Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Eos Hafod. I i -_w..-.......f
Eos Hafod. -_w. Sicr gennyf y bydd yn dda gan liaws ddarllenwyr y "Darian" gael darlun o Eos Hafod. Fu neb yn I ffyddlonach i golofnau'r "Darian" na'r Eos yn ei Nodion Mm y Ffordd. Cad- wodd ddiddordeb byw Cwm Rhondda yn ei phobl a'i phethau. Sicr hefyd fod ein cyd-ymdeimlad ag ef yn ei lesgedd a'i afiechyd presennol yn wresog a llwyr. Un o blant Cwm Rhondda yw Eos Hafod, yn "Son of the Soil," wedi ei eni yn y Gyfeillion, rhwng yr Hafod a Phontypridd tros dri ugain o flwyddi ,yn ol, pan yr oedd yr hen gwm yn hardd a chyn suddo'r pyllau glo, a chodi "tips rwbesh i anharddu ei wyneb glan. Gwir fod glofeydd y Cvmer, Gyfeillion, a'r Ddinas wedi eu hagor, ond rhagarweiniad megis oedd hynny i gyfrol fawr hanes datblygiad glofaol a chymdeithasol y Cwm. Prin iawn fu cyfleusderau addysg yr Eos, oblegid cawn ef yn dechreu gweithio rhwng y deg ar deuddeg oed yng nglofa'r Gyfeillion tan arolygiaeth Edward Plummer, wedi hynny o'r Glyncorrwg. Ond er iddo orfod cym- eryd ei le fel crotyn yng ngwaith glo'r gymdogaeth, ni chollodd flas a'r bennill a chân, doniau diamheuol oedd gynhenid ynddo. Nid un o blant yr un dalent yw Eos Hafod. Y mae wedi profi ei hun yn ganwr, cerddor, lienor, a bardd, y ddawn gyntaf ddaeth i'r golwg oedd ei ddawn i ganu; dyna pam y gelwid ef yn Eos. Datblygodd y gallu i ganu yn gynnar. Yr oedd yn feddiannol ar lais tenor pur a soniarus; er nad yn gryf yr oedd ei lais yn glir a glan bob amser. Clywais ef yn canu droion alawon a baledau syml ei wlad, megis "Y Ferch o'r Seer," Dacw'r Bwthyn gwyn y'm ganwyd," a chan o'i gyfansoddiad ei hunan, "Mi fynnaf wraig fy hun." Cyhoeddodd yr Eos y gan olaf a chanodd hi mewn Eis- teddfod yn y Coity, Bro Morgannwg, a bu bron gwerthu allan yr argraffiad cyntaf yn yr Eisteddfod honno. Pan yn ieuanc cymerai ddiddordeb mawr yng nghyfarfodydd llenyddol ei ardal, a gwasanaethai gyda pharod- rwydd ymhob un o honynt, ac yn yr Hen Siloam, Gyfeillion, ffyddlon iawn ydoedd i holl ofynion y ty. Er cefnog- aeth a chalondid iddo cynhaliwyd cyngerdd yn yr Hen Gapel, yn yr hon y gwasanaethai Eos arall fu yn gwefreiddio cynulliadau Cymru, sef Eos Morlais, ac fel cyfeilydd caed gwasanaeth y diymhongar Ddafydd Bowen o Ddowlais. Gwasanaethai ereill yn y gyngerdd ynghyd ag Eos Hafod ei hunan. Llanwyd y capel a chyflwynwyd iddo yr elw clir o £ 30. Bu hyn yn gryn gymorth i'n gwrth- rych, a chawn ef yn fuan ar 01 hyn yn Y sgoI "McLucas" yn y Bont, ysgol enwog y dyddiau hynny. Bu yma am fisoedd yn gosod i lawr syl- feini ei ddyfodol. Astudiodd rifyddeg, gramadeg, a llenyddiaeth gyffredinol, a gadawodd yr ysgol hon ei hol yn drwm arno. Datblygodd y chwaeth o ddarllen, a thrwy hynny y gallu i ys- grifennu yn Gymraeg a Saesneg. Ymroddodd hefyd yn llwyrach at astudio cerddoriaeth, a'i gynorthwyon pennaf yn y cyfeiriad hwn oedd Gramadeg Alawydd ac hyfforddiant personol Alaw Ddu, gwr ag y mae Cymry yn ei anghofio yn llawer rhy gynnar. Dan ddylanwad Alaw Ddu dechreuodd yr Eos gyfansoddi cerdd- oriaeth, a chyhoeddwyd anthem o'i eiddo yn gynnar yn "Y Cerddor Cym- reig," dan olygiaeth Ieuan Gwyllt. Ac y mae wedi parhau i gyfansoddi o hynny hyd yn awr. Darnau i blant droir allan ganddo gan mwyafrif y dyddiau hyn. Darn tlws iawn o'i eiddo yn y pedwarawd, "Bedd y Dyn Tylawd," ar eiriau loan Emlyn; wobrwvwyd hefyd mewn Eisteddfod yn yr Hafod. Fel bardd a llenor y mae yr Eos yn wir adnabyddus i ddar- Uenwyr v Darian," yn ei delynegion syml a chwaethus ar destynau natur, megis adar, blodau, coedydd, etc. (iwasanaethodd lawer fel beirniad cerddorol a llenyddol. Cawsom y pleser o gyd-feirniadu ag ef droion, ac yr oedd bob amser yn annibynnol, clir, a phendant yn ei feirniadaethau. Wedi bod o hono yn yr ysgol yn y Bont ni weithiodd ragor dan y ddaear, ond llanwodd y swydd o "signal- man ar linell y Taf, yn gyntaf yn Llwyncelyn rhwng y Porth a'r Hafod, ac yna yn y Gelli a Bodringallt. Yna daeth yn "attendance officer" dan Fwrdd Addysg Ystradyfodwg. Apwyntiwyd ef i'r swydd hon ddeu- ddeg ar hugain o flynyddoedd yn ol, a chyflawnodd hi er boddlonrwydd i'r Bwrdd Addysg a'r bobl yn gyffredinol, ac nid gwaith hawdd iawn yw hynny. Ond bu lledneisrwydd ac elfen dyner yr Eos yn help mawr iddo. Nid yn ami y dygai yr Eos neb o flaen yr ynadon am fethu o honynt anfon eu plant i'r ysgolion. Cis beth ganddo oedd hynny, eto i gyd deallwn fod ffigyrrau presenoldeb dosbarth yr Ystrad yn ffafriol iawn o'i cymharu a dosbarthiadau ereill y cylch. Gofod a ballai i mi fanylu ar bob pwynt ym mywyd Eos Hafod, ond teg yw nodi o dan y cwbl i gyd y mae yn gorwedd gymeriad pur a dynoliaeth drylwyr. Ni chaed ynddo erioed gysgod dichell na brad, ond bob amser, fel y gwelir yn ei "Nodion Min y Ffordd," v dvmuniadau cynnes hynny am y goreu a'r puraf i bawb o'i gydnabod. Gobeithio y caiff yr Eos adferiad buan, ac y cawn y pleser o'i gyfarfod ar ystrydoedd yr Ystrad yma, ac y caiff lliaws darllenwyr y "Darian" fwynhau ffrwyth ei ysgrifell am flyn- yddoedd eto. Brawd i'r Eos yw yr awengar Taw- enog Yorath, goruchwyliwr glofaol yng nglofa'r Cymer, Porth. Brawd iddo hefyd oedd y diweddar Lewis Lewis, cyn-weinidog y Methodistiaid yn Llwvnvpia, un o'r telynau a dorwyd yn gynnar, ac a gladdwyd yn naear gysegredig Siloam, Gyfeillion. Yn y fangre honno hefyd y claddodd chwaer a mam oedrannus. Erbyn hyn y mae yr Eos yn unig iawn, a phan yn medd- wl am dano daeth i'm c6f benillion Alun i'r "Eos," a gobeithio y caiff Eos Hafod flas ar y syniadau sydd ynddynt:— "Pan guddia nos ein daear gu 0 dan y du adenydd, Y clywir ei delori mwyn, A chor y llwyn yn llonydd; Ac os bydd pigyn dan ei fron Yn peri i'w galon guro, Ni wnai nes torro'r wawrddydd hael, Ond canu a gadael iddo. Er dichon fod ei galon wan Yn delwi dan y dulid, Ni chwyna i flino'i anwyl rai- Ei wen a guddia'i ofid; Ni pheidiai gan drwy ddu-nos faith Nes gweled gobaith goleu Yn twynnu megis llygad aur, Trwy bur amrantau'r boreu." B. D Ton, Ystrad. B.D.
Mawrth Gwyn yn Rhymni.
Mawrth Gwyn yn Rhymni. Rhyfedd o resynus oedd yr olygfa yma eleni, o'i chymharu a'r hyn arferai fod er ys pymtheg mlynedd. Er fod natur yn ei holl agweddau yn estyn ei swynion cysurol i'n diddannu, yr oedd rhywbeth er cymait ei dylanwad, hi, yn eisiau. Mae colli gwyneb gwyn Eisteddfod Gwent yn peri hiraeth dwys i lawer- oedd, hoblaw y gwir Eisteddfodwyr. Nid oedd yma ddylanwad cartrefol eleni, ac mewn canlynlad elai'r bobl ar grwydr. Aeth llu o honom yng nghwmni Cor Gwent i Eisteddfod Treorchy mewn gobaith cyfarfod yno a chorau enwog y Porth a Phontypridd. ond er ein siom ni ddaethant i'r ymgyrch—ofnasant y frwydr. Felly nid oedd eisiau i'n cor roddi datganiad uwchraddol teilwng o'i enwogrwydd boddhau y beirniad, a'r dorf, a theulyngu'r wobr o zC70 a medal. aur yn unig oedd yn eisiau, a llwydd- odd. Crach feirniaid cartrefol yn unig oedd yn anfoddlon. Ceir y dosbarth hwn yn canlyn y cor bob amser, ac yn aflonyddu ar ein hysbrydoedd. Cyng- horem y cyfryw i aros gartref o hyn allan rhag bod yn destyn gwawd i ddi- eithriaid, megis yr oeddent ar ystryt- oedd Treorchy. Bydd Cor Gwent ar ei oreu o hyn allan yn parotoi i Eisteddfod Bangor. Mae Mr Owen yn ei hwyliau gored, yn penderfynu mynd ymlaen trwy ddwr a than.—Meillionydd.
1Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr…
Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr I Gogiedd Morgannwg. I Dosbarth I. B. Arholiad ysgrifen- j edig y plant dan 13 oed yn Safon IV. J a V., Mawrth 31ain, 191?. I Arholwr: Mr. D. E. Williams, I Ysgolfeistr, Brynhyfryd, Abertawe. Dy wed yr Arholwr (1) Y mae mwy- afrif y papurau yn daI1gos fod gwaith sylweddol wedi cael ei wneyd ymhob I ysgol. (2) Dylasai pob ysgol ofalu am bapur ac inc da. Yr oedd plant tair ysgol dan anfantais o herwydd gwaeledd defnyddiau ysgrifennu. (3) Y mae o'r pwys mwyaf i sicrhau gwasanaeth gwylwyr da i arolygu yr ymgeiswyr noson yr arholiad. Bu rhai yn llac y tro hwn. (4) Dengys y papurau fod rhai ym- geiswyr heb baratoi o gwbl ar gyfer v safon a gvmerasant yn yr arholiad.— D.E.W. Safon V.—Maes Llafur Enwog ion yr Hen Destament; Y Deg Gorchymyn; Llyfrau yr Hen Destament a'r Newydd. Marciau posibl, 100. Nellie Evans, Tabernacl, Ynysy- bwl, 89; Annie May James, Taber- nad, Ynysybwl, 89; Gwyn Evans, Tabernacl, Ynysybwl, 89; gwobr flaenaf. May Lloyd, Tabernacl, Ynysybwl, 84; Jeffrey David Evans, Nebo, Hir- waun, 84; ail wobr. David Evans, Tabernad, Ynysybwl, 83; Margaret H. Davies, Gellifaelog, Dowlais, 79; Helena Pritchard, Peny- wern, 77; Edith Evans, Moriah Aman, 76; Gwyneth Lewis, Moriah Aman, 75; Elizabeth Jones, Penywern, 75; Ceinwen Jones, Ynysybwl, 71; Sarah J. Jones, Nebo, Hirwaun, 70; Marion Davies, Gwernllwyn, 70; Hopkin James, Nebo, Hirwaun, 69; Blodwen Bushen, Moriah Aman, 69; Magdal- en M. Jones, Moriah Aman, 69; Rees Davies, Ynysybwl, 69; Annie Howells, Abernant, 68; Isaac J. Rees, Moriah Aman, 67; Clara J. Lloyd, Moriah Aman, 67; Thomas W. Griffiths, Bethel, Miscin, 67; Lydia A. Chappell, Penywern, 66; Bronwen Morgan, Penywern, 65; Edmund Davies, Ebenezer, Aberdar, 65; Tydfil How- ells, Penywern, 65; Alice Taylor, Penywern, 64; Mattie Phillips, Moriah Aman, 64; Llewelyn Morgan, Moriah Aman, 63; Katie Williams, Nebo, Hirwaun, 63; Stephen Henry Evans, Moriah Aman, 62; Hannah M. Wat- kins, Abernant, 61; Elsie Jones, Moriah Aman, 61; Tegwedd A. Harris, Moriah Aman, 60; Eddie J. Jones, Cwmbach, 60; Brynmor Jones Meredith, Moriah Aman, 60; Esther Mary Phillips, Bethania, Dowlais, 60; Willie John Rees, Bethania, Dowlais, 60; Gwladys Thomas, Penywern, 59; Maggie A. Hughes, Penywern, 59; John Haydn Jones, Bethania, Dow- lais, 59; Mary Maud Price, Gelli- faelog, Dowlais, 59; Eliza Olwen Isaac, Ynysybwl, 59; Lilian Abraham, Miscin, 59; Richard Morgan, Aber- nant, 58; Margaret Evans, Ynysybwl, 57; May Thomas, Gellifaelog, Dow- lais, 55; Doris Thomas, Gellifaelog, Dowlais, 55; Mary Olwen Jones, Gellfaelog, Dowlais, 55; Gretta Jones, Abernant, 54; Sarah J. Davies, Beth- ania, Dowlais, 53; Johnnie Morse, Moriah Aman, 53; Emrys Haydn Davies, Miscin, 53; Susie Williams, Gwernllwyn, 53; May Thomas, Eben- ezer, Aberdar, 53; Morgan Morgan, Abernant, 53; Mary Williams, Aber- nant, 52; M. A. Marshall, Cwmbach, 52; Brynmor Evans, Cwmbach, 50; May Edwards, Penywern, 49; James Peters, Abernant, 48; Sarah Powell, Gwernllwyn* 47; Jane Arn Jenkins, Gwernllwyn, 47; Thomas H. Jones, Cwmbach, 47; Tom Griffiths, Miscin, 47; May Prosser Davies, Gellifaelog, Dowlais, 45; Ethel May Davies, Aber- nant, 44; Ceridwen Thomas, Aber- nant, 43; Elizabeth Meredith, Aber- nant, 43; David Enoch Williams, Cwmbach, 42; Nellie Thomas, Aber- nant, 41; Gwladys Thomas, Miscin, 40; John Morse, Moriah Aman, 39; Nellie Lewis, Bethania, Mountain Ash, 39; Mary Williams, Cwmbach, 38; C. May Jones, Ebenezer, Aber- dar, 38; loan Jenkins, Penywern, 37; Annie May Williams, Ynysybwl, 37; Thomas Harris, Bethania, Dowlais, 36; Gwladys Powell, Abernant, 36; Agnes Thomas, Cwmbach, 35; J. Alexandra Lewis, Ebenezer, Aber- dar, 34; Maggie Howells, Abernant, 33; Lilian Evans, Bethania, Mountain Ash, .33; Kenfyn Davies, Bethania, Mountain Ash, 33; David Orville Meredith, Cwmbach, 33; Maggie Thomas, Bethania, Mountain Ash, 32; Edith Mary Evans, Bethania, Moun- tain Ash, 32; Tom Stewart Evans, Bethania, Dowlais, 26; Haydn Christopher, Bethania, Mountain Ash, 26; Clifford O. Evans, Cwmbach, 26; Bell Jones, Cwmbach, 24; Agnes Jones, Bethania, Dowlais, 23; Rich- ard W. Lewis, Bethania, Dowlais, 23; J. P. Thomas, Bethania, Dow- lais, 22; Maldwyn Davies, Bethania, Dowlais, 21; Harry Williams, Gwern- llwyn, 21; Minnie Evans, Bethania, Mountain Ash, 20. 0 dan 20 marciau William Mit- chell Lewis, Dowlais; William Ll. Owens, Bont, Dowlais; Willie Jones, Ebenezer, Aberdar; David James Thomas, Bethania, Dowlais; David John Davies, Gwernllwyn. Safon IV.-Maes y Llafur Hanes Iesu Grist o'r Gweddnewidiad i'r Esgyniad; Y Gwynfydau, a Hanes Moses. Marciau posibl, 100. Olwen Lewis, Moriah Aman, 75; gwobr flaenaf. Maggie Evans, Tabernacl, Hir- waun, 70; ail -,vobr. Annie G. Renowden, Nebo, Hir- waun, 68; Annie Mary Jones, Ynysy- bwl, 67; Rachel Price, Tabernacl, Hirwaun, 64; May Morse, Moriah Aman, 64; Eliza Ellen Morse, Moriah Aman, 63; May Lewis, Moriah Aman, 60; D. Awstin Sweet, Nebo, Hir- waun, 60; Gwilym Davies, Ynysybwl, 58; William John Thomas, Nebo, Hirwaun, 56; Edith May Thomas, Cwmbach, 55; May Thomas, Cwm- bach, 55; Maggie Morse, Moriah Aman, 55; Susannah Davies, Moriah Aman, 54; Daniel Argust, Moriah Aman, 54; Lewis R. Howells, Moriah Aman, 54; Maggie Richards, Moriah Aman, 54; Idris Evans, Moriah Aman, 53; A. Bronwen Sweet, Nebo, Hirwaun, 53; Margaret Jones, Cwm- dar, 51; Maria M. Blethyn, Ynysy- bwl, 51; Ceinwen Jones, Tabernacl, Hirwaun, 51; Elsie Thomas, Cwm- bach, 50; William Lloyd, Cwmbach, 50; T. Oswald Phillips, Cwmaman, 50; Edith A. James, Ynysybwl, 48; Haelfryn Williams, Nebo, Hirwaun, 47; Thomas Jenkins, Cwmdar, 47; Rosina Marshall, Cwmbach, 47; Vernie Lloyd, Ynysybwl, 46; Eliza J. Pickerine, Ynysybwl, 46; Edna Rosser, Cwmdar, 46; Myfanwy How- ells, Cwmaman, 44; Annie Jones, Cwmdar, 43; Richard Bryant, cwm-I dar, 43; Hilda May Jones, Cwmdar, 43; J. Garfield Davies, Cwmdar, 43; Hughie Williams, Tabernacl, Hir- waun, 42; Eliza Richards, Cwm- aman, 42; Blodwen Howells, Cwm- aman, 42; David Protheroe, Cwm- bach, 40; Bryn J. Griffiths, Bethania, Mountain Ash, 36; Lizzie Jenkins, Cwmdar, 36; Awstin Jones, Nebo, Hirwain, 30; Bertie Evans, Bethania, Mountain Ash, 28; David Gentle, Cwmbach, 27; Willie Lewis (B.), Cwm- bach, 27; Lizzie Davies, Nebo, Hir- waun, 26; Willie Lewis (A.), Cwm- bach, 25; Emlyn T. Griffiths, Bethan- ia, Mountain Ash, 20; David Thomas Davies, Nebo, Hirwaun, 18. Safon V. Nifer yr ymgeiswyr, 104; cynnydd ar 1913, 24. Safon IV. Ymgeiswyr, 52; cynnydd ar 1913* 11. O.Y.—Daw canlyniadau Dosbarth II., III., a IV. y tro nesaf. J. SULGWYN DAVIES. Ysg. Siloh, Aberdar.
,-eL-! ARGRAFFWAITH.I
-eL- ARGRAFFWAITH. AID bob math o Argraffwaitb ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a', L)»rian," 19 Cardiff Street, Aberdar
! Gofynnwch i'ch Cymdogion.…
Gofynnwch i'ch Cymdogion. i i I GALL CA.NNOEDD O BOBL ABERDAR DDWEYD WRTHYCH > i- Y CWBL AM DANO. Dylai cadarnhad gartref a mynegiad cyhoeddus pobl Aberdar fod yn dystiolaeth ddigonol i bob darllenydd o Aberdar. Yn sicr y mae profiad ffrindiau a chymdogion, pan wedi eu rhoi yn llawen, o fwy gwerth na dat- ganiadau estroniaid fo'n byw mewn lleoedd pell. Darllenwch y canlynol: Mawrth 18fed, 1913, dywedai Mrs. M. Copner, 8 Harriet Street, gerllaw'r Neuadd Gyhoeddus, Trecynon, Aber- dar :—"Er fy mod yn agos i 76 oed y mae'n dda genyf ddweyd fy mod o hyd yn mwynhau iechyd pur dda. Yr wyf, er hynny, wedi cael ymosod- iadau achlysurol o ddolur yr arennau ynghyd a chyffyrddiadau o wynegon. Yr oedd y poen yn fy nghefn mor llym fel mai prin y gallwn ar rai adeg- au droi yn y gwely. "Teimlwn yn flinedig iawn yn y boreuau, fel pe na chawswn ddim gorffwys. Yr oedd fy mhen yn boenus; yr oeddwn hefyd yn cael adegau o syfrdandod. Rhoddai'r dwfr gryn ofid i mi hefyd ar adegau. "Ond yr wyf bob amser wedi cael peleni poen cefn ac arennau Doan yn ardderchog at y dolur. Yr wyf wedi eu cymeryd yn awr ac yn y man ers blynyddoedd, ac y maent bob amser wedi gwneud i mi lawer o les trwy symud y poenau, fy llonni, a chywiro'r annrhefn dyfrol. "Rhoddaf bob amser air da i beleni Doan am eu bod yn teilyngu yr hon 'I glod ellir roddi iddynt. (Llofnodwyd) M. Copner." Ebrill 2iain, 1914—dros ddeuddeg mis yn ddiweddarach—dywedai Mrs. Copner: "Byddaf yn 77 oed y mis nesaf, ac yr wyf yn mwynhau iechyd da iawn. Cymeraf beleni Doan yn awr ac eilwaith a chaf hwynt yn llesiol iawn, ac yr wyf yn cymeradwyo'r pel- eni i eraill." Anghysur gwaethaf hen-oed yw'r gwynegon, cefn crwm, yn gwynegu, ac yn gorfod codi lawer gwaith yn ystod y nos i esmwythau'r bledren, cryndod yn yr aelodau, a'r golwg yn methu'n raddol. Y mae peleni poen cefn ac arennau Doan wedi gwneud rhyfeddodau ar hen bobl trwy gadw'r arennau mewn cyflwr iach a bywiog. Pris 2s. 9c. 'r blwch, chwe blwch, 13s ge., gan yr holl fasnachwyr neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Oxford Street, London, W. Na ofynnwch am beleni poen cefn neu beleni arennau-gofynnwch yn eglur am beleni poen cefn ac arennau Doan yr un fath ag a gafodd Mrs. Copner.
Nantymoel.
Nantymoel. Cymanfaoedd Canu. Llungwyn, Mehefin lat. cynhaliodd Bedyddwyr Glennydd yr Ogwy eu cylch- wyl gerddorol yn Saron. Daeth cyn- hulliad iluosog i roi o loi eu gwefusau i'r Hwn sy'n ymlawenhau yn moliant Israel. Cafwyd hwyl arbennig ar rai o'r tonau, a sicr yw mai da yw arfer yr oil yn y gwasanaeth oherwydd cyn- hyrcha yr amrywiaeth arddull a u nod- wedda eangder cydnabyddiaeth a theichi mynegiant. Gwrthweithia hefyd v dnedd i gvfyngu a ffynna yn ein cynulleidfaoedd heddyw. Danghos- wyd cryn feistrolaeth yn natganiad yr anthemau, Molwch yr Arglwydd (J. Tnornas, Llanwrtvd), a Pwy welaf o Edom yn dod (T. Gabriel, Bargoed). Hon oedd y drydedd waith yn olynol i Mr D. Thomas. F.T.S.C. Penybont. i arwain y cylch. Y Mercher canlynol bu cylchwyl ganu y Methodistiaid Seisnig yng nghapel eang Dinam. dan arweiniad Mr Tom Price, Merthyr. a chafwyd Cymanfa wir ragorol mewn datganiadau mynegiadol heb orwnevd eithr meddylfrjdedd bvw yn arllwys megis ffrydlif y mynydd. Caed yma ami i wers fuddiol i gymanfa- oedd Cymreig, ac un elfen arbennig yn rhagori ar hynny yma. oedd y donydd- iaeth bur. Yr oedd y datganiad o "Haleliwia Chorus" (Handel) a uBudd- ugoliaeth Calfari" (Proff. D. Evans) yn wir orchestol, a thystiolaeth pawb oedd na chawsant well cymanfa erioed ar gyfrif i symledd ac fod rhaid i'r Cymry edrych at eu llawryf. Anundebiaeth. Bu holl lofeydd y Cwm yn segur wyth- nos y Llungwvn oherwydd y pla uchod. Pa bryd y gwel v giwaid hyn mai din- ystrio eu buddiant personol wna. u hym- ddygiad annheyrngar ynghydag achosi'r colled i eraill 7r1r\TT uun.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni 1 1" mae iq Traul, Bu^tl^CurPen, llawer gwaeth. Mater 0 '?J? gellir naill ai lleddfu neu iachau Y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig 0 dra nI 0 BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 7ic„ 13^c„ a 2s. 9c., gan yr boll fferyllwyr. Rolled Gold Pince Nez Frames Fitted to your own Lenses, and guaranteed not to change color Price 8/6 Complete With Metal Case Cord Visitors to London should Cal* and have their EYESIGHT TESTED FREE OF CHARGE. Spectacles and O /C Eyeglasses from "/O complet.e Illustrated Price Lists Post Free. Dylai Ymtoeltoyr a Ltundain alb) a chael profi eu Goltog yn Ddidal. Spectol neu Wydrau Llygaid o 2/6 fyny, yn gyflawn. Anfonir rhestr o'r P'isoedd. yn egluredig yn ddidal rirwv'r llvthvrdv. C' 'll ),L-1: Send your Old Spectacles and have them fitted into a Best Quality ROLLED GOLD FRAME Price 8/6 Complete. Guaranteed not to change Color. ELEGANT IN APPEARANCE BLACK MOROCCO OPERA GLASS, with Case, 7/6. Best Quality Aluminium OPERA GLASS, 12/6. Real Pearl & Aluminium OPERA GLASS. 15/6. Useful Presents SPECIAL VALUE. ANEROID BAROMETERS, 12/6. 15/6. 1 7/6. As Illustrated. Guaranteed Accurate ANEROID BAROMETERS, Circular Pattern. 8/6. 10/6. 12/6. High Power Long Range ACHROMATIC FIELD GLASS with Sling Case, 15/6 Cheaper Quality, 12/6 The Ideal Glass for Territorials. Scouts, etc. High Power READING GLASS FOUR SIZES. 2/9, 3/9, 4/3, 4/9. Most useful for examining Maps, Photographs. etc. SPECIAL VALUE IN Folding Reading Glasses 9d. & 1/3 SPECIAL BARGAINS. Garden or Greenhouse Thermometer 1/3 Scouts Pocket Compass 9d. Eyeglass Cleaner 3d. Chatelaine Spectacle Case 1/6 Table Microscope 113 Botanists Pocket Lens 1/6 Best Quality Goods only. Care pour Sore or Weak Eges With "Diamond" Eye Ointment. POST 1/14 FREE. s,F Diamond" Skin Ointment Cures Eczema. Ulcers, and all Skin Diseases. POST 1/14 FREK. OPTICIAN TO THE LONDON TEACHERS AND TUB LONDON COUNTY COUNCIL STAFF ASSOCIATIONS. I CYRIL GARDNER, F.S.M.C., Qualified Optician, 292 HOLLOWAY ROAD, LONDON, N. CofiUlch ølbJ gma pan yn Llandain. Cash returned in full if I Goods are not to your entire satisfaction. VychWelir yr Arian yn llahin oni rydd y ntop- ddau foddlmnrWydd holial