Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Tipyn o Bopeth o Bontardawy.

I Nodion o Glyn Nedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Nodion o Glyn Nedd. I GAN TOM CYNON. Dydd Sul a nos Lun, Mai y lOfed ac lleg, yn hen gapel Bethania, gwasan- aethwyd gan y Parch. T. Williams, Briton Ferry, a'r Parch. Frank Joshua, Castellnedd, yng nghwrdd pregethu blynyddol y Methodistiaid Seisnig. Nos Lun, Mai yr lleg, cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yr R.A.O.B. yng Ngwesty'r Odyddion. Llywyddwyd gan Mr Isaac Morgan, K.O.M., yn absenol- deb Rees Howells, Ysw., M.E., Aber- pergwm. Ar ol araith wresog gan y llywydd cafwyd can gan Master D. Coombes, datganwr swynol er mai ieuanc ydyw. Cawd caneuon ymhell- ach gan Mri. Wat Phillips, Matthew Webber, Wm. Deveraux, Tom Cole, D. T. Thomas, Ed. Mathews, Wm. Rolles, Haynes; deuawdau gan Mri. Phillips a Ed. Evans Mri. Wat Phillips a David Harries, a chwareuodd Mr W. Thor- burn, A.L.C.M., y piano. Da gennyf hysbysu fod y Parch. T. Carmen Harries (Bethel) yn gwella ar ol y ddamwain a digwyddodd rhai mis- oedd yn ol. Gobeithiwn nad yw yr am- ser ymhell pan y cawn weled ei wen siriol a'i bresenoldeb yn y deml fel yn y ddyddiau gynt. Dyddiau Sul a'r Llun, Mai laf a'r 2il, yng Nghapel Bethel, cynhaliwyd cyfar- fodydd hanner blynyddol, a mwynha- wyd doniau y Parchn. Aron Morgan, Blaenffos, a D. Hopkin, B.A., Noddfa, Trecynon.

I Birchgrove.I

"Y Farn Gyhoeddus." I

Eisteddfod Cwmmawr,I Llanelli.

Eisteddfod Gadeiriol Cwm-I…

I ) INodion o Rymni. ;

Nodion o Abertawe.

- - - - Aberteifi a'r Cylch.I

Neuadd y Gweithwyr,I Ynyshir.--I

[No title]

Colofn y Beirdd. I

"Bob Morgan" yngI Nghwmbach.

[No title]

Gohebiaeth.

" Bob Morgan " yn Aberdar