw'r cyfan Sydd yn eiddo lesu Grist." In the picture fondly tended, Wide the world the eye surveyed, Where one speck in damask painted Day, and gloom its spectre sway'd; Then the mother whispered sadly, Casting on the child a glance, Christ the red spot governs only, Pagans rule the dark expanse.' Cychwynodd "loan Wyn" yn dda, ond collodd ei law gyda'r ail bennill. Dyma y ddwy iaith wyneb yn wyneb i brofi hynny- "Cysgai Nain tu ol i'w spectol, Fel mae arfer neiniau 'rioed Tra chwareuai'r fam yn siriol Gyda'i phlentyn pum' mlwydd oed Plygai'r ddau yngoleu'r ganwyll Uwch y darlun ar y bwrdd, Gyrrwyd ofnau'r oriau tywyll Dros y trothwy'n mhell i ffwrdd." Grandma slumbered (with her glasses- Such the custom of her class), While a joyous time the mother With her child of five did pass; On the table lay a picture, Which by candle light they scanned, And the terrors of the darkness O'er the threshold far were banned." Mae yr ymgeisydd hwn eto yn gwneud cam ar awdwr wrth roi "picture" yn lie "ma p. Digon prin y mae y gair "fierce" yn cyfleu meddwl y gair gerwin yn y llinell— "Os yw'r nos yn hir a gerwin." Rhyw feiau m&n, fel a nodwyd, sydd yn anurddo y gwaith. Nid oes llawer o gamp ar gyfieithiad "Rianedd," er fod j fydryddiaeth yn ddigon llithrig. Nis gellir galw yr ail bennill yn efaill i'r ail bennill gwreiddiol, er ei fod yn ymddangos fel cefnder iddo- Slept the grandma in her armchair, As grandmas are wont to do, And the mother with her baby Played, and they were happy, too. 'Neath the soft light of a candle O'er a picture there they bent, And all fear far was driven By the enchantment that it lent." Mae yn amlwg nad yw y "Rianedd" I hon yn farddes. Gallasai wneud gwell gwaith mewn rhyddiaith. Nid yw "Llynfan wedi llwyddo i gyfieithu yn farddonol. Mae troi pennill da i ryddiaith foel yn myn'd dipyn yn groes i deimlad bardd. An- ystwyth yw y mydr yn ami gan y cyfieithydd hwn. Er enghraifft dywed y trydydd pennill- "The pagan owns all the black, dear," Said the mother sad at heart. "The small red spot you see just here, That is Jesus Christ's sole part." Mae yn gwneud defnydd o ambell air amhriodol, i ddim ond er mwyn 001- Fears of the outward "babel" Meddai am "Gyrrwyd ofnau'r oriau tywyll," A rhydd- Glistening like a pendant am 1 am Ddeigryn disglaer mawr. I Mae y "picture" wedi troi yn "chart" II yma cyn y diwedd, ond nid yw hyn yn fai. Methiant yw y cyfieithiad hwn, er fooernddo lawer cwpled tlws ddigon. Cychwynodd "Gilfillan" yn anffodus dros ben- In the wood the wind was howling, I In the vale the brooklet swam, I On the hill, through brambles prowl- ing, Searched the shepherd for the lamb. Ond rhaid nodi ei fod wedi gwella yn ddirfawr wrth fyn'd rhagddo. Rhaid canmol yr ymgeisydd hwn am gadw mor agos at y gwreiddiol-ond I mae yn bosibl bod yn rhy lythrennol ambell waith. I Bu Efailfab yn anffodus iawn gyda'i linell flaenaf- Moans the wind, in oak-trees shriek- ing am Cwynai'r corwyrit rhwng y deri. Nid yw yn ffyddlon i'r gwreiddiol yn y cwpled— Rolls the thunder, rumbling near, Lightning gleams awakening woe," am Siglai'r bwthyn gan y daran, Fflachiai'r ffenestr gan y mellt." Mae yr ymgeisydd hwn yn gwella eto wrth fyned rhagddo. Gresyn ei fod yn anffyddlon i'r gwreiddiol yn rhy ami. Enghraifft neu ddwy eto— He resolved he'd on the morrow Bring the world to Jesus' feet, am Penderfynodd doed a ddelo Baentio'r byd i Iesu Grist." Just a speck of ruddy fire, meddai am 'Doedd y coch ond smotyn bychan. Mae y ddau bennill olaf yn rhagorol, yn enwedig, yr olaf ond un- Little child! To Christ how dear Is the faith that fills thy soul! Morning saw the map appear I Crimson red from pole to pole; Red the Himalaya Mountain, î Red each islet's beauteous shore, Flowed the blood from Calvary's fountain In the night, the wide world o'er. Gan Gobaith mae y cyfansoddiad mwyaf meistrolgar yn y gystadleu- aeth, ond nid cyfieithiad ydyw. Mae I yn fwy o efelychiad na dim arall. Mae hwn yn llawn cystal a'r gwreidd- iol, ond nid yw ergydion unigol J.J. ynddo. Y pennill cyntaf yn engh- raiff t- Through the trees the wind is moaning And the brooklet wakes the vale, Where the lost, lone lamb is roam- ing Goes the shepherd through the gale Loudly roars th' echoing thunder, Lightning flashes all round, But within the cottage yonder Peace and comfort there abound. Cymerodd y cyfieithydd y ffordd hawddaf i wneud ei waith. Pe arall eiriad ofynid, nis gallesid curo gwaith yr ymgeisydd hwn. Ceir cyfieithiad rhagorol gan "Anglo-Saxon." Mae yn ffyddlon iawn i'r gwreiddiol, gydag eithrio ambell linell. Nid wyf yn hoffi y gair "wail- eth am cwynai yn y llinell flaen- af, er nad oes llawer i'w ddweyd yn ei erbyn. Dyma y pennill i gyd i ddangos mor ffyddlon y mae yn cyfieithu Cwynai'r corwynt yn y deri, Chwyddai'r gornant yn y glyn, Chwiliai'r bugail drwy'r mieri Am yr oenig ar y bryn; Siglai'r bwthyn gan y daran, Fflachiai'r ffenestr gan y mellt, Ond 'roedd aelwyd gynnes ddiddan Yn y bwthyn bach to gwellt. Through the oaks the whirlwind waileth, In the dingle swells the rill, Through the briars the shepherd seeketh For the lambkin on the hill; Thunder makes the cottage quiver, Lightnings on the window flare, But in that thatched cottage yonder Was a cosy hearth so rare. Yr wyf yn ffraeo a'r gair "prances" yn yr ail bennill While the mother brightly prances, am Tra chwareuai'r fam yn siriol. Buasai yn well i'r cyfeithydd aberthu yr odl, a rhoi gair arall yn ei le. Nid yw y llinell flaenaf o'r pennill olaf yn ddigon ffyddlon i'r gwreiddiol— If the night be rough and "weary." Os yw'r nos yn hir a gerwin. Felly hefyd y bedwaredd linell- I see countries changing more. Lawer gwlad -yn newid lliw. Cyfieithiad rhagorol yw eiddo "Emyr." Dyma ei bennill blaenaf yn- tau i ddangos ffyddloned yw i'r gwreiddiol- In the oak grove sighed the tempest, In the valley swelled the rill, And the shepherd 'mongst the briars Sought his lamb upon the hill; Claps of thunder shook the home- stead, Lightning glare through windows shot, Still the hearth was warm and pleasant In the little straw-thatched cot. Nid wyf yn hoffi- As grandmothers always "may," am Fel mae arfer neiniau 'rioed. Odl alwodd am y gair tramgwydd, yn ddiau. Gresyn fod yr ymgeisydd yn def- nyddio y gair "picture" am y gair darlun sydd yn y darn. Mae yn eithaf iawn fel cyfieithiad, ond "map" welaf fi gan y prif-fardd, ac o flaen y fam a'r plentyn ar y bwrdd. Cym- erodd yr ymgeisydd ormod o ryddid yn y pennill olaf, lie ceir- "Streams from countless mountains fed, "Glannau'r donn sy'n torri groch." Nid yw "alone" a "drawn yn odli yn ddigon da, a myn'd yn fanwl. Dyma fi wedi myn'd dros y deg cyfieithiad. Saif y gystadleuaeth rhwng "Emyr" ac "Anglo-Saxon." Gwaith lied anawdd yw penderfynu pa un o'r ddau sydd wedi llwyddo oreu. Mae Anglo-Saxon" wedi curo ei gyd-ymgeisydd mewn ambell fan, tra mae Emyr wedi ei guro yntau mewn mannau eraill. Y bai mwyaf sydd gennyf yn erbyn Emyr" yw defnyddio y gair picture" am y "darlun" sydd yn y gwreiddiol, er fod y gair yn gyfieithiad llythrennol. Ond fel y nodais o'r blaen nis gallaf lai na chredu nad "map" a welai J.J. o flaen y fam a'i phlentyIJ. ar y bwrdd. Nid oes dim yn y desgrifiad a rydd y bardd yn ffafrio defnyddio y gair picture. Mae "Emyr" yn myn'd dipyn oddiar y cledrau weithiau, megys yn niwedd ei drydydd pennill-cymryd gormod o ryddid er mwyn odl. Mae ei lineli— Streams from countless mountains fed yn y pennill olaf, fel y nodwyd yn barod, yn tynnu oddiwrth ei deilyng- dod. Fel y nodais hefyd nid yw "Anglo- Saxon yn ddifrychau er mai rhai bychain ydynt. Rhaid cydnabod ffyddlondeb "Anglo-Saxon" i'r mesur gwreiddiol. Mae efe yn odli ei linellau, tra nad yw "Emvr," yn gwneud hynny. Wedi darllerf a chymharu y ddau gyfieithiad sydd mor agos i'w gilydd, mae y fantol wedi troi o blaid "Anglo-Saxon."

^ 1 ■■ - 1 ■" Rhan Uchaf y…

Pant y Coblyn. I

j Penbryn, Caredigion.

Advertising