Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

'I Cais. I

Llith y Golygydd. I

IPontardulais.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Pontardulais. Cyrddau mawr y gwahanol enwadau yw "trefn y dydd" yn y lie hwn. Achwynir gan rywrai na bai modd i'r eglwysi Ileol ganiatau rhagor o yspeid- iau rhwng y gwyliau. 0 ganol Mai i ganol Mehefin gwasanaethir yn Liban- us (M.C.) gan y Parchn. J. Roberts, M.A., Caerdydd, a P. Lloyd, Llechryd, yn Tajbernacl (B.), Parchn. D. James, Treforris, a W. R. Watkins, M.A., Llanelli; yn Sardis (B.), Parch. D. C. Jones, Penygraig; yn Capel Newydd (A.), gan Pedrog, ac yn Ty Newydd (A.) gan y Parchn. Seiriol Williams, Pontardawe, a D. M. Davies, Waunar- lwydd. Parha'r tyrfaoedd i gyrchu i wrando, ac hyderwn fod ffrwyth yn deilliaw o'r ymdrechion hyn. Doniol oedd clywed rhwystro un o'r brodyr da uchod gan lais o'r sedd fawr yn ystod y bregeth. Parodd hyn gyffro ar y pryd, a siarad yn y gweithfeydd tranoeth. Ond yn ffodus ni thorrwyd un asgwrn, ac efallai y gwna les o bob tu, ar yr amod na cheir peth o'r fath yn y dyfodol. Y mae y Parch. E. Richards, curad, Hendy, wedi ei 13eirodi i Ficcriaeth Troedyraur. Brawd tawel, wedi trig- iannu yn y lie hwn bymtheng mlynedd yw Mr Richards, ac eiddunir ei lwydd- iant yn y dyfodol. "Deg niwrnod yng ngharchar" oedd testyn darlith y Parch. D. Hughes nos Sadwrn diweddaf. Teneu oedd y cynulliad, ond deallwn fod y tocynnau wedi gwerthu yn dda, ac elai yr elw i gynorthwyo J. Thomas, Tynybone, yr hwn sydd wael ei iechyd er's blwyddyn. Yr wythnos ddiweddafc gwelwyd y gerbydres (Fishguard Express) yn myned am y waith gyntaf tros y llinell newydd rhwng yma a Llansamlet. Mawr oedd y syllu gan drigolion yr ardal. Heddyw (Sadwrn) dechreuodd y traffic lleol, a hynny fel y deallwn ar gais Bwyllgor yr Eisteddfod fawreddog a gynhelir ym Mhontlliw. Caffaeliad svlweddol yw'r manteision hyn.

Nodion o Aberafan a'r ICylch..