Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Wele heddyw y ddau bapur ddaeth i fewn yn y gystadleuaeth i rai dan un-ar-bymtheg. Cofiwch eu darllen yn ofalus. Mae y ddau yn 4diddorol. Buasai yn dda geq.yf fod wedi der- byn dwsin, yn lie y ddau yma yn unig. Hynod hefyd mai dwy ferch a'u hysgrifennodd. Ai merched fydd llenorion pennaf y dyfodol? Gobeith- tiaf y dengys y bechgyn y tro nesaf y medrant hwythau hefyd wneud rhyw- beth yn Gymraeg. 0 dan ddeuddeg, mae'r bechgyn cystal a'r merched. Edrychwch yn y "Darian" nesaf am Gystadleuaeth Mai. Ar waelod y golofn gwelir rhestr arall o Ddiarhebion, a'r llythrennau cyntaf yn gwneud i fyny enw'r un a'u hysgrifennodd. GLYNRHEDYNGOG. (a) Saif y lie hwn ar )an y Rhondda Fach, ym mhhvyf Ystradyfodwg, yn Sir Forgannwg, tuag ugain milldir o'r mor. Awgryma y sill gyntaf ei fod rhwng dau fynydd, y Rhondda ar y Gorllewin, a Gwyncul ar y Dwyrain, a'r sillau olaf fod y lie yn hynod am ei redyn. Y mae Maerdy yn ei ffinio ar y Gogledd a Phendyrus ar y Dde. Yn absenoldeb cymdeith- as o Gymry, mae y Sacson haerllug, yn ol ei arfer, wedi diosg yr enw Cymraeg a'i wisgo i ateb ei dafod anystwyth ef. Un engraifft sydd gennym o enw Cymraeg yr ardal, a hwnow ar Synagog Satan. Rhaid i'r 'Cymry ymgrymu i'w fawrhydi Sacsonaidd, nid yn unig yn enw'r He, ond yn rhaniadau, ac adeiladau cy- hoeddus a chyffredin y lie, megis Heol yr Eglwys yn "Church Street," Heol y Gogledd yn "North Road," a Gorsaf Glynrhedynog yn "Ferndale Station," etc. (b) Preswylir yr ardal gan bobl o wahanol genhedloedd, yn Gymry, Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, Eidalwyr, Indiaid, Americaniaid, etc. Ymddibyna yr ardal am ei mas- nach i gyd ar y gweithiau glo mawr- ion, y rhai a berchenogir gan F. L. Davies a'i Gwmni, yn un o ba rai y bu colledion mawrion ar fywydau yn 1867 a 1869. Y mae eu dull o fyw yn syml ac heddychlon. (c) Mae yma adeiladau mawrion a phwysig. Mae yma Ysgol Ganol- raddol hynotaf y dywysogaeth, am mai hi yn unig sydd a'i haddysg yn rhad ac am ddim, a deil ei llwyddiant i'w gymharu ag unrhyw ysgol arall. Mae yma un o'r Cymdeithasau Cyd- weithredol mwyaf llwyddiannus, a'i gwerth yn cynnwys tua thri ugain mil o bunnau, a'r elw, yr archwiliad diweddaf, yn dair mil ar ddeg, saith cant, saith deg, a dau o bunnau, gydag aelodaeth o dair mil. Mae yma Neuadd ardderchog gan y gweithwyr, gwerth tua phymtheg neu ddeunaw mil o bunnau, yn cynnwys darllenfa a gwahanol leoedd i'r ieuenctyd i chwareu, a Neuadd arall o'r enw Tudor. Mae yma naw o gapelau mawrion a heirdd, dwy Eglwys Loegr, ac un Babyddol, pedwar o glybiau cryfion, lie y gwerthir diodydd meddwol, a chwech o dafarndai mawrion; cae cyfleus i'r ieuenctyd i chwareu arno, a llyn i lithro arno pan fo rhew yn ei doi ag ia. Ac heblaw cledrffordd i'n cario i'r ac o'r ardal, mae cerbydau trydanol yn rhedeg ar hyd yr heol. Ond gresýn meddwl nad yw y ddegfed ran o'r trigolion yn ddigon o Gymry i wybod am Ysgol Ganolraddol Glyn- rhedynog, ond "Ferndale Secondary School Cymdeithas Gydweithredol Glynrhedynog, ond Ferndale Co- operative Society"; Neuadd y Gweithwyr, ond "Ferndale Work- men's Hall"; Llyn Elferch, ond "Darran Lake," na'r Cerbydau Try- ,danol ond Electric Cars." (d) Mae yma draddodiad am y llyn fod morwyn wedi boddi ynddo wrth gyrchu y gwartheg, a methwyd a chael gafael ynddi, am ei bod yn methu cael hyd i'r gwaelod, a gel- wir ef gan lawer yn "Llyn y For- 11 wyn. —Sarah Thomas, 127 (C.), North Road, Ferndale. Y GLAIS. Ar Ian yr afon Tawe Yng nghysgod Craig-y-Pal Mae pentre bach y Glais Wedi gwneud ei wal. Pentre bach tlws yw y Glais, yn Nyffryn Tawe, wrth droed bryn o'r enw Craig-y-Pal, yn Sir Forgannwg. Nid oes neb yn sicr beth yw ystyr yr enw Glais. Nid oes yno siopau mawr, ac y -mae y rhan fwyaf o'r bobl yn gweithio yn y gweithfeydd glo, ac ereill yn y gweithfeydd alcan sydd yn agos i'r lie. Lie Cymreig yw y Glais, ac y mae'r plant yn cael eu dwyn i fyny i i barchu eu hiaith a'u cenedl. Y mae yna lawer o leoedd diddorol yn ac o amgylch y Glais. Yn gyntaf, y cawn Craig-y-Pal. Y mae rhai yn dweyd fod yr Apostol Paul wedi bod ar ei phen, a dyna y rheswm y gel- wid hi yn "Craig-y-Pal." Ar gopa mynydd rhwng Craig-y-Pal a Chastellnedd y mae yna garreg fawr a elwir yn Garreg Bica, a charreg fach arall yn debyg i garreg bedd mewn hen glawdd a adeiladwyd yn yr hen amser gan y Rhufelniaid. Yng Nghastellnedd, tua chwe milltir o'r Glais, y mae yna hen Fynachlog a Chastell. Adeiladwyd y Castell gan y Saeson i gadw y Cymry mewn trefn ar ol iddynt gael eu gorchfygu ganddynt. Y mae Madam Patti yn! byw yng Nghraig-y-Nos mewn Castell o'r enw "Castell, Craig-y- Nos," tua phymtheg milltir o'r Glais. —Sophia Jones, Pant-y-Bugail, I. Glais, Abertawe. I DIARHEBION. M awrth a ladd, Ebrill a fling. A dar o'r unlliw a hedant i'r unlle. G auaf glas, mynwent fras. G well pwyll nag awr. I 'r pant y rhed y dwr. E dwyn hen gath lefrith. M am ddiofal a wna ferch ddiog. A llwedd tlodi, seguryd. R hoi'r car o flaen y ceffyl. j Y n mhob gwlad y megir glew. I M wyaf trwst, llestri gweigion. 0 ni heuir ni fedir. R haid cropian cyn cerdded. G well synwyr na chyfoeth. A dwaenir y dyn wrth ei waith. N i ddaw henaint ei hunan. —Nantywenynen, Ystradfellte, ) Aberdar. [Nodiad Carem alw sylw y ddwy ferch sydd wedi ysgrifennu mor dda yn y gystadleuaeth hon at un trosedd ar reolau Gramadeg Cymraeg a wneir gan y ddwy, sef defnyddio dau j arddodiad (preposition) yn y j brawddegau a ganlyn — Ysgrif- enna'r cyntaf: "heblaw cledrffordd i'n cario i'r ac o'r ardal," a'r ail fod yna "lawer o leoedd diddorol yn ac o amgylch y Glais." Priod-ddull Seisnig yw hon. Dylasai'r cyntaf ysgrifennu "i'r ardal ac oddiyno," a'r ail "yn y Glais ac o amgylch," neu yn y Glais a'r cylch." Byddai yn dda i ysgrifenwyr hynnach sylwi ar hyn ac osgoi'r ddau arddodiad o flaen yr un gwrthrych. -Gol.] I

Advertising

111■■■■=I ILlyfrau a Chyfnodolion.…

Eisteddfod Fforestfach. I

Advertising

! Gadw'r Hen taith.

Colofn y Gohebiaethau.

Advertising