Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y BOBL IEUAINC.
COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. CWESTIWN Y GYMRAEG. Mater sydd yn rhwym o gael sytw pob dyn ieuanc a gar ei wlad yw mater yr iaith Gymraeg. Prin y mae angen dweud fod Cymru mewn llawer ystyr yn mynd trwy drawsgyweiriad mawr. Mae'r gogwydd yma ar dro er ys ugain mlynedd bellach. Hawdd fyddai nodi ami i reswm sy'n cyfrif am hyn. Hwyrach mai'r peth cyntaf sy'n cyfrif am dano yw'r gyfundrefn o addysg sydd wedi bod yn gymaint gallu yn ein gwlad er ys deugain mlynedd. Mor ddall ac mor ddwi oedd cymwynaswyr addysg y dyddiau gynt fel yr anwybvddasant achos Cymru yn llwyr gan dybied fel eu hynafiaid mai'r unig ffordd i achub y genedl a'r wlad oedd ei Seisnigeiddio. Erbyn heddyw nid oes neb mor anwy- bodus nac mor benwan a gred beth felly. Ni cheir yr unig o oraclau adavsg y wlad a ddeil am funud mai gwendid mewn gair yw cydnabod ac ymarfer y Gymraeg. Pe buasai'r ys- pryd sy'n ffynnu heddyw wedi ei eni gyda'r deffroad addysgol, buasai achos y Gymraeg yn lawer mwy dis- glaer nag ydyw. Sut bynnag, dyma un achos am y ncwid mawr ym mywyd Cymru. Peth arall sy'n cyfrif am y trawsgyweiriad yw dylihad estroniaid i'n gwlad. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf y mae y iianw Seisnig wedi golchi gyda rhuthr diatal ar draws ein gwlad, ac wedi dwyn yn ei sgil arferion, daliadau, a dull newydd o feddwl ac o fyw. Yr ydym felly wyn- eb vn wyneb a'r broblem fwyaf yn hanes ein gwlad a'n cenedl er ys oesau. Mae'r trawsgyweiriad yn fawr mewn ystyr gymdeithasol. Yr ydym wedi gweld cyfodiad y dosbarth canol- dosbarth sydd yn ddolen o bwys mawr yng nghwrs cynnydd ein cenedl. Yr ydym yn newid yn fawr yn ein carictor crefyddol. Ni wiw i neb gau ei lygaid 11,r ff aith ein bod yn grefyddol yn fwy llydan cynyddol, a "modern." Ond y mae'r trawsgyweiriad ieithyddol yn fwy na'r ddau arall o gryn lawer, ac yr ydym yn rhwym o'i wynebu. Ym- ddengys i mi y dylem fel dynion ieu- ainc ymdrafod a'r mater i chwilota'r ffeithiau'n ofalus a chywir; ceisio'r gwir ar y pwynt, boed felus neu chwerw. Ni ellir ennyn awydd am ddiwygiad oni bo gennym gariad angherddol at ymchwiliad. Yr ydym yn erfyn felly ar Gymry ieuainc sy'n byw ar faea y frwydr i'n helpu drwy ddanfon i ni ddosbarth o ffeithiau ac argraffiadau sy'n ymwneud a'r cwesti- wn. Carwn ei wyntyllu mor llwyr ag sydd bosibl modd y gallom daflu goleu ar y broblem ac helpu ein gilydd i'w dadrys. A gawn ni bob cymhorth gan gyfeillion sydd yn teimlo'n ddwfn ar y mater? 1
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.,…
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. 1 Gofyniad mawr yn y Duffryn ac ar y Banwen y dyddiau sych hyn ydyw, Pa bryd y mae y Cynghor Dosbarth yn mynd i gyflawni ei haddewidion mewn perthynas a'r dwfr? Y mae prinder yn fawr iawn yn y lleoedd hyn. Allan o hen weithfaoedd y ceir dwfr yn bresennol. Gresyn fod y Cyngor Dos- barth yn cymeryd cymaint o amser i ystyried y tenders am osod pibau. Y mae pris da ar groen y Cynghorwyr yma yn arbennig gan y Bedyddwyr. Gwelais yn y nodion o Seven Sisters fod eich gohebydd yn llongyfarch yn galonnog Mr. W. W. Thomas, M.E., ar ei lwyddiant yn sicrhau cadair y Cyngor am flwyddyn arall. Nid ydym yn barod i ymuno yn y llongyfarchiad; oblegid credaf mai teg ydyw i'r gad- air fyned yn ei thro. Mae'n sicr fod cystal bechgyn a Mr. Thomas ar y Cyngor. Dydd Mercher diweddaf bu farw Mrs. Kemys, priod Mr. Herbert Kemys, Disgwylfa, yn 22ain mlwydd oed, ar enedigaeth plentyn. Claddwyd hi y Sadwrn canlynol ym mynwent Nanty- ffin. Gwasanaethwyd gan y Parch, C. J. Pipe, Abercraf. Lie bach iawn roddir i lenydd- iaeth yn y lie hwn. Y mae llawer o baratoi yma gogyfer a pherfformio "cantatas," ond bob amser rhai Seis- nig ddewisir. Beth ddaeth o'r Cwmni Dramodol? A ddihysbyddodd ei nerth gyda "J ac y Bachgen Drwg?" Go- beithio cawn eu gweled ar y maes eto, a hynny er mwyn yr hen Gymraeg. Bydd Cymry'r Onllwyn fel Cymry llawer lie arall ar ol bustachu mewn Saesneg ar hyd y blynyddoedd yn agor eu llygaid yn y man gan waeddi fod yr hen iaith mewn perygl ac yn brysio i gau drws yr ystabl ar ol i'r lladron <ddwyn y ceffyl. GLAN PYRDDIN.
Advertising
#< SARZINE" BLOOD MIXTURE CROEN 1ACE A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, I/li a 2/6 y botel. neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH.
IYr Henadur Jordan a'i Briod.…
I Yr Henadur Jordan a'i Briod. j I YR HENADUR JORDAN. I MRS. JORDAN. mae r Henadur Jordan wedi cymer- yd diddordeb amlwg yn amgylchiadau plwyfol Llansamlet am 45 o flynydd- oedd. Bu am chwe mlynedd yn I "oerseer" pan oedd plwyfi Llansamlet- Uchaf a Llansamlet-lsaf yn Undeb Castellnedd. Ar drosiad y plwyfi hyn i Undeb Abertawe ar y 24ain o Fehefin, 1876, derbyniodd y ddau swyddog a wasanaethent fel trethgasglwyr—Mr. Henry Bodycombe a Mr. Thomas Howell-flwydd-dål am eu hoes yn ol ty/nor eu gwasanaeth, a dyma oedd achlysur penodiad Mr. Jordan gan Warcheidwaid Undeb Abertawe i lanw y swydd dros y ddau blwyf, y rhai a gynhwysid ym mhlwyf eglwysig Llansamlet. Yr oedd darn helaeth o'r ddau blwyf ym mwrdeisdref Aber- tawe, a threth y tlawd yn gyfartal ynddynt, ond gv ahamaethid yn y trethoedd eraill yn y rhannau oedd yn y Boro'. 0 dan yr Act y Llywodraeth Leol, 1888, pan y crewyd y Cynghor Sir, gwnaed y rhannau hynny o blwyfi eraill oedd o fewn y Boro' yn blwyfi arbenigol eu hunain. A thrwy hyn gwnaed Mr. Jordan yn drethgasgl- ydd i bedwar phvyf ar yr un pryd, gyda phedair cyfrcs gyflawn o lyfrau ac "overseers," y rhai a elwid yn Llansamlet Higher a Higher Urban, Llansamlet Lower a Lower Urban. Ni wyddis am un swyddog arall yn yr holl wlad wedi gwasanaethu ped- war plwyf yr un pryd. 0 dan Act y Llywodraeth Leol, 1894, pan y crewyd y Cynghorau Plwyf, unodd Boro' Abertawe y gwa- hanol blwyfi o fewn ei therfynau yn un plwyf-Parisb of Swansea. Nis gellid ymyrid a Mr. Jordan yn ei swydd, ac er cyfleustra, dros ei amser ef yn unig, galwyd ei blwyfi yn Llan- samlet Division of the Parish of Swan- sea, a hyn fu y trefniant hyd y diw- edd. Am resymau neillduol gwnaed pais at y yngor Sir ar iddynt uno y ddau blwyf-Llansamlet Higher a Llansamlet Lower-yn un plwyf. Dan- fonwyd dirprwyaeth i wneyd ymchwil- iad yn y lie, i'r hon yr oedd Mr. A. T. Williams yn gadeirydd. O'u blaen rhoddodd Mr. Jordan resymau dros yr uniad. Cefnogodd eraill. Ond cadwyd y rheswm cryfaf heb son yr un gair am dano. Barnwyd mai hyn oedd y "diplomacy" goreu ac ychydig wyddant am dano hyd heddyw. Y canlyniad oedd i Gyngor Sir Mor- i gannwg gyhoeddi "order" fod y ddau blwyf i'w gwneyd yn un ar y cyntaf o Ebrill, 1905. Mae yr uniad hwn wedi bod o fantais arbennig i'r holl blwyf. Effaith arall yr uniad hwn oedd gwneyd y ddau Gyngor Plwyf yn un; tymor y rhai oedd i derfynu ymhen dwy flynedd. Trefnai yr "Order" fod etholiad newydd i gymeryd lie. Ond trwy eiriolaeth Mr. Jordan ar y Cyngor Sir gadawyd i'r ddau gyngor weithredu fel un hyd derfyn y tymor. Felly o Ebrill, 1905, hyd Ebrill, 1907, bu Cyngor Plwyf Llansamlet yn gyn- wysedig o 28ain o aelodau pan mae'r mwyafrif yn ol y gyfraith oedd Iseg. Dyma arbenigrwydd i Lansamlet na chafodd yr un plwyf arall erioed. Er wedi ymddiswyddo fel treth- gasglydd mae'r Henadur yn parhau i weini fel ysgrifennydd y Cyngor Plwyf ac yn "overseer." Gofod a ballai yn bresennol i fynegi am y cynnydd dirfawr y bunt yn y trethi yn ei amser ef, a'r cynnydd mwy yng ngwerth ardrethol y plwyf, a'r digwyddiadau cyffrous a fu mewn gwahanol gyfeiriadau. Teg yw dweyd ei fod bob amser wedi rhoddi llwyr foddlonrwydd i'r Oveijseers, y Guardians, a'r Government Auditor, ac er y symiau mawrion o arian a gasglodd—yn ddiweddar o bymtheg i ddeunaw mil o bunnoedd y flwyddyn- ni chafwyd erioed yr un geiniog yn eisiau a'r llyfrau bob amser yn ol y gofyniad. Yn hyn mae ei briod wedi bod o gynhorthwy mawr iddo. Yr oedd ei thad yn ffermwr yn y plwyf cysylltiol, Coedffranc, ac hefyd yn gasglydd trethi y plwyf am yn agos i 30am o flynyddoedd. Yn union wedi gadael yr ysgol galwyd arni hi i gynorthwyo ei thad. Ar ei farwolaeth ef, ac ar gyfrif I y dull deheuig y cyflawnodd y gwaith, penodwyd hi gan Warcheidwaid Un- deb Castellnedd i le ei thad, yr hyn a gadarnhawyd yn Llundain. Yr oedd I eu priodas yn amgylchiad arbennig- dau drethgasglydd yn ymbriodi, a hwn oedd y casgliad goreu wnaeth y naill a'r llall o honynt yn ystod eu hoes. Mae ei waith ar y Cyngor Sir am yr ugain mlynedd diweddaf yn dra adnabyddus, ac y mae yr etholwyr a llwyr ymddiriedaeth ynddo. Ni ar- graffodd yr un cerdyn nac anerchiad iddynt erioed, ac ni chynhaliodd gyfar- fod i egluro ei hawliau nac i roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth, ac yn yr ar- dystiad gofynnol gan y gyfraith o gostau etholiad yr oedd ei un ef yn wastad yn wag, heb geiniog arno. Mae Llansamlet bob amser wedi cael He dwfn yn ei galon. Fu neb erioed yn fwy loyal i'w blwyf nag ef. Mae ei gynorthwy i bobl ieuainc a'i gymwynasau i bawb yn fwy na wyr neb. Ac uwchlaw popeth a nodwyd y mae'n Gymro da, ac wedi gwneud Ilawer tuag at gadw Llansamlet yn Gymreig ei ysbryd a'i dafod. Dymun- wn i'r Henadur a'i briod brynhawn- ddydd hir ac esmwyth i fwynhau o ffrwyth eu llafur.
iCymru Heddyw.
Cymru Heddyw. (Cydfuddugol yn Eisteddfod Caerffili, Mai 12, 1913.) GAN MR. THOMAS R. THOMAS, I Council Schools, Lower Cwmtwrch. (Parhad.) Un o effeithiau cynnydd addysg yn bennaf yw fod Cymru heddyw yn l ddwy ieithog. Os awn yn ol i dymor ei hannibyniaeth cawn mai yr iaith a ddefnyddid bron yn hollol oedd y Gym- raeg gan fonheddig a gwreng. Ar ol i "haul ei hannibyniaeth fynd i lawr," cawn y pendefigion yn graddol golli eu cynefindra a'r Gymraeg, ond y werin yn cadw'n ffyddlon i broffwydoliaeth Taliesin. Gyda lledaeniad 8addysg jj daeth yn ystod yr hanner canrif di- weddaf yr iaith Saesneg yn fwy a | mwy cynhefin i ni, fel nad oes llawer o Gymry heddyw heblaw'r hen bobl na fedrant siarad Saesneg. Y mae j ysywaeth rai Cymry Dic Sion Dafyddol sy'n brysio i anghofio eu Cymraeg, a | rhaid i ni ddweyd mai y rhyw deg I sydd fwyaf yn y camwedd. Onid yw'r llinellau canlynol o eiddo Thomas Edwards, o'r Nant, yn eu sylwedd yn wir a mlawer o Gymry heddyw:- j Ac os bydd rhyw hogenig wedi bod yn gweini ] Yn Nghaer neu'r Amwythig, dyna'r | cwbl yn methu, | Cheir gair o Gymraeg, ac os dywed ] hi beth, O'r ledieth fydd ar my lady." ) Nid oes eisieu mynd i Loegr heddyw i I, ddysgu Saesneg-daeth yr iaith honno yn llif i Gymru. Y mae'r balchder cib- ddall a gondemnir gan y bardd, a chan lawer eraill o'i flaen, i'w weled etoyn ein gwlad, ond gweithia Ilawer o Gymry aiddgar yn egniol i noddi'r heniaith, a neb yn fwy nag arolygwr J Ysgolion Cymru-yr ysgolhaig ath- rylithgar, Mr. Owen M. Edwards. I Dysgir y Gymraeg yn ein hysgolion elfennol a chanolraddol, ac yng ngholegau y Brifysgol. Cynhelir Ys- ) gol Haf am fythefnos bob blwyddyn i I ddysgu Cymraeg i'n hathrawon; dar- I lithir yn hon ar Ramadeg a Llenydd- iaeth Gymraeg, ac ar hanes Cymru, gan rai o brif ddysgedigion ein gwlad. Beth fydd tynged y Gymraeg ni pherthyn i ni yn y traethawd hwn i ymholi, ond gellir yn sicr ddweyd fod dylanwadau cryfion yn gweithio dros ac yn erbyn ei chadwraeth. I Yn wleidyddol parh& Cymru hyd yn ( hyn yn rhyddfrydol, ac y mae wrth ei bodd wrth weled un o'i phlant yn It Ganghellor y Trysorlys-gwr sydd a'i glod drwy'r gwledydd, a gwr a ym- ffrostia ei fod yn Gymro. Gwelsom yn rhai o'r papurau Saesneg yn ddiwedd- ar achwyniad mai Cymry sy'n llyw- odraethu'r deyrnas-oni ddaeth tro ar fyd? Pan ledaenwyd yr etholfraint gan Gladstone yn agos genhedlaeth yn ol ni wnaeth hynny fawr wahaniaeth yng Nghymru am tuag ugain mlynedd, ond erbyn hyn teimla'r gweithiwr werth y bleidlais, ac y mae Plaid Ani- bynol Llafur wedi dod i fodolaeth dan yr ymdeimlad nad yw un o'r ddwy blaid fawr wleidyddol yn gwneyd yr hyn a ddylai i ddeddfu dros weith- wyr ein gwlad. Er fod aelodau Llafur yn cefnogi y Weinyddiaeth bresennol, nid oes y teimladau goreu yn bodoli rhwng y ddwy blaid, ac anodd dweyd pa fodd y dadblygu y berthynas rhyngddynt. Y mae gweithwyr ein gwlad yn llawer mwy byw yn bres- "ennol i symudiadau cyhoeddus nag oeddynt. Y mae addysg wedi agor eu llygaid i bosibiliadau bywyd-ni fodd- lonir mwyach ar yr hen safon o fyw. Y mae eu horiau gweithio yn llai; cant fwy o amser i ddarllen a myfyrio. Y maent hefyd wedi dod i sylweddoli I gwerth undeb a chydweithrediad, ac o I ganlyniad y mae achosion yn gweithio I yn ein gwlad na fu cyn hyn, ac yn argoeli cyfnewidiad tra phwysig mewn gwleidyddiaeth a bywyd cymdeithasol. Darllenir llyfrau rhad ar Gymdeith- asiaeth, a gwelir darlithwyr yn cyni- weirio yn neillduol drwy'n hardaloedd mwyaf poblog i siarad ar Wleidydd- iaeth a Chymdeithasiaeth. Nodweddir pulpud Cymru heddyw o'i gymharu a'r hyn a fu gan safon uchel o ddysg. Pe buasai Brutus yn fyw heddyw, ni allasai er ei holl ddawn wawdio pregethwyr Ymneilltuol Cym- ru am ddiffyg dysg a chwaeth. Ni cheir mwyach glywed ond yn anaml wawdio gwyddonwyr o bulpudau'r gwlad gan rai na wyr ddim am wydd- oniaeth na diwylliant. Tr rhai glyw- sant gedyrn yr areithfa yng Nghymru tua hanner canrif yn ol, efallai nad ymddengys y pregethu mor hyawdl yn bresennol ag ydoedd yr adeg honno, ond yn sicr ar y cyfan ni chollodd pulpud Cymru ei ogoniant. (I barhau.)
Colofn y Gohebiaetban.
Colofn y Gohebiaetban. EISTEDDFOD GADEIRIOL RHIWFAWR. Mr. Gol.Dywed Mr. Abraham Rees, Lower Cwmtwrch, yn y "Dar- ian ddiweddaf ynglyn a'r Eisteddfod uchod fy mod yn ddyledus i'r pwyli- gor am ymddiheurad. Am beth? Ni ddywedais air am Eisteddfod y Rhiw- fawr. Yr oil a ddywedais ydoedd fod Pwyllgorau Eisteddfodau Cadeiriol y De yn gwasgu ar y cystadleuwyr i dalu "entrance fee" o swllt gyda'u cyfansoddiadau i'r ysgrifenyddion. Ai nid gwir yw hynny? Edrycher dros raglenni Eisteddfodau Cwmaman, Aberaman, Fforestfach, a Phontar- dawe. Yr wyf yn deall fod Eisteddfod y Rhiwfawr yn wahanol, fod ei rheolau yn fwy dyngarol a rhyddfrydol. Y mae y pwyllgor i'w ganmol yn fawr yn hyn, a dylai pwyllgorau eraill ei efel- ychu.—Yr ydwyf, R.E.J. JEHOFAH. I Mr. Gol. Y mae gohebydd Pen- i deryn yn ei gwneud yn galch yn ei oheb- iaeth ddiweddaf. Dywed am un fu'n ddoniol yn ei ddull gwreiddicl ei hun yn esbono'r enw Jehofah." Wele'r esboniad: Je yn golygu'r dyfodol ho y presennol; a fah y gor- ffennol. (.w:uchod pawb! Apelia at yr Arglwydd godi mwy o ddynion o'l* fath. Yn wir, gofynnir gormod gan yr Arglwydd i godi neb i wneud cajbidwl fel hyn a'i enw. Tebyg mai rhywbeth fel hyn fyddai ei esboniad ar enw fel Penderyn. Pen yn golygu pig yr aderyn der ei gyn- ffon, ac yn ei draed; hynny yw aderyn y to fu'n poeni Die Penderyn er's talwm. Feallai i'r ysgolheigion glywed am yr esboniwr hwn, a Gwili yn eu plith ac inai hynn 'v sydd yn cyfrif fod y pnfardd am ddweyd Jafe yn lie Jehofah yn awr. Y mae Je neu gee gee yn eithaf enw ar y dyfodol. a, fah cystal a hynny ar y gorffennol. Wfft i'r ho! A beirniaid eisteddfodol yn gennog at y marwnadwr am ddweyd ho, a pha ryfedd fod yr ys- golheigion am ei fwrw allan o'r enw Jehofah pan ddywed gwyr Penderyn mai ho yw'r presennol. Ni chwynwn am fwrw'r ho allan oblegid bydd y pres- ennol yn well heb enw na'i alw yn ho J JOE. O.Y. --Anghoflais yr enw Pompren- llwyd. Yn ol y dull hwn o esbonio dychmygwn mai enw arall ar Penderyn yn golygu yr un peth ydyw. Pompren oedd yr aderyn am fod rhyw debyg- rwydd rhyngddynt, a IIwyd ei liw, oblegid aderyn y to ydoedd.—J. EOS HAFOD YN WAEL. Mr. Gol.,—Dymunaf gael ychydig le i ddweyd gair am Eos Hafod. Blin iawn fydd gan ddarllenwyr y Darian" ddeall fod yr anwylddyn hwn yn wael iawn ei iechyd er's amryw fisoedd, ac y ,mae ar hyn o bryd mewn llesgedd a gwendid mawr; ond er ei holl wendid y mae yn hynod siriol ei feddwl. Yru- welais ag ef ddoe, ac yr oedd yn n /i mi ei gofio yn garedig at ei Haws cyfeillion trwy gyfrwng y "Danan. Lawer gwaith y cawsom flas mawr wrth ddarllen ei nodion Min v Ffordd yr oeddynt bob amser yn rhamantus iawn, ac yn hynod nod- weddiadol o'r "Eos." Y mae wedi bod yn y swydd o school attendance officer" yn yr Ystrad ers 32 o flynyddoedd. Swydd yw hon sydd yn gofyn amynedd 1 doethineb mawr, ond teg ydyw dweyd fod Mr. Yorath wedi ei chyflawnu yn ystod yr holl flynyddoedd hyn heb dramgwyddo neb, a'i enw'n anwyl ac mewn parch mawr ar aelwydydd yr Ystrad. Wedi ei golli o'r cylch y maj y plant oil yn holi am dano, gan eu bod wedi deall ei fod mewn cystudd, a dyma air olaf yr Eos wrthyf-Cofi. wch fi at holl blant bach yr ysgolion. Adferiad buan iddo ydyw ein dymun- iad.— Y r ciddoch, etc., IOAN AWEL. [Blin gennym am afiechyd Eos Hafod. Yr oeddem ar ofyn ysgrifennu i holi beth gyfrifai am ei ddistawrwydd pan ddaeth yr ohebiaeth hon i law. Y mae'n siwr fod holl ddarllenwyr a gohebwyr y "Darian" yn uno a'n go- hebydd i ddymuno i'r Eos adferiad buan.-Gol. ] HYN A'R LLALL. I Mr. Gol. ,-Goddefwch air o brofiad un dderbyn y Darian" yn achlysur- ol. Llongyfarchaf y Golygydd new- ydd yn onest a gwresog. Mae'n am- lwg ei fod yn fyw i ystyr neilltuol "Tarian y Gweithiwr." Cynrychiola "Tarian" hawliau, fel y cynrychiola y "Gweithiwr" y werin. Cyfuna'r Darian heddyw fesur boddhaol iawn o oleu pur a gwres calon. Tuedd y gweithiwr, neu'r werin, yw colli golwg i raddau ar y pwysigrwydd o gyfartal- wch y ddau anhepgor hyn mewn del- (ryd a bywyd. Er cymaint y goleu heddyw, ni fu cyfnod, mae'n debyg, a mwy o'i eisiau ar y gweithiwr, er gwneyd y defnydd goreu o'r gwres a'r brwdfrydedd. Pe ceid rhagor o gyf- artalcdd yn y ddau anhepgor hyn ym mywyd y gweithiwr, dichon yr osgoid ami i anghydwelediad, ac hyd yn oed streic a'i chanlvniadau truenus. Bendith wedi myn'd yn farn, Yw y gyllell fo'n ddi-garn," medd Elfed. Dyna hefyd yw brwd- frydedd heb oleu doethineb. Nid yn unig mae'r Darian" yn ymloewi o ran ei delfryd a'i gwaith, ond hefyd o ran gwisg. Y mae'n ddiddorol heb fod yn fympwyol gwyr fod iaith yn fwy na llythyrren. Peth arall gwladgar iawn nowedda y Darian," yn anad un newyddiadur, yw y lie helaeth a ddyry i hysbysiadau Eisteddfodol. Un peth fuasai'n well- iant hefyd fyddai rhoi yn yr hysbysiad fanylion y prif destynau. Y dvdd o'r blaen siaradem & chyfaill Uengar ynghylch yr anhawster o gael testynau cystadlcuol newyddion, yn arbennig, rhai barddonol. Ac meddai yntau, "Ar hyn sy'n rhyfedd i mi yw ein bod mor ddall i destynau agoc. Awn wlad Canaan a digon o destynau gwell yn ein plwy,—ond eu gweld." Yna dechreuai enwi amryw destynau barddonol—cywyddau, yn fwyaf ar- bennig—"Y Pla Gwyn." "Lie mae'r awel fyth yn dyner," etc., etc.,—Yr ydwyf, ANHYMIG.
Y Tridwr.
Y Tridwr. Yng Nghynhadledd y Cymdeithasau Cymraeg ym Mhontypridd Mai 16eg, cydgyfarfu Cymry brwdfrydig. Mae ArUwn, yr yagrifenydd cyffredinol, yn teilyngu ein hedmygedd a'n cefnogaeth lwyraf am ei drefn esmwyth a dilol yn nygiad y gwaith yn ei flaen. Gwr di- ball yw efe, nea dwyn barn i fuddugol- iaeth. Mor hyfryd oedd trigo o frodyr ynghyd. Gyda golwg ar ein hiaith, mae pob argoelion nad a'n llafur yn ofer. Mae ysbryd y peth fcyw yn y wlad, a. gwreng a boneddwr yn uno yn y gad o blaid yr hen Gymraeg pendigaid. Campus! Tua 50 o gymdeithasau eis- ioes wedi ymrestri! Mae'r hanes yn galonnog, ac yn addewid am bethau mawrion yn y dyfodol agos. Hapus yw clywed am awdurdodau addysg ynghyda ysgol foiatri yn deffro i'w cyfrifoldeb. Mae glewion o hyd yn cael ei geni i lanw adwyau cenedl. Darn hapus iawn ynglyn a'r gynhadledd oedd yr or- ymdaith drwy y dref a thros yr Hen Font Bwaog sydd heddyw yn ddangos- eg arbennig o athrylith a dyfalwch pen- derfynol Edwards, Bryntud, Plwyf Eglwysilan, un o weinidogion y Groes- wen, ac adeiladydd i'r ddau fyd fel y'i gelwid, ac at fedd Ieuan Ap Iago," awdur Hen Wlad fy Nhadau," pryd y cawd gwasanaeth Arglwydd Ponty- pridd, ein cyn-aelod Seneddol, a'r brwdfrydig Rees Morgan, B.A., Ponty- pridd. I Brynfab yr ymddiriedwyd y rhan offeiriadol, ac aeth drwy y gwas- anaeth llawn cystal a phe buasai mewn erys gwyn, a phwy'n adtlasaeli" aa'r bardd hanesydd o'r Hendre, cofiannwr diail hen Glic y Bont. Danghosodd Cymry brwdfrydig y Bont eu bod yn fyw iawn i bwysigrwydd Undeb y Cym- deithasau Cymraeg yn ei holl agwedd- au. Mae gair yn ddyledus hefyd i'r chwiorydd wasanaethasant mor roes- awgar wrth fwrdd y wledd. Da oedd gennym weled yno y patrieirch Cym- reig Gwyngyll Hughes a Thawenog, ac ar ol clywed araith y Parch. Emrys James, nid oedd absenoldeb Mr Wm. Jones. A.S., yn siom. I DEWI AUR.
Nodion Heolycyw.
Nodion Heolycyw. I GAN "CREUDDYN." Cynhaliodd eglwys Ainon (B.) ei chyfarfodydd blynyddol Sul, Llun, a nos Fawrth, Mai 24, 25, a'r 26. Dydd Sul pregethodd Mrs. Glyn Price, Gelli, Ystrad,'a'r Parch. Ben Jones, Calfaria, Maesteg. Nos Lun cafwyd pregeth gan y Parch. J. M. Lewis, Tabernacl, Maesteg. Nos Fawrth cawsom yr hyfrydwch o wran- daw ar y Parch. Charles Davies, Caerdydd. Nos Sul am wyth o'r gloch cynhali- wyd "sacred concert." Llywyddwyd gan Mr. Richard Dawkins. Unawd gan Miss Gwladys Chilcott, Anthem gan y cor, Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn." Unawd gan Miss Edith May Gore. Unawd gan Miss Mary Jane Leyshon. Unawd gan Mr. Tom Evans. Anthem gan y cor, "Pwy welaf o Edom yn dod." Adroddiad gan Mrs Glyn Price, yn neilltuol dda. Unawd gan Mr. Tom M. Owen. An- them gan y cor. Y dydd o'r blaen daeth rhaglen Cymanfa Ganu Bedyddwyr Tonyrefail a'r cylch i'm Haw oddiwrth rywun. Derbynied fy niolch pwy bynnag ydyw. Y mae detholiad o donau rhagorol yn y rhaglen, ac yn eu plith, Hiraeth," sef ton o waith fy hen gyfaill, Alaw Myrddin, Gilfach Goch. Yr arwein- ydd ydyw Mr. R. Rhedynog Price, L.T.S.C., Caerdydd. Nos Sul diweddaf tua saith o'r gloch daeth ein heddgeidwad o hyd i nifer o fechgyn yn chwareu cardiau mewn lie neillduol. Dyma yr ail waith i rai o honynt gael eu dala. Fe ddywedir, Mr. Gol., fod gamlo yn beth cyffredin yn Heolycyw, a hynny ar Ddydd yr Arglwydd. Rhwydd hynt i'r heddgeidwad yn v lie i ddodi terfyn ar bethau o'r fath yn yr ardal.
- _ - _- - _-ARGRAFFWAITH.
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaitb ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" &'r Darian," 19 Oardilf Street, Aberdar.