Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
" Cenhinen " Ebrill.
Cenhinen Ebrill. GAN "BRYNFAB." Gyda chaniad y gog dyma "Genhin- en y Gwanwyn yn gwneud ei hym- ddangosiad. Gobeithio nad wyf yn mynd i dir gwaharddedig wrth gyplysu y tymor tirf a'r rhifyn hwn o'n cylchgrawn cenedlaethol. Bid a fynno, dyma y Genhinen" mor wyrddlas ag erioed, heb gymaint ag arliw y deifwynt Gogleddol arni. Rhoddir y lie blaenaf yn y "Genhin- en hon i ysgrif o eiddo y Parch. Rhys J. Huws—"Curiad y Galon." Yn ddiddadl, dyma amheuthyn i bob darllenydd. Mae yn llawn o fywyd ac yn sylweddol dros ben. Cymer yr awdur olwg eang ar ei destyn, a thrinir ef yn ei wahanol agweddau. Bardd yn ei wisg ryddieithol a welir ynddi o'r dechreu i'r diwedd. Wedi ei darllen gyda bias, teimlwn awydd am weled eraill o'n prif-feirdd yn ysgrifennu mwy o ryddiaith, a llai o farddoniaeth. Yn asbri yr yspryd cenedlaethol yr ydym ynddo dig'on amserol yn traethiad yr Athro Miall Edwards ar "Genedl a Chenedlaeth- oldeb." Mae nod y dysgawdwr yn amlwg yma, ond rhywfodd rhai lied sychlyd yw yr athrawon bob amser. Ond feallai na fyddai yn iawn dis- gwyl llawer o ireidd-dra oddi\\rthynt. Pob un a'i grefft yw hi yn y byd yma. Pwy yn well na'r Vinsent i roi cipdrem ar oes hir a gwaith Pencerdd Gwalia. Nid yn ami y byddwn yn cwrdd a'r Marchog y tuallan i gylch y Maen Llog. Dylai ysgrifennu i'r "Genhinen yn amlach. Duw a Damwain" yw testyn y Parch. J. Lewis Williams, M.A., B. Sc. Swnio dipyn yn ddieithr mae y pennawd, ond traethir arno yn ddigon eglur, a cheir yma fwy o synnwyr nag a glywfr yn ami ar destyn mor gyfrin. Byddai yn dda i ambell bre- gethwr drysori yr ysgrif hon ar ei gof. Y n ddiweddar iawn gwelais a -chlywais Duw yn cael cam yng nghysgod damwain. Barnedigaeth yw damwain gan rai, ond dyn heb feistroli deddfau Duw ydyw gan yr awdur hwn, a phwy feiddio ddweyd nad yw yn iawn? Dyma y Gol. wedi gogleisio y Patriarch o Landinorwig at ei waith unwaith eto. Ym "Mangofion Oes" mae Samuel Jones, ac yntau yn fab wyth deg ac wyth o flynvddoedd, a'i feddwl a'i vsgrifell mor hoew ag erioed. Cefais bleser mawr wrth ddarllen ei ysgrif flwyddyn yn ol, er ei fod ef yn nodi yn yr ysgrif hon mai ei ddarlun o'r Gol. oedd yn fy ngoglais. Wel, ag addef y gwir, mi gefais gymorth chwerthin yn y dar- lun-yr oedd mor "true to nature," ys dywedai plentyn Daniel Owen. Ond heblaw hynny, mwynheais i, a mwynhaodd pob un arall bopeth ag oedd yn yr ysgrif honno, yn annibynn- ol ar y desgrifiad o daerni y gwr sydd ag "ofn cael annwyd. Dim ond rhagymadrodd yw llith presennol y Patriarch. Addawa ysgrifennu hyd nes y byddo yn gant oed. Rhwydd hynt iddo i wneud hynny. Ni flina neb arno. Dichon y bydd ei sylwad- tu ar "fyw yn hen" yn foddion i gael gan y Gol. byrr ei wynt benderfynnu byw hyd yn gant hefyd-er mwyn y "Genhinen" a'r Orsedd, heb son am ddim arall. Fe wyr pawb am Plenydd, y dirwestwr selog. Ceir parh&d o'i atgofion yma, "0 Gell Cof Plennydd." Fel y buasai yn nat- uriol disgwyl dirwestiaeth a gai y sylw mwyaf ganddo ef mewn ysgrif. Ond prawf yr un sydd ger fy mron y mcdr ysgrifennu yr un mor fyw ar bob math o destyn. Mae yma gym- aint o ddoniolwch ag y medr neb ei fwynhau yn ei ddesgrifiadau o'r hen gymeriadau y daeth ar eu traws. Gall ef osod bias ar bopeth yr ymgymero ag ef. Ni wnaeth cogydd llenyddol beth mwy blasus na'r ysgrif sydd yn y rhifyn presennol. "Rhai syniadau am Farddoniaeth" sydd gan "Cad- wallon." Mae enw yr awdur yn gynefin i ddarllenwyr y Genhinen," os nad ydyw ei berson felly. Mae yn fardd, pwy bynnag ydyw, ac yn -ddigon hyddysg yn y cysawd barddol. Gwyr sut y mae gwin ci yn ei goes," i'r dim. Daw T. E. Nicholas -o dan ei lach, a hynny yn lied drwm, am i'r bardd ddweyd ei feddwl yn bur groew mewn rhifynnau blaenorol. Ond ni fydd bardd y Glais farw o dan y driniaeth hon eto. Mae y sawl sydd y n medru ergydio yn drwm wedi ei gynysgaeddu a nerth i dder- byn yr "hen chwech." Rhaid i feirdd gael traethu eu barn-dyna sydd yn cadw ein hanner yn fyw. Tamaid blasus yw araith Pedr Hir oddiar Faen Abergafenni. Efe yw colofn yr Orsedd bob amser-mewn hyd a lIed-corfforol a doniol. Ysgrif doreithiog o wirioneddau didroi yn ol yw eiddo Mynglwyd ar "Yspryd yr Oes a'r Eisteddfod." Mae yr awdwr yn wr cyfarwydd a Gwyl y Genedl a'r holl fanylion -cysylltiedig a hi. Tery gyda gordd Hercwlff ar y sawl a'i diraddia, ond mae yn ddigon gonest i nodi ei diffygion hefyd. Dengys gynefindra ag hanesion yr hen Eisteddfodau a r sawl oedd yn cystadlu ac yn beirniadu ynddynt. Daw hefyd ar draws Eisteddfodau diweddar, a gesyd ei gyllell finiog mewn llawer pothell oedd yn galw yn uchel am yr oruchwyliaeth. Daw i lawr yn drwm ar enwadaeth mewn cysylltiad a dewis beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol, a gesyd dan yng nghynffonnau yr hiliogaeth sydd wedi myn' d i gredu mai dim ond hwy sydd yn gwybod y ffordd iawn i farddoni. Dylai yr crthygl hon fod yn foddion diwygiad mewn cysylltiad a'r Wyl Genedlaeth- 01, ac, yn wir, mewn gwyliau Ileol hefyd. Mae yn amlwg fod yr awdur yn fardd p'rofedig, yn ogystal ag yn llenor cyfarwydd. Gwelir ei fod mewn ysbryd difrifol. Nid er mwyn dial y mae yn traethu mor ddifloesg- ni. Ac nid oes cysgod grwgnach ar ei waith. Pe rhoddasai ei enw priodol wrth ei ysgrif, aethwn yn unig swydd i guro ei gefn. Mae yn res yn o beth na ellid beiddio dweyd y gwirionedd heb ymguddio y tu ol i ffugenw. Ond dyna fel y mae yng Nghymru heddyw. Traetha Morleisfab yn dda ar Roberts Llwynhendy —fel y dylas- j ai wneud. Nid oes neb yn addasach i groniclo nodweddion- Pregethwr dihafal, nabl ardaloedd, Diniwed, didwyll—a dyn Duw yd. oedd, Abl iawn ei barabl-Beibl yn aber- oedd Ffrydiai o'i enau yn ffrwd o winoedd; Llawn yni Duw Llwynhendy oedd— huned- Wyled a moled fy ngwlad a'i mil- oedd. Ceir yn y Genhinen bresennol rai man ysgrifau eraill, yng nghyd a lliaws o weddillion llenyddol di- fyrrus a diddorol. Byrion yw y darnau barddonol sydd yn y rhifyn, ond y maent yn gyn- hyrchion beirdd adnabyddus. Ond mae yma restr o englynion nad oes son am danynt yn y cynhwysiad— "Lie yn y Llan" yw y testyn, a Gwalch Morgannwg yw yr awdur. Ofnaf y bydd i bob Eglwyswr fynd yn wenfflam wrth eu darllen, ac mae perygl i'r Gol. golli nawdd y prif- feirdd Eglwysig am eu cyhoeddi. Ond nid oes ar 01 y Darian" a minnau ofn neb, felly dyma nhw- "Clyw, enaid, cei Ie yno,-O syndod 'Does undyn i'w hawlio: OernaH rhyw giwrad o'i go Gei yn unig ) n honno. Ar hyd y mur wedi marw—e lyn Hen gelanedd salw Oernadau hir hen dy-hw Dylluanod a'i lleinw. Offeiriad wedi fferru-yn ei le, Cloion wedi rhydu; Burgynnod ystlumod lu, A llygod wedi llwgu. Rhyw hen osper anhysbys,—a Saeson Sosi, syth fel poplys, Paderau llipa dyrys, Yslanc, a chrafanc, a chrys! 0 daw fyth i'w dlawd Fethel-at grwydyr, Ryw garedig angel Yn ei wyn, hwnnw ni w6l We'r copyn ar fur capel I gonglau corau cywrain-yr Eglwys Pe treiglai ar ddamwain, Gwypai fod adrgopwe fain Yn rhwydwaith ar ei adain Rhyw Pharo o offeiriad—a'i floneg Yn ei flino'n wastad, A'i arw lais rydd i'r wlad Flancedi o flaen Ceidwad Pob rhyw gam, a gair amwys,—a doUir I dwyllo'r anghyfrwys Ni all rhin un dewin dwys Rifo maglau'r fam eglwys. Opd er hyn nid eir yno—o'i dorau'r Diarian sy'n cilio Yn ddioed, can's cenfydd o Dduaf lengoedd i'w flingo. Wele'r cry beriglor croes—a'i laes ru i "Eglwys Rad i'r difoes, A gwythienni gwiw'th einioes Yn talu'i rhent lawer oes! I chwerwder hen garchardai—y cor- ach Ciwrad a'th draddodai Yn ei chwant, ac os na chai Y degwm, fe'th lindagai! Dydd heulog Dadwaddoliad—a'i oleu Dyrr galon y ciwrad A bri hen golofn y brad Holltir gan Ddadgysylltiad. Gwae fydd i'r awdur pan gyferfydd a Gwynedd yn yr Orsedd y flwyddyn hon. Onid yw yr englynion yn er- chyll o dda Ond rhaid tynnu y sylwadau ar "Genhinen" Ebrill i ben rhag i mi dynnu y Gol. am fy mhen. Ond rhaid dweyd fod y rhifyn yn werth y swllt a ofynir am dano amryw weithiau.
Pontypridd a'f Cylch. I
Pontypridd a'f Cylch. I Dydd Mercher diweddaf claddwyd gweddillion y brawd Dafydd Thomas, Nantgarw, yn y Groeswen. Profai'r dyrfa ddaethai yno fod brawd parchus wedi huno. Gweinyddwyd gan ei weinidog, y Parch. C. T. Thomas. Cymerwyd rhan gan y Parchn. Mor- gan, Glandwr; Peitry, Bethlehem, Gwaelodygarth, a'r Cyfaill John. Yr oedd llawer o swyddogion Caerffili & Newport Railway yn yr angladd, lie 'roedd Dafydd wedi bod am flyn- yddoedd yn swyddog. Da gennym ddeall fod y brawd da James Phillips, Meadow Terrace, yn gwella. Ffyddlon flaerior gyda'r frawdoliaeth yng Ngharmel, y Bad- uchaf, yw Mr. Phillips-un o hen aelodau y Pant-tywyll, Merthyr, a gweithiwr diwyd. Dydd Mercher diweddaf claddwyd gweddillion y dyn ieuanc, Mr. J. Rees, Lewis Street, yng Nghladdfa Gyhoeddus Glyntaf. Cafodd angladd lluosog, a gweinyddwyd gan y Parch. E. Lewis, Calvary. Mae cydymdeim- lad mawr a'i fam a'r perthynasau yn eu galar. Da gan gyfeillion lluosog Mr. D. Lewis, blaenor ac arweinydd y gan ym Methania, Coedpenmaen, glywed am ei ddyrchafiad yn Superintend- ent dan gwmni y Pearl. Gwr siriol, diwyd a da yw Dafydd Lewis. Ethol Athraw Ysgol Coed y Lan, Pontypridd.—Yr oedd deuddeg o ym- geiswyr am y swydd o brIT athraw yn yr ysgol hon. Syrthiodd y coel- bren gyda mwyafrif o bump ar y brawd William Henry Todd. Yr oedd yr oil o'r ymgeiswyr o'r lie. Yr ydym yn llawenhau fod y brawd Todd wedi bod yn llwyddiannus. Ganwyd ef yn Rhydfelen yn Rhagfyr, 1873. Addysgwyd ef yng Ngholeg Caer- fyrddin, ac yna bu yn is-athraw yn Heolycoed a Heolyfelin; bellach mae yn brif athraw ysgol Coed y Lan. CYFAILL JOHN. -L-
jFerndale.
Ferndale. GAN 10 AN. Ebrill 22ain, yn Neuadd y Gweith- wyr, cafwyd perfformiad godidog o'r Ddrama Gymraeg, "Asgre Lan" (R. G. Berry) gan Gwmni enwog y Garth, Ffynon Taf. Mae hwn yn un o'r ddau gwmni sydd i chware ar y llwyfan ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol yn mis Medi nesaf. 0 flaen y ddrama caf- wyd perfformiad o ddrama fer, "William," a gyfansoddwyd gan Mr Phillips, aelod blaenllaw o barti Asgre Lan. Cafwyd perfformiad gwir deilwng gan yr oil o'r chwareuwyr. Nid rhyf- edd gennym ddyfarnu'r parti hwn yn un o'r ddau oreu yng nghystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Elai rhan o'r elw i'r Cwmni, a thrwyddynt hwy at ddyled Eglwys Tabor (A.), Gwaelody- garth, a'r rhan arall tuag at drysorfa Ysgol Sul Trerhondda (A.), Ferndale, a gwnawd elw sylweddol ohoni gan fod y Neuadd fawr yn orlawn. Ebrill 25ain, yn Festri Penuel (M.C.), dan nawdd y Temlwyr Da, cafwyd Noson gyda'r Delyn, ynghyd a darlith ar ganeuon gwerin Cymru. Y darlith- ydd oedd Mr W. 0. Jones, A.R.C.M., Merthyr Tydfil, a'r telynwr oedd Mr. Llyfni Huws, Trewilliam, Penygraig. Cyn cychwyn canwyd emyn a chafwyd araith goeth ac ymarferol ar ddirwest a Themlyddiaeth Dda gan y llywydd, Mr. Horatio A. Phillips, Ferndale. Yr oedd yr araith hon yn unig yn fwy na gwerth y tal am ddod i'r cyfarfod, gan ein bod yn gwybod trwy brofiad raai nid dirwestwr mewn gair yn unig yw Mr Phillips, ond mewn gweithred a gwir- onedd. Cafwyd araith odidog gan Mr W. 0. Jones, yn llawn o ffeithiau a diddordeb. Canodd Mr Huws yn swynol ar y delyn. Y mae efe yn fardd cadeiriol, a rhodd- odd i mi y Ilinellau canlynol ar briodas Mr a Mrs. James Jones, North Road, Ferndale Boed mwyniant drwy'ch huniant o hyd yn uchaf, Boed i chwi gael iechyd, Byd hafaidd, a boed hefyd Aelwyd lan yn gan i gyd. Yn aros er eich cysuro—wedi y briodas eto Tyner wlith nef fendith fo Ar rywogaeth yr Iago. Dewiswyd Mr Abel Jacob, glowr. ac aelod llafurol Ferndale, yn LIywydd Pwyllgor Addysg y Rhondda gan y Cyngor Dosbarth. Bu farw y Parch. J. E. Harris, gwein- idog Eglwys Annibynnol Seisnig Fern- dale, Ebrill 22ain, yn ei breswylfod, Y Limes, North Road, yn 58 mlwydd oed. Bu dan oruchwyliaeth y llawfeddyg ac yng Nghaerdydd am fisoedd. Wedi ei ddychweliad dioddefodd boen dirdynol. Brodor ydoedd o Sir Behfro. Bu yng Ngholeg Trefeca ac ym Mhrifysgol Princeton, yr Unol Dalaethau, a chy- merodd ofal eglwys yno. Yn y wlad hon bu yn weinidog ar Eglwysi Peny- bont, Sir Faesyfed, Blaengarw ac Aber- honddu, ac o'r lie olaf symudodd i eglwys North Street, Ferndale, lie y bu am chwe' mlynedd. Coleddid syniadau parchus am dano gan yr eglwys a'r cylch. Brawd iddo yw y Parch. W. Harris. Caerdydd. Claddwyd ef Ebrill 25ain. Cynhaliwyd gwasanaeth byr yn y ty, a gwasanaeth coffa yng nghapel North Road. Daeth torf ynghyd o'r eglwys a'r gymydogaeth. a lluaws o'r weinidogion o bob enwad. Arweinivyd y gwasanaeth gan y Parch. Thomas Evans, Bethany, Tylorstown. Darllen- odd y Parch. Rowland Hughes (A.), Tylorstown, a gweddiodd y Parch. D. R. Wilkins (W.S.), Ferndale. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. Mills Thomas, Bethel (B.S.), B. Watkins (M.C.), G. Penrith Thomas (A.), Thomas Jones (W.), B. Jones Evans (E.), a Mr Morris Morris diacon hynaf yr eglwys yn North Road. Datganwyd cydymdeimlad ddwys a'r weddw yn ei galar a'i hunigrwydd. Awd o'r capel i Gaerdydd i'w gladdu. Gwasanaeth- wyd ar lan y bedd gan y Parch. John Williamson, M.A., Proffeswr John Evans, M.A., Aberhonddu, a'r Prif- athro Edwards, B.A., D.D., Caerdydd. Aeth lliaws o Ferndale mewn cerbydau i Gaerdydd. • vv:.
Dafydd William, Llandeilo…
Dafydd William, Llandeilo Fach. Mae Yn y dyfroedd mawr a'r ton- nau," etc., yn ddigon i wneyd coffadwr- iaeth Dafydd William yn deilwng o sylw. Yng nghymdogaeth Llanymddyfri y ganwyd ef y ny flwyddyn 1712. Yn Llandeilo Fach, yn Sir Forgannwg, y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Bu yn un o athrawon ffyddlonaf ysgolion cylch- ynol Griffith Jones, ac yn gynghorwr llafurus gyda'r Methodistiad. Mae tra- ddodiad yn dweyd fod ganddo wraig anynad iawn, ac mae yn ymddangos mai trwy ei hymyriad hi y gadawodd y Methodistiaid, ac yr ymunodd ag enwad parchus y Bedyddwyr. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf eglwys Croesyparc, Plwyf Llanbedr-y-Fro. Yno y gorffen- odd ei yrfa, Hydref laf, 1794. Fel y canlyn y dywed un cofnodydd am dano :— Nid ymddengys fod sain ei delyn beraidd ef yn effeithio ar y wraig nwyd- wyllt hon i beri i'r ysbryd drwg ymadael a hi, fel y gwnelai telyn Dafydd gynt ar Saul. Er ei bod yn dra thebygol oddi- wrth bob peth a glywsom ac a ddarllen- asom am Dafydd William, ei fod yn ddyn nodedig o dduwiol, eto darfu i'w drallod teuluaidd iselu cymaint ar ei gymeriad crefyddol yn y gymydogaeth yr oedd yn byw ynddi, nes ei ddwyn o dan gerydd a disgyblaeth ei frodyr, a'r canlyniad fu iddo ymadael a hwy yn ei hen ddyddiau. 0 bob adfyd a ddichon ddyfod i ran dyn yn y byd hwn, yn en- wedig pregethwr yr Efengyl, gwraig ddrwg ei thymer, ei thafod, a'i buchedd yw y mwyaf. Cafodd ein bardd gwpanaid digon chwerw i'w yfed, ac y mae yn syndod pa fodd y gallodd ganu mor felus wrth ei yfed." Gorfoledd Sion" oedd y llyfr cyn- taf gyhoeddodd, yn 1762. Cyhoeddodd ail, trydydd a phedwerydd ran yr ail yn 1777, a'r trydydd a'r pedwaredd yn 1778 a chyhoeddodd y pedair yn un llyfr yn 1782. Daeth cyfrol o'r emynau hyn allan yn Seisnig yn 1779. Amlwg yw fod ei emynau yn boblogaidd iawn. Cyhoeddodd amryw farwnadau: "Coffadwriaeth y Cyffawn a'i Dded- wyddwch," am Joseph Thomas, o'r Dyffryn, ym Margam, Morgannwg, 1763. Dedwyddwch Ymadawiad y Cyfiawn" am y Parch. Wm. Evans, Llan-Giwc, Morgannwg, 1772. •"Golwg ar weinidogaeth Epaphras" am y Parch Lewis Jones, Llandilo, Sir Gaerfyrddin. Drych o Olwg ar Dir Anghof," sef marwnad i foneddwr ieuanc o'r enw Phillip Williams, mab Mr John Wil- liams, o Benarth, Morgannwg, yn 1776. Marwnad i Elizabeth Jones, o Lantri- sant, yn 1779, et., etc. Wele ychydig o'i benillion yn ei Gan o hanes pechod yr hwn yw Colyn Angeu," yr hon a gy- hoeddwyd tua 1818 :— Holl lwyth ac epil Adda, cydnes'wch yma'n awr, Gwrandewch ar genadwri dros Frenin nef a llawr, Ac wrth fy ngwaith yn datgan, fy amcan pennaf yw, Rhoi hanes ar fy nhestyn o elyn dynol- ryw. Mae gwagedd ac oferedd, mae camwedd dynolryw, Mae pechod bron aeddfedu ar fyr i gryman Duw; Pan ddelo y cynhauaf, fydd lie i daflu'r bai, Rhaid medi'r ffrwyth yn ddiau o'r had fuwyd yn ei hau. Fe dd'wed Hosea'r proffwyd fod rhwng yr Arglwydd gwyn A holl drigolion daear, er cyd y mae'n ymddwyn, Am ddyled mawr sydd arnom, pwy ddichon rifo'r swm 1 Pan el y cwyn i dreial, fe fydd y cyfri'n drwm. Prin efallai y mae y gan hon yn dod i fyny i fod yn deilwng o'r awdur. Mae ym mhell o fod i fyny mewn gwerth a'i emynau. Y mae ei emynau ym mysg y rhai mwyaf melus a gwreiddiol, y rhai mwyaf adnabyddus ydynt:- 0! Anfeidrol rym y cariad, Anorchfygol ydyw gras. Wele lesu'r Pen Rhyfelwr 'N dod i'r lan o Edom wlad. 0, fy enaid! Cod dy olwg, Gwel yn amlwg ben y bryn. Am Graig yr iachawdwriaeth Fy enaid egwan c&n. O'r nef mi glywais newydd, Fe'm cododd ar fy nhraed. GETHIN. .——
Gohebiaeth.I
Gohebiaeth. I I RESOLFEN. I Mr. Gol.,—Nid ffrae rhwng Cyfalaf a Llafur sydd yma, ond gweithwyr yn ffraeo a'u gilydd. Cyhuddir y Rhydd- frydwyr o fod yn awyddus am swyddau, ac anogir ui fel gweithwyr i ffui-fioll blaid, ac felly yn y blaen, ac yna byddai yn nefoedd ar y ddaear arnoni yr ochor hon i'r bedd. Rhyw ddynionach bach o weithwyr yn llosgi'11 ulw, wyn, mewn awydd am swydd sydd wrth wraidd yr holl helynt yn Resolfen, a chyfalaf fel eryr yn gwylio'r gelain. Nid oedd un lodge yn ddigon i rai mewn dau waith bach oedd yn eiddo i'r un cwmni. 'Roedd yn rhaid i ryw ddau ddwsin o sgadau cochion oedd mewn gwaith bacws gael lodge iddynt eu hunain ac atalbwyswr iddynt eu hunain. Er pen- perfynu o'r mwyafrif fod terfyn i fod i oruchwyliaeth lodge y gwaith bach, roedd tipyn o swydd hyd yn oed yinhlith sgadau mor felus fel yr oedd yn rhaid glynu wrthi, a'r canlyniad yw streic. plisinyn, diflastod, a dioddef. Mae hi wedi bod yn ddiwrnod dipyn yn fygythiol yma heddyw a gwaith bach Ynysarwed wedi dod dwad yn enwog. Os byddwch mor garedig a chywiro tipyn ar fy orgraff a ngramadeg mi an- fonaf i chi eto dipyn o helynt y sgadan coch. ERYR CRAIG NEDD. EISTEDDFOD GOWERTON, MAI 23, 1914. Mr. Gol.Fel hen Eisteddfodwr 'rwyf yn cofio'r Eisteddfod yn burach cyfrwng addysg a diwylliant cerddor- ol, barddonol, a llenyddol nag ydyw heddyw. Yn hanes yr Eisteddfod, fel pob cymdeithas arall, bu cyfnewid- iadau mawr yn ystod y 40 mlynedd di- weddaf. Bu i mi ran mewn cannoedd o bwyllgorau Eisteddfod ar hyd a lied Cymru, o'm llecyn genedigol ar lannau'r Cynon, yn ymyl cartre'r Darian," a thros Dde a Gogledd Cymru a rhaid cyfaddef mai ym- holiad cyntaf pwyllgorau heddyw yw, pa ddarn sydd yn boblogaidd, a gyrrir ar yr un darnau ar hyd y flwyddyn. Mae "Comrades in Arms a Little Church yn ardal- oedd gwledig Abertawe a lleoedd eraill wedi bod mor gyffredin yn ddiweddar nes mynd yn gyfoglyd. Y mae gwneud elw fel rheol wedi dod yn unig nod i lawer Eisteddfod. Teimla pob gwir Eisteddfodwr, bydded fardd, cerddor, neu lenor, yn ofidus o herwydd sefyllfa bsennol yr hen sefydliad, y cerddor yn ar- bennig, oblegid mae yr adran gerdd- orol gorawl, yn enwedig y corau cymysg, wedi dirywio cryn dipyn yn y blynyddoedd diweddaf o'u cymharu a'r hyn oeddent pan oeddwn yn llenc- yn yn canu Alto yng Ngor Caradog, cor a wnaeth enw i'n cenedl ym myd cerdd. Gresyn yw y dirywiad pan gofier am fanteision addysg yr oes. Nid da yw ceisio'r hawdd a'i ysgafn ac osgoi yr hyn ofynnai ymdrech. Yn wyneb hyn credaf mai teg fydd galw sylw cerddorion Cymreig at waith Pwyllgor Eisteddfod Gowerton. Bwriadir cynnal yr Eisteddfod hon yn flynyddol, nid er mwyn elw, ond yn hollol er mwyn gwneyd cynnyg i adfer i hen sefydliad y genedl ei gym- eriad cyntefig. Gyda'r amcan hwn mewn golwg y darparwyd y rhaglen. Dewiswyd cerddoriaeth uwchraddol, a rhoddir gwobrwyon teihvng. Can belled ag y gwn ni fu rhai o'r darnau mewn cystadleuaeth yng Nghymru o gwbl. I'r corau meibion ceir "The Song of the Spirits (Schubert). I'r corau cymysg ceir "Y Blodeuyn Olaf" (J. Ambrose Lloyd); bu cryn gystadlu ar hwn, ond mae'r cor a rydd ddatganiad perffaith o'r ganig felus hon yn feistriaid mewn cerdd- oriaeth. I'r corau plant ceir The Viking Song" (Coleridge Taylor). Yr unawdau yr un modd, o'r dosbarth uchaf, a gwel y cerddor oddiwrth yr uchod beth yw safon y rhaglen. .A gaf fi, ynte, fel ysgrifennydd gweithiol, apelio ar i'r corau gwrryw- aidd, y corau cymysg, a chorau'r plant, a phob gwir Eisteddfodwr i'n cynorthwyo a'n cefnogi. Kid ydym yn arbed unrhyw draul ofynnol i gael Eisteddfod lwyddiannus. Bydd gennym babell eang i'r miloedd, ac yr ydym wedi trefnu a'r ddau brif Gwmni Rheilffyrdd i gael trens rhad o gwrHichaf* Mynwy i waelod Sir Ben- fro, deuir gyda'r G.W.R., ac o Lan- drindod i Abertawe gyda L.N.W. Yr ydym wedi cyflogi dau feirniad byd- adnabyddus, sef Dr. D. Vallghan, Thomas, M.A., a William John Evans, Y sw., Aberdar-dau o blant y genedl sydd yn llawn o'r tan CelraiJd o'u cryd.—Yd wyf, ar ran y pwyn-I gor, yn ysbryd awen a chan, y CYMRODOR DEWI SAMLET. Gowerton. k
Nodion o'r Mardy.I
Nodion o'r Mardy. Galar sydd yma ar ol y cyfaill hoff, Mr. Thomas Hughes, Oxford Street. Cafodd gystudd maith. Brodor o ardal Llanelli ydoedd, ond daethai i'r ardal hon ers blynyddau lawer, a bu yn beiriannydd yng ngwasanaeth y Messrs. Locketts am dymor maith. Claddwyd ei weddillion yn Llwyn- hendy, yrig nghladdfa y teulu. Daethai tyrfa i'w hebrwng o'r Mardy, ac erbyn cyrraedd gorsaf Llanelli yr oedd yno dorf fawr wedi ymgynnull, er dangos parch i'r ymadawedig a'i cydymdeimlad a'r teulu, yn neilltuol ei weddw a'i nith, yn ei hunigrwydd a'u galar. Gwasanaethwyd gan y Parch. Joseph Evans (B.), Mardy. Gwel.-om dorch hardd o flodau wedi ci rhoddi ar yr arch gan ei gydweith- wyr. Tacned y nef ei haden dros ei weddw a'r teulu yn eu dydd blin. Drwg gennym hefyd am farwol- acth cyfaill arall o'r Mardy, sef Mr. Edward Jones, 31 Thomas Street. Cyfarfyddodd a damwain tra yn ei waith, a brofodd yn angeuol iddo. Gedy weddw a phump o feibion ac un ferch i alaru ar ei ol. Yr oedd yn un o'r cymeriadau hynny, sef bob amser yn llawen a siriol, ac yn barod ei gymwynas i bawb, a chwith ydyw meddwl nas gwelir ef eto yinhlith ei deulu a'i gydnabod. Cafodd angladd barchus dydd Llun. Daethai tyrfa i ddangos cydymdeimlad a'r teulu, ac i dalu y gymwynas olaf i'r ymadaw- edig. Trefnasid i orffen gweithio awr yn gynt nag arfer, er rhoi man- tais i'w gyd-weithwyr i fod yn bresennol, ac fel danghoseg o barch ei gyd-weithwyr rhoddwyd torch o flodau hardd ar ei arch. Gwasanaeth- wyd wrth y ty ac ar Ian y bedd gan y Parch. W. E. Williams, gweini- dog, Bethania. Dydd Iau cynhaliodd Eglwys Beth- ania, M.C., ei gwyl de flynyddol. Huliasid y byrddau a phob dan- teithion, a'r boneddigesau yn gwas- anaethu gyda phob sirioldeb. Gwel- som hefyd y gweinidog, y Parch. W. E. Williams, wedi torchi ei lewys ac yn llawn gwaith. Mae ef a phobl ei ofal ym Methania yn gweithio law yn llaw, a golwg flodeuog ar yr achos yn y lie. Yn yr hwyr cafwyd cyngerdd. llwyddiannus iawn, a diau fod y cyfeillion ym Methania wedi elwa yn dda. Cymerwyd y gadair gan Mr. Dan Davies, Bettws House. Cafwyd can agoriadol gan Miss Mary Davies. Yna cawd vmlaen a'r rhaglen. Am y goreu enwi lleoedd yn dechreu ar gair Llan: naw yn ym- gais; rhannwyd y wobr rhwng Mr. Thomas Jones a Mr. D. J. Morgan. Y goreu o bump o adroddwyr oedd Mr. Lam Jones, Mardy. Mr. John Evan Jones gafodd y wobr am y ffraetheb ore. Yn nesaf deuwyd at brif waith y gyngerdd, sef unawd agored i unrhyw lais. Yr oedd deg o enwau wedi eu hanfon, ond ni ddaeth ond chwech o honynt i'r llwyfan, ac yn ol barn Alaw Rhon- ddau, y beirniad, yr oedd yr oil o honynt wedi canu yn rhagorol, ond un wedi tra rhagori, sef Madame Clayton Jones, ac iddi hi y rhodd- wyd y wobr. Canodd Miss Salome Lewis yr anthem genedlaethol, a'r dorf yn uno yn y cydgan i tfdiweddu. Beirniad yr amrywiaeth oedd y Parch. W. Williams. Cyfeiliwyd gan Miss Lewis, Brook Terrace. ) '<
IBarddonlaeth.
I Barddonlaeth. I YR AMAETHWR. ( Hoff arwr y brethyn cartref Llywydd yr aradr a'r og, A byrdwn ei gan ydyw'r gwenith gwyn Bob blwyddyn fel nodau'r gog; Cyfyd yn nghwmni'r Ehedydd Gwylia agoriad y wawr, A diwyd y gwelir ef ar ei daith Ym mhell wedi'r haul fynd lawr. Prif wron y caeau g leision, Hoff horthwr ffyddlon y praidd, Ei onllyn cynhefin a blasus yw, Caws cartref a barn haidd; Ei hoffder yw rhodio'r meusydd Heibio y glaswellt a'r yd, A gwrando yr awel ym mrig y 11 wyn Yn chwareu caneuon hud. Hyirydwuh amaethwr diwyd Yw cadw'r tyddyn mewn trefn, j Mao'r ddafad yn rhoddi ei hugan lwyd Yn glog iddo am ei gefn; Mae cynnyrch ei gaeau gwynion A'r holl anifaeliaid braf, Yn troi yn elw dan ei fedrus law Nes gwneud pi fywyd yn haf. 0 alwedigaethau daear Rhowch yr amaethwr i mi, • Mae a wel iechyd fel colomen wen Yn heclfan itweh hen ei dy; Mae swyn yn ei ddolydd gwyrddion A ohwyfiad ei wenith gwyn, Rhyw nefoedd yw rhodio ei feusydd hardd 0 waelod y ddol i'r bryn. < T. H .LEWIS. Treharris. I CYFARCHIAD Y TYMOR I TAWENOG. Byd Ilawen bo i Tawenog—o hyd, A'i hwyr fyddo'n heulog; A'i fwthyn fo'n gyfoethog 0 bur gan fel y ber gog. Nadolig diddig, a da,—i'w hoewi, Gwyl lawen,—a gyrfa Heb arw hin. na Jblin bla, I'w helor, a'i wyl ola'. Cilfynydd. R.R. I BLWYDDYN NEWYDD DDA I R.R., CILFYNYDD. Mae calon wrth galon yn curo ynghyd Er pan y cwrddasom dro cyntaf; A llygad mewn llygad yn gwylio o hyd Y byd, yn ei wynfyd a'i waethaf; Mae'n calon mor gynnes a'r tes ar y llawr I ti yn ei holl ddymuniadau, A'm llygad mor loew a llygad y wawr Yn dilyn heb gwmwl dy lwybrau. Mae'in dwylaw, heb laesu mewn estyn yn hael, Yn barod i ti heb eu gofyn, A'm llogeil yn lled-Ied agored i'w chael, Hyd eithaf fy mhres a'r haur melyn; Mae cyfaill i gyfaill yn dal fel y dur- Dy hunan a minnau yw hynny, Sy'n byw yn ol rheol urddasol y gwir, Mewn rhwymyn nas gellir ei dorri. TAWENOG. Hafod y Gan, Pontypridd. [Glynodd y cyfarchiadau hyn rywsut ymhen draw'r dror. ac yn ddiweddar y daethant dan lygad y Gol., a hynny sydd yn cyfrif am eu hymddangosiad allan o amser.-Gol.] Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan I