Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

-===.— Y GOLOFN AMAETHYDDOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

=== — Y GOLOFN AMAETHYDDOL GAN "BRYNFAB." TYFU MAIP. Dyma bwnc y dyddvyn awr ar bob fferm lie mae yr aradr heb ei thaflu i ffos y clawdd. Mae y tywydd rhagorol ydym wedi ei gael y mis hwn wedi galluogi y nifer luosocaf i osod yr haidd yn y ddaear, a chael y tir Maip yn lan. Hanner y gamp ar gyfer cael cnwd da o faip yw cael y tir yn lan, ac nis gellir gwneud hynny heb dywydd sych, yn neilltuol pan fyddo llawer o chwyn yn y tir. Nis oes dim yn debyg i "buro trwy dan" ar y cae maip. Pan geir tywydd digon sych i losgi y "cwtsh," nid oes trafferth fawr i gadw y cnwd maip yn lan yn ystod yr haf. Os na ofelir am gael y tir yn lan, nid oes dim ond poenedi- gaeth i'w ddisgwyl os digwydd i ni gael haf gwlyb. Nid oes achos i mi rybuddio ffermwyr profiadol ar y mater hwn. Yr ydym wedi cael digon o boen yn y cyfeiriad hwn lawer gwaith. Fe dyf y chwyn pan na thyf dim arall. Po leiaf cynnydd y cnwd, mwyaf cynnydd y chwyn. Ar dywydd gwlyb gwaith torcalonnus yw rhedeg y "scyfflar" rhwng y rhesi. Os bydd y chwyn wedi cael y blaen arnom, mae I yn ddigon i brofi amynedd sant wrth orfod crio "who" bob ugain llath, oherwydd fod yr offeryn ysgythrog wedi tagu. Hyd yn oed pan ofelir am redeg yr offeryn rhwng y maip, nid yw ond gwaith ofer ar dywydd gwlyb, am fod y chwyn yn chwerthin am ben yr oruchwyliaeth, ac yn codi ei ben gyda ein bod yn cau clwyd y cae ar ein hoi. Dyna ddigon i ddychrynu y sawl sydd yn esgeuluso cael tir y maip yn lan cyn gosod yr had yn ei wely. Ond sut mae gwneud hynny meddai rhywun. Y ffordd sicraf i gael tir glan i'r maip ydyw ei lanhau yn union wedi cael y cnwd yd i ffwrdd. Fel rheol, ceir gwell tywydd i ladd y chwyn yn niwedd Medi a dechreu Hydref nag a geir yn Ebrill a Mai. Wedi ,cael gwared o'r etifeddiaeth a adawodd Adda i -ni yn niwedd y flwyddyn, gallwn gysgu yn esmwyth yng nghylch y tir maip, nes y byddwn yn barod i'w "groesi" wedi gorffen hau defnydd brag. Os ydym yn bwriadu rhoi tail i'r tir maip, dylid gwneud hynny hefyd ddiwedd y flwyddyn. Mae y "sarn" fyddo yn y tail yn cael digon o amser i bydru yn ystod y gauaf, ac yn cym- ysgu a'r pridd yn well yn y gwanwyn, na phan gludir ef o'r domen i'r rhesi. Cydnabyddaf fod y tail yn frasach wrth ei ddefnyddio yn y modd olaf, ond rhaid cymeryd i gyfrif fod llawer sylwedd yn cael myn'd i'r rhesi cyn ei • fad-yn dail. Bydd y sylwedd fyddo heb bydru yn cadw y pridd yn thy ysgafn yn y rhesi i ateb haf sych. Ar haf gwlyb nid yw defnyddio tail heb bydru digon yn gymaint o bwys. Mae llawer ffermwr wedis gadael defnyddio tail y beudy a'r ystabl i ,dyfu maip, a defnyddio gwrteithiau -celfyddydol yn ei le. Ond os ydym am gael cnwd trwm, rhaid yw cwmpo yn ol ar yr hen wrtaith. Mae y gwrtaith celfyddydol yn help mawr gyda'r tail, ond ychydig ffydd sydd gennyf ynddo wrtho ei hun. Mae yn wir nas gellir tyfu digon o faip mewn llawer man, heb ddefnyddio gwrteithiau celfyddol, a hynny oherwydd prinder tail. Ond pan fyddo digon o dail yn gyfleus, ychydig iawn welais i yn ei anwy- byddu.. Gyrru y tir "allan o wynt" wna y gwrteithiau a ddaw atom mewn cydau, os na chynorthwyir y cyfryw yn awr ac yn y man gan galch neu dail. Flynyddoedd lawer yn ol ystyrid nad oedd dim yn debyg i guano am dyfu maip. Wedi hynny daeth y "bone manure" i fri, ac nid oes ei well yn y farchnad heddyw, er yn ddrutach nag un arall i'w brynu. Os oes un math o wrtaith, a wna ei waith heb gynorthwy tail y gwartheg a'r ceffyl- au, y "bone manure" yw hwnnw. Daeth "superphosphate" i sylw yn ddiweddar, a mynnai rhai ddweyd ei fod yn un da i godi pob math o faip. Ond mae hwn wedi dod i enw drwg yn ddiweddar, oherwydd ei fod yn rhy gyfeillgar a'r gelyn a elwir yn "Finger and toe." Gwyr llawer fferm- wr am anrhaith y gelyn hwn. Pan gredwch fod genych gae rhagorol o faip, bydd y gelyn hwn yn eu dinystrio dan eich trwyn. Wedi singlo" y maip a'u gweled yn codi eu pennau yn iachus, gwelir hwy yn ami cyn pen pythefnos a'i gwreiddiau yn dechreu magu "pys gwylltion," a dyna ddiw- edd am danynt i bob dyben. Gwelir eu dail yn gwywo yn yr haul, ac ymaith a hwy, ond nid i logell y fferm- wr. Os y daliant ymosodiad y gelyn, odid fawr na fyddant wedi eu clwyfo, .ac na ddeuant i hanner y maint y deu- ent, pe yn iach. Yn ddiweddar, mae ein dysgawdwyr amaethyddol yn dweyd nad oes dim fel "basig slag" a "Kainit" i wrthsefyll ymosodiad y "finger and toe." Rhyw bedwar can- pwys o'r blaenaf, a dau neu dri chant o'r olaf yw y ddogn sydd yn unol a'r ddysgeidiaeth ddiweddar. Mae gelynion afrifed eraill yn ym- -osod ar y cnwd maip. Pa ffermwr na wyr am y "flies"? Nis gwn beth ddylai fod eu henwau yn Gymraeg, os nad chwain tir. Neidiant fel eu chwiorydd sydd mor hoff o grwyn pobl, ac maent mor ddifaus a locusti- aid ag ystyried eu bychander. Nid oes un dewin a wyr beth sydd yn eu cynhyrchu na pheth sydd yn dyfod o honynt ar ol iddynt wneud y dinystr. Os digwydd i'r tywydd fod yn wresog a mwll pan fyddo y maip yn torri o'r tir, bydd y pethau bychain rheibus yn difa y cwbl o'u blaen, fel yr ydys yn gorfod hau cilwaith, ac eilwaith, am- bell flwyddyn, ac nid oes llawer o lew- yrch ar gnwd o faip, os na cha dyfu heb i ddim ymyraeth ag ef. Mae y tir yn caledu gormod i'r cnwd gael elfenn- au bywyd ynddo. Os byddis yn gor- fod hau yr ail waith, gwell yw anfon yr aradr ddwy foch rhwng y rhesi i godi tamaid newydd i'r ail gnwd geisio byw arno. Awgrymir llawer meddyginiaeth i ddifodi "chwain y tir." Ceir rhai o wneuthurwyr y gwrteithiau celfyddyd- ol yn honni fod marwolaeth i'r chwain ym mhob cwd ganddynt. Ond peid- iwch a'u coelio. Mae cwacyddiaeth wedi bod yn brysur gyda difa y ere-I aduriaid bychain er y cof cyntaf sydd gennyf fi am danynt, ond y maent yn adgyfodi wrth y miliwnau ar bob cae maip os c&nt ddim o siawns gan y tywydd. Mae rhai yn credu mewn taflu calch blawdog neu huddugl dros y plan. higion cyn i'r gwlith godi oddiarnynt. Ceir erail yn Ilusgo pren ysgaw dros y rhesi. Yr wyf wedi gwneud prawf ar y cwbl, ond i ddim dyben. Cred rhai mewn gosod yr hadau mewn llestr a "pharafin" ynddo; yna eu sychu cyn eu hau. Eraill a gredant fod gosod digon o fwstard gyda'r hadau yn feddyginiaeth. Yr wyf wedi profi y pethau hyn yn fethiant. Wel, beth yw eich ffordd chwi i drafod y pethau difrodus, meddai rhywun. Wel, dyma yr unig ffordd sicr—rhowch ddigon o fwyd iddynt. Peidiwch bod yn gy- byddlyd ar yr h&d. Rhowch ddigon o h&d i chwi a'r chwain. Pa dewaf y berth, cyntaf i gyd y daw y "ddeilen arw." Ni fyddai o le hefyd i wario ychydig sylltau ar h&d radish i hau gyda'r had maip. Neidia'r chwain yn fwy blasus at y radish nag at y maip. Ac os digwydd i'r gwynt a'r gwlaw gadw y gelynion ysglyfaethus i ffwrdd, gwaith digon hawdd fydd ten- euo y berth faip, a bwyta y "radish." Os oes gan rywun welliant i'w gynnyg, byddaf yn ddiolchgar am dano. 4

Oddiar Lechweddau Caerfyrddln.

Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.

Nodiadau D. Ff. Dafis.I

Advertising