Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIAD. YSCOL Y CWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880 PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M. A. I Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Atbro.
Advertising
W.Williams SCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Specialities ISet. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoft, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau anr, Oriaduron ac awrleisiau, Gemau a chadwynao claer: Yspectol gelfydd, bin-fynegyad, Qwres-fesarydd, Cwmpawa m&r Geir gan Williams, Heol y 0asiell Trowch i mewn i wel'd ei Bite.
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Colofn Llafur Tud. 1 Briwsion o Aberpennar 1 Aberteifi a'r Cylch 1 Y Stori—" Nanno 2 O Wy i Dywi 2 Cymanfa Ganu Cylch Caerffili 2 Beirdd y Bont gan Brynfab. 3 O Deifi i'r Afor 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Llyfroniaeth y Darian 4 Cymanfa Ganu Bedyddwyr Aber dar „ 4 Gwlad a Senedd 5 o Bant i Bentan 5 Colofn y Plant 6 Nodiadau ar Lyfrau a Chyfnodol- ion 6 < Cynhadledd y Gymraeg yn Aber- tawe 6 Gohebiaethau: Yr Orgraff, Y Danchwa, etc 6 Tipyn o Bopeth o Bontardawy. 7 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 7 O'r Gogledd 7 Colofn y Beirdd 7 Helynt Resolfen 8 Adolygiad Brynfab ar y Genhinen 8, Newyddion o Amryw Leoedd. 8 I
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. I Ar Fore Teg o Fai." I Dydd o ysbrydiaeth, Dydd Llafur, dydd a holl Feibion Llafur dros y byd i gyd yn estyn dwylo Ilongyfarchiadol i'w gilydd arno, ac yn cyhoeddi ewyllys da i werinwyr ymhob parth o'r ddaear. Yn yr awyr agored, yn swn caniadau yr adar bach, ac o dan dywyniad gwresog haul serchog Duw, y cyfarfu llu o weith- wyr ym Mharc Cyhoeddus Aberdar dydd Gwener diweddaf, i ddathlu Gwyl Llafur. Yn unol a'r trefniadau, cafwyd gorymdaith fawreddog o ganol- fan y dref i fyny i'r pare. Yr oedd Seindoi-f yn arwahi ar flaeii pump o wahanol adrannau, ac yn chwarae miwsig ymdeithiol oedd yn ys- brydiaeth i bawb oedd yn ei swn. Peth Newydd o Dan yr Haul. I Peth hynod a newydd yn hanes gor- ymdeithiau Meibion Llafur Aberdar oedd defnyddiad dwy faner fawr oreur- edig, gydag adnodau, a darluniau pwr- pasol., Blaenorid mintai Hirwaun gan un, ac Aberaman a Chwmaman gan y llall. Ail Beth Newydd. Peth newydd arall oedd presenoldeb minteioedd bychain o fechgyn ieuainc— rhai newydd ddechreu gweithio, a llu- aws mawr o rai sydd eto yn yr ysgolion dyddiol, ond yn disgwyl yn bryderus am yr amser i ddod pan y rhyddheir hwynt o gaethiwed y tair "R" ac yr ant i fewn i ryddid dychmygol, ond twyllodrus, y gwaith gIo-a'r oil yn gwisgo gyda balchder, ysnodennau cochion. Golygfa yn Ysbrydiaeth. Yr oedd yr olygfa yn ysbrydiaeth i'r saw,l edrychai gyda llygaid proffwyd ar yr orymdaith. Lawer gwaith yn y golofn hon gwnaed crybwylliad gyda golwg ar yr priodoldeb i'r arweinwyr a'r swyddogion gyflwyno cynlluniau a gwneyd darpariadau er cysylltu dyddor- deb y plant a'r gwragedd ag agweddau ,cymdeithasol y Ffederashwn. Gan y gwelir yr awyddfryd mor gryf yn yr ieuanc i gymeryd rhan yn yr arddangos- iadau IIafurol hyn, a chan ein bod yn gwybod fod pob peth i'w ennill wrth eu -cael, paham ynte, na wneir ymdrechion i gael cyfryngau i ddiddori, ac addysgu y plant, a'u meithrin i fyny yn egwydd- orion cyfundeb, sydd mor hanfodol i'w llesiant dyfodol'? Yii y Parc. Maddeuer i mi am fyned ychydig oddiar yr orymdaith fel hyn. Wedi cyrraedd y Pare, lie yr oedd llwyfan pwrpasol wedi ei barotai, unodd y Sein- dyrf i chwarae Y Marsellaise." Yna gorodd y llywydd, y Cynghorwr Idwal Thomas, y cyfarfod gydag annerchiad brwdfrydig a hyawdl. Galwodd ar yr Agent, Mr C. B. Stanton, i gynnyg pen- derfyniad i'r cyfarfod, yr hwn oedd fel -y canlyn :_U Fod y cyfarfod hwn o ael- odau Cyngrair Glowyr Deheudir Cym- ru, yn datgan ei ymddiriedaetli lwyraf yn ein hundeb. fel y cyfrwng goreu i sicrhau y gwelliantau gweithfaol a gwleidyddol y penderfynir arnynt. sef codi'r isafnod yn y cyflogau i ddim llai na 50 y cant, a chan fod graddau'r elw dderbynir gan y cyflogwyr yn cynhyddu fel y mae'r prisoedd gwerthu yn esgyn, ni ddylid caniatau uchafnod." Penderfynwyd hefyd fod yn ffyddlon i'r Cyngrair yn ei ymdrech i godi cyflogau gweithwyr pen y pyllau, a'u cael i gylch gweithrediad deddf yr wyth awr, a deddf yr isaf-nod cyflogau. j Hefyd i sicrhau gwelliant yn neddf yr isaf-nod, a chael codiad cyffredinol o 9 ceiniog y dydd. Chwech twrn am bump i weithwyr shiffts y prynhawn a'r nos. Penderfynu gwneyd popeth yn ein gallu i ddwyn i fewn i Ddeddf y Mwngloddiau, yr amrywiol welliantau basiwyd yn y gynhadledd flynyddol." Siaradodd Mr. Stanton yn gryf a dy- lanwadol wrth gynnyg, ac eiliwyd yn fyr a phwrpasol gan ysgrifennydd y dos- barth, sef y Cyngorwr Illtyd Hopkins. Wedi hynny galwyd ar y Parch. J. Nicholas, Tonypandy. I I Dechreuodd ef.drwy ddweyd fod y cyfarfod iddo ef yn gysegredig, ac nad allai ymryddhau o'r syniad mai mewn cymanfa bregethwrol oedd ar y pryd. I Yr oedd hyn yn cael ei gadarnhau iddo oddiwrth y ffaith ei fod yn un o ddau bregethwr yn eu hannerch y boreu hwn. Ac hefyd, yr oedd yn gweled cynifer o'i frodyr gweinidogaethol wedi dyfod allan i'r cyfarfod. Apeliodd Mr Nicho- las yn ddwys iawn at y dynion ieuainc, a tharawodd dant uchel iawn yn ei gyrfihelliad ar i'r gweithwyr fod yn ffyddlon iddynt eu hunain ac i'w hun- deb. Ficer Writhington. J Hapus iawn oedd ymddanghosiad y Parch. J. A. Ramsey, Ficer Writhing- ton, yn cerdded ar flaen yr orymdaith, ac yn codi ar y llwyfan i siarad. Drwy ei frawddegau agoriadol digrif a chwar- eus enillodd y dorf fawr i lawn gydym- deiinlad a'r gwirioneddau pwysig wasg- wyd arnynt cyn y diwedd. Yr oedd apel y gwr hwn yn ddyrchafol a phur iawn. Bywyd yn ei lawnder a'l ber- ffeithrwydd, delfryd Duw am fywyd dyn. Dyledswydd y gweithwyr i ber- ffeithio eu hundeb, fel ag i sicrhau iddynt axiagy"iadivu rhyekl o bryder-a gofalon gorlethol y gyfundrefn fasnach- ol bresennol. Amgylchiadau a'u gallu- ogent i fyw fel yr eglurodd Iesu. Bywd rhydd yr aderyn, bywyd prydferth a glan y blodeuyn. Dyna yn sicr fwriad Duw am fywyd dyn. Keir Hardie, A.S. I Erbyn hyn yr oedd y gwron Keir Hardie wedi cyrraedd i'r cyfarfod o Ferthyr. Galwyd arno yntau i annerch y cynhulliad. Cynhyrchodd don o chwerthin gyda'r frawddeg: Ar ol yr Eglwys, daw y Wladwriaeth." (After the Church, comes the State.) Dywed- odd ei fod yn cytuno yn llwyr a phob brawddeg yn y penderfyniad oedd o flaen y cyfarfod. Anogodd y glowyr i geisio codi iselfan cyflog cyn y deiau yr amser drwg. Yr oedd arwyddion yn y gorwel fod masnach i arafu. Ac yn awr, cyn fod yr arafwehr yn dod, yr oedd yr amser i benderfynu y man isaf oedd y gyflog i gyrraedd. Teimlai yn llawen wrth weled fod y Ffederashwn yn cy- meryd i fyny achos gweithwyr pen y pyllau gyda'r fath frwdfrydedd. Go- beithiai weld yr amser yn dod pan y byddai y gweithwyr i gyd ar ennau y pyllau yn ogystal a'r rhai oedd yn torri y glo, yn gysylltiedig mewn un undeb mawr a chryf yn amddiffyn eu hawliau. I Diogelwch Gweithfaol. I Yr oedd hefyd wedi dyfod i'r farn na I ddylai cyfrifoldeb yr output, a chyfrifol- deb diogelwch bywyd y gweithwyr fod yn nwylaw yr un dyn. Penodid mana- gers yn fwyaf neillduol i wneyd elw (dividends) i'r perchnogion. Ystyr- iaeth israddol bob amser yw diogelwch bywyd a iechyd y gweithiwr. I gyfar- fod a'r diffyg hwn, dylid penodi dynion yn bendant i wylied buddiannau a sicr- hau amgylchiadau diogel i fywyd, a iechyd y gweithwyr. Tystiolaeth pawb yw fod yr wyl lafurol hon yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus ymhob ystyr a gynhaliwyd erioed yn Aberdar. Mr. W. Brace, A.S., yn New Tredegar. ..th annerch cyfarfod o lowyr Cwm Rhymni yn y lie uchod, dywedodd Mr. Brace y gwelid pethau mawrion y flwyddyn nesaf ym myd Llafur. Byddai gweithwyr Scotland, Lloegr, a Chym- ru yn cyduno mewn un ymdrech fawr i wella eu hamgylchiadau. Yr oeddent yn mynd i ofyn am 9 ceiniog y dydd o godiad i bob gradd o weithiwr. Yr oedd yr amser wedi dod pan yr oedd yn rhaid i Bryden i gydnabod fod y glowyr yn gweithio mewn perygl mawr bojb amser, a'i fywyd megis yn ei ddwy- j law. Bu y flwyddyn ddiweddaf yn ofn- j adwy mewn colli bywydau. Lladdwyd dim llai na 1,742 o fywydau yng nglo- feydd y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd hyn yn warth ar wareiddiad a Christ- nogaeth, ac yn adlewyrchu yn anffafriol iawn ar ddatblygiad gwyddonol yr oes datblygiad sydd a lie i gredu a gym- hwysir nid i ddiogeli bywyd yn gymaint, ond i ychwanegu y cynnyrch glo ac elw i berchnogion. 12,700 o Laddedigion. I Yn ystod y deng mlynedd diweddaf collwyd 12,700 o fywydau yng nglofeydd y wlad yma. Yr oedd yn rhaid rhoi terfyn ar ddifrod o'r fath, a gallai y gweithwyr, drwy gynorthwyo yr arwein- wyr, wneud hynny.
Briwsion o Aberpennar I (Mountain…
Briwsion o Aberpennar I (Mountain Ash). I Y gwr parchus Cynog Williams, Heolyfelin, fu yn cynnal cwrdd hanner-blynvddol Capel y Ffrwd (B.) Ebrill y 26am. Cafodd amser hapus; cynulleidfaoedd lied dda, a dywedodd bethau cryfion a hallt iawn. Mae He i'r proffwyd hwn a'i genadwri ) dyddiau difraw hyn yn hanes yr eglwys. Doeth iawn yn yr' eglwys hon oedd boddloni ar un pregethwr ac un dydd gwyl. Mae'r enwad hwn yn arwain yng Nghymru mewn llawer cyfeiriad. Gobeithio y dilynir ef gan yr enwadau eraill yn y peth hwn. Credaf fod digon o bregethu yng Nghymru, fel y gellir fforddio bod wrth un "pregethwr a chael pregeihu Lv Sabbath yn unig. Y rhai fu yn gwasanaethu yng ngwyl Bethlehem, M.C., oedd y Parchn. J. Williams, M.A., Caer- dydd, a P. M. Morgan, Blaen- annerch. Cawsant amser dedwydd, a chynulleidfaoedd da yn rhai o'r oedfaon, a "gwlith esmwyth o Her- mon yn disgyn yn drwm ar y plant sydd a'u hwynebau tua char- tref. Gwr diarth i'r gymdogaetb oedd "Mab y ,dydd" o Gaerdydd. Ond gwn y daw yma eto, ac os nad wyf I yn camsynied daw hwn yn boblogaidd ym mhwlpud ei enwad. Mac Mr. Morgan wedi bod yma lawer gwaith o'r blaen, a phob amser yn gymeradwy. Clywais fod yno seiat ragorol nos Iau diweddaf, a bod y gweinidog newydd, Mr. Evans, B.A., B.D., wedi cael derbyniad cynnes yno. Cludai yr awel swn cerdd hyfrydol o gyfeiriad Festri Bethania nos Iau diweddaf, a meddyliais fod yno barti yn ymarfer er cystadlu ar y don, "Maesgwyn," gwaith Mr. Ed- wards, O'F Miskin, ond erbyn holi y saint oedd wedi mynd i. orfoleddu yn y gyfeillach grefyddol. Cwrddais a rhai o'r gwragedd, ac yr oedd eu gwynebau yn disgleirio fel tystiolaeth iddynt fod ar y mynydd gyda Duw. A oes dyddiau hafaidd ar ddod i Seion? Disgwyliwn Daethai tyrfa o filoedd i'r Fafilion nos Fercher diweddaf i wrando ar y cor mawr o dan arweiniad medrus, Mr Millar, yn datganu darnau clas- urol, a'r ochestra ardderchog o Queen's Hall, Llundain, yn cynorth- wyo ynghyd a dau neu dri o brif ddatganwyr y byd cerddorol. Mae clod yn ddyledus i'r cor, yr arwein- ydd, a'r bonwyr hawddgar a char- edig, Mr. D. T. Evans, Mr. Jones, arolygydd Glofa Cwm Cynon, ac eraill am eu gwaith cariad yn y cyfeiriad hwn, a chredwn y bydd elw sylweddol yn deilliaw i'r Nursing Fund." Mae y "nurses yn gwneyd gwaith rhagorol yn y cylch, a gresyn na fyddai modd cynnal rhagor o honynt. Y swyddogion y Cymrodorion am y tymhor nesaf: Llywydd, Mr. W. W. Williams, yr Ysgol Sir; is- lywyddion, Mrs. Edwards, Llety Ifor, a Mr. Mathew George; ysgrifennydd, y Parch. W. Davies, Soar; trysor- ydd, Mr. T. J. Howells (Hywel Nedd). Etholwyd y meddyg mwyn Arthur Jones a'r athrylithgar Barch. R. S. Rogers, y llywydd a'r ys- grifennydd y tymor diweddaf, yn aelodau o'r pwyllgor newydd. MAB Y WAWR. I
BWRDD Y GOLYGYDD. I
BWRDD Y GOLYGYDD. I Yn y Nesaf :-Y gyfran gyntaf o Hanes Colbren gan Henry Williams, Onllwyn; darlun o John Harries, Nar- berth Cymru Heddyw gan Ap Llyw- arch Hen; Chwedlcniaeth a Thraddod- iad gan Richard Bell, a phethau ereill y bu raid eu gadael alfan o ddiffyg gofod yr wythnos hon. Drwg gennym fod llith Talnant ymhlith y pethau hyn. ond ceidw'n ffres hyd y tro nesaf.
- - - - Aberteifi a'r Cylch.
Aberteifi a'r Cylch. 0 Marwolaeth. Cyfeiriwn at Mr. John Bowen, David: Street, Llandudoch. Yr oedd wrth ei waith fel saer maen dydd Sadwrn, ond bore Sul tarawyd ef yn ei wely, ac ni chafwyd gair o' i enau hyd ei farw bore dydd Mercher. Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Gwr tawel oedd Mr Bowen, a chrefyddwr i didwyll. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn Eglwys Blaenywaen. Claddwyd ef dydd Sadwrn a gweinyddwyd yn y ty, y capel, ac ar lan y bedd gan amryw wein- idogion. O Damweiniau. Mae y rhai hyn yn gyffredin ym Mor- gannwg, ond nid mor gyffredin yn y wlad trwy drugaredd. Fel y gwyr paw.b a ymwelant a Gwbert, Aberteifi, mae yma greigiau ysgrythrog, heb un- rhyw arwydd i rybuddio o'r perygl. Tra yr oedd bachgennym 13eg oed, mab i Mr. a Mrs. W. St. David Griffiths, yn ceisio gosod tan yn yr eithin, tebyg i beth o'r mwg godi i'w lygaid, ac iddo yntau fynd yn wysg ei gefn heb ystyried y perygl. Syrthiodd dros y graig, 70 troedfedd o ddyfnder. Cafwyd trafferth i'w gael i fyny, ac er ei fod yn fyw yr oedd wedi cael gormod o niwed i un- rhyw allu meddygol ei iachau, a bu farw y dydd canlynol. Digwyddodd damwain arall ym Mhenlanuchaf, Crymych, i ferch fechan dwy flwydd a hanner oed, merch fechan Mr Rees George Lewis. Daeth i gyffyrddiad rywfodd a'r peiriant dyrnu fel y malwyd ei chorff, a phan aeth- pwyd i chwilio yr oedd y tu hwnt i aUu meidrol ei hadferyd. Cydymdeimlir yn fa,wr a rhieni y ddau. Cymerodd damwain arall le yn Llan- dyfnog, sef i ddyn ieuanc 15 mlwydd o r enw Edward Gardner. Danfon- wyd ef o'r cae a'r ceffyl i'r ystabl, ond gwyltodd hwnnw, a derbyniodd y bach- gen y fath niweidiau fel y bu farw yn mhen ychydig oriau. Cynhaliwyd trengholiadau, a phasiwyd y ddedfryd o farwolaeth ddamweiniol ar y tri. Cyflwyniad Tysteb. I Mae y Parch. D. Bankes Evans,. cyn- giirad Eglwys Fair, Aberteifi, wedi ei godi yn Ficer i St. Nicholas, Sir Benfro. Bu yn gwasanaethu yn ffyddlon yma am 9 mlynedd, ac yr oedd yn barchus gan Ymnellduwyr ac Eglwyswyr. Cyflwyn- wyd iddo jE40 ar ran ei gyfeillion, fel arwydd o'u parch tuag ato. Cyflwyn- wyd y swm yma iddo gan Mr John Evans, arwerthwr yn y dref. Mae Mr Evans, y Ficer newydd, yn dechreu ar ei waith gyda dymuniadau goreu y dref, a hir oes iddo yn ei faes newydd i was- anaethu ei Waredwr. I Cyfarfod Blynyddol y Nurse. Mae nurses yn dyfod erbyn hyn yn beth cyffredin yn y wlad, ac y mae eu heisiau yn fawr i liniaru poenau dio- ddefwyr. Mae yn y dref hon un er ys deng mlynedd bellach, ac y mae wedi gwneud gwaith anhygoel. Ymwelodd a chanoedd yn ystod y flwyddyn ddiwedd- af yn y dref. Yr oedd nifer yr ym- weliadau am y flwyddyn yn 3,581, yn cynwys 188 o achosion newyddion. Dy- weder a fynner yn erbyn eglwysi a chrefyddwyr, maent yn fwy byw na dosbarthiadau anffyddol i ddioddefaint, ac yn fwy hael i gyfranu i'w cyn- orthwyo. Porth y deml oedd y man goreu i'r gwr cloff, ac yr oedd wedi profi hynny yn ddiameu-felly o hyd. Mae boneddigion a boneddigesau goreu y dref a'r cylch yn nawddogi y nurse, ac yn estyn pob cymorth iddi yn ei gwaith. Penderfynwyd rhoddi pump punt o rodd iddi ar wahan i'w chyflog, a rhoddwyd codiad o zclo y flwyddyn iddi yn ogystal. Rhwydd hynt i Nurse Hawse i barhau yn Grist-debyg yn ei chynorthwy i ddynion mewn afiechyd. ac i liniaru poenau dioddefwyr. Ca- deiriwyd gan Mr Vaughan, Llangoed- more. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parch. Moelwyn Hughes, Parch. T. Esger James, Parch. W. Whitting- ton ac ereill. Y Rheilffordd. Mae Cyngor y dref yn gwneud pob ymdrech i gael cyfleusderau gwell a chyflymach ar y rheilffordd o Whitland i Aberteifi, er mantais y trefwyr a'r ymwelwyr ddeuent yma yn yr haf, ond y maent wedi methu hyd yn hyn. Bydd yn dda gan yr ymwelwyr ddeall fod Cwmni y Nwy wedi penderfynu goleuo y Feidr o'r dref i Llandudoch, yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr. Mae y mas- nachwyr a'r trefwyr ar eu gore yn harddu y tu allan a'r tu rewn i'w tai a'u masnachdai er denu a gosod y lie yn atyniadol ar gyfer ymwelwyr sydd yn dod yma yn yr haf. Mae y wlad yn awr yn ei gogoniant. Mae y gwanwyn wedi gwisgo y meusydd a blodau ac egin a'r gerddi a'r per- llannau ag arwyddion ffrwythau. Clywir y gog a'i dau nodyn swynol. Hi deithia dros y moroedd I ddod i Walia wen, Y tlysaf o bob lleoedd, A'r goreu dan y nen." Disgwyliwn am ydlanau lawnion eto yn y cynhaeaf er diwallu angen dyn ac ani- fail, ac hyderwn y gwelwn luoedd o Forgannwg eleni eto yn dyfod i lawr i yfed awelon balmaidd y mor a'r myn- vdd. Aberteifi. D. JONES.
Caerdydd. I
Caerdydd. I Glofaol. I Prin iawn yw allforiad glo yn bresennol yn y porthladd hwn a'r rhai cylchynol, oherwydd iselder y tal a gyn- hygir am drosglwyddiad llongawl. Y mae yn nociau Caerdydd ugeiniau o longau yn aros yn segur er gweled a dry pethau yn well. Yn ddiameu os na welir cyfnewidiad yn fuan, dywedir y gorfodir rhai cwmniau glofaol i roddi ataliad ar y cynnyrch, gan ei fod yn llawer uwch na'r galw. Nid ychydig yw'r siarad sydd ymhlith glo berch- nogion am ddyfodol y fasnach a'r cytun- deb newydd a fwriada y glowyr ei gynyg yn 1915. Tuedda rhai o'r cwm- niau i sefyll yn dyn yn erbyn unrhyw gyfnewidiad am y rheswm, meddant, fod y gweithleoedd a'r gwaith yn myned yn fwy costus o flwyddyn i flwyddyn. Er yn gobeithio yn wahanol, eto y tebygolrwydd yw y bydd brwydr faith a chaled yn haf 1915, a'm cyngor ydyw ar i bob glowr a gweithiwr perthynol i'r glofeydd ddiogelu ei'hun erbyn yr am- ser hwn. Salem, Canton. t Dydd Sul diweddaf cynhaliwyd cyfar- fodydd blynyddol y capel hwn. Gwas- anaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Hughes Griffiths, gweinidog Capel Charing Cross, Llundain, a'i- Parch. D. Jones, Penarth. Nos Sul canwyd Dyma gariad fel y moroedd ar yr alaw "Cwynfan Prydain," gan Miss Edith Griffiths. Cyfeiliwyd ar yr or- gan gan Miss Davies, merch i un sydd yn arweinydd y gan er's blynyddoedd maith. I Arddanghosfa Darluniau. I Yr oedd yn bleser gennym weled dau ddarlun (water color) gan law Miss Jennie M. Davies, merch D. P. Davies, Ysw., Y.H., Ynyslwyd, Aberdar, yn yr arddanghosfa hon sydd newydd ei hagor. Hefyd, gerfluniau o waith Mr D. Arthur Thomas, gynt o Drecynon, Aberdar. Y mae'r un o Garadog yn ei osgo arweinyddol yn dda dros ben.
I Ysgoldy Danygraig. I
I Ysgoldy Danygraig. I Nos Sadwrn, Mai yr 2il, 1914, cynhal- iwyd Eisteddfod dan nawdd yr eglwys uchod yn yr Ysgoldy. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch. Ll. Bowyer. Cloriannwyd y cantorion gan Mr W. D. Williams, L.T.S.C., Alltw^n y llenydd- iaeth, Parch. D. G. Jones, Pontardawy mwnyddiaeth, Mr D. C. Jones, M.E., Danygraig gwobr gydau, Miss James, ysgolfeistres, The Pines, Danygraig; ambulance, Mr Wm. T. Rees, Edward Street. Gwobrwywyd fel y canlyn :— Unawd, merched dan 16eg oed, Annie L. Jones, Edward Street. Adroddiad i rai dan 16eg: Rhannwyd rhwng Nan Phillips ac Elsie Bibbs. Unawd bechgyn dan 16eg: Arthur Brinley Jones, Danygraig. Traethawd ar Tom Ellis Lewis Jones, Alltwen. Adrodd "Gwron y Conemaugh" Miss Llewelyn, Cwmtwrch. Tenor, David John Phillips. Craig Road. Ambulance, Gofyniadau: Dd. W. Rees, Edward Street. Soprano, Hannah Jones, Railway Terrace. Prize Bag, Annie Williams, Railway Terrace. Mining, Gofyniadau Neb yn deilwng. Bass, Lewis Jenkin Lewis, Gelli- nedd. Pedwarawd, Rees Gwilym a'i gyfeill- ion. Cor Meibion, Danygraig, arweinydd, Rees Gwilym. Ysgrifennydd yr Eisteddfod oedd Hopkin Jones. Trysorydd, William Davies. HIRFRYN.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y RMAI MY". Esgeulusdod ° unrhyw niwatf I rhai hyn drwy ddalll..i.1.t,1I an achosi Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Eftoithial, Er mwyn ysgol paryill rhaid I' ymarfar mown pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANU8 A SION A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn ,1 ei gydombeig gan filoedd fel y tier a diogel a ddarganfyddwy* erioed at iaehau Clwyfau, Ayoholllon, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, OraDh a Nedd yn Mhenau Plant, Llosglad. au, Vlgal. d a n a u S D U r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, C 0 u t, I Cymalau Poenus, h.umt\t. 108, ?!n ? Yr o?d P? fy mln- Cetn, ?. tyn -eWn tat searyiewa. Hynod Gwellhaodd Gom?w B?ai? eHetthtet hi yn bur taM at CL WYFAU ar COESAU. MHoodd yn tystlo Iw Etfolthlau RhyfeddoL RHODDWCH BRAWf ARNO Gwellhad sydd slor Ar werth gan bob Chemilt A Storee an 1/1 J. Gofyner am Coif«r « Balm. II, wch weled enw Jaioi Hughei ar bob blwch. Heb hyn Did yw Kywir. Nea danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamps) at Jaoob Hughes, Manufasturlng Chmw 1st, M.P.S., L.D.8., Ponarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. IF. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tien prynwyr yma ae yn 01 on iddynt enwi TARIAN Y QWBITHIWB. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages. I/- tiet; Post Free 113. Addresses delivered attke Un^^ of Social Service for Waies. A bbooook keevve^ryr Patriot should read. Send without delay to the Publisher8- MORGAN & HIGGS, Publisherst Printers, &o., 18 Heathfield Street, Swansea.