§ Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £ 5 15/=! Tt*? Ever)ast!ng So!id Oak 8=Guinea Bedroom Suites at ?5 15/=! ??NFn? d ??t Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, N, ? Messrs. Bevan & Co., 'L ,Wales' Largest Furnishers ??mMMc????? an e'now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite con?pr?sea a substantial Ward-   Jul, I ??- robe with Plate Glass Door and Leaded-Hght Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a ha?dso?e ?M    ? Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chalrst Beyond question the Cheapest Suite ever offered! SWANSF Immense Stocks. Everythir ? ?SH!SX"?°  ? Immense Stocks. Everyihirg for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. Jj?!!?? 7?TaffSt?Pontypr!tid; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St, Swansea; &c.
Y Stori. NANNO. Cydfuddugol yn Eisteddfod Mon. GAN J. TYWI JONES. PENNOD III.—LLANDDERWYDD. Pentref bychan gwledig a thawel yw Llandderwydd. Saif ar wastadedd bychan a amgylchir gan bonciau a chreigiau, ag eithrio yng nghyfeiriad y mor. Nid oes iddo amddiffyn yn y cyfeiriad hwn rhag gwyntoedd oerion y dwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Fel yr awgrymai Nanno, y mae yn yr ardal amrywiaeth o brydferthwch. Un llinyn o swynion yw glanau y ffrwd fechan a elwir gan y preswylwyr yn afon; chwyrnella fan yma rhwng y creigiau; acw llif yn araf a llonydd ar y gwastad. Daw ceinion newydd i'r golwg yn nghys- god pojb pone a chraig. Coronir anian I a godidowgrwydd gan bopeth yn ei dro. Lleda'r mor yng ngogoniant ei amrywiaeth yn y pellder. Ag eithrio gwr y Rose and Crown, y teiliwr, y masnachwr cyffredinol, a rhyw dri neu bedwar o hen wyr methiantus, y mae y rhan wrywaidd o'r boblogaeth, fel rheol, oddicartref ar y mor, neu wedi cychwyn ben boreu at eu galwedig- aeth yn y ffermydd cylchynol, neu le- oedd ereill. Twrw lleisiau'r plant wrth chwarae dorrant amlaf ac amlycaf ar y distawrwydd. Nid yw bywyd byth yn faich iddynt hwy nac yn anniddorol. Geill lawer o'r merched a'r gwragedd hefyd wneyd i bob dydd ateb ei ddiben. Bythynnod bychain gan mwyaf yw tai y pentref, yn cynnwys dwy neu dair ystafell ar lawr, a llofft uwchben un hanner i'r ty. Y mae rhai o'r bythyn- nod hyn yn angerddol o ddiddorol. Ar shilfioedd, neu mewn cwpbwrdd gwydr, ceir hen lestri y rhoddai rhai a wyddant eu gwerth lawer am danynt. Ond ni werthir hwy am unrhyw bris. Cedwir hwy yn ofalus, a throsglwyddir hwy i lawer o genhedlaeth i genhedlaeth, a llawer o atgofion a thraddodiadau gyda hwy. Ar y chest a'r drawers, neu ar fwrdd bychan, ceir eilun bychan o long mewn ffram wydredig, a wnaed gan longwr i ddifyrru ei hun yn ystod oriau hamdden ar y tir, neu efallai gan un a gollasai ei iechyd, nas gallai droi ei law at ddim trymach. Ceidw hon eto lawer o helyntion tir a mor mewn cof. 0 dani, mewn ymylwaith a chraffau pres, gorwedda'r Beibl Mawr, yn llyfr i barch, a manylion genedigaethau a marwolaethau y teulu yn ei gadwraeth, ac i'w ddefnyddio ar adegau neilltuol yn unig. Eto, mewn lie hwylusach ar yr un dodrefnyn, ceir Taith y Per- erin," Geiriadur Charles," a llyfrau ereill. Ar fwrdd bychan mewn congl, odid na cheir album hardd a holltodd yn ei gefn oherwydd ei orfodi i ddal mwy na thri chymaint o ddarluniau ag a fwriadwyd iddo. Ar shilff fechan mewn congl ger y tan, ceir llyfrau adrodd, yr Hyfforddwr," cyfrolau o Gymru'r Plant," llyfrynau a brynwyd wrth y drws, neu yn y capel, a Beiblau a Thestamentau bychain, mewn gwahanol gyflyrrau o draul, ac a ddefnyddir beunydd i oleuo llwybr y bywyd y gofala'r Beibl Mawr am ei ddau pen a'i amgvlchiadau arbennig. Ar y "shilff ben tan," ceir canwyll- ernau pres na oddefir i gysgod prudd- der byth orphwys arnynt, a llu o bethau ereill a edrychant yr un mor siriol. Yn gwylio'r pethau hyn o'r pared cyfer- byniol, a chyda boddlonrwydd gwastad- ol, y mae :'clo'c taid," gadwodd yr am- ser yn fwy neu lai cywir i amryw deid- iau o ran hynny; a'i gastell derw du o hyd yn raenus, ac yn cyd-dystiolaethu a'r pethau ereill i nerth braich a diwyd- rwydd gwraig y ty. Gyda'r wal o dan y ffenestr ceir mainc, neu efallai gist i ateb yr un diben, a chlustog o waith cartref ami, a hon yw yr unig esmwyth- fainc yn y ty. Arni hi y gweuwyd llawer hosan, y darllenwyd llawer pen- nod ac yr offrymwyd llawer gweddi. 0 flaen hon ac wedi ei gwthio yn ol at y wenscot fechan a guddia'r drws, ceir fowrdd o waith saer cartref yr oes o'r blaen, can wyned a glaned ag y gall dwr a sebon a brwsh ei wneyd. Yn eu pri- odol leoedd eto ceir cadair freichiau syml a diad durn, a rhyw hanner dwsin o gadeiriau derw bychain gymhlith a'r dodrefn ereill. Nid ydym eto wedi son am y muriau, ac y mae arnom braidd ofn dechreu ar- nynt. Cymerai ddiwrnod cyfan i wneyd dim tebyg i gyfiawnder a hwynt. Ni wnawn ond nodi degwm o'r pethau a'n gwynebant. Ceir vno, wrth gwrs, ddar- luniau o longau o ddiddordeb i'r teulu a'r ardal, weithiau yn cadw atgofion prudd yn fyw. Y mae un o'r darluniau hyn mewn lliwiau cryfion. wedi ei baentio gan dalent leol. Yn hwn o gwmpas Hong fawr, ceir man gychod I hwyliau a dihwyl; rhai ohonynt yn chwifio banerau amryliw rhwng glas y mor a glas y nef. Dangosir ynddo hefyd yr agerlongau mawrion ar y cefn- for rhwng Lerpwl a'r Gorllewin. Dy- rysbwnc y darlun hwn ydyw, "ff or' ma'r gwynt?" Dengys yr hwyliau a'r baner- au a mwg yr agerlongau ef yn chwythu o bob cyfeiriad dan y nef yr un pryd. JVrth weled y diddordeb a deimlwch yn y cwestiwn, a'r wen hapus ddaw i'ch gwyneb, odid na ddywed gwraig y ty wrthych, Tydi'r hogyn yna'n Haw garw'n medru gneyd peth fel hyn?" Ar ol i chwi gael bywgraffiad diddorol o'r "hogyn yna," tynnir eich sylw gan ddarlun da o weinidog y capel, gan oriel neu ddwy o weinidogion yr enwad, a llu o fan ddarluniau, a dorwyd allan o newyddiaduron neu a roddwyd gan ffrindiau, o weinidogion, blaenoriad, cadeiryddion Cynghorau Sir, Dosbarth, a Phlwy' ,-y darluniau rai o honynt yn dda, rhai yn wael iawn, a'r lleill yn "symol." A chwedl y gwladwr diweled hwnnw aeth i Oriel Gelf Llundain,— "Dyma le am fframiau pictiwrs." Y maent o bob lliw, llun, a defnydd,—o dderw du a goleu, o ffawydd, o gorcyn, o bapyr, ac o wellt. Ceir cyffelyb glendid, hynodrwydd ac amrywiaeth yn mhob ystafell, a syml- rwydd a swyn cartref gwir yn coroni'r lie. Nid llai amlwg yw y diwydrwydd a'r chwaeth naturiol oddiallan yn yr amrywiaeth o goed a blodeu a chegin a addurnant o amgylch y drws. Blina'r llaw yn ysgrifennu am bethau na flinai'r llygad byth yn syllu arnynt. Dichon hefyd mai o ddeuddeg i bymtheg syllt yr wythnos yw colofn dedwyddwch a di- gonedd syml y teulu. Nid yw bywyd mewn bythynnod fel hyn heb ei swyn. Gwelir y wraig yn troi allan, ar ol i'r plant fyned i'r vsgol, i gyrchu llaeth, llefrith, neu ymenyn i ryw ffermdy, neu i ymweled a rhyw glaf yn y pentref neu yr, ardal. Ac i un ddaw o fwthyn fel a ddesgrifiwyd, y mae'r byd o hyd yn baradwysaidd. Y mae glesni'r mor a'i weddau cyfnewid- iol, amrywiaeth y ffurfafen, blodeu'r eithin a'r grug, tegwch y gweirglodd- iau, swyn cynnydd a chyfnewidiad graddol Iliwiau'r yd, eira gauaf, gwres haf, deffroad anian yn y gwanwyn, a'i hun yn y gauaf yn llawn cyfaredd i'r bythynnwr yn Llandderwydd. Rhan o Landderwydd, rhan dda er hynnv, a gynrychiolir gan y bwthyn a ddarluniasom. Gwna enwad weithiau wahaniaeth yn llenyddiae'th y teulu, a gwelir geiriaduron Mathetes a Hughes yn lie yr eiddo Charles, a'r Weithred o Fedyddio gan Dr. Hugh Jones, a gweithiau y Tri Brawd, yn cymeryd lie yr Hyfforddwr," a llyfrau tebyg. Ceir yno hefyd fythynnod yn salw a diolwg oddiallan, yn aflan a didrefn i mewn, ac esgeulusdod gwaeth na gwynt y dwyrain fel pe'n deifio popeth o'u cwmpas. Nid-oes i breswylwyr y rhai hyn ddiddordeb ond mewn hanesion cyffrous. Treuliant ddiwrnodau cyfain i wneyd fawr ond bwyta bwyd yn ei bryd, golchi'r llestri weithiau—y bwrdd byth,—a myned yn ol a blaen i dai eu cymydogion i ddyweyd neu i glywed rhyw newydd. Anaml y mae ieir y rhai hyn yn dodwy nac yn talu'r ffordd, na'u blodeu yn ffynnu. Nid yw eu moch ychwaith byth yn barod i farw mewn pryd, o'r hyn y mae "angeu'r moch" yn dyst byw. Yn nglyn ag un o'r tai yn y pentref, y mae ychydig erwau o dir, ac i Sian a Ned Huws y perthyn yr arbenigrwydd hwn. Hyn, efallai, bar iddynt hwy gyfrif eu hunain yn bwysicach pobl nag y cyfrifir hwy gan neb arall. Ar yr olwg gyntaf, gellid tybied fod eu ty hwy yn lan, ond tystia y rhai a wyddant mai glanhau y pethau sydd yn y golwg yn unig wna Sian a'i merched, ac fod yno I bethau anrhaethadwy o'r golwg mewn conglau ac o dan y dodrefn. Dyn cymharod fyr yw Ned Huws, o I gorff cadarn, a'i ysgwyddau yn llydain. Arddengys ei ben gnwd o wallt gwlanog, yn tyfu allan fel rheol dros ymylon ei glustiau; blew ei aeliau yn anarferol o arw a thrymion, a'i dal- cen yn syrthio tuag yn ol ei lygaid braidd yn ddwfn yn ei ben. ac heb byth ddangos rhyw lawer o foddlonrwydd ar ei sefvllfa. Barf Ned Huws yw ei brif ogoniant; y mae hi o leiaf yn batriarch- aidd, ag eithrio ei blaen efallai. Gellir casglu fod ganldo gryn feddwl o'i farf, oblegid ni saif i siarad a chwi am bum' munud na fydd lawer gwaith wedi agor ei law, ei lledu at ei ddwy glust, a'i thynu i lawr at ei en; yna ei chau am fon ei farf, a'i thynnu i lawr am dani at ei blaen tua chanol ei wasgod; yn y fan honno trydd ei blaen am ben ei fys. Mor ami yr a drwy'r oruchwyliaeth olaf hon, nes y mae blaen ei farf yn ffurfio troell arosol o'r fath ddigrifaf. Y mae yn bosibl y gallasai Ned fod yn ddyn arall, pe cawsai rywun heblaw Sian yn wraig; ond ni wiw sfen am hynny mwy. Penderfynasai Sian gymeryd meddiant o Ned, ac ni chadd ef ei hun fawr llais yn y mater. Cynrychiolydd Sian ydyw Ned byth oddiar hynny, a blin iawn fyddai ei dynged oni chyflawnai ei swyddogaeth yn ffyddlon. Dynes fechan dew yw Sian, ei gwyneb yn grwn, llawn a seimlyd; ei llygaid fel dau fotwm corn wedi glynu mewn bloneg. Ei cjieg hi esyd arbenigrwydd arni y mae fel pe wedi ei llunio i gega. A'i thafod! Ni ddaw hwn i'r golwg, wrth gwrs, ond pan yn llyfu ei gweflau. Clywir ei swn ef yn ami, ond ni wyddom i ba le y mae yn myned, na pha alanas a gyflawnir ganddo cyn yr erys. Drwy ddwylaw Sian a Ned yr a llawer o ddofednod, wyau, ymenyn, cwningod, a phethau ereill o'r ardal i'r farchnad. Dywedir nad yw eu marchnad yn y pethau hyn yn awr mor eang ag y bu. Y rheswm am hynny, mae'n debyg, yw i'r si fyned allan y pluai Sian a'i merched y dofednod yn fyw, o dan y dybiaeth fod yr aderyn yn fwy graenus a'r plu yn well. Dywedir mai rhoddi tro yn ngwddf yr aderyn yn unig a wnaent, cadw'i ben yn un llaw tra yn ei bluo, a gorffen ei ladd ar ol ei wneyd yn noeth lymyn. Y rhagoraf o dai'r pentref ydyw eiddo Morus ac Elin Morus. Gwyddant hwy beth yw byw yn Lerpwl, ac fel rhai wedi gweled ychydig o'r byd sydd o'r tudraw i Bont y Borth, cyfrifant eu hunain yn well ac yn foneddigeiddiach nag ereill yn y lie. Fel prawf o hyn, y maent yn byw yn frasach ac yn fwy ffasiynol; eu ty, eu dodrefn, a'u gwisg- oedd yn fwy ddiweddar. Nid ystyr- iant ychwaith fod yn angenrheidiol iddynt fod mor grefyddol eu buchedd, nac mor weithgar gyda'r achos goreu a phobl ereill. Y mae yr Ysgol Sul, a'r cyfarfodydd wythnosol, yng nghapel y Methodistiaid islaw iddynt. Nid yw yr achos dirwestol ond difyrrwch pen- boethiaid yn eu tyb hwy; y maent uwchlaw gwerthu eu rhyddid i neb yn y mater. Os ca Mr Morus Morus ryw an- rhydedd-cadeirio mewn rhyw gyfarfod pwynig, derbynia ef yn chwannog, gan deimlo nad yw yn cael ond yr hyn a haedda. Teimla yn sicr nad oes neb a leinw safleoedd felly fel efe. Rhoddir yr anrhydeddau hyn iddo weithiau yn y gobaith y bydd iddynt greu ynddo fwy o ddiddordeb yn yr achos. Ei farn yntau yw mai derbyn yr anrhydeddau yw ei unig swyddogaeth ynglyn a'r achos, a'i gyffes ffydd yw, "ei le i bob un. a phob un yn ei le." Mab iddo ef oedd Huw Morus; y mae iddynt hefyd ddwy o ferched, y rhai mwyaf ffasiynol yn yr ardal. Adeiladydd yw Morus, a thybid un adeg ei fod yn gefnog: osgo felly nod- weddai y teulu, a chredwyd hwy ar eu gair. Tua'r adeg yr aeth Huw i'r De- heudir, yr oedd gwaith adeiladu yn bur brin er's tro. Ac nid oedd Morus heb edrych ymlaen yn aiddgar at farwol- aeth yr hen lane y carai Huw ei etifedd- es. Yr oedd arian hwnnw i roddi Huw ac yntau mewn busnes eang. Wrth gwrs, buont ofalus iawn rhag i awgrym ddianc y llochesai disgwyliad felly yn eu meddyliau. Huw Benja' oedd yr hen lane capten llong, wrth ei alwedigaeth gynt, a bernid ei fod yn gyfoethog, yn berchen mil o bunoedd o leiaf. Preswyliai mewn bwthyn bychan wrtho ei hun. Ni chai neb arall fynd yn agos ato ond yn achlysurol. Yma y treujiodd ei dad a'i fam o'i flaen eu dyddiau i ben. Ei brif hoffter ef oedd cadw popeth yn y bwthyn ac o'i gwmpas, mor agos ag oedd bosibl, fel y gadawyd ef gan ei fam. Y lleiaf o fythynod y pentref, heb ond dwy ystafell ar lawr yn unig, oedd eiddo Rebecca Meurig, mam Nanno. Gwraig weddw oedd hi. Collodd ei gwr pan oedd Rhianon fach tua dwy flwydd oed. Mor hoff oedd yr un a gollasai ganddi fel nas gallai ddych- mygu am adael i'r serchiadau pur a ymblethent am ei fywyd a'i goffa ef i fyned yn eiddo i neb arall. Canolodd ei serchiadau ar ei merch fechan, a thrwy ofal a diwydrwydd a bendith y Nef, ni fu ei bwthyn bychan yn amddi- fad o ddim angenrheidiol i gysur a ded- wyddweh. Er ei gadael heb ddim, ni fu arni eisieu dim, a thyfodd Rhianon i fyny wrth fodd ei chalon—yn wylaidd, yn bur, yn ddeallus ac ymhob peth yn esiampl odidog i rai gawsent fantais ar fwy o "bethau'r byd." Yr oedd Rebeca Meurig yn chwaer i Huw Benja, yr hen lane, a hi elai i'w dy i gadw trefn ar bethau. Elai Rhiannon hefyd yn ol a blaen i'w dy er pan yn fechan, ac enillodd ei ymddiriedaeth yn llwyr heb fod yn hyf arno. Dysgasai ei mam hi mor berffaith fel na chai hyd yn oed hen lane cysetlyd ynddi ddim i gwyno o'i blegid. Nid oedd gan neb amheuaeth nad i Rhiannon y deuai arian ei hewythr, a chan y tybid yn sicr ei fod yn werth mil o bunnoedd, cyfrifid fod hyn a gobaith am Huw Morus yn wr iddi yn gwneud Rhiannon y mwyaf ffodus o "gennod gweini" 'r holl wlad. Un arall y elywid ei lais yn ami yn y pentref, er ei fod yn byw ychydig oddi- yno, oedd Mr Tomos Sparcer-"y Lifin," a frydd gennym gryn lawer i'w ddweyd am dano yntau yn y man. Rhaid i Mathew Martin-tad Jac, a'r Hen Fwth gael pennod iddynt eu hun- ain. Iddynt y mae'r pentref yn ddy- ledus am lawer o'i ddiddordeb. I ar- daloedd ereill, nid yw Llandderwydd ond cartref Mathew. Pan ddigwydd i rai o'r Llandderwyddon fyned oddicar- tref, a'u holi o ba le y daethent, byddai raid iddynt, boddlon ai peidio, ddygym- od a'r sylw-" 0, rydach chi'n dod o ardal Matho Martin, felly." (I barhau.)
I Hanes Coelbren. I (Gwobrwywyd yn Eisteddfod Gadeir- iol y Coelbren, Awst 5ed, 1912). (Parhad.) Dywedais mai ychydig o ffermdai oedd i'w gweled ys 40 mlynedd yn ol, ond edrychaf heddyw o'r un cyfeiriad jk gwelaf ar yr hyn oedd yn gaeau 40 mlynedd yn ol, rhyw 30 o dai gweith- wyr, ac y mae yn ddiddorol meddwl mai ei berchennog sydd yn byw braidd ymhob ty yno. I'r dwyrain a'r gor- llewin y mae nifer o "huts" wedi eu codi o "zinc." Wrth son am ymddangosiad anian- yddol y lie rhaid dweyd am yr afon Llech. Credaf eu bod yn un o'r afon- ydd mwyaf prydferth yng Nghymru. Cymer yr afon ei henw oddiwrth y llechau sydd yn gorwedd haen ar haen yn ei gwely. Cychwyna'r afon o ddwy nant, Cwmbyddar; ymuna y ddwy nant hyn wrth fferm-dy Blaen- llech, ac flnt yn eu blaen yn afon nes dyfod at y pwll bedyddio, lie y mae llawer wedi gwisgo enw y Crist yn y dyfroedd. Gerllaw y mae pont goed; pont gerrig gul oedd yno flyn- yddoedd yn ol, ac y mae'r hanes yn ddiddorol. Y mae carreg i'w gweled fcr y bont hon yn bresennol, a'r ys- grifen a'r argraff a ganlyn arni: "Erected by A. B. Price, Esq., 1876." Y mae hanes rhyfedd i'r bont hon. Aethai y capel yn adfeiliedig, a gwnaethpwyd casgliad yn yr ardal er mwyn gwella tipyn arno, ond wele, anghydfod yn codi rhwng Price a'r curad, a'r canlyniad fu i Mr. Price, y trysorydd, alw cyfarfod o'r tanysgrif- wyr yn y Price's Arms, a'i gynhygiad iddynt oedd hyn Y Curad i adgy- weirio'r capel a Price i godi pont new- ydd, ond ni chafodd y Price hwn, er ei fod yn ddyn o awdurdod, mo'i ffordd ei hun yn llwyr. Dywedodd Mr. Herbert Kemys wrtho, 'Rwy' i wedi rhoi sofren i chi tuag at y capel, a dyma lie y mae i fynd; ond os i chi am godi, pont newydd yma o Nantyfedwen i "groesi'r afon i fyn'd i Benycae y mae (sbfren arall i ga'l tuag at y bont." Golchwyd y bont gerrig i ffwrdd y Sul cyntaf yn Awst, 1871, gan y llifogydd. Gerllaw i'r bont tu cefn i Dai yr Hen- ryd y mae pwllyn lied ddwfn, lie y boddodd dwy ddynes rai blynyddoedd yn ol, a bachgennyn ieuanc, mab i Mr. Norton, y cigydd, yn Mai, 1911. Tua deugain llath ymlaen y mae'r afon yn cwympo dros raiadr yr Henryd. Y mae golygfa brydferth wrth y raiadr hon, yn enwedig ym misoedd Ebrill a Mai. Gorchuddia'r briallu yn ystod y mis- oedd yma y graig o'i chwmpas, fel pe i hudo rhai i berygl. Wedi'r cwymp yn y fan hon &'r afon yn ei blaen trwy gwm prydferth, a orchuddir o'r ddeutu a choed prydferth, gwern, helyg, bedw, a'r deri calon galed. Arllwysa y Llech i'r Tawe gerllaw Ynyswen. Tyrra llawer i weled yr afon a'r rhaeadr hon. Dywedir llawer am raeadr ac afon Pontnedd-fechan, ac ymwSl cannoedd o bobl a'r lie hwnnw yn flynyddol. I mi yn bersonal nid yw rhaeadr Pont-nedd-fechan i'w chyniharu ag eiddo'r Llech a rhaeadr yr Henryd. Y mae yn diffyg mawr yn nhrigolion Coelbren na fuasent yn hysbysebu mwy ar y lie. Gwelaf fod pwyllgor yr Eisteddfod yn cynnyg at hynny y flwyddyn hon, ac yn wir nid ydynt yn dweyd gormod. Y mae yn lie iachus i'r eithaf, ac yn wyneb haul o bob cyfeiriad. (I barhau.)
ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit" Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Beit- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6 j Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Peaice, JW Oharles Street, Cardiff. Cadewch 1ml siarad a chwi mm ■ Ludded t A Pan y llethir eich cyfansoddiad m gan bryder neu or-waith-pan J J t???sa??' <S?tBS&. mae eich ynni yn ?"?—??° y ???S? '?S???? teimlwch rywsut "?pan y maeock E ???S? ?????" nerfau yn Binedig-pan y blinir BM9? ? )??? chwiganyrymdrechleiaf—yrydych ■Kp ?? iMt? mewn cyflwr o ludded. Mae'ch ES*  ?- ?? cyfansoddiad fel y blodeuyn ya J^k gwywo gan brinder dwr. Ac ys ???? ??? union fel yr adnewydda'r dwr y W t blodeuyn gw wedig-felly y rhydd W I 'Wincarnis' fywyd newydd i gyfan- ? ? ? ? t B aoddmd lluddedlg. Gallwch ei ?<??? N fM?ynllanweichhollgorffgydad iechyd newydd-nerth fUrrydd-ynal yl mrnydd a bywydd newydd-hyd yn oed oddiwrth y glasaid cyntaf. Dechreuwch fod yn iach YN RHAD Anfonwch am brawf-gostrel yn rhad o WI. \VflH cami.nid yn unig cael ei flas, ond dlgoa I wneud lies i chwi. Amgauer tri itamp ceinlaf (I ciudiad). u r c COLBMAN A CO.. LTD., jt/KKk W. 140. Winoarnia Works, Norwich. rf,.Z- "CWln Y- ]3y,"dyl Cymeradwyir gan dros 10y000 o Feddygon^ t: j [pLE?CR?EUr ? ? MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewa tri ffurf. No. 1. —George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewa Blvohaa 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goehelwch Dwyilwyr I-Gofynweh yn eglur am "JGeorge'a Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.