Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) CYSTADLEUAETH MAI. Mae gennyf ddau lyfr i'w rhoi i ryw- rai. Y Pentre Gwyn yw enw un o honynt. Hanes bore bywyd rhywun yw,—hanes yr hen bentref a'i breswyl- wyr, yr hen ysgol a'r plant a'i mynych- ent, ac y mae wedi ei ysgrifennu mewn modd swynol a diddorol iawn. An- thropos," un o ysgrifenwyr goreu Cym- ru heddyw yw yr awdur. Cewch chwi a'ch tad a'ch mam hefyd bleser mawr o'i ddarllen. Y llyfr arall yw Straeon y Cyfnos," gan Mr. W. M. Roberts. Nifer o storiau sydd yn hwn, a darluniau hefyd. Sicr gennyf y byddwch yn ei hoffi. Dyma gyfle i chwi i'w gael. Pwy sydd yn mynd i ennill y naill neu'r llall ? Sylwch yn fanwl beth raid wneud cyn cael gwobr. 1. Dosbarth A.-rhai dan 16. Ysgrfennu llythyr i ffrynd yn Llun- dain yn disgrifio dydd Sul yn eich ardal ,chwi. Sylwch mai nid disgrifiad o'r modd y treulir ef gennych chwi yn ber- sonol yn unig ofynnir, ond gan bobl y lie yn gyffredin. Os ydych yn byw mewn lie poblog bydd gennych lawer iawn i'w i ddweyd, ac os mewn cwr tawel o'r wlad bydd darllen am eich Sul yn amheuthun i'r mab neu'r ferch o Lundain drystfawr. Cofiwch ddech- reu a diweddu eich llythyr yn briodol, ac nid yw un ffrind yn hoffi llythyr Jbyr iawn. Os rhoddwch eich cyfeiriad ar ei ddechreu byddis yn deall am ba ardal yr ysgrifennwch. 2. Dosbarth B.—rhai dan 12. Gan i chwi Iwyddo cystal gyda'r Diarhebion, dyma waith ychydig yn galetach i chwi y tro hwn, sef Rhoddi -enwau Oymraeg tair sir ar ddeg Cymru, ynghyd a disgrifiad byr o'r sir lle'r ydych yn byw. Amodau Cyffredinol: 1. Ysgrifennwch ar un tu i'r ddalen. 2. Rhoddwch eich enw, eich cyfeiriad. ,a' ch oed. 3. Gyrrwch eich gwaith i fewn erbyn Mai 22ain. 4. Gwnewch y gwaith eich hun. HOFFTER PEXNAF CYMRO. Hoffter pennaf Cymro yw Gwlad ei dadau; Dyna'r fan dymuna fyw Hyd ei angau; Chwarae ar ei bronnydd, •3 £ fed .¡-Q'j ffynhonnydd, A gwrando can yr adar mttn Delorant yn ei gelltydd. Clywed rhu ei nentydd gwylltion, Ac yfed iechyd o'i halawon, Yw prif ddymuniad penna'i galon Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys Yn adlewyrchiad o baradwys, Ac awyr iachus ei mynyddoedd Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd. Mae 'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu, Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru. —Mynyddog.

Dwyrain Morgannwg.

Advertising

0 Wy i Dywi.

"Eu Hiaith a Gadwant."I

Cwellhad Ryfeddol un oedd…

[No title]

ICilfynydd. 1

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.,

Advertising