Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Yr Iwerddon dan Arfau.
Yr Iwerddon dan Arfau. GAX EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Nid Ulster yn unig sydd i gael byddin amddiffynol yn yr Iwerddon. Erbyn hyn ceir yno fyddin genedlaethol hefyd, gyda rhyw gan mil o wyr yn perthyn iddi. Chwyddir y nifer wrth y cannoedd bob dydd, fel na fydd byddin gwirfoddolwyr Ulster ond peth bychan mewn cymhariaeth. Nid yw y Blaid Wyddelig yn y Senedd yn gyfrifol am y mudiad newydd hwn. Credai Mr John Redmond mewn symud yn dawel ac yn gyfansoddiadol. Gwrthwyneba bob ffurf ar derfysg a dinystr ar eiddo ac ar niwed i bersonau. Diau fod yr yspryd hwn wedi ennil ffafr miloedd ym Mhryden na fuasent byth yn rhoi ffordd i rialtwch a nerth anianyddol. Ond y mae y Gwyddel wedi ei argyhoeddi fod arfau Ulster yn cyfrif rhywbeth, ac mai i'r gynnau sydd yn nwylaw herwyr Ulster y gellir tadogi y mesur addawed- ig i wneud Ymreolaeth yn fwy cydnaws a meddwl y lleiafrif. Dywedir fod Cwmni Milwrol ymhoJb sir yn yr Iwerddon, ac fod brwdfrydedd mawr yn meddianu pawb a berthyn iddi. Cefn- ogir y mudiad gan rai o ddynion mwy- af parchus a chvfrifol yr Ynys Werdd* Edrychir ar y Milwrlad M. G. Moore fel y cad-Iywydd, ac ar y Proff. Mac Neill o Brifysgol Dublin, a Syr Roger Case- ment fel y prif drefnwyr. Ymdaengys fod tua thri o. bob deg o'r Gwirfoddol- wyr Cenhedlaethol wedi bod yn Myddin y Brenin, ac felly gwyddant beth yw trin arfau yn ogystal ag ymarferiadau milwrol. Dywedir wrthym yn groyw iawn gan fwyafrif gorlethol trigolion y chwaer ynys yn parhau yn selog dros gael Ymreolaeth. Am eu bod yn dawel ac yn ymgadw oddiwrth droseddau, cymer y gelynion arnynt gredu tod yr Iwerddon yn foddlon ar ei chyflwr presennol, ac nad oedd sel dros y peth yn unman. Yr unig sel a welent oedd eiddo y fintai yn Ulster yn erbyn y peth. Yr un oedd eu hymddygiad at Gymru ynglyn a Datgysylltiad. Gan nad oeddym yn tyrfu byth a hefyd, ac yn cynnal cyfarfodydd yn ddibaid, cy- merent yn ganiataol ein bod wedi ym- dawelu ac anghofio. Ca Mr Bonar Law, Syr Edward Carson, Arglwydd Londonderry, Arglwydd Lansdowne, ac ereill o'r un gwehelyth weled heddyw eu bod wedi gwneuthur rhywbeth mwy na chicio nyth cacwn, wrth gefnogi gwrth- ryfel a chymell bobl gyffredin i ddwyn arfau yn Iwerddon. Y maent wedi deffro yspryd yn y wlad nas gellir ei ddarostwng yn rhwvdd. Y syndod yw fod trigolion tair rhan o bedair o'r Iwerddon wedi bod yn dawel cyhyd. Ein gobaith yw y llwyddir yn LIundain i drefnu telerau heddwch rhwng y pleidiau ac y pasir y Mesur Seneddol nesaf gyda chydsyniad pob plaid. Os na wneir hyn, ofnwn y bydd y canlyn- iadau yqn alaeth us, ac yr agorir pennod arall o gyni a chaledu a gofid yn yr YnyBoedd Prydeinig.
Ar Lannau Tawe.
Ar Lannau Tawe. Ar ol dros dwy flynedd o oruchwyl- iaeth ar Lofeydd Graigola Moody, Clydach, ymadawodd fy nghyfaill teg a serchus, Mr Morgan Williams, a'r gymdogaeth hon i oruchwylio Glofa newydd Cwmgors. Ond ni chafodd fynd heb anrhegion o roll-top desk a revolving chair fel arwydd o deimlad- au da a gwerthfawrogiad o'i wasan- aeth. Dyn teg oedd efe rhwng meistr a gweithiwr. Cyflwynwyd iddo'r an- rhegion mawn cwrdd yn y Neuadd Gy- hoeddus, Clydach, nos Sadwrn di- weddaf. Llywyddodd y Cynghorwr Richard Thomas, Ysgrifenydd y Cwm- ni. Dygodd lliaws o siaradwyr dystiol- aeth uchel iddo fel swyddog a bonedd- wr ddiguro. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus dan nawdd Cymdeithas Llian Ysbyty Aber- tawe yn Neuadd Gyhoeddus Clydach nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd Mr W. J. Percy Player. Siaradodd Mrs. Aeron Thomas, West Cross, a Miss Hart, assistant matron, dros hawliau'r achos. Penderfynwyd gwneud apel at pobl Clydach am gym- horth i'r gymdeithas. Blin gennyf gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth dwy hen chwaer o Glydach, sef Mrs. Boundy, Waverley Street, priod i Mr William Boundy, un o ddiaconiaid Calfaria, a Miss Mary Charles, o Salem Terrace. Yr oedd y ddwy yn bur adnabyddus yn y lie. Claddwyd hwy ym Mynwenfc Bethania prynhawn ddydd Iau diweddaf. Dydd o wledd a mwynhad i blant yr Ysgolion. Sul oedd Llungwyn yng Nghlydach. Yr oedd y tywydd yn hynod o ffafriol, a daeth y plant allan yn eu gogoniant. Cymerodd Ysgolion Sul Calfaria, Hebron, Sant Mari, Sant loan, Carmel, Salem Fardre, a Bethel ran yn yr orymdaith at breswyl Mr Player yn y Cwar. Ddiwedd yr wythnos bu farw Mrs. Williams, priod y brawd hyfwyn Mr. William Williams, ger Bethania, Clyd- ach. Cydymdeimlwn o galon a'r hen frawd a'r teulu yn eu trallod. Cawsai hi y fraint o godi i bwlpud ei henwad un o'r pregethwyr mwyaf swynol, sef y Parch. J. W. Williams, Caergybi, gynt o'r Tabernacl, Maesteg. Cleddir hi dydd Iau ym Mynwent Bethania. LLEW. I
I O'r Wlad.
I O'r Wlad. I GAN CARREG BICA. Bu'r Cymry yn hir iawn yn codi cof- golofnau i arwyr ei gorffennol. Yr ydym byth a beunydd yn son am yr ym- drech fawr i godi o'r cymoedd i ben y bryniau, ac eto heb osod namyn ychydig iawn o feini i goffau y sawl a fu tan yr iau, a'u cadw o hyd o flaen llygaid Cymru ifanc. Cof gennyf, dro yn ol, ddarllen can fach o waith un o'r pryd- yddion ieuainc, can ar arwyr ein cen- edl, a dyma fel y dechreuai: Chwiliais ym Mynwentydd Cymru Am golofnau'r dewrion fu, Ond ni welswn namyn Atco'n Wylo'n chwerw yn ei ddu; Gwaedai'i galon drom yn ffrydlif Dros anobaith gwelw'i wedd; Cofiais innau'r siom pan welais Garreg ddinod Cefn y Bedd. Ac ebe ef yn nes ymlaen: Crwydrais eilwaith i'r pentrefi, Ond mor ofer f'arfaeth ffol, Nid oedd yno faen i'm coffa Am y brwydro oesau'n ôl; Gwag oedd bob petryal glanwedd, Creulon fud y neges fawr Collais innau ddeigr wrth gofio Coiled plant y newydd wawr. Eithr weithian, goreu'r modd, mae pethau'n dechreu newid, a ninnau'n fwy boddlon na chynt i aberthu ychydig er codi cofgolofnau cymwys i arwyr y dyddiau a fu. Yr wythnos o'r blaen buwyd yn dadorchuddio cofgolofn hardd yn y Neuaddlwyd, Ceredigion. Daeth Neuaddlwyd i sylw ynghyntaf trwy Athrofa Dr. Phillips, athrofa a sefyd- lwyd tua chanol y ddeunawfed ganrif, ac megis ag yr oedd yr arfer yn yr hen amser defnyddiwyd yr ysgoldy hefyd fel lie i addoli. Gerllaw, ym mhlwyf Ciliau Aeron, yr oedd egiwys gref o Anghydffurfwyr tan ofal yr enwog Philip Pugh, a thua'r flwyddyn 1760 ymffurfiodd cynulleidfa Ysgol Neuadd- lwyd yn rhan o'r eglwys honno, er mwyn cael manteisio ar weinidogaeth Philip Pugh. Ond daeth cyfnewid dros y bobl yng Nghiliau cyn marw eu gweinidog, a chan fod llawer o aelod- au'r eglwys yn drwm tan ddylanwad Armin, aeth y rhelyw allan i ymuno a'r chwaer eglwys yn y Neuaddlwyd. Am hir amser bu'r Parch. David Davies, Mynyddbach, Abertawe, yn gweinidog- aethu yn Neuaddlwyd, ac ar ei ol ef daeth Thomas Phillips, o Bencader, yno, efe yn athro a phregethwr gallu- og iawn, ac yn tynnu pobl o bell i'w wrando bob Sul. Dywedir fod nifer fawr o aelodau Thomas Phillips, ugain neu ragor, wedi ymgysegru i'r weinid- ogaeth tan ei ddylanwad ef, ac y mae hynny yn ddigwyddiad hynod iawn yn hanes eglwys yr Anghydffurfwyr yng Nghymru. Eithr y mae Neuaddlwyd yn enwog, yn bennaf am y ffaith mai oddiyno y cychwynnodd y ddau gen- hadwr cyntaf i Fadagascar bell, sef oedd rheinny, Dafydd Jones a Thomas Bevan. Fe'u hordeiniwyd i'w gwaith yn 1817, ac ni bu erioed fwy brwdfryd- edd nag yn y cyfarfod bythgofiadwy hwnnw yn Neuaddlwyd. Priododd y ddau ferched o'r ardal ac yn fuan wedyn aeth y pedwar ar eu taith, gan gyr- raedd Mauritus yn Ebrill,. 1818. Gadawyd y ddwy wraig ym Mauritus, ac aeth y ddau genhadwr yn eu blaen i Fadagascar. lie y croesawyd hwy yn galonnog gan y brenin a'i bo.bI. Yna dychwelasant i gyrchu eu gwragedd, ond cyn cyrraedd ohonynt bu farw Mrs. Jones a'i phlentyn bach, ac yn lonawr y flwyddyn ganlynol bu farw drachefn Thomas Bevan a'i briod. Bu Dafydd Jones am hir amser yn gweithio wrtho ei hun, ond oherwydd rhyw rwystrau swyddogol bu raid iddo yntau adael yr ynys fawr a chwilio lloches ym Maur- itus, lie y bu farw ym Mai, 1841. Bu farw Dr. Phillips yn Rhagfyr, 1842, ac efe yn 71 mlwydd oed a'i dilynwyd gan y Parch. Wm. Evans a fu'n ei helpu yn ei henaint. Bu'r Parch. Wm. Evans yn gwasanaethu tan 1896, a chafodd y Parch. Gwilym Evans, Aberaeron, yn olynydd iddo. Ac i'r rhain, sef enwogion Neuadd- lwyd, y dadorchuddiwyd y gof-golofn yr wythnos o'r blaen. Caed anerchiad llawn iawn gan yr Athro Syr Edward Anwyl ac eraill, ac yr oedd tyrfa fawr wedi dod ynghyd i ddango5 eu cydym- deimlad a'r gwaith. Y mae'r garreg goffa yn hardd iawn, o ithfaen coch a du, ac yn 15 troedfedd o uchter a thlws iawn yw'r cerflun o angel sydd arni yn dal torch o lawrwydd.
Cymanfa Ganu AnnibynwyrI Burry…
Cymanfa Ganu Annibynwyr I Burry Port. Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher diweddaf, yng nghapel Jerusalem. Yr oedd y rhaglen i gyd yn gyfyngedig i'r "Caniedydd Cynulleidfaol" a "Chan- iedydd yr Ysgol Sxil." Oedfa'r plant yn y boreu, a chanwyd chwech o donau, salmdon, ac anthem, "Pebyll yr Ar- glwydd" (Dr. Parry). Odfeuon i'r corau oedd yn y prynhawn a'r hwyr. Llywyddwyd yn y naill a'r llall gan y Parchn. J. Rogers a J. H. Rees. Can- wyd deuddeg o donau, dwy salmdon, dwy anthem, a chydgan yn ardderchog. Arweinydd y dydd oed Mr C. Meudwy Davies, Llanelli, gwr sydd a'i glod yn hysbys drwy'r holl wlad. Gwnaeth ei waith yn foneddigaidd ac yn feistrol- gar,. Yr oedd eneiniad ar yr holl was- anaeth.
¡ Hirwaun. I
Hirwaun. Canu'n lach i Gymru. Ddydd Mercher diweddaf ymadawodd Miss L. M. Edwards oddiyma am yr Amerig, ac wedi glanio draw bydd yn uno mewn glan briodas ag un o fech- gyn Hirwain, sef Mr Evan Hopkin, gynt o Heol Stesion. Cafodd ei anrhegu gan y Temlwyr Da a gwddf-dlws (brooch) aur, a* chan ei chydweithwyr yng ngwaith brics Mri. N. B. Allen a'u Cwmni, a phortmanteau hardd. Dy- munwn iddi fordaith hapus a diogel. I Gair y Cymod ym Methel. Y Parchn. J. M. Jones, M.A., a E. P. Jones, M.A., Caerdydd, oedd y gwa- hoddedigion yn y cyrddau pregethu eleni y Sulgwyn a'r Llun dilynol. Caf- wyd odfeuon gwresog a phregethu cryf I ac effeithiol. I Llongyfarchiad. Llongyfarchwn Mr Gwilym Richards ar ei ethol gan y glowyr i fod yn "Mini- mum Wage Agent" iddynt. Hyderwn y bydd hyn yn gaffaeliad i'r gweithwyr, oblegid Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog." Cymerwyd dau falot ynglyn a'r swydd uchod. Y cyntaf i weld a oedd y glowyr yn ffafriol i droi un o'r ddau checkweigher yn Minimum Wage and Compensation Agent and perman- ent examiner of mines. Wele'r cyfrif: Dros, 452; yn erbyn, 68; mwyafrif, 384. Cyfrif yr ail falot Richards, 432 Good- all, 115; mwyafrif, 317. Bydd Mr. Richards yn cychwyn ar ei swydd newydd a phwysig Mehefin 15ed. Cofied y glowyr na ellir disgwyl i'r agent wneud popeth, rhaid wrth gyd- weithrediad. Disgwylir iddynt hawl- io'u lleiafbris yn gyntaf, ac yna gy- flwyno'u hachos i'r agent, a thrwy hynny sicrhau iddynt eu hunain freint- iau'r ddeddf. I Cymanfa Ganu. Ddydd Mawrth diweddaf cynhaliwyd Cymanfa Ganu Annibynwyr Hirwaun a'r cyleh yn y Nebo a'r Tabernacl. Ar- weinydd y dydd oedd Mr W. J. Evans, y cerddor adnabyddus o Aberdar. 'Roedd y canu ar hyd y dydd yn hwylus, ac o safon uchel. Llywydd y bore oedd Mr. Ll. Edwards. Cafwyd hwyl neill- tuol ar y tonau, Y Cyfaill Gore," Y BeibI fyddo'n ben," a'r anthem, Ym mlaen chwi filwyr." Llywyddion y prynhawn a'r hwyr oedd y Parchn. R. Derfel Roberts ac E. Wern Williams. Y mwyaf effeithiol o'r tonau oedd "Maes- gwyn," "Caerdaf," St. George," ac "Idal." Cafwyd canu ardderchog ar y chorus, "All Men," a'r anthemau. Cyfeiliwyd yn ystod y dydd gan Miss M. Davies, L.L.C.M., Miss A. Jones, Miss R. A. Davies, L.C. V .M., Miss M. E. Davies, Mr T. Richards, L.L.C.M., a Mr W. T. Jones, L.L.C.M. Y mae clod yn ddyledus hefyd i'r arweinyddion lleol ac i'r pwyllgor am eu llafur diflino o barthed i'r Gymanfa.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. Dydd Llun diweddaf cafodd holl blant yr Onllwyn wyl de yn rhad gan Mr. Bevan, Castellnedd. Diolch i Mr. Bevan am ei garedigrwydd. Daeth amryw ganoedd o bobl o bob parth i GoeUaren dydd Llun i'r wyl de flynyddol, a bu pawb ar eu goreu. Dydd Mawrth cynhaliodd Annibyn- wyr yr Onllwyneu Cymanfa flynyddol. Yr arweinydd oedd Mr D. R. Davies, G. & L., Bethania, Mountain Ash. Cyf- eilwyr, Mri. Thomas Lewis, D. Hughes, W. T. Hughes, Mrs. D. Thomas a Mas- ter W. J. Jones. Llywyddwyd cyfarfod y bore gan Mr Samuel Lewis, a chyfar- fod y prynhawn gan Mr Llewelyn Rich- ards. Neilltuesid y prynhawn i'r plant. Canwyd Eluned, ton o eiddo Mr Thos. Lewis, Onllwyn. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan y Parch. A. D. Thomas. Cafwyd cymanfa dda iawn. Gweith- iodd Mr Davies, yr arweinydd, yn galed Dydd Sul cyn y gymanfa, oherwydd ych- ydig o baratoi oedd wedi bod ar y tonau. GLAN PYRDDIN. I
.Nodion o Frynaman.-I
Nodion o Frynaman. I GAN WALCH HYDREF. I Dydd Sadwrn, Mai 30, yn Mhontar- dawe, unwyd yn wr ac yn wraig Mr Rd. John Powney, Glyn Road, a Miss Rosie Jones, Banwen, merch Mr John Jones, Banwen. Nos Sul, Mai 31, cynhaliwyd cyngerdd yn y Neuadd Gyhoeddus o dan nawdd y Brynaman Public Band, o dan arwein- iad Mr H. Ackroyd. Nos Sul, Mai 31, yn Hermon, cynhal- iodd plant yr Ysgol Sul gwrdd pen chwarter. Aeth y plant trwy eu gwaith yn odidog. Galarus yw teulu Mr a Mrs. Caleb Jones ar ol eu plentyn, a fu farw yn flwydd a phedwar mis mewn canlyniad i'w niweidio gan ddwfr poeth nos Wener.
[No title]
Llongyfarchwn y Parch. J. Morgan, Bryn Seion, Aberdar, ar ei ddewisiad gan Gymanfa Lerpwl yn Brif Ystadeg- I ydd y Cyfundeb Methodistaidd. Un o'r dyddiau diweddaf yma llwyddodd y gwr parchedig i gael mil o bunnoedd at y Drysorfa Gynorthwyol.
I | Er Cof !
| Er Cof Mr. Thomas Cunningham, Is-swyddog yng Nglofa yr Hafod. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn. megis blodeuyn y maes, felly y blodeiui efe, canys y gwynt a a drosto, ac ni bydd mwy ohono, etc. Ond trugaredd yr Arglwydd syfld o dragwyddoldeb i dragwyddold eb, etc." Y cyfuniad yna o ddau wirionedd fu y paragraff olaf ym mhennod bywyd y brawd glwys uchod. Daeth o hyd i "lwybr y eyfiawn" yn fore ar aelwyd ei dad a'i fam ym Mro Llangamarch, hen drigle bore bywyd ein John Penri anwyl. A chadwodd i ddilyn y "goleuni tragwyddol" yn ystod blynyddoedd ei wasanaeth difwlch yn Saron, Aber- aman ac ni chollodd llygad ei ffydd olwg arno yn ystod ei ddiwydrwydd yng nghapel yr Annibynwyr yn y Porth. Pyramidiau mwyaf ei garic- tor oedd tynerwch ac unplygrwydd, a gallai ennill cyfeillion yn ddiffael a gwirionedd ynddynt yn mha le bynnag y byddai, a ffieiddiai a chas cyflawn dde- fosiwn a rhagrith digywilydd. A Mai yr Slain, yn nhy ei chwaer, Mrs. D. R. Davies, Brynheulog, Aber- aman, bu farw fel y bu yn byw yn dawel, a'i fys fel y dywedai yn gystudd ar "y delyn." Gadawodd ar ei ol briod a dau o rai bychain a garai fel ei enaid ei hun, ynghyd a pherthynasau a chyfeillion yn ei clagrau i gofio yn hir hir am dano. Y dydd Iau canlynol daeth torf fawr ynghyd i'w hebrwng i gysgod cysegr- edig y Fynwent. Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Thomas, Godreaman; H. P. Jenkins, Saron, a Mr Rees, ei wein- idog yn y Porth. Dyn o eangderau Enaid ydoedd ef, Ac yn baragraffau Byw o wir y nef. Geiriau Mab y Mynydd, Dwyfol Fab y Saer, Oedd ei ddelfryd beunydd Yn ei fywyd claer. Gwnaeth ei Farmor Coffa Gyda'i air ei hun, Ac yn hir llefara Beth oedd gwerth y dyn. I c CYFAILL. I- 1
I Colofn y Gohebiaethau. I
I Colofn y Gohebiaethau. I I CADW LLYGAD AR MR. LLOYD I GEORGE. Mr. Gol.Nid oes dim a ddarllenaf gyda mwy o flas yn y "Darian" na nodiadau Peredur, yn arbennig pan fyddo'n trin materion Llafur. Nid f bob amser yr wyf yn gallu dygymod a'r hyn ddywed ar faterion gwleidydd- ol. Ofnwn weithiau ei fod yn cymeryd ei safle wleidyddol ymhlith y rhai hynny a wnaent Gymru yn Ilai na'r llei- af, a'i bechgyn goreu yn annheilwng o sylw. Ai ni ddanghosir weithiau duedd i lethu Cymru yn enw Llafur Da gennyf, er hynny, am y para- graff o eiddo Peredur ar y mater uchod, a hyderaf ei fod yn arwydd er daioni. Dywedir mai Mr. Lloyd George sydd "yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf wedi cadw bywyd yn y Blaid Rydd- frydol," ac fod ei lwyddiant yn profi fod y wlad yn addfed am fesurau o welliant cymdeithasol. Eto i gyd, er ei lwyddiant, ac er i fendith amhrisiadwy yw ei ddylanwad wedi bod yng ngwleidyddiaeth Prydain, nid ydym heb gofio ei fod yn barhaus dan orfod i frwydro a'r rhai ddylasent fod yn garedigion iddo. Mae'r Toriaid, wrth gwrs, yn sychedig am ei waed; merch- ed y bleidlais yn ceisio'i einioes, er mai efe yw cyfaill goreu eu hachos; Sosialiaid eithafol yn gynddeiriog tuag ato am ei fod yn tynnu'r gwynt o'u hwyliau, a'r hyn sydd yn fwy o syn- dod na dim-rhyw ddosbarth o weith- wyr Cymru yn ei ddiarddel! Gwran- dawa y rhai hyn ar estroniaid na wtyddant air o'u hiaith na dim am ein llenyddiaeth na'u hanes, ond y Cymro goreu fagodd y genedl yn esgymun- edig oddiar eu llwyfannau, a hynny er na chaed ynddo na gwyrni na thraw- sedd yn ei berthynas a buddiannau'r werin. Plentyn y bwthyn ydyw, yn siarad iaith y bwthyn, a'i galon yn eirias dros iawnderau'r bobl, a iawn- derau Cymru'n arbennig. Ie, cadwn ein llygaid ar Mr. Lloyd George! Dichon fod ei gyfodiad ef yn gyfle i weithwyr Cymru nas ceir ei debyg byth mwy os esgeulusir ef.—Yr eidd- och, etc., SOSIALYDD CYMREIG. I
IMoriah, Pentre. I
Moriah, Pentre. I Dydd Mercher, Mehefin 3, 1914, rhoddodd yr eglwys uchod de i'r plant gymerasent ran yn chwareugerdd y Bohemian Girl dro yn ol. Yn yr hwyr cynhaliwyd cwrdd i an- rhegu y chwaer Miss M. M. Evans, L.L.C.M. Rhoddwyd iddi musical cabinet case fel cydnabyddiaeth o'i llafur a'i ffyddondeb diflino gyda'r plant er's blynyddoedd. Anrhegwyd Mr Price, arweinydd y gan, hefyd am ei lafur yntau gyda'r canu. Cyflwynwyd iddo arwein-ffon hardd. Siaradwyd yn uchel am y rhai a anrhegwyd gan y rhai a ganlyn Mrs. Hitchings, Mr E. J. Evans, William Lewis, Tom Jones, Dd. Evans, a'r Parch.. T. liavies, Drefach. cyn-weinidog Moriah. Cafwyd unawd ar y piano gan Maggie Thomas, unawd gan Madame Nana Evans, Stanley Isaac, a Willie Evans. Llywydd y cyf- arfod oedd Ben Lewis.
Cwrdd Tysteb R. Gwyngyll Hughes.
Cwrdd Tysteb R. Gwyngyll Hughes. Nos Lun, Mai y 18fed, yn Ystafell Cyfrinfa "Seren Cymru" yng Ngwesty Llwyn Celyn, Trehopcyn, daethai torf o I foriaid ynghyd i anrhegu hen dywys- og ar ben ei bedwar ugain mlwydd. Cy- merwyd yr uwch gadair gan Mr Morgan Morgan, accountant, a'r is-gadair gan Mr Jenkin Phillips, cyfreithiwr. Dy- wedai'r Ilywydd fod Gwyngyll yn un o'r cymeriadau cryfaf, yn golofn gref yn y Jbyd Iforaidd, ac yn Gymro glan o Fon. Darllenwyd llythyrrau oddiwrth y bon- eddigion canlynol yn datgan eu parch i Wyngyll fel un a fu yn allu dyrchafol i Iforiaeth: E. Thomas, Treharris W. R. Davies, W. B. Jones, Llanelli, a D. R. Carrol, etc. Cawd anerchiad gan Mr Jenkin Phil- lips, cyfreithiwr, i'r un cyfeiriad. Can- odd Mr Emanuel benillion Cymraeg yn swynol, a dilynwyd ef gan Mr Phillips. Lewis R. Lewis a ddywedai i Gwyngylll fod yn dad i'r cyfrinfaoedd a'i fod yn llawn deilyngu'r dysteb. Cyflwynwyd yr anrhegion iddo gan Mr Evan Hopkins, Rhydfelen. Cynhwysai y rhai hyn arwyddlen ac anerchiad. Cawsai'r cyflwynydd, Mr Hughes, bob amser yn gyfarwyddwr pwyllog a doeth. Cyflwynwyd iddo hefyd ffon oreuredig gan Mr Patrick Gowan. Diolchodd Gwyngyll am y rhoddion mewn arafEh oedd yn llawn o hwyl Gymreig. Can- wyd penillion gan y cadeirydd. Siarad- wyd ymhellach gan Mr John Morgans, Trehafod, ac Edward Adams. Canodd Dewi Elli benillion o waith Ap Lewis, ac Evan Hopkins rai o waith Brynfab. Cafwyd penillion hefyd gan Ehedydd Bargoed a Gwynwawr, a chan gan Mr. Victor Thomas. Awd trwy raglen faith a chafwyd dwy awr o fwynhad. Dy- munwn i Mr Hughes brynhawn-ddydd hir i fwynhau'r anrhegion. Wele gan Gwynwawr ar gyflwyniad y dysteb Dros bedwar ugain mlynedd 'nol Ar fore lion bu son Am lencyn ieuanc ddaeth i fyw I fwthyn llwyd ym Mon; Mae'r llanc o hyd yn ngwrid y gwr Yn dal er baich ei oed, A dyna'r dewr yw Gwyngyll Hughes, Mae'n grotyn ar ei droed. Mae lliw ei wlad yn llond ei wedd, A'i galon fel y fflam, A'i serch fel gwraidd y dderwen fawr Yn dal am iaith ei fam Mae'n Ifor o'r Iforiaid sydd Na bu ei well erioed, Ac Ifor mwy fydd Gwyngyll Hughes Fel crotyn ar ei droed. Mae cariad heno yn y rhodd, Er nad ywjr rhodd yn fawr, Ond gwell yw'r gwlith sy'n dod i'r ddol Na'r gawod gi--vna.'i- Ilawr; Mae mwy mewn hatling calon bur Na miliwn Haw erioed, A cheidw'r adgof Gwyngyll Hughes Fel crotyn ar ei droed. Mae eira henaint arno'n dlws Yn gwisgo'i farf a'i ben, Ond ynddo mae dyngarwch sydd Fel Cambric lili wen; Arhoed prydferthwch hlwyddi hir Fel gwanwyn yn y coed, I gadw asbri Gwyngyll Hughes Fel crotyn ar ei droed. CYFAILL JOHN. Nodiad.—Nid oedd gennym hamdden i ail-ysgrifennu ychwaneg o adroddiad maith y Cyfaill. I wneud rhywfaint o iawn am y diffyg hwn cyhoeddwn, yn groes i'n rheol, gan Gwynwawr. Elai'r cynhyrchion barddol i gyd a thudalen o'r "Darian," ac nis gallwn fforddio gofod iddynt. Drwg gennym orfod cau Brynfab allan ymhlith y beirdd, ond dichon y bydd y lleill yn foddlonach yn ei gwmni.—Gol.]
Colofn y Beirdd. I
Colofn y Beirdd. I Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. _4- HAUL EBRILL. I Haul a'i lond o loew li,-(Iaeai- oil Fywheir drwy ei glaerni; Ar deyrnas difrod oerni Taena'i wres-tynera lii. FFARWEL AEAF. I Ffarwel Aeaf, drwy'th anafall,tot-raist Weryd i fyrddiynnau Bywiol hin a'i glesni'n glau. Dyf addurn ar dy feddau. TYR'D WANWYN. I Tyr'd Wannyn ter (lv n'th gan, Tyr d a'th gynnes email; Dy dremiad a (lyt- i-NN-yinati Oerion hyrth rhew i'n bywhau. SUL Y BLODAU. I Sul y Htodan, (tarw'r )h)oe<)d Yn ymdvi-i-it tiia'r l,iiiii, lUiai yn brudd a rhai yn Ilaii-en, Pawl, o batch am wneud eu rhan. Nl'e(ii ttenti'i, lilo(leii-(Ioj-eliaii O dan fythwyrdd yw v glyn, Hheswm a sibryda'r geiriau- A yw'r meirw'u well o hyn? AWEI, MAI. I ,%we] Alii d(ivlii(ifi'l mel-l'i- lioll fi-o, Llifa'i rhin yn dawel] Hyd hynt ei rhawd natur wel Fri dirfawr wedi oerfel. Clydach. PERLLANNOG. I HOMO DDU. Dyn hynod yn awenu,—a'i ddoniau Yn hamddenol ganu, Fe gofleidiodd Homo Ddu Y Gymraeg, a'i mawrygu. WM. BASSETT. I MI GARWN DDOD I'R WLAD. I tewn i'r nefol wlad, Fy Nhad, gad i mi ddyfod; Caf yno deimlo gwir fwynhad Mewn gwleddoedd rhad diddarfod. Ni ddaw un ch werw loes- Na chroes i'th blant sydd yna, Y rhai fu'n treulio dyddiau'u hoes Yngolwg Croes Calfaria. Fy Ngheidwad, gad i mi Dy garu Di'n wastadol; Cei gennyf foliant, parch a bri, A bery yn dragwyddol. 'Rwy'n teithio tua'r wlad- Lie na ddaw brad i'm blino; Rho fy Nhad, O'th gariad rhad, Y gwir fwynhad s.Idd yno. Dunvant. H.J. I ARTHUR WYN. Pa bryd y doi di, Arthur bach, I ddringo llethrau'r bryn? Dan ado'r goedwig, lannerch iach A'r gornant yn y glyn? Cei yno'r mwswg, glas erioed, Yn garped esmwyth tan dy droed. Wrth ddringo'r bryn, cei weled llyn 0 danat yn y pant; Pob carreg ynddo sydd mor wyn Ac ewyn glan y nant A red yn frysiog trwy y glyn, Ac heibio'n cartret, Arthur Wyn! Mae blodeu tlysion hyd ei lan, A'u sawyr sydd yn ber, Ac ynddo mae clogwyni bann A lleuad, dlos, a sêr, Mae ynddo lawer mwy na hyn, Y mae byd cyfan yn y llyn. Pa bryd y doi di, Arthur bach, I ddringo llethrau'r bryn? Dan ado'r goedwig, lannerch iach A'r gornant yn y glyn? A ddoi di heno, Arthur Wyn, I wel'd y byd sydd yn y llyn? Dolgellau. EDNANT. I HIRAETH-GAN Ar ol Mr. John Henry Jones, 68 Caerphilly Road, Senghenydd—un o ddewnon y danchwa. Mor anawdd ydyw canu, Cwynfanu hawddach yw, Tyrr swn y danchwa a'i phruddhad Yr awrhon ar fy nghlyw; 'Rwy'n methu peidio cofio'r Olygfa ar y pryd- Mae pen y Pwll a'r Fynwent fawr Yn dod i'm gwydd o hyd. Mae'r dagrau'n boddi'm geiriau, A Betha briw fy nghan; 'Rwy'n gweld angladdau ar eu taith, 'Rwy'n clywed swn y tan; 'llwy'n methu peidio wylo Cwehhell y dwfn dristad Wrth feddwl am mor brin yw parch Y glowyr yn y wlad. Yn a berth yn y danchwa Fe aeth ymdreehgar lu, Ni fu ffurfafen Cymru Wen Erioed mor drwm, mor ddu; Ac O! ymhlith y dewrion John Henry Jones a gawd; Ni aeth y fflam o'r cwm erioed A llawnach, tlvsach brawd. Cadwynodd fflam Pretoria Yn hir ei babell friw, Ond rhodd ei enaid lam o'r fHam Mewn ennyd at ei Dduw. 'Rot'dd angeu Jond y lofa, A'r Hydre' lond y coed; Tr\vy'r oil i'r nef y llamodd ef Yn wyth ar hugain oed! Aeth o Gwrdd Gweddi Seion 1'r lofa ddu l lawr, Ac aeth yn swn gweddiau'r saint l'i- tragwyddoldeb mawr; Mor hapus cwrdd ac angeu Ac emyn yn y fron, A'r dwyfol wawr yn gloewi yn Ffenestri'r llygaid lion. Ond O! mae hiraeth rhyfedd, A galar ar ei 01, Mor sydyn daeth y gaeaf dros Y dios wanwynol ddol! Tra ni yn gwel'd dyfodol I'w oes yn wyn a'r daen, Fe drefnodd Duw ddyfodol gwell Mewn bythol ddydd o'i flaen. Senghenydd trwm yr wyli, Ar fedd dy annwyl ffrind, Ffestiniog, ti fu'n siglo cryd Y car sydd wedi mynd; Fe siglodd swn y danchwa Dy greigiau talgryf di, Galaru wna dy uchelfeydd A'n glynoedd dwysion ni. John Henry Jones, y Cristion A'r athraw oedd efe, Gweddiwr a darllenwr mawr, A chyfaill gwyna'r lie. Myfyriwr dwfn a thrwyadl, Ac o gymeriad glan, Yr ieuanc wr, O! dyner fron Aberthwyd yn y tan. Fe ddaliai faner loew'r Ambulance yn y He, A chyda'r "Gwarefligol Lu"* Cawr blaenllaw oedd efe; Ond yn Senghenydd danllyd, Ar fore'r dymhestl gref, 'Roedd cyfle'r nwy a'r ddeifiol fflam Yn fwy na'i gyfle ef. Mae'i eisiau ar yr aelwyd Ar ei briodferch Ann, Mae eisiau'i waith a'i gwmni ef A'i help mewn llawer man; Ond O! nid ydyw mwyach Ond mewn dylanwad gwyn, Aeth enaid tlws i arall fyd Pan aeth efe trwy'r "Glyn." Y siriol rosyn welwodd, A'r dyner law a ffodd, Ac wrth ei fpdd yng gwanwyn oes Ein calon ninnau dodd; Ffarwel, John Henry annwyl, 'Rwyt ti uwchlaw pob clwy' Fe gawn dy gwrdd cyn hir mewn Gwlad Lie na bydd tanchwa mwy. Rescue Brigade. Senghenydd. ENID HUGHES. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan