Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
It • i I. TO LE r
Advertising
w,wiiiiamsaco. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. soooia/ities l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD  RINGS, 18ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Cymry hoff, dewch at y CYmru bs am heirdd fodrwyao M?' Oriadnron ac awrleisiau, Oeman a chadwynau olaer. Yspectol gelfydd, oin-fynegydd, Uwres-feBurydd, Cwmpawd mor Geir gan Williama, ReoI y Caatell Trowch i mewn i welld ei s
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Colofn Llafur Tud. 1 Nodion o'r Gogledd M 1 Colofn y Llyfrau 1 A yw hyn yn iawn? 2 Nodion o Femdale 4 Y Stori 2 Hanes Coelbren 2 Beirdd y Bont-Dewi Wyn o Esyllt; 3 Duw yn rhoddi dechreu da 3 Ymha le bydd y Gymraeg Farw? 3 Rhwystro Gwaith y Senedd. 3 Ynys Barri 3 Y Proffwyd a'r -Pistol. 4 Colofn y Plant. 5 O Deifi i'r Moi 5 Eisteddfod Cymru a'i Dyfodol. 5 Aberteifi a'r Cylch 5 Llansamlet 5 Beirniadaeth. 5 Colofn y Bobl leuainc 6 Yr Henadur Jordan a'i Briod. 6 Gohebiaethau 6 Y Tridwr „ 6 Arch y Cyfamod ym Mrynaman 7 o Wy i Dywi 7 Taithri Lydaw 7 Cynllun Gweinidogaethol y Bed- yddwyr 8 Y Golofn Farddol „ 8 Arholiadau 8
COLOFN LLAFUR.
COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Yng nghyfarfod dosbarth glowyr Gorllewinbarth Swydd Fynwy yr wyth- nos ddiweddaf, rhoddwyd adroddiad gan yr agent, Mr George Barker, o gamdriniaeth 36 o weithwyr oddiar .(idwylo y perchenogion yng Nglofa t^bercarnr -Panadeirfynwyxi rhoddi rhy- buddion, ac i ofyn i'r pwyllgor gwoith- iol i gadarnhau y penderfyniad. Creulondefc i Weddwon. I Pasiwyd penderfyniad hefyd yn gwrthdystio yn erbyn ymddygiad y Cwmni yn gorfodi y gweddwon i ym- adael a'u tai mewn byr amser ar ol i'w gwyr farw drwy ddamweiniau. Streic y LIusernau Diffygiol. I Gymaint y mae bywyd y glowyr yn ymddibynnu ar lusernau perffaith, fel y cydymdeimlir a hwynt ar unwaith yn eu gofyn am rai da a diogel at eu gwaith. Y mae tua 2,500 o weithwyr ym Mar- goed wedi sefyll allan a gwrthod myned i wqithio o herwydd fod prawfion gan- ddyn fod llawer o'r llusernau ddefn- yddir, yn beryglus eu cyflwr. Addewir llusernau trydanol gan y Cwmni, ond nid ydynt wedi dyfod. Da yw gweled fod ymwybyddiaeth y gweithwyr wedi deffro i'r peryglon sydd yn bygwth eu bywyd. Yr ydym yn cofio amser, pan y caniateid llawer o ddiffygion o'r natur hyn, a'r gweithwyr eu hunain yn gwyn- ebu y peryglon yn dawel, rhag atal codi glo a cholled o 'output' am un diwriiod. Gobeithio y daw gwelliant o'r safiad allan hwn. Cadw Llygaid ar Lloyd George. I Mewn ysgrif bwysig yn y Labour Leader" dywed Mr. Philip Snowden na ddylai y blaid lafur dynnu ei golwg oddiar Mr Lloyd George. Y mae llwyddiant y Canghellor yn profi fod y wlad yn addfed am fesurau o welliant cymdeithasol. Efe sydd yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf yma wedi eadw bywyd yn y Blaid Rhyddfrydol. Heb- ddo ni fyddant wedi gallu cynhyrchu brwdfrydedd o gwbl. Nid oes gobaith i'r hen bleidiau gwleidyddol yn y dyfod- ol ond trwy ddilyn y Cyrnro hwn i ha le bynnag yr â.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o dranl o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn bJychau nc" 131c., a 2s. 9c., gan yr holl iferyllwyr.
INodion o'r Gogledd.
I Nodion o'r Gogledd. GAN GLYNDWR. Drwg fydd gan lawer ddeall am wael- edd difrifol Myrddin Fardd. Y dydd o'r blaen torodd waed-lestr. Efe yw awdur y llyfr diddorol, "Adgof Uwch Anghof," sef casgliad o lythyrrau yr hen feirdd. Dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, yn ei breswylfod, Bod Gwynedd, Caer- narfon, bu farw Mr Dan Rhys, gwr blaenllaw iawn yn y dref, ac efe yn 63 I mlwydd oed. Brodor ydoedd o Llan- dilo, Sir Gaerfyrddin. Pan yn ieuanc symudodd i Aberdar, ac yr oedd yn rhannol gydag Islwyn yn nygiad allan y Gwladgarwr." 0 AJberdar symud- odd Mr Rhys i Gaerdydd, i Swyddfa y "Western Mail." Efe oedd ysgrifen- nydd Eisteddfod Genedlaethol Pen- bedw, ac yn 1880 daeth i Gaernarfon i fod yn Ysgrifennydd yr Eisteddfod Gen- edlaethol gynhelir yn y dref honno. Cymerodd Mr C. A. Jones, cyfreithiwr, Caernarfon, ffansi ato, a chymerodd ef i'w wasanaeth fel clerc, ac yma y bu hyd ei farwolaeth, cyfnod o 34 mlynedd. Daliodd amryw o swyddi pwysig yn y dref. Yr oedd yn ysgrifennwr gwych yn y ddwy iaith, ac yn aelod gweithgar o Bwyllgor Llyfrgell Gyhoeddus y dref. Cleddir prynhawn LIun (Mai 25), ym Mynwent Ymneilltuol Caeathraw, ger Caernarfon, lie y mae un o'i blant yn gorffwys. Yr oedd yn aelod selog o Eglwys Seisnig y M.C. (Castle Square). Gedy weddw a dwy ferch i alaru ar ei ol. Melus fo'i hun. Cynhelir Sasiwn y M. C. (Gogledd Cymru) yng Nghaernarfon yn mis Awst nesaf, a pharotoir ar ei chyfer yn barod. Ar ddydd Llun, Mehefin 8fed. cyn- belif- Cyuuanfa. Ganu Aniiibynol Sit- Gaernarfon ym Mhafilion Caernarfon. Mr Harry Evans, Lerpwl, yw yr arwein- | ydd. Daeth medal aur a medal arian Ar- holiad Cyfundebol y M.C. i Ogledd Cymru y flwyddyn hon, y gyntaf I Lan- dudno a'r ail i Flaenau Ffestiniog. Mae Mr Hugh Jones, Gelert Street, Caernarfon, sydd newydd orffen ei efrydiaeth yng Ngholeg Duwinyddol y Bala (M.C.), wedi derbyn galwad i fugeilio Eglwysi Clocaenog a Phont- uchel, ger Rhuthyn. Agorir Breinlys Caernarfon dydd Llungwyn gan y Barnwr Lawrence. Dywedir y daw o'i flaen naw o achosion troseddol (criminal) a rhai achosion gwladol. Y mae gan Mr. R. H. Williams (Aber- ystwyth), gynt o Gaernarfon. stori ddoniol yn y rhifyn diweddaf o'r Welsh Outlook," sef "The Inquest." Ddydd Mercher a dydd Iau diweddaf cynhaliodd y Wesleyaid gyfarfod pre- gethu yng Nghapel Siloam, Bethesda. Pregethwyd gan y Parch. Elfed Lewis a Dennis Jones, Rhos. Nos Fercher diweddaf bu gwledd yng Nghaernarfon i longyfarch y dyfeisiwr bydenwog Marconi. Llywyddwyd gan y Maer, ac yr oedd cynhulliad urddasol yn bresennol. Diolchodd y gwahoddwr am y derbyniad a gafodd, a thalodd deyrnged o barch i'r diweddar Syr W. H. Preece, y trydanydd enwog a drigai ger Caernarfon. Sibrydir y rhoddir Rhyddfreiniad y Fwrdeisdref i Mr Mar- coni yn fuan. Dywedodd Mr E. P. Evans, B.A. (Prifathro newydd yr Ysgol Sir yng N-gliaernarfon) eiriau llym am diffyg cenedlaetholdeb yn rhai o drefi De Cymru. Sylwodd iddo fod yn trig- iannu yno mewn pump neu chwech o drefi. Un o honynt oedd Caerdydd. Honnai Caerdydd fod yn Brifddinas Cymru. Ar ba dir nis gwyddai. Nid oedd dref yng N ghymru. meddai, lie llosgai tan cenedlaetholdeb mor wan ynddi a Chaerdydd. Yn ol a glywid ar heolydd Caerdydd. yr oedd ganddi fwy o hawl i gael ei galw yn Brifddinas Japan na Chymru. (Chwerthin mawr.) Ai gwir hyn, drigolion Caerdydd ?
Mountain Ash.
Mountain Ash. Boreu dydd Sadwrn, intal 3oain, daeth y newydd pruddaidd fod Mr. Boaz Jones, Cyn Faer Dinbych, wedi. marw'n sydyn. Disgwylid ef i wyl bregethu yn Llanrhaeadr y Sabath di- lvnol. Mab iddo ef yw'r Mcddyg Ar- thur Jones a'r lie hwn, ac y mae cyd- vmdeimlad y lie hwn yn fawr gyda'r mab.
IY Trychineb yn Afon St.J…
Y Trychineb yn Afon St. J Lawrence. Dilyna trychinebau ei gilydd gyda f chyflymdra y dyddiau hyn. Prin y daw diwrnod heb son am ddinistr. Sudd- wyd yr Empress of Ireland, un o ager longau'r C.P.R., yn Afon St. Lawrence nos Iau diweddaf ychydig oriau wedi hanner nos, trwy i long lo redeg i fewn iddi pan oedd niwl tew ar yr afon. Collwyd dros fil o fywydau. Ychydig. oriau oedd er pan adawsai'r Empress of India a Quebec ar ei thaith i Ler- pwl. 0 holl elynion y morwr ym- ddengys mai niwl yw'r gwaethaf. Ych- ydig o werth yw dewrder a medr y mwyaf cyfarwydd pan y mae hwn yn teyrnasu. Oni buasai am y teligraff diwifrau nid oes amheuaeth na fuasai golled mewn fcywydau yn fwy. Dyg- odd hwn longau eraill i'r fan, ac achub- wyd llawer. Cydymdeimlir a phawb a gollasant berthynasau a ffrindiau yn eu pryder a'u galar. Tybed nad yw'r ami drychinebau arswydlawn yn ffrwyth y rhuthr a'r anesmwythdra sy'n nod- weddu bywyd ymhob cyleh. A oedd raid i'r Storstad mewn niwl o'r fath deithio gyda chyflymdra digonol i niweidio llong fawr mor ddrwg fel ag i'w gyrru i'r gwaelpd mewn cyn lleied o amser 1
|I iLlanbedr, Ceredigion.I
Llanbedr, Ceredigion. I CYMANFA GANU YR ANNIBYN- I I WYR. Dwy Wyl Undebol Ymneilltuwyr Ceredigion ydynt y Gymanfa Ganu a'r Gymanfa Ysgolion, a dwy wyl ydynt a gedwir gan yr eglwysi gyda hwyl ac arddeliad. Fel rheol yn y gwanwyn y cynhetir y ddwy, ac ambell dro deu- ant yn hynod o agos i'w gilydd; bydd sain yr anthem a sain y benod yn mron yr un. Cynhaliodd Annibynwyr Llanbedr a'r cylch eu gwyl ganu ar yr 2ofed o Fai, a sicrhawyd eleni eto wasanaeth yr arweinydd enwog, Mr. John Phillips, Y.H., Aberafon. Bu yma yn 1913 cyn arwain ei gor allan i faes ei fuddugoliaeth fawr yn America, a daeth yma eleni fel arwr dau gyfandir. Bu rhai o'r saint cerddorol-a chofied y darllenydd fod y fath beth yn bod a sant y canu yn gystal a chythraul y canu—yn pryderu am lwyddiant yr wyl, am y rheswm nad oedd y brwd- frydedd gyda'r ysgol gan yr hyn a ddylasai fod. Ond hollol ddisail yd- oedd eu pryder. Y mae Mr. John Phillips yn ddiguro am dynu allan oreu y cantorion, a buont ar eu goreu yn j Soar, Llanbedr, ar lan y Teifi. Daeth tyrfa fawr i'r wyl, pob oed yn tynu i gyfeiriad Jerusalem y Gymanfa. Gwelwyd hen arweinyddion ydynt wedi croesi terfynau y pedwar ugairi mlynedd mor ieuanc ag erioed yn nofio yn y mawl. Llywyddwyd gan Mrs. Davies, Glynllifon; Mri. D. Davies, Beilibedw, a D. Evans, Cefn- perkin. Gwna y pwyllgor yn ddoeth i roddi boneddiges yn y gadair o dro i dro; nid oes neb yn fwy byw, byr ac i bwrpas mewn araeth. Siaradodd yr oil o'r llywyddion yn amserol ddoeth, a bendith fyddai cario allan eu cyfar- wyddiadau. Trefnwyd fod yr oil o'r emynau a'r tonau yn y prynhawn a'r hwyr i'w tynnu allan o'r Caniedydd, gyda dwy anthem, un o honynt yn hen gyfarwydd ac yn parhau yn newydd- flasus, "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," gan yr enwog Mr. John Thomas, Llanwrtyd. Yr oedd rhai o'r tonau yn nghyfar- fod y plant yn newydd hollol i'r cylch, eraill yn adnabyddus, ac er fod yr oil yn dda cafwyd hwyl neilltuol gyda "Tynion ydyw Tannau (gan y Parch. D. Rhagfyr Jones), ac nid yn fuan yr anghofir Pie mae'r medel- wvr. Dalied yr eglwysi afael yng ngwersi y Gymanfa, a pheidier anghofio y tonau ddysgwyd. Bendith hefyd fyddai rhoddi mwy o sylw i raglen y Gymanfa yn y cynulleidfaoedd, ac nid cyfyngu y cyfryw i'r ysgol gan. Diolch i'r ar- weinydd am dynu allan oreu y can- torion. Y mae yn arwain mor naturiol lwvddiannus, ac mor Ilawn o drydan y mawl a'r addoli, fel mai gwledd yw eistedd wrth ei draed. UN HOFF 0 GANU. I
Advertising
LLENORES sydd yn debyg o lanw lie Allen Raine yng Nghymru yw Ellen Richards. Ceir stori hynod ddi- ddorol ganddi yn y Montgomery County Times." Gwerthir y papur hwn gan Mr J. T. Burrell, newydd- iadur, Ferndale.
Colofn y Llyfrau.
Colofn y Llyfrau. GAN WYDDONWY. At J.D.L.—Carwn glywed oddiwrth- ych ynghylch y gyfrol Amryw." A yw yn y "rack" o hyd, neu erbyn hyn wedi ei "dissio," pa unl H.M.—Mae copi o Ddrama Gwyl Ddewi (J. Davies) wedi ei anfon i chwi drwy'r post, a hyderaf y byddwch wedi ei darllen cyn yr ymddengys y nodyn hwn. G.J.—Mae yr "Hanes" "out of print er's blynyddau, ac ni fyddai'n werth ei ail-argraffu yn awr heb lawer o gyfnewidiadau. Cynhygiwch wobr sylweddol i Bwyllgor Eisteddfod y Rhiwfawr, neu i ryw bwyllgor cymdog- aethol arall, er mwyn cael y testyn i fewn yn ei rhaglen nesaf. Buasai'r cynllun hwnnw cystal a dim, i'm barn i; canys wrth gael dau neu dri i gys- tadlu fe geir rhywbeth gan bob un nad yw gan y lleill, ac wrth adysgrifennu un Hanes cyflawn o'r oil, fe geir un fydd yn fwy ei werth na'r un goreu ar ei ben "ei hun. Nid wyf yn ameu na werthir digon yn fuan i dalu am y gost o ar- graffu, ac ychydig bach dros ben. Trei- weh hi, ar bob cyfrif. J.J.—O'r goreu, frawd, mae'ch enw chwi ar dop y list sydd yn chwyddo o hyd. N a thralloder eich calon. Os daw yma o gwbl fe gaiff ei hanfon ar ei illinion--ell, ymhen diwrnod neu ddau (yfory Sion y Crydd) i heol y brenin. Byddwch yn ol o'r hen goed yna erbyn hynny, debyg ? G.J.W.—Bydd yn anawdd cael Dra- ma yn gyfyngedig mewn personoliaeth i ferched yn unig rhwng deuddeg a dwy-ar-bymtheg oed.' Gellir rhoddi anvyw resymau i gyfrif am hynny. Mewn hanes mae'r gwrywod yn ffigyr- raa amlycach na'r benywod, fel rheol. V te7i, gwrywod yn gallu benthvea'u KUaftin i ddrama yn hawddaeh ac y mae yn hawddach cael cwmni dramodol "gwrywaidd" at eu gilydd nag un ben- ywaidd. Mae awduron hefyd, er mwyn cael "stage effect," yn cymysgu'r oedran fel y rhywiau, er mwyn am- rywiaeth. Nid yw "Dramodau'r Lord Howard de Walden o bellder o ffordd y goreuon yn yr iaith Gymraeg. Mae yn anawdd gwybod pa gynllun gymer- wyd i ddewis rhai o'r cyfryw i gynrych- ioli'r cymeriad Cymreig o gwbl. Gwel- weh yr ateb i O. W. yr wythnos ddi- weddaf, a H.M. yr wythnos hon. A.E.T.—Atebais eich llythyr chwi gyda throad y post, er mwyn i chwi gyd rhyw radd o briodoldeb ddeall yr amgylchiadau. Hyderaf eich J)od wedi gwneud ymchwiliad i'r mater erbyn hyn, a'ch bod wedi dod i 'sylweddoli gyda mwy o rym nag erioed mai mewn undeb y mae nerth. Pan yn llanc mi glywais "Davies, Ferndale" yn dweud lawer gwaith mai haiarn a hoga haiarn," ac felly yn y blaen. Mae'r syniad yn cael adgyfodiad newydd myn- ych gennyf pan yn clywed neu yn son am undeb. 'Llunier i gall hanner gair. & Co. L.—We shall be pleased to publish your communication for the sum of two shillings and sixpence per week. In the "Tarian" is offered an unexampled medium for advertising educational courses-postal or other- wise-to South Wales readers.
Ar Lannau Tawe.
Ar Lannau Tawe. Traddododd y Parch. S. Wilks, Portland, ddarlith hynod o ddiddorol ar "John Bull's Best Door Step" yng Nghapel y Wesleyaid, Clydach, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Llyw- yddodd y Parch. S. Cutting, gweini- dog. Ar ol pedair blynedd a hanner o wasanaesth yn y gymdogaeth, mae'r Parch. J. M. Williams, Carmel, Clyd- ach, wedi ymadael i gymeryd gofal Eglwys Soar, Penygroes, Sir Gaer- narfon. Cynhaliwyd cyfarfod yma- dawol iddo yn Ysgoldy Carmel nos Lun wythnos i'r diweddaf, pan an- rhegwyd ef ag oriawr aur, "inkstand," a darlun Obeithlu Carmel gan aelod- au'r eglwys a phlant. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones, Hebron. Cafwyd cynhulliad lluosog iawn, yn cynnwys nifer dda o weinidogion. Derbyniwyd esgusodion oddiwrth y Parchn. G. Penar Griffiths, Pentre Estyll; W. James, Abertawe; S. Wil- liams, Landore; W. Emlyn Jones, D. Picton Evans, Treforis; James Davies, Mynyddbach; Ben Davies, Panteg; J. Tywi Jones, Glais; Thomas Thomas, Ynystawe; J. Vincent Thomas a T. Valentine Evans, Clydach. Dechreu- wyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. D. Jenkins, Rhos, ac ar ol hynny siaradodd y cadeirydd ychydig eiriau gan ddatgan ei deimlad cynnes tuag at ei gyfaill a'i gyd-weinidog. Cyflwynwyd y darlun iddo ar ran y Gobeithlu gan Mr. David Davies, Manchester Hodse, a chyflwynodd Mr. John Davies, trysorydd yr eglwys, yr oriawr aur a'r "inkstand" iddo. Diolchodd Mr. Williams mewn geir- iau teimladwy am eu rhoddion car- edig. Cafwyd hefyd yn ystod y cyf-, arfod areithiau byrion gan y Parchn. S. Cutting, H. Seiriol Williams, D. E. Thomas, T. G. Owen, D. Gower Richards, D. Thomas, a LI. Bowyer, a Mri. loan Davies, goruchwyliwr Glo- feydd Clydach-Merthyr, a David Rod- erick. Canodd Miss Edith May Thomas a Madame A. Williams yn swynol. Cynhaliwyd gwyl bregethu yn Eg- lwys Moriah, Ynystawe, dydd Sul a'r nos Lun, Mai 24ain a'r 25ain. Gwas- anaethodd y Parch. Dan Davies, Aber- gwaun. LLEW.
I Cwmogwy.
I Cwmogwy. BEDDAU'R PROFFWYDI." Nos Fawrth, Mai i2fed, perfformi- wyd y ddrama uchod yn Neuadd Gweithwyr, Tynewydd, gan Gwmni Pontycymer, dan nawdd Cymrodorion y lie. Yr oedd y cynhulliad yn dra chalonogol a'r perfformio'n dda. Cyn- rychiolid y gwahanol gymeriadau fel y canlyn :-Robert Williams, J. C. Ro- berts; Emrys ei fab, George Watkins; y Parch. Azariah Evans, J. J. Mor- gan, B.A.; Huw Bennet, J. D. Owen; Dafydd Dafis, E. J. Saunders, B.A.; Mr. Humphrey, yr Ysgol, William Watkins; William Pritchard, E. J. Evans; John Vaughan, W. Ll. Rees, B.Sc.; Plisman, J. Morgan Owen; Ctpar, Trevor Hughes; Meistr y Tloty, David John; Stiward Tir, E. J. Row- land, M.A.; Dau o Dlodion, Christie Harris a D. Y. Morgan; Porthor y Tloty, W. Watkins; Mali Owen, Miss S. J. Howell; Elen Williams, Mrs. Williams; Agnes Vaughan, Miss Rogers, B.A.; Ann, Miss C. Howell; Mari, Miss M. E. Davies; Meistres y Tloty, Miss S. J. Howell; Amryw Dlodion, Miss Bowen, Miss Morgan, Miss E. J. Rowland. Cymeradwywn y cwmni hwn i unrhyw ardal fel yn wir deilwng. Bydd y lie hwn yn fwy selog dros iaith a nod- weddion y genedl ar ol gwrando'r ddrama hon, a hyderir y ceir per- fformiad cyffelyb yn fuan eto. Llafur- iodd Mr. Gwesyn T. Williams, yr ys- grifennydd, a Mr. T. Llewelyn, y trysorydd, yn ddiwyd, a phrofodd y gwaith yn llwyddiant diamheuol. Mel- us moes mwy. j Bethania. Prynhawn ddydd Mawrth, Mai 26ain, cynhaliwyd I cynhadledd frwdfrydig yn y lie ynglyn ag ymgyrch Purdeb a Moes dan nawdd Pwyllgor Eglwysi Rhyddion Cymru. Cadeiriwyd gan y Parch. J. G. Jones. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. James Evans, B.A., Caerdydd, ysgrifennydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Gwyr Cymru ben- baladr am ddiwydrwydd Mr. Evans dros fuddiannau Cymru, ac nid gwr i'w ddigaloni yw, eithr dymchwel wrthivynebiadau a'i sel fel niwl y bore o flaen brenin y dydd. Dadlennodd Mr. Evans y dirywiad a ffynna drwy Gymru yn halogiad y Saboth, hap- chwarae, ymladdfeydd, iaith anwedd- us, anweirdeb, Ilithriad y bobl ieu- ainc o'r eglwysi, "cinemas," etc. Syfrdanwyd pawb gan ddinoethiad Mr. Evans o'r drygau trychinebus uchod lechant mewn gwahanol rannau o'r Dywysogaeth. Ofnir y collir y Saboth. Onid ffaith erchyll yw agor- iad 398 o siopau o wahanol fathau yn nhref anwyl Abertawe, lie gorwedd llwch ami un o gedyrn lhvyfan moes a chrefydd Cymru, y rhai a'u gair a'u rhodiad a ymlidient annuwioldeb o'r tir. Pwy na egyr ei lygaid i felldith y coupons" sydd mewn cymaint bri heddyw? Os oes Iliw deall a chyw- reinrwydd ynddynt dyna wisg y gwen- wyn. Pwy yn ei iawn bwyll gefnoga y "boxing" ddygir yn mlaen yn ein neuaddau gan honni eu bod yn feith- rinol i iechyd a dadblygiad anianydd- ol? Aniweirdeb drachefn, brawychus oedd dadleniad Mr. Evans o'r aflen- did hwn. Paham y collir ein hieuenc- tid o'r Ysgol Sul a'r eglwys pan gyr- haeddant 15 oed? Sicr yw mai "pro- blem hawliai ystyriaetb ddwysaf pob rhiant ac eglwys yw hon, a diddorol hefyd pe ond yn unig o safbwynt meddvleg. Wedi araith swyddogol Mr. Evans cafwyd rhyddymddiddan, pan gymerwyd yematerion i fyny gan y Parchn. R. S. Gregory, Nanty- moel (A.), a T. M. Jones, Philadel- phia (B.), Tynewydd; Mri. John Davies, Bethel, Nantyn?I; J??: Jones, Dinam, Nantytnoe^- WIl- liams, Bethania, Cwmogwy, a J. R. Evans, antymoel. Penderf)nwyd lledaenu pamffled^>n n g gryJmUs ar y pechodau enwyd, ynghyag, aw- ar e i ii dileu 0 grymiadau gvda golwg ar el11 dlleu 0 eiddo Mr. Evans, y yr cglwysi, a ffurfiwyd pwyHgor cryf o'r naw cglwys Gy?raeg i gyd^eithj pwyligor yn d hafoK Rhaid Canolog yn y ??t? eu har f au J r eglwys ddeffro a gWlsgo eu harfau gan ?ynebu y gelyn yn yspjd rQ ?niaid y dydd.au pan na oddefid Uu  Su a ttP vn ddiniwed heddyw ac a esgusodir ar ae!wyd ac eglwys yn ormodol. Hyffordder emhieunctyd yng ngwir ystyr cydwybod a bywyd teilwng o'r diha!? a'r didoledig oddi- wrth bechaduriaid.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID QOFALU AM V ONAI Eagouluidod 0 '?'"? rfcil ?yn drwy ddamwgin ""?? ashosi Blood Poisoning a Manwolaeth. Meddyginiaath )EW*!t?!?. Er mwyn yagol Parygi rhaid of ymarfw mgwn pryd. 'DOES DIM MON LLWYODIANUO A glop A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn .wf ,n gydnebee gan* fiH.:eVd%aT7 «}did2arga^yddwyd Bier a diogal a ddargaafyddwyo .rioed at Clwyfau, AT chol lion, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, Craoh a N a d d yn M h a n a u Plant, Llosglad. au, Ysgal. d a n a u Sourvy, L lug r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Cout, ICymaiau PMnu*, qheumat- TT?? "Yr   Cefn, Pilg$. tyn meWD I'?"t ec1.lo., Q«ellh»odd Gom,T>. B.I. ?!StM.t hi yn bur fo at CLWYFAU ar COESAU. Miloedd yn tystto ow Effefthiau Rhyfeddal. RHODDWCH BRAWF ARMO Gwellhad sydd s/or Ar werth gan bob Cbemi,t Store.  weh weled enw jasob HUghOl ar bob biweh. Deb ?;'?5.?8tJ? danfoner ei gwerth (P-0- neu Stampt) at Oaoob   M. M. p.8., L.O.S., psnarthh, n*CCa*rr^diffT. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. rWelcTLacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris TKn prynwyr y? ac Yn ol on iddynt enwi TANAN y GWNlTHiwK