Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. I DAN OLYGIAETH MOELONA. I I Dyma tri llythyr dderbyniwyd. Y I .cyntaf yw y buddugol. Barnwyd yn well peidio rhoi enwau a chyfeiriadau ysgrifenwyr y ddau arall. Cywirwyd y gwallau orgraffyddol. Da geimym gael II colofn gyfan o waith y plant eu hunain. Braeside, Stuart Street, (15 oed.) Aberdar, Mai 21ain, 1914. Annwyl Ceinwen,— Yn ol fy addewid i chwi yn fy llythyr diweddaf, yr wyf yn ysgrifennu heddyw er rhoddi yr hanes pa fodd y mae y Sul yn cael ei dreulio gan drigolion Aber- dar. Gwaith anawdd fyddai manylu ar y dull y treulia yr amrywiol bobl sydd yma, eu Suliau. Y mae yr Eidal- I iaid wedi dod ag arferiad i fewn i'n gwlad sydd wedi niweidio llawer ar foesau y Cymry, sef eu gwaith yn agor .eu siopau ar y Sul, a gwelir yma dorf o bobl ieuainc yn prynu yno, a dywedir fod y gymdeithas sydd oddifewn i'r siopau yn arwain i lawer o ddrygau. Arferiad arall sydd yn gyffredin iawn yw chwareu cardiau ar ael y bryniau sydd o gwmpas yma. Wrth gwrs y mae yma dyrfaoedd, yn wyr, gwragedd, a phlanu, yn treulio prydnawn y Sul, ar dywydd braf, fel yn awr, yn y Pare, ac y mae yr arferiad yma yn effeithio ar y cynulliadau yn addoldai y cylch. Er fod mwyafrif mawr y bojblogaeth yn treulio eu Suliau mewn plesera ac ar- ferion drwg, da gennyf ddweyd fod yma dorf o bobl dda i'w cael, sydd yn ym- drechu cadw y Sabath fel y dylid. Mi fyddaf fi yn myned i'r oedfa bore, Ysgol SuI y prynhawn, a'r oedfa'r hwyr. Felly y cefais i fy nysgu erioed pan yn byw yn Sir Aberteifi, ac nid wyf yn meddwl newid yr arferiad mwyach. Gobeitha eich bod chwithau am wneyd yr un fath yn Llundain. Terfynaf yn awr. Cofion anwylaf attoch. Eich Cyfeilles, DOROTHY EVANS. Ferndale. Anwyl Ffrind,— Gan mor ymchwilgar ydych am gym- hariaethau gwn y carech gael ychydig o hanes sut y treuliwn y Sul yn y lie poblog hwn, er mwyn ei gymharu a Phrif Ddinas y byd. Y peth cyntaf i dorri ar ddistawrwydd santaidd y dydd ydyw twrw'r gerbydres yn dyfod i mewn a llythyrrau lu, gwahanol eu cynwys, a newyddiaduron ag hanes y byd a'r Bettws. Wedi hyny bydd yn bryd i'r Pabyddion beichus eu pechodau fyned i'r Mass, pan fydd y Tad Morgan, yn groes i athrawiaeth yr Apostol Pedr, yn gwerthu maddeuant yn ol pris y farch- nad. Wedi hyny bydd clychau Eglwysi Harri yn galw ar yr aelodau i'r addol- iad, a dyna yr amser y bydd yr Ymneill- duwyr yn myned i'w Capelau i gyflwyno eu boreuol aberth. Ond sylweh, dim ond y gwr, a rhai o'r plant, fel rheol, fydd yn yr addoliad; bydd y wraig a'r mercheft fydd yn gallu gweithio yn aros gartref, dyna'r amser y bydd y cinio yn cael ei barotoi, ac nid eithriad fydd gweled merched i swyddogion eglwysig yn golchi'r palmant, glanhau pob rhan o bres fydd yn perthyn i'r drws, pan fydd ereill yn myned i'r gwasanaeth. Pwy amheua fodolaeth ysbryd caeth- wasiaeth? Bydd yma ganoedd hefyd, y rhai sydd yn gaeth i flys y fasnach feddwol, yn myned o 12 i 1 i'r Clybiau Cwrw, ac yn dyfod adref iginiaw wedi .dechreu dyrysu eu synwyrau. Sut mae deall deddf "Cau y Tafarnau ar y Sul yng Nghymru," pan mae rhai o'r Clyb- iau yma yn gwerthu mwy o gwrw ar y Sul nag un diwrnod arall. Ar ol ciniaw bydd llawer yn myned i'r Ysgol Sul; mwy yn myned i rodiana os bydd y tywydd yn ffafriol, a dyna'r amser y bydd llawer yn codi o'u gwely, a llu mawr yn myned iddo. Dyma'r amser y bydd yr Eidalwyr yn noddi bech- gyn o 14 i 20 oed rhag myned i'r Ysgol Sul yn eu masnachdai annuwiol. Ond ;am chwech o'r gloch bydd y lie i gyd, y boreu godwyr a'r diweddar godwyr, y gweithwyr cartrefol, y teuluoedd yn gyfan yn troi allan, rhai i'r gwasanaeth crefyddol, ereill i'r Clybiau Cwrw, ereill i rodiana, ac ereill gyda'r cars a'r ger- 'bydres. Dyna yn fyr fel mae y Sul yn ,cael ei dreulio yma gyda ni. Yr eiddoch yn gariadus. S. Mountain Ash, Mai 20fed, 1914. Anwyl Gyfaill,— Yr ydwyf yn cymeryd y pleser mwyaf i anfon atoch unwaith eto yn 4muno eich bod yn yr iechyd goreu, fel yr ydwyf fi yn awr. Gofynasoch chwi i fi y tro diweddaf ysgrifenasoch i ddar- lunio ein Sabath i chwi. Yr wyf yn cymeryd y pleser mawr i ysgrifenu ar y testyn yna. Y mae llawer iawn o bethau yn cy- meryd lie yma, ond yr wyf'yn credu nad ydyw fel dydd Sul yn Llundain. Yn y boreu, amser awn ni allan, cawn weled rhai pobl ar hyd y lie, rhai yn aros yn erbyn y muriau, rhai yn cerdded ar hyd y lie, rhai yn myned i Glwbau Sul i yfed cwrw, a che.wch weled un fan hyn a un fan acw yn myned i foli Duw y mae y mwyafrif ar hyd y lie. neu yn y ty, rhai yn dost wedi bod yn yfed cwrw nos Sadwrn cynt. Canol dydd y mae llawer mwy o bobl ar hyd lie, y mae gwyr y tai cwrddau, ,a'r eglwysi wedi dod allan, a rhagor wedi dod allan o'i tai, os bydd hi yn sych. Cewch glywed llawer o regfeydd yma ar ddydd Sul. Yn yr hwyr y mae llawer iawn o bobl yn y brif ystryd. Nid oes un fath o chwareuaeth yn cymeryd lie yma ar y Sul, ac nid oes un tafarn ar agor; dyna rhai pethau da, ond yr wyf wedi clywed for chwareuaeth yn cymeryd lie gyda chwi yna. Y mae rhai siopau melusion ar agor yma, lie y mae llawer iawn o boJbl ieuainc yn myned yn lie myned i'r cwrdd. Y mae llawer o ddynion yma ddim yn aelodau yn un capel nac eglwys. Nid oes llawer yma yn y boreu; y mae llawer sedd yn wag, ond y mae llawer mwy yn y prynhawn ac yn yr hwyr. Fel y mae yr amser yn myn- ed yn mlaen y mae yr aelodau yn myn- ed yn llai ac yn llai. Y mae y Fyddin Iachawdwriaeth yn cadw cwrddau ar pen yr ystrydoedd yma. Yr wyf fi fy hunan yn myned i'r cwrdd yn y boreu ac i'r ysgol yn y prynhawn, ac yn yr hwyr yr wyf yn myned i'r cwrdd. Dyma beth o hanes y Sabath i chwi, ac yr wyf yn erfyn arnoch chwi i roi hanes eich Sabath i fi. Gofiwch anfon yn ol yn gloi. Yr ydwyf, I Eich cyfaill goreu. T. Oedran 15. T.

Hanes Coelbren. I I

Advertising

Cwrdd Dosbarth Bedydd.I wyr…

Y Geinaf o'r Celfau. -I ,

166 SARZINE " BLOOD MIXTURE

; Nodion o Mountain Ash.:…

Advertising