Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

I 0 Bant i Bentan. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I 0 Bant i Bentan. I Bu rhywrai yn twrio yng nghastell Hwlffordd yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, a danganfuwyd dwy ystafell na welwyd mohonynt o'r blaen. Bernir fod ffyrdd tanddaearol yn ar- wain o un o honynt i wahanol rannau'r dref. Daethpwyd o hyd i esgyrn yno, a bernir mai esgyrn dynol ydynt. Agorwyd ystafell arall yn un o'r tyrrau yn bedair troedfedd sgwar. Adeiladwyd y Castell pan deyrnasai Stephen gan Gilbert de Clare ar ffurf hanner crwn er diogelu'r estroniaid a ddaeth i'r wlad i'w Iladrata oddiar y Cymry. Ei ddiben felly oedd gwas- anaethu fel ogof lladron. Yn amser Stephen teflid dynion gan yr an- rheithwyr i ystafelloedd o'r fath, a phwy wyr nad esgyrn rhai o'r tru- einiaid hynny a ddygir i'r amlwg hedd- yw. Teflir gole ar Dwr Babel gan ym- chwiliadau diweddar. Yn adroddtad swyddogion Cymdeithas Ddwyreiniol yr Almaen sydd yn bresennol ym Mabilon, hysbysir ddyfod ohonynt o hyd i sylfaen y Twr enwog hwnnw oedd yn un o ryfeddodau yr hen fyd. Dywedir ei fod yn bedair ongl ac yn gan Hath o bob tu ar y gwaelod. Ar yr ochr dde darganfuwyd grisiau allanol a arweiniai i'r llofft gyntaf. Y mae un ar bumtheg o'r grisiau wedi eu diogelu, ac ym mesur chwe troedfedd ar hugain o led. Bu farw yn ddiweddar un o am- ddiffynwyr mwyaf pybr y ddamcan- iaeth mai Bacon oedd awdur gweithiau Shakspeare, sef Syr E. Darming- Lawrence. Dywedir mai ofer dadl ar y mater hwn bellach, ond manteisiai'r gwr uchod ar bob cyfle i'w hamddiff- yn. Credir y dylid gadael i Shakspeare barhau yn anfarwol am ddau reswm, sef tystiolaeth cyd-oeswr ei fod yn athrylithgar yn ei ymddiddanion, a'r gweddillion barddonol a adawodd Bacon ar ol sydd ymhell o brofi ei allu i gyfansoddi barddoniaeth uchelryw o nodwedd eiddo'r prifardd Saesneg. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 1915 yn Aberystwyth. Sibrydir mai cadair arian fechan a gynhygir am yr awdl yn lie cadair dderw fel arfer. Gwell fyddai i'r pwyllgor ymgynghori a'r beirdd cyn mentro ar newyddbeth felly rhag eu tynnu am ei ben. Bydd yn chwith gweled yr Eisteddfod heb hwyl fawr y cadeirio. Y mae Cymdeithas Genhadol Llun- dain eleni yn 129 mlwydd oed. Cych- wynwyd hi yn anenwadol, ond erbyn heddyw yr Annibynwyr sydd fwyaf blaenllaw yn ei chefnogi. Llesteirir hi ers rhai blynyddoedd gan faich o ddyled sydd wedi cyrraedd ^70,000 yn bresennol. Penderfynodd y Cyfar- ,ioo,ooo er dileu y er dileu y ddyled a gosod y gymdcithas ar syl- faeni cryfach nag crioed mewn ystyr ariannol. Addawyd ^78,000 yn barod, ac y mae argoel dda y llwyddir yn yr amcan mewn golwg. Gwneir ym- drech i godi'r casgliad blynyddol yn ,C30,000 yn fwy nag arferol. Yn eu sel wleidyddol anturiodd dau o lywodraethwyr Prifysgol Bangor, sef Arglwyddi Kenyon a Phenrhyn, fanteisio ar eu safleoedd i godi an- awsterau ar ffordd Mesur Dadwadd- oli'r Eglwys. Danfonwyd pamffledyn i'r llywodraethwyr ereill yn bygwth galanas os pesid y Mesur. Dywedai un siaradwr yn hytrach na gadael i Arglwyddi Toriaidd rwystro ymdaith symudiadau gwerinol, y codai'r wlad j'r adwy ac y gofalai na chai'r coleg weled eisieu er colli cefnogaeth y cyfoethogion Toriaidd. Cantores a wnaeth enw iddi ei hun yng Nghyngerdd Covent Gardens nos Fawrth, Ebrill 22, yw Miss Bessie Jones, y soprano, o Donypandy. Gwnaeth Miss Dilys Jones, Cymraes arall, waith da yn yr un cyngherddau. Dywenydd gan bob Cymro yw gweled y bonesau hyn yn codi eu cenedl ym fyd y gan. Bendith arnynt.

Gadlys. I

f i |Methiant Gieuol.

Ar Lannau Tawe. I

Colofn y Gohebiaethau. I

-.....- ....-Undeb Ysgolion…

Pontycymmer.

Senghenydd.

Y Gelain a'r Eryrod.

I Thomas Hughes, Treforis.…

[No title]