Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Public Hall, Brynaman.;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Public Hall, Brynaman. Nos Iau a nos Sadwrn, Mai y 14og a'r 16eg, rhoddodd Cymdeithas Gorawl y Philharmonic ddau berfformiad o'r cantawd rhagorol, "Arch y Cyfamod (David Jenkins, Mus. Bac.), gyda cherddorfa dan arweiniad Mr E. R. Williams, Brynaman. Y cynieriadau cyflogedig oeddynt: Soprano, Miss Agnes Parry, R.A.M. tenor, Mr John Roberts, Llundain; bass, Mr W. J. Davies, Rhymni. Cyfeilydd, Mr Arthur Williams. Cadeirwyr: Nos Iau, Tom Morris, Ysw., J.P., C.C.. nos Sadwrn. | D. W. Lewis, Yaw., F.T.H.C. Rhodd- asai y gymdeithas wahoddiad i'r Athro D. Jenkins i arwain nos Sadwrn, ond yr ? ail ran yn unig a arweiniodd oherwydd ei wendid. Bydd y perfformiad hwn yn i help iddo wella. Arweinydd y gym- j deithas ydyw Mr E. Maddock, Bryn aman. Gwr galluog yw efe a ehanddo [ wybodaeth a phrofiad at orchwyl fel ( hwn. I Y Rhan Gyntaf. I No. 1, rhagarweiniad offerynnol a recit (tenor), "A phan ddaeth y bobl i'r gwerhyll." Yr oedd cychwyniad y gerddorfa yn dderbyniol, ton dda gan yr offerynnau, a'u 'cres' yn effeithiol iawn. Yna daeth y tenor, Mr J. Roberts, yn wir afeilgar. Er fod y llais yn galed, ymdrechai gadw ei hunan yn gryf. Nid oedd y geiriau bob amser yn glir. Ar ol dau fesur offerynnol daeth y cor i iewn ar cydgan No. 2 yu odidog, Cyfoded Duw." Yr oedd y cor yn meddu lleisiau soniarus, yn cyfleu ton dda, a'r cydbwysiad yn foddhaol ac | unol. Yr oedd y gwahanol leisiau yn hynod o glir, ac yn yr ehedgan ar tu- dalennau 4 a 5 (Solffa) yr oedd y geiriau. "Efe a'u tawdd fel cwyr," yn effeithiol iawn, ac oddiyma i ddiwedd y cydgan yr oedd y cor a'r gerddorfa yn wir ragorol. No. 3 (recit tenor), "A'r Philistiaid o ofnasant," yn effeithiol, er y carwn gael gwell geiriad yma. No. 4, cydgan (y Philistiaid), "Daeth Duw i'r gwersyll," yn ddramayddol iawn, gan y cor a'r gerddorfa. Daeth y tenors i fewn a'u testyn ar y tudalen lleg (Solff a) yn wir gerddorol, a'r lleis- iau oil yn cymeryd eu rhannau hwy yn wir feistrolgar. No. 5 (recit, tenor), Ymgryfhewch a byddwch wyr." Car- wn gael gwell adroddiad o hon, a chredaf y gallasai y canwr hwn wneud yn rhagorach. No. 6, cydgan, A'r Philistiaid a ym- laddasant." Yr oedd hwn yn swynol, a'r rhannau tyner yn effeithiol. No. 7 (recit, tenor), "A'r Philistiaid a gymerasant Arch Duw." Yr oedd hwn yn gamoladwy iawn. Geiriau y canwr yn well a dehonglai yr amgylch- iadau yn fwy clir. No. 8, cydgan, "Mawr yw Dagon." Yr oedd y tarawiad drwy y cydgan yma yn fendigedig, tudalen yr 20fed yn brydferth, y flute yn rhagorol, a'r rhan- nau olaf o'r cydgan yn wir gerddorol gan y cor a'r gerddorfa. No. 9 (recit), A'r Asdodiaid a gyfodasant." Yn deilwng, a'r geiriau yn well ar y rhan hon gan y tenor. No. 10 (cydgan), "Beth a wnawn?" yn wir effeithiol gan y cor. Yr oedd No. 11 yn dderbyniol gan y basses, a'r tenors yn dilyn yn dda iawn, er fod ambell i nodyn caled yma ac acw. No. 12, Y Philistiaid yn cychwyn." Yr oedd hwn eto yn effeithiol, ac yn arweiniad da i mewn i No. 12a, cydgan dwbl. Yr oedd y rhifyn hwn yn nerthol iawn, a'r gynghanedd yn wir gerddorol. No. 13, cydgan, Llawenydd, Llawenydd," yn rhagorol drwyddo. Yr Ail Ran. I Y cyfansoddwr ei hun a arweiniai y rhan hon. No. 14 (recit, tenor), A Dafydd a gyfododd." Yr oedd y can- wr hwn yn gwella fel yr elai yn ei flaen, a'r gerddorfa yn neillduol yn hwn. Y cydgan No. 15, Cyfod Ar- glwydd i'th orffwysfa," yn orffennol vmhob rhan, y lleisiau yn dda, ac yn rhoddi sylw neillduol i'r cyfansoddwr. Da oedd gennym am hynny, gan fod eisiau llawer mwy o gydymdeimlad ar y cyfansoddwr nag sydd eisiau ar ein har- weinyddion. Hawdd oedd gweled fod y cyfansoddwr am afael ym mawredd y cydgan, a llwyddodd yn ei amean yng nghanol cymeradwyaeth. No. 15 (tolo tenor), Moliennwch Dduw." Deallasai Mr Roberts y gan hon yn dda, ac fe gawsom wir adrodd- iad o honi. Rhennir hi i dair rhan, a'r olaf yn- adrodd y cyntaf. Gwnaeth ei hun yma yn eglur i mi. Yr oedd yn rhagorol yn ei arddull. No. 17, choral swynol a gwir gerddor- ol, a chawsom ddadganiad teilwng. No. 18 (recit bass), "0, Arglwydd, pan yr aethost Ti." Mae llais rhagorol gan y canwr hwn, a defnyddir ef i'r fantais oreu. No. 19 (alaw bass), "Dy- hidlaist wlaw, 0 Dduw." Canai yn fendigedig, a chymeradwywyd ef gan y dorf yn frwdfrydig. No. 20 (tenor solo), "Pan roddaist y gair i fyned i'r gad." Yr oedd Mr Roberts yn dda ar y cyfan, er nad yn gartrefol iawn. Yr oedd yn well yn Rhif 2lain, a'r Aria, No. 22, eto yn dda iawn, y cydgan a'r solo yn dilyn yn effeithiol ddigon, ond cafwyd datgan- iad teilwng, a'r gerddorfa ar ei gore. Y Drydedd Rhan. No. 23 (solo soprano), Paham y sylla'r bryniau hyn." Yr oedd datgan- iad Miss Parry o'r unawd hon yn dda, er fod ambell i nodyn yn y rhan uchaf o'i llais yn grynedig. No. 24, cydgan, "Ei Enw glan o hyd ar goedd," yn swynol gan y cor a'r gerddorfa. No. 25 (soprano solo), "Angylion a cher- bydau'r nef," yn dderbyniol, er y gall- aBai y nodau uchaf fod yn fwy llawn. No. 26, cydgan (soprano ac alto), "Ond i Seion." Yr oedd hwn a'r Chorale ddilynol, Wyryfon Wragedd Israel Awn," yn brydferth iawn. Yr oedd pob rhan o'r cor yn hynod o eglur, a'r dadganiad yn orffennol. No. 28 (recit tenor), "Dyrchefaist i'r uchelderau." a'r Aria, No. 29, "Bendi- gaid fyddo'r Arglwydd." Adlewyrchai y rhai hyn glod ar M] Roberts, ond carem gyda'r Aria iddo fod ychydig yn gyflymach. No. 31 (Aria bass), "Gwel- sant hwy fy Nuw," yr oedd yr aria yn rhagorol gan y bass yn 1) flat, ac yn dilyn yn G. Yr oedd y teuor yn No. 31a yn rhagorol a swynol. Yr aria (No. 31b) gan y soprano yn dda iawn, a'r 31c, sef trio, yn ardderchog ar y geir- iau, "Swn mwy hoff a sain mwy hyfryd. No. 32, Cydgan y Lefiaid (t.t.b.b.), "Y Bobloedd a Welsant." Yr oedd y cydgan yma yn cydio. Synnem fod y Oor Meibion yn canu inor rhagorol; yr oedd yma swn y gwir gynghanedd yn nadganiad y meibion. Pedwarawd oedd yn dilyn yn dyner, a sibrydodd y cyfansoddwr ei gymeradwyaeth. No. 34 (soprano solo), "Mi welaf, etc." Yr oedd yn glir iawn o ran llais, ac yn ymgeisio yn dda am fynegiant. No. 35. cydgan. "Swn mwy hoff." Yr oedd y cor yn swynol, ac yn terfynu yn effeithiol. Y Bedwaredd Ran. 0 No. 36 (recit baritone). "Yna Solo- mon." Yn yr adrodd-gan hon yr oedd ei lais yn swynol dros ben. No. 37. cydgan, "Y m laen. Yr oedd y darlleniad yma yn gerddorol. No. 38, cydgan, "Swn mwy hoff." Yr oedd y gynghanedd yn y cydgan byr hwn yn deilwng o sylw, a cafodd hynny gan y cor a'r arweinydd. Yr oedd No. 39 (bass), "O Ar- glwydd," yn rhagorol. Talai Mr. Davies sylw neillduol i bob mynegianl yn y gan hon, a gweithiai i glimax rhagorol ar y diwedd yn foddhaol a gorffennol. No. 40 (soprano solo) Deffro, Deyrn Solomon." Yr oedd yn dda iawn, er y carem glywed mwy o ystyr yn ei chanu, ond fel yr oedd yn tynnu at y terfyn yr oedd yn gwella. Yr oedd No. 41 yn orffennol iawn, a'r Rhifyn 42, Haleliwia, Amen," yn derfyniad teilwng, ac yn cael ei ganu yn rhagorol iawn. Mae credit mawr yn ddyledus i Mr Maddock am ei wledd gerddorol; yr oedd y gerddorfa a'r accompanist yn gwneud eu gwaith yn neillduol o dda. Hyderaf y bydd y perfformiad hwn yn tynnu llawer o gorau i'w ddysgu, gan ei fod yn waith urddasol a gorffenedig. YBtalyfera. W. GEORGE, L.T.S.C. I Yatalyfera.

Aberdar a Merthyr. I

I Y Ddrama yn Nhrecynon.

Advertising

0 Wy i Dywi.I -'i

Taith i Lydaw. i

i Pontycymer. I

Advertising