Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. j DAN OLYGIAETH DYFNALLT. I Arddangosfalr Deffroad Cymreig yn y Barri, Mehefin 5—20, 1914. Credwn fel Dyfnallt yn ei lith di- ddorol ar gwestiwn y Gymraeg pe bu- asai'r yspryd sy'n ffynnu heddyw wedi ei eni gyda'r deffroad addysgol, buasai achos y Gymraeg yn llawer mwy dis- glair nag ydyw. Rhaid manteisio ar y deffroad new- ydd, dweyd llai a gwneud mwy. Am- can arbennig yr anturiaeth hon o gyn- nal arddangosfa gan garwyr Addysg Gymreig yn y Barri yw hyrwyddo'r iaith a diwallu i raddau helaeth iawn awydd ein pobl ieuainc i wybod beth a wneir yn ein hysgolion a'n colegau ynglyn a chyfrannu addysg Gymreig i'r plant a'r myfyrwyr. Gwaith mawr a phwysig iawn yw ym- wneud a gotchwyl o'r natur, ond os cyrhaedda'r arddanghosfa ei hamcan, o ddyrchafu yr ochr Gymreig o addysg y plant, yna nid yn ofer y treuliasom ein nerth. Rhennir yr adran a berthyn i addysg yn dair rhan,—y gorffennol, y presen- nol, a'r dyfodol. 'Doe 's eitsieu manylu dim ar drysorau diddorol y gorffennol i'r llenor a'r hynafiaethydd. Dang- hosir gwaith plant yr ysgolion elfennol &'r Ysgol Sir mewn celf. hanes, daear- yddiaeth, cyfansoddiad, etc., a'r gwaith wneir yn yr Ysgolion Haf /B. r Colegau ag sydd ynddo duedd i godi'r Gym- raeg i'w safle briodol. Daw dau fach- gen o Sir Aberteifi i ddangos y modd goreu i rwymo llyfrau, rtiai o Gaerdydd i ddangos y modd i wneud basgedi, etc. Disgwylir dau Gor Buddugol-Côr Bechgyn Romilly Road sydd ar eu ffordd adref o'r Amerig, a Chor Ysgol Bechgyn Gladstone Road-i ganu yno. Ceir cystadleuaethau mewn canu pen- hillion a darlithiau gan bobl hyddysg yn ystod yr wythnos. Gobeithiwn weled llawer ardal yn defnyddio'r fegin i chwythu'r tân, ac yn y man cawn sylweddoli teimlad un bonheddwr gwlatgar yng Nghaerdydd y Sadwrn diweddaf pan yn teithio mewn car trydanol o'r orsaf drwy'r ddinas: Dyma wledd yw bod yma gyda chi!" meddai. Llond car o bobl ieuainc a phob un yn siarad yr hen iaith mor groew a naturiol." Deg iaith na bu dy goethach-iaith aelwyd Y bwth y'm ganwyd, bu, iaith amgen- nachl" (Sarnicol). Y Barri. MAIR ELLI.

I Cwrdd y Mwg Gwyn yn I Llansamlet

[No title]

I Nodion o Abertawe. I

Aberteifi a'r Cylch.

[No title]

Advertising

Cyfarfod Cyngor PlwyfI Dulais…

——I IBriwsion o Aberpennar…

[No title]

Advertising