Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Tipyn o Bopeth o Bontardawy.-
Tipyn o Bopeth o Bontardawy. Digwyddai fod Watcyn Wyn yn pre- gethu mewn rhyw fan, a rywfodd neu gilydd daeth awel o wynt a chwythodd y darn papur gynhwysai ei bregeth i ganol y dorf; heb ymdroi, aeth Wat ar ei ol, yn hamddenol, a phan yn ei godi, dywedodd wrth y gynulleidfa, Dyma beth yw dyn yn dilyn ei destyn. Credaf finnau na all na'r Gol. na dar- llenwyr y "Darian" fy nghyhuddo o grwydro oddiwrth y testyn. Dyna'r achwyniad mawr sydd ar bregethwyr, tynnant destyn mewn rhyw fan, ac yna siaradant ar "Dipyn o bob peth," a di- weddant lie gallont, fel Hong wedi bod mewn storm, ac yn dda ganddi gael rhyw gilfach a glan. Mae cadw at y testyn i ambell gynulleidfa yn heth pwysig. Pregethodd yn dda, meddir, a chadwodd at ei destyn. Cadw at y testyn yw fy mhrif amcan wrth ysgrif- ennu, ac o bosibl, pe dywedwn fy meddwl yn onest, mai crwydro oddi- wrtho yw y gorchwyl anhawddaf i mi. Mae yn destyn mor od, a dynion od yn ei ddarllen, a minnau mor od a'r odaf. Ddechreu yr wythnoB cefais gyfrinach gan ryw aderyn, ac ar yr amod na ddy- wedwch chwithau hi, dywedaf hi. Gwaith anawdd yw cadw cyfrinach weithiau, yn arbennig oa yn ddiddorol; mae mor anawdd a chadw dwr mewn "shifa." Mae Tom Jones, Grove Road, Pontardawy, wedi ymuno a Chwmni Dramodol Cymreig yng Nghaerdydd. Bydd yn golled yn y cylch hwn ar ei ol er lleied yw. Dyddorodd lawer cyn- ulleidfa a'i adroddiadau difyr a'i ganeu- on gyda'r delyn. Bu ef a'r Telynwr o Drebannos yn ffyddlon i'w gilydd ym myd hen lancyddiaeth, ond torodd y Telynor y cysylltiad llancyddol trwy gy- meryd at ofalu am eneth un arall, a hynny am ei hoes, hyd angau, ac nid dros Calanmai. Dywedir gan rai, rhai busnesol wrth gwrs, y bydd Telephon Cariad mewn gwaith cyson rhwng Caerdydd ac myl y bont, lie mae mun ddel arall o dan ofal ei mam. Llwyddiant i Tom yn ei fyd newydd yw dymuniad llawer heblaw y crwt hwn. Lie da yw y Bont am englynwyr ac englynion. Dyma damaid anfonwyd i'r Telynor i Frecwast boreu ei briodas: Am oedfa heb ddim adfyd-na chwennych- Hwnnw sy'n gwneyd gwynfyd Mae mara o'i gymeryd Yn fil gwell na'th fel i gyd. Hawdd hwyliaf weddi ddilyth Cei oedfa fawr, cyd fyw fyth." Pa un o feirdd y Bont yw awdur yr englyn i'r "Cryd" sydd a'r cwpled yma yn ei ddiweddu: 0 diws, mae'n llawn o doysach I wpo i ben bapa bach." Dywedodd un o'r epil yn dawel fach, taw hen fab arall ydyw. Mae'r "Cloc" yn cerdded yn dda, ond taw ar'ei ffyn baglau. Nos Wener cyn y diweddaf aeth nifer luosog o o'r lie yma i fyny i'r Brif Ddinas i weled cicio y gwynt. Prynhawn Sadwrn, Ebrill 25ain, claddwyd yr hen dad Thomas Bale, Herbert Street, Pontardawy, ym Myn- went Eglwys Sant Pedr. Gwelodd yn agos 74 o flynyddoedd. Arferion od —a yw arferiad yn "ddeddf," fel eiddo y Mediaid a'r Persiaid? Ymddengys weithiau ei fod. Gofynnodd gwr pwysig i mi dro yn ol beth sydd i gyfrif am yr arferion yma, sef, fod dynion nad ydynt yn aelodau crefyddol yn mynychu lie o addoliad am ychydig o Suliau ar ol claddu, a dynion sydd yn aelodau crefyddol yn cadw allan o'r addoldai am ychydig Suliau ar ol yr un amgylchiad? Paham, eto, y rhaid i alarwyr eistedd i lawr mewn addoldy tra byddo'r gynulleidfa yn canu, tra y maent hwy eu hunain yn canu yn eithaf hapus y tu allan. Cof- iwch taw' nid myfi sydd yn holi ond "hwnnw. Y Ddeiseb Anghydffurfiol." Dyna yr enw roddir ar y ddeiseb anfarwol fu'n merwino clustiau y wlad yr wyth- nosau diweddaf, ond deiseb gydffurfiol oedd. Hwynthwy gariai eu papurau gwynion ganddynt i bob man, a thrwy eu swn undonog hwy y deffrodd awen rhyw fardd o waelod Trebannos i ganu y pennill canlynol: Son am ddeiseb glywa'i yma, Son am ddeiseb glywa'i draw, Swn y ddeiseb sydd yn para- Cerdda megys mun mewn braw. Y mae adsain Yr hen ddeiseb dros y byd." Deallaf fod amryw o ddiaconiaid Eg- lwysi Anghydffurfiol y cylch hwn wedi bod mor ben feddal a rhoddi eu henwau wrth y ddeiseb dwyllodrus hon, ond rhaid cydnabod fod pob ystryw wedi ei harfer er cael enwau wrthi. Gofynnwyd i un o Anghydffurfwyr Cilybebyll un diwrnod, "A gyfrifai efe yn deg i'r Llywodraeth ddwyn Mynwent yr Alltwen oddiar yr eglwys honno 1" Na fyddai ddim yn deg." ebe'r dyn. A ydych yn ei gyfrif yn deg fod y Llywodraeth yn ceisio dwyn Mynwent I St. Pedr oddiarnom ni 1" "X ac ydyw ddim yn deg," ebai'r dyn drachefn. Gyda'r gair olaf dyma ddarn o bapur allan, a gofyn am i'r dyn roddi ei enw arno. "I ba beth?" meddai. Er dangos eich bod yn gwrthwynebu dwyn y mynwentydd," meddai'r Eglwyswr. Eto, yr oedd nifer o ferched Ysgol Ystalyfera yn myned i fyny yn y tren un noreu i'r ysgol, ac aeth dynes ieuanc o'r Bont i fewn atynt. Digwyddodd fod dau fonwr cyfrifol i fewn ar y pryd. Cyn i'r tren gychwyn, dyma y ddynes yn gofyn i'r ineched hynny i arwyddo eu henwau wrth y ddeiseb. Nid oedd yr hynaf o'r merched dros 18 oed, er fod y ddeddf yn gofyn bod yn 21ain cyn y gellir llaw-nodi deiseb. Dywedodd un o'r bonwyr wrthi yn garedig am I osod y papurau yn ol yn ei Ilogell, ac felly y bu. A oes hawl gan ddyn i feddwi? A oes hawl gan dafanwr i feddwi ei gyd- ddyn ? A yw yr Heddlu yn gwneyd eu dyledswyddau yn y Bont ac o'i ham- gylch? Atebir y tri o lawer cyfeiriad, Na." Llythyrren farw yw deddf Balfour, a'r sawl a delir am edrych fod y deddfau yn cael ufudd-dod yn farw am wn i hefyd. Lleiheir y tafarndai, telir iawn i'r tafarnwyr, i'r darllawyr, a'r landlordiaid am hynny, ond mae meddwdod ar gynnydd, a'r tafarndai sydd a thrwyddedau ganddynt yn cael eu helaethu, a'u perchenogion yn cryn- j hoi eu haur wrth y miloedd. A yw yn iawn i aelod crefyddol fyn- ychu tafarndai? A oes cysondeb fod unrhyw aelod yn olaf yn dyfod o'r dafarn ar nos Sadwrn, ac yn nghyntaf un i sfgor ei safn y Sabath i gymell a chynghori 1 A yw diaconiaid ein heg- lwysi a'u gwisgoedd yn lan o'r arferiad ? Ai nid yw Eglwys Crist yn cael ei sarnu gan ei haelodau ei hun ? Ai gwir y dy- wediad fod ofn ar weinidogion a swydd- ogion ein heglwysi alw y cyfryw dros- eddwyr i gyfrif, rhag iddynt ddiwreidd- io y gwenith gyda'r efrau ? Ni fwriadaf gynnyg at ate-b y gofyniadau, ond gadawaf hwynt yn agored i'r sawl a fynno feddwi am danynt. Maent yn hawlio ein sylw dwysaf a difrifolaf. Nos Sadwrn, Ebrill y 25ain, digwydd- ais fod yn llygad-dyst o un o'r golyg- feydd mwyaf difrifol a phoenus i mi, ac i ereill sydd yn ceisio meddwl rhywbeth am sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal, sef gweled diaconiaid ac aelodau ereill yn dyfod allan o dafarndy arbennig yn y bont yn gymysgedig a dynion aflan eu hiaith a'u moesau, a'r oil yn ddi- eithriaid a phennau trymion a choesau gweinion. Pa hyd bobl, y twyllwch eich hunain? Ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon. Nis gellwch fod yn y goleuni a'r tywyllwch yr un pryd. Y Parch. Roland Evans, Bethesda, Ynys Meudwy, bregethai yng Nghapel yr Alltwen Sabath, y 26ain. Yr oedd yr Efengyl bregethai yn gref. Mae Mr David Rees, F.R.C.O., or- gannydd yr Alltwen, wedi ei ddewis i fod yn organnydd Bethania, Dow lais. Nis gwn a a ai peidio, os â, bydd yr eglwys heb weinidog, heb arweinydd i'r gan, heb organnydd-tair safle bwysig yn hanes pob eglwys, ac angen doeth- ineb mawr wrth ddewis rhai i'w llanw. Nid trwy gydymdeimlad, nid trwy ofn slafaidd, ond trwy farn deg a sanctaidd. Gwelais yn ddiweddar dipyn o hanes Eglwys Danygraig yn y "Tyst" gan un J.H., ac yn yr "Observer" gan un E. T. Da gennyf gael ar ddeall fod y gangen hon o'r Alltwen yn ffrwytho ac yn aml- hau, a bod llwyddiant amlwg yn ei dilyn. Bu yn ffodus mewn gweinidog da, ffyddlon i'w egwyddorion; pre- getha'r Gwirionedd yn unol a'i ddeall a'i argyhoeddiad, ac nid ceisio rhyngu bodd dynion, fel y sylwodd un o'r diaconiaid ar adeg ei sefydliad, ei fod yn credu ei fod yn "Anfonedig Duw gofoeithio ei fod yn dal i gredu yr un peth. Tebyg nad yw Eglwys Dany- graig ddim yn llwyddo heb orfod myned trwy ofidiau. Gwelais yn ddiweddar ei bod wedi ei hergydio yn drwm gan angeu. Mae gweithwyr goreu'r ne' Yn marw yn eu gwaith, Ond ereill ddaw'n eu lie Ar hyd yr oesoedd maith. Yn ddiweddar cyfarfyddodd ei diacon hynaf a damwain trwy syrthio a thorri ei glun, ac efe yn dri ugain a deuddeg oed, sef yr hen dad Thomas Richards, Dyffryn Road, Alltwen. Brodor yw o Gwynfe, ac un sydd wedi gweled llawer ystorm yn ei ddydd, ac un, yn ol a glywais, y mae yr eglwys fechan yn ei anwylo, ac yn falch o hono. Gobeithiaf y ca adferiad buan, er mwyn ei hun, ei deulu, yr eglwys, a'r ardal. Gwell yw enw da nac enaint gwerth- fawr. Mae y Toriaid yn dofi, a'r Brenin Iorwerth a'r Iwerddon yn debyg o fyn'd i'r fagl. Rhowch ddigon o raff i'r diafol ac fe grog ei hun. Dylasai fod yngharchar er ys misoedd. Cafodd I Tom Mann garchar am ilawer Ilai tros- edd nag eiddo Carson. Hyderaf y daw y gwalch i'w gyflawn bwyll bellach. BRUTUS. <
[No title]
I Am bob math o Argraffwaith ymo fyncy yn Swyddfa'r "Leader" a'i "Darian," 19, Cardiff Street, Aberdat.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. Onid ydym yn cael tywydd ar- dderchog yw iaith pob un yma ym- ron. Mae cerddi maes a mor yn soniarus yn ein clyw; gwena blodau fil wrth ein traed, a chan adar dirifedi uwch ein pen nes yw byw ar y Llechweddau yn ddymunol dros ben. Mae'r gerddi yn fawrion yn y cylch, ac wedi eu gosod ymron i gyd, ond cwyna ambell i amaethwr fod y tir wedi caledi gormod i fyned ymlaen a gwaith arferol tymor y gwanwyn. Melys yw awel a haul ar y Llech- weddau. "0 dan fachau afiechyd," er hynny, y mae ami i un y ffordd hon. Gwlyb- aniaeth y gaeaf wedi gadael ei ol arnynt. Dyna hanes Mr. Benjamin Rees, Penyrallt, Trimsaran. Ewythr 1 Ben Bowen, a'r unig ewythr o du ei fam sydd yn aros ar dir y byw. Gresyn na chaem ganddo i ysgrifennu achau Ben Bowen o du ei fam. I'r ewvthr diddan a daionus hwn y canodd Ben yr englyn canlynol: — "Croesawu Newyrth Benjamin adref o'r Weriniaeth Arianin, De America. Uwch eigionau iach ganodd—o'r mor mawr, Mi wn Cymru welodd; Yn ei ddiluw addolodd ei Dduw'n lion, A mor o gofion yng Nghymru gafodd. "Y Meddyg Da gyffyrddo a'i glwyf, a diwedd ei oes fo'n dangne- fedd. Y Parch. Benjamin Humphreys, Felinfoel, weinyddu yng nghyfarfod- ydd blynyddol Trimsaran. Bu'r Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, yn Llwynypia, Cwm Rhondda, yn efengylu y Sul diwedd- af. Gweinidog Mynachlogddu a gweini- dog newydd. Crosshands oedd yn Rehoboth, Pump Heol, Sul diweddaf. Yma y gweinidogaetha y Parch. J. Llywelyn Hughes, awdur "Geiriadur y Teulu a'r Ysgol"; "Gramadeg y Llenori; "Y Llenor Bach," ac yn olaf i gyd, Prydeiniaid o Fri," pris is., a'r awdwr ar gyffiniau y pedwar ugain oed yn ei ysgrifennu. Rhaid credu wrth feddwl am egnion meddyl- gar ac ymchwilgar y gwr hwn nad oes heneiddio i feddwl. Hyderwn y ca Mr. Hughes bob cefnogaeth ynglyn a'r anturiaeth hon. Gyda Haw onid yw yn bryd i Eifionydd fynnu ei adgofion oddiwrtho i Oriel y "jGenhinen"? Y mae Mr. Hughes yn dal yn gryf ac yn iach ac yn pre- gethu yn gryf Sul ar ol Sul. Y mae cwmni newydd wedi ym- gymeryd ag ail agor gwaith glo ar Fynydd Sylen. Mae llawer un y ffordd hon yn llawenychu yn nyrchafiad Gwili i olygyddiaeth y "Seren." Rhai go frwd dros ei gilydd yw gwyr Caer- fyrddin. Wele gyfarchiad englynol un o feirdd y Llechweddau iddo:- Ein Gwili hygar yw'n Golygydd- sydd A'i swyn mor ysblenydd; Mae'i rin hoyw mor newydd- Hardd ei air fel bore ddydd." Agorwyd pabell y Rechabiaid yn Horeb, Pump Heol, nos Fercher di- weddaf. Gelwir hi yn Pabell Mynydd Horeb. Yr oedd gwyr blaenaf yr Urdd yno, ynghyd a Mr. Bowen, gweinidog Horeb. Ymunodd llawer a hi, ac nis gall na ddel daioni mawr ohonni yn y cylch. Llwyddiant iddi. MYRDDIN MIN Y MOR.
Nodion o'r Gogledd.
Nodion o'r Gogledd. GAN "GLYNDWR." I Dramodau sydd yn y gwynt yn y Gogledd yma y dyddiau hyn. Nos Iau, cyn y diweddaf, bu Cwmni y Ddraig Goch, Caernarfon, yn per- fformio Beddau'r Proffwydi" ym Mhwllheli, a chawsant dy llawn a gwrandawiad astud. Fe glywir yn ami fod y cwmni hwn-sydd wedi ei ddewis gyda Chaerdydd i fynd i'r ymdrechfa derfynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf ym Mangor-yn llawer gwell perfformwyr nag a ofynnir gan y ddrama hon. Rhaid cael naturioldeb gyda phob peth, yn neilduol ynglyn a bywyd Cymreig. Yn fy marn ostyngedig i y mae am- ryw bethau annaturiol yn y ddrama hon, er cystled ydyw. Ofnaf mai ei phrif amcan yw ymosod ar fywyd crefyddol Cymru, yn arbennig ar y "set fawr." Ond yn fyr at bethau annaturiol y ddrama. Er engraifft, fe wyddis fod cyfar- fod y blaenoriaid gyda phob enwad yng Nghymru fel y "cabinet" ei hun. Ni chaiff neb ond y gweinidog a'r blaenoriaid fyned y tu fewn i'r drysau. A gwae yr hwn a fradycha gyfrinach y "set fawr." Ond yn y ddrama hon ceir rhai yn rhuthro i fewn ac allan o gyfarfod y blaenor- iaid-peth hollol annaturiol. A daw Mr. Vaughan, gwr yr Hafod, i fewn, a phlediant dros y Sgweier! Beth waeth gan y Sgweier am na chapel na set fawr? Rhodder iddo "geffylau rasus a bydd ar ben ei ddigon. Nid wyf yn hoffi, ychwaith, waith Emrys yn ceisio saethu ei hunan yn y tlotty, a hynny gyda llawddryll, er yn hollol ddieithr i'r Cymry! Ond ,icr y cwbl, y mae yn ddrama gampus ac yn ddinoethi llawer peth a alwai am hynny. Addewais roddi ychydig o hanes perfformiad y ddrama, "Esther," o waith Mr. Beriah Gwynfe Evans. Drama Y sgrythyrrol ydyw, ac yn un odidog iawn. Perfformiwyd hi ddwy- waith gan Gwmni y Fenai yng Nghaernarfon, ac y mae ganddynt ymrwymiadau mewn lleoedd ereill. Yn awr y newyddion.—Llawer o barotoi ar gyfer Eisteddfod M6n yn Llangefni y Llungwyn a'r Mawrth- gwyn. Testyn y gadair, "Y Breudd- wydiwr" (pryddest). Hefyd ceir gwobr o ^5 5s am y ddrama oreu yn ymwneyd â. bywyd gwerin Cymru heddyw. Llawenydd i ni fel Gogleddwyr yw deall fod y bardd a'r dramodwr, Mr. R. A. Griffith (Elphin), wedi ei benodi yn ddirprwy-ynad cyflogedig Merthyr a'r cylch. Mab yw efe i'r diweddar enwog loan Arfon, Caer- narfon. Cymer llawer o fechgyn ieuainc yr ardaloedd hyn ddiddordeb mawr yn arddangosfeydd adar, etc. Cynhali- wyd un felly yn Llanberis yn ddi- weddar, a throdd allan yn llwyddiant perffaith. Cwyna athrawon Sir Ddinbych nad ydynt yn cael digon o gyflogau, a bygythir streic, tebyg i'r un fu yn Swydd Hereford (Henffordd). Mae paentwyr Caernarfon wedi penderfynu ffurfio undeb yn y dref. Yr wythnos ddiweddaf cynhaliodd II Wesleyaid Gogledd Cymru eu cyfar- fodydd blynyddol ym Mangor. Siaradwyd yn frwd ar gael undeb agosach rhwng y gwahanol enwadau Ymneillduol yng Nghymru. Dydd Iau oedd y "diwrnod" mawr, a daeth llu o ddieithriaid i'r ddinas esgobol i glywed y pregethau grymus. Mae eglwys Siloh (M.C.), Caer- narfon, yn parotoi i gael gweinidog.
[No title]
Ceisia gweithwyr y Glamorgan Col- lieries, Llwynypia, ddarpar yno ysbyty ar gyfer damweiniau. Y mae aelodau y drysorfa feddygol yn y lie hwn er's tro wedi bod yn meddwl am godi cein- iog y pen i'r diben hwn. Bwriedir ymgynghori a chyfarwyddwyr y lofa ar y mater yr wythnos hon.
Colofn y Beirdd. I
Colofn y Beirdd. I Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. -I PLANNA FLODAU. I Planna flodau cydymdeimlad, Nid yw hyn yn orchwyl drud; Y mae eraill yn dy ganlyn Ar hyd pigog lwybrau'r byd. Gall fod angel yn dy wylied Pan yn plannu'r blodau tlws; Gall mai Duw sy'n anfon cennad Lawer adeg at dy ddrws. Fe dyf blodau'n ngwaed yr a berth— Paid ag ofni plannu rhain; Y mae'n werth mynd at yr allor Er mwyn gweld y rhosyn cain; Ar hyd llwybrau'r anawsterau Y cei weld telynau Duw; Yno, mewn unigrwydd taweJ, Tyr y seiniau ar dy glyw. Cerdd trwy lwybran y eysgodau, Planna flodau ar bob llaw; j Yno mae y gwan yn rhodio, 1 Yno mae'r grynedig law; Ti gei'r llesg a'r gorthrymedig 0 dan faich gofidiau oes; Gwrando'r lief sy'n galw arnat- Planna flodau wrth ei groes. Dunvant. H.J. CERDDI'R MOR. Noson ar y Traeth. Rhodio'r traeth yr ydwyf heno, Yng ngoleuni'r lleuad dlos; Hawdded ydyw dwys fyfyrio, Yn nhawelwch dwfn y nos! Melys ydyw oedfa'r tywod- Oedfa lawn o symledd hardd, A'r awelon a'r gwylanod, Yn addoli gyda'r bardd. Lonned ydyw dawns y cregyn, Sydd yn harddu'r eang draeth; Clywaf eu hochneidiau'n esgyn Am ffyddlondeb cefnfoi- maith. Hardded ydyw'r tonnau gwynion, Sy'n ymdorri ar y graig, Ac yn sibrwd hen gyfrinion, Cyfareddol serch yr aig. Ar eu bronnau'n crynu, crynu, Gwelaf ddelw, lan y Iloer, Hwythau oil yn ei chusanu, Rhag i'w chariad fynd yn oer. Ustl mae greddfol lais yn galw, Ar y llanw eto'n ol; Dychwel yntau'n welw, gwelw. Gyda'm hiraeth yn ei gol. Barry. TYWI EVANS. UNDEB. ) A deimlaist di, fy nghyfaill hoff, Hyd llwvbrau llwyddiant diball, Erioed ryw awydd ynnot am Roi help i rywun arall, Oedd bron a chwympo o dan bwys Ei faich, a dydd caledi Yn nesu'n araf at ei ddrws, Ac yntau yn dihoeni. A deimlaist di erioed fod nerth Mewn Undeb yn dy fywyd? A wyddet y gall Undeb droi Tvmestloedd dyn yn hawddfyd? Ddeallaist di fod dyn i fod I ddyn yn frawd o galon,- Ac mewn cyfyngder ar bdb pryd I dwyallt ei fendithion." Os gwyn yw llwybrau'th wanwyn di, Os llawn yw'th fwrdd o foetliau, Ni wyddost pa mor fnan daw I'th gwrdd ddiwrnotl eisiau; Bvdd civmni'n felys y pryd hyn, Bydd cvmhorth yn dderbyniol; Prvd vma v canfyddi w erth Aur ddolen fawr Undebol. Hyd eto ni fu sang ei draed Erioed ar faes gabnas, Ond hebddo mae yn ddigon gwir Y rhwygwyd llawer teyrnas; "Mown Gndeh y mae Nerth 1 « gael Orchfyga wreng a Luncdci; A than ei deyrnwialen ef Mae heddwch ar ei orsedd. DEWI CARON. Tregaron, Ceredigion. GWYNGYLL HUGHES Yn Bedwar Ugain Mlwydd Oed. Mae Gwvngvll fel ar ysgafn droed, Mor lion a aiddgar ag erioed, Pan dros ei bedwar ugain oed Yn myd y poen a'r cwynfan. Mewn uchel barch er gwaethaf brad- Yn fvw i weini er lleshad, Yn Gymro cywir cyran. Er budd i'w briod hoff a'i blant, Caed ugain eto i wneud cant, I fyw yn dda fel didwyll sant, Er cysur yn eu cwmm; Mae-r farf ar gwallt fel gwyndra gwlan, Yn ddarlun o'i gymenad glan, Mewn sel frwdfrvdig sydd fel tan Ar Iwybrau ei ddaioni. Er pan y daeth ar daith yn rliydd Fel hogyn glan i Bontypndd, Edmygir ef ar hyd ei ddydd Yn rhin ei garedigrwyd", Fel cymwynasydd yn ei oes, A gwir gymvdog 11a wna loes, Mae'n evfaill hoff mewn dysg a moes, Yn llawn o ddiniweidrwydcl. Nid yw wrth deitliio hyd yn hyn Yn dilyn ffasiwn gwyr y ffyn, Gall fyn'd heb non i gopa bryn Go uchel ar ei yrfa; Gall yn ei gynefinol nerth Ymlwybro dros y rhywiau serth,- Nid yw fel gwael-ddyn sy n -1 r Yn deisyf am orffwysfa. Er dod fel brodor o Sir Fon, I'r De i fyw heb enfawr bo n. Yn ngwlad Sir Forgan mae'r mawr son Am ei weithgarwch helaeth; Nid oes er dyddiau If or Hael Iforydd gwell na Hughes i gael, Mae ei ddvlanwad vn ddiftael, Fel brawd o blaid Iforiaeth. Mae'r cynyrch da o hono dardd, Tra'n Uenor gwych a chywir ta?rd',d., Yn uchel fri i'w fvwvd hardd, Ar hyd ei flwyddi meithion, Prynhawn ddydd teg yn lion ex wedd Fo iddo mwy mewn hyfryd hedd, Fel bonedd ar ei esmwyth sedd, Ar ol caledwaith cyson. Edwardsville, Treharris. D.E.
Advertising
Rolled Gold Pince Nez Frames Fitted to your own Lenses, and guaranteed not to change color Price 8/6 Complete With Metal Case et Cord Visitors to London should Call and have their EYESIGHT TESTED FREE OF CHARGE. Spectacles and O /C complate Eyeglasses from "/w complete Illustrated Price Lists Poat Free. Dylai Ymiaeltayr a Llundain alw a chael profi eu GoltIJK yn Ddidal. Spectol neu Wydrau Llygaid o 2/6 i fyny, yn gyflawn. Acfonir rhestr o'r Prisoedd, yn egluredig yn ddidal drwy'r llytbyrdy. '.l' ..1.: OJ ,) C}'" Send your Old Spectacles and have them fitted into a Best Quality ROLLED GOLD FRAME, Price 8/6 Complete. Guaranteed not to change Color. ELEGANT IN APPEARANCE BLACK MOROCCO OPERA GLASS, with Case, 7/6. Best Quality Aluminium OPERA GLASS, 12/6. Real Pearl & Aluminium OPERA GLASS. 15/6. Useful Presents SPECIAL VALUE. ANEROID BAROMETERS, 12/6. 15/6. 1 7/6. As Illustrated, Guaranteed Accurate ANEROID BAROMETERS, Circular Pattern. 8/6. 10/6. 12/6. High Power Long Range ACHROMATIC FIELD GLASS with Sling Case, 15/6 Cheaper Quality, 12/S The Ideal Glass for Territorials, Scouts, etc. High Power READING GLASS FOUR SIZES. 2/9, 3/9, 4/3, 4/9. Most useful for examining Maps, Photographs, etc. SPECIAL VALUE IN Folding Reading Glasses 9d. & 1/3 SPECIAL "BARGAINS. Garden or Greenhouse Thermometer 1/3 Scouts Pocket Compass 9d. Eyeglass Cleaner 3d. Chatelaine Spectacle Case 1/6 Table Microscope 1/3 Botanists Pocket Lens 1/6 'Best Quality Goods only. Cure sour Sore Oil Weak Eges With "Diamond" Eye Ointment. POST 1/14 FREE. "Diamond" Skin Ointment Cures Eczema, Ulcers, and all Skin Diseases. POST Ilti FREE. OPTICIAN TO THE I LONDON TEACHERS AND TUB LONDON COUNTY COUNCIL STAFF ASSOCIATIONS. CYRIL GARDNER, F.S.M.C., I Qualified Optician,* 292 HOLLOWAY ROAD, LONDON, N. C oft Weft alto yma pan yn Llundain, Cash returned in full if Goods are not to your entire satisfaction. Dychvelir yr Arian yn llaWn oni rydd y ntoy- ddau foddlonrWydd hollot.