Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO LE f
Advertising
W. Williams & Co. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. Sneoia /itfes l8ct GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22Ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Qsmxj hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau ilurs Oriaduron ac awrleistM. Gemau a chadwynaa otMr_ Yapectol geMydd. ln-fyn gydd, ?wreH-feaarydd, cwm w mar Geir gan WiU?s, n?y t'asteU Tro ch i mewn i wal'd ei 8^r*
Y CYNNWYS.i
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd Tud. 1 Y Tridwr. 1 Colofn Llafur 1 Nanno" 2 Beirniadaeth Eisteddfod Fforest- f ach 2 Colofn y Plant. 3 Hanes Coelbren 3 Cwrdd Dosbarth Bedyddwyr Aberdar 3 Y Geinaf o'r Celfaii 3 Llith y Gol 0' 4; Colofn y Llyfrau 4 o Bant i Bentan 5 o W y i Dywi .5 Nodion o'r Gogledd 5 Cyrnru Heddyw 5 J Colofn y Bobl Ieuainc 6 Beirniadaeth Brynfab yn Nhre- orchy 6 Eos Hafod (darlun) 7 Arholiad Ysgolion Sul (A.) 7 Y Golofn Farddol 8 Hanesion Lleol 8
Advertising
— O.S.-Os geilw'r dyn a gollodd ryw- beth gwerthfawr ar y stryd yn Aberdar nos Lun yn Swyddfa'r "Darian," c&'r hyn a gollodd.
GWLAD A SENEDD.I
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. I [Daeth y Nodiadau hyn i law yn rhy ddiweddar i'r Darian" ddiweddaf. Gol.] Er mor enbyd yr amseroedd yr ydym mewn ystyr wleidyddol yn mynd trwy- ddynt, teflir pob peth i'r cysgod gan y ddamwain alaethus yn Afon St. Lawr- ence, Canada, sef Llongddrylliad yr Empress of Ireland. Daw y stori drosodd yn dameidiau an- sicr, ac nis gwyddom ond ychydig o'r manylion hyd yn hyn. Cludai tua 778 o for-deithwyr, a hwylient tua'r wlad hon gan feddwl treulio eu Sulgwyn ar y cefnfor. Rhifai ei morwyr hefyd 413, yn gwneud cyfanrif o 1,191. Gwyddys fod dros 400 wedi eu hachub, a'n gobaith yw y ceir gwybodaeth fod mwy na hynny ar gael. Cydrhwng y lofa a'r mor, codir toll enbyd ar fywydau, ac nis gall ein llywodraethau fod yn rhy fanwl wrth chwilio i fewn i bethau. Yn 01 argoelion pethau rhaid fod yr Em- press of Ireland, neu y Storstad, Hong 16 o Norway, yn teithio gyda chyflym- der aruthrol, oblegid dywedir fod y llong a suddodd wedi ei rhwygo yn enbyd, ac wedi ei hollti yn ddwy bron. Taflwyd ceisiadau am help allan ar yr awyr trwy y peHebr di-wifrau, ond suddodd y Hong o'r golwg mewn deng munud. Yn ffodus, er hynny, llwydd- odd dwy long, y Lady Evelyn a'r Eur- eka, ddyfod i'r flan mewn pryd i achub rhai cannoedd o fywydau. Diolch am ddyfais Marconi: y mae eisoes wedi bod yn foddion achubiaeth torf o fywyd- au. Aroswn gyda diddordeb trist am I ychwaneg o newyddion. Cymerodd y digwyddiad le tua dau o'r gloch bore dydd Gwener, pan oedd y teithwyr yn eu gwelyau. Dywedir fod y rhai a achubwyd mewn cyflwr tost: yn eu dillad nos, a llawer o honynt wedi torri aelodau. Byddin Ulster a Heddwch. Dyna Fesur Ymreolaeth yn ymarferol j yn ddeddf. Y gofyniad nesaf yw Beth wna gwyr Ulster yn awr 1 Da gennym allu dweud fod arwyddion er daioni i'w canfod. Yr hyn ddywedir yw y cedwir yr heddwch nes gweled beth ddaw o'r Mesur Gwelliannol eto. Er gwaethaf y penboethiad, yr ymarferiad- au i-hyfelgar a'r gynnau, amlwg yw fod yna alluoedd cryfion ar waith ymhlith y Toriaid er llesteirio ffolineb gwyr UI- I ster. Y mae eto ddynion ymhlith ein gwrthwynebwyr sydd yn ddigon llygad- og i weled natur canlyniadau yr ergyd anffodus gyntaf. Os pery y Blaid Doriaidd i gefnogi gwrthryfel ychydig o bob! mewn un congl o'r Iwerddon, y tebygolrwydd yw y daw dydd eu gofwy hwythau yn fuan yna ni fydd unrhyw fath o sefydliad gwladol YIn Mhryden yn hollol ddiogel am wythnos. Ein gobaith a'n hyder eto yw y cystwyir y penboethiad a nodwyd hyd at ufudd- dod llawn. Yr hyn sydd yn syn yw mai Mr Bonar Law, yn ol pob hanes, ac nid Syr Edward Carson yw y rhwystr mawr ystyfnig ar ffordd sicrhau deall- twriaeth rhwng y Gwyddelod o bob plaid yn y cyfwng ddwys a pheryglus presennol. Eglurhad Mr,Lloyd George ar bethau yw fod holl ystrywiau y Tori- aid yn un darn cyson, ac mai eu hunig nod yw rhwystro deddfwriaeth werinol J' I trwy bob moddion posibl. Yn gyntaf, defnyddiant Dy yr Arglwyddi i'r per- wyl, ac wedi torri grym hwnnw cyn- hyrfant Ulster i wrthryfel. Pan welant nad yw hynny yn tycio cynllwynant i lygru y fyddin. Wedi i Mr. Asquith gymeryd at Swyddfa Rhyfel a gosod terfyn ar eu gobeithion y ffordd honno, eu cam nesaf yw dyrysu gwaith Ty y Cyffredin, a'i ddwyn i warth a diymad- ferthedd. Nid yw peth fel hyn ond rhyfysg a rhysedd dynion mewn an- obaith. Buont am flwyddi meithion yn gwneud fel y mynnent a'r werin. Ond trodd yr olwyn: hawlia'r hwn fu'n gaethwas gynt gydraddoldeb gwladol a dinesig a'i hen ormeswr. Cyflwr caled yw hwn i'n hen urddasolion ffroenuchel. Ceir meistr ar Mr Mostyn," ac "y mae J ac cystal a'i feistr." Yn nydd ei rhyddhad a'i nerth, mor bwysig a dy- munol fydd gweled y werin yn sefydlogi yn tyfu cymeriad cryf, yn arfer pwyll, ac yn cymeryd golwg eang ar bethau. Yn bennaf oil, os myn lwyddo a ffynnu yn hir yn y tir, rhaid fydd iddo eto barchu deddfau moesol a rhoddi y lie amlycaf i grefydd Crist yn ei holl fywyd. Gwelwyd gweriniaethau yn ogystal ag ymerodraethau mawrion o'r blaen ar y ddaear, ond syrthiasant yn ddeilchion. Nid cwrs natur nac am- gylchiadau chwaith sydd yn cyfrif am eu cwymp. Yn hytrach, gwyddom heddyw mai trythyllwch a llygredd eu bywydau hwy eu hunain fu yr achos o'r cwbl. Cyfiawnder a ddyrchafa genedl." Cyfiawnder hefyd a'i ceidw ar ei I thraed. Seibiant Ein Seneddwyr. Chwareuteg iddynt, haeddant ych- ydig orffwys bellach. Cawsant amser prysur, ac erys dyddiau prysur o'u blaen yn fuan eto. Y mae y Prif- weinidog yn drachtio awe lon iach Ynys Mon, ac yn chwareu golf gydag Ar- glwydd Sheffield. Tybid y talasai Mr Asquith ymweliad ag Eisteddfod Mon y Llungwyn a dydd Ma wrth, ornl yr wedi cael digon o "Eisteddfod" yn chwifio y pastwn a gyrru y bel dros y Llundain, a -well oedd i'w iechyd tir. Gartref yng Nghricieth y mae Cang- hellor y Trysorlys gyda'i deulu, ac ynghanol ei hen gyfeillion. Gofala, fel arfer, ddefnyddio ei wyliau i dcliben- ion ymarferol ac addysgol. Nid pawb all gymeryd ei wyliau tan weithio a dysgu. Talodd Mr George ymweliad ag Ysgol Amaethyddol Castell Madryn, ac archwiliodd yr holl drefniadau gan roddi tua phump awr i'r gwaith. Dat- ganodd gryn foddhad ar yr hyn a wel- odd, yn arbennig a'r llaethdy, y ceginau, y trefniadau coginio, ac adran yr adar dof. Ar ei ymadawiad cyflwynwyd iddo anrhegion o hufen ac ymenyn fel esiamplau o gynnyrch yr ysgol. Llon- gyfarchodd yr Henadur Jones Morris a Mr E. R. Davies, Cadeirydd ac Ys- grifennydd y Pwyllgor sydd yn gweith- io yr ysgol ar ran Cyngor Sir Caernar- fon. Canlynid ei fodur gan gerbyd yn cynnwys nifer o Suffragettes, ond llwyddodd i ddianc rhagddynt, ac feHy i ymweled a'r ysgol a dychwelyd adref heb i ddim annymunol ddigwydd. Treulia Mr. Winston Churchill ei wyliau yn wahanol i bawb arall: cymer i fewn ddaear, awyr a mor yn ei gylch- dro. Un diwrnod cychwynodd o Salis- bury Plain mewn awyr-gerjbyd a dis- gynodd yn Hilsea. Oddiyno aeth mewn modur i Portsmouth, ac oddiyno drachefn mordwyodd i dueddau Gog- ledd Iwerddon yn y rhyfel-long En- chantress. Anawdd fuasai cael mwy o amrywiaeth mewn teithio. Ceisia Mr McKenna a'i briod hefyd awyr bur ac adgyfnerthiad yn Nghymru fel gwesteion Arglwydd Aber- conwy yn Bodnant Hall, tra Mr Ellis J. Griffith yn ei sir ei hun yn treulio ei wyliau gyda ei gyfaill Mr T. R. Evans, Caergybi. Proffwydoliaeth Ddymunol. I Dydd Sadwrn diweddaf derbyniodd Canghellydd y Trysorlys ddirprwyaeth bwysig yn cynrychioli y rhai feddant ddiddordeb yn y fasnach lechi. Blaen- orid y cwrmii gan Mr Haydn Jones, yr Aelod Seneddol dros Sir Feirionydd. Gwelodd y fasnach hon amseroedd celyd yn ystod y ehwech neu saith mlynedd diweddaf, a thadogir llawer o hyn i drefniadau ariannol y Llywodr- aeth bresennol. Gwyddys fod yna achosion ereill yn dylanwadu. Defn- yddir priddfeini i doi yn lie llechi mewn llawer man. Dygir hefyd lawer o lechi o America i'r wlad hon. Peth syn yw y gellir cludo nwyddau dair mil o filldir- oedd dros y Weilgi yn rhatach na'u cludo gan' milldir dros reilffordd yn y wlad hon. Pa bryd y cydia y LJywod- raeth yng ngwarrau Cwmnioedd Rheil- ffyrdd Pryden .? Yn ddiddadl ynddynt hwy y ceir un o'r rhwystrau pennaf ] fasnach ein gwlad. Yr oedd attebiad Mr Lloyd George yn galonogol iawn. Dywedai fod yn mwriad y Llywodraeth ymdaflu i'r gwaith o gael tai cyfaddas i'r bobl fyw ynddlynt, ac y gellir disgwyl am ddylif o lwyddant ar y gwaith o adeiladu o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf. Tystiai ei fod wedi gwneuthur ym- chwiliad manwl i'r iselder masnachol presennol ymhlith chwarelwyr nid am mai efe oedd yr aelod dros Gaernarfon, ond fod rhai pobl yn tadogi iddo ef yr holl ddrygau oddiwrth y rhai y dioddefa dynoliaeth er pan ddaeth efe i'r byd. Daliai nad oecia a fyno deddfwriaeth Ryddfrydig a'r iselder o gwbl. Cyng- horai chwarelwyr Cymreig i hysbysu mwy ar eu nwyddau ac i'w dwyn l sylw j y wlad gan ddangos eu rhagoriaeth. Hyd yn hyn y mae y Canghellor wedi bod yn hynod ffodus yn ei brophwydol- iaethau, oblegid deuant i ben yn gryno j ac yn daclus fel rheol. Yn yr achos presennol bydd ganddo un fantais ar- 'I bennig: os dychwelir y Rhyddfrydwyr i awdurdod am dymor pellach bydd gan ein cydwladwr lawer i'w wneud i syl- ¡ weddoli a chyflawni ei addewidion ei I hun.
I Y Tridwr.
I Y Tridwr. I Eisteddfod Caerffili. Mae'r Eisteddfod hon bellach yn gyfran bwysig yngwyliau y Sulgwyn yn y cyffiniau hyn. Tynn ymwelwyr a chystadleuwyr o bell ac agos. Eleni ni fu'n nol yn ei dylanwad atyniadol. Mae'r rhaglen bob amser yn llawn am- rywiaeth, ac o safon uchel, yn arben- nig yr adran gerddorol, ac nid oes achwyn ar y testynau barddol a'r adroddiadau chwaith. Ond mae cryn achwyn ar ei &isnigeiddrwydd, ac nid heb achos. Mae'r rhaglen o ben i ben ym meddiant yr iaith fain, pan ddylai fod yn Gymraeg. Geilw henafiaeth y dref a'r Castell, hen gartref y delyn, am ivyhatch i Gy>u,rn. Yr wyf yn <v Sy Eisteddfodau Cymreig hollol yng Nghaerffili. Felly y cafwyd hi o ddwy.. lo'r tadau gwladgar a iaithgar yr ardal- oedd hyn. Nid prinder Cymry sydd yma eto, ond yn hytrach ddiffyg ystyr- iaeth wladgarol. Dywed hen ddihareb Nes penelin na garddwrn." Ond yn ol agweddau y rhaglen bresennol—an- wylach a gwerthfawrocach iaith y Sais na iaith y Cymro hyd yn oed yn ei bro ei hun. 0 !'r fath waseiddiwch plentyn- aidd, tra'n gwybod ar yr un pryd fod i'n hiaith a'n llenyddiaeth fonedd a gwerth cyfartal i iaith unrhyw genedl. Credwn y mwynhai'r Sais teg yr Eis- teddfod yn well yn y Gymraeg ar gyfrif hynodrwydd iaith yr hen wlad a'r Eis- teddfod, ac os am roddi rhyw hwylus- dod i'r Sais, beth sydd yn lluddias cael y rhaglen yn y ddwy iaith, gan roddi'r flaenoriaeth wrth gwrs hyd y mae yn ymarferol i'r Gymraeg? Mae J. D. Hughes yn ysgrifennydd mor Gymreig- aidd ei dafod a'i galon a'r bryniau gylchynant yr hen dref; a sain y delyn a'r hen alawon telynegol Cymreig megis yn yr awel ac ynghof ami drig- iannydd sydd eto heb ddistewi. Mae Caerffili wedi eodi mwy o delynwyr nag un lie arall y gwyddys am dano, yn ol, Mr John Thomas, Pencerdd Gwalia, yn Ffair y Byd. Yng Nghaerffili y cododd Llewelyn Williams, Pen Cerdd y De, dynnodd "iaith enaid o'i thannau" fel y cynghaneddodd Gwilym Elian iddo-ef a'r delyn. A dyma fy adnod innau heddyw mewn hiraeth am ei dychwel- iad: Hen ardalau'r delyn-hoff, fu hwylus Fro Caerffili ddillyn; Mae awen a'i serch yma'n syn Am ddawns dant lloniant ei llinyn. Arwydd o annheyrngarwch yw fod addysg Cymru yn esgeuluso ceinion ein cenedl; ond diau gennyf y gwelir Eis- teddfod Caerffili eto yn rhoddi lie amlyeaeh i'r Gymraeg, a'r hen delyn, a chanu penillion, a'r awdl, a'r cywydd— hen ddulliau arbennig y bardd a'r cerddor yn y dyddiau gynt. Cyfarfod Pregethu. Yn Nazareth, M.C., Abertridwr, Sul- gwyn, y cenhadon oedd yr Hybarch Wii). Jones, Llansamlet, y gweddiwr mawr fel ei gelwir, a phregethodd yn rhagorol, a'r Parch. John Green, Twr- gwyn, 'y naill yn 74 oed a'r llall yn ari- terth ei nerth. Gyda phriodoldeb y gellir galw Mr. Green yn Lloyd George y pwlpud. GiNyn fyd y gynulleidfa a'i gwrendy yn fynych. DEWI AUR.
[No title]
Nos Sadwrn diweddaf, yn Nhrehafod, bu farw Mr Thomas J. Jenkins (Llew Hafod). Bu am flynyddoedd yn ar- weinydd yn Siloam, Trehafod, a chy- merasai ran flaenllaw yn, nhrefniant y Cymanfaoedd Canu ym Mhohtypridd.
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Gwyliau y Llafurwyr. Bu wythnos y Sulgwyn yn nodedig iawn am gyfarfodydd mawrion Jblyn- yddol yr Undebau Llafur. Yr oedd y newyddiaduron hefyd, fel ar eu heithaf yn cystadlu mewn rhoddi yr hanes am y llawnaf. Calonogol iawn yw yr hanes o bob cyfeiriad am lwyddiant yr holl undebau. Oddiwrth yr adroddia'dau gwelir yn eglur fod meddwl goleuedig a barn addfed wedi eu hymarfer mewn ymdriniaeth ar y gwahanol bynciau fu dan sylw. Cyngrair y Tri Undeb. Un o'r cyfarfodydd mwyaf pwysig efallai oedd y cyfarfod o bwyllgorau gweithiol y tri undeb mawr—y glo- wyr, gweithwyr y relwes, a'r cludwyr (transport workers). Cyfarfu y rhai hyn i ystyried y trefniadau a gynhygir er cael cyd-ddealltwriaeth a chydweith- rediad rhyngddynt a'u gilydd pan fygythir un neu'r llall o honynt gan y meistri. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Robert Smillie-Llywydd Undeb y Glowyr-a pharhaodd yr ymdriniaeth am bedair awr. Nr y diwedd paratodd y Llywydd adroddiad swyddogol i'w rodci i'r Wasg, yr hwn oedd fel y can- lyn Cynhaliwyd y gynhadledd yn unol a phenderfyniad y cyfarfod mawr blaanorol. Cawd adroddiad oddiwrth y pwyllgor a benodwyd i dynnu allan gwrs o reolau a threfniadau. Derbyn- iwyd y rheolau bron yn unfrydol, a plenderfynwyd fod y cyfryw i'w gosod o flaen cyfarfod mawr o'r holl undebau eysylltiedig i'w cadarnhau." Trefnir yn y rheolau, fod cydweithrediad llwyr j fod rhwng yr undebau ar gwestiyn- Bau mawrion cenedlaethol, a materion ,,ivj-eill hanfodol i lwyddiant. Undefcau Liafur. Penodir pwyllgor cynrychiol- iadol o'r tri undeb i ymdrin a'r manyl- ion, a. bydd gallu ganddynt pan fydd angen i alw cyfarfod unol cyffredinol er penderfynu gweithrediad cenedlaethol. Y mae y pwyllgor hwn i'w gyfansoddi o Lywydd ac Ysgrifennydd pob un o'r tri undeb. Nifer y gweithwyr a gyn- rychiolir yn y tri undeb yma yw 800,000 o lowyr. 300,000 gweithwyr relwes-, a 250,000 o gludwyr. Streic Adeiladwyr Llundain. I Parhau yn eu hystyfnigrwydd y mae Meistri Adeiladu Llundain o hyd i ofyn telerau annheg oddiar law y gweithwyr gyda'r canlyniad fod y gwaith o adeil- adu wedi sefyll bron yn gyfangwbl. Mewn awydd mawr am gael eu hadeilad bwriadedig wedi ei godi a'i gwblhau, y mae y Theosophists, a arweinir gan y foneddiges nodedig, Mrs Annie Besant, wedi dod i ddealltwriaeth gydag un- debau'r adeiladwyr, eu bod hwy, sef y gweithwyr undebol, yn ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o wneyd y gwaith yn union- gyrchol heb gyfryngwriaeth y con- tractor neu y dyn canol. Y mae hwn yn gam pwysig iawn, ac yn ddiameu y bydd yn brawf ar onestrwydd a di- lysrwydd y gweithiwr Prydeinig pan osodir cyfrifoldeb o'r natur hyn arno. Y mae yr achos hwn wedi taro y byd gweithfaol a syndod diddorol iawn, a disgwylir yn bryderus y canlyniadau. Gofoeithio y saif y gweithwyr y prawf yn dilwgr ac anrhydeddus. Y swm fwriedir wario ar yr adeilad yw £ 100,040. Gweithwyr y Dociau yn Abertawe. I Abertawe oedd cynhullfan Undeb Gweithwyr y Dociau, etc., i'w cymanfa dair-blynyddol, pan oedd cynrychiol- wyr o bob parth o'r wlad yn bresennol. Yn ei adroddiad i'r cyfarfod dywedodd Mr Ben Tillett fod cannoedd o filoedd o aelodau newyddion wedi ymuno a'r .undeb yn ystod y dwy flynedd ddi- weddaf, ac yr oeddynt wedi bod yn llwyddiannus i gael miloedd o bun- noedd yn ychwanegiad at huriau y gweithwyr. Yr oedd y llwyddiant ymhob ystyr wedi bod y tuhwnt fr hyn oedd wedi ddisgwyl. Barnwyr Cyfiawn. I Awgrymodd Mr Ben Tillett i'r gyn- hadledd y priodoldeb o basio pender- fyniad yn gofyn am appwyntiad barn- wyr cyfreithiol cymwys i eistedd ar feinciau barnol mewn llysoedd Ile yr oedd achosion gweithfaol yn cael eu hystyried. Fel yr oedd pethau yn bresennol, yr oedd barnwyr hollol anghyfarwydd ag amgylchiadau gweith- faol, yn eistedd mewn barn ar achosion oeddynt yn effeithio yn fawr ar fywyd- au miloedd o weithwyr. Yr oedd hyn yn niweidiol iawn i undebiaeth lafurol ac i weithwyr yn neilltuol. Dylai pab barnwr fod yn gyfarwydd i raddau mawr iawn ag amgylchiadau neilltuol bywyd y gweithwyr y mae yn eistedd mewn barn arnynt. Cydymdeimlad. I Cydymdeimlwii yn fawr a'r gwron Mr P. D. Rees, prawf-jiwyswr Glofa y Grovesend, Gorseinon, ar y gosbedig- aeth a osodowyd arno gac Ustusiaid y Sir yn Abertawe. Beiddiwn ddweyd fod amgylchiadau yr achos hwn yn profi yn eglur nad oedd y barnwyr hyn yn eu deall, ac nad oedd ganddynt y cydym- deimlad lleiaf a safbwynt y ddiffynydd. Nis gallwn gredu y ca Mr Rees fod yn y golled o'r ddirwy o bump punt a ofyn- wyd oddiwrtho, ac na oddefir iddo fod yn hir allan o waith, am ei ddewrder dros ei gydweithwyr. Weithwyr Gor- seinon, amddiffynnwch Mr P. D. Rees. Y mae ei hanes fel gwron llafur yn deil- wng o gydnabyddiaeth, ac yn brawf é fod bob amser wedi bod yn ym!.i«i('wr diofn a di-ildio dros iawnderau y gweithwyr. Archwilwyr Glofaol. Y mae yn dda gennym weled fod y dosbarthiadau glofaol yn parhau i ben- odi personau neilltuol i fod yn "pit examiners" ac yn "minimum wage agents" ar eu rhan. Gwelwn fod Glowyr Abertridwr a Senghenydd yn rhoddi hysbysiad allan yn gofyn am geisiadau am y swydd. Y maent yn gofyn cymwysterau neilltuol, ac yn cyn- nyg tal anrhydeddus am y gwaith. I Glowyr Merthyr. Y mae gweithwyr Dosbarth Merthyr hefyd wedi penderfynu drwy fwyafr-f sylweddoli i bennodi dyn i wylied ei buddiannau yn y cyfeiriad yma. Y mae yn galonogol iawn i feddwl fod gennym lluaws o weithwyr ieuainc yn ein glo-- feydd sydd wedi diwyllio eu hunam mewn gwyddoniaeth gelfyddydol a chymdeithasol fel ag i fod yn berffaifh gyfaddas i ymgymeryd a safleoedd o'r natur hyn. Streic y Bargoed. I Tefoygol y daw yr annealltwriaeth ynghylch cwestiwn y lampau i ben yr wythnos hon yn y lie uchod. Cyhoedd- wyd gan y Cwmni dydd Sadwrn fod 1,250 o lusernau trydanol newydd yn barod at wasanaeth y gweithwyr. Y mae pob argoelion y dechreuir gweithio I tua dydd Mercher nesaf. Llongyfarch- wn y gweithwyr ar eu llwyddiant yn y mater hwn. ———— » I
Nodion o Aberafan a'r Cylch.
Nodion o Aberafan a'r Cylch. Cynhaliwd cylch-wyl flynyddol Ysgol- ion Sabothol y dref hon a'r cyffiniau ar y Llungwyn, pan y gorymdeithiwyd trwy yr ystrydoedd dan ganu tonau Seion, yn cael ein blaenori gan arwein- wyr y gwahanol fsgolion. Aethpwyd i ganolfan yn nghanol y dref, pan yr areithiwyd i dorf fawr gan y Parch. Badham, gweinidog ieuanc ymroddgar Forward Movement y Methodistiaid, a chanwyd Marchog Iesu yn llwyddian- nus," a rhai tonau Seisnig, gan y dorf o dan arweiniad Mr J. Phillips, arwein- ydd Capel y Wern. Trodd y cyfan allan yn ardderchog. Cofier mai yr Anghydffurfwyr oedd yma yn cyfansoddi y dorf enfawr, ond trodd y Fam Eglwys allan yn llu baner- og, a'u cyfeiriad tua Baglan, yn cael eu harwain gan Seindorf. Yn wir, yr oedd golwg ragorol arni. Gobeith- iwn y don't i adnabod eu cymydogion yn well, pan gant Ddatgysylltiad llwyr oddiwrth y Wladwriaeth. Trodd Ysgolion y Bryn allan dydd Mercher ar ol Llungwyn, a gorymdeith- iwyd trwy y lie, a chawsant wyl ragorol. Ond yr orymdaith fwyaf ardderchog oedd gan y Pabyddion dydd Iau ar ol Llungwyn, yn nhref Aberafon. Son am ffyddlondeb, dyma hwynt, y maent yn esiampl i ni yn hyn. Yr oedd yma Seindyrf godidog yn blaenori yr orym- daith, ac yr oedd yma gannoedd wedi ymgynnull o wahanol fannau er dangos I eu nerth a'u ffyddlondeb i'r egwyddor- ion Pabyddol. Daethant yma o Beny- bont, Maesteg, Briton Ferry, a Ileoedd ereill. Bydd yn rhaid i ni ddihuno at ein dyledswyddau, a pheidio naesu dwylaw, onide fe fyn Pabyddiaeth eto ei ffordd, a gwae y dydd pan y gwelir Prydain Fawr eto o dan ddwylaw hae- arnaidd Babylon. Bu farw'n sydyn dydd Mercher di- weddaf Mr Wm. Jones, fireman yn Mhwll y Bryn. Claddwyd ef dydd Sadwrn ym Myn?ntP.ntrhy? yng nghanol hiraeth dwys ei gydweith- wyr. Yr oedd yn t?raw?u .= a gair da iddo gan bawb. oedd ei gydswyddogion yn dorf I?o? sog yn yr angladd. Dyddlaudiweddaf pany?e? gyda'j briod yng ghwmafoD, syrth- iodd y brawd a'r cyf¡till ffyddion, Mr. jodd y brawd ar cj|f. J™ffyIidlon, Mr. W Richards, masnachydd,  yr heol. Creodd y newya ;yyndod dir- fawr trwy y lie, gan fod Mr Richards iuor adnabyddus- rr oeuu frawd i'r diweddar Barch. Henry Richards (Y Bachgen Dall), Merafon, a chyn-Faer y Gorfforaeth. Ceir manylion pellach eto. MAB Y MYN YDD.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID AM ? ??' Esgeulusdod o unrhyw ■,w*i Eagouluadod 0 unrhyw nlwed I rhal "yn drwy ddaMWf" "t.?x Kf,yd ?? athe" Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth  Er mwyn yogol P«ryfl rhold Ywarfw mewnp?'' 'DOES DIM Mopt LLWYODIANUD A glicit A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn #»•' .i gydnabod '??'?!. ?.?'7'?''?'?? ? a diozol 2 ddargsnfyddwyd e?toed *t Clwyfau, Avehollion, Tardd- lantau y Cnawd. Eczema, Craoh a Nldd M h e n a u Plant, Liosgiad. au, VIsal. danay, S Ð U r v y, I L I u I r all Plant I Benywod a Babanod, JL C o u t Cymala? Tarwden, Poenus, RhlSSnit. Bo!? lcs, Poon Yr oadd pan fl Mifo- Cefn, PttM. tyn mewn .tat ecrl.loa. Hynod • Gwellhaodd GOI?Ar's Bain eneUhlor hi yn bur faM. at CL WYFAU ar COESAU. Miloedd yn tystfo Effe/thlau Rhyfedtlol. RHODDWCH BRAWF ARNO Gwell had sydd s/or Ar wer h gan bob ??"? Storee  1/1?. Gofyner am Com,r" Bllm. K" wch weled enw JaMt Hy.h' M bo?t blwch. Heb bynnidyw Owu. Now danfoner ei gwertb (P.O.  at Jacob Hughes, blanufasturing Chm. 1st, M.P.S., L.O.S., ponarthg CardIN. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himseif. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tiren prynwyr ytna ac yn 01 on iddynt enwi TABIAN Y GWBITBIWBo