Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Beirdd y Bont. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Beirdd y Bont. I GAN "BRYNFAB." I I J DEW I WYN 0 ESSYLLT. Dewi Wyn o Essyllt oedd y galluocaf o holl feirdd y Bont. Yr oedd yn an- terth ei ddydd, ac yn anterth ei nerth awenyddol pan symudodd yma o Ddinas Powys. Cadw melin yr oedd yn Ninas Powys, a chadw maelfa yr .oedd yn y Bont, neu fel y dywedodd rhywun-melin oedd yn ei gadw yn Ninas Powys, a maelfa oedd yn ei gadw yn y Bnnt. Ychydig o liw blawd fu ar ei ddillad yn y naill le na'r llall. Yr oedd barddon- iaeth a llenyddiaeth wedi ei hawlio iddynt eu hunain, er pan oedd yn lied ieuanc, a daliasant eu gafael ynddo hyd ddiwedd ei oes. Ni feddyliai neb ei fod yn fardd yn Ninas Powys, ac ini ellid meddwl ei fod yn siopwr yn y Bont. Fe ddywedir i fardd fynd i edrych am dano yn Ninas Powys unwaith. Nid oedd xiwnnw yn gwybod dim am y lie. Holai hwn a'r llall ar y ffordd- os gwyddent ym mha le yr oedd Dewi Wyn o Essyllt yn byw. Nid oedd neb yn gwybod am y fath enw. Wedi holi a holi daeth ar draws hen wr yn torri cerrig ar ochr y ffordd. Holodd hwnnw-os gwyddai pa le yr oedd y bardd yn byw. Wedi cosi ei gernau a synfyfyrio ychydig, dywedai ei fod yn credu y gwyddai am bwy yr ymholai y gwr dieithr—am Twmi o'r Felin—yr oedd wedi clywed ei fod yn ceisio prydyddu weithiau. Cafodd y bardd ei gyfeirio at Dewi Wyn o Essyllt ar ei union oddiar ben y domen gerrig. Dyna brawf nad oedd yn cael ei ad- waen fel bardd ymhlith ffermwyr Bro Morgannwg. Rhywbeth yn debyg oedd fel siopwr yn y Bont. Ni welwyd ef yma a ffedog wen o'i flaen, nac yn cyfeillachu gyda siopwyr y dref. Nid oedd natur wedi ei dorri allan i fod yn siopwr. Yr oedd yn rhy ddiniwed yn un peth, ac nid oedd wedi darganfod yn ddigon boreu nad yw pob cwsmer yn onest. Cymerai fod pawb fel efe ei hun-yn barod i dalu am ei nwydd- au. Ond buan y gwelodd ei fod yn camgymeryd yn ddirfawr. Daeth un lienor adnabyddus i'w siop unwaith, ac archebodd bedair ham," gan addaw talu am danynt yr wythnos ddilynol. Ond y newydd cyn- taf glywodd Dewi am y cwsmer oedd -ei fod wedi ei baglu hi i'r Amerig. Adroddodd y bardd ei gwyn wrth Carnelian, ac er mwyn ei gysuro -cordeddodd yntau englyn fel hyn:- Fe roes y gwr frysiog gam,—yr adyn Fe redodd ar garlam I'r Amerig gorgi gwyrgam, Ffoadur oedd a phedair 'ham.' Bu Dewi Wyn o Essyllt yn Saul beirdd a llenorion y De am dymor hir. Mae yn amheus a welodd Cymru ath- rylith mor gynhyrchiol ag eiddo Dewi. Yr oedd ei awen yn ffynhonnell ddi- hysbydd. Yr oedd wedi cyhoeddi "Ceinion Essyllt" mewn deg o rifynnau, swilt yr un, cyn iddo ddod i'r Bont. Cafodd y "Ceinion" gylchrediad helaeth-mwy, fe ddichon, nag unrhyw waith bar- .ddonol a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Fel y nodais yn barod, yr oedd Essyllt yn uwch o'i ysgwyddau, fel bardd a lienor, na neb o'i gyfoed, a thrwy hynny bu galw mawr am ei wasanaeth fel beirniad ar hyd a lied y wlad. Ysgrifennodd lawer i'r gwa- ihanol newyddiaduron ,a bu yn golygu y golofn farddol yn "Y Fellten," y "Gwladgarwr," a'r "Cardiff Times" am flynyddoedd. Fel ysgrifennwr rhyddiaeth ychydig iu o'i debyg. Yr oedd ei ysgrifau :mewn iaith gref a gloew, ac agos mor farddonol a phe buasent mewn 001 a chynghanedd. Gwr boneddigaidd ei ymddangosiad ,oedd Dewi-anhebyg iawn i fardd, .oherwydd fe ddywedai Ceiriog mai "un rhyfedd yw bardd ym mhob oes", a thrwstau o'i febyd i'w fedd, a siwr o wneud pobpeth yn groes." Ond am Essyllt yr oedd bob amser mor raenus a thrwsiadus a phendefig. Welodd neb ef erioed heb ei grys gwyn a'i .ddiddosben aristrocrataidd. Ni bu yr awen Gymreig erioed yn cael ei charu a'i hymgeleddu gan ddyn mor llednais a boneddigaidd ag ef. Yr oedd natur wedi ei wneud yn ddyn glan, o wadn ei droed hyd ei goryn, a gofalai yntau nad oedd na theiliwr na chrydd nag un crefftwr arall i gael andwyo y ,cyfanwaith. Yr oedd bodolaeth Dewi yn cael ei ,gwneud i fyny o ddwy ran-y syl- weddol a'r ymddangosiadol. Yr oedd yn rhaid mynd i'w fyrfyrgell i weled un rhan, ond gellid gwel' d y llall yn jei gogoniant ar yr heol, neu ar y llwyfari. Yr oedd yn gyfuniad rhyfedd o ddau eithafbwynt. Yr oedd yn angel yn ei fyfyrgell, ac yn blentyn ym mhob man arall. Gallai ysgytio cre- adigaeth farddol o fodolaeth yn ei fyfyrgell, ond gallai cocosyn o fardd sefyll ysgwydd yn ysgwydd ag ef un- waith y deuai allan trwy y drws. Rhywfodd yr oedd yn gadael ei holi athrylith ar ei ol ar y trothwy, os na ddelai cyfran o honi allan yn ei logell, ac wedi ei chaethiwo ar bapur. Lladd- asai lew o wrthwynebydd gyda'i ys- grifell, ond elai yn fud a diamddiffyn o flaen hogyn hir ei dafod a byrr ei wybodaeth. Nid oedd digon o bres yn ei wyneb i edrych ar gynulleidfa pan yn darllen beirniadaeth neu adrodd j ychydig englynion. Cychwynai a'i wyneb tuag at y gynulleidfa, ond wrth bwysleisio ar ei frawddegau gyda'i draed a'i ddwylaw, byddai yn fuan a'i gefn tuag ati, ac os na ofalai yr arweinydd am droi ei wyneb yn ol yn awr ac eilwaith, hanner yr hyn a ddarllennai fyddai cyfran ei wran- dawyr. Yr oedd hen Ficer Llanymddyfri yn dweyd wrthym am "gymeryd perl o enau llyffant." Yr oedd Dewi Wyn yn rhy barod i wneud hynny. Byddai yn blasu ei fin, ac yn gwenu o glust i glust pan ddigwyddai i ryw anwybod- usyn ei seboni, a chanmol ei farddas. Cymerai yn ganiataol fod y gist w&g yn llawn o aur pur, ac fod y cocosyn oedd fel twrch daear y byd awenyddol yn Hawn cymaint o awdurdod ar berlau awen a'r prif fardd oedd fel eryr yn uchelderau cerdd a ch&n ei wlad. I ddyn nad oedd yn ei nabod am- hosibl oedd iddo dybio fod Dewi y fath dalp o athrylith. Nid oedd argraff awen na llên ar ddim a ddywedai mewn ymddiddan, a gallai y creadur mwyaf rhyddieithol siarad ag ef gyda llawn cymaint o ardaloedd a rhyw gawr o feddyliwr. Yr oedd Dewi yn un hynod o groen- denau, yn enwedig os byddai i rai o bicwns y wasg gyffwrdd ag ef yn rhywle. Nis gallasai oddef y pigiad 'lleiaf, heb afael yn ei ysgrifbin i ladd a blingo ei boenydwyr. Gwae i'r neb a'i cythruddai trwy y wasg-pa un ai cawr, ai coryn a fyddai. Gwastraffodd lawer o eiriau ac inc yn y cyfeiriad hwn. Defnyddiai yr ordd drymaf a feddai, pe buasai dim ond gwybedyn o fardd neu lenor ag angen ei yrru i ddifancoll. Aeth yn fwy pigog yn niwedd ei oes, a chymerai rhai o'r bechgyn drygionus fantais ar ei groen tenau i'w golynnu yn ddiangen, er mwyn cael y pleser o'i weled yn cyn- hyrfu. Fe ddywedir fod tuedd ynom i gyd i fynd yn fwy croendenau wrth fynd ymlaen mewn dyddiau, ac, fe- allai, fod hynny yn cyfrif am i Ddewi fod mewn cynifer o ysgarmesoedd ym mlynyddoedd diweddaf ei oes. (I barhau.)

Duw yn rhoddi Dechreu Da.

Ymha le bydd y GymraegI Farw?

Advertising

Rwystro Gwalth y Senedd.

I Ynys Barri.i

Advertising