Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Treforis.
Treforis. Uchel-Sirydd Morgannwg. Daeth yr anrhydedd o'i ddewis yn Uchel-Sirydd Morgannwg eleni i ran Mr T J. Davies, Y.H., Treforis. Mab i'r diweddar Mr Joseyh Davies, Glyn- collen, yw Mr T. J. Davies, ac un o brif berchnogion gweithfeydd alcan a dur mwyaf Deheudir Cymru. Bonheddwr a fawr hoffid gan ei weithwyr oedd tad ein Huchel-Sirydd. Da i ni ac i lwydd ein tref yw gwybod fod mantell y tad wedi disgyn ar y mab. Yr ydym fel tref yn uno oil i'w longyfarch ar yr anrhydedd a ddaeth i'w ran. T.J., EIN HUCHEL-SIRYDD. I fyny'r a mewn bri o hyd, Dy feibion, Gymru curion; Yn uwch o hyd cwhwian wna Dy faner i'r awelon, I'w wlad erioed yn gymrawd gwir Bu'n Huchel-Sirydd rhadlon, I lwydd ei dref-i Gymru gron, Fe geir T.J. yn ffyddlon. Llongyfarch iddo fab y wawr Gwnawn nawr ei anrhydeddu; Mae'n un wnaeth garu 'i wlad a'i iaith, Gwr ddaeth a chlod i Gymru. Boed i chwi flwyddyn o fwynhad, A rhad y nef fo'ch eiddo, Mae Cymru'n llawen drwyddi oil Wrth weld ei mew yn llwyddo. i Ni roddwn fanllef uchel, glir, 0 galon lawen, ddedwydd, Fe saif Treforis oil i ddweyd: Hawddamor," Uchel Sirydd. U • Priodas. Dydd Iau, Ebrill 29ain, unwyd mewn priodas Mr George Edward Lewis, Llanidloes, a Miss Annie Evans, Adelphia House, Treforis. Mab i'r di- weddar Barch. W. Dickens Lewis, M.A., D.D., yw y priodfab, ac o du ei fam yn wyr i'r diweddar enwog Dr. Lewis Ed- wards, Bala. F nig ferch y diweddar hoff a pharchus Mr a Mrs. John Evans, Adelphia House, Treforis, yw Miss Evans. Cymerodd y gwasanaeth priodas le yng Xghapel y M.C., Charing Cross Road, Llundain. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. D. Picton Evans, M.A., Treforis, a D. M. Rowlands, Shrewsbury. Rhoddwyd y foriodferch gan ei brawd, Mr John Evans (Foun- dry), Treforis. Y morwynLon priodas oed dent y boneddigesau Irene Jones a Hattie Williams. Y mae y gwyliau priodas i'w treulio yn Llundain ac ar y Cyfandir. Cyfarchiad Priodasol.. I I chwi y priodfab dymunaf Bob llwyddiant a chysur diball Dygasoch o'n mysg un a hoffid, Un gywir, mewn rhinwedd heb wall. Mae'ch llinach chwi'n enwog yng Nghymru, Hwy oeddent enwocaf eu hoes, Byth clymir eu henwau a rhinwedd, A Christ, ac a'i grefydd a'i Groes. I'r briodferch deued pob bendith, Ein tref a gadd golled yn wir Ei heisiau fe deimlir ymhobman, Ei chofio wneir yma yn hir. Ei llaw oedd yn hael a charedig, Ei gwyneb yn heuwen pob lie Hi weithiodd i droi yr hen ddaear Yn debig i wyneb y ne'. Dymuniad a gweddi Treforis Yn gywir a chyson a fydd Am i chwi gael byd o lawenydd, A hir mewn mwynhad a fo'ch dydd.
Nodion o Rymni.I
Nodion o Rymni. I Na wawried y dydd pan fyddo Cy- manfaoedd Canu wedi darfod yn ein gwlad. Mwynhad o'r mwyaf ydyw y .gwleddoedd blynyddol hyn i bawb sydd yn hoff o gerddoriaeth gysegredig ac addolgar, a llawenydd ydyw ganddynt weled dydd eu dyfodiad. i Adeg felly ydyw yr wythnos hon yma. Canu sydd i'w glywed yn Ilanw yr awyrgylch o dop y lie hyd y gwaelod, gan ymestyn i Bontlottyn, Fochriw, ac Abertyswg. Ni buom erioed yn fwy byw i gerddoriaeth y cysegr, ac ni bu gwell arweinyddion yn ysgwyd y baton o flaen cynulleidfa- oedd. Yr anrhydeddus Proff. J. T. Jones, L.R.A.M., Treorchy, oedd gan y Bedyddwyr; yr hynaws foneddwr twymgalon D. Jenkins, Aberystwyth, gan y Methodistiaid, a Mr Dan Owen, enwog arweinydd medrus Cor Gwent, gan yr Annibynwyr y Llun nesaf. Drwg iawn gennym am sefyllfa iechyd Mr. Jenkins, ond ni bu yn rhwystr iddo i fod bresennol, er yn gorfod cael cyn- orthwy. Cafodd hynny yn ewyllysgar iawn yn y cyfaill Tom Jones, iiiab y di- weddar arweinydd cymanfaol, Thomas Jones (Saer). Yr oedd y cynulliadau yn y ddwy gymanfa yn lluosog iawn, a mwynhawyd y canu yn fawr. Y Sul a'r Llun cynhaliwyd gwledd bregethu flynyddol Penuel. Gwasan- aethodd y Parch. J. Rowland Jones, B.A., Troedyrhiw (B.). Yr oedd y cyn- hulliad yn lluosog a'r pregethu yn rymus a ddylanwadol.
- I . Ferndale. | i I
I Ferndale. i j GAN IOAN." Mai 2il, 3ydd, a'r 4ydd cynhaliodd Eglwys Tabernacl (A.) ei chyfarfod- ydd pregethu. Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Mardy Rees, Castell- nedd, ac Enoch Hughes, Abercanaid. Mai 3ydd oedd dydd mawr y gweithwyr yn Mardy, Ferndale, a Tylorstown. Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Gweithwyr, Ferndale, fel lie canolog. Anerchwyd y cyfarfod gan Mri. Arthur Hender- son, A.S., a J. H. Thomas, A.S., gorlichwyliwr gweithwyr y rheil- j ffyrdd. Prif faterion ei ymdriniacth I alluog oedd y pwysigrwydd i'r oil o'r gweithwyr fod yn undebwyr, ynghyda chefnogi ymgeiswyr Llafur. Cafwyd areithiau grymus, a'r adeilad yn or- lawn. Llawenydd oedd gennym weled t Mabon yn bresennol, ond blln oedd gennym ei fod dipyn yn wan ei iechyd j fel na fedrai gymeryd rhan yn y cyfarfod fel llywydd. Cafodd dder- byniad tywysogaidd a danghoswyd | cydymdeimlad ag ef yn ei gystudd. Diolchodd yntau am deimlad caredig y cyfarfod tuag ato. Llywyddwyd yn ei le ef gan y Cynghorwr D. Lewis, Ferndale. Hyderwn. y bydd yr anun- debwyr a'r rhai sydd mewn ol-ddyled yn newid yn eu hymddygiad ar 01 yr hyn a glywyd yn yr anerchiadau cryfion a gafwyd. Llongyfarchwn yn gynnes iawn y chwaer ieuanc, Miss Eunice Davies, ar ei gwaith yn ennill diploma yr I A.T.C.C. yn Llundain. Y mae ei chyfeillion yn y lie wedi sylwi gyda diddordeb ar ei medr yn y cyfeiriad gyda'r piano. Merch ydyw i Mr. a Mrs. J. Anthony Davies, 3 Graig Terrace. Mai 8ed yn Neuadd y Gweithwyr cynhaliodd aelodau y Gymdeithas Gydweithredol gyfarfod neillduol i ddewis ysgrifennydd cyffredinol. Llywyddodd Mr. Tom Morgan, a chafwyd gair yn fyr ganddo ar am- can y cyfarfod. Cyn myned at y prif waith galwodd sylw at y camgymer- iad a wnaethid wrth ethol aelod o'r Mardy ar y pwyllgor yn y cyfarfod chwarterol diweddaf. Penderfynwyd i dderbyn cyfrif y pwyllgor o'i ail bleidlais; canlyniad y penderfyniad hwn oedd fod Mr. John Lewis Ed- wards, Mardy, i'w ethol.yn lie Mr. Thomas Jones, Mardy. Penderfyn- wyd fod y pwyllgor i benderfynu a'r gynllun gwell o gyfrif y pleidleisiau, ac hefyd drefnu yn well fynediad i'r aelodau i gyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas. Penderfynwyd fod cyflog yr ysgrifennydd cyffredinol newydd i gychwyn yn £ 180 y flwyddyn. Awd ymlaen i ethol un i'r swydd a adewsid yn wag gan Mr. T. J. Jenkins, sydd yn awr yn Australia'n ceisio adferiad iechyd ac wedi ei gynghori i aros yno am rai blynydd- oedd. Darllenwyd y ceisiadau am y swydd a phleidleiswyr fel y canlyn:- Thomas John Williams, 441; T. O. Evans, 133; Evan D. Williams, 107; T. H. Gerrish, 103; William Wil- liams, 8. Cyfanswm, 792.. Roedd y pedwar blaenaf o Ferndale a'r olaf o'r Porth. Etholwyd Mr. Thomas John Williams. Cydymdeimlir yn y lie yn gyffredin- ol a'r brawd David Burrell, Briw- nant House, yn y brofedigaeth chwerw a gafodd ym marwolaeth ei frawd, Mr. Charles Burrell.
Llwynbrwydrau. I
Llwynbrwydrau. I Nos Sadwrn, Mai gfed, daeth tyrfa liosog ynghyd yn Eglwys Ebenezer (C.M.), pryd y traddodwyd darlith ar John Elias o Fon" gan y Parch. John Williams, Brynsiencvn. Amheuthun ydoedd clywed y darlith- ydd- Tywysog y Pulpud Cymreig- yn darlunio y dylanwad di-hafal yd- oedd John Elias yn gael ar ei wran- dawvr. Yr oedd ei ddarluniad o John Elias yn gwerthu meddwon M6n yn syfrdanol, a gresyn yw na chlywid y ddarlith hon yn amlach yn ein cym- dogaethau. Sul a Llun, Mai iofed a'r iieg, cadwodd yr eglwys uchod ei gwyl bre- gethu flynyddol, pryd gorlanwyd y capel a chafwyd gweinidogaeth rymus gan y Parclyi. John Williams, Brynsiencyn, a T. Cyfelach Lewis, Llwynbrwydrau. GOLWG Y MOR. I
Eisteddfod -Cymer, Porth.…
Eisteddfod Cymer, Porth. Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd St. John, Cymmer, Porth, ar y 7fed cyf. Cadeiriwyd gan Mr. W. Evans, C.S., a llywyddwyd, gan Mr. J. Morgan. Cloriannwyd yr adroddwyr gan Mr. D. James (Defvnnog), Treherbert, a'r Parch. Crwys Williams, Brynmawr, a'r cerddorion gai\Mr. Tom Price. A.C., Merthyr Tydfil, a Mr. W. Howell, G.T.S.C., Porth. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn anarferol o fawr. Cynhygiai oddeutu 60 ar yr ad- roddiadau. Cipiodd Miss Francis, o Ystalyfera, ddau gwpan arian, y naill am yr her adroddiad Saesneg, a'r Hall am yr hen adroddiad Cymraeg. Canmolir y canu a'r adrodd, trefn a gweddeidd-dra'r gynulleidfa, union- deb y. feirniadaeth, ac ymdrech di. flino'r pwyllgor.
INodion o'r Mardy.
I Nodion o'r Mardy. Dydd Sul a'r Llun, Mai y 3ydd a'r 4ydd, cynhaliodd Bedyddwyr Dosbarth Uchaf Rhondda Fach eu Cymanfa Gerddorol. Hon, mae'n debyg, yw eu pumed cymanfa ar hugain. Cyfarfu wyd yn Seion, Mardy, ar y Sul, ac yn Salem Newydd, Ferndale, y Llun. Yr arweinydd eleni ydoedd Mr J. Owen Jones, F.R.C.O.. Caerdydd. Cyfeil- I iwyd gan Mr C. L. Jones, L.L.C.M., Ferndale, a Miss Gothie Evans a Mri. T. W. Matthews, Nazareth. Blaen- llechau, a Willie Moseley, organydd Seion, Mardy, yn cynorthwyo derbyn- ied yr olaf ein hymddiheurad am adael ei enw allan o hanes Cyngerdd Seion, yn hollol anfwriadol y digwyddodd. Llyw- yddwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. T. Humphreys, Blaenllechau Joseph Evans, Seion, Mardy Isaac Jones, Salem Newydd, a Mr T. Owen Evans, Nazareth. Cafwyd cymanfa dda iawn, a gwnaeth yr arweinydd ei waith tan gamp. Yn hynod sydyn bu farw y boneddwr a'r cyfaill Mr Richard Owen, mechanic, Afan House, Mardy. Cafodd ergyd o'r parlys pan yn eistedd ar bwyllgor yn N&uadd y Gweithwyr, ac nis gallwyd ond prin fyned ag ef gartref cyn iddo farw. Triugain mlwydd oedd ei oed. a gedy weddw a dau o feibion ac un ferch i hiraethu ar ol priod tyner a thad an- wyl. Brodor o Gefn-coed-Cymmer yd- oedd, ond yr oedd yn yr ardal hon er's maith ilynyddau, ac wedi priodi a merch i'r diweddar Griffith Thomas y Bass fel y'i gelwid, a manager yn y lie hwn am lawer o flynyddau. Yr oedd yr ymadawedig yn ddiacon gyda'r Bedydd- wyr yn Seion, a diameu y teimlir colled fawr ar ei ol. Bu ei angladd dydd LIun, a rhoddwyd ei weddillion i orwedd gyda dau o'i anwyliaid ym Mynwent Aber- dar. Daethai tyrfa luosog ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i un oedd bob amser yn barod i wneyd hynny i bawb. Gwasanaethwyd cyn cychwyn gan ei weinidog, y Parch. oJseph Evans, ac ar lan y bedd gan y Parch. Grawys Jones, Aberdar. Y prif alarwyr oedd ei weddw, Mrs. Owen, a'i feibion, Mri. E. a Richie Owen, a'i unig ferch. Miss M. J. Owen Mri. Mathew Owen a J. Owen (brodyr iddo), Mr John Thomas, Cwm- twrch, a Mr H. H. Evans, M.E., Cil- fynydd, brodyr-ynghyfraith -rs Lewis, Mardy, a'r Misses Thomas, Cwmtwrch, nithoedd Mrs. Hathren Davies, Cefn- coed, a'r Mri. R. Sydney Davies a Cledryn Davies a Master John Evans, Cilfynydd, neiant; Mr a Mrs Edwards, Dowlais; Mr H. Richards, Vaynor. Gwelsom hefyd y Parchn. D. Morris, offeiriad D. Jones, curad J. Tansell, Bedyddwyr Seisnig; J. Hope Evans (A.), y Cynghorwr H. E. Maltby, M.E., Dr. S. G. Morris, Mr Gomer Evans, cashier; Mr David Roberts, M.E., W. Davies, M.E., a Mr Wm. Lavis, Cwm- afan; Mr Harris, Mardy Hotel. Aeth tyrfa gyda'r tren i Aberdar. Rhodd- asid torchau heirdd o flodau ar ei arch. MEIRIONA.
Pontycymer.I — I
Pontycymer. I — Sul a Llun, y 3ydd a'r 4ydd o Fai, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Nodd- fa. Y gweision y tro hwn oeddynt Proffeswr J. T. Evans, M.A., D.D., Bangor, a'r Parch. W. B. Jones, Penycae, Ruabon. Cafwyd gwledd a theimlid nerth tynnu y Groes. Dyma'r wyl olaf yn y capel fel y mae yn awr. Bydd yn nwylaw adeil- adwyr yn fuan. Mae si pan ddaw y Noddfa newydd na fydd yno'r un 'I sedd fawr. Clywais Mr. J. P. Gibbon yn rhoddi awgrym pan fu yn edrych ar y "plans." Credaf mae lies fydd hynny i'r achos. Mae y Saeson wedi mabwysiadu y cynllun er's blynyddau. Mae capel yn Heol y Magnel yn Aberdar yn llewyrchus dan y drefn hon. Dylifai pobl ieuanc wrth y cannoedd yno. Gweina y swyddogion wrth y drysau. Rhoddant groesaw cynnes, a Ilyfr i bob un, a brawdgar- wch i'w deimlo. Credwyf fod dydd y sedd fawr wedi myned heibio. Mae Mr. Saunders yn deall yr amserau. Mae y "Budget" wedi dod i fewn yn bur ddistaw, ond nid yw y wlad eto yn canfod e,i gwerth. Gwelaf y daw trwyddo welliantau lu, ac yn eu plith trens ymhob cwm i gario'r trigolion i bennau y mynyddoedd yn nhymhor yr haf. Mae pedair miliwn o bunau i'w gwario ar iechyd. Clywir yn aml-Cymru Gwlad y Bryniau- pa sawl un sydd yn troedio pennau'r bryniau er yfed o'u hawelon iachus; maent fel ein parlyrau yn bod » edrych arnynt. Mae rhyw dren newydd wedi ym- ddangos sydd yn gallu rhedeg 300 milltir yr awr. Hyfryd fydd cwrdd ar bennau'r bryniau, a byw mewn pabelli. Ni fydd eisieu myned i le- oedd ereill i gael ein blingo yn fyw am lety. Dyna geir ym Mhorthcawl a phob porth arall ar lannau'r mor a'r ffynonau, fel petae y gweithiwr yn cael ei dal am waith ysgafn. Braf fydd ein byd pan ddaw tren i redeg heibip Darren y Bwllfa a Phont Llys Wen tua Blaen Rhondda. Trens ereill i redeg a chyfarfod tu hwnt i Pen Pych yn ngolwg y mor a gwlad yr haf. Mae amser hyfryd o flaen gweithwyr Cymru, ond cael y dynion iawn ar y cynghorau. 'BERDAR BACH.
INodion o Glyn Nedd.I
I Nodion o Glyn Nedd. I I GAN "TOM CYNON." I t Dydd Llun, Mai y 4ydd, claddwyd gweddillion un o hen drigolion Cwm- gwrach, sef Mrs. Hannah Morgan, gweddw y diweddar Llewelyn Mor- gan, Gwesty'r Star. Cyrhaeddasai'r 87 oed. Bu iddi iechyd da trwy ei hoes. Yr oedd yn gymeriad difyr iawn ei ffordd, a phawb a'i hadwaenai yn hoff o honi. Yr oedd ei charedig- rwydd i'r tlawd a'r anghennus yn ddihareb. Bu farw yn nhy ei mab, Mr. Owen Morgan, 21 Mill Street, Tonyrefail, lie treuliasai ran olaf ei bywyd. Daeth tyrfa o'i hen gyfoedion ynghyd i gyfarfod yr angladd i Eg- lwys Aberpergwm, pan y gwasanaeth- wyd gan y Parch. J. Ll. Thomas, y Ficer. Gedy ar ei hoi bedwar mab mewn hiraeth, ynghyd a llawer o I berthynasau. Dydd Mawrth, Mai y 5fed, ym I Mhontneddfechan ac Ystradfellte, dewiswyd cynghorwr dosbarth yn lle'r diweddar J. H. Jones, yr Angel, I a phleidleisiwyd fel y canlyn:—Mr. John Harries, Glynmercher, Ffarm- wr, 72; Major J. S. Jones, 49. Yr wythnos o'r blaen dewiswyd dynion ieuainc cymwys i'r "fire brigade," sef Mri. William Rees Evans, William Williams, Robert Davies, D. J. Prosser, William Clifford, D. Abraham Evans, Stephen Jeffreys, James Evans, J. P. Hopkins, James Davies, Arthur Dudley, W. Slocombe, D. Rushton, David Thomas, a J. G. Davies. Mae yn yr ardal hon gryn lawer o welliantau i'w gwneud, sef ar yr heolydd fel na fyddo raid i neb fyned a'i draed drwy faw a dwr, fel yn y dyddiau a fu. Dygir hefyd ddwfr i'r aneddau, a gwelliantau eraill er dio- gelu iechyd. Cwyno er hynny y mae'r trethdalwyr fod y gost yn fawr, ond nis gellir gwneud dim heb arian.
. Caerdydd. I .- ; I
Caerdydd. I Y Fasnach Lo. Y mae yn dda gennym hysbysu fod y galw am dynelliad yn llawer cryfach ddiwedd yr wythnos hon; priodolir hyny i barhad streic swyddogion mor- wrol Ysbaen, yr hwn sydd wedi dangos ei effaith yn naliad i fyny rhai cannoedd o longau yng ngwahanol borthladdoedd Deheudir Cymru a Gogledd Lloegr. Y mae yn debyg fod y gwyr hyn yn ben- derfynol o fynnu gwelliant yn eu cy- flogau, ac ynglyn a'r swyddogaeth a gyflawnant. Crwys Road. Nos Sadwrn, Sul a nos Lun diweddaf cynhaliwyd cyfarfodydd neilltuol gan y brodyr hyn ar ail agoriad y capel, sydd wedi ei .baentio yn ddestlus iawn. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Richard Morris, M.A., B.D., Bala; W. Davies, B.A., Cwys Road, a J Roberts, Pembroke Terrace. Hys- bysir ni fod y draul fu ynglyn a'r gwaith hwn dros ddau cant o bunnoedd, a fod y gweinidog llafurus gyda chyfaill arall sydd yn y sedd fawr wedi casglu dros 9150 tuag at ei ddileu. Da iawn, onite 1 Tabernacl. I Dydd Sul diweddaf cynhaliwyd cyfar- fodydd pregethu neilltuol gan aelodau y capel hwn. Gwasanaethwyd gan y Parch. Jubilee Young, Felinganol, gynt o Gapel Rhondda. Yn y prynhawn caf- wyd cyfarfod adrodd a chanu gan y plant dan lywyddiaeth Arglwydd Ponty- pridd. Arglwydd Aberdar. I Y mae yn dda gennym weled fod y Cyngor Dinesig wedi penderfynu symud cofgolofn y diweddar Henry Austin Bruce (Arglwydd Aberdar) o Howard Gardens i fan yng Ngerddi Alexandra, o flaen y fynedfa i'r Brif Ysgol Gym reig yn Cathays Pare.
Bwrdd y Golygydd.I
Bwrdd y Golygydd. I Arthen.—Ceisia gennym dynnu allan enwau y Rhondda (Pentre) a Threharris o fysg y Cymdeithasau nad ymunasent a'r Undeb. Daeth y cerdyn i law yn rhy ddiweddar gan fod un wyneb o'r "Darian" wedi ei hargraffu. Diolch am y newydd fod yr adrannau cryfion hyn o'r fyddin wedi dod i'r gwersyll. Eluned.-Bu yma ddisgwyl hir am eich ysgrif gyntaf i'r Darian." Diolch am dani, ac am yr addewid y daw rhagor eto. Ni raid i chwi ofni ysgrif- ennu'n rhy gryf ar y mater i foddio'r Gol. Hen Wr 0 Rydyfro.—Y mae efe naill ai wedi breuddwydio neu wedi arfer ei ddawn ysgrifennu am bethau nad ydynt mewn bod. Beth bynnag daw "Hanes y Docs" yn ei dro. Adolygiadau Mewn Llaw.—"Y Seren Gomer," "W ales," "Socialist Review," etc. Colofn y Llyfrau.-Y mae colofn o eiddo Gwyddonwy mewn llaw fydd yn werthfawr i lyfrwerthwyr ac i rai sydd yn holi am danynt. J. D. Hughes, Caerffili. Y mae r traethawd yn llaw'r argraffydd. Brynfab.Daw eich ysgrif ddiddorol ar Glanffrwd yn y nesaf, a'ch Nodiadau ar Gynhyrchion y Bteirdd.
Nodion o Abertawe.
Nodion o Abertawe. Dydd Sul, Mai :3ydd, dechreuodd y Parch. R. G. Jones ei weinidogaeth ddirprwyol yn Eglwys Bresbyteraidd Saesneg Argyle, yn absenoldeb y gwein- idog sydd yn awr yn Awstralia. Bu y Parch. John Thomas, M.A., Lerpwl, yn pregethu yn Eglwys Saes- neg Bedyddwyr Scetti dydd Sul, Mai 3ydd. Nos Lun benthiciwyd capel eang Mount Pleasant, AJbertawe, i'r un pwr- pas,a chafodd y gweinidog athrylithgar gynhulliad enfawr o bob gradd a dos- barth yn y dref a'r cylch. Bu digwydd- iad annymunol ar ganol y gwasanaeth, a phan yr oedd y pregethwr wedi cyr- raedd anterth ei bwnc a'r gwrandawyr yng nghlwm wrth ei wefusau, cerddùdl .1 dyn dan effaith y ddiod feddwol 1 fewn gan ddweud yn hyglyw, Dywedweh rywbeth am Iesu Grist." Gosodwyd ef mewn sedd, ac apeliwyd ar iddo fod yn ddistaw, a bu felly am ychydig, ond wedi i'r Parch. John Thomas ail gych- wyl1 Jlflonyddodd drachefn, a gorfu i'r I pregethwr aros eilwaith tra y ceisiai y swyddogion dawelu'r aflonyddwr. Yr oedd nifer o'r bobl oedd yn yr oriel ar eu traed yn ceisio gweld beth ddigwydd- ai islaw. Yn ffodus, torodd rhyw wr synhwyrol allan i ganu All hail the power of Jesu's Name." ac ymunodd y gynnulleidfa. Manteisiwyd ar hyn i symud y gwalch. Llwyddodd y canu i ad-ennill peth o'r naws addolgar, a thwymodd y pregethwr i'w orchwyl, a thraddododd bregeth deilwng o hono ei hun dan anfantais fyddai yn llethol i'r mwyafrif o bregethwyr. Nos Fercher a dydd lau, Mai 6ed a 7fed, cynhaliodd Eglwysi Cymraeg y Trefnyddion Calfinaidd eu Cymanfa Gerddorol o dan arweiniad y Bonwr E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr. Neill- duwyd nos Fercher i'r plant, a daeth torf luosog ynghyd i "Crug Glas" i'w gwrando. Cadeiriwyd gan y Bonwr David Williams (Babell). Nodwedd- wyd y cyfarfod hwn gan ddatganiad o ddau gyfansoddiad o waith cerddorion Ileol: Dilyn Iesu," gan W. Sydney- Williams, a "Bydd canu yn y nefoedd," gan John Rees, L. T.S.C., Cwmbwrla. Crug Glas oedd man cyfarfod y Gy- manfa prynhawn dydd Iau hefyd. a chanwyd nifer o donau ac anthemau yn ardderchog, ac yn eu plith gyfansodd- iad o eiddo cerddor lleol eto, "Babell Newydd," gan John Williams, Babell. a "All Saints" o eiddo yr arweinydd. Cyrchfan cyfarfod yr hwyr oedd Capel y Trinity (pam "Trinity," a hwythau yn Gymry mor bybyr?). Cafwyd canu o nodwedd uchel, a thyrfa fawr yn mwyn- hau y gerdd a'r gan. Cadeiriwyd yma gan yr Hybarch Wm. Prydderch, Bugail yr Eglwys, a rhoddodd ei feirniadaeth yn y gystadleuaeth ar yr emyn goreu i blant. Cystadleuodd 14eg-. Y wobr oedd hanner gini am benhillion wyth llinell. Dywedodd y beirniad fod y mwyafrif heb sylweddoli mai emyn addas i blant oedd eisiau. Y buddug- wr oedd yr unig un a ddeallasai hyn, ac yr oedd ei emyn ef o ran arddull a myn- egiant yn hollol newydd, ac yn well na'r lleill ar lawer cyfrif. Y Bonwr J. Pugh Williams, Trinity, oedd y buddugwr. Bu holi'r plant yn llwyddiant arbennig. a hynny i'w gyfrif i ffyddlondeb y Fon- esig M. Olwen Tucker, o Eglwys y Babell. Cyfeilydd y Gymanfa oedd y Bonwr Gwilym Rees, Trinity; Cadeir- ydd y Pwyllgor, Parch. Walter Davies; trysorydd, Br. John Thomas; ysgrifen- nydd, Br. Morgan Richards. TALNANT. I
Nodion o Aberafan a'r Cylch.
Nodion o Aberafan a'r Cylch. Cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yn y Tabernacl Newydd, Port Talbot, gan Gymdeithas Gorawl y Rock, Cwmafan, pan y perfformiwyd y Creation" o dan arweiniad y Cynghorwr W. Williams. Cynorth- wywyd y cor gan Miss Pauline Allen, Bristol; Mri. David Brazell, R.A.M., a Wilfred Hudson, R.A.M., a'r gerddorfa o dan arweiniad Proff. Gomer Jones, R. A. M. Yr organnydd I oedd Mr. John Griffiths, Pontrhyd- yfen. Cafwyd cyngerdd uwchraddol a mwynhad i dyrfa fawr. Digwyddodd damwain angeuol yng Nglofa Torymynydd, Cwmafon, dydd Llun diweddaf. Syrthiodd carreg cnfawr ar ein cyfaill hoff a diddan, Theophilus Thomas, Craig y Tew- goed, gan ei ladd ar unwaith. Yr oedd ein cyfaill, yn un a gerid gan bawb. Claddwyd ei weddillion ym mynwent yr eglwys dydd Sadwrn, pan y daeth torf fawr i ddangos eu parch iddo. Bu Mr. Phillip Snowden, A.S., yn annerch cyfarfod lluosog yn y Grand Hall, Aberafan, nos Saboth diweddaf, dan nawdd cangen o Blaid Llafur. Cadeiriwyd gan y cyn-Cynghorwr Harry Davies, Cwmafan. Bwriada Mr. Snowden gynnal cyfarfodydd o'r fath yma trwy Ddeheudir Cymru, er goleuo y werin yn yr egwyddorion fel y'u dysgir hwynt gan y Blaid Llafur. Llongyfarchwn Mr. Idris \Vaters, Abergwynfi, ar ei ddyrchafiad yn Ynad Heddwch yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd Cyngor Dosbarth Glyn- corrwg. Dyma'r trydydd cynrychiol- ydd Llafur sydd wedi ei godi i'r fainc ynadol yn ystod y fhvyddvn ddi- weddaf a'r un bresennol. Y ddau arall yw'r Cvnghorwr R. Llewelyn a'r Henadur David Rees, Maer Aber- afan. MAB Y MV\V))!). I
Ar Lannau Tawe. i
Ar Lannau Tawe. Rhoddodd Dr. John Jones, Peny- bank, ddarlith -ddiddorol iawn ar Balestina dan nawdd y Clydach Am- bulance Class yn Ysgoldi'r Bechgyn nos Fercher diweddaf. Taflodd yr hud lusern oedd o dan ofal y Parch. J. W. Jones nifer o ddarluniau rhag- orol ar y lien. Llywyddodd Mr. W. D. Hill, B.A., Fardre House. Yn ystod y cyfarfod anrhegwyd Dr. Jones a ffon gan aelodau'r dosbarth fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth fel athraw. Cyflwynwyd y ffon gan Air. Dan J. Davies, a siarad- odd y llywydd a Mr. Reuben Arnold. Diolchodd Dr. Jones iddynt am eu caredigrwydd annisgwyliadwy. Cyn ymadael cyflwynodd y llywydd y tystysgrifau i'r myfyrwyr llwydd- iannus. Safon 1. Mri. Daniel J. Davies, A. E. Lloyd, Ivor Llewelyn, J. R. Wood, T. M. Havard, J. D. Rees, Ben W. Jones, David Jones, Noah A. Hopkin, a Harry T. Havard. Safon II. NIri. Oliver Havard, David James, Thomas Bowen, Sam. Davies, a Reuben Arnold. Safon III. Mr. John Johes. Cafodd aelodau Cymdeithas Ddir- westol Merched Clydach a'r Cylch anerchiad hynod o ddiddorol gan Mrs. Ashton, o Abertawe, yn Ysgoldy Salem prynhawn dydd Mercher di- weddaf. Llywyddodd Mrs. Grey- Jones, a chanodd Mrs. Stephens yn beraidd. Caed gwledd o de cyn ym- adael. Cynhaliwyd cyfarfod dirwestot llwyddiannus .dan nawdd Undeb Go- beithluoedd Clydach a'r Cylch yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Llyw- yddodd Mr. David John, Brynderw. Daethai yno lu o blant. Cafwyd anerchiadau syml a chymwys gan y Bonwyr E. H. Griffiths a T. J. Wil- liams, cynrychiolwyr o Abertawe. Cymerodd y Bonesau Elsie Norton a Jenny Rees a'r Bon wyr Trevor Price, Emrys Thomas, a Brynmor Thomas, a phlant Carmel a'r Glais ran mewn canu a chwarae. Clywaf bod aelodau'r Clydach Botany Class, dan gyfarwyddyd eu athraw, Mr. W. C. Llewelyn, wedi mwynhau amser dedwydd yn ddiwedd- ar mewn "rambles" dros diroedd Syr John T. D. Llewelyn, Penlle'rgaer, a Mr. John Player yn y Cwar, Clydach. Gwelais aelodau Open Spaces Com- mittee y Cyngor Plwyf yn talu ym- weliad a'r Forge Fach yr wythnos ddiweddaf, a thebyg y cawn ryw- faint o welliantau vn lie hwn cvn bo hir. Credaf na byddai plannu ychydig o flodau yn y Forge Fach allan o le. Dymunol iawn i'r llygaid ydyw pryd- ferthwch ar safle yn nghanol y pen- tref. LLEW.
Gohebiaeth.
Gohebiaeth. Y SGADAN COCH. Mr. Gol., Tra yr oedd nifer o hon- om gyda'n gilydd yn mcddwl ac yn ymgomio'n brudd ar helyntion gweith- wyr Ynysarwed, dywedodd un ryw- beth fel hyn "Pwy feddylse y gallsa sgatan achosi cymant o flindar?" "O," meddai un arall, "o'r saf- bwynt arall y bydda i'n ctrach ar beth- ach. Pwv ond sgatan fyse'n gallu gneud cymant o ofid?" "Ia wir," meddai un arall drachefn, "sgatan a choesa duon o lwyn y canddo, ma nhw'n waeth na phla o' lyffaint." Ma'r sgadan a'r coesa wedi bod yn Simdde'r hen fachgiau," medde rhyw hen wr." Ac felly maent hefyd yn ol yr olwg sydd arnynt. Cewch air eto.— Yr eiddoch, etc., ERYR CRAIG NEDD. I HELYNT RESOLFEN. Mr. Gol.,—Mewn cyfarfod a gyn- haliwyd yn Neuadd Newydd Mr. D. P. Williams o weithwyr Glofeydd Ynysaiwed prynhawn dydd SadWrn, Mai'r gfed, penderfynwyd gaii y gweithwyr sydd yn awr ar strcic i ysgrifennu i'r "Darian" i ddiolch i chwi ac i'ch cymeradwyo am roi i'ch darllcnwyr y ffeithiau yn gywir gyda golwg ar yr achos o'r streic, ac hefyd i ddatgan eu condemniad o waith y papurau eraill yn cyhoeddi adroddiadau camarweiniol. Drwy y falot yr etholasid y prawf- bwyswr newydd, ac er mwyn rhoddi un cynnyg yn ychwanegol i'r "man- agement," aeth y bechgyn i lawr gyda'r prawfbwyswr ncwydd boreu dydd Llun, Mai'r neg, gyda'r am- can o weithio, ar y telerau fod prawf- bwyswr dewisedig y gweithwyr yn cael caniatad i fynd i'r pwysdy. Gwrthodwyd hyn gan y "manager" yn bendant. Y canlyniad oedd i bawb fynd adre. Mae'r streic felly mor gryf ag erioed, ond y mae cocsau duon yn dechreu dod i fewn yma o weithiau eraill i fradychu eu cydweithwyr.- Yr eiddoch, etc., GOH. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of Glamorgan