Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y Parch Isaac Jones, Salem Newydd, Ferndale. Drwg gennym am y newydd am farw oedd lawer. Ni ddaeth hanes ei y gwr da hwn yr wythnos ddiwerhlaf. angladd mewn pryd i'r rhifyn hwn. GweinidogactllOdd gyda phan-h a uy Daw y tro nesaf ynghyda bra si in o'i lanwad mawr yn Ferndale nrn %vi\ .Ui hanes.
Ar Larnau Tawe.
Ar Larnau Tawe. Cafodd aelodau'r gangen ieuanc o Gymdeithas Ddirwestol Mevched C'lyd- ach a'r cylch anuser dedwydd pap ar grwydr dros Fynydd Gellionen pryn- hawn dydd Iau diweddaf. A chafwyd tywydd hyfryd i fvvv:-ihau Hamu arcs y fcryniau awelog. Pwy ydoedd y dyn ieuanc hwnnw o Glydach gymerodd at y gwaith o lanhau y simdde rhwng un a dau o'r gloch y bore yr wythnos diweddaf am ei fod yn methu cysgu yn swn parhaus y brain bach oedd mewn nyth ynddi? Troais i mewn i'r Cwrt Leet blynydd- ol gynhaliwyd yn y Three Compasses, Clydach, prynhawn dydd Mereher di- weddaf. Llywyddodd y boneddwr Mr R. W. Bear. Daethai rhyw hanner cant o ffermwyr y cylcn ynghyd, a gwel- ais Mri. F. H. Glynn Price a J. R. Dowdall hefyd yn bresennol. Etholwyd Mr David Jones (Felindre) yn bailiff am y flwyddyn, ac etholwyd Mri. William Lang, Perthi Gwynion; John Morgan. Cwmtawe; David J. Davies, Fforch- egel; Hopkin Jones, Twllygwyddel; Thomas Bevan, Ty'nwaun; Wm. Wil- liams, Penrhiwgwysfa David Francis. Ffynon Sant; Enoch Jones, Cwmcile William Anthony, Cefn Fforest, a Thos. Williams, Tirdonkin, yn haywards. Hefyd, etholwyd Mri. Llewelyn Jones, Cwrtybariwns; Lewis Williams, Cil- maen Gwyn John Jones, Penybank Ivor Williams, Odinfoel; David Bevan, Myddfai, a Joseph Harris, Bryn Rhos, yn ffald-geidwaid. Mwynhawyd gwledd cyn ymadael. Anerchodd Mr J. R. Davies, ysgol- feistr o Gwmbwrla, Gymdeithas Ddir- westol Clydach a'r Cylch yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd Mrs. Grey- Jones a chanodd y chwaer ieuanc Miss Miriam Stephens yn swynol iawn. Digwyddodd damwain dost i Alfred Ball, o Heol Hebron, Clydach, yr wyth- nos ddiweddaf, pan yn gweithio gyda'r trucks dan Gwmni Glofa Clydach Mer- thyr. Torrodd asgwrn ei figwrn, a symudwyd ef i Yspyty Abertawe ar un- waith. LLEW.
Nodion o'r Maerdy.
Nodion o'r Maerdy. Cynhaliodd y Methodistiaid eu Cym- anfa Gerddorol eleni yn y Maerdy a Ferndale. Yr arweinydd ydoedd Mr. Hopkin Evans, F.R.C.O., Castell- nedd. Yng nghyfarfod bore Llun yn Ebenezer, ar gais y llywydd, Mr. T. D. Lewis, cafwyd pleidlais o gydym- deimlad ar brawd ieuanc, Mr. John Hughes Jones, yn ei waeledd maith, ac ar hyn o bryd ym Mhorthcawl yn ceisio adgyfnerthiad. Cafwyd Cyman- fa ragorol yn mhob ystyr. Cynhaliodd ein brodyr y Bedyddwyr eu cyfarfodydd pregethu blynyddol ar y dyddiau Sadwrn, Sul, a'r Llun, 16, 17, i8fed o'r mis hwn. Y cen- hadon hedd eleni oedd y Parchn. J. Lee Davies, Brynaman, a Thomas Jones Penygraig. Teimlem fod gan y ddau genadwri amserol, ac ysbryd y peth byw yn amlwg. Dydd Llun, Maj yr 17eg, yr oeddym yn hebrwng un o hen frodorion y lie i dy ei hir gartref, sef Mr. William Thomas, fireman am lawer iawn o flynyddoedd yng ngwasanaeth Messrs. Lockett's. Yr oedd hefyd yn ddiacon gweithgar yn Eglwys Bethania, M.C., ac yn anwylddyn yr eglwys. Prawf (amlwg o hyn oedd y dorf ddaethai i hebrwng ei gotff dros y mynydd i Aberdar i'w gosod ym meddrod y teulu. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan ei weinidog, y Parch. J. E. Williams. Canodd y cor dan arweiniad Mr. John Lewis amryw o'r hoff emynau. Bydded i'r Arglwydd fod yn nodded ac amddiffyn i'w deulu, yn neillduol felly ei ferch, gyda'r hon y cafodd bob tynerwch yn ei gystudd blin. Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Cawsom y pleser a'r anrhydedd o fod yn bresennol yng nghyfarfod yr uchod ym Mhontypridd, ac yr oedd yn werth i bob Cymro a Chymraes sydd yn caru eu gwlad a'u cenedl i fod yno, pe ond i wrando ar y Parch. Emrys James yn traddodi ei anerchiad byw a gwresog. Teimlem ein gwaed yn berwi ynom wrth wrando arno, a gofidiem na fuasai y cannoedd Die Sion Dafyddion oedd i'w gweled a'u clyvved yn baldorddi iaith y Saeson ar hyd heolydd Pontypridd yn ei glywed hefyd. Yn sicr, Mr. Golygydd, mae gan bob ardal lawer iawn i'w wneyd er hyrwyddo a chadw yr hen iaith yn fyw, drwy ei siarad a'i dysgu, nid yn unig yn ein bysgolion dyddiol, er cys- tal yw hynny, ond os am ei dysgu a'i chadw yn bur a dilwgr rhaid gofalu am dani ar ein haelwydydd ac yn ein hysgolion Sabothol. Pe gwnai'n heg- lwysi a'n hysgolion fwy o chware teg a'r Gymraeg, gwelid llai o ieuenctyd ein gwlad yn gwirioni eu pennau gyda'r "Football Echo" a'r "Police News" a sothach llygredig eraill sydd ar led. I MEIRIONA. I
I Nodion o Glyn Nedd. I
I Nodion o Glyn Nedd. I I GAN TOM CYNON. I Y noson o'r blaen, yng Nghapel Siloh, Cwmgwrach, darllenwyd papur ar hanes hen fardd enwog yn ei ddydd gan Mr John Perkins, gynt o Aberaman. Clywyd pethau diddorol am yr hen Jjar- triarch awengar. Dyn ieuanc yw Mr Perkins, a datganwyd gwerthfawrog- iad o'i lafur gan y Parch. Albert Evans, gweinidog, ac eraill, gan ddymuno rhwydd hynt iddo. Dydd Llun, Mai 18fed, yn 72 mlwydd oed, claddwyd gweddillion Colonel Thomas Phillips, o Abermellte, Pont- nedd-fechan, gynt o Aberdar. Yr oedd yr ymadawedig yn hynod o gyfeillgar a'r ardal yma, fel yr oedd yn Aberdar. Yn Aberdar yr oedd wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes, ac wedi llanw swyddi tra pwysig yno o dan y byrddau lleol. Bu'n arweinydd Gwirfoddolion Aberdar am flynyddau lawer, ac yn un o aelodau Eglwys Undodaidd Seisnig Highland Place. Gwasanaethwyd yn y ty cyn evehwyn gan y Parch. R. J. Jones, Hen- dy-Cwrdd, ac yn Nghladdfa Aberdar gan y Parch. E. T. Evans, Highland Place. Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu. Boreu Llun, Mai 18fed, yng nglofa Pwllfaron, cafodd dyn ieuanc o'r enw Frederick J. Haynes, mab Mr a Mrs. John Haynes, Avon Terrace, ei ladd tra wrth ei waith fel glowr. Yr oedd yn ddyn ieuanc tawel a chymwynasgar, a thorrwyd ef i lawr yn 21ain miwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym Myn- went Aberpergwm dydd Gwener, pan ddaeth torf fawr ynghyd o'i gyd-weith- wyr. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Ll. Thomas, Ficer Aberpergwm. Dydd Mawrth, Mai 19eg, yn yr un nglofa, cafodd un o'r enw John Lewis, o Benydarren, Merthyr, ei niweidio i'r fath raddau fel y bu farw ymhen ych- ydig oriau wedi iddo gyrraedd gartref. < Nos Fawrth, Mai 1ge9, traddodwyd anerchiad buddiol ar ddirwest yn Siloh, Cwmgwrach, gan y Parch. E. J. Evans, I Capel y Glyn. Cafwyd cynhulliad da. j a phawb eu boddloni. | Nos Iau, Mai 21ain, bu Hugh Ed- wards, Ysw., A.S. Canol Morgannwg, j yn annerch cyfarfod yng Nghapel y Glyn. Daethai nifer lluosog ynghyd, a j chafwyd anerchiad grymus ganddo. Llywvddwyd gan Mr E. J. Hopkins, a j chafwyd araith dda ganddo yntau. Boreu Sul, Mai 24ain, trodd Seindorf Arian Aberpergwm allan, a chwareu- wyd amryw o ddarnau cysegredig yn swynol ganddynt, o dan arweiniad Mr. John Morgan, tra yn myned i Eglwys Aberpergwm i'r gwasanaeth. Tra- ddodwyd pregeth iddynt gan y Parch. J. Ll. Thomas, M.A., Ficer.
Waun Cae Gurwen. I
Waun Cae Gurwen. I Seibiant.—Mae y frawdoliaeth yng N gharmel wedi caniatau tri mis o wyliau i'w gweinidog, y Parch. B. D. Davies. Bwriada eu treulio yn Ne- heudir Lloegr gyda'r amcan o geisio ad-enill ei nerth. Eiddunwn iddo well- had buan fel y gallo arwain ei braidd i fewn ac allan fel cynt. Ymfudiad. Mae Mr. Samuel Jen- kins, Y. H., Cwmgorse, yn cymeryd mordaith i wlad y Gorllevvin i drculio ychydig fisoedd. Boed iddo yntau daith lwyddiannus, a hyderwn y ceir ganddo ar ei ddychweliad ddarlith o'r hyn welodd a'r hyn glywodd ar ei siwrne. Gwyl Bregethu. Dewisolion gwyl bregethu y Tabernacl y tro yma oedd- ynt y Parch. Vernon Lewis, B.A., B.D., Lerpwl, a J. J. Jones, Llanelli. Rheilffordd Newydd. Mac y ffordd haearn newydd yn mynd rhag- ddi'n gyflym, ac i bob argoelion gor- ffennir hi'n gynt na'r disgwyliad. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr i bres- wylwyr y Waun a Chwmgors, ac yn sicr o chwanegu llawer at boblogrwydd y lie. Cyfarfod Anrhegu. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn y Tabernael Hall nos Lun diweddaf i anrhegu y brawd Johnny James, cyn-brawf-bwyswr Glofa C wmgors ar ei ymadawiad a'r lie I i ardal fwy canolog- a hwylusach iddo yn ei swydd ncwydd. Cyflwynwyd iddo argraff-ysgrifydd. Siaradwyd gan amryw yn ystod y cwrdd, a'r oil o honynt yn rhoddi cymeradwyaeth uchel i Mr. James fel un fu'n gyfrwng myrdd a rnwy o welliannau yn y lie. Chwith iawn ydyw colli dynion def- nyddiol o ardal, yn enwedig ddynion fedr ddweyd y gwir heb ofni'r can- lyniadau. Prin iawn ydynt yn y byd. Arhoed ei fwa yn gryf i gyflawni ei swydd newydd fel canolwr rhwng meistri a gweithwyr, a gosoded gyfiawnder yn brif nod ei ymgais. I GOH. I
I Ferndale. I
I Ferndale. I I GAN IOAN. I Mae 17eg a'r 18ed, cynhaliwyd Cy- manfa Gerddorol Annibynwyr Fern- dale yng Nghapel Trerhondda. Yr arweinydd oedd Mr David Williams, Ferndale. Aeth trwy ei waith yn gamoladwy. Llawenydd oedd gan ei luaws cyfeillion yn y lie ei weled wedi ei adfer i'w iechyd, fel ag i fod yn alluog i wasanaethu yn y cylch cerddor- ol. Mae Eglwys Trerhondda wedi cael ei wasanaeth am flynyddoedd yn y cylch hwn, ac yntau wedi ennill Kerch y cantorion, fel nad oedd yn rhyfedd fod safon y canu yn y Gymanfa hon mor uchel, o ran swyn. defosiwn, ac efcith- iolrwydd. Yn arbennig felly ar mi o r tonau a'r cydgan, We never will bow doitn. Danghosodd y cor yr arw-iJd benderfynol sydd yn nodweddiart jl r, r gytgan hon. Gwnaeth y plant eu i-h:i y ganmoladwy. Y cyfeilwyr oedct Mri. W. J. Williams, Trerhondda; Brinltv Rees, Tabernacl; Misses Cassie H Jones, Trerhondda, a Mary G. Watkins, Tabernacl. Arweinyddion rehearsals y rhai mewn oed, Mri. D. Williams, Tje rhondda, a David James, Tabernici y plant, Mri. David Jones, Trernotuioa. a Ben Evans, Tabernacl. Llywyddwvd y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn G. Penrith Thomas, Trerhondit. I. Bryn Thomas, Tabernacl; Mri. Phillip Phillips, Tabernacl, a Gwilym A.C., Trerhondda. Canwyd una'-vJau gan Mr Arthur Evans, Tabernacl; Miss Edith Powell, Tafcernacl; a chytgan gan Barti Mr Ben Evans, Ferndale. Cafwyd anerchiadau gan Mri. Gwïlm Reed, Tabernacl; John Thomas, Pen uel; J. R. Lewis, Alaw Rhondda, a William Jenkins, Ferndale. Y buddugol am y don oreu i'w gosod yn rhaglen 1915 oedd Mr Ben Williams, High Street Ferndale. Beirniad, Mr. Theophilus Thomas, G. & L., Ponty- gwaith. Pasiwyd 21 o ymgeiswyr ar- holiad y Tonic Solfa yn llwyddiannus. Mae 20, yn Festri Penuel (M.C.), caf- wyd anerchiad yng nghyfarfod y Teml- wyr Da, gan Mr John Hughes, Taber- nacl (A.) ar Ragoriaeth Temlyddiaeth Dda ar gymdeithasau eraill. Llywydd- odd Mr John Jenkins, Penuel. Cafwyd anerchiad byr ond hynod o hwyliog. Siaradwyd gan amryw o'r brodyr oedd yn bresennol, a chafwyd cyfarfod adeil- adol iawn. Mai 22, yn un o ystafelloedd Neuadd y Gweithwyr, cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus g,r<tn weithwyr y lie. Llywydd, Mr T. R. Thomas, prawfbwyswr. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Bwyllgor Can- olog y Ffederasiwn yn gofyn barn y cyfrinfa Ileol ar y priodoldeb neu'r amhriodoldeb o roi rhybuddion i fewn fel cefnogaeth i geisiadau y bancwyr am godiad i 4s. 3c. y dydd yn eu cyflogau a naw awr o waith. Pender- fynwyd drwy fwyafrif i'w rhoddi. Pas- iwyd yr un penderfyniad gan weithwyr Tylorstown yr un noson.
Cymanfa Ganu Siloa,I Aberdar.
Cymanfa Ganu Siloa, I Aberdar. Cynhaliwyd y Gymanfa hon y 8ul di- weddaf. Yr arweinydd oedd Mr W. J. Evans. Nid oes angen ei ganmol ef oherwydd y mae ei glod yn hysbys drwy'r wlad. Y Parch. Silyn Evans, y gweinidog, oedd y llywydd, a chwareuai Mr J. J. Williams wrth yr orgin.1 Y mae cynulleidfa Siloa yn ddigon o ran talent a nifer i wneud Cymanfa Ganu deilwng o'r enw, ac un felly a gaed eleni.
- - - -- - -.- -I 1 Colofn…
Colofn y Beirdd. Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, I Yr Hendre, Pontypridd. I
[No title]
Y GWERINWR. I Aor allwyl yw'r gwerinvvr,—yn ei wlad Mae'n haul o ddiwygiwrj erioed sv'ti NN,ared%N-r A By\ gwaith' yw Haw y gwr. Treharris. T. H. LEWIS. I Y GAEAF. I Yr odwlaw yn y dyffryn, A't- eii-a ai, y bryn, A'r rhewwynt yn distewi Jlais Y tonnau ar y llyn, A'r barug oer yn cerdded Trwy'r coedydd yn y pant, Dan droi eu cangau'n bontydd cain 0 arian uwch y nant. Dyna ydyw'r gaeaf, Cydneswn ot y tan I wrando'r stormydd yn y fro A dawns y cenllysg ar y to, Mewn croesaw ac mewn can. Sylldremiwn ar yr eira Hyd ifyrdd y wawrddydd wen. Ar blu yr eira'n chwarae 'nghyd Nes dallu'r nef uwch ben, Gan ddisgyn yn esgeulua Ar lesni dol a gardd; Nid ydyw meillion Mai i mi Mor swynol nac mor hard(l. Dyna ydyw'r gaeaf, Cydneswn at y tan I wrando'r stormydd yn y fro A dawns y cenllysg ar y to, Mewn croesaw ac mewn can. Dolgellau. EDNAT. DKANNOETH I'R DANCHWA I Canfyddais rhyw hogyn ar gamfa y cwm Yn welw, a'i ruddiau yn llwvdion, Ei lais yn grvnedig a'i wisg oedd yn llwm, A'i galon yn llawn o bryderon; Gofynnals I r bychan, pe betli svdd yn bod? Paham yr arosi fan yma ? Atebodd yn ddistaw, y bychan dinod, 'Rwy'n aros i ddisgwvl am dada." Nos drannoeth evehwynais dros Iwybr v cwm Gael gweld a ganfyddwn y bychan, Ac yno yr ydoedd a'i galon fel plwm, Mor welw ag angau ei hunan; Gofynnais i'r hogyn truenus ei wedd A ydyw dy fam ger y lofa?" Atebodd trwy'i ddagrau, Mae mam yn y bedd, 'Does gennyf ond disgwyl am dada." Yr amscr aeth heibio, un dydd ar ol dydd, A'r hogyn yn disgwyl yn ffyddlon, Y dagrau a dreiglai i lawr dros ei rudd Adroddai dirgelion ei galon; Daeth saith o amddifaid o'r bwthyn gerllaw Tuag ato hyd gamfa y lofa, Dywedent, Tyrd adref, ein brawd, rho 1 dy law." Atebodd, 0! na, beth am dada?" Ond lia! yn y bore, ar doriad y wawr, Tra'r hogyn bach bron a llesmeirioj Yn nyfnder ei ofid fe hlygodd i lawr, A'i ddwylaw ymhletli i weddio; Ar hyn dyna dyrfa yn cario ei dad Yn farw losgedig o'r lofa, Tra'r hogyn yn wrthrych tosturi ei wlad Wrth aros mor lFyddlon i'w dada. Mi welais gynhehrwng ar heol y wlad, A'r hogyn hach gwelw yn canlyn, 'Roedd wyth o amddifaid yn angladd eu tad Yn wvIo heb neb i'w hamddiffyn; Y dyrfa yn foddfa o ddagrau bob un Wrth aros o amgylch y gladdfa, I wylio yr hogyn mor welw ei lun Yn rhoi'r ffarwel olaf i'w dada. Ond ha! i'r amddifaid mae gobaith i'w gael, 0 gwrando yn a stud y stori, Mae Tad yr Amddifaid yn rhoddwr mor hael, Fe gofia am danynt yfory; 01 blant, ymgysurwch, cewch gwrdd maes o law Ar fryniau di-gwmwl y wynfa, Lie nad oes byth angau i beru i'ch fraw, Na byth son am olion un danchwa. Treharrif. T. H. LEWIS. Y GWANWYN. I Mae'r Gwanwyn yn dyfod, Croesawaf e'n fwyn, 0 ddrws fy rnhi-eswylfod Tan gysgod y llwyn, Sydd yma'n hlagnro- Er gaeaf ai nod, Ond distaw yn tystio Fod Gwanwyn yn dod. Mae'r Gwanwyn yn dyfod, Anhraethol ei werth, Yn esmwyth gwna osod Ei nod ar bob perth, Mewn gwisgoedd digvmar Y gwisgir y coed, A chartref yr adar Mor hardd a erioed. Mae'r Gwanwyn yn dyfod, A swyn yn ei gol, Ei ddehv wna osod Ar fynydd a dol; Aneirif ei ddoniau, Yn bur fel y wawr, Amrvliw ei flodau Ar Iwybrau y lIawr. Maf"r Gwanwvn yn dyfod, Yn felus ei dant, Newidia gyweirnod Yn anthem y plant; Swn canu a glvwir I 0 gangen pob lhvvn, I Bnld Hon y mynydd-dir I Gan ddefaid ac wvn. Gwanwvn yn dvfod, Yn hrydferth o draw, Ni welir oj difrod Y gaeaf, pan ddaw. Ymleda gwerdd fantell Lie gesvd ei drocd, A llenwir nob stafell Rhwng cangau y coed. Mae'r Gwanwyn yn dyfod, A clian sir ei fin, Yn bur n dibechod. I Ac iaehus ei rin. Mne tlvsni vn chwareu II *0 amgylch ei wen, Cvfranna ei ddoniau T' fenainc a'r hon. Mae'r Gwanwyn yn dyfod, Ni clilywit- ei lais, Ei ddelw ni esyd Yn unman trwy drais, Mewn cariad a heddweh— Rhwng dyffryn a bryn, A phraidd y diffaethweh Yn diolch am hyn. Mae'r Gwanwyn yn dyfod, Yn hoenus a lion, Ceir dogn yn ei gardod 1 loni pob bron; Fel Gwanwyn, mwyn tirion Dymunaf gael byw I wasgar hendithion I bawb dynol ryw Tredegar. W.LL.
j Penderyn.I
Penderyn. Nos Lun, Mai i8fed, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol yn Jerusalem, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, dan lywyddiaeth Mr. D. Cynon Davies. Wele y rhaglen awd trwyddi: — Unawd bass, "The Diver," Mr. Willie Bevan. Adroddiad, Mr. R. Thomas. Unawd, "The Pardon came too late," Mr. R. Williams. Adroddiad, Miss L. Bevan. Deuawd, "I surrender all," Misses Jenkins and Thomas. Unawd ar y piano, Miss Mariel Davies. Adroddiad gan Miss Susie Meyrick. "Y Gwanwyn" (Muller) gan Barti Meibion Mr. R. Williams, j Hirwaun, yn ardderchog. Unawd, j "Dacw'r bwthyn gwyn y'm ganwyd," Mr. H. Meyrick. Alaw Gymreig, Y r hen amser gynt," gyda variation ar y piano, gan Mr. Tom Richards, L.L.C.M., Hirwaun. Dadl, "Ym- osodiad ar Jericho," gan Mr. H. Mor- gan a'i gyfeillion. Trio, "Neb ond Ti," Miss Jenkins a'i chyfeillion. Adroddiad, Miss Thomas. Pedwar- awd, "Low and Low" (Syr Joseph Barnby), gan Miss Jenkins a'i chyfeillion. "Awn tua'r Cadfaes" (Pencerdd Maelor) gan Barti Meibion Mr. J. R. Williams, a dygodd hyn y cyfarfod i ben, a phawb wedi mwyn- hau eu hunain. Yr oedd yr oil a gymerasant ran yn y canu a'r adrodd yn ddeiliaid o Ysgol Sul Eglwys Bethel M.C., Hirwaun, a dyma'r ail dro iddynt roddi "treat" i bobl Pen- deryn. Tra yr oedd un Daniel Davies, gwas Mr. Edward Harris, Heol Las, yn llyfni cae gwair ar dyddyn Ynyswen- dorth—cae perthyol i'w frawd Rees Harries, aeth dant yr oged am bren fel yr attaliodd y ceffyl. Tynnodd y bachgen allan ei gyllell i'w dori, ond rhywsut "slipiodd" y gyllell nes brathu ei fraich a thori y brif wythien. Gwaeddodd am gynhorthwy, ac aeth un Thomas Morgan ato a rhwymodd ei fraich ac aeth ar geffyl i Hirwaun at y meddyg, ond fodd bynnag bu farw y bachgen am 5 o'r gloch bore Llun. Cynhaliwyd trengholiad arno nos Fawrth o flaen Dr. Jones, Pont- henri, a dyna oedd barn Dr. Thomas, Hirwaun, ydoedd i'r gwaed gael ei droi yn ei ol yn herwydd rhwymo y fraich mor dyn ac i "glot" o waed drwg gyrraedd y galon ac achosi ei farwolaeth. Cydymdeimlir yn fawr a'i rhieni, Mr. a Mrs. Davies, Posth, Ystradfellte, wrth golli eu mab yn yr oedran cynar o 18 oed trwy yr an- ffawd ofnadus hon. I Dce
IEisteddfod Fforestfach.
Eisteddfod Fforestfach. MAWRTH GWYN, 1914. I Cyfansoddiadau Barddonol a Llenyddol Barddoniaeth. Pryddest (15) Mab y Wawr, Dan ei Choron, Glasfor, Laus Deo, Hyderus ar ei daith, Gwynfajj, Macwy'r Helpis, Newman, Ar hyd yr hirnos, Min y Wawr, Lluddiedig, Un wyr ei gwerth yn oriau'i gur, Will ap Daniel, Gobaith Gwell, Hyder. Penillion Coffadwriaethol (7): Excel- sior, Llais Adgof. Adgof, Y Myfyr Trist, Swynol, Brithodlydd, Llef Ad- gof. Penillion i'r Pasg (9): Nimrod, Pantawelfab, T.H., Dan Arwydd y Gwaed, Y Dysgybl Hwnw, Dan ei Hud, Hyfryd Wawr, Joshua, Un yn cydym- deimlo. Englyn (39) Ilan. Myfyr, Myrddin, Glyndwr, Islwyn, Law, Elfab, Sylwed- ydd. Absalom, Brawd, Pob Parch, Y Mab Hynaf, (3) Simon, Pedr, Min yr Awel, Careg Filltir, Tom, Ar y Brif Ffordd, Tramp. Tosturiol, Briniog, Gwr Gweithgar, Diwyd, Pererin, O'r Gongl. Gweithiwr bach diwyd (2), Ar ddod yn fardd, Min y Ffordd, Tramp, Wedi blino'n lan, Methu aros, Bryn- awe lon, Arthur, Pererin, Trugarog, H.J. Llenyddiaeth. Traethawd, Cadwraeth y Sabbath, (18): Cadwyson, Un garai ei barchu, Didymus. Terminus, Mab Llafur, An Old Navvy. Caradog, Serebiah, Y Llai na'r Lleiaf, Caron, Ezra, Andrew Car- lyle, Cromwell. Talogfab, Dewi or De, Idwal, Bob, Idwalfod. Traethawd, Hanes Paul (8) Ymgeis- ydd, Sulwenau, Y Teithiwr Blin, Ed- gar, Perthynas Paul, Roverto, Scribo Lactus. Un Arall. Glee (0) Glyndwr, C Naturiol, Marcus, Flat G, Snow Ball, Sherzo, Hilton, Toriad y Wawr, Vaughan. Ymddengys y feirniadaeth yn y "Darian. DAVID JENKINS, Ysg. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan
Advertising
t !ARt P PICTURES t IVALUABLE BOOKS GIVEN FREE. 1^ Mr. JOHN DAVIES, 1) = Picture Framer æ 11, CARDIFF STREET, I I ABERDARE. i Ss s has been appointed an agent for the "World's Best" Prizt: as Scheme. You should call as soon as possible and see fot 55 yourself the valuable Pictures and Books which are give H 55 free under this Scheme. S ASK FOR ILLUSTRATED LIST GIVING FULL PARTICULARS, HS S All the household articles with which the World's Bet" Guarantee Seals arc p" æ packed are of the highest quality and are the productiohs of well-known ifrms. A = fall list is given below. If any of the undermentioned articles are unobtainable in æ Jour district please notify 01 of this by post card, giving the name of the Article, al, = '5 the address of the grocer or oilman concerned. ? L.?htn.u? Soap. 4 HMB. Imperial Naptha S"V. = SEE Bull Uot S?tp. Robin'* Soap Powder. S=;? æ Topsail Carbolie Soap. Robin. Fin?tt Soft Soap, 1 ?. 2 '? ? Throne ''rimroM Soap. 4 lb. and 7 lb. tin.. F •• CO k's Primrose Soap. 2 sizes. Robin's < flan Toilet Soap. assorte y* = Sweet Laandry. EL C. Wtilier. perfumes. = Cook a Washing PDVWdOr. Robin's Soowdown Aerated C«n(Hes (i HS = Home Palo S08p. 2 size& ctftono). 2 lizet. [2 .i&e == 2S Home Ctirbolic Soap. 2 Miet. Bltkentan Boot Poliisb (blaok browti- —* mmim Qutcu'i Honcf Soep* 2 MXM, Spector (Clcdoser and Polisher). s.w. Queen'e Crbotic Soap. 2 siz4m Cracker (Soap Flakes). = = enshine (Cleanser & Polisher) 3 ti?e*. NaphthoUte Soap. = == BuU'" Eye Aeraued Candles (in carton.) Checkmate U?infectant S"V. = ? Dippo (Self W?her). D "hn Nibt Li,bu. in boxes Muu u = Winner Shaving StieL 12—6 hour. 10-4 hour, or ? = S tnvinciMe Transparent Toilet Soap hour )i)thf == Sweet May Toilet SOOP. [2 si_a. t'nraMn Soap. Turpene Soap Red Maid Aerated Candles Cneartom*) S<tumMetatPoti*h.(t)quid).3e:z ?? == Acme Complexion Soap. [2 sizes Saturn Metal rouob6 (paste). 2 size SS = Acme Sh..in, St^k.  SoP.  (.'Uhme,-re V.luton Todet &mp. Ca :?-.r. Shaving Stick- == R. pld (,[censer Rapid Carbohc Cleau*W. = == Toilet Soap. = = Soap, 3 size8. = = Klity Carbolated Soap. = Malmorl CkomLer S08P, 3 sizes. == ,s,-r Crboli. SoAp. 3 mi.4m == Te"nQut"s Si?ecial Pure Soap. 2 sizes, = = Cold Water Soap, = = U".lmoral Paraain Soa., =: = I-Nphthe S08.. B:Imoral Soup Powder, = Finest, Soft Soap. 1 lit.. lb" IA == 4 lb. aDd 7 lb. tins, v White-Lid bt Candles (in = cartoD"). 2 sizes. [2 sizca. = Jifty Boot (black and = Fasto (Cleanser and Polisher). 2 sizes. == Cocoon (Soap Flakes). = Bounty Soap. 3 sizes. = Bounty Carbolated Soap. 3 aizee, = Snowdown SOIlP, SS Slowdown Carbolated Soap. 4 sixri ^— æ ?F ?ou are uno?/e /o call at ?f 'Dep? M? will sen d on rece?.o? ? < 'Post ¡; 1 ( ard giving ?<wr name and aJJrMt, a Cop? of our /M<<r<t<e? "L.t L— = rontaining full particulars, fi ddress:- = S THE "WORLD'S REST" PUBLISHING Co.. S W L ROYAL LiVER BUILDING. LIVERPOOL. = SS DIIIIIIllllUlillllfllilIiiIllllll!llilllllil!l[||t!lti!tlllllfnillDIllll)inillOBIOBBIDIBIOniB