Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DO YOU SUFFER FRONI EYESTRAIN ? CAN YCOET READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? AJKE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. I And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Poiitardawe I»on.1ïada el Y DRYDEDD I EISTEDDFOD Cadeiriol Flynyddol; SADWRN, MEHEFIN 20, 1914. BEITFNIAIO: Y GAN-D. Vaughan Thomas, Yaw., M.A., Mus. Doo., Abertawe; E. T. Davies, Ysw.. F.R.C 0.. Merthyr. LLEN-T. J. Thomas, Ysw., B.Sc., 8arnicol." Merthyr. ADRODD—John ISlias Hughes, Yaw., Llanelli, Gorau Meibion: (a) "The Assyrians came down" (Cyril Jenkins); (b) "Y Cariad Gollwyd 11 (Dr. Vaugban Thomas), £ 30. Oa bydd tri nen chwaneg o gorau'n oystadln oynhygir £ 10 yn ail wobr. Coran Cymysg: The Snmmer Night (Dr. Vaughan Thomas), jei5. Coran Plant: "Autumn Days" (E. T. Davies), f8. Unawdau i Sopranos, Contraltos, Tenors a Bass, i Ddechreuwyr, ac i Fechgyn a Merched, Canu'r Crwth a'r Piano, Cyfaneoddi rhanganeuon. Pryddest: "Baoh dy lwyth wrth y ser." Heb fod dros 300 llineIl. £ 3 3s. a Chadair Hardd. Cyfansoddi Drama, Cywydd, Telynegion, Englynion, Cyfansoddiadau, ao Adroddiadau. Erefnir oylfeasderau teithio ar gyfer y dydd a Chwmsioedd y Rheilffordd am brisiau isel. Bydd Modur yn rhedeg ar hya y dydd o Gastellnedd ao Yaysf organ. Oeir rhestr gyflawn o Destynnau yn rhad trwy y post am lic., oddiwrth yr Yisgrifenyddion- MORGAN JONES a W. THOMPSON DAVIES. Eisteddfod Flynyddol Caerphili SEFYDLWYD 1887. Llungwyn, Mehefin 1, 1914. BEIRNIAID Canu—Dr. Vaughan Thomas, Abertawe; Mr. W. J. Watkins, F.R.C.O., Dowlais; Mr. J. Morgan Lloyd, Barri. Barddoniaeth, Traethodau a'r Adroddiadau-Y Parch. W. Evans, B.A., Penybontarogwy; y Parch. E. Pryoe Jones, B.A., a Mr. Abraham Jenkins, B.A., Gaerphili. Prif-ddarn Corawl, 11 Theme Sublime" (Jephtha). £30 0 0 Coraa Meibion, I Down among the Dead Men (Bantook) £20 0 0 Oorau Plant, 11 Cadwen o Alawon Cymreig 11 (Tom Price) £15 0 0 Englyn, Yr Hydd" ••• 10 6 Pryddest, -1 Murmur y Mor" £3 3 0 Traethawd, "Hen Gymeriadau Plwyf Eglwysilan" £2 2 0 Unawdau Offerynol, £1 1/- yr un Unawdau Lleisiol, 92 2/- yr un Unawdau i Blant, 10/6 yr un. Gyrer am y Rhaglen, i'w ohael oddiwrth yr Ysgrifenydd- J. D. HUGHES, Rhosynfa, Caerphili. FFORESTFACH (Nr. SWANSEA). THIRD ANNUAL Grand CHAIR EISTEDDFOD Whit-Tuesday, June 2, 1914. CHIEF ITEMS. Male Voice Competition," The Assyrian Came Down (Cyril Jenkins), 220 and a Gold Medal. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Mixed Choral, My love's like a red, red rose (Emlyn fcvans), £ 10 & a framed Enlargement. 10/6 to each unsuccessful Conductor. Children's Choral, Sweet and Low (Barnby). 1st Prize, f5 and a Silver Cup; 2nd Prize, £2 and value 7/6. Mining Essay, Explosions in Mines, their causes, and best m9ans for their prevention. Prize f 1 11/6 Drawing of King de Humble Improved Detaching Hook, 91 1/ Drawing of Stoke's Safety Lamp, £ 11/- Rope Splicing (short splice), 1st £ 11/ 2nd 10/6. Ambulance, lat £ 2 2/ 2nd £ 11/ Individual Competition, 1st 7/6; 2nd 2/6. Solos (Vocal and Instrumental), Literary, Instru- mental Quartette, 12. Arts and Crafts Competitions. For further particulars see offloial Programme, post free lid., from the General Secretary- DAVID JENKINS, Gendros, Fforestfaoh, near Swansea. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwrn, Gorphenaf 11, 1914. COBAU MEIBION, "Castella" (Dr. Protheroe) Gwobr JB20 OORAU CYMYSG, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) „ ieio AIL-GORAU MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) „ JE6 PRIF FEIRNIAD Dr. DAN PBOTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddlwrth D. CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Treorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDAY & WEDNESDAY, 1914. ADJUDICATORS Dr. McKnight, Dr. Coward, Emlyn Davies, Esq., A.R.C.M., Brynfab, &c. COMPETITIONS Chief Choral, 2100; Second Choral, iel5; Chief Male Voice, £30-401; Second Male Voice, JElO Juvenile Choir, £ 10 Poem, 3 Guineas and Chair. Brass Bands, Ambulance, Home Nursing, Needlework, Drawing, Shorthand, Poetry Recitations, &c, Programmes, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. Llanharan Eisteddfod Whit-Tuesday, June 2nd, 1914. CHIEF EVENTS CHIEF CHORAL, Insulted, Chain'd." Prize 920. MALE VOICE, The Assyrian came down." Prize 915. SECOND CHORAL," Dyddiau Dyn sydd fel Glaswelltjn." Prize JET. Solos (Vocal A Instrumental), Recitations, etc. For full particulars see Programmes, lid. post free, from the Secretary, ARTHUR MILES. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), £40. Second Male Voice: Little Church" (Becker), 28. Pro- grammes (lid. post free) from-General Sec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. A GRAND Eisteddfod will be held (in aid of the Cottage Hospital) at the Aberaman Park, Aberaman (Kindly lent by E. M. Hann, Esq.,) on Whit-Tuesday, June 2, 1914 when upwards of 9250 will be offered in prizes. CHIEF ITEMS:— Chief Choral: 0 Great is the Depth" (St. Paul). 1st prize £ 40; 2nd prize 910. Male Voice Pilgrims (Dr. Parry). 1st prize RBO; 2nd prize acio. Second Choral: "Arianlorddonenddofn" (T. Gabriel). 1st prize .£10; 2nd prize .£5. Juvenile Choirs: "Song of Holiday" (E. T. Davies). 1st prize .£7; 2nd prize .£2; 3rd prize 91. Brass Bands (Class B.) St. Paul." Prizes 218. Pryddest: Gwobr,24 4s., a Chadair gwerth X4 4s, Ambulance, Essays, Recitations, Solos, etc. For full particulars see Programme, to be obtained from the Secretaries-Handel Harris, 62B Brook Street, Aberaman; W. O. Lloyd, Isfryn, Cwmaman. ETO DDIWRNOD ARALL GWEDDI AM BOB DYDD O'R FLWYDDYN, GAN J. H. JOWETT, M.A., D.D. CYFIEITHBDIG I'R GYMRAEG GAN Y DIWEDDAR WILLIAM THOMAS, LLANGBFNI. GOLYGWYO GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. PRI8 SWVLLT. LLUNDAIN: Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion Efengylaidd, Memorial Hall, E.C. PUBLIC HALL, TRECYNON. PBHFFORMIR "Yr Ysgol" (J. T. Bees, Mus. Bao.) yn y lie uchod, Nos Fercher a lau, Mai 6, a'r 7, 1914, gan GOR PLANT NODDFA. Arweinydd: J. R. KVANS, G. & L. Cadeirydd: W. H. DAVIBS, Ysw., M.E. Drysau'n agot am 7.15 i ddechreu am 7.45 Tocynnau 2s., lB., 6ch. Ysgrifennydd: GWILYM MORGAN, Morlais House. ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Oyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llytbyr-gerdyn oeir Eaiamplau o Adroddiadau Eglwysig, lestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafleni Cyfarfodydd Cerddorol, &o. Pellseinydd Central 161. Cofiwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hoi; ein hawydd ni yw gyrrn'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r & ?an bw n yr ydym yn cynogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM SAMPLAU. EISTEDDFOD All DYFODOL. Llungwyn, Mehefin 1, 1914.—Eisteddfod Flynyddol Caerphili. Llun Gwyn, 1914.-Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrth-Gwyn, 1914. Eisteddfod Aberaman, Aberdar. Mawrth-Gwyn, 1914. Eisteddfod Gadeiriol Fforestfach, Abertawe. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Bargoed. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.—Eis- teddfod Llanharan. Mawrth a Mercher-Gwyn, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Treorci. Dydd Sadwrn, Mehefin 20, 1914. Eisteddfod Gadeiriol Flynyddol Pont- ardawe. Dydd Sadwrn, Gorph. 11, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Forge Fach, Clyd- ach, ger Abertawe. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwnejr4 yn hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi j'r holl ddosbarthwyr brydnawn yr ao dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonani hysbysiadau neu newyddion urgent* ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddfa heb fod yn ddiweddarach na bore Mawrth. Carem gael bob gohebiftttft arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob tra. fodaeth yn dal perthynas a'r "Dariaa" i'r yfeiriad a ganlyn YN UN.IG — SWYDDFA'R DARIAN.' ABERDAR. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wks. IS wki. a. d. s. d. I. d. 20 words 0 a 1 0 1 1 18 „ 0 B < a a 0 36 1 0 < 0 7 < These chargees apply only to the foUow ing classes of advertisements :-Apart ments, Situations (Vacant or Wanted) To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will bit charged. Advertising and Publishing Offieaa Cardiff Street, Aberdare. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lie. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/7! y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwya i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
Nodiadau'r Golygydd.I
Nodiadau'r Golygydd. I Yr Orgraff. I Carem roddi awgrym yn garedig i rai sydd y dyddiau hyn yn gwneud hobi o ymosod ar orgraff Rhydychen. Gellid tybied fod rhai dan yr argraff fod or- graff y Gymraeg yn unffurf ac yn ber- ffaith hyd yn ddiweddar, ac fod yr or- graff newydd sydd yn dod i fri yn per- yglu bywyd ein hiaith. Beth sydd wir ? Onid y gwyn er cof gennym oedd fod orgraff y Gymraeg mewn cyflwr an- obeithiol bron? Yr oedd gan bojb swyddfa ei horgraff ei hun. Nid oedd angen i'r sawl ysgrifennai bryderu am orgraff o gwbl, oblegid gan nad Mit yr ysgrifennai yn orgraff y swyddfa yt an- fonid iddi yr argreffid ei waith. Gwnaeth hyn ysgrifenwyr yn ddifater. Nid oes eisiau ond cymryd i fyny nifer o lyfrau a ysgrifennwyd yn y ganrif ddiweddaf er gweled yr annhrefn poenus yr oedd yr orgraff ynddo. A pha rith o synnwyr all fod mewn haeru fod ysgolheigion diweddar yn lladd yr iaith wrth ddefnyddio orgraff newydd 1 Nid newydd mohoni o ran hynny. Beirniader yr orgraff os mynner, ond gresyn yw defnyddio ystrywiau annheg i greu rhagfarn yn ei herbyn ac i wneud athrawon goreu'r genedl yn destyn gwawd. Gan nad beth ddywedir am deilyngdod yr orgraff newydd, gellir, o leiaf gydnabod fod y rhai sydd gyfrifol am dani yn gwneud ymdrech deg a gonest i symud yr annhrefn y bu cymaint cwynfan o'i blegid. Y Cyntaf o Fai. I Dydd mawr yw hwn yn hanes LIafur I trwy'r byd. Try rhengoedd y gweith- wyr allan mewn lleoedd canolog i ddangos eu nerth ac i ddadlu eu hawl- iau. Ni fu'r troi allan erioed yn fwy poblogaidd nac yn fwy llwyddiannus nag oedd eleni, a diau iddo fod yn fodd- ion ysbrydiaeth newydd i lawer. Heb os nac onibae rhaid i iachawdwriaeth i gymdeithasol y gweithwyr ddyfod oddi- wrthynt hwy eu hunain. Traddodwyd | eleni areithiau cryfion a buddiol mewn llawer lie, ac yr oedd difrifoldeb a soJbrwydd yn eu nodweddu. Y mae i'r ddisgyblaeth undebol, yn ddiau, ddy- lanwad iachus ar rengau y gweithwyr, ac y mae'r symudiad fel pob symudiad da. arall yn cywiro ei gamgymeriadau ei hun wrth fynd rhagddo. Mantais ddi- amheuol fydd yr uniad sydd ar droed rhwng Cyngrair y Glowyr a chyngreir- iau mawrion eraill. Nid mantais i neb yw fod y gweithwyr yn weiniaid ac yn rhanedig. Gall llawer o ansicrwydd a phryder i gymdeithas, heblaw anfan- teision mawr iddynt eu hunain godi o'u gwendid. Y Gweithwyr a Chymru. Yr unig beth y teimlem ei fod yn an- nymunol ynglyn a Gwyl Fawr y Glowyr ar y Cyntaf o Fai oedd fod llwyfannau gweithwyr Cymru o dan yr amodau presennol yn gaeedig i oreuon ein cenedl. Nis gallem lai na theimlo fod rhywbeth yn eithafol chwithig yn hyn. Y mae gennym ddynion a'n cynrychiol- ant yn y Senedd sydd yn werinwyr o'u mebyd, wedi eu magu ym mwthynod a ffermdai ein gwlad, wedi bod yn ffydd- Ion yn eu llais a'u pleidlais i hawliau'r werin, ac wedi gwneud cymaint gwasan- aeth i'n gwlad a neb, pwy bynnag eto nid oes iddynt roeso i lwyfannau gweithwyr Cymru! Yn sicr y mae rhywbeth o'i le yn hyn. Ac nid anawdd, ni a dybiwn, yw rhoi bys ar y drwg. Dylanwad estroniaid ydyw nad ydynt-yn deall nac yn parchu ein cen- edl. Pe cawsai'r elfen estronol fi ffordd ni fyddai i Gymro na rhan na chyfran ym materion ei genedl ei hun, oni allai yngan Shiboleth yr estron ac ymrwymo i gymeryd cwrs sydd yn sar- had ar y goreuon a fagodd Cymru er- ioed. Nid oes gennym ddim yn erbyn estroniaid fel y cyfryw, ond y mae yn fater i weithwyr Cymru i'w ystyried a ydyw o fantais iddynt fod dynion fel William Jones, Ellis Griffith, Llewelyn Williams, Edgar Jones, John Hinds, Ellis Davies, Lloyd George, ac eraill yn wrthodedig yn eu cynghorau, er eu bod wedi gwneud cymaint dros Gymru a'i gweithwyr a neb fu ar y llwyfan y cyntaf o Fai diweddaf. Eu hymdrech a'u llafur hwy a rhai tebyg iddynt sydd er- byn heddyw wedi gwneud y rhagolygon am ddeddfwriaeth lafurol yn fwy dis- glaer nag y bu erioed o'r blaen. Y Gyllideb. Yn y Gyllideb fawr a gyflwynwyd gan Mr. Lloyd George i Dy y Cyffredin ddoe (dydd Llun) ceidw i fyny ei enw da fel cyfaill y werin. Yr oedd ganddo naw miliwn ac wyth can' mil o ddiffyg i'w wneud i fyny i gyfarfod a threuliau'r wlad. Cyfyd y swm enfawr hwn heb ychwanegu dim at draul byw'r gweith- iwr. Ynglyn a threth yr incwm ni chyffyrddodd a'r cyflogau sydd <> dan fil o bunnoedd. Rhaid i'r rhai dderbyn- iant incwm nad ydynt yn ei ennill i fyny i zC3,000 dalu dwy geiniog y bunt yn fwy na chynt. Cyfyd y dreth gyda'r cyfoeth o hyd. Gwelir felly fod Mr Lloyd George wedi Dod yn ofalus rhag trymhau dim ar faich y tlawd. Gwneir darpariadau helaeth yn y Gyllideb i ys- gafnhau baich y trethi lleol. Cwyno sydd beunydd fod y rhai hyn yn lleth- ol, a deddfau, y lmasai gweinyddiad o honynt er lies mawr, yn gorwedd yn farw o herwydd anawsterau ariannol. Bernir y bydd yr ysgafnhad yn y trethi lleol tua naw ceiniog y bunt. Er nad oes dim o'r trethi oedd ar fwydydd wedi eu symud, bydd y cyfraniadau at y trethi lleol yn gryn dipyn o ryddhad i'r tlawd. Fel rhan o'r cynllun i roddi cynhorthwy'r wladwriaeth i awdurdod- au trefol sefydlir trefniant o brisiad cen- enedlaethol i ddibenion trethiant lleol, a bydd gwerth safleoedd tai (site values) yn rhan o gyfundrefn drethu leol o hyn allan. Addewir y bydd y draul' ar y Llynges yn Mi y flwyddyn nesaf, a chredwn y bydd. Pan wel y cyfoethogion mai hwy sydd i dalu ni fyddant mor barod i waeddi am wario.
Ar Lannau Tawe.-I
Ar Lannau Tawe. I Rhoddodd plant bychain yr Ysgol Ddyddiol ddwy gyngerdd ragorol ya y Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos lau a nos Sadwrn diweddaf. Darpar- esid rhaglen hynod o amrywiaethol a diddorol. Enillodd y plant ganmol- iaeth gynnes. Daethai tyrfa luosog ynghyd i'w gweled a'u clvwed. Clywaf fod Seindorf Bres y Mond wedi rh6ddi ei chyngerdd blynyddol yn Neuadd Mond, Clydach, nos lau diweddaf. Cafodd y cynhulliad lawer o ddiddordeb a mwynhad. Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol llwvddiannus dan nawdd Cymdeithas y Bobl Ieuainc yn Ysgoldy Calfaria, Clydach, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd y Parch. T. Valentine Evans, a beirniadodd Mr. Davies y gerddoriaeth, a Mr. J. Lewis Jenkins yr amrywiaeth. Yr ymgeiswyr buddugol oedd Unawd i ferched, Blodwen Martin, Ynystawe. Unawd bass, J. L. Jenkins. Unawd tenor, Willie Walters, Caemawr. Araith ar y pryd, rhannwyd rhwng Willie Rees, Ynystawe, a D. Emrys Davies, Aelybryn. Ysgrif, D. Emrys Davies, Aelybryn. Yn ystod y cyfarfod cadeiriwyd gan y bardd buddugol yn Eisteddfod Llanddewi- brefi, sef William J. Roderick, Canal Cottage, Clydach. Cymerodd nifer o'r beirdd ieuainc ran yn y cadeirio, a chanodd y cyfaill Cornelius J. Jones y gan gadeiribl. Cynhaliwyd cyfarfodydd amryw- iaethol gan fyfyrwyr yr Ysgol Sul yng Nghapel Moriah, Ynystawe, y Sul o'r blaen. Llywyddodd y Parch. Thomas Thomas, gweinidog, a chym- erodd nifer o blant a rhai mewn oed Iran yn y cyfarfod. Bedyddiwyd tair merch ieuainc yng Nghalfaria, Clydach, y bore Sul o'r blaen, a derbyniwyd hwy yn aelodau i'r Eglwys yn yr hwyr. Gvveinvddwyd yr ordinhad gan y Parch. T. Valentine Evans yngwydd tyiia luosog. LLEW.
Llyfroniaeth y "Darian."
Llyfroniaeth y "Darian." Ni chlybuwyd erioed gymaint o gan- mol ar Ddewi, Nawddsant Cymru, ag a glywid eleni. Aeth gwleidyddiaeth am dro dan gwmwl, aeth athrylith yn ddi- werth, addysg o'r golwg, a llyfroniaeth islaw sylw. Ond y mae Dewi wedi mynd, a'r Groglith hefyd yn awr wedi mynd, a'n lluaws cyfarfodydd y mae'n anhepgor cyhoeddi eu hanes i ddarllen- wyr y "Darian" -y maent wedi mynd i fedd am flwyddyn arall, fel y mae'r ffordd yn awr yn glir i ninau ail ym- afly(Tym mhwnc ein testyn eto. Mae yma wmbredd o gwestiynnau yn aros eu tro i weled goleu dydd. Cant ymddangos gynted y bydd cyfle. Cyrnhellwn eraill eto i ysgrifennu, gan fod y Gol. yn awyddus i'r golofn hwn fod yn un mwyaf cynorthwyol i lyfr- garwyr Cymru o bob oedran. 1. Ysgrifenna Edmygydd "Hoff- wn gael gwybod drwy y golofn uchod (Llyfroniaeth y Darian) pwy sydd yn gwerthu llyfrau Eluned a elwir "Gwym- on y Mor." a "Dringo'r Andes," yng nghyda'u pris, fel y gallwyf anfon yr archeb yn foddhaol." 2. Enfyn J. G. i ofyn eto a ydyw cylch eangach presennol y "Darian" yn cyn- nwys yn awr un sydd yn foddlon gwerthu ei gopi o Ardd Aberdar." Yr wyf wedi sylwi," meddai, "fod yr un cwestiwn wedi ymddangos tua thri mis yn ol; ond hyd y gwn i, yn aflwyddiannus. Ond gan fod cylchred- iad y Darian oddiar hynny- wedi cyn- hyddu cymaint. a'r son am dano yn fwy ar led, a'r darlleniad o hono mewn canlyniad gymaint yn fwy, mae yn eithaf posibl y gellir cael allan werthwr yn awr. 3. Mae J.J. yn awyddus am gael y restr ganlynol-Balad y Mochyn Du, Y Ferch o Blwyf Penderyn, a Drws y Seler; Caneuon Die Dywyll, Gwilym Gellideg, Gwaith Gwilym Harri, Garw Dyle, Penderyn; Gardd Aberdar (1854); Y Gog Y Fwyalchen; Llinos Llais Awen (Brychan Bach). Os oes unrhyw ddarllenydd sy'n meddu un o'r uchod ar werth, bydd yn dda gennym glywed oddiwrtho, a'r pris. 4. Llysiaulyfr Price, Cwmllynfell. D.O.D. a ofyn yn mha le y gellir cael copi o'r llyfr hwn, ac hefyd yn gofyn pa un ai cyfansoddiad Price ei hunan ydyw, ynte cyfieithiad o weithiau awduron eraill. Pwy a etyb? 5. Mae D.J.E. yn anfon am wybod pa gwrs sydd oreu iddo ef, yn byw mewn cymdogaeth heb gyfleusderau ysgol nos lie y dysgir "Electricity," i ddod i wybod rhyw gymaint am y wyddor, fel ag i'w gymhwyso i lanw swyddi uwch ynglyn a hi. Os oes unrhyw ddarllen- ydd o'r Darian wedi bod mewn cyffelyb amgylchiadau, bydd yn dda gennym, er mwyn D.J.E.—ac eraill. feallai-pe rhoddai ychydig gynghorion iddo.
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Aberdar.
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Aberdar. Cynhaliwyd y Gymanfa hon eleni ddydd Llun, Mai 4ydd. Yr arweinydd oedd Mr John Harris, Narberth, un o feibion Aberdar, a mab yr enwog Barch. W. Harris, Heolyfelin. Yr oedd y dewisiad yn un tra phoblogaidd ar gyfrif cysylltiadau yr arweinydd a'r cylch, ond yn ychwanegol at hynny y mae'n fab teilwng o'i dad, ac yn arwein- ydd dan gamp. Clywir ychwaneg am dano yn ddiau yn y dyfodol fel arwein- ydd Cymanfeydd Canu. Cynhaliwyd cyfarfod y plant bore'r Llun, yn Noddfa, Trecynon. Llywydd- wyd gan y gweinidog, y Parch. D. Hop- kin, B.A., a chyfeiliwyd gan Mr Ivor Vaughan, o Gwmbach. Caed anerchiad yn y cyfarfod hwn gan Mr Lewis Grif- fiths, Abernant. Amheuai ef a fyddai neb yn y nefoedd ond pobl yn medru canu, ac anogai'r eglwysi i ymroi'n fwy i berffeithio caniadaeth y cysegr. Yng Nghalfaria yr oedd cyfarfodydd y prynhawn a'r hwyr. Cadeirydd y prynhawn oedd Mr J. Pardoe, Cwm- bach a'r cyfeilydd yr Athro Tom Davies. Peth newydd yn hanes y Gy- manfa eleni oedd i foneddiges ieuanc. sef Miss M. A. Watkin, B. A., o'r Ysgol Ganolraddol, areithio yn y cyfarfod hwn. a chynrychiolodd ei rhyw yn ddi- gon teilwng i roddi hawl i chwiorydd gael lie amlycach ar y llwyfan yn y dyfodol a phleidlais yn y Senedd yn ogystal. Dywedodd mai colegau gwerin Cymru yn y gorffennol oedd yr Ysgol Sul a'r Ysgol Gan. a bod eu hangen heddyw gymaint ag erioed i ddiwyllio cymeriad moesol a chrefyddol. Ni olygwyd i fanteision addysg wneud gwaith y rhai hyn ond i'w cynorthwyo i gynhyrchu cymeriad cyflawn. Siar- adodd y Parch. W. R. Lewis, Cwm- aman. Dyma'r Gymanfa olaf i Mr Lewis cyn ymadael am ofal Hill Park. Hwlffordd. a thystiai na welsai Gyman- fa fwy pohlogaidd na'r canu yn effeith- iolach na'r tro hwn yng Nghalfaria. Cadeirydd cyfarfod yr hwyr oedd y Parch. B. Williams, Abernant, a'r cyf- eilydd yr Athro Tom Davis. Yr areith- iwr oedd Mr Tom Evans. Dywedai ef y gwelai fod hen wynebau wedi mynd ond fod ereill yn dod yn eu lie a'r gwaith yn mynd rhagddo cystal ag erioed. Enillwyd y ddwy wobr. y naill am gyfansoddi ton i'r plant a'r llall am don i rai mewn oed, gan Mr T. J. Thomas, Abernant. Caed Cymanfa wych. Yr eglwysi a'u cyfansoddai oedd Abernant, Calfaria, Cwmbach, a Noddfa. Y mae clod yn ddyledus i'r arweinwyr lleol am eu gwaith llwyr ac am lwyddiant y Gyman- fa ymhob ystyr.