Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNNWYS.

GWLAD A SENEDD.

[No title]

COLOFN LLAFUR.

Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. A ydyw addysg yr Ysgolion Elfennol yn dirywio Y mae lie i gredu ei fod. Y mae plant ymhellach yn ol mewn addysg nag oeddynt ugain mlynedd yn ol. Beth yw'r rheswm ( Gwelaf fod Cyngor Dosbarth Y strad- gynlais uchaf yn gweithio'n egniol, y mae yn codi tuag ugain o dai gweith- wyr ar y Coelbren. Y mae eisiau i Gyngor Dulais Uchaf ei efelychu. Clywir yn ami y dyddiau hyn, Y mae'r 'Daiian' yn well na'r un papur Cymraeg arall." (Gresyn na fai mwy o ddarllen arni.—Gol.) Nos Sul diweddaf bu'm yn gwrando y Parch. Penar Griffiths yng nghyfar- fodydd blynyddol Soar, Seven Sisters. Yr oedd y capel yn orlawn, a Penar yn ei hwyliau gore. Yr hyn oedd yn fy moddhau yn fawr oedd distawrwydd yr oedfa, pawb ar eu heithaf yn gwrando. Hefyd yr oedd y canu yn neillduol o dda. Os yw rhai o ddiaeoniaid Soar yn euog o fynychu y Cinemas, credaf. nad ant yno byth mwy- Xos Fercher diweddaf bu farw Mrs. Gwen Roberts, priod D. John Roberts, Duffryn (diweddar Onllwyn Inn), yn 30ain oed, 1.,1' enedigaeth plentyn. GLAN PYRDDIN.

I Ysgrapiau o'm Hysgrepan.

Advertising